publishers and printers from wales books on welsh and celtic history language politics culture music and cookery cyhoeddwyr ag argraffwyr llyfrau cymraeg a celtaidd meleri wyn james cafodd meleri ei geni yng nghaerfyrddin ar yr fed o fehefin ac fe'i magwyd yn llandeilo ac yna ym mhentre' beulah ger castell newydd emlyn symudodd gyda'i theulu i aber porth lle mynychodd ysgol uwchradd leol yn aberteifi aeth ymlaen i astudio cymraeg ym mhrifysgol cymru aberystwyth yn enillodd y fedal lenyddiaeth yn eisteddfod yr urdd ac fel rhan o'i gwobr cafodd y cyfle i gyhoeddi ei chyfrol gyntaf o straeon byrion tair ar ddeg o straeon byrion o dan y teitl mwydyn yn yr afal yn cyhoeddwyd stripio cyfrol o straeon byrion gan y lolfa ar ôl iddi dderbyn beirniadaeth dda yn eisteddfod genedlaethol llanelwedd mae hi hefyd wedi cael cyhoeddi straeon yn golwg taliesin ac yng nghyfrol y lolfa mwys a macâbr mae hi bellach yn byw yng nghaerfyrddin gyda'i gwr chris ac yn dal i ysgrifennu yn ei amser hamdden ar hyn o bryd mae hi'n gweithio yn amser llawn fel ymchwilydd i radio cymru yn abertawe cyn hynny roedd yn is olygydd celfyddydau gyda'r cylchgrawn golwg a chyn hynny yn is olygydd cylchgronau'r urdd yn bennaf gyfrifol am y cylchgrawn i ddysgwyr cymraeg oedran uwchradd mynd rwy'n disgrifio fy hun fel awdur hunanol oherwydd rwy'n ysgrifennu'r math o straeon y byddwn i'n mwynhau eu darllen fy hunan straeon tebyg i straeon yr awdur roal dahl er fod yna fyd o wahaniaeth rhwng safon gwaith y ddau ohonom y math hynny o straeon sy'n apelio ata' i straeon â thipyn o dro yn y cynffon mae'r straeon yn tueddu i fod yn eitha' tywyll o ran ei gweledigaeth ac yn ymdrin â phobol ar odrau cymdeithas dwi ddim yn meddwl amdana fy hunan fel person tywyll trist fodd bynnag er bod yna ddwy ochr i mi yn sicr gan fy mod wedi cael fy ngeni o dan arwydd yr efeilliaid gemini scrabl stori fer gan meleri wyn james fel gweddw jones roedd pobol cilgetyn ucha' yn ei nabod er nad gweddw wrth reswm oedd ei henw iawn bellach prin iawn oedd y bobol a wyddai beth oedd hwnnw dros y blynyddoedd roedd ei henw fel ei hanes wedi dod yn rhan o lên gwerin y pentre' bach ar odrau'r cwm a beth bynnag oedd y gwir erbyn hyn roedd gwennie jones wedi troi'n gweddw jones piti amdani cofiwch a hithe wedi colli ei gwr i'r rhyfel yng nghilgetyn ucha' fel mewn degau o bentrefi tebyg fe ddiffiniwyd pobol nid gan yr enw roedd eu rhieni wedi gweld yn dda i'w bedyddio wrtho ond gan eu pwrpas yng nghadwyn y gymdeithas dyna pam mai 'bil llaeth' oedd y dyn a adawai gold top ar y stepen drws ben bore er bod yna ddim byd o'i le gyda'r enw william tomos ac mae 'siw sisiwrn' oedd meistres y perm a'r steil powlen er mai siwsan morris fyddai hi fyth i'w mam doedd gan gwennie fodd bynnag ddim proffesiwn cymysgedd o lwc wael a lwc dda oedd yn cyfri' am y ffaith nad oedd hi wedi gwneud diwrnod o waith ers iddi roi'r gorau i'w job fel manajyres yn woolworths yn lwc wael oherwydd iddi roi'r gorau i'w job er mwyn priodi ac yna cholli ei gwr yn fuan wedyn a lwc dda am iddi golli anti hoff ac ariannog yn fuan ar ôl colli ei gwr fe gafodd ddigon o arian ganddi hi i allu byw'n fain hyd ar ôl cyrraedd ei phen blwydd yn saith deg un wedi hen rhoi lluch i'w henw priodasol y llond ceg seisnig foxingdale doedd hi ddim yn mrs ond doedd hi ddim chwaith yn miss nac yn fam nac yn fam gu nac yn debygol o fod yr un diolch i'r drefen digon naturiol felly oedd i bobol gul cilgetyn enwi gwennie ar ôl y peth mwya' nodedig amdani sef ei bod hi'n weddw bellach roedd hithau a phobol y pentre' yn hen gyfarwydd â'r hanes am ei phriodas fer ond trasig â raymond foxingdale y dyweddo wedi i'r ddau syrthio ben a chlustiau mewn cariad drafftio raymond i'r fyddin yn erbyn ei ewyllys priodi mewn swyddfa gofrestru yn dover y bore cyn i raymond hwylio am normandy y mis mêl wedi ei ohirio nes iddo ddychwelyd jest cyn 'dolig a'r llythyr y sen ola' mewn uniaith saesneg yn ei hysbysu bod ei gwr wedi cael ei ladd deuai ei adrodd a deigryn hyd yn oed i lygaid gwennie yn wir fe fyddai wedi bod yn syndod mawr i bobol cilgetyn ucha' ddarganfod na fu gweddw mwya' nodedig y pentre' erioed yn briod roedd hi wedi dyweddo roedd cymaint â hynny yn wir ond fe droiodd y llipryn unllygeidiog ei gefn arni ar ôl ffeindio rhyw nyrs go handi tra'n gwasanaethu gyda'r lluoedd arfog dros y dwr wedi'r ymdrech aflwyddiannus gynta' yma i gyrraedd statws briodasol roedd gwennie yn berffaith hapus i fod yn sengl oherwydd unwaith i'w hanti adael y byd hwn am y nesa' doedd dim angen priodi arni ni fyddai'n rhaid iddi hi fod yn gogydd na golchwr crysau i neb câi fynd a dod fel y mynnai heb neb i'w disgwyl 'nôl i hwylio swper ac os oedd yna het newydd neu gi tseina yn mynd â'i bryd câi wario'r howscîping i gyd mewn chwinciad a byw ar gracyrs a marjarîn nes diwedd yr wythnos a hithau o ochr bella'r cwm doedd dim galw ar gwennie i ddatgelu pob manylyn am ei hanes pan ddaeth i fyw i rif saith tyfi teras 'nôl yn wedi'r cwbwl nid bach oedd y pleser â gâi oddi wrth y teitl 'gweddw' roedd e'n deitl llawer fwy parchus na 'hen ferch' câi 'gweddw' gydymdeimlad parod ac fe awgrymai orffennol cudd pan oedd gwennie'n ferch ddigon deniadol i ddenu gwr ffaith bwysig petai arian ei hanti yn dod i ben rywbryd fel y gwnaeth a hithau'n agosu at ei phen blwydd yn saith deg dau nawr â hithau'n saith deg pump roedd gwennie wedi dyweddo am yr eilwaith i ddyn parchus y tro hwn dyn capel doedd dim sleifio i ffwrdd i loegr er mwyn priodi mewn swyddfa gofrestru ceiniog a dimau y tro hwn fe fyddai yna briodas capel llond côl o flodau a brecwast swanc yn neuadd y pentre' gyda vol au vents blas samwn a sherry wrth y drws roedd y newyddion am y briodas rhwng gweddw jones a tomos roberts yn fêl ar fysedd rhai a gwyddai gwennie fod yna fwy nag un gweddw arall yng nghorlan capel ebenezer oedd yn barod cyllell mewn llaw i'w thrywanu yn ei chefn nid y lleia' o'r rheini oedd mair pantglas neu mp fel y byddai gwennie yn ei galw yn ei chefen gan ei bod hi'n cymryd arni fod mor bwysig a gwybod beth oedd orau i bawb mair pantglas oedd hi fyth i bawb arall am ei bod yn ferch i deulu cefnog a arferai byw yn ffermdy pantglas er â hithau'n saith deg chwech ac mor grychlyd â datysen 'dolig ym mis mai roedd hi'n anodd gan gwennie gredu ei bod hi erioed wedi bod yn ferch i neb a hithau'n gapelwraig selog fyddai mair pantglas fyth wedi lleisio barn yn gyhoeddus am bwnc priodas gweddw jones gyda tomos roberts yn enwedig o gofio bod gweddw yn un o ddiaconiaid y capel ond gan 'ych bod chi'n pwyso arni er nad o'dd y mater wrth gwrs yn fusnes iddi hi o'dd dim dowt be' o'dd apêl y math o fenyw o'dd yn dal i wisgo sodle uchel a sgertie uwch ei phen glin yn 'i hoedran hi a fydde'r briodas credwch fi petai'n dod i 'ny byth yn para ond rhag ofn bod unrhyw un yn amau bod yna briodas i fod roedd gan gwennie glamp o fodrwy â charreg rhuddem di chwaeth o fawr hyd yn oed ym marn gwennie ar ei llaw chwith modrwy oedd yn dal yr haul wrth iddi ddisgleirio trwy ffenestri'r capel ar b'nawn sul ym mehefin a'i daflu'n fflachiadau o oleuni fel iâr fach yr haf o gwmpas y capel trowch eich llaw fymryn i'r dde ffeindiodd gwennie ac fe allech yn hawdd ddallu mp yn ei llygad chwith yr unig un yn rhyfedd iawn gan na chollai ddim oedd yn gweithio a'i hatal rhag darllen penillion ei hoff emynau roedd hi'n anodd rhoi ei bys ar beth yn union oedd apêl tomos roberts a bod yn hollol onest fe oedd y peth mwya' annhebygol i ddyn eich breuddwydion mwy o peter cushing na clark gable ffon gerdded o ddyn oedd tomos crymai ei ysgwyddau dros gorff main gydag ambell aelod corff cnotiog arno ond os oedd e'n fach o gorff roedd ei galon yn fawr gallai berson ddibynnu arno mewn awr wan roedd yna wastad ysgwydd barod i bwyso arni dyna pam nad oedd heb ei ffrindiau gynt ond fuodd tomos roberts erioed mor boblogaidd yn enwedig gyda gweddwon cilgetyn ucha' nes iddo golli ei wraig yn sydyn ac etifeddu swm nid fach o arian ar ei hôl fel diacones eisteddai gwennie yn y sedd fawr o ble y byddai'n syllu'n ddall dros y gynulleidfa adeg canu'r emynau dyma fyddai ei harfer bob sul ond er iddi ei weld wnaeth hi erioed sylwi ar y dyn bach yn eistedd tair rhes o'r cefn ar y dde nes ar ôl iddo golli ei wraig yn wahanol i gwennie oedd wedi ei henwi ar ôl y wên fawr a roiodd i'w thad yn fuan wedi ei geni yn anaml fyddai yna wên ar wyneb tomos roberts tueddu i droi ar i lawr yn hytrach nag i fyny a wnâi dwy gornel ei wefus trwy'r amser hyd yn oed pan oedd yn briod yn ei alar ac mae'n debyg mai dyna beth oedd roedd ei wedd yn fwy difrifol fyth roedd ei wyneb yn welw fel cwyr a'r cwyr fel petai wedi toddi'n ddwy bant i greithio'i fochau doedd gwennie ddim yn credu bod ei diddordeb yn arwydd o ddiffyg parch roedd yr angladd wedi bod a thomos wedi dychwelyd i'w sedd arferol ar ôl cyfnod o alaru roedd e'n dal i wisgo siwt dywyll ond roedd hynny ond yn deilwng ar ôl dros ddeugain mlynedd o briodas newydd gynnig 'chydig o eiriau o gydymdeimlad oedd y parchedig samuel evans ac wrth i wennie droi i ddangos ei chydymdeimlad hithau fe ddigwyddodd llygaid y ddau daro ar ei gilydd am eiliad dim ond am eiliad mae'n debyg mai geiriau oedd yn dod â'r rhan fwya' o bobol at ei gilydd rhyw helo shwmai swil yn cuddio awydd am rywbeth amgenach fe allai rhywun ddweud mai creu geiriau oedd wedi dod â tomos a gwennie ynghyd am iddyn nhw ddod i nabod ei gilydd dros lasiad o sherry a gêm o scrabl te fydden nhw'n ei yfed ar y cychwyn ond wrth iddyn nhw ddod i nabod ei gilydd doedd dim rhaid iddyn nhw gymryd arnyn nhw bod well ganddyn nhw fel cymry da losgi'r llwnc gyda dwr twym a llond bag o dyphoo na glasiad chwerw felys o sherry fel cyd aelodau yn yr un capel roedd y ddau yn lled adnabod ei gilydd ers blynyddoedd ond wrth i gwennie gasglu jymbl ar gyfer ffair sborion y capel roedd y ddau wedi dod yn ffrindiau roedd tomos yn byw yn un o'r tai teras a ymlwybrai trwy brif stryd cilgetyn ucha' cegin a bwyty yn un lolfa a chwts o dan stâr a fyny'r grisiau 'stafell molchi a dwy 'stafell wely gweddol o faint i gyd wedi eu cywasgu'n hirsgwar o dy a hwnnw'n sownd bob ochr i'w ddelw roedd hi'n naturiol ddigon i gwennie alw ar tomos wrth gasglu at y ffair fe fyddai'n galw ar y rhan fwya' o aelodau'r capel i wneud eu rhan ond roedd yn rhaid iddi gyfadde' bod meddwl am gael cip ar gynnwys wardrôb helaeth y diweddar mrs tomos roberts yn ei gwneud hi'n fwy awyddus nag arfer wrth gnocio ar ddrws rhif tri wel ms jones meddai tomos yn synn wrth agor y drws a darganfod gwennie'n llond ei chroen mewn sgert pensil binc hyd ei chluniau a dwy sach sbwriel wag yn ei llaw bore da meddai gwennie'n sionc sori'ch styrbio chi dim o gwbl meddai tomos yn dawel gan fachu ei fodiau rownd ei fresys yn ogof y ffrâm gyfyng sylwodd gwennie edrychai hyd yn oed tomos fel cawr ffair y capel w'thnos nesa' meddai gwennie drachefn gan gamu 'mlaen fel na allai tomos gau'r drws heb dorri ei thrwyn oddi ar ei hwyneb mil o bunne 'na'n targed ni 'leni gasglon ni wyth cant llynedd wrth gwrs 'newn ni'm codi c'in'og heb rwbeth i werthu dweud dim gofyn dyna steil gwennie peidiwch â rhoi'r cyfle i bobol ddweud na gym'rwn ni rwbeth hen lestri tegane bric a brac dillad o'dd 'na fynd mowr ar flowsys merched llyne' gan gyfeirio at wardrôb mrs roberts o a ni 'di ca'l gan bobol 'leni o hywyr bach am haelioni proc i'r cydwybod cristnogol wedyn dou llond bag gan mrs lewis y post well i chi ddod miwn te meddai tomos heb warafun hynny roedd sowdl gwennie eisoes ar stepen y drws yn stopio tomos rhag cau'r drws arni dim ond ar yr amod 'mod i ddim yn torri ar 'ych cino meddai gwennie'n hael gan wybod fod hynny'n annhebygol iawn â hithau'n dri o'r gloch p'nawn wrth dywyllu'r cyntedd llenwodd ei ffroenau â gwynt coffi a snwffiodd yr awyr yn uchel gym'rwch chi ddishgled gofynnodd tomos dim ond os y'ch chi'n 'neud un meddai gan gamu i'r lownj tra'ch bod chi'n casglu'r sborion diflannodd tomos i'r gegin a gadael gwennie'n crychu ei thrwyn wrth lygadu'r soffa frown flewog a'r llenni streips oren a melyn o'r gegin gallai glywed y tecyl yn pwffian fel injan stêm a llais tomos yn gweiddi 'steddwch ms jones dim ond am funud te meddai gwennie oedd eisoes wedi setlo ei hun am y p'nawn yfai'r ddau yn dawel tomos yn sipian yn ei bwysau a gwennie yn llowcio'r coffi'n gyflym er bod yr hylif yn llosgi ei thafod doedd hi ddim yn bwriadu symud o'r man nes ei bod wedi gwagio hanner wardrôb mrs roberts ac i wneud hynny byddai angen ei help hi ar mr roberts yn sydyn dadebrodd a chlapio ei dwylo'n swnllyd dros swn ei phen gliniau'n clecian wrth iddi sefyll deuparth gwaith yw 'i ddechre meddai arwein'wch chi'r ffor' mr roberts a fyddwn ni 'di llanw'r bag 'ma miwn pen dim wy'n credu bod 'da fi un neu ddou o hen gryse lan 'ma rhwle meddai yntau gan ddechrau dringo y stâr a phen gliniau mr roberts yn gwichian am y gorau ma' clamp o dy 'da chi fa'ma meddai gwennie yn hwyliog chwith ar ôl yr hen mrs roberts siwr o fod pwysleisiai gwennie'r gair hen yn ymwybodol bod y mrs gynt dipyn yn hyn na hi o'r man hwnnw roedd hi'n gobeithio tynnu'r sgwrs at hen ddillad a phetai rhywbeth yn dal ei ffansi câi'r dilledyn fynd yn syth i'w wardrôb hithau a'r arian amdano'n syth i'r apêl nid ei bwriad oedd twyllo'r capel wrth reswm wrth i mr roberts agor drysau'r wardrôb safai gwennie yn union y tu ôl iddo ond cafodd siom pan y datgelwyd y cynnwys tila dwy siwt a hanner dwsin o grysau plaen yn hongian wrth ochr pentwr o siwmperi wedi eu stacio'n deidi ar lawr y wardrôb oedd y trysor mwya' jiw chi 'di cadw'r hen gême 'ma mr roberts meddai gwennie wrth ddarllen ochr y bocsys yn gyflym ludo snakes and ladders draughts yr hen ffefrynnau so nhw ar werth meddai tomos gan estyn y bocs ar frig y pentwr ac yn 'u bocsys gwreiddiol 'fyd meddai gwennie ddylech chi fynd â rhein at fois yr antiques roadshow ma'n nhw siwr o fod gwerth ffortiwn so nhw miwn cyflwr da meddai tomos gan agor y bocs i ddatgelu bwrdd wedi ei dorri'n ddau heb y dis na'r un o'r cownteri gwreiddiol wedi meddwl fydde gan hugh scully ddim lot i' 'weud wrth honna 'di whare gormod 'nyn nhw ma' 'na' i ofn meddai tomos gwelodd gwennie y wyneb yn cwympo a chan nad oedd hi'n gwbl heb dact gofynnodd yn joli dim scrabl yw hwnna ife mr roberts soi 'di whare honna ers blynydde na finne chwaith chi'n synnu fi mr roberts ishe dou i whare yn o's e wel chi'n ffansi gêm te gofynnodd gwennie'n hy ai roi'r tecyl 'mla'n meddai tomos wedi ei fywiogi ma' wardrôb mrs roberts yn y 'stafell drws nesa' helpwch y'ch hunan fe ddaeth y gêm scrabl yn arfer wythnosol gwennie yn galw ar tomos ac yn dod â thocyn gyda hi o frechdanau samwn gyda menyn a mayonnaise yn drwch a phice bach ar y maen neu gacen ffrwythau tomos fyddai'n darparu'r sherry prin iawn fyddai'r sgwrs rhyngddyn nhw cyn eistedd lawr i chwarae ond wrth i'r blychau llythrennau araf lenwi'r bwrdd fe ddeuai sgwrs yn haws roedd y gêm fel petai'n rhoi geiriau yn eu cegau ar yr un pryd wnâi'r gêm ond pwysleisio dau mor annhebyg oedden nhw chwaraeai yntau'n bwyllog gan gymryd oes i benderfynu ar y cam nesa' roedd yn rhaid iddo gael asesu pob posibilrwydd gan gyfri'n bwyllog beth fyddai sgôr pob cais ei wefusau'n symud yn swnllyd wrth iddo gyfri'n dawel fe fyddai'n ofalus bob amser i beidio â rhoi cyfle i gwennie gyrraedd sgwâr fyddai'n dyblu neu threblu ei sgôr chwaraewraig wahanol iawn oedd gwennie ar yr wyneb cyn gynted ag yr oedd tomos wedi gosod y blychau bach yn daclus byddai hithau'n taranu ei hymdrech hithau un a dou yw tri a dou am fod 'e' yn llythyren ddwbl yw pump cyfrai gwennie'n ara' weithiau fe fyddai tomos yn ateb drosti wyth i gyd meddai gan nodi'r sgôr ac roedd hithau'n eitha' bodlon gadael iddo wneud ond chwaraewraig gyfrwys oedd gwennie wrth gwrs gallai cyn fanajyres yn woolworths gyfri'n gyflymach na chyn saer fel tomos roberts hyd yn oed saer cywrain oedd yn gallu creu bwrdd a chownteri scrabl ei hun iddyn nhw gael chwarae yn gymraeg ond gwyddai gwennie nad oedd yna ddim yn chwyddo balchder dyn yn fwy na chael dangos ei hun os oedd hi'n ymddangos fel petai'n taro'r blychau lawr ar siawns mewn gwirionedd roedd hi'n cymryd ei thro'n gyflym am fod ganddi feddwl chwim a sylweddolai bod cymryd ei thro yn syth fel hyn yn rhoi pwysau ar tomos yn ei roi mewn sefyllfa ble roedd yntau wastad ar ei hôl hi roedd ganddi hithau ddigonedd o amser i feddwl tra'i fod yntau'n cymryd ei dro ac os oedd hi'n fodlon taflu ambell sgôr dwbl i ffwrdd allech chi fentro mai er mwyn bachu sgôr trebl y tro nesa' fyddai hynny oherwydd ei fod yn ddyn mor ofalus roedd gwennie'n gwybod bod yna rywbeth ar waith pan ymddangosodd y gair 'teimlo' ar y bwrdd gyda dau bwynt yr un am 't' ac 'l' a thri am 'm' roedd deg yn sgôr parchus ond doedd e dim yn sgôr dwbl dyna beth wnaeth iddi edrych ddwywaith yn y cornel top roedd yna gyfle i roi gair ar draws yn syth trwy'r sgwâr sgôr dwbl hyd yn oed os oedd y gair yn fach byddai'n ddigon i stopio gwennie rhag ei ddefnyddio ni fyddai tomos fyth wedi colli cyfle ar ddamwain sylwodd gwennie fod ei lygaid wedi lleithio ac estynnodd ei llaw i afael yn ei law yntau a gwasgu'n dyner er mawr syndod iddi wnaeth e ddim gwingo yn ôl ei arfer pan fyddai hithau'n gafael mewn ysgwydd neu ben glin ac felly i ddyn swil fel tomos fe ddaeth gwneud camgymeriad yn ffordd o gyfathrebu ffordd o ddangos ei deimladau roedd hi'n amlwg i gwennie bod dangos teimladau i tomos yn gyfystyr â dangos gwendid cus oedd y nesa' ac roedd gwennie'n barod amdano pa fath o air yw hwnna mr roberts meddai'n chwareus gan glosio ato a phlannu cusan yn dyner ar ei wefus fydd e'm yn y geiriadur fentra' i ond wy'n fodlon whilo os chi'n mynnu cusan arall a thro hwn teimlo'i dafod yn dew yn ei cheg wel mr roberts faint o farcie roiai i chi am honna tom tom te ond wnaiff honna newid dim ar y sgôr y'ch chi dal ar 'i hôl hi o'r diwe' wy 'di dala chi ti gwennie fach wyt ti 'di dala fi unwaith roedd arfer newydd wedi ei gyflwyno fe ddeuai hwnnw yn rhan o'r rwtîn a buan iawn roedd y cusanu yn gymaint rhan o'r ddefod â'r brechdanau samwn a'r sherry a'r diffyg traul bore wedyn mo'yn oedd y gair nesa' i gwennie orfod ei wrthod mofyn yw'r gair chi'n whilo amdano sbo meddai'n siort ond jest am y'ch bod chi'n brin o bron hanner y llythrenne p'id'wch â meddwl y gwnâi dderbyn rhyw slip o air jest am 'i fod e'n 'dafodiaith' ni wyddai gwennie os oedd tom yn credu ei bod hi'n wyryf doedd y ddau erioed wedi trafod y peth wrth gwrs roedd e'n gwybod ei bod hi wedi bod yn briod ond roedd e hefyd yn gwybod nad oedd yna fis mêl a chan ei bod hi'n ddiacones hwyrach ei fod e'n cymryd yn ganiataol na fu dim byd rheitiach nag ambell gusan gwlyb rhyngddi hithau a mr foxingdale am y rheswm hwnnw roedd hi wedi cymryd arni ei bod hi'n wyryf ar eu noson gynta' neu o leia' roedd wedi gwneud yr hyn roedd hi'n ei gredu y byddai gwyryf yn ei wneud roedd yna dipyn o flynyddoedd ers iddi fod yn un ei hun roedd hi wedi darllen digon o nofelau shirley conran i wybod mai gorwedd yn llipa a wnâi gwyryf hynny a gwneud y synau iawn golygai 'synau iawn' ddim swn o gwbl ar wahân i ielp fel ci mewn poen pan fyddai'r gwr rhwng eich coesau ac un arall wedi iddo orffen fe gadwodd olwg ddifrifol ar ei hwyneb trwy gydol er mwyn rhoi'r argraff ei bod hi dipyn bach yn betrus ni wnâi'r tro o gwbl iddi ddangos ei bod hi'n mwynhau ei hun mewn gwirionedd yr unig beth a boenai gwennie oedd ei chroen tanjarîn jest islaw ei phen ôl am ei siâp doedd hi'n poeni'r un taten beth feddyliai tom roedd hi'n fenyw fawr gadarn wastad wedi bod a'r unig gyfaddawd a wnâi i golestrol fyddai cymryd llaeth semi skimmed gyda'i the doedd hi erioed wedi gwisgo corset i smwddio'r plygiadau oddi ar ei bol crwn ac roedd ei chorff bellach yn un haen o floneg ar ben y llall fel rhaeadr o gnawd doedd hi ddim yn rhesymegol felly i tom gredu y byddai'n gallu diosg yr haenau o floneg wrth dynnu ei dillad fodd bynnag roedd hi'n fenyw falch gwisgai berffiwm drud y math sy'n costio fwy am y botel grand na'r perswar y tu mewn siafiai ei choesau a'i cheseiliau â rasyr pan oedd angen a phlycio'i haeliau'n ddwy fwa uwchben ei llygaid lliwiai ei gwallt unwaith y mis yn got lwyd tywyll i guddio'r gwynnu ac roedd ganddi ei dannedd ei hun nid balchder oedd hyn cofiwch dywedai'r beibl fod glendid yn nesa' peth at dduwdod ac onid oedd duw wedi eu creu ar ei ddelw ei hun y peth lleia' y gallai person ei wneud oedd gofalu orau posib am ei greadigaeth ef roedd duw tybiai gwennie siwr o fod wrth ei fodd gyda'i rwtîn doedd hi ddim mor siwr a fyddai duw yn fodlon gyda rhai o'i harferion eraill pan fyddai hi a tom yn chwarae scrabl am arian er enghraifft a hithau'n gwisgo top scimp i dynnu sylw tom oddi ar y gêm er mwyn iddi hi gael ennill neu'r ffaith ei bod hi weithiau yn anelu clamp o winc at tom o'r sedd fawr ac yn cael pleser wedyn o'i weld druan yn cochi hyd at ei glustiau a doedd dim byd yn debycach o'i chael hi'n rholian chwerthin na theimlo ei gorff yn gwingo mewn cywilydd wrth iddi roi pinsiad i'w ben ôl wrth iddyn nhw gamu dros stepen drws y capel roedd gwennie a tomos wedi bod yn chwarae scrabl ers bron i ddwy flynedd pan osoddod tomos y blychau nesa' ar y bwrdd gan anwybyddu sgwâr trebl hawdd i'w hennill roedd e'n wên o glust i glust priodi i darllennodd gwennie ac ers pryd ma' 'na ddou 'i' mewn gair mor gyffredin â phriodi gofynnodd yn bryfoclyd pan ma' fe'n gwestiwn meddai tomos 'nei di briodi fi fe allen nhw fod wedi aros byth bythoedd i'r llythrennau cywir ddod o'r sach dyn â wyr beth fyddai tomos wedi gwneud wedyn penderfynodd gwennie felly gan nad oedd hi'n credu yn y fath beth â siawns bod yr hollalluog wedi tynnu'r blychau o'r sach roedd ef wedi penderfynu bod priodas i fod ac os oedd ef wedi penderfynu pwy oedd hi i anghytuno ond byddai'n meddwl yn aml beth fyddai wedi gwneud petai 'n' ac 'a' wedi dod o'r sach lythrennau i'w llaw hithau a lle i'w rhoi ar y sgôr trebl ac wrth gwrs petai hi ddim wedi gwario arian ei hanti hoff fel y gwnaeth