hafan archifau archifau chwilio y we llyfrau ymuno cyswllt cyfeiriad hafan archifau archifau ehebiaeth bÔn trethi'r cynulliad y mae angen system drethu sydd yn decach ac yn fwy graddedig yn ôl adroddiad y comisiwn trethi a dinasyddiaeth a sefydlwyd gan gymdeithas fabian fel rhan o'r newidiadau hynny y mae'r adroddiad hefyd yn galw am roi'r gallu i godi trethi i'r cynulliad dywed adroddiad y comisiwn fod canran uwch o incwm yr ugain y cant tlotaf mewn cymdeithas yn mynd ar drethi na chanran incwm yr ugain y cant mwyaf cyfoethog y mae'r duedd hon wedi bod ar gynnydd ar draws gwledydd prydain yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf oherwydd y cynnydd a fu mewn trethi anuniongyrchol y mae'r adroddiad yn argymell y dylai'r sawl sydd yn ennill dros £ y flwyddyn wneud mwy o gyfraniad i goffrau'r trysorlys drwy dalu cyfradd uwch o dreth ar hyn o bryd y mae'n edrych yn debyg mai fydd y gyfradd uwch honno un o'r syniadau eraill sydd yn yr adroddiad hwn yw y dylai llywodraeth tony blair sicrhau bod pobl yn gwybod i ble yn union y mae eu trethi yn mynd er mwyn gwneud hynny y mae'r adroddiad yn argymell clustnodi hyd at hanner y dreth incwm er enghraifft ar y gwasanaeth iechyd byddai hynny yn golygu yn ôl awduron yr adroddiad y buasai hi'n haws i lywodraeth tony blair gynyddu trethi ar gyfer gwasanaethu cyhoeddus ynghlwm wrth y syniadau hyn ceir argymhellion ar gyfer ehangu grymoedd y cynulliad yn y dyfodol agos drwy roi'r hawl i godi trethi yn yr un modd ag y gwna senedd yr alban eisoes byddai hyn yn rhan o'r ymdrech i ddemocrateiddio'r system drethu i'w gwneud hi'n haws penderfynu a yw'r cynulliad yn rhoi gwerth ei arian i bobl cymru yn ôl yr athro robert plant cadeirydd y comisiwn y mae dros o bobl o blaid gwario mwy ar wasanaethau cyhoeddus yn hytrach na chwtogi treth incwm ond ar yr un pryd y mae rhai'n amau bod gormod o'r arian hwn yn cael ei wastraffu dyna pam ym marn robert plant y mae angen clustnodi'r trethi'n llawer eglurach os ydyw pobl yn gwybod i ble mae eu harian yn mynd bydd hi'n haws iddynt weld nad yw eu harian yn cael ei wastraffu nid yw rhoi grymoedd trethi i'r cynulliad yn syniad newydd o gwbl wrth gwrs yr oedd y diweddar dr ioan bowen rees ymhlith nifer o aelodau grwp ymgynghori'r cynulliad cenedlaethol i argymell y dylai'r cynulliad gael yr hawl i godi trethi ond fe'i hanwybyddwyd ef a llawer un arall ar y pryd y tro hwn ni fydd y blaid lafur yn llundain mor barod i wrthod y dadleuon ger eu bron oherwydd iddynt gael eu cyflwyno gan y gymdeithas fabian sydd chysylltiadau agos iawn â'r blaid lafur owen thomas rhagfyr ymunwch â'r rhestr isod i gael hanes y cynulliad bob wythnos am ddim rhowch eich cyfeiriad e bost isod ac yna cliciwch ar y botwm 'join list' click here to join our mailing list hafan archifau archifau ehebiaeth brig