hafan archifau archifau archifau chwilio y we llyfrau ymuno cyswllt cyfeiriad hafan archifau archifau archifau ehebiaeth bÔn dim gwyliau i'r iaith tra oedd aelodau'r cynulliad ar eu gwyliau ac ambell un fel christine gwyther yn gwneud ei gorau glas i fagu cysylltiadau masnachol ar ran y diwydiant amaeth rhwng cymru a thwsgani achubodd cymdeithas yr iaith gymraeg ar y cyfle i gynnal ei phrotest gyntaf tu allan i'r cynulliad cenedlaethol yng nghaerdydd ddydd mercher diwethaf cyflwynwyd deiseb gan y gymdeithas i'r cynulliad yn galw ar i'r sefydliad hwnnw weithredu'n egnïol dros hawliau pobl ifanc yr oedd deg pwynt wedi eu nodi ar y ddeiseb fodd bynnag yr oedd rhai o'r pwyntiau dan sylw mor gyffredinol fel y buasai hi'n hawdd hyd yn oed i'r ceidwadwr rhoncaf gytuno â hwy o ran egwyddor er enghraifft yr oedd y pwynt cyntaf yn galw ar i'r cynulliad gydnabod fod y gymraeg yn uno cymru ac nid yn ei gwanhau cyfyd y pwynt hwn mae'n debyg o'r gofid fod dadleuon rod richards a gred fod presonoldeb yr iaith gymraeg yn gallu bod yn rhwystr i rai cwmnïau rhag buddsoddi yng nghymru yn ennill tir a phwy a fuasai'n dadlau gyda'r gosodiad y dylai'r drefn addysg baratoi pobl ifainc ar gyfer y dyfodol y drafferth gyda galwadau cyffredinol o'r fath yw y gall rhai gwleidyddion honni eu bod eisoes yn gweithredu'r polisïau hynny ond mae rhai o'r pwyntiau a wnaethpwyd yn fwy miniog o lawer gallai'r ymgyrch i sefydlu gwasanaeth radio cenedlaethol cymraeg arall er enghraifft gydio yn nychymyg y cyhoedd ac arwain at bwyso ar aelodau'r cynulliad i gefnogi sefydlu gwasanaeth radio cymraeg ar gyfer pobl ifainc mae'r angen am y fath wasanaeth yn tyfu'n fwyfwy amlwg wrth i radio cymro geisio rhyngu bodd ystod rhy eang o wrandawyr a llwyddo ar yr un pryd i gynddeiriogi canran go dda o blith ei gwrandawyr selocaf o ran galw am bolisi tai sy'n addas ar gyfer pobl ifainc mi ddylai syniad cymdeithas yr iaith o drethu perchnogion tai haf yn drymach dderbyn croeso twymgalon gan lawer o aelodau llafur a phlaid cymru'r cynulliad gan fod eu cynghorau mor brin o arian byddai'r fath drefniant yn sicrhau rhagor o gyllid i'r cynghorau sir hynny o leiaf dros dro ac yn caniatáu i ambell hyn ddod allan o'u twll ariannol ar y llaw arall galwodd cymdeithas yr iaith ar i'r cynulliad sefydlu cynghorau ieuenctid sy'n ymddangos yn syniad clodwiw i'r sawl sydd am weld mwy o ddylanwad i bobl ifainc ar fywyd cymru ond sut y byddai'r cynghorau hynny'n gweithio pwy a fyddai'n cael eu hethol yn aelodau o'r fath bwyllgorau onid prif ysgrifennydd y cynulliad a pha fath ar bobl ifainc a fyddai alun michael neu ei olynydd yn eu dewis beth bynnag am hynny y ddadl gwbl greiddiol yn erbyn sefydlu'r fath bwyllgor yw na fyddai'n ddim ond cwango arall sef yr hyn a fu mor wrthun i gymru yn ystod yr wythdegau ond nid oedd cyflwyno'r ddeiseb ond rhan o'r gweithgarwch gan fod holl aelodau'r cynulliad ar eu gwyliau penderfynodd cymdeithas yr iaith ymuno yn yr wyl hefyd drwy gynnal gweithgareddau yn yr eglwys norwyaidd gerllaw'r cynulliad roedd hynny yn cynnwys trafodaethau gwleidyddol a gwrando ar grwpiau fel tystion doli a zabrinski sef rhai o'r grwpiau prin hynny sy'n dal i ganu yn gymraeg ac sydd hefyd yn ein hatgoffa fod angen mawr am ehangu'r ddarpariaeth gymraeg ar gyfer pobl ifainc cyn i radio cymru eu troi'n ganoloed cyn eu pryd owen thomas tachwedd ymunwch â'r rhestr isod i gael hanes y cynulliad bob wythnos am ddim rhowch eich cyfeiriad e bost isod ac yna cliciwch ar y botwm 'join list' click here to join our mailing list hafan archifau archifau archifau ehebiaeth brig