hafan archifau archifau archifau archifau archifau newyddion chwilio y we llyfrau ymuno cyswllt cyfeiriad dim rhagor o dai dai ebe'r cynulliad ers i gyngor sir ceredigion gyflwyno ei fwriad i ganiatáu i dros o dai gael eu codi yn y sir yn ystod y deng mlynedd nesaf y mae aelodau o gymdeithas yr iaith gymraeg wedi bod yn ymgyrchu'n frwd ac yn effeithlon yn erbyn cynllun datblygu unedol y sir myn cymdeithas yr iaith nad yw cynllun datblygu unedol ceredigion yn mynd i'r afael â'r mewnlifiad a dirywiad cymreictod yn ei gadarnleoedd ac y mae bwriad y cyngor i godi dros o dai yn wyneb y ffeithiau hynny yn mynd i waethygu'r seisnigo drwy hwyluso mwy o fewnlifiad i'r fro y mae'r gymdeithas wedi ysgrifennu at owen watkin prif swyddog gweithredol cyngor ceredigion yn mynnu fod y cyngor yn gweithredu ar frys i ddiogelu a datblygu cymunedau cymraeg lleol y sir yn ei llythyr dywed angharad clwyd cadeirydd y gymdeithas yng ngheredigion y dylai'r cyngor sir baratoi'r cynlluniau hyn mewn partneriaeth â'r cyngor cymuned neu'r cyngor tref perthnasol wrth lunio strategaeth gymunedol i'r sir fel nad oes angen proses ymgynghorol hir arall dywed angharad clwyd yn wyneb y gwrthwynebiad mawr i gynllun datblygu unedol y sir dyma gyfle i'r cyngor wneud cyfraniad cadarnhaol dros sicrhau dyfodol ein cymunedau cymraeg a gweithio gyda chynghorwyr cymuned yn lle anwybyddu eu dymuniadau fel y gwnaethant yn y broses ymgynhori ar y cynllun unedol ond cyhoeddodd sue essex gweinidog dros yr amgylchedd ddydd mercher diwethaf ei bod hi am ymyrryd yng nghynllun datblygu unedol ceredigion ac y mae hi wedi gofyn i'r cyngor ailystyried nifer y tai y bwriedir ei godi yn y sir mewn datganiad a ryddhawyd yn ystod yr wythnos mynnodd y cynulliad cenedlaethol fod yn rhaid i'r cyngor sir newid ei gynlluniau cyn gynted ag y bo modd yr oedd delyth evans ac dros orllewin a chanolbarth cymru wedi ysgrifennu at sue essex i dynnu ei sylw at y nifer o dai yr oedd ceredigion yn bwriadu ei godi a'r effaith a gâi'r fath ddatblygu ar gymunedau yng ngheredigion benbaladr wrth ymateb i'r llythyr hwn dywedodd sue essex fod swyddogion cynllunio'r cynulliad cenedlaethol wedi cyfarfod â chyngor sir ceredigion ac wedi rhoi gwybod iddynt eu bod yn anfodlon ar y nifer uchel o dai a oedd yn yr arfaeth ac effaith hynny ar yr iaith gymraeg yng ngheredigion yr oedd delyth evans yn falch o'r ymateb a gafodd gan sue essex rwy'n croesawu'r ffaith fod swyddogion y cynulliad a'r gweinidog dros yr amgylchedd wedi mynnu bod y cyngor yn ailedrych ar y ffigurau hyn yn ôl cymdeithas yr iaith y mae'n amlwg fod yr holl bwysau a roddwyd ar gyngor ceredigion gan y gymdeithas ac eraill wedi dwyn ffrwyth nid oes ond gobeithio yn awr y bydd arweinydd a swyddogion y cyngor yn barotach i wrando ar y gwleidyddion yn y cynulliad cenedlaethol nag oedden nhw ar bobl eu sir eu hunain meddai un o swyddogion y gymdeithas y mae'r cynulliad cenedlaethol wedi gorfod ymyrryd unwaith eto mewn llywodraeth leol oherwydd y tro hwn i'r broses ymgynghori fethu'n ulw ac y mae cyngor sir ceredigion a elwir yn lleol yn gyngor dai lloyd evans wedi derbyn cerydd gan y gweinidog dros yr amgylchedd ond yn wyneb yr adwaith chwyrn a gafwyd yn erbyn y cynlluniau arfaethedig wrth ymgynghori â'r cyhoedd a methiant llwyr y cyngor i gymryd sylw o hynny y mae'n rhaid holi o ddifrif pa mor barod i wrando a pha mor ddemocrataidd yw'r llywodraeth leol yng ngheredigion owen thomas ebrill ymunwch â rhestr bostio 'golwg ar y cynulliad' drwy ddanfon neges brig