o gwmpas waundew llyr hughes griffiths r alun charles mae'r tudalen yn trafod gwahanol agweddau ar bêl droed sy'n digwydd bod yn y newyddion ar y pryd gan ystyried perthnasedd hyn i sefyllfa clwb pêl droed caerfyrddin neil rosser un alan waddle does dim ond un alan waddle y flwyddyn oedd y lleoliad oedd cae pêl droed y vetch roedd yn nos wener mai ac roedd abertawe newydd guro chesterfield i sicrhau pwynt am y tymor digon o bwyntiau i sicrhau dyrchafiad i'r hen ail adran ac roeddwn i ar y north bank noson fydd yn aros `da fi am byth roedd y gêm wedi cwpla ers rhyw hanner awr ond roedd y banc dal yno ac yn gwrthod symud nes i tosh a curtis a waddle ddod allan i ddathlu `da ni johnny toshack's jack and white army' a one alan waddle oedd y chants ac o'r diwedd fe ddaethon nhw mas ac fe aethon ni'n wyllt wel yn fwy gwyllt wedyn bant â ni i gerdded drwy abertawe a rhoi ofn i unrhyw fownser ar y kingsway oedd yn teimlo'n ddigon hyderus i syllu'n rhy hir ar fyddin y banc byddin digon garw oedd yn ymgynnull ar y banc y dyddiau hynny `rabl y dre' oedd `nhad yn ei galw nhw ac i ddweud y gwir doedd e byth yn rhy hapus `mod i'n hala'n sadyrnau yno roedd cymry cwm tawe yn fwy tebygol o fynd i weld castell nedd neu abertawe'n whare rygbi tîm y townies oedd y swa ns ac roedd y banc yn llawn acenion stadau cyngor townhill blaenymaes penlan a bonymaen roedd tosh yn arwr ac yn frenin i grwp o bobl nad oeddent yn rhan o chwedlau rygbi max boyce roedd llwydiant timau rygbi cymru'r saithdegau mor berthnasol i gefnogwyr y swans a llwyddiannau diweddar alex ferguson i drigolion moss side ond nawr roedd y cynnwrf am glwb bach di nod yn y gorllewein yn real ac roedden ni ar drothwy llwyddiant annisgwyl ac anhygoel roedd tacteg tosh yn un syml cyfuno profiad a dawn hen stagers lerpwl gyda dawn chwaraewyr cymreig roedd ganddo yn y garfan yn barod tm y noson honno oedd geoff crudgington wyndham evans danny bartley leighton phillips nigel stevenson john toshack brian attley robbie james alan waddle ian callaghan roedd dylanwad lerpwl yno'n barod gyda doniau'r asgellwr ian callaghan wedi rhoi sawl peniad i tosh yn y tymor hwnnw ac roedd yna fwy i ddod tommy mor galed ag algerbra smith phil boersma bob gorrmod o ginio latchford a dai gallu siarad cymraeg davies y ffaith oedd yn fwy pwysig i mi fodd bynnag am yr adeg honno yn hanes y swans oedd dim sawl hen chwaraewr o lerpwl oedd wedi rhoi cymorth i ni ac wedi rhedeg lan tabs mwyaf anhygoel yn wine bars y mwmbwls ond yn hytrach fod alan curtis robbie james a wyndham evans wedi llwyddo i gadw eu llefydd yn y tÎm cyntaf yn yr adrannau uwch mae'r sefyllfa'n wahanol iawn nawr wrth gwrs ac erbyn y bydd y darn hwn yn cael ei argraffu bydd y swans `nol yng ngwaelod y gasgen does dim clincen wedi cael ei wario ar chwaraewyr newydd a thra bod pawb yn cydnabod doniau john hollins fel hyfforddwr dyw e ddim yn perthyn i paul daniels a byddwn ni'n mynd i lawr fyddwn ni byth eto'n gweld clybiau megis abertawe watford a wimbledon yn cystadlu ar y lefel uchaf y geiniog yw diwedd y gân a'r geiniog nawr fydd diwedd y gêm diolch yn fawr y tro hwn i'r athro a'r trwbadwr neil rosser mae neil yn byw yn abergwili yn athro yn ysgol gyfun rhydywaun hirwaun ac yn drwbadwr adnabyddus yn y gymru gyfoes llyr hughes griffiths rai misoedd yn ôl mi ysgrifennais yn y golofn hon mai'r ddwy gêm yn erbyn gwlad pwyl fyddai'n cael y dylanwad mwyaf ar obeithion cymru i gyrraedd rowndiau terfynol cwpan y byd yn y dwyrain pell yn y rhesymeg y tu ôl i hynny oedd fy mod yn disgwyl i gymru golli yn erbyn norwy a'r iwcrain a churo belarws ac armenia a gan gymryd yn ganiataol y byddai pawb ond cymru'n colli pwyntiau yn annisgwyl rhywle ar hyd y daith pwyl a ni fyddai'n brwydro am yr ail safle yn y grwp rwy'n gwneud yr un camgymeriad bob dwy flynedd bob tro mae rowndiau rhagbrofol ewrop neu gwpan y byd yn dechrau mae fy mhelen grisial yn llwyddo i ddarogan ffawd cymru'n berffaith glir yna weithiau ar ôl dim ond awr a hanner o bêl droed mae'r sefyllfa'n cymhlethu ac mae'r belen grisial yn cymylu'n llwyr na doedd colli ym melarws yn sicr ddim yn rhan o'r sgript roedd y wasg yn darogan diwedd ar obeithion cymru ar ôl dim ond un gêm a minnau'n tueddu i gytuno yna mi gofiais bod cymru wedi colli oddi cartref yn erbyn rwmania yng ngêm gyntaf yr ymgyrch enwog honno a ddaeth i ben gyda chic gosb paul bodin yn felly does dim angen anobeithio eto ac ar ôl gêm gyfartal yn erbyn norwy oedd yn ganlyniad da ar bapur a phwynt ym mhwyl a oedd yn ganlyniad da ar unrhyw gyfrif mae'r darogan nawr yn symud at armenia a'r roller coaster pêl droed rhyngwladol yn mynd yn ei flaen mae'r farn gyffredin yn unfrydol dim ond buddugoliaeth fydd yn gwneud y tro yn yerevan ennill ac mi fydd fy theori am dynged cymru nôl ar waith colli ac mi fydd yn rhaid i mi â'r tîm hyfforddi edrych o'r newydd ar ddyfodol ein tîm pêl droed cenedlaethol dyw'r paratoadau ddim wedi mynd o'n plaid dim giggs dim savage dim blake a dim coleman taith awyren naw awr a dwy awr o oedi heb son am y maes ymarfer yn cael ei gymharu â chae bresych deall wedyn bod armenia wedi curo norwy ar eu tomen eu hunain ac wedi bod ar y blaen yn erbyn yr iwcrean cyn colli ac yn sydyn mae'r dasg yn aruthrol a minnau'n dechrau gwneud esgusodion yn barod mae angen o leiaf pedwar pwynt ar gymru o'r ddwy gêm nesaf medd y wasg mae colli oddi cartref i ddau o'r gwleydd llai yn anfaddeuol hwn yw'r cyfle olaf tan y cyfle olaf nesaf yn erbyn yr iwcraen wrth gwrs beth bynnag ddywed y papurau mae fy mhelen grisial yn dal i fod yn weddol glir ar hyn o bryd ennill yn erbyn armenia a cholli yn erbyn yr iwcraen ac mi fydda i'n ddigon hapus y ddau lyfr bach coch mae gen i ddau lyfr bach coch yn y ffeil pêl droed ysgolion caerfyrddin yn y tþ ac fe ges i dipyn o sioc yr wythnos ddiwethaf pan sylweddolais fy mod i wedi bod wrthi'n llenwi'r llyfrau hyn ers mlynedd mae'n arferiad gen i gofnodi enwau pob aelod o'r tîm a fu'n chwarae ym mhob gêm i gymdeithas pêl droed ysgolion caerfyrddin yna rhoi marc i bob chwaraewr allan o ddeg ynghyd â nodi'r sgôr terfynol a'r sgorwyr mae hyn i gyd yn f'atgoffa fy mod i wrthi'n trefnu ac yn cynnal pêl droed ysgolion caerfyrddin ers manylion am y gêm rhwng ieuenctid caerfyrddin gôl a bonymaen gôl yng nghwpan ieuenctod gorllewin cymru sy'n llenwi'r dudalen gyntaf ac ymhlith yr enwau mae robert brooks andrew `davey' davies simon rogers a huw robers un o'n his lywyddion presennol ond o ymlaen tîm ysgolion caerfyrddin oed cynradd fu fy ngofal hyd heddiw yn yr wythdegau cynnar roedd peter mitchel o langynnwr giles a jason thomas yn chwarae i dîm yr ysgolion chwaraewyr y flwyddyn am oedd michael davies heol henfwlch mab roy davies is lywydd arall y clwb a chris jones o ysgol y model ymhlith eraill a enillodd dlysau fel chwaraewyr y flwyddyn oedd ian jones o langyndeyrn a enillodd ei gap dan i gymru maes o law barrie carnegie justin thomas darren heath a rhys james o glynderi roedd rhys gydag un o'r chwaraewyr disgleiriaf o'i oed a welais erioed mewn gêmau pump bob ochr roedd owain thomas heol mostyn a hywel thomas llwynpïod peniel yn arbennig iawn ac fe enillodd y ddau gêmau i ni ar eu pennau eu hunain bron yn nhymor rhodri crwt jeff ac eirlys oedd yn cael marc allan o ymhob gêm ac fe enillodd yntau gapiau dros gymru hefyd yn yr un tîm roedd ei gefnder steffan phillips crwt keith ac eira gwion bowen o beniel a steven mab nigel a wendy davies y flwyddyn ganlynol roedd matthew stevens gareth james a steven jones y chwaearwr rygbi rhyngwladol yn sgorio'n uchel allan o ddeg fe allwn i fynd ymlaen ac ymlaen am gynnwys y ddau lyfr bach coch rwy'n cael pleser diddiwedd wrth edrych ar y cannoedd o enwau sydd ynddo ac yn cael boddhad mawr hefyd wrth feddwl fy mod i wedi bod yn rhan o ddatblygiad y bechgyn hyn ym myd chwaraeon bellach ers yr ad drefnu i dîm ysgolion sir gaerfyrddin mae'r bechgyn yn chwarae ac mae ashley williams dafydd davies luke parcell elliot thomas ac angelo dragonie o ysgolion y dre yn aelodau o'r tîm presennol mae mlynedd yn amser hir i drefnu teithio ymarfer dewis timau ac yn y blaen a'r cyfan yn llafur cariad llwyr ar ddiwedd y tymor hwn rwyf am roi'r gorau iddi yn y gobaith y bydd rhywun arall yn cymryd at y cyfrifoldeb o ddechrau datblygu sêr y dyfodol yng nghaerfyrddin peter hughes griffiths gyda trefor huw jones teulu'r cilie o ardal llangrannog oedd un o deuluoedd mwyaf anghyffredin cymru darllen llyfr jon meirion jones sy'n cofnodi hanes y teulu fu'r sbardun i ailagor cerddi pentalar sef cyfrol o gerddi `y cyw melyn olaf' alun oedais ar ôl darllen yr englyn yma y bêl droed ar faes teg eilun torf a'i stðr a'i chael â chic er pob taclwr i'r gôl heibio i'r gwyliwr yw penna' camp ieuanc ðr gwelais nifer o gêmau yn ystod yr wyth tymor diwethaf yn y gynghrair genedlaethol brith gof sydd gennyf erbyn hyn am lawer ohonynt er hynny mae dawn gynhenid rhai o'r chwaraewyr a lwyddodd i rwydo goliau'n gyson yn fyw iawn o hyd bu dave taylor yn arwr i gefnogwyr porthmadog maes llafur taylor oedd y cwrt cosbi ac yn arbennig y cwrt chwech wrth iddo fanteisio ar bas dreiddgar nei groesiad cywir profodd marc lloyd williams un o gyn chwaraewyr taylor ar y traeth lwyddiant hefyd yn ddiweddarach gyda bangor bu frank mottram yn bartner i marc ar ffordd farrar cafodd gynhaeaf o goliau ac enillodd bangor y bencampwriaeth dywedir bod y rhod yn troi ac mae'r selogion yn dyheu am gyfnod tebyg eto ar lwyfan yr oval cartref caernarfon rhyfeddais at allu eifion williams er nad yw sgorwyr greddfol yn amlwg trwy gydol y gêm pan ddaw'r cyfle byddant yn y man a'r lle aeth williams i'r barri a rhwydodd yn rheolaidd i dîm parc jenner cyn symud i torquay blaenwr a hawliodd y penawdau yn gyson yw kevin morrison aberystwyth y drenewydd a phorthmadog yw tri o'r clybiau sydd wedi elwa oherwydd ei ddawn i sgorio goliau heb os nac onibai morrison yw un o'r ymosodwyr gorau a welais yn penio pêl tony bird y barri mattie davies cwmbran a chris summers inter cwmbran a chaerfyrddin erbyn hyn yw tri chwaraewr arall a wnaeth argraff yn ystod y tymhorau wedi cael cip yn Ôl mae'n bwysig hefyd ein bod yn edrych ymlaen datblygodd y gynghrair genedlaethol yn aruthrol ers a gobeithio y gwelwn ffyniant eto yn y dyfodol o ganlyniad i ddoniau chwaraewyr ac ymroddiad swyddogion y clybiau trevor huw jones gyda dylan griffiths bbc radio cymru go brin bod dinas caerdydd a stadiwm y mileniwm wedi cael cymaint o sylw dros yr wythnosau diwethaf gyda'r cyhoeddiad bod rownd derfynol cwpan yr fa yn ogystal â'r cwpan worthington y gemau ail gyfle a'r darian elusennol i'w chwarae yno ar yr wyneb mae hyn yn rheswm i ddathlu mae cwpan yr fa yn un sy'n denu sylw ar draws y byd ac mae `na amcangyfrif y bydd biliwn o bobl yn ei gwylio bydd caerdydd felly ar y map ond faint o ddylanwad ac effaith fydd y gystadleuaeth yn ei chael ar y gêm yng nghymru a sut y bydd clybiau cymru yn elwa mae'n rhaid cyfaddef mai ychydig iawn o'r naill a'r llall y galla i ei weld un penwythnos mewn blwyddyn a dim ond y tafarndai a'r gwestai fydd yn llenwi eu pocedi ond mae'n rhaid cofio mai cytundeb tair blynedd sydd wedi ei arwyddo felly mae `na amser i swyddogion cymdeithas pêl droed cymru adeiladu sylfaen a pherthynas a'u cyfoedion yn lloegr fydd yn golygu nad ydi cymru yn cael ei hanwybyddu diddorol sylwi fod rhai y tu allan i gymru wedi dweud eu bod nhw yn anfodlon bod y gystadleuaeth yn mynd o wembley am y tro cynta mewn hanes ond a bod yn realistig ble arall mewn gwirionedd oedd ar gael old trafford medd rhai ond be sy'n digwydd os fydd united yn cyrraedd y rownd derfynol does neb ag ateb pendant i hyn yn syml stadiwm y mileniwm ydi'r stadiwm gorau mae yna le i dros o filoedd yno a dim ond gobeithio bydd y cae yn gwneud cyfiawnder â'r achlysur gadewch i'r ffeinal gael pob chwarae teg y cam cynta ydi hyn a phan ddaw chwarter i bump ar mai gobeithio y gallwn ni fel cymry fod yn falch o'r diwrnod a wedyn gweithio'n galetach i weld sut mae clybiau cymru ym mhob cynghrair am elwa yn y dyfodol dylan griffiths gyda gareth blainey bbc cymru mae hi'n ddrwg gen i os ydych chi wedi cael llond bol o gwisiau nadolig heb sôn am lond bol o dwrci erbyn hyn ond 'rwy' am ddechrau gyda chwestiwn beth sy'n gyffredin rhwng y barri cwmbran caerfyrddin t n s llanelli bangor ac aberystwyth y llynedd a chwmbran y barri y drenewydd caerfyrddin aberystwyth a t n s eleni yr ateb yw mai'r saith tim 'rwy' wedi'u henwi gyntaf oedd â'r gobaith gorau o ennill pencampwriaeth cynghrair cymru yr adeg yma y tymor diwethaf a'r chwe thîm sydd wedi'u henwi wedyn sydd â'r gobaith gorau o wneud hynny fel mae pethau y tymor hwn mae'r ffaith bod cymaint o dimau mor agos at ei gilydd o ran pwyntiau mor agos at frig y tabl ar hyn o bryd yn sefyllfa iach o'i chymharu â honno yn y gynghrair ychydig dymhorau yn ôl bryd hynny y cwestiwn oedd nid pa dîm wnaiff ennill y bencampwriaeth ond pryd wnaiff y barri ennill y bencampwriaeth felly ai'r tim o barc jenner sydd wedi gwaethygu neu dimau eraill sydd wedi gwella 'ie' ac 'ie' yw f''atebion i i'r cwestiynau yna er bod gan y barri record ardderchog yn ddiweddar 'dwy' i ddim yn credu bod tîm peter nicholas gystal â thîm gary barnett ac 'rwy'n eithaf sicr bod mwy o dimau da y tymor hwn nag oedd rai blynyddoedd yn ôl a finnau wedi gwylio gêmau yn y gynghrair yn rhinwedd fy swydd ymhob tymor ers ei sefydlu rhan o'r rheswm am y gwelliant hwnnw yw bod mwyfwy o chwaraewyr yn gadael clybiau yng nghynghrair nationwide ac yn ymuno â chlybiau yng nghynghrair cymru dyna wnaeth y cefnwr deryn brace ddeufis yn ôl ar ôl chwarae bron i naw deg o gêmau cynghrair i wrecsam 'roedd brace yn gwybod y byddai'n teimlo'n gartrefol yng nghaerfyrddin yng nghwmni cyn chwaraewyr proffesiynol eraill fel ryan nicholls gynt o leeds a chaerdydd a david barnhouse gynt o abertawe ond mae chwaraewyr eraill y clwb wedi gwneud argraff arno fo `yng nghaerfyrddin mae'r chwaraewyr sy' ddim wedi bod gyda chlybiau yng nghynghrair nationwide eisiau gwneud yn siðr eu bod nhw'n cael pob chwarae teg maen nhw'n gweithio ychydig yn galetach oherwydd hynny ond 'does dim rhaid i rai ohonyn nhw wneud hynny maen nhw'n ddigon da beth bynnag ' ac os ydych chi gefnogwyr caerfyrddin yn poeni nad yw'r tîm yn 'ddigon da' ar ôl colli yn y barri ac yn erbyn hwlffordd dyma air o gysur ichi yr adeg yma y tymor diwetha 'roedd y pencampwyr t n s yn bedwerydd safle caerfyrddin ar hyn o bryd gobeithio y bydd gêm heddiw gystal â'r un welais i rhwng caerfyrddin a t n s fis diwethaf mwynhewch a blwyddyn newydd dda gareth blainey cpd caerfyrddin yn senedd ewrop er fy mod i'n gweithio fel trefnydd i ddau o aelodau seneddol ewropeaidd plaid cymru dim ond unwaith y flwyddyn y byddaf i'n cael y cyfle i ymweld â brwsel ar gyfer cyfarfodydd staff fe ddaeth y cyfle hwnnw ychydig wythnosau yn ôl a thra oeddwn i yno mi gefais y cyfle i fynychu cyfarfod arbennig rhwng aelodau seneddol ewropeaidd a uefa i drafod newid y system o drosglwyddo chwaraewyr trefnwyd y cyfarfod er mwyn rhoi cyfle i gefnogwyr a swyddogion clybiau gael datgan eu gofidiau am newid y system bresennol ac er mai o ogledd lloegr y deuai y rhan fwyaf o gynrychiolwyr mi wnes i'n siðr bod clwb pêl droed caerfyrddin yn cael lle teilwng yn siambr y senedd ewropeaidd ymhlith y rhai oedd yn bresennol oedd tony kershaw llywydd ffederasiwn cenedlaethol clybiau cefnogwyr pêl droed alan hardy prif weithredwr oldham afc a peter hallett crewe alexandra a chynrychiolwyr o bron i ugain o glybiau yn cynnwys manchester united celtic lerpwl blackburn rovers barnsley a llawer mwy yn cynnwys cpd caerfyrddin wrth gwrs yn derbyn cwestiynau oedd thomas tindemanns o uefa a jamie andreu pennaeth chwaraeon y comisiwn ewropeaidd dywedodd thomas tindemanns bod ymchwil a gomisiynwyd gan uefa wedi dangos bod y system drosglwyddo bresenol yn fodd i ail ddosbarthu cyfoeth oddi mewn i'r gêm sydd wrth gwrs yn fanteisiol i'r clybiau llai yr un sicrwydd oedd ei angen ar uefa o safbwynt unrhyw system newydd oedd sefydlogrwydd mae cael cytundebau ystyrlon yn hanfodol ac awgrymwyd y gellid cyfyngu pob chwaraewr yn ewrop i un trosglwyddiad rhyngwladol y tymor yn ôl prif weithredwr clwb oldham byddai cyfyngu ar allu clybiau bach i fynnu prisiau hael am eu chwaraewyr ifanc talentog yn tanseilio eu dyfodol yn llwyr dywedodd fod incwm trosglwyddo ei glwb ef wedi talu am o golledion y clwb dros y pum mlynedd diwethaf heb hynny byddai oldham wedi hen fynd i'r wal yn ystod y trafodaethau fe ddaeth hi'n amlwg fod y diffiniad o drosglwyddiadau rhyngwladol yn annelwig iawn ac mi achubais i ar y cyfle i ofyn cwestiwn ar ran clybiau cymru beth yw diffiniad uefa a'r comisiwn ewropeaidd o drosglwyddiad rhyngwladol ai trosglwyddiad o un aelod wladwriaeth ewropeaidd i un arall e e o brydain i'r almaen neu o un gymdeithas bêl droed ryngwladol i un arall e e o gymru i loegr gellir dychmygu'r anfantais i glybiau cymru petai cyfyngiadau arnynt o safbwynt prynu chwaraewyr o loegr ac hefyd y golled ariannol o fethu mynnu pris teilwng wrth werthu chwaraewyr ifanc o gymru i glybiau yn lloegr yr alban iwerddon etc cyfaddefodd y comisiwn nad oeddynt wedi ystyried hyn a chytunwyd y byddai'n rhaid edrych ar oblygiadau hynny'n fanwl mae'r ddadl ynglþn â newid y system o drosglwyddo'n parhau felly a gyda'r dadlau yr wythnos hon am ohirio'r cyfarfod rhwng cynrychiolwyr fifa uefa a'r comisiwn ewropeaidd mae'n amlwg fod tipyn o ffordd i fynd eto cyn dod i gytundeb ar yr holl fater llyr hughes griffiths gÊm gwpan gofiadwy cefais y fraint ddydd sadwrn diwethaf o gael gohebu i'r bbc o gae baker penrhyncoch ar y gêm rhwng y bechgyn lleol a'r barri yn nrhydedd rownd cwpan cymru bu bron i mi fod yn dyst i un o'r canlyniadau mwyaf rhyfeddol o'r tymor y mae yna ryw hud arbennig mewn gêmau gwpan sy'n ein cyffroi gymaint ac yn taflu aton ni'r annisgwyl mor aml doedd neb heblaw am gefnogwyr mwyaf pybyr y penrhyn wedi rhoi unrhyw obaith o gwbl iddynt ond wnaethon nhw ddim siomi eu cefnogwyr ar y diwrnod mwyaf yn eu hanes wrth gyrraedd y cae ac wrth i'r glaw ei thywallt i lawr roedd rhywun yn cael y teimlad y byddai'r elfennau o fantais i'r tîm o gynghrair spar y canolbarth ond eto roedd yna ran ohonof yn ofni'r gwaethaf i'r tîm cartref onid oedd y barri ar rediad campus yn ddiweddar heb golli mewn pum gêm ac wedi curo penrhyn o y llynedd ar barc jenner yn yr un gystadleuaeth a does dim disgwyl i bentref bychan o geredigion guro bechgyn mawr y gynghrair genedlaethol o's e pan sgoriodd martin williams i penrhyn ar ôl munud roedd hud y gwpan ar waith unwaith eto er i'r ymwelwyr sgorio ym munud ola'r hanner cynta roedd bechgyn proffesiynnol y barri wedi eu siglo gan chwarae ysbrydoledig penrhyncoch ar y cae trwm arbedodd golwr y penrhyn derek roberts yn wych gic o'r smotyn gan moralee ym munud gynta'r ail hanner ac er i fois y de bwyso a phwyso am weddill y gêm daliodd roberts a gafodd gêm wych yn y gôl a'i gyd chwaraewyr yn gadarn er gwaetha sawl dihangfa agos wrth i'r nos gau amdanom daeth eilydd penrhyncoch paul douglas jones o drwch blewyn i ddiffodd y golau'n llwyr ar rediad y barri yn y gystadleuaeth eleni pan lwyddodd kendall y golwr i gael blaen ei fysedd i arbed yn wyrthiol ymdrech jones o ddeg llath ar hugain yn eiliadau olaf y nawdeg munud mor agos ag eto mor bell a bu gôl hockton ym munud gynta'r amser ychwanegol yn ddigon i setlo'r gêm gwpan gofiadwy yma mi fyddan nhw'n trafod y gêm yma am amser hir ym mhenryn dybiwn i ac er colli yn y diwedd bydd yr achlysur yn un y bydd y clwb yn edrych yn ôl arno gyda balchder am flynyddoedd i ddod diolch yn fawr i dilwyn jones y tro hwn dilwyn yw swyddog datblygu'r gymraeg yn y gymuned yng ngheredigion mae e hefyd yn ohebydd pêl droed rhan amser gyda radio cymru mae'n briodol fod dilwyn yn sôn am y barri a ninnau'n mynd i barc jenner ddydd sadwrn nesaf fel y dywed mae'r barri ar rediad campus ar hyn o bryd a byddant ar ben eu digon ar ôl curo llanelli ar barc stebonheath neithiwr a dringo i'r pedwerydd safle yn y gynghrair genedlaethol tri phwynt y tu ôl i'r dre gydag un gêm mewn llaw gyda'r newyddion bod sven goran eriksson wedi ei benodi yn rheolwr newydd tîm pêl droed lloegr yr wythnos hon mi fydd hi'n ddiddorol gweld sut mae cenedl falch y saeson yn dygymod â'r ffaith eu bod nhw'n gorfod troi at wlad arall am achubiaeth `dyw cael tramorwr i reoli ein timau cenedlaethol ddim yn beth newydd i ni yng nghymru gydag enwau bobby gould a graham henry yn dod i'r meddwl yn syth a hyd yn oed yn lloegr mae gðr o zimbabwe'n rheoli'r tîm criced ffrancwr yn rheoli'r tîm tenis ac almaenwr yn gyfrifol am eu timau rhwyfo ond mae pêl droed yn wahanol prif gêm y sais gyda'r tri llew ar y crys yn symbol o rywbeth llawer mwy nag un ar ddeg dyn ar gae pêl droed os oedd kevin keegan un o arwyr mwyaf poblogaidd y gêm yn lloegr yn ei chael hi gan y wasg seisnig pa obaith sydd gan eriksson druan does dim amheuaeth bod gan eriksson enw am fod yn un o hyfforddwyr mwyaf blaengar y gêm yn rheolwr ar dîm lazio yn yr eidal mae'n cael ei barchu am ei ymwybyddiaeth dactegol a'i bwyslais ar fanylion fe wnaeth ei enw gyda ifk gothenburg benfica a sampdoria cyn symud i'r eidal ac mae e wedi ei gysylltu â thimau ym mhrydain hefyd fe arwyddodd gytundeb i reoli blackburn yn cyn tynnu nôl mae e wedi mynegi diddordeb mewn rheoli manchester united ar ôl alex ferguson ac fe gafodd ei gysylltu â'r swydd yn celtic cyn penodi martin o'neill wedi ennill pum pencampwriaeth mewn tair gwlad ennill y super cup cwpan enillwyr cwpanau ewrop a chwpan uefa mae ganddo'r record sy'n awgrymu y gallai fod yn rheolwr rhyngwladol llwyddiannus mae e hefyd felly'n gyfarwydd â'r pwysau o reoli ar y lefel uchaf yn mlwydd oed efallai mai dyma fydd ei her fawr olaf cyn ymddeol ac mae e hefyd yn gallu siarad saesneg sy'n fwy nag ambell reolwr yn yr uwch gynghrair yr unig elfen o cv sven goran eriksson sy'n ei adael i lawr yw'r ffaith nad yw e'n sais mae ambell ffigwr blaenllaw yn y gêm eisioes wedi mynegi ei farn ynglþn â hynny beth felly sydd bwysicaf balchder cenedlaethol neu lwyddiant gofynnwch i'r gwyddelod ac fe ddwedan nhw wrthoch chi petai gweriniaeth yr iwerddon wedi mynnu penodi gwyddel yn lle jack charlton mae'n amheus a fydden nhw wedi mwynhau cymaint o lwyddiant yn y nawdegau yn bersonol does dim ots gen i pwy sy'n rheoli tîm cymru cyhyd â'i fod e neu hi yn llwyddiannus mi fydd gÊmau cyntaf eriksson yn gwbl allweddol iddo bydd yn dechrau ar ei waith yn llawn amser ar y cyntaf o orffennaf gyda'i gêm gyntaf i ffwrdd yn yr almaen ddau fis yn ddiweddarach yn dilyn hynny albania i ffwrdd a groeg adref i orffen gêmau'r grðp ac er bod ganddo gytundeb pum mlynedd fyddwn i ddim yn synnu y gallai cyfuniad o fethu cyrraedd y rowndiau terfynol ac atgasedd o gyfeiriad y wasg a'r cyhoedd greu sefyllfa fyddai'n ei gwneud hi'n amhosib iddo barhau yn ei swydd ymhellach na'r nadolig llyr hughes griffiths amhosib y dyddiau hyn yw dianc rhag y sylw mae gêm y bêl gron yn ei chael ar y radio a'r teledu ac i'r llwyfannau rheiny y mae meddwl dyn wedi crwydro eto'r wythnos hon dyna ichi'n gyntaf john toshack yn parhau i gynhyrfu'r dyfroedd gyda'i ddaliadau dadleuol am safon chwaraewyr rhyngwladol cymru ar waetha' perfformiadau digon teilwng y crysau cochion ym marn llawer yn gynt yn y mis un o lwyddiannau amlwg y gêmau yn erbyn norwy a gwlad pwyl oedd mark delaney un o'n cyn chwaraewyr ni yma a hynny er iddo'n anffodus fethu â chychwyn gêm i aston villa hyd yn hyn y tymor hwn chwarae teg i delaney rhoddodd gant y cant yn y ddwy gêm pryd serch hynny y gwneith rhywun ddweud wrth nic parry ar s c na fuodd mark erioed yn llafurio mewn melin wlân yng nghaerfyrddin nemor flwyddyn neu ddwy yn ôl y gwir yw mai ym melin tregwynt ger abergwaun y bu'r llanc wrthi'n gweithio testun cwyn gan ambell i wyliwr o sir benfro mae'n siðr a fyddai'n hoffi i mr parry gael ei ffeithiau'n iawn braf yw meddwl fodd bynnag fod prif ohebydd pêl droed bbc cymru ian gwyn hughes yn llygad ei le'n ddiweddar wrth ganu clodydd rheiny sydd wrth y llyw yma yng nghlwb caerfyrddin wedi ei sylwebaeth deledu fyw ar yr ornest yn erbyn wrecsam yng nghystadleuaeth y prif gwpan faw premier cup soniodd am y drefnyddiaeth dda a'r ymdeimlad gref o berthyn sy'n amlwg i bob ymwelydd â pharc waundew mae diddordeb y dre yn y gystadleuaeth wrth gwrs yn parhau wedi i gôl ryan nicholls o'r smotyn drechu clwb bangor yma ddydd sadwrn diwethaf i gwblhau'n gwibdaith fer ar hyd a lled y byd darlledu siawns fod sawl un ohonom wedi mwynhau sylwadau craff ein parchus reolwr tomi morgan ar radio cymru yn ystod y gêm gyffrous yng ngwlad pwyl ddeng niwrnod yn ôl dobrze tomasz ardderchog ym mamiaith y pab oedd y farn gyffredinol ymhlith y darlledwyr brodorol yn warsaw a oedd hefyd mae'n debyg yn hynod falch eu bod yn rhannu blwch y wasg gyda sgoriwr un o goliau'r mis eleni ar ein sianel deledu genedlaethol radio armenia amdani nesaf ym mis mawrth tomi gair o gydymdeimlad cyn cloi heddiw i'n bechgyn ni wedi eu perfformiad dygn yn erbyn y drenewydd nos fawrth gwynt a glaw ym mhowys a cholli gêm gyffrous ar waetha' gôl gysur richard parker codwch yr ysbryd bois anghofiwch y canlyniad hwnnw ac ymlaen bo'r nôd heddiw yn erbyn ein hymwelwyr o'r brifddinas martin hopwood fues i erioed yno wel yn y cnawd beth bynnag ond fe fues i yno gannoedd o weithiau yn fy mreuddwydion roedd brolio mawr adeg codi'r lle hwn ei fod yn fwy na'r coliseum yn rhufain a bod y waliau'n fwy na waliau jericho ac fe gyfeiriodd pele ato fel `prifddinas pêl droed' ie stadiwm wembley cofiwch nid ar gyfer pêl droed y cafodd ei godi'n wreiddiol ond i gynnal arddangosfa'r ymerodraeth brydeinig a drefnwyd gan lywodraeth y brenin sior v beth bynnag am hynny fe'i codwyd mewn pryd i gynnal gêm derfynol cwpan y gymdeithas bêl droed ym rhwng bolton wanderers a west ham united mewn diwrnod ar gost o £ yn swyddogol roedd y dyrfa'n ond roedd o leiaf yn y stadiwm daeth yr arddangosfa yn y flwyddyn ganlynol ond yn debyg i dôm y mileniwm bu tipyn o lanast yn hanes wembley wedyn fe'i gwerthwyd i'r entrepreneur arthur j elvin am bris isel £ gwerthodd hwnnw'r lle mewn munud o amser am £ a buddsoddi'r elw mewn cyfranddaliadau yng nghwmni stadiwm wembley a rasio milgwn daeth yn gartref i gwpan y gymdeithas bêl droed ac ym chwaraewyd gêm derfynol cwpan rygbi'r gynghrair yno am y tro cyntaf wel dyna ddigon o hanes yn ôl at y breuddwydion a'r cyffro tybed beth sy'n aros yn y cof i chi am wembley gêm derfynol matthews ym efallai gydag munud i fynd roedd blackpool tîm stanley matthews yn colli i bolton wanderers ond y dewin yn gweddnewid y gêm i sicrhau buddugoliaeth i'w dîm beth am gêm derfynol cwpan y byd rhwng lloegr a'r almaen pan enillodd y saeson ar ôl amser ychwanegol a dyna fuddugoliaeth ysgubol cymru yn erbyn lloegr ym mehefin pan sgoriodd leighton james benalti yr unig gymro i sgorio gôl fuddugol yn erbyn y saeson yn wembley wedyn caerdydd yn curo arsenal i ennill cwpan y gymdeithas bêl droed ym yr unig dro i'r cwpan adael lloegr ac wrth gwrs buddugoliaeth abertawe yn erbyn huddersfield yn nhlws yr autoglass ym a'r siom pan gollodd yr elyrch yn erbyn northampton yn y funud olaf ym wrth geisio cael dyrchafiad i ail adran y gynghrair nationwide wel mae'r rhestr yn hirfaith a gellir hefyd ychwanegu campau o fyd bocsio rygbi a chyngherddau pop ac ati at y rhestr bellach mae wembley wedi cau a'r broses o ddadfeilio'r adeilad ar fin dechrau ni ddaw cyfle i mi ymweld â hen `eglwys gadeiriol pêl droed' byth eto ond gallaf ddal i freuddwydio a phwy a ðyr efallai y caf gyfle i fynd i'r wembley newydd yn y cnawd y tro hwn alun charles roedd y papurau`n gytÛn dros y sul wrth edrych ymlaen at gêm dyngedfennol cymru yn erbyn norwy ddydd sadwrn yma o'r diwedd fe ddaeth cyfle mawr john hartson ar ôl siom anafiadau a disgyn i'r adran gyntaf gyda wimbledon y tymor diwethaf heb anghofio'r trosglwyddiadau i tottenham a rangers a ohiriwyd ar y funud olaf mae'n debyg y bydd john hartson yn cerdded ar faes stadiwm y mileniwm am dri o'r gloch dydd sadwrn gyda disgwyliadau cenedl gyfan yn pwyso'n drwm ar ei ysgwyddau ac yntau wedi ennill deunaw cap dros ei wlad syndod oedd deall mai dim ond ddwy waith y cafodd chwarae'r munud cyfan dros gymru dechrau deg gêm a chael ei eilyddio wyth o weithiau ac ymddangos fel eilydd ar yr wyth achlysur arall prin felly y gellir dadlau bod hartson wedi cael cyfle teg i adael ei farc ar y gêm rhyngwladol yng nghymru ers iddo ennill ei gap cyntaf yn erbyn bwlgaria nôl ym mis mawrth gan chwarae ei gêm gyfan diwethaf yn erbyn y swisdir yn mae gyrfa rhyngwladol y gðr o abertawe wedi bod yn un rhwystredig a dweud y lleiaf chwarae deunaw ennill tair a sgorio dim ond dwy ond mae ei berfformiadau diweddar yn awgrymu ein bod o'r diwedd yn gweld arwyddion o'r hen hartson oedd ar ei orau yn arsenal a west ham a hynny am y tro cyntaf ers blynyddoedd mae'n ymddangos bod y profiad anffodus o gael ei wrthod gan ddau o glybiau mwyaf prydain yn enwedig rangers a chynghrair y pencampwyr wedi bod yn sbardun iddo hartson gwahanol iawn fydd yn ymddangos dros ei wlad ddydd sadwrn o'i gymharu â'r cymeriad trwsgl hwnnw oedd yn cario digon o bwysau i ennyn sen o gyfeiriad ei gefnogwyr ei hun yng ngwres tunisia ddwy flynedd yn ôl mae'r golled ym melarws wedi creu sefyllfa ennill ar bob cyfrif i gymru dydd sadwrn os yw'r chwaraewyr wedi ymateb yn bositif i arweiniad mark hughes mae hynny eto i ddwyn ffrwyth ar y cae perfformiadau addawol ond canlyniadau siomedig fuodd hi hyd yma efallai mai perfformiad cofiadwy gan hartson yw'r catalydd sydd ei angen i droi'r holl heip yn bwyntiau ar ei orau mi allai'r ymosodwr chwe troedfedd a thair modfedd godi braw ar unrhyw amddiffyn yn y byd mae ganddo ddigon o galon ac angerdd i faddau ambell garden felen iddo ac os caiff rediad teilwng o gêmau yna does dim rheswm pam na all hartson fod yn un o gonglfeini'r tîm cenedlaethol am flynyddoedd i ddod ond beth bynnag yw cynlluniau hughes ar ei gyfer yn erbyn norwy a beth bynnag oedd y papurau yn ei ddarogan dros y sul mae'n anodd gen i beidio â meddwl nad chwarae i gymru y bydd hartson dydd sadwrn ond chwarae am ei yrfa llyr hughes griffiths band undyn welsoch chi'r grasfa `na gafodd everton ar eu tomen eu hunain ym mharc goodison gan manceinion unedig ar match of the day bythefnos yn ôl nid curo everton wnaeth y cochion ond eu chwipio'n ddidrugaredd gan chwarae o leiaf yn yr hanner cyntaf yn frawychus o dda roedd syr alex ferguson ar ben ei ddigon `ein perfformiad gorau'r tymor hwn' meddai am yr hanner cyntaf roedd y gleision yn well ar ôl yr egwyl ond yn bell iawn o fod yn ddigon da i stopio'r peiriant coch ac mae'n siðr eu bod yn diolch i'r bod mawr nad oes angen iddynt fynd i old trafford tan fis chwefror hyd yn oed yn awr ar ddechrau tymor mae llawer yn dweud fod pencampwriaeth y brif gynghrair eisoes ym mhoced manceinion unedig yn wir mae walter smith rheolwr everton yn honni bod y brif gynghrair yn troi'n dipyn o fand undyn dyma'i ddadl mae'r brif gynghrair yn gystadleuol ond beth yw lefel y gystadleuaeth pan mae un tîm wedi ennill y bencampwriaeth chwe gwaith a dod yn ail ddwywaith yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf mae'r sgotyn walter hefyd yn gweld sefyllfa debyg yn yr alban lle mae rangers yn geffylau blaen `un tîm sydd yn yr alban' meddai `ac nid yw hynny'n ddelfrydol' a chyn reolwr rangers sy'n siarad cofiwch wrth gwrs rydyn ni'n hen gyfarwydd â chân walter yma yn y gynghrair genedlaethol mae hi fel tôn gron sawl gwaith y clywsoch fod y gynghrair genedlaethol yn fand undyn tref y barri ydi'r tîm ac mae pob tîm arall yn eilradd wrth gwrs mae'r clwb wedi cael llwyddiant ysgubol pencampwyr ym a ac yn ail ym heb sôn am gipio cwpanau ac ati a phetai walter smith yn gwybod y ffeithiau hyn mae'n siðr y byddai'r un mor llawdrwm ar y gynghrair genedlaethol am droi'n fand undyn ag y mae ar y brif gynghrair a chynghrair yr alban ond hanner stori sy yma ystyriwch am funud y dylanwad a gafodd tref y barri mae wedi dod â llawer o hygrededd i'r gynghrair a chyhoeddusrwydd da dyma'r clwb cyntaf yn y gynghrair genedlaethol er enghraifft i fynd y tu hwnt i'r rownd agoriadol mewn unrhyw gystadleuaeth ewropeaidd mae chwarae'r clwb hefyd wedi bod yn ddeniadol mewn gair mae tref y barri wedi gosod safon rhywbeth y gall clybiau eraill anelu ati anodd ydi cystadlu â staff proffesiynol amser llawn ond chwarae teg mae clybiau wedi gafael yn yr abwyd heb amheuaeth mae dylanwad tref y barri'n dechrau treiddio drwy'r gynghrair o ganlyniad mae'r safon yn codi o flwyddyn i flwyddyn a pheth da ydi hyn mae'r bwlch yn dechrau cau a dyw tref y barri ddim yn gallu cymryd unrhywbeth yn ganiataol erbyn hyn does dim ond rhaid dweud tns ac nid tref y barri yw tip pob un o banelwyr gôl i ennill y bencampwriaeth ym am newid byd felly walter mae'n ddrwg gen i am y grasfa ond cymer gysur oddi wrthon ni yn y gynghrair genedlaethol mae'n bosib cau'r gagendor ac wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf diolch byth am ambell fand undyn ddweda i r alun charles llongyfarchiadau carwn yn gyntaf longyfarch golygyddion y rhaglen hon a gweddill y tîm sy'n cyhoeddi rhaglen swyddogol clwb pêl droed tref caerfyrddin ar ennill y wobr am y rhaglen orau yng nghynghrair cymru am y tymor yn sicr mae'r ffaith eu bod yn rhoi sylw teilwng i'r gymraeg ochr yn ochr â'r saesneg yn gosod esiampl dda ar hyn o bryd mae menter iaith myrddin yn annog clybiau eraill mewn gwahanol chwaraeon i ddilyn esiampl clwb pêl droed tref caerfyrddin byddai gweld holl glybiau'r ardal yn cyhoeddi rhaglenni dwyieithog yn beth ardderchog matthew jones rwyf wrth fy modd yn dilyn hynt a hanes y bachgen ifanc matthew jones o lanelli sydd eisoes wedi ennill ei gapiau cyntaf dros ein tîm cenedlaethol fe ymunodd ef a'i gyfaill kevin evans o gilgeran â leeds united pan oeddent yn oed mae matthew'n chwarae'n gyson i dîm cyntaf leeds a kevin yn yr ail dîm ond yn awr mae wedi cael cytundeb blwyddyn gyda bobby gould yng nghaerdydd dyma ichi enghraifft dda arall o'n bechgyn lleol ni yn llwyddo yn y gêm ar y raddfa uchaf fel mark delaney fe fuon nhw'n chwarae i dîm ysgolion dyfed a chymru o dan oed rwy'n cofio'n dda galw am matthew yn y car yn aml am wyth o'r gloch ar fore sadyrnau yn ardal y morfa llanelli ac am stuart roberts sy'n chwarae i abertawe i fynd â nhw i chwarae dros ysgolion dyfed yn erbyn ysgolion caerdydd casnewydd ac eraill fel rhan o gystadlaethau ysgolion cymru o dan oed un arall o'r bechgyn dawnus hynny oedd barry morgan o blwmp a chwaraeodd ei gêm gyntaf i abertawe ddydd sadwrn diwethaf roeddwn i hefyd yn gadeirydd cymdeithas ysgolion cymru ar y pryd ac yn mynd â'r bechgyn i chwarae gêmau rhyngwladol yn windsor park belfast yn fratton park portsmouth le havre yn ffrainc a llawer gwlad arall efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio bobby gould yn rhoi anrhydedd y chwaraewr gorau i matthew jones yn y gêm ryngwladol yma ar barc waundew yn erbyn iwerddon sawl blwyddyn yn ôl roeddwn i'n eistedd yn ymyl bobby gould yn ystod y gêm honno ac fe gafodd gryn anhawster i benderfynu ai matthew ynteu wayne evans o landysul oedd y gorau dau fachgen lleol ar y blaen i bawb arall roeddwn i gyda thîm ysgolion cymru dan pan oedd craig bellamy coventry a chris llewellyn norwich yn chwarae i ni fe ddes i adnabod y bechgyn hyn yn dda a chofiaf am chris llewellyn norwich yn dod `nôl gyda fi ar y trên i abertawe o gaerdydd ar ôl dod dod nôl o ryw gêm ryngwladol ac yntau wedi gwario ei arian i gyd fi dalodd am ei docyn o gaerdydd i abertawe cofiaf hefyd am leon jeane qpr yn awr yn mynd allan am dro gyda gweddill tîm cymru y noson cyn gêm ryngwladol yng ngogledd cymru ac yn dod ata i a dweud nad oedd arian ganddo i brynu dim gan ei fod wedi anghofio ei waled rhoddais fenthyg £ iddo efallai y caf gyfle i ddweud wrtho rywbryd fod arno fe £ i mi o hyd rwy'n aml yn meddwl beth ddigwyddodd i nifer fawr o'r bechgyn eraill y des i ar eu traws ble maen nhw nawr tybed ble mae'r efeilliaid addawol fenton a arwyddwyd gan lerpwl ac eifion jones o gaernarfon nad oedd yn bwyta dim ond crisps a bisgedi ddiwrnod cyn pob gêm o'r criw y ces i'r fraint o ddod i gysylltiad â nhw matthew jones sy'n dod i'r brig ar hyn o bryd a phob llwyddiant iddo eto i'r dyfodol peter hughes griffiths rhaid cael `gwyliwr ar y tÐr' i warchod buddiannau sawl peth yn y gymru gyfoes a dyw pêl droed ddim yn eithriad byddaf yn edrych ymlaen bob blwyddyn at brynu'r news of the world football annual mae'n llyfryn diddorol ac yn cynnwys popeth am bêl droed wel bron popeth beth bynnag beth am bêl droed yng nghymru meddech chi mae'n wir bod ynddo fanylion a ffeithiau am gêmau rhyngwladol a chwaraewyr rhyngwladol cymru hefyd mae'n cynnwys tabl y gynghrair genedlaethol y llynedd ond ble mae hwn yn gymysg â thablau'r nationwide conference dr martens cynghrair ryman ac yn y blaen dan y pennawd `cynghreiriau eraill' does dim byd am gwpan cymru yn y llyfryn ydw i'n gofyn gormod tybed wel cyn ateb ystyriwch yr alban ac iwerddon mae adrannau ar wahân ar gyfer pêl droed yr alban gan gynnwys canlyniadau cynghrair a chwpan y llynedd a phêl droed iwerddon gan gynnwys canlyniadau cwpan y llynedd hefyd mae yna restr o gêmau cynghrair yr alban a charfannau'r timau i gyd ar gyfer mewn cymhariaeth tila yw'r manylion am gynghrair genedlaethol gymru na dwi ddim yn afresymol a digon posibl y byddai'r news of the world yn ymateb yn ffafriol i gais am well statws i gymru pwy a ðyr wedyn trowch at y rhaglen ardderchog yn costio £ gyda llaw i ddathlu gêm derfynol olaf cwpan y gymdeithas bêl droed yn wembley ar mai rhwng aston villa a chelsea mae'n dda darllen am mark delaney a'r `dre' ynddo ond sylwch ar y frawddeg hon am mark `barely months earlier he had been working as a packer in a wool factory and playing non league football for carmarthen town ' ie yr hen ymadrodd `non league football' yn codi'i ben unwaith eto a yw hyn yn ddigon da dwi ddim yn meddwl a dewch yn nes adre hyd yn oed oddi mewn i gymru mae'r term `non league' ar waith wrth adael crystal palace i ddod yn rheolwr ar dref y barri dywedodd peter nicholas wrth y western mail `i would not have left the nationwide league for any other non league club' a dywed eto yn rhaglen tref y barri yn erbyn boavista yng nghwpan uefa ` barry is the only non league club in wales i would have considered working for' er bod rhywun yn gallu gwerthfawrogi beth sy ar feddwl nicholas unwaith eto dyw'r defnydd o'r ymadrodd `non league' ddim yn ddigon da oes mae'n rhaid cael gwyliwr ar y tðr yn enwedig i ddiogelu buddiannau'r gynghrair genedlaethol rhaid procio amddiffyn diogelu a goleuo o hydac o hyd allwn ni ddim fforddio bod yn esgeulus ych chi'n cofio beth ddigwyddodd i cantre'r gwaelod r alun charles mae'n ffaith ers rhai blynyddoedd bellach mai chwaraewyr a'u cyflogau sy'n rheoli'r gêm erbyn hyn o gynghrair y pencampwyr i'r gynghrair genedlaethol mae talu cyflogau chwaraewyr yn faich aruthrol i glybiau ar bob lefel ac os bydd y system o drosglwyddo chwaraewyr yn newid mi fydd sefyllfa'r clybiau'n gwanhau hyd yn oed ymhellach dim ond rhai wythnosau yn ôl fe gyhoeddodd y cyfrifwyr deloitte and touche adroddiad arbennig ar y sefyllfa a ddangosodd fod clybiau prydain yn gwario dwy ran o dair o'u holl incwm ar gyflogau eu chwaraewyr hyn oedd yn bennaf gyfrifol am sefyllfa ariannol bregus sawl clwb ac wrth gwrs `dyw gwario ffortiwn ddim o reidrwydd yn sicrhau llwyddiant ar y cae ond sut y gellir mynd ati i reoli'r ffolineb yma sydd bellach wedi mynd y tu hwnt i bob synnwyr pa opsiynau sydd ar gael i'r clybiau i'w helpu i gadw eu chwaraewyr gorau heb orfod plymio i ddyledion aruthrol yn y banc un posibilrwydd yw gosod uchafswm cyflog sy'n syniad da mewn theori ond ar lefel ymarferol bron yn amhosib i'w weithredu mi allai hynny danseilio hawliau cyfreithiol chwaraewyr pêl droed i ennill cyflogau ac mi fyddai rhai clybiau'n siðr o ychwanegu at y cyflogau trwy gynnig manteision eraill megis tai a cheir ac yn y blaen mae llywydd uefa'n gweld opsiwn arall fel yr ateb i'r broblem cred lennart johansson mai'r ateb i gyflogau a throsglwyddiadau drud yw rhoi trwyddedau i glybiau o dan ei argymhelliad ef byddai clybiau sy'n methu balansio eu llyfrau yn cael eu gwahardd o gynghreiriau a chystadlaethau cenedlaethol efallai fod hyn yn ddadleuol tu hwnt ond byddai'n sicrhau dyfodol ariannol y gêm gan greu sefyllfa mwy positif a chytbwys i'r clybiau'n gyffredinol wedi'r cyfan does dim synnwyr bod pencampwyr ewrop real madrid yn dechrau tymor newydd yn sbaen â dyledion o dros £ miliwn yn nes at adref rhwng a fe wariodd newcastle united £ miliwn heb ennill un bencampwriaeth yn yr un cyfnod gwariodd manchester united £ miliwn ac ennill y bencampwriaeth dair gwaith mae hynny'n profi nad arian sydd o reidrwydd yn sicrhau llwyddiant mae'n siðr mai aberystwyth sydd ag un o'r biliau cyflog mwyaf yn y gynghrair ar wahân i'r barri ac er cael tymor eithaf siomedig llynedd efallai ei bod hi'n argoeli'n well eleni ar ôl arwyddo mwy fyth o chwaraewyr profiadol dros yr haf beth bynnag fydd y canlyniad heno does ond gobeithio y gellir gwneud rhywbeth i reoli'r sefyllfa bresennol sydd yn gosod pwysau ariannol aruthrol ar ein clybiau does ond rhaid meddwl am y sefyllfa ym mangor eleni a thrybini inter caerdydd llynedd i ddangos na all y sefyllfa bresennol fod yn llesol i'r gêm llyr hughes griffiths y ffwl monti faint ohonoch chi oedd yn gwybod bod y comisiwn ewropeaidd wedi gwneud cyhoeddiad bythefnos yn ôl a allai newid y system o drosglwyddo chwaraewyr pêl droed am byth ar eg awst fe gyhoeddodd comisiynydd o'r enw mario monti bod ewrop yn ystyried newid y system o drosglwyddo chwaraewyr am nad yw fifa wedi llwyddo i gyflwyno system sy'n cyd fynd â rheolau ewropeaidd ar gystadleuaeth deg a rhyddid i weithwyr chwaraewyr pêl droed yn yr achos hwn i symud o un wlad i'r llall ar yr olwg gyntaf mae hyn yn gymleth eithriadol ond os digwydd y gwaharddiad fe all y farchnad drosglwyddo newid yn llwyr gyda oblygiadau aruthrol i'r gêm drwy ewrop mae ffioedd trosglwyddo i chwaraewyr sy' mâs o gytundeb eisioes wedi eu gwahardd ers o dan reol bosman ond nawr y bwriad yw rhoi diwedd ar daliadau trosglwyddo i chwaraewyr sydd yn dal i fod yn rhwym i'w cytundeb sail y broblem yw bod rheolau ewropeaidd yn datgan yn glir y dylai gweithwyr sy'n byw yn yr undeb ewropeaidd fod yn rhydd i weithio yn unrhyw ran o'r undeb heb rwystr ond mae chwaraewyr pêl droed sydd o dan gytundeb yn rhwym i un clwb am gyfnod penodol ac felly'n methu symud yn rhydd i arfer eu crefft yn rhywle arall barn y comisiwn yw bod fifa ar ôl digon o rybudd wedi methu cynnig system dderbyniol a fyddai'n ateb y broblem ac felly mae'r comisiwn ei hun yn ystyried delio â'r mater mae sibrydion cynnar yn awgrymu y gallai rhyw fath o iawndal am gost hyfforddi'r chwaraewr gymryd lle'r tâl trosglwyddo ond pwy fyddai'n penderfynu faint sy'n daladwy opsiwn arall yw bod yr iawndal yn seiliedig ar y rheolau arferol ym mhob gwlad pan fo gweithiwr yn torri cytundeb gwaith dim ond cyhoeddi eu bod yn ystyried gweithredu a wnaeth y comisiwn ewropeaidd bythefnos yn ôl mae'r pwysau nawr ar fifa i gyd weithredu a chynnig system newydd yr unig obaith arall yw gwneud chwaraeon yn achos arbennig nad sy'n rhwym o dan gyfreithiau ewrop bydd cyfle i wneud hynny yn nes ymlaen eleni pan fydd llywodraethau'r undeb ewropeaidd yn dod at ei gilydd ond mae hynny'n go anhebygol gan bod angen cefnogaeth unfrydol pob un o'r pymtheg gwlad beth bynnag a wnaiff mr monti a'i griw mae un peth yn sicr byddai newid y sustem bresenol yn gwedd newid holl ochor fusnes y gêm mae pobol eisioes yn cwyno bod gormod o rym gan y chwaraewyr a biliau cyflog nifer o'n clybiau yn gwbl afresymol os tanseilir y system gytundeb a throsglwyddo mi allai hynny ryddhau chwaraewyr i symud bob tro mae clwb yn cynnig mwy o arian iddyn nhw byddai'r fath ffolineb yn ansefydlogi'r gêm yn llwyr llyr hughes griffiths o gwmpas waundew tymor