o gwmpas waundew mae'r tudalen yn trafod gwahanol agweddau ar bêl droed sy'n digwydd bod yn y newyddion ar y pryd gan ystyried perthnasedd hyn i sefyllfa clwb pêl droed caerfyrddin cam curtis neil rosser o'r diwedd fe gas yr elyrch wared o'r dyn ofnadwy yna tony petty ac i filoedd o gefnogwyr fel fi roedd y rhyddhad yn debyg i gael gwared o ddant pwdr neu `hang over' styfnig yn anffodus er ymdrechion campus addison i sicrhau dyfodol i abertawe yn y drydedd adran y tymor nesaf a dylanwad positif mel nurse oddi ar y cae ma petty wedi niweidio'r clwb ac un o'r rhai sydd wedi diodde waethaf yw alan curtis `rwyn cofio'r gêm gyntaf i fi'i gweld ar y vetch yn glir `roeddwn wedi gweld gemau rygbi di ri ond arhosodd nhad nes mod i'n ddeng mlwydd oed cyn mynd â fi i weld abertawe v southend yn nhymor erbyn hyn rwyn deall y rhesymau pam roedd torfeydd rygbi yn hen yn dawel ac yn ddiflas roedd y north banc ar y llaw arall yn ifanc yn swnllyd ac yn wyllt lot yn fwy diddorol i grwt mlwydd oed fe sgoriodd curtis yn y gêm honno ac fe wedodd cefnogwr oedd yn sefyll drws nesaf i fi he's our best player but a dyna fe fe ges i fy arwr crwt o gwm rhondda yw curtis ac fe ymunodd ag abertawe yn er bod spurs hefyd wedi dangos diddordeb ynddo dros y chwe tymor oedd i ddilyn fe chwaraeodd gêm a sgorio o gôliau cynghrair a chwpan erbyn hyn roedd ei ddoniau yn denu edmygwyr o glybiau mawr ac yn fe ymunodd â leeds ond yn anffodus ni chafodd talent y cymro ei werthfawrogi gan dirty leeds a dim ond pump gôl mewn ymddangosiad a gafwyd ac ar ôl dau dymor yn unig fe ddaeth tosh â'm harwr ni adref hwn oedd oes aur yr elyrch yr hen ail adran yn gwylio tosh wrth y llyw curtis a robbie james yn bango nhw mewn o bobman a pasties ffres o eynons am c ar gael y tu ôl y north banc dyrchafiad wedyn a'r `swans' yn curo lerpwl ar y vetch i fynd i frig yr hen adran gyntaf ac alan curtis yn sgorio gôl mewn ymddangosiad yn ei ail gyfnod gyda'r clwb wedyn y cwymp a curtis yn cael ei werthu i southhampton ac yna i ryw sbwriel o dîm sydd yn `whare mewn glas ble chwaraeodd gêm ond sgorio dim ond deg gôl roedd yr aderyn gwyn yn amlwg yn agosach at galon curtis na'r aderyn glas fe ddaeth adre unwaith yn rhagor am y swm pitw o £ erbyn hyn yn mlwydd oed ond fe wnaeth chware gêm cyn rhoi'r ffidil yn y to fe ddechreuodd curtis ar yrfa hyfforddi fel is reolwr i elyrch alan cork ac yna fel partner i john hollins yn ystod tymor pan enillwyd pencampwriaeth y drydedd adran cyfraniad enfawr dyn tawel a bonheddig sy'n dal i wrthod dweud yr un gair cas am glwb pêl droed abertawe fe welsom ni curtis ar barc waundew mewn gêm gyfeillgar ar ddechrau'r tymor yn annog ei elyrch ifanc yn erbyn taclo cadarn caerfyrddin fi'n mawr obeithio y bydd yn dychwelyd i wasanaethu'r swans `to rhywbryd yn y dyfodol un peth sydd yn sicr `sneb yn deall clwb abertawe fel y jac o gwm rhondda r alun evans noson i'w chofio oedd hydref lerpwl cymru'n chwarae `gartref' yn erbyn yr alban dyna chi gêm dwrn joe jordan a chymru'n colli ond nid y sgôr a'i gwnaeth hi'n noson i'w chofio `roeddwn i yn anfield yn sylwebu yn gymraeg ar y radio a hynny'n digwydd am y tro cyntaf erioed mewn gêm ryngwladol cyn mentro arni yr oeddwn wedi treulio rhai misoedd yn ymarfer gan fynd o gêm i gêm yn dweud beth oedd yn digwydd yn creu darluniau yn y dychymyg ac yn cyfarwyddo â thermau oedd bryd hynny yn lled anghyfarwydd llumanwr blwch cosbi cwrt chwech trawst tacl lithro egwyl cylch canol ystlys cic o'r smotyn gan wybod bod raid plannu'r eirfa ym meddwl gwrandawr oedd cyn hyn yn darllen termau saesneg ac yn clywed termau saesneg am bêl droed wedi'r cyfan `roedd y sylwebaeth saesneg gyntaf ar gêm bêl droed wedi dod o highbury cartref arsenal `n ôl ym do fe gymerodd hi hanner canrif union i ni ddala lan yng nghymru bellach mae sylwebaeth gymraeg yn beth hollol naturiol i wrandawyr radio a gwylwyr teledu rwy'n hynod o falch bod rhai clybiau pêl droed fel caerfyrddin yn ogystal â chlybiau rygbi ac onid dylanwad carwyn james sy'n golygu bod llanelli yn defnyddio'r iaith ar y sgorfwrdd yn rhoi lle amlwg i'r gymraeg yn eu rhaglen yr ymwelwyr heddiw yw bangor fe fûm i'n sylwebu'n gyson o faes heol farrar yn y ddinas honno un o'r uchafbwyntiau oedd ymweliad atletico madrid â bangor a churo blackpool yn rowndiau cynnar cwpan lloegr yn yr wythdegau fe fûm i'n sylwebu hefyd o belffast parc hamden prâg cologne georgia ac o wembley lawer gwaith y tro ola y bûm i yno oedd ym mis mai pan chwaraeodd bangor yn erbyn northwich victoria yn rownd derfynol tlws lloegr oedd hi a bangor yn colli ar gae stoke city y nos fawrth ganlynol ac ar y cae hwnnw y daeth fy nghyfnod innau fel sylwebydd pêl droed i'w derfyn dyddiau da dyddiau difyr ac yn eu ffordd dyddiau arloesol mae r alun evans yn gyn bennaeth y bbc ym mangor mae'n ddarlledwr o'r radd flaenaf yn y ddwy iaith erbyn hyn mae'n byw yng nghaerdydd ac yn weinidog gyda'r annibynwyr yng nghaerffili diolch yn fawr iawn iddo am gyfrannu i'n rhaglen eidalwyr bargod rangers peter hughes griffiths wyddech chi fod tîm pêl droed bargod rangers dre fach felindre wedi chwarae yn erbyn timau o'r eidal a'r almaen `nôl ym mhedwardegau'r ganrif ddiwethaf ac yn fwy na hynny mai i dîm bargod rangers y chwaraeodd yr eidalwyr a'r almaenwyr cyntaf yn y wlad hon mae hyn yn berffaith wir cyn bod sôn am carlo cudicini yn chelsea a bergkamp yn arsenal roedd eidalwyr ac almaenwyr yn chwarae yng nghynghrair ceredigion dros bargod rangers `sut yn y byd y digwyddodd hyn ' meddech chi wel ym mhentref bychan henllan ar lan yr afon teifi roedd gwersyll carcharorion rhyfel yn ystod yr ail ryfel byd gan ei fod yn wersyll agored roedd y carcharorion o'r eidal a'r almaen yn mynd allan yn ystod y dydd i weithio ar y ffermydd ac yn y pentrefi cyfagos roedd y carcharorion i gyd yn fechgyn ifainc heini ac yn naturiol yn enwedig yr eidalwyr yn ddwl am bêl droed ac yn chwaraewyr medrus iawn a chan nad oedd pêl droed tîm bargod rangers ond rhyw bum can llathen o'r gwersyll ar yr ochr hon o afon teifi yn naturiol roedd cyfle i'r carcharorion chwarae yn erbyn bargod rangers a thimau lleol eraill ond er cystal oedd safon pêl droed y timau lleol fe fyddai'r eidalwyr a'r almaenwyr yn nhîm y gwersyll yn rhoi `stwffad' dda i'r holl dimau mae cof plentyn gen i o weld rhai o'r gêmau hyn ambell noswaith braf o haf nid oedd cit pêl droed gan y carcharorion wrth gwrs ac felly roedden nhw'n benthyca hen esgidiau a daps y bechgyn lleol a bron bob amser yn chwarae yn eu trowsusau a'u crysau pob dydd rwy'n cofio'n dda eu bod nhw'n curo pob tîm lleol yn rhacs roedden nhw'n chwaraewyr dawnus iawn o ganlyniad fe arwyddodd tîm y bargod rangers nifer dda o'r carcharorion i chwarae drostyn nhw a dyma pryd y chwaraeodd bechgyn o'r eidal a'r almaen dros dîm yn ein gwledydd ni am y tro cyntaf erioed wel rwy'n hoffi meddwl hynny beth bynnag ie cyn i ravanelli a carbonni gael eu geni roedd rhai o'u cyn deidiau wedi chwarae dros glwb bach bargod rangers ar lannau'r teifi mae un o aelodau gweithgar clwb pêl droed tref caerfyrddin yn fab i un o'r carcharorion rhyfel rheiny o'r eidal fe arhosodd ei dad yn yr ardal a phriodi â merch leol mae'r ddau'n dal i fyw yng nghastellnewydd emlyn pa un o fechgyn ein clwb ni sydd ag enw eidalaidd dilwyn jones faint o ddylanwad gafodd eich man geni ar eich bywyd yn wahanol i lawer rwy'n fodlon cyfaddef mae ychydig iawn fyddai fy ateb i mi wnes i fy ymddangosiad cyntaf yn yr hen fyd yma ar ionawr eg yn un o drefi seisnig y gogledd ddwyrain cei conna roedd fy nhad yn weinidog mewn capel cymraeg yn y dref honno a'r unig dystiolaeth sydd gennyf fy mod wedi fy ngeni yn y rhan honno o'r wlad yw gwrando ar atgofion hapus fy rhieni o'r cyfnod a'r cyfeiriad ar fy nhystysgrif geni does gen i ddim côf o gwbl o'r cyfnod gan i ni fel teulu symud o'r ardal pan oeddwn yn dair oed ychydig o amser felly i adael unrhyw fath o ddylanwad arnaf ond digon i ganu cloch pan ofynnodd alun charles am erthygl i'r rhaglen heddiw mae ymweld â'r waun dew yn brofiad pleserus i bob gohebydd gyda chroeso'r swyddogion yn dwymgalon bob amser mae uchelgais y clwb yn amlwg i bawb gyda'r datblygiadau ar y cae ac oddi arno dros y blynyddoedd diwethaf yn syfrdanol un o nifer o gyfeillion y byddaf bob amser yn falch o'i weld ar fy ymweliadau yma yw gwyn davies cyn reolwr ffatri laeth felin fach a symudodd o ddyffryn aeron i beniel rhyw dair blynedd yn ôl yn anffodus mae gwyn yn dioddef ers sawl blwyddyn bellach o'r afiechyd `multiple sclerosis' ac wedi ei gaethiwo i gadair olwyn bu cyfraniad gwyn i ddatblygiad pêl droed i blant ac ieuenctid yn ne ceredigion yn aruthrol gan redeg tîm dan felin fach yn ogystal â bod yn ysgrifennydd cynghrair mini minors de ceredigion am flynyddoedd er gwaethaf ei salwch gwn fod gwyn yng nghwmni ei wraig wendy yn cael pleser mawr o wylio'r gêmau yma ar y waun dew i mi'n bersonol mae cystadleuaeth cwpan cymru yn frith o atgofion cofiadwy o gyfnod yr arddegau un o'r achlysuron cofiadwy hynny oedd cael prynhawn i ffwrdd o'r ysgol i weld aberystwyth yn curo henffordd ym o flaen torf o ar goedlan y parc a hynny o fewn ychydig wythnosau i fechgyn colin addison guro newcastle united yn y gêm anhygoel honno yng nghwpan yr fa roedd gêm aber yn erbyn caerdydd yng nghwpan cymru yn o flaen torf o hefyd yn achlysur bythgofiadwy gyda'r daith ar y trên i'r cae ras i wylio aberystwyth yn erbyn wrecsam yn ddigwyddiad cynhyrfus arall doedden nhw'n ddyddiau da mi ddylai'r gêm gwpan y prynhawn yma ar y waun dew gynnig digon o gyffro i ddiddori'r dorf ac i gadw gohebydd y bbc yn brysur cei conna yn hedfan yn agos i frig y gynghrair a chaerfyrddin yng nghanol tymor ardderchog arall mi fydd tim tomi yn falch o'r fantais o gêm gartref rwy'n siðr ac mae gen i deimlad mai enw caerfyrddin fydd yn yr het am y rownd nesaf `dyw dylanwad fy man geni ddim yn ddigon cryf i mi ochri gyda cei conna y prynhawn yma caerfyrddin am y gwpan mae dilwyn yn ohebydd gyda bbc radio cymru daw o bryd i'w gilydd i barc waundew yn rhinwedd ei swydd diolchgar i'r cyfryngau alun charles roeddwn i'n ddiolchgar iawn i'r cyfryngau'r wythnos hon gadewch i mi esbonio pam digwyddwn fod oddi cartref oherwydd fy ngwaith ac yn anffodus roedd rhaid colli'r gêm fawr yn erbyn wrecsam rai blynyddoedd yn ôl roedd gennyf docyn tymor yn y cae ras a hynny ar adeg pan oedd y dreigiaid yn cyflawni gorchestion mewn gêmau cynghrair a chwpan siom o'r mwyaf felly oedd peidio â medru bod ar barc waundew i weld yr ornest nos fawrth ond diolch byth gallwn gadw lan â'r digwyddiadau drwy'r cyfryngau rhaid canmol y rhaglen faw premier cup live ar bbc cymru yn fawr hefyd rwy'n credu bod oliver hindes yn gyflwynydd da a thîm effeithiol iawn yw'r sylwebyddion ynghyd â'r pwnditiaid ian walsh dai davies a mark aizelwood cawsom weld uchafbwyntiau'r gêm ar barc waundew yn ystod hanner amser y gêm rhwng casnewydd ac abertawe ac yna uchafbwyntiau'r ail hanner ar derfyn y gêm honno a gyda llaw da yw gweld yr elyrch yn cymryd y gystadleuaeth hon o ddifrif diolch i arweiniad colin addison a peter nicholas ar nosweithiau fel hyn yn unigrwydd yr ystafell mewn gwesty pan mae'r corff mewn un lle a'r meddwl mewn lle arall mae rhywun o bosib yn gwir werthfawrogi gwasanaeth y cyfryngau ac wrth gwrs yn sylweddoli cymaint yw eu grym a'u dylanwad a wyddech chi fod miliwn wedi gwylio manceinion unedig yn chwarae yn erbyn aston villa ar ddydd sul ionawr yn y gêm gwpan ddramatig honno a enillodd y cochion a bod hynny'n uwch na'r nifer a wyliodd y gêm derfynol yng nghwpan y gymdeithas bêl droed rhwng lerpwl ac arsenal fis mai diwethaf ac roedd hyd yn oed mwy yn gwylio'r gêm rhwng manceinion unedig a deportivo la coruñda yng nghynghrair y pencampwyr fis hydref diwethaf dyna i chi rym a dylanwad ond efallai mai cyfraniad mwyaf y cyfryngau yw creu diddordeb troi cwpan a chynghrair a thîm yn destun siarad yn y gwaith mewn tafarn ac ar yr aelwyd gwyddai pobl y gwesty ble roeddwn i'n aros yr wythnos hon fod caerfyrddin a chasnewydd yn herio'r mawrion ym mhrif gwpan cymdeithas bêl droed cymru diolch i'r cyfryngau ac yn fy marn i dyna sydd wedi bod ar goll yn y gynghrair genedlaethol hyd yn hyn y tymor hwn ni fu'r gynghrair yn ddigon o destun siarad ymhlith pobl ni fu bwrlwm ni fu digon o ddadlau ond diolch byth mae cyfle i adfer y sefyllfa o hyn ymlaen nid yw mewnbwn pêl droed ar raglen y clwb yn sylweddol iawn mi wn ond mae'n amhrisiadwy serch hynny hir y pery helynt parc ninian llyr hughes griffiths caerdydd ar ôl yr helynt a gafwyd ym mharc ninian yr wythnos diwethaf does dim gwadu bod taflu poteli rhedeg ar y cae a herio cefnogwyr y gwrthwynebwyr yn y fath fodd yn ymddygiad cwbwl annerbyniol ar y llaw arall mae yna elfen o'r wasg brydeinig wedi fy nghorddi yr wythnos hon gyda phawb yn gweiddi am i'r fa weithredu yn erbyn y barbariaid cymreig bach iawn o sylw a roddwyd i'r hyn a ddigwyddodd ychydig oriau'n ddiweddarach fe welodd pob un ohonom gefnogwyr manchester united yn rhedeg ar y cae ym mharc villa hwliganiaid oedd disgrifiad y wasg o'r cymry tra mai dathlu afieithus oedd yr hyn a wnaeth dilynwyr y pencampwyr yn yr un gêm fe redodd alex ferguson ar y cae i ddathlu gôl ond wrth gwrs mae'n iawn i syr alex adael ei sedd yn yr eisteddle yn wahanol i gadeirydd arbennig y gallwn ei enwi yn hwyrach yn yr wythnos fe ddaeth hi'n amlwg bod poteli wedi cael eu taflu i'r cae mewn gêmau eraill ond heb yr un ymateb bonllefus gan y wasg dylai'r anghysonderau hyn beri gofid inni i gyd efallai bod rhannau o'r wasg am fedyddio cefnogwyr caerdydd fel ciwed wallgof ond mi ddylid cael mwy o gytbwysedd roedd disgrifiad david o'leary o'r lle fel istanbul lle bu farw cefnogwr leeds yn or ddweud llwyr ond roedd hyn yn fêl ar fysedd yr ysgrifenwyr penawdau cyn waethed oedd y sefyllfa fel bod rhywun hyd yn oed yn teimlo bod y newyddiadurwyr prydeinig yn mwynhau cael `go' ar yr anwariaid cymreig does ond gobeithio y bydd cymdeithas bêl droed cymru'n dangos digon o asgwrn cefn i fynnu bod fa lloegr yn cosbi rhai o'r clybiau eraill a fu'n camfihafio byddai ymateb byrbwyll sy'n gwneud esiampl o dîm ein prifddinas yn unig yn annheg iawn wedi dweud hynny doedd ymddygiad sam hammam ar ôl y gêm ddim yn help roedd ei weld yn cael ei godi ar ysgwyddau'r cefnogwyr gyda phaent du ar ei wyneb a'i wallt ar wrych yn sicr yn creu delwedd anffodus roedd triniaeth y chwaraewyr ohono yn yr ystafell newid yn gywilyddus ac roedd clywed sam ei hun yn rhegi mewn cyfweliad teledu byw ar ôl y gêm yn dweud y cwbwl er ei ffaeleddau mae sam yn ddigon call i sylweddoli bod yn rhaid cael gwared ar yr elfen anystywallt os yw ei glwb am dyfu i fod yn un o prif dimau'r deyrnas unedig bellach yn sgîl hyn oll mae gan y clwb gyfle i fynd ati o ddifrif i gael gwared ar yr hwliganiaid sydd wedi bod yn gymaint o broblem dros y blynyddoedd dim ond wedyn y gall caerdydd osod y sylfeini yn eu lle i fod yn glwb sy'n barod ar gyfer yr uwch gynghrair bechgyn bargod rangers peter hughes griffiths tîm bargoed rangers yn ardal dre fach felindre rhwng castellnewydd emlyn a llandysul oedd y tîm cyntaf i mi ei gefnogi ac yna chwarae iddo unig uchelgais bechgyn yr ardal oedd cael gwisgo crys glas a gwyn y tîm lleol a bu'n dîm llwyddiannus iawn ers sefydlu'r clwb ym a braint i mi oedd bod yn aelod o'r tîm arbennig hwnnw a enillodd dri chwpan cynghrair ceredigion a hynny deirgwaith yn y pum a'r chwedegau record na chafodd ei thorri hyd heddiw ond mae cysylltiad agos iawn rhwng llawer iawn o fechgyn y bargod rangers â chlwb pêl droed caerfyrddin ar hyn o bryd gan fod llawer iawn o'r cyn chwaraewyr i'w gweld ar barc waun dew yn gyson mae un o'r is lywyddion j gwynfor jones yn eistedd yn syth y tu ôl i'r lle mae tomi morgan yn sefyll yn ystod y gêm ac yn clywed pob gair a ddaw o enau tomi un o fois bargod yw'r is lywydd a'r cefnogwr brwd a t bernard davies ac un arall yw aneurin jones o gwmffrwd sydd newydd symud yn ôl i'r ardal ar ôl bod yn byw ac yn cefnogi aberystwyth am flynyddoedd fe fu aneurin yn chwarae yn y gôl y tu ôl i mi am sawl tynor un o'r golwyr gorau a welodd bargod erioed daw john dai davies gyda chriw llandysul bob sadwrn i barc waundew ac mae andy bach davies a hywel morris yn gefnogwyr cyson hefyd a chwarae teg mae cyn chwaraewyr timau castellnewydd a llandysul yn flaenllaw yn ein clwb ni hefyd gareth o jones ac emlyn schiavone a john evans cei newydd yn is lywydd a wyn lewis jones ac eddie evans eddie pencae i enw dim ond un neu ddau diolch i nifer dda o fois eraill yr ardal hon sy'n cefnogi tîm y dre mor gyson yn wir o'r bechgyn oedd yn chwarae yn fy amser i dangosodd sawl un fod ei ddoniau oddi ar y cae'n llawn cystal yn y timau hynny yn y chwedegau roedd roy evans roy trewen prifathro presennol coleg prifysgol bangor ac ainsleigh davies ains welsh stores prifathro ysgol gyfun dyffryn teifi eifion davies eif bach ac yntau dros ei chwe troedfedd sy'n gweithio i ymddiriedolaeth derwen a'i frawd dyfrig davies ymgynghorydd gyda'r awdurdod addysg lleol a'i fab yntau huw davies y golwr gorau a welais i'n chwarae dros dîm caerfyrddin roy james cyn brif arolygwr ysgolion cymru a gareth crompton cyn brif feddyg y swyddfa gymreig yn wir gallwn fynd ymlaen ac ymlaen john davies john cwrt cyn golwr caerdydd a dinas hull yw'r unig un o'r clwb a aeth yn chwaraewr proffesiynol ym roedd e'n chwarae dros bargod rangers ac ym roedd e'n chwarae i gaerdydd dyddiau da oedd y dyddiau hynny cewch fwy o hanes y clwb a'i chwaraewyr cyn diwedd y tymor dylan iorweth y derby fawr dydw i ddim yn deall beth ydy'r holl ffwdan caerfyrddin v llanelli gêm fach pan oeddwn i'n ifanc yn y gogledd roedd yna gêms go iawn yn digwydd ar ddydd san steffan weithiau mi fyddech chi'n cael lerpwl yn erbyn everton neu yn y dyddiau pell yn ôl hynny man u yn erbyn man city ambell dro roedd caernarfon yn erbyn bangor hyd yn oed ond bob rhagfyr heb fethu roeddech chi'n cael caeathro v waunfawr os nad ydych chi erioed wedi clywed am y ddau bentre' eich colled chi ydy hynny dyma'r pentrefi a fagodd bêl droedwyr enwog fel aled lodge shacyn mois bach a woody roedd gêmau dydd san steffan yn arbennig o gofiadwy yn enwedig gan nad oedd y rhan fwya' o'r chwaraewyr yn cofio dim am na noswyl nadolig na'r diwrnod mawr ei hun doedd neb yn penio'r bêl rhag ofn iddyn nhw wneud eu hangofyrs yn waeth ac os oedd rhywun yn llwyddo i redeg fel ryan giggs i lawr yr asgell heb sobri digon i redeg yn syth yr oedd o a dweud y gwir roedd ambell un yn gorfod stopio bob hyn a hyn er mwyn tjecio beth oedd o wedi'i gael i'w fwyta yn ginio nadolig roedd y cyfan yn gwneud i'r cae edrych fel petai'n diodde' o'r frech goch aled lodge oedd yn gosod y lefel o ran ffasiwn roedd ganddo drowsus bach mawr fel petai yn cyrraedd i lawr at ei bengliniau yn debyg i flwmer ei fam gu ac roedd rhai'n amau mai ei fam gu oedd ynddyn nhw hefyd bachgen ysgol oeddwn i ar y pryd ond roedd ambell un o'r chwaraewyr yn ddigon hen i fod yn dad imi eu tactic arferol oedd taclo unrhyw un ifanc oedd yn dod yn ddigon agos jyst rhag ofn iddo gael y bêl o fewn y deng munud nesa' rhedeg ar ôl eu hieuenctid yr oedd y rhan fwya' ohonyn nhw yn fwy na rhedeg ar ôl y bêl roedden nhw'n gwybod lle'r oedden nhw i fod ond roedd hynny wastad rhyw bum llath o'u blaenau bôn y clawdd oedd y stafelloedd newid a phawb yn gadael eu dillad yn bentwr ar ochr y cae dim byd o'i le ar hynny os nad oedd ci yn digwydd pasio doedd yna ddim stand chwaith os nad oedd hen ddyn yn digwydd stopio gyda'i zimmer ac roedd y tyrfaoedd dipyn yn brin doedd yna neb yn dod i weld jyst rhag ofn y bydden nhw'n gorfod chwarae ar ôl y gêm yr oedd y digwyddiad mwya' cyffrous ym mar tafarn caeathro roedd y tensiwn a'r cynnwrf yn anhygoel wrth inni i gyd aros i weld a fyddai keith bach yn mynd i'w boced i brynu rownd byddwn i wrth fy modd yn cael mynd yn ôl a chwarae un gêm fach arall a chael bod yn fachgen deunaw oed gyda lot o wallt byddwn i'n gwneud rings rownd aled lodge y tro nesa' wedi'r cyfan mae o siwr o fod ar ei bensiwn erbyn hyn ond i fi dyna ydy pêl droed nid gwylio chwaraewyr sy'n cael eu talu fwy am un gêm nag y mae'r rhan fwya' ohonon ni'n ei gael mewn blwyddyn ac er y bydd y safon yn well gobeithio y bydd rhywfaint o'r ysbryd yna ar y waundew heddiw arwyn thomas bydd ffrainc a senegal yn chwarae gêm agoriadol cwpan y byd yn seoul ar fai mis yn ddiweddarach fe fydd y gêm derfynol ar ddiwrnod olaf mehefin gêm rhif y gystadleuaeth rhwng y gêm gyntaf a'r olaf bydd llu o ddigwyddiadau cyffrous goliau bendigedig camgymeriadau erchyll a record neu ddwy yn cael ei thorri bydd ambell i seren wedi disgleirio un arall wedi pylu ac ambell un wedi syrthio'n llwyr fel tamaid i aros pryd dyma i chi ychydig o ystadegau a hanesion rhai o sêr y gorffennol un o'r penderfyniadau rheolaethol mwyaf dadleuol oedd penderfyniad ademar pimenta hyfforddwr brasil yn roedd leonidas un o sêr y tîm wedi sgorio gôl mewn dwy rownd gorffwyswyd ef yn y rownd gyn derfynol yn erbyn yr eidal er mwyn ei gadw'n ffres ar gyfer y gêm derfynol collodd brasil ond fe sgoriodd leonidas gôl arall yn y gêm am y trydydd safle laszio kiss o hwngari yw'r unig eilydd i sgorio tair gôl mewn gêm daeth ar y cae yn erbyn el salvador yn pan oedd y sgôr eisoes yn y sgôr terfynol oedd y sgôr mwyaf yn y rowndiau terfynol pan gollodd peru o gôl i ddim yn erbyn gwlad pwyl yn cafodd quiroga eiugôl geidwad gerdyn melyn am drosedd yn hanner y gwrthwynebwyr roedd y gêm agoriadol ym mecsico yn yn nodweddiadol am mai dyma'r tro cyntaf i dimau fedru eilyddio a chardiau melyn a choch gael eu defnyddio y chwaraewr ieuengaf i chwarae yn y rowndiau terfynol yw norman whiteside o ogledd yr iwerddon roedd yn mlwydd oes a diwrnod yr hynaf yw roger milla o cameroon a oedd yn oed a diwrnod pan chwaraeodd yn erbyn rwsia yn gan iddo sgorio yn yr un gêm ef yn ogystal yw'r sgoriwr gôl hynaf breuddwyd pob chwaraewr yw bod yn gapten ar ei wlad nid oes yr un chwaraewr wedi ennill cwpan y byd ddwywaith fel capten yr agosaf yw diego maradona pan enillodd yr ariannin yn a dod yn ail yn a dunga o frasil a oedd yn gapten yn nhîm buddugol ond a gollodd yn y gêm derfynol yn karl heinz rummenigge yw'r unig gapten i golli dwy gêm derfynol yn a danfonwyd jose batista o'r maes ar ôl eiliad yn unig yn erbyn yr alban yn yn dilyn tacl erchyll ar gordon strachan er chwarae yn erbyn dyn ni fedrodd yr alban sgorio ac aeth uruguay drwodd i'r rownd nesaf yn y rownd gyn derfynol rhwng yr ariannin a'r eidal yn ychwanegodd y dyfarnwr michel vautrot munud o amser ychwanegol ar ddiwedd yr hanner cyntaf o amser ychwanegol cyfaddefodd ar ôl y gêm iddo anghofio'n llwyr am yr amser walter zenga gôl geidwad yr eidal sy'n dal y record am y cyfnod hiraf heb ildio gôl yn rowndiau terfynol cwpan y byd chwaraeodd am munud bron i gêm cyn i claudio caniggia sgorio i'r ariannin yn y rownd gyn derfynol collodd yr eidal i giciau o'r smotyn tybed pwy fydd yn hawlio'r penawdau ym mehefin dwy ochr i'r geiniog alun charles rwyf wedi treulio'r wythnos hon i gyd yn yr hen went yn ystod y rhan gyntaf bûm yng nghyffiniau tref farchnad hyfryd y fenni ac er mwyn cyrraedd fy nghanolfan roedd rhaid mynd heibio i stadiwm clwb pêl droed y dre mae enw'r tîm `abergavenny thursdays' bob amser wedi apelio ataf mae rhyw swyn arbennig yn perthyn iddo sefydlwyd y clwb ym ac mae'n debyg yr arferai siopwyr a'r bechgyn a gyflogwyd ganddynt drefnu gêmau ar eu prynhawn rhydd sef prynhawn dydd iau wrth gwrs roedd pethau ar i fyny ddiwedd yr ail ryfel byd pan brynodd y clwb gae'r `penypound' a chodi eisteddle newydd sbon a gwella'r cyfleusterau daeth tystysgrif clod i'w rhan am eu gwaith rhagorol gan neb llai na chymdeithas bêl droed cymru bu sawl pinacl yn hanes y `thursdays' dros y blynyddoedd ac roeddent yn un o aelodau cyntaf y gynghrair genedlaethol ym bu gan y clwb gyfleusterau ac adnoddau arbennig ar un tro ond y tristwch o weld y lle erbyn hyn yr eisteddle'n prysur droi'n adfail a golwg llwm dros ben ar y stadiwm yn gyffredinol a does fawr o raen ar y tîm ychwaith `mieri lle bu mawredd' yn ystod ail ran yr wythnos roeddwn yng nghyffiniau cwmbrân ac wrth gwrs roedd rhaid mynd i weld stadiwm newydd y clwb pêl droed bydd y brain yn gobeithio dychwelyd i'w cartref `ar ei newydd wedd' yn ionawr mae'r gwaith datblygu'n costio oddeutu £ miliwn ac wedi'u rhwystro rhag chwarae ar eu tomen eu hunain am dros flwyddyn er gwaethaf y canlyniad trychinebus yn hwlffordd yn ystod yr wythnos mae cyfle da ganddynt i gyrraedd ewrop am y chweched tro ddiwedd y tymor hwn mae'r hyfforddwr roger gibbins cyn chwaraewr spurs yn llawn canmoliaeth am y ffordd y mae'r tîm wedi chwarae eu gêmau cartref mewn tri lle gwahanol yn ystod y cyfnod hwn serch hynny daethant o fewn tri phwynt i ennill y bencampwriaeth y llynedd ac ar ddiwedd y tymor hwn mae'n debyg y bydd gan cwmbran fantais fawr dros y gweddill ohonom ar bapur beth bynnag gan y byddant yn chwarae o'u gêm olaf gartref mae'r sefyllfa hon yng ngwent yn dangos mor fregus yw byd y bêl gron `y fenni' ddoe `cwmbran' heddiw mor fuan y gall y rhod droi a does dim angen meddwl yn galed cyn dod o hyd i sefyllfaoedd tebyg mewn rhannau eraill o gymru oes mae dwy ochr i'r geiniog a'r gamp bob amser ydy glanio ac aros ar yr ochr iawn peter hughes griffiths rhaid canmol cpd tref caerfyrddin am fod mor barod i roi cyfle i fechgyn lleol chwarae yn y tîm cyntaf yn y gynghrair genedlaethol mae gan y clwb bellach bolisi clir gyda thimau o naw oed hyd at ddeunaw oed a hyfforddwyr arnynt gwelais yr ail dîm yn chwarae'n ddiweddar yn erbyn lido afan ar barc waun dew gyda nifer dda o ieuenctid yn dangos tipyn o frwdfrydedd ond mae yna sawl chwaraewr eto rwy'n siðr yn yr hen sir dyfed sy'n ddigon da i chwarae yn y gynghrair genedlaethol ac mae angen cael gafael arnyn nhw sgowtiaid peth da fyddai i glwb caerfyrddin gael nifer o sgowtiaid i fynd i chwilio am dalentau addawol eraill ar hyd a lled cynghreiriau sir benfro ceredigion a chaerfyrddin o'r cynghreiriau hyn y daeth rob fitzgerald wyn thomas dean rossiter wayne jones siôn meredith luke fayers tim hicks a jody thomas sef hanner y garfan bresennol rwy'n siðr fod `na eraill o gwmpas a allai chwarae i safon y gynghrair genedlaethol a'r tu hwnt i hynny profodd mark delaney aston villa matthew jones caerlþr a simon davies spurs fod hynny'n gwbl bosibl mae talent yn ein hysgolion hefyd a rhaid cadw llygad ar y rhai o ddyfed sy'n ennill eu capiau i dîm cenedlaethol yr ysgolion dyna oedd hanes rob fitzgerald wyn thomas ac yn fwy diweddar jody thomas gwn fod tomi morgan â'i glustiau a'i lygaid ar agor yn chwilio am dalentau newydd drwy'r amser ac mae hyn yn bolisi iach iawn ond mae dyletswydd arnom ninnau i fynd i weld rhagor o gêmau lleol yn y gorllewin `ma beth am sefydlu tîm o sgowtiaid o fewn y clwb a chreu rhwydwaith drwy ddyfed i gribo'r clybiau a chanfod mark delaney arall gallai'r sgowtiaid ddod ynghyd i gael hyfforddiant a chwrdd yn rheolaidd i drafod chwaraewyr byddai'r prif sgowt yn adrodd yn ôl i'r rheolwr a gallai arbenigwyr ddod i siarad â nhw a datblygu'r ddawn o sgowtio ie chwilio am fwy o dalentau lleol yw ein cenhadaeth bêl droed yng nghaerfyrddin a sefydlu grðp o sgowtiaid yw'r cam nesaf mae'n siðr fod un neu ddwy o sêr y dyfodol ymhlith y o fechgyn oed cynradd sy'n chwarae i dimau yn y ganolfan chwaraeon bob bore sadwrn yn nhre ioan nawr yw'r amser i gadw llygad arnyn nhw cardiau coch a melyn alun charles dw i bob amser yn edmygu pobl sy'n gallu meddwl am bethau newydd yn enwedig os ydyn nhw'n troi allan i fod yn bethau defnyddiol gan amlaf pethau rhyfeddol o syml ydy'r rhain ond pethau dylanwadol iawn serch hynny ydych chi'n cofio cwpan y byd pan chwaraeodd lloegr yn erbyn yr ariannin yn y gêm gogynderfynol yn wembley am awr yn y gêm honno nid oedd lloegr yn gallu torri trwy amddiffyn yr ariannin yna pan oedd chwaraewyr yr ariannin yn cylchynu'r reffarî o'r almaen rudolf kreitlein i anghytuno â phenderfyniad arall anfonwyd eu capten antonio rattin o'r cae am rai munudau gwrthododd rattin fynd a hyd yn oed ar ôl iddo ildio parhaodd i ddadlau o flaen y bocs brenhinol roedd pethau'n edrych yn hyll cadeirydd pwyllgor reffarîs fifa ar y pryd oedd ken aston fe oedd yn gyfrifol am y reffarjo yn y twrnamaint hwn aeth ar y cae i weld beth allai'i wneud llwyddodd i berswadio rattin nad oedd pwynt parhau i ddadlau a thrwy hynny niweidio awdurdodau pêl droed yr ariannin enillodd lloegr y gêm roedd y gêm hefyd yn arwyddocaol am reswm arall roedd y papurau newydd wedi adrodd bod jack a bobby charlton wedi cael eu bwcio ond ni chafwyd arwydd cyhoeddus o hyn gan y reffarî a gofynnodd rheolwr lloegr syr alf ramsey i fifa am eglurhad ceisiodd ken aston feddwl sut y gallai wneud y sefyllfa'n gliriach ac wrth iddo yrru i lawr stryd fawr kensington yn llundain troiodd y goleuadau traffig yn goch dywedodd wrtho'i hunan `melyn cymer bwyll coch stopia bant â ti ' cyflwynwyd cardiau coch a melyn i'r gêm yng ngêmau terfynol cwpan y byd ym brodor o colchester oedd ken aston fe'i ganed ym bu'n athro yn ysgol gynradd newbury park yn swydd essex am y rhan fwyaf o'i oes daeth yn reffarî ym fe oedd y reffari yn y gêm hynod honno yng nghwpan y byd rhwng chile a'r eidal ym a adnabyddir fel `brwydr santiago' datblygodd aston i fod yn gryn awdurdod ar reolau'r gêm bu farw ar hydref eleni yn oed nawrte faint ohonoch chi sy'n darllen hwn sy'n gyfarwydd ag enw ken aston dim llawer efallai a llai byth o'r to iau ond rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â system y cardiau coch a melyn a thrwy'r system honno y bydd cof am ken aston tra bo'r gêm yn bod dyma un o ddynion y pethau syml ond defnyddiol ac effeithiol ac ar ben y cwbl un a feddyliodd am welliant mawr yn y byd pêl droed a hynny yn enw tegwch mae'r pwysau'n anferth alun charles os ydy fy mathemateg i'n iawn mae o reolwyr o'r brif gynghrair a chynghrair y nationwide wedi colli'u swyddi'n barod yn ystod deng wythnos gyntaf y tymor hwn dangoswyd y drws yr wythnos hon i ddau sydd â chysylltiadau â chymru peter shreeves o sheffield wednesday a fu'n hyfforddwr gyda thîm cymru pan oedd terry yorath wrth y llyw a trevor francis o ddinas birmingham a ddaeth o hyd i wraig yn llanelli ond mae'r swydd hon fel rhyw gyffur a dymuniad y rhan fwyaf o reolwyr a gafodd gic yn eu pen ôl yw dychwelyd mor fuan â phosibl beth bynnag fu'r helynt neu'r miri dyna i chi peter taylor un mis ar ddeg yn ôl roedd taylor yn rheoli dinas caerlyr a oedd yn y trydydd safle yn y brif gynghrair a lloegr ar ddydd mercher hydref niwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo gan gaerlyr daeth yn rheolwr brighton and hove albion tîm yn ail adran y gynghrair nationwide fel mae pethau'n newid ar tachwedd y llynedd ar ôl i kevin keegan ymddiswyddo a chyn penodi sven göran eriksson roedd taylor wrth y llyw ar gyfer gêm lloegr yn erbyn yr eidal yn y stadio delle alpi yn turin dewisodd dîm yn llawn o chwaraewyr ifanc addawol a gwnaeth david beckham yn gapten mewn llai na blwyddyn roedd yn arwyddo cytundeb tair blynedd mewn lle digon di nod mewn cymhariaeth stadiwm withdean brighton mae'r pwysau'n anferth hyd yn oed ar y rheolwyr mwyaf disglair a ni'r cefnogwyr sydd ar fai yn aml meddyliwch am y ddeuoliaeth mae cefnogwyr manceinion unedig wedi rhoi'u bryd ar gyrraedd gêm derfynol cwpan ewrop ym mharc hamden ym mai er mwyn ffarwelio â syr alex ferguson mewn steil ond roedd rhai o'r un cefnogwyr yn barod am ei waed nos fercher diwethaf oherwydd methiant yr amddiffynfa pan gollodd y cochion yn erbyn deportivo la coruna mewn gêm wych yn old trafford yng nghynghrair y pencampwyr mae'n ymddangos bod y chwaraewyr yn dal i geisio dod i delerau â system newydd syr alex mae'r pwysau'n dweud yn bur ddifrifol ar rai meddyliwch am lerpwl dyna i chi salwch gerard houllier rheolwr presennol lerpwl beth amser yn ôl bu raid i graeme souness gael llawdriniaeth ar ei galon pan oedd ar lanau merswy a chofiwn mai ymddiswyddo wnaeth kenny dalglish oherwydd y pwysau oedd arno ac o sôn am albanwr pwy all anghofio marwolaeth jock stein rheolwr yr alban ar ôl gêm ym mharc ninian ym ac nid yw rheolwyr y gynghrair genedlaethol heb eu gofidiau ychwaith cofiwch beth sydd wedi digwydd i reolwyr port talbot a rhayader y tymor hwn yn barod mae'r pwysau'n mynd yn drymach fel y dywed tomi yn ei nodiadau heddiw mae chwarae rhan ar unrhyw lefel mewn clwb yn y gynghrair hon yn golygu llawer iawn o ymroddiad does dim rhyfedd bod llawer o fynd a dod ymhlith rheolwyr y dyddiau hyn beth bynnag fydd hynt a helynt ein gêm nid yw hynny'n debygol o newid llyr hughes griffiths `n ôl ar ddechrau'r tymor diwethaf mi wnes i ddarogan yn fy erthygl i'r rhaglen hon mai iwcraen fyddai'n ennill ein grwp rhagbrofol ar gyfer cwpan y byd gyda phwyl yn ail mi wnes i hefyd ddarogan mai'r ddwy gêm yn erbyn pwyl oedd y pwysicaf i gymru gan fod disgwyl inni gymryd pwyntiau llawn oddi wrth armania a belarws a dal ein tir yn erbyn norwy wythnos wedi hynny a ninnau wedi colli oddi cartref i belarws roedd fy nghynlluniau'n ffradach naw gêm yn ddiweddarach ac fe ddaeth ein buddugoliaeth gyntaf roedd hi'n fuddugoliaeth hir ddisgwyliedig a dweud y lleiaf gyda chenedl gyfan yn rhoi ebychiad o ryddhad nad ein cenhedlaeth ni oedd yn gyfrifol am y tîm cenedlaethol gwaethaf yn hanes y bêl gron yng nghymru byddai'r disgrifiad hwnnw wedi bod braidd yn annheg petai pethau wedi bod yn wahanol yn erbyn belarws yr wythnos ddiwethaf diau y byddai ambell i ohebydd wedi cael modd i fyw yn cymharu cymru â thimau gwaethaf y byd gan ein hatgoffa bob yn ail frawddeg nad oedd cymru wedi ennill ers tair gêm ar ddeg ar y llaw arall byddai eraill ychydig yn fwy caredig efallai yn ein hatgoffa mai dim ond dwy gêm yr oedd cymru wedi'u colli mewn naw sut bynnag rych chi am ddehongli'r canlyniadau dros y flwyddyn ddiwethaf does dim amheuaeth bod y perfformiadau wedi gwella mae mark hughes a'i dîm wedi cyflawni eu nod cyntaf sef gwneud cymru'n dîm anodd i'w curo y trueni yw na lwyddwyd i fynd un cam ymhellach a dechrau ennill ambell gêm yn enwedig mewn grwp lle'r oedd hi'n bosib cyflawni rhywbeth dydw i erioed yn cofio cymru'n llwyddo i osgoi'r timau mawr yn y rowndiau rhagbrofol o'r blaen ac er i'r grwp fod yn llai na deniadol oherwydd hynny mae'n rhaid cyfaddef imi gredu nad oedd hi'n amhosib i gymru allu cymryd pwyntiau o bob un o'u gêmau'r tro hwn mae llygaid pawb nawr yn troi at ddiwedd ionawr pan fydd yr enwau'n dod allan o'r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth ewrop yn mae'n debyg y bydd cymru ymhlith y detholion isaf unwaith eto bydd hynny'n sicrhau bod o leiaf tri thîm `gwell' yn yr un grwp a phwy a wyr gyda'r iseldiroedd wedi methu cyrraedd rowndiau terfynol cwpan y byd y gallan nhw fod yn drydydd o'r rheiny gan fod fy sgiliau darogan wedi cael eu profi'n gwbl anghywir y tro diwetha does ond gobeithio y bydda i'n anghywir gyda'r daroganau canlynol hefyd fe allwch chi fy ngalw i'n sinig ond rwy'n ofni y byddwn i gyd yn bwcio tocynnau ar gyfer tripiau i'r eidal yr almaen a'r iseldiroedd ar gyfer rowndiau rhabrofol croeso'n ôl i llyr diolch yn fawr iawn am dy gyfraniad y cyntaf o lawer y tymor hwn un o'r `mawrion' alun charles nid yn aml iawn y daw'r cyfle i groesawu un o'r `mawrion' i barc waundew ond yn sicr mae neville southall sy'n chwarae rhwng y pyst arbed penaltis mewn garddwest ond y tro hwn gobeithio cawn ei weld mewn gêm go iawn yn ei lyfr great british footballers mae trevor brooking yn ystyried southall yn un o'r golgeidwaid gorau yn y cyfnod diweddar ac mae'n mynd mor bell â dweud mai presenoldeb southall oedd un o'r prif resymau yr enillodd everton bencampwriaeth yr adran gyntaf ym ac eto yn yn enedigol o landudno dechreuodd ar ei yrfa broffesiynol gyda bury a fu yma ym mis awst ar ôl ymuno â nhw o winsford clwb yng nghynghrair swydd caer ym byr fu ei arhosiad yn bury un tymor yn wir cyn i everton ei fachu fe oedd y chwaraewr cyntaf a arwyddodd howard kendall roedd yn ar y pryd sy'n gymharol hen i bêl droediwr aeth peth amser heibio cyn iddo ennill ei le yn nhîm cyntaf everton ond buan iawn y gwnaeth ei farc ar ôl cymryd drosodd oddi wrth jim arnold roedd ganddo ran allweddol yn llwyddiant everton wrth iddyn nhw ennill amlygrwydd ar ôl bod gymaint yng nghysgod lerpwl cafodd brooking gyfle i weld southall sawl tro yn ystod y blynyddoedd yr enillodd everton y bencampwriaeth ym a yn aml iawn gwnaeth southall arbediadau a fu'n drobwynt mewn gêmau allweddol roedd ei allu i ragweld yn arbennig hefyd ei amseru a'i ddawn i arbed ciciau ynghyd â'i agwedd cadarnhaol a phenderfynol a'i ddewrder yn enwedig wrth fynd am y croesiadau isel roedd yn gawr o ddyn nad oedd yn ofni cymryd cyfrifoldeb yn yr amddiffynfa does dim rhyfedd iddo gael ei ddewis yn chwaraewr pêl droed y flwyddyn ym ac ennill ei gap cyntaf o lawer ym ac wrth gwrs bu'n graig o gadernid yn y gôl i gymru dros flynyddoedd lawer yn oed ym medi galwyd ar southall i chwarae yn y gôl dros llandudno swifts yn erbyn rhos aelwyd gan ei wneud yn un o'r chwaraewyr ieuangaf i ymddangos yn y gynghrair gymreig yn y gogledd ac y mae llandudno bob amser wedi bod yn bwysig i neville i'r fan hon y mae'n mynnu dychwelyd ar ôl pob gêm bron yn ddiymdroi yn un o'r talentau unigol mawr yn nhîm cymru yn ei gyfnod fel ian rush mark hughes a kevin ratcliffe mae'n drueni na chafodd neville gyfle i ddangos ei fedrau ar lwyfannau mawrion cwpan y byd a phencampwriaethau ewrop bu hon yn golled nid yn unig i neville ond hefyd i ddilynwyr pêl droed ym mhob cyfandir bill shankly alun charles rwyf bob amser wedi edmygu bill shankly cyn reolwr lerpwl roedd ei ddawn i drin geiriau a'i ffraethineb yn bethau i'w ryfeddu cofiaf yn dda adeg ei farw fel mae amser yn hedfan yn union ugain mlynedd yn ôl i ddydd sadwrn diwethaf y digwyddodd hynny roeddwn yn anfield gyda rhodri'r mab ar y sadwrn ar ôl iddo farw abertawe oedd yr ytmwelwyr fyddwn ni ddim yn anghofio gweld john toshack rheolwr yr elyrch yn tynnu top ei dracwisg o flaen y dyrfa ac oddi tano roedd crys lerpwl dyna ffordd go arbennig o dalu teyrnged i'w hen fentor diddorol oedd darllen dros y sul am lyfr newydd sydd wedi ymddangos am shankly sef the essential shankly revealing the kop legend who launched a thousand quips gan john keith robson books £ yn sicr dyma lyfr y mae'n werth ei ddarllen mae'n ymddangos mai un o'r geiriau mwyaf atgas yn y geiriadur gan shankly oedd `ymddeol' serch hynny dyma beth a wnaeth yn annisgwyl iawn ar gorffennaf ar ôl mlynedd yn rheoli lerpwl ac yntau'n oed dim ond deufis yn gynharach roedd lerpwl wedi ennill cwpan y gymdeithas bêl droed mae'n debyg mai er mwyn treulio mwy o amser â'i deulu y penderfynodd shankly ymddeol roedd y tensiwn a'r straen o reoli un o brif glybiau'r byd wedi dechrau dweud ar ei wraig nessie teimlai ei fod wedi anwybyddu'i deulu'n ormodol ond buan y gwelodd shankly mai camgymeriad oedd ymddeol a doedd e ddim yn gallu ymdopi â'r peth o gwbl bu'n mynd am gyfnod i faes hyfforddi lerpwl ym melwood ond achosai hyn anawsterau i'w olynydd bob paisley treuliodd amser hefyd yn bellfield maes hyfforddi everton gwnaeth beth gwaith elusennol a bu'n cynghori john king rheolwr tranmere a john toshack rheolwr abertawe ar y cyfan fodd bynnag ychydig iawn o gyfle a gafodd shankly i ddefnyddio'i wybodaeth a'i brofiad eang ac i roi halen ar y friw fel petai aeth lerpwl ymlaen i fwynhau mwy o lwyddiant yn nyddiau paisley nag yn nyddiau shankly golygai anfield bopeth i shankly meddai mewn cyfweliad teledu ychydig cyn ei farw `hoffwn gael fy nghladdu yno fe fyddaf yn cael fy nghladdu yno `mewn ysbryd' anfield oedd y peth mwyaf a ddigwyddodd i mi erioed' ac yn rhyfedd iawn os ewch i anfield rydych yn siðr o weld y dyn ei hunan oherwydd mae yno gofgolofn iddo felly mae'i `ysbryd' yno o hyd dylan ebenezar dychmygwch ddarganfod hen botel lychlyd dychmygwch wedyn rwbio'r llwch o'r gwydr a dychmygwch os gallwch chi fod dewin o'r dwyrain canol rhyw frawd i ali baba yn ymddangos mewn cwmwl o fwg a hwnnw'n ddewin diolchgar sy'n rhoi un dymuniad i chi beth fydde'r dewis hir oes cyfoeth cariad noddwr i gynghrair cymru ar ôl meddwl yn ddwys am hyn ac ar ôl di ystyru'r ferrari a britney spears doedd dim ond un dewis gweld cymru'n cyrraedd cwpan y byd mae llawer yn cofio cewri ond mae'n anodd credu bod cefnogwyr y cyfnod wedi gwerthfawrogi'n llwyr yr haf hyfryd hwnnw pwy fydde wedi dychmygu ar y pryd mai john charles a'i gyfeillion fydde'r unig dîm o gymru i gyrraedd prif lwyfan y byd pêl droed ma'r gêm yn anghenfil gwahanol iawn erbyn hyn mae pðdl y pumdegau yn fwystfil yn y milflwydd ac mae'r freuddwyd o gyrraedd cwpan y byd yn wel breuddwyd mae angen gwyrth neu frawd ali baba o'r botel mae llawer o wybodusion wedi ceisio deall a dadansoddi problemau tîm cenedlaethol cymru efalle y dylen ni dderbyn ein bod ni ddim digon da derbyn ein lle naill ochr i venezuela a kenya yn rhestr detholion fifa gwlad fach yw cymru wedi'r cwbwl does dim digon o chwaraewyr o safon ond dangosodd tîm terry yorath ar ddechrau'r au ein bod ni'n ddigon da gyda'r ysbryd a'r agwedd gywir gallwn gystadlu a hyd yn oed guro goreuon ewrop neu hyd yn oed oreuon y byd nawr fe ddylen ni rybuddio chi fan hyn rwy'n mynd i regi gall y geiriau nesaf achosi salwch dyma ni paul bodin pwy a ðyr beth fydde wedi digwydd tase fe wedi sgorio'r gic o'r smotyn yn erbyn rwmania does dim amheuaeth bod y gêm yn drobwynt i gymru rodd y tîm pêl droed ar drothwy cwpan y byd ac ar drothwy oes aur oes a fydde wedi efelychu llwyddiant y tîm rygbi yn y au bydde jpr a barry john yn ddim i gymharu ag eric young a barry horne yr un hen stori yw hi o hyd wrth i dîm marc hughes straffaglu drwy grðp rhagbrofol sydd unwaith eto'n ormod o brawf ond ynghanol yr holl esgusodion rodd na un yn disgleirio chwaraewr gorau cymru yn ddiweddar yw marc delaney mae'n anodd credu bod yr amddiffynwr a welwyd yn carlamu lawr yr asgell ar barc waun dew bellach yn herio mawrion y byd pêl droed ma'r ffaith bod y gynghrair genedlaethol yn cael ei hesgeuluso a'i hanwybyddu yn enghraifft o bopeth sy'n anghywir ym mhêl droed cymru dim mark delaney yw'r unig chwaraewr o'r gynghrair sydd wedi cymryd y cam i'r lefel uwch ond dyle llwyddiant delaney fod yn ysbrydoliaeth i chwaraewyr o gaernarfon i gwmbrân dyle fe hefyd fod yn ateb pendant i gau cegau rheiny sy'n amau gwerth y gynghrair genedlaethol a chyn i chi ofyn dwi ddim yn mynd i sôn am `gÔl ' galle ni siarad am oriau a llenwi tudalennau ond digon yw dweud nad pawb yn y bbc sy'n credu bod y byd yn hirgrwn mae pawb call yn gwybod bod y byd yn grwn o gwmpas waundew tymor o gwmpas waundew tymor