bwrdd rheoli ardal weithredu ffigurau sefydlwyd cymdeithas tai clwyd ynghanol y saithdegau yn gymdeithas dai elusennol i ddarparu tai rhent i bobl leol mewn angen yn enwedig yr henoed a theuluoedd ifainc ar incwm isel erys y bobl hyn yn flaenoriaeth gennym ond hefyd darperir tai gyda chefnogaeth ar gyfer yr anabl pobl ag anawsterau dysgu pobl sy'n dioddef o afiechyd meddwl problemau alcohol trais yn y cartref a'r ifanc sengl digartref rheolir gwaith y gymdeithas gan bwyllgor o aelodau gwirfoddol nid yw aelodau'r gymdeithas yn gwneud unrhyw elw ariannol y nod yw cynorthwyo pobl anghenus yn ein cymunedau i gael cartrefi cyfforddus ar rent y gallant ei fforddio cyflogir staff llawn amser i weinyddu'r gwaith o ddydd i ddydd mae'r gymdeithas wedi ei chofrestru hefo cynulliad cenedlaethol cymru ac yn gwneud defnydd o'r grantiau sydd ar gael i gymdeithasau tai mae'r grantiau hyn yn cyfrannu oddeutu o gost codi'r ty benthycir gweddill y gost gan gymdeithasau adeiladu a banciau ar ffurf morgais defnyddir rhent y ty i ad dalu'r morgais mae'r gymdeithas yn gwerthu tai i bobl leol trwy gynllun rhan brynu mae'r cynllun hwn wedi ei anelu at bobl sydd heb y modd ariannol i brynu ty ar y farchnad agored os ydych yn bodloni'r meini prawf gall y gymdeithas roi benthyciad di log o o gost y ty neu hyd at mewn amgylchiadau arbennig pan werthir y ty yn y dyfodol bydd y gymdeithas yn hawlio o'r pris gwerthiant mae manylion llawn ar gael yn ein swyddfeydd yn unol â deddf yr iaith gymraeg mae'r gymdeithas wedi mabwysiadu'r egwyddor y bydd yn trin y gymraeg a'r saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal ac wedi paratoi cynllun iaith sydd yn nodi sut y byddwn yn gweithredu'r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd cliciwch yma i lawrlwytho ein cynllun iaith gymraeg mewn ffurf acrobat