creigiau dathlu priodas arian llongyfarchiadau i mike a jenny macdonald fydd yn dathlu pum mlynedd ar hugain o briodas ddiwedd mis gorffennaf yn gwella'n dda da deall bod nigel griffiths parc y coed yn gwella'n raddol ac yn siriol tu hwnt ar ôl iddo dderbyn triniaeth fawr ar ei gefn yn ysbyty casnewydd yn ddiweddar mae ken sedgebeer yntau hefyd yn sionc ei gam ac yn mwynhau gwell iechyd erbyn hyn daeth rhyw dda allan o'r anffawd car newydd i pat gair am aur cafodd criw bach o blant llanhari gyfle yn ddiweddar i gystadlu ar y rhaglen gwis 'gair am aur' fe ddarlledir y rhaglen cyn diwedd y flwyddyn ar s c ac ymhlith y cystadleuwyr roedd elin haf williams a fuon nhw'n llwyddiannus a enillon nhw arian mawr bydd rhaid aros i weld camp ar y cae hoci daeth tîm hoci merched pontypridd dan oed yn fuddugol ym mhencampwriaethau cymru yn ddiweddar cynhaliwyd y rowndiau terfynol yn leominster ac fe gafwyd nifer o gemau cyffrous iawn yn y gêm derfynol pontypridd a orfu o gôl i ddim yn erbyn penarth un o sêr disgleiria'r tîm ydy anna macdonald llongyfarchiadau iddi ar gêm wych llun ar dudalen llongyfarchiadau i dim hoci pontypridd dan oed am ennill pencampwriaeth hoci ieuenctid cymru a noddwyd gan yr r a f ar ddydd sadwrn fed o fehefin aeth y merched i leominster am y rowndiau terfynol enillon nhw pob gêm gan guro wrecsam casnewydd y drenewydd i gyraedd y rownd derfynol yn erbyn penarth cipion nhw'r teitl gydag un gôl yn yr ail hanner i ddod â'r tlws hardd adre i bontypridd yn chwarae yn nhîm pontypridd roedd ria male charlotte evans anna macdonald mari davies leigh ann pritchard laura prosser sarah evans rowenna george emily scudamore natalie hardwicke emma winch cerys jenkins charlotte phillips viv reeves a vicky williams amser i ymlacio mae nifer fawr iawn o blant a phobl ifanc y pentref yn edrych ymlaen at gyfnod o wyliau a joio haeddiannol mae'n siwr wedi misoedd o chwysu uwch eu llyfrau dymuniadau gorau i bob un a fu'n wynebu arholiadau dros y misoedd diwethaf a gobeithiwn y bydd y marcwyr yn drugarog graddio llongyfarchiadau i rachel edwards parc y fro ar ennill ei gradd yng ngholeg prifysgol abertawe barbeciw ysgol creigiau gwahoddir pawb i farbeciw i'r teulu yn ysgol creigiau nos wener gorffennaf ed talentau'r tîm dan oed yn wynebu'r camera cyn troi i wynebu'r gelyn profiad mawr oedd croesi clawdd offa i chwaraewyr mor ifanc roedd john llewelyn a gareth davies yn falch o'u perfformiad ar ôl gweiddi a dwrdio arnynt drwy fisoedd y gaeaf nol i'r dechrau