j c wells prifathro seineg yng ngholeg y brifysgol llundain university college london ucl yr ydwyf ac mae fy niddordebau ymchwil wedi eu canolbwyntio ar faes seineg cyffredinol h y y disgrifiad phonetig a phonoleg o ieithoedd ac yn arbennig seineg yr iaith saesneg fel mamiaith yn ei holl amrywiadau y fi ydi awdur accents of english sef disgrifiad seinegol o amrywiadau'r saesneg fel mamiaith o gwmpas y byd ac awdur hefyd o longman pronunciation dictionary sef geiriadur ynganiad sy'n trafod yr ynganiad safonol nid yn unig yn lloegr ond yn yr unol daleithiau hefyd yn ogystal â bod yn bennaeth cadeirydd adran seineg a ieithyddiaeth yn ucl 'r wyf yn gyfarwyddwr ysgol haf y coleg mewn seineg seisnig lle y croeshawir dros gant o fyfyrwyr tramor bob blwyddyn yr wyf yn gyfrifol am y cyrsiau plinp phonology of english a plinx english accents ac yn diwtor o'r ma phonetics am lawer blwyddyn bum yn ysgrifennydd yr ipa cymdeithas ryngwladol phonetig ac yn olygydd ei chylchgrawn sef journal of the ipa 'r wyf yn para i wasanaethu ar gyngor y gymdeithas yn ddiweddar fe helpiais baratoi cased tâp awdio the sounds of the ipa cymerais ran gweithredol yn natblygiad sampa sef gwyddor phonetig safonedig parod i'r gyfrifiadur a ddarparwyd yn benodol ar gyfer ieithoedd yr undeb iwropeaidd ond sydd yn awr yn cael ei ehangu er mwyn rhoi darpariaeth i holl ieithoedd y byd trwy ymestyn popeth o'r siart ipa 'r wyf wedi dyfeisio grwp o setiau arwyddion seinegol fonts truetype ar gyfer ffenestri windows maent yn cynnwys yr arwyddion oddiar y siart ipa cyfredol i gyd hyd yn oed nodau diacritig a marciau oslef fe ellir eu prynu o'r adran seineg ac ieithyddiaeth yn ucl yn wahanol i setiau'r cystadleuwyr maent yn gynhwysfawr maent wedi eu penodi i'r bysedd yn synhwyrol ac nid ydynt yn ddrud i'w prynu cefais fy addysgu yn wreiddiol yn y clasuron astudiais ladin roeg ac hanes hynafol hyd at lefel a ac wedyn y clasuron yng nghaergrawnt lle yr oeddwn yn ysgolor coleg y drindod fe'm cyflwynwyd i ieithyddiaeth gan sidney allen ac fe'm cyfareddwyd gan seineg o'r cychwyn cyntaf trwy arweiniad john trim deuthym i ucl fel myfyriwr graddedig a gwnes yr ma o dan fry gimson ac o'connor ar ôl ennill yr ma fe'm penodwyd ar y staff academic a dyma 'rydw i wedi bod ers hynny saesneg yw fy mamiaith a siaradaf amryw o ieithoedd eraill gyda gwahanol safon o fedrusrwydd siaradaf esperanto yn rhugl ac 'r oeddwn yn llywydd cymdeithas ryngwladol esperanto universala esperanto asocio rhwng a fel glaslanc dysgais ladin roeg ffrangeg esperanto ac almaeneg wedyn fel oedolyn fe ddysgais gymraeg mae gennyf wybodaeth gwanach oddefol yn bennaf o eidaleg ysbaeneg is almaeneg a groeg fodern gallwch weld fy c v cryno a detholiad o fy nghyhoeddiadau fy nghyfeiriad electronig yw j wells ucl ac uk fy nhudalen groeso tudalen flaen ucl phonetics and linguistics tudalen flaen university college london adolygiad diweddaraf