article from the magazine golwg colli iaith mae owen sheers wedi ennill gwobrau am ei gyfrol gynta' o gerddi ond y wobr fwya' oll meddai fyddai medru siarad cymraeg stori gan lois eckley yn y cylchgrawn golwg mae'r bardd o gymru sydd wedi ennill gwobr ysgrifennwr ifanc y flwyddyn gan cylchgrawn vogue yn teimlo'n chwith nad yw e'n gallu siarad cymraeg mae owen sheers wedi mynd cyn belled a dweud nad yw e'n ystyried ei hun fel cymro llawn oherwydd na ddysgodd e'r iaith y mae ei fam a'i theulu yn ei medru yn ogystal a'i frawd bach hicyp yw ef ei hun meddai mewn cenhedlaeth o gymry go iawn hyd yn oed yn ei gyfrol o farddoniaeth ramantus the blue book a enillodd i owen sheers wobr eric gregory a gwobr ysgrifennwr ifanc y flwyddyn vogue does yna ddim dianc rhag yr iaith mae e'n defnyddio'r ddelwedd o gopi bwc glas ei frawd bach cymraeg i gynrychioli'r adroddiad addysg dadleuol a wnaed gan y llywodraeth yn ac sydd bellach yn cael ei adnabod fel brad y llyfrau gleision fe chwalodd yr adroddiad hwnnw fywyd diwylliannol a gwleidyddol yng ngymru am amser wedi hynny er nad ydw i na fy mrawd hynaf yn siarad cymraeg mae'r gerdd 'the blue book' yn gweld yr eironi sydd yna rhwng gwrth gymreigrwydd swyddogion y llywodraeth yn a llyfr ysgol fy mrawd bach sy'n frith o frawddegau cymraeg meddai owen fe geisiodd fy nheulu fy ngosod i mewn sustem addysg gymraeg ond yn naw oed roeddwn i'n rhy hen mae fy nghefndir cymreig yn bwysig i mi ac mae barddoniaeth yn rhywbeth yr ydw i wedi dod ar ei draws ers pan yn fach gyda fy nhaid yn trafod englynion a chynghaneddion ac roedd gan mam ddiddordeb mawr hefyd tirwedd corforrol cymru sydd yn fy niddori i yn fwy na ddim meddai wedyn wrth ddisgrifio'r gwahaniaeth mawr wrth symud i fyw i llanddewi rhydderch ger y fenni pan oedd e'n naw oed cyn hynny roedd e teulu wedi trulio cyfnod yn byw yn fiji yn y dwyrain pell mae fy mrawd ieuenga' yn siarad cymraeg yn rhugl ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi achosi anniddigrwydd ers deg mlynedd ar wahan i ddelweddau ei blentyndod ar ochrau mynyddoedd y fenni mae ei daid yn ffigwr amlwg a phwysig yng ngherddi owen sheers fe fu farw pan oedd y bardd yn un ar bumtheg oed ac fe gafod ei ddychryn gan gryfder ei deimladau o golled rydw i'n son tipyn am fy nhaid ac am ei farwolaeth meddai roedd e'n byw gyda ni yn ystod y chwe mis ola' dw i'n credu fod y marwolaeth cynta' i chi ei brofi pan oedd y rhywun yna'n agos iawn atoch chi yn cael effaith anferth arnoch chi fe gododd yr holl beth gwestiynau yn fy meddwl i am fywyd a'r holl gwestiynau mawr mae'r cerddi sydd yn y casgliad yn rhai ysgrifenais i gryn amser ar ol hynny fel yr un 'i sometimes wish that we had fought' pan dechreuais i sgrifennu am farwolaeth fy nhaid dw i'n credu mai dyna oedd fy ymateb gorau i i'r sefyllfa mewn yn ystyr roedd gallu sgrifennu cerddi yn gyfle i mi belhau fy hunan oddi wrth yr holl beth ond os yw cerddi owen sheers yn therapi maen nhw hefyd yn llawn teimladau personol fe fyddai rhai dynion yn gyndyn o roi eu teimladau ar bared fel y mae e'n ei wneud drosodd a thro mae rhai o'r cerddi sydd yma yn rhai personol yndyn ond mae hyn yn taro tant ym mywydau pobol eraill meddai drwy hynny rydyn ni'n gwneud y cysylltiad rhwng y personol a'r byd eang ac mae hynny'n cysylltu pobol sy'n ein gwneud ni'n llai o ddieithriaid i'n gilydd rhan o'r boddhad rwy' i'n ei gael o sgrifennu cerddi yw troi rhywbeth i mewn i gelfyddyd meddai owen sheers ac mae'r broses hynny a'r delweddau hynny yn eich pellhau chi rhag i chi greu rhywbeth sydd yn rhy bersonol ar ol dweud hynny mae na bobol sydd wedi darllen y gyfrol gynta' wedi dod ataf fi wedyn i ddweud fod darllen the blue book fel darllen fy nyddiadur i nid chwilio am brofiadau i bluo 'i bocedi ei hun y mae owen sheers mae e'n ymosod ar y beirdd hynny sy'n gloddesta yn enw barddoniaeth meddai mae'r cerddi gorau'n eu cyflwyno eu hunain i mi ac yn aros o gwmpas yn fy meddwl efallai y bydda yna chwe mis da rhwng y profiad a'r amser y bydda' i'n penderfynu mynd ati i sgrifennu amdano wedyn mae e fel petai'r profiad yn dal yno gyda fi ond gyda phopeth mae yna berygl o fod yn rhy sentimental ac mae'n bosib syrthio i drap y cliches barddonol mae'n rhaid i bob sgrifennwr wylio ma's am hyn y teimlad erchyll yna sy'n gwneud i chi wingo wrth ddarllen rhywbeth mae gwaith r s thomas yn un sydd yn llwyddo i ail gydio yn fy nychymyg i drwy'r amser a dyw e ddim yn sentimental mae yna adegau wrth gwrs pan dw i'n edrych yn ol ar fy ngwaith fy hun yn methu credu i mi ddweud rhywbeth yn yr ysgol y taniwyd diddordeb owen sheers ym myd geiriau dyna pam ei fod e'n gadarn o blaid cael bardd plant i gymru fe ges i fy nghyflwyno i waith y bardd ar pregethwr r s thomas gan athawon yn yr ysgol ac fe wnes i uniaethu gyda'i waith e tra'n byw yn y fenni meddai owen sheers dyna pryd y sylweddolais i fod yna iaith fel hyn i'w gael roedd y cerddi gwledig yma yn taro nodyn cryf iawn dw i'n credu fod y fford y mae barddoniaeth yn cael ei ddysgu yn yr ysgol yn arwain at y ffordd y bydd plant yn ei wynebu mewn bywyd drwy ddysgu sut i sgrifennu barddoniaeth mae'n gwneud darllenwyr barddoniaeth gwell hefyd ond mantais barddoniaeth yw ei fod e'n gyfrwng personol ac yn rhywbeth sydd yn effeithio nid yn unig y pum synnwyr ond y chweched a'r seithfed a'r lefel ddyfnach y rhythm a'r delweddau dyna i fi yw'r peth gorau am farddoniaeth ebrill