papurau briffio fe gafodd y papurau hyn eu comisynu gan y ganolfan er mwyn trosglwyddo gwybodaeth nid yw eu cynnwys o reidrwydd yn adlewyrchu barn eglwysi cytun cynnwys papur y cynulliad iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gan ann jones ac dyffryn clwyd awst papur y cynulliad a gogledd cymru gan janet ryder ac gogledd cymru medi papur diolchgarwch cymru gan y parchedig michael cruchley swyddog gwledig synod yr eddu medi papur ymgeiswyr lloches a charchar caerdydd gan y parchedig aled edwards gorffennaf papur angen ffenestri a drysau newydd gan y parchedig aled edwards ar gyfer eisteddfod genedlaethol papur adolygiad pwyllgor diwylliant cynulliad cenedlaethol cymru o'r iaith gymraeg hydref papur ymateb cymreig i safe borders safe haven chwefror mae croeso i chi gopio'r papurau hyn ond gofynnir i chi gydnabod hawlfraint y ganolfan diolchgarwch cymru gan y parchedig michael cruchley cynigir y papur briffio hwn i chi fel adnodd i baratoi ar gyfer gwasanaethau diolchgarwch eleni nid yw'n ddatganiad holl gynhwysol ar yr economi amaethyddol nac yn ddatganiad ar union faint ac ansawdd y cynhaeaf eleni y mae fodd bynnag yn cynnig manylion am y sefyllfa bresennol os ydych yn byw yng nghefn gwlad gobeithio y gallwch ofyn i ffermwyr lleol am wybodaeth uniongyrchol a hefyd eu gwahodd i gymryd rhan yn y gwasanaeth mae fy nghyn gyd weithwyr yng nghanolfan arthur rank wedi cynhyrchu eu papur briffio hwythau sy'n cynnwys gwybodaeth bellach am y sefyllfa tu hwnt i gymru byddai'n adnodd ychwanegol defnyddiol rwyf wedi ychwanegu rhai gweddïau byr yr hoffech eu haddasu o bosib neu eu defnyddio yn eu ffurf bresennol fe'u bwriadwyd fel sail i'ch gweddïau os gallaf fod o gymorth mewn unrhyw ffordd a wnewch chi gysylltu â mi os gwelwch yn dda defaid daw o gynnyrch mewnwladol crynswth amaethyddol cymru o ddefaid felly mae eu pwysigrwydd yn amlwg yn ystod y deng mlynedd diwethaf bu'r nifer o ddefaid ar gynnydd tua miliwn ar hyn o bryd ond bu gostyngiad yn y nifer o ffermydd ac o ganlyniad bu cynnydd yn y nifer o ddefaid mewn praidd ar gyfartaledd tua mae'r gostyngiad mawr yn y pris mae'r ffermwr yn ei gael am y defaid wedi ei haneru mewn deng mlynedd o ceiniog y kilo ym mawrth i ceiniog ym yn hunanesboniadol bu ychydig o welliant yn y pris yn ystod yr wythnosau diwethaf ond mae llawer yn bryderus am y prif arwerthiannau sydd i ddod cig eidion daw arall o'r cynnyrch mewnwladol crynswth amaethyddol yng nghymru o gig eidion gwelir yr un tueddiad cynnydd yn y nifer o anifeiliaid i ryw a gostyngiad yn y nifer o ffermydd a chynnydd ym maint y gyr yma fodd bynnag mae maint y gyr yn llai o wartheg ar gyfartaledd bu gostyngiad yn y pris ers o ryw i ar hyn o bryd mae'r prisiau tua'r un lefel ag y llynedd gwartheg godro daw pellach o gynnyrch mewnwladol crynswth amaethyddol cymru o wartheg godro gwelir yr un patrwm ag uchod i ddefaid a chig eidion bu cynnydd yn y nifer o wartheg godro a gostyngiad o yn y nifer o ffermydd a gyr o o wartheg godro ar gyfartaledd bu'r diwydiant cynnyrch llaeth o dan bwysau mawr o ran prisiau ac mae'n parhau i fod felly mae'r pris mae'r ffermwr yn ei dderbyn cryn dipyn yn is na'r gost o gynhyrchu mae llygedyn o obaith am welliant mewn taliadau i ffermwyr yn yr hydref ond mae ffermwyr llaeth ar fin cael eu gorfodi i adael y diwydiant oherwydd problemau ariannol moch yma eto gwelir yr un patrwm o ostyngiad yn y nifer o anifeiliaid ffermydd a phrisiau mae bodolaeth y diwydiant moch o dan fygythiad ac mae twymyn y moch a welwyd yn ddiweddar yn lloegr wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y sector bregus hwn o'r diwydiant amaethyddol fodd bynnag dengys adroddiad prisiau diweddar yn farmer's weekly godiad mewn prisiau cnydau rydym i gyd yn ymwybodol o effaith tywydd yr haf ar ein bywydau mae hyn yr un mor wir am gasglu cnydau mae'r tywydd anwadal yn golygu mai araf bu cywain y barlys a phrin wedi dechrau mae'r cynhaeaf gwenith byddai tywydd braf yn gwneud byd o wahaniaeth mae'r prisiau yn y sector hwn hefyd yn isel a chymysg yw'r arwyddion ansawdd achosion pryder mae'r adroddiadau digalon uchod yn dangos bod llawer o'r bobl sydd yn dibynnu ar amaethyddiaeth yn dioddef ar hyn o bryd mae'r ansicrwydd ynglyn â chymorth er enghraifft i'r rhai hynny mewn ardaloedd mynyddig llai ffafriol yn achosi pryder nid ffermwyr yn unig sy'n bryderus mae ansicrwydd yn y diwydiannau dwr nwy a dur yn golygu bod nifer o bobl yn bryderus iawn ynghylch eu dyfodol ac rydym yn sylweddoli ein bod i gyd yn dibynnu ar eraill am ein hanghenion beunyddiol rydym yn cymryd ein bwyd gwres golau a dwr yn ganiataol y rhy aml o lawer ac yn cymryd yn ganiataol bydd nwyddau dur ar gael i'n cynorthwyo yn ein bywyd beunyddiol mae'r diolchgarwch yn gyfnod i feddwl am eraill yn hytrach na ni ein hunain gweddïau dduw hael gallwn ddim ond rhyfeddu ar y modd rwyt yn darparu digonedd o fwydydd amrywiol ar ein cyfer ond mae llawer o'r bobl sydd yn darparu ein bwyd ledled y byd yn ei chael yn anodd i gael dau ben llinyn ynghyd nid ydynt yn cael tal teg am eu gwaith ac rydym yn cyffesu ein trachwant am brisiau rhatach a fydd yn niweidio'r cynhyrchwyr gofynnwn i ti faddau i ni a'n gwneud yn ymwybodol o'n dibyniant ar eraill am ein bwyd a'n hiechyd trwy iesu grist ein harglwydd amen o dduw ein creawdwr a'n eiriolwr gofynnwn i ti fendithio'r rhai hynny sydd yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol ar hyn o bryd gofynnwn i'r rhai hynny sydd yn gweithio yn y caeau gyda'r cnydau a'r anifeiliaid ofalu yn dyner am eu tir a'u hanifeiliaid gofynnwn i'r rhai hynny sydd yn ymwneud a phrosesu a dosbarthu ein bwyd fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldeb am safonau uchel gofynnwn i'r rhai hynny sydd yn llunio a gweithredu polisïau amaethyddol yn yr undebau ac yn y cynulliad fod a gofal am y bobl maent yn eu gwasanaethu fel gall y boblogaeth gyfan gael bwydydd da am bris teg trwy iesu grist ein harglwydd amen cymorth os bydd eich aelodau yn teimlo yr hoffent roi cefnogaeth i'r ffermwyr ar hyn o bryd gellir cyflwyno rhoddion i'r royal agricultural benevolent institution mae rabi yn gallu cyflwyno rhodd ariannol i ffermwyr a gweithwyr ar ffermydd sydd yn methu cael dau ben llinyn ynghyd i gynnal eu teuluoedd gobeithio bydd y nodiadau hyn o gymorth i chi wrth i ni geisio diolch i dduw am ei haelioni tuag atom a'n bod yn cael y fraint i gael digon o fwyd o bedwar ban y byd trwy gydol y flwyddyn gwybodaeth ychwanegol ar gyfer papur briffio'r cynhaeaf beth allwn ei wneud prynwch ffrwythau llysiau a chig a gynhyrchir yn lleol pan fo hynny'n bosib gall hyn olygu defnyddio ffrwythau a llysiau yn eu tymor yn hytrach na phrynu'r un nwyddau gydol y flwyddyn defnyddiwch gynnyrch lleol yn nigwyddiadau'r eglwys neu nwyddau masnach deg fair trade sydd wedi eu mewnforio e e te a choffi defnyddiwch farchnadoedd ffermwyr lle bo hynny yn bosib efallai na fydd gwahaniaeth mawr ym mhris y cynnyrch ond mae'r ffermwr yn cael yr arian yn uniongyrchol ac ni fydd y nwyddau wedi teithio mor bell ac felly byddant yn fwy ffres trefnir y marchnadoedd hyn i alluogi ffermwyr lleol i werthu nwyddau yn uniongyrchol i'r cwsmer chwiliwch am hysbysebion yn y papurau lleol am fanylion y marchnadoedd hyn os nad oes marchnad debyg yn eich ardal chi cysylltwch â swyddfa yr nfu neu'r fuw i ofyn a oes bwriad i gynnal marchnadoedd o'r math hyn prynwch nwyddau sydd yn dwyn logo'r tractor yn dynodi safon ffermio prydeinig byddwch yn ymwybodol o'r ffaith bod llawer o'r cig sy'n cael ei fewnforio yn enwedig porc a chig moch yn cael ei gynhyrchu o dan amgylchiadau nad ydynt yn cyfateb i safonau prydeinig er lles anifeiliaid defnyddiwch y rhuban gwyrdd fel arwydd o gefnogaeth i ffermwyr gellir cael rhubanau oddi wrth y swyddog gwledig gweler y cyfeiriad isod defnyddiwch weddïau sul y gweddïau yn gyson gellir cael copïau gan y swyddog gwledig neu swyddfa'r synod mae copïau cymraeg ar gael siaradwch a siopwyr lleol pobl sydd berchen caffis tai bwyta gwestai am brynu nwyddau ffres yn lleol ysgrifennwch at eich a c yr undebau ffermio a'ch papur lleol i fynegi eich cefnogaeth chi a'ch eglwysi i ffermwyr eglwys ddiwygiedig unedig cymru swyddog gwledig y synod parch michael j cruchley st andrews pentrosfa llandrindod wells powys ld nl ffon e bost michael urcwales demon co uk y cynulliad a gogledd cymru gan janet ryder ac gogledd cymru ddim yn berthnasol yn cael ei reoli gan y de rydym ar ein colled gwelwyd y penawdau yma yn rhy aml yn y wasg pan fydd cynulliad cenedlaethol cymru o dan fygythiad yn enwedig yng ngogledd cymru ers ei sefydlu ychydig dros flwyddyn yn ôl beth mae'r cynulliad cenedlaethol wedi ei gyflawni dros gymru cynulliad cenedlaethol i gymru gyfan yw hwn ac mae'r hyn y mae yn ei wneud neu yn ei gyflawni o fudd i gymru gyfan sefydlwyd ein llywodraeth genedlaethol etholedig cyntaf am flynyddoedd maith yn bennaf er mwyn darparu llywodraeth agored yr oedd er mwyn caniatau i'r penderfyniadau hynny a wnaed yn y gorffennol gan y swyddfa gymreig tu ôl i ddrysau caeedig gael eu gwneud yn gyhoeddus nid yn unig i'w gwneud yn gyhoeddus ond i'w trafod hefyd ac oherwydd hynny eu newid o bosib yn hyn o beth fu cynulliad cenedlaethol cymru yn llwyddiant ysgubol bu trafodaeth fanwl ar osod y gyllideb gosod grant cynnal y dreth i lywodraeth leol p'un ai oes yna arian cyfatebol ar gyfer arian amcan un o ewrop ar gael ai peidio cafodd cyllideb a blaenoriaethau pob adran eu gosod yng ngolwg y cyhoedd fe allai'r cyhoedd hynny fod wedi mynychu'r cyfarfodydd llawn cyfarfodydd pwyllgor neu fod wedi gwylio'r dadleuon sydd yn cael eu darlledu'n gyson mae'n bosib nad oedd pawb yn cytuno â'r penderfyniadau a wnaed ond gall neb herio'r ffaith bod gennym o bosib y system lywodraeth mwyaf agored yn y byd nid ar chwarae bach cyflawnwyd hyn rydym hefyd wedi ethol aelodau y gellir cysylltu â hwy drwy'r sianelau arferol megis y ffô n y post neu gymhorthfa ond hefyd trwy gyfrwng post electronig mae e bost yn caniatau hygyrchedd cyflym a ddylai yn ôl pob tebyg ennyn ymateb cyflym cyn hir fe geir cysylltiadau fideo mae'r rhain yn bodoli eisoes ym mhob ardal awdurdod lleol a byddant ar gael cyn hir mewn swyddfeydd etholaethol bydd hyn yn galluogi i'r cyhoedd siarad wyneb yn wyneb ag aelod cynulliad cenedlaethol o'u dewis ym mha bynnag ran o gymru y maent bu'r rhain yn llwyddiannau pwysig pan rydych yn ystyried i ba bwrpas y cafodd y cynulliad cenedlaethol ei sefydlu fodd bynnag sefydlwyd y cynulliad cenedlaethol ynghyd â disgwyliadau mawr o'r hyn y gallai ei gyflawni roedd llawer yn rhagweld y byddai'r cynulliad cenedlaethol yn gweddnewid cymru dros nos trwy gyfrwng ei benderfyniadau mae'n deg nodi y cafwyd siomedigaethau yn hyn o beth mae'r penderfyniadau yngln â chig eidion ar yr asgwrn a thalu yn ôl perfformiad yn enghreifftiau da o hyn lle roedd yr ewyllys i newid ymddengys yr oedd analluedd neu amharodrwydd gan rai i ddilyn cwys wahanol i loegr cafwyd siomedigaethau yn ogystal ar achlysuron pan ddilynwyd cwys wahanol i loegr caiff mentrau pwysig eu cloriannu i'r fath raddau yn y cyfryngau fel ei bod weithiau yn anodd i ddilyn cwys wahanol yng nghymru gan fod disgwyliadau'r cyhoedd mor uchel bydd y cyhoeddiad o san steffan ynglyn a blaenoriaethau gwario yn y gwasanaeth iechyd yn esiampl o hyn gall y blaenoriaethau hyn fod yn dra gwahanol i'r rhai a osodwyd gan jane hutt ysgrifennydd addysg a gwasanaethau cymdeithasol yng nghymru i genedl sydd ers cymaint o flynyddoedd wedi ufuddhau i orchmynion san steffan bydd dechrau dilyn cwys wahanol yn gallu ac yn siwr o achosi gwrthdaro wrth i'r cynulliad ddatblygu fe ellir disgwyl felly i'r gwahaniaethau hyn gynyddu bydd hyn yn ganlyniad naturiol o gael cynulliad cenedlaethol un y bu pobl yn brwydro amdano ers nifer o flynyddoedd ond a enillwyd gan fwyafrif bychan yn unig serch hynny mae hwn yn gynulliad cenedlaethol sydd wedi llwyddo i ddarparu yr hyn y cafodd ei sefydlu i'w ddarparu er gwaethaf llawer o adroddiadau negyddol gan y cyfryngau llywodraeth agored carai nifer ohonom gael mwy fyth rydym eisiau iddo gaffael y pwerau hynny a fyddai yn ei alluogi i fod yn wir lywodraeth i gymru ym mhob ystyr o'r gair am y tro rhaid i ni ddefnyddio'r hyn sydd gennym yn llawn gan lwyddo nid yn unig i gael llywodraeth agored ond adeiladu'r gymru yr ydym i gyd yn dymuno ei chael lle mae dyfodol i'n plant lle caiff pawb eu gwerthfawrogi a lle darperir ar gyfer pawb y cynulliad iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gan ann jones ac dyffryn clwyd gellir dadlau mai iechyd a gofal cymdeithasol yw'r maes polisi pwysicaf i'r cynulliad ers blynyddoedd mae gan gymru draddodiad clodwiw ym maes cyd ddarpariaeth i ddelio â costau afiechyd roedd gweledigaeth nye bevan a oedd yn sail i sefydlu'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol wedi ei seilio ar gynllun hunan gymorth meddygol glowyr tredegar yr adnabu pan oedd yn blentyn yn y degawdau a ddilynodd fodd bynnag mae'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol yng nghymru yn yr un modd ac ardaloedd eraill wedi cael ei wasgu i'r eithaf o ganlyniad i ddegawdau o dan fuddsoddi ynghyd â datblygiadau gwych a phoblogaeth sydd yn heneiddio ein swyddogaeth ni yw mynd i'r afael â'r materion sydd yn wynebu'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol yng nghymru i ddiweddaru ac ail strwythuro ein gwasanaeth iechyd fel ei fod yn canolbwyntio'n effeithiol ar anghenion a disgwyliadau'r cymry wrth i ni ddechrau'r ganrif mae fy nghyd weithiwr jane hutt yn rhinwedd ei swydd fel ysgrifennydd cynulliad a'm cyd aelodau pwyllgor wedi ymrwymo i wthio newidiadau a chodi safonau fel gall ein gwasanaeth iechyd fod o'r radd flaenaf unwaith eto un o rinweddau'r pwyllgor iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yw'r modd y mae'r aelodau wedi osgoi'r demtasiwn o gecru a sgorio mân bwyntiau a lesteiriodd rhai o'r pwyllgorau eraill bu'r drafodaeth wleidyddol yn un ddwys ond ni chaniatawyd i hyn amharu ar y pwyllgor ei hun rhaid diolch i'n cadeirydd kirsty williams am hyn a hefyd i jane hutt am ei hymrwymiad i wireddu cynwysoldeb a hefyd i'r ac ceidwadol david melding am ei barodrwydd i ymwneud â'r materion mae'r pwyllgor yn mynd i'r afael â hwy nid yw'r papur hwn yn ceisio cloriannu'r holl faterion a drafodwyd ond yn hytrach fe ganolbwyntir ar rai meysydd allweddol y bu'r pwyllgor yn ymwneud â hwy yn ystod y misoedd diwethaf gellir cael gwybodaeth fanylach ar y rhain a phynciau eraill naill ai gan ganolfan yr eglwysi ar gyfer y cynulliad cenedlaethol neu gan fannau gwybodaeth y cynulliad mewn llyfrgelloedd ledled cymru gan wefan y cynulliad http www wales gov uk neu gan eich ac cyllido mae'n amhosib gor bwysleisio pwysigrwydd y cynnydd mewn gwariant ar iechyd a gyhoeddwyd gan gordon brown fis mawrth ac a gadarnhawyd yn yr adolygiad gwariant diweddar ar draws y deyrnas gyfunol mae hwn yn darparu'r tyfiant parhaol mwyaf yn hanes y gwasanaeth iechyd cenedlaethol a chynnydd o dros mewn termau real i'r pedair blynedd tan gogyfer y flwyddyn ariannol a ddechreuodd fis ebrill roedd hyn yn golygu cynnydd o £ miliwn i gymru mae'r cynulliad wedi cytuno i drosglwyddo'r arian hwn yn llawn i gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal a £ miliwn ychwanegol o dan wariant mewn cyllidebau eraill o ganlyniad fe fydd gwariant ar iechyd yn yn cynyddu o ryw ar ôl caniatau chwyddiant caiff peth o'r arian ychwanegol ei glustnodi i awdurdodau iechyd a bydd yn gymorth i fynd i'r afael â phroblemau dyledion sydd yn wynebu bro taf dyfed powys a iechyd morgannwg bydd gwent a gogledd cymru yn gallu defnyddio eu cyfran i fuddsoddi'n fwyfwy mewn gwasanaethau anghenion brys dangosodd anghydfod ffliw y gaeaf diwethaf y pwysau mae gwasanaethau brys yn eu hwynebu pan fo galw mawr am eu gwasanaeth ym mis mai fe gytunodd y pwyllgor ddyraniad o £ miliwn o'r arian newydd a ddaeth o'r gyllideb i'w wario ar fynd i'r afael ag anghenion brys a rhestrau aros yn gyffredinol caiff yr arian ei ddyrannu yn ôl yr argymhellion a wnaed gan y gweithlu ar anghenion brys a sefydlwyd fis ionawr menter gofal llygaid ym fe adferodd y llywodraeth brofion llygaid yn rhad ac am ddim i bawb dros oed fis tachwedd penderfynodd y cynulliad ymchwilio i'r posibilrwydd o gynnig profion rhad ac am ddim i grwpiau eraill mewn perygl penderfynwyd gwario £ miliwn ychwanegol i leihau rhestrau aros am lawdriniaeth cataractau i wella sgrinio ar gyfer problemau llygaid pobl yn dioddef o glefyd y siwgr diabetic retinopathy ac i gynnig profion rhad ac am ddim i'r canlynol pobl o dras asiaidd afro caribiaidd pobl â nam ar eu clyw pobl â golwg mewn un llygad yn unig uniocular a phobl o dan fygythiad o retinis pigmentosa mae'r menter gofal llygaid yn unigryw i gymru o ganlyniad caiff cataractau a glaucoma eu canfod ynghynt a gellir cael triniaeth ynghynt anghydraddoldebau iechyd mae'r pwyllgor iechyd a gweinyddiaeth y blaid lafur yn ymrwymedig i roi blaenoriaeth i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau difrifol mewn iechyd ledled cymru yn y cymoedd mae o'r boblogaeth yn fwy tebygol o farw cyn cyrraedd oed nag yng nghymru yn gyffredinol ceir prawf pendant bod tlodi cartrefi gwael diweithdra a chwalu cymdeithasol yn cynnwys o fewn yr uned deuluol yn ffactorau pwysig mewn afiechyd ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar fformiwla ariannu mwy teg ar gyfer ein gwasanaeth iechyd a fydd yn dyrannu adnoddau ychwanegol i'r ardaloedd sydd â'r afiechydon mwyaf ond nid ydym yn gor bwysleisio effaith ariannu yn unig er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn iechyd a hygyrchedd at wasanaethau iechyd mae angen ehangu'r frwydr i gynnwys edrych ar y ffordd o fyw ffactorau cymdeithasol a ffactorau amgylcheddol rhaid i ni alluogi i gymunedau lleol ganolbwyntio ar eu blaenoriaethau unigol a sut i ddelio â hwy cymunedau yn gyntaf caiff cymunedau yn gyntaf ei seilio ar y cysyniad y dylai adfer ac adnewyddu cymuned renewal ateb anghenion a blaenoriaethau a bennir gan y cymunedau lleol eu hunain mae'n gysyniad cymreig a fwriedir i ateb anghenion ardaloedd mwyaf anghenus cymru rydym wrthi yn adolygu mwy na o raglenni nawdd o dan arweiniad y cynulliad sydd yn nodi anghenion ac anfanteision er mwyn nodi bylchau neu ddyblygu rydym yn bwriadu ad drefnu y rhain gan wella hygyrchedd a'u gwneud yn fwy hyblyg i ddarparu gwasanaethau yn fwy effeithiol ac i roi mwy o hawliau i'r bobl hynny y bwriedir y gwasanaethau ar eu cyfer rhaid i gymunedau yn gyntaf adeiladu ar sail llwyddiannau sydd yn bodoli eisoes nid eu dadwneud y mae angen fodd bynnag i ni weithio ar y cyd yn fwyfwy gan gynnig gwell gwerth am arian a gweithredu mwy effeithiol mae cymunedau yn gyntaf yn ddull o dargedu ardaloedd â phroblemau iechyd nodedig sydd yn cyfateb i ardaloedd difreintiedig cymru mae'n hollbwysig ein bod yn defnyddio'r cynllun cymunedau yn gyntaf i gymryd mantais o'r cronfeydd anferth yn y sector gwirfoddol a'r rhwydweithiau cymdeithasol lleol mewn cymunedau dyma gyfle i eglwysi gymryd rhan flaenllaw gan ddarparu arweinyddiaeth gymunedol a ffocws i'r bobl sydd yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig cymru strategaeth gyrfaoedd fis gorffennaf cyhoeddwyd gofalu am ofalyddion yn swyddogol gan y cynulliad hwn yw'r strategaeth newydd a drafodwyd yn fanwl gan y pwyllgor ac fe'i bwriedir i roi cefnogaeth i'r miloedd o ofalyddion ledled cymru nid oes y fath berson â gofalydd nodweddiadol mewn gwirionedd nid yw llawer o ofalyddion yn gweld eu hunain fel gofalyddion o gwbl ond yn hytrach fel rhieni plant partneriaid cymdogion a y y b dengys gofal am ofalyddion sut mae'r cynulliad yn gweithio i gefnogi gwir angen gofalyddion am gefnogaeth ymarferol cyngor a chymorth strategaeth camddefnyddio cyffuriau lansiwyd strategaeth camddefnyddio cyffuriau cymru ym mis mai ac fe'i croesawyd yn gynnes mae'n wahanol i'r strategaeth seisnig gan ei fod yn cynnwys cyffuriau cyfreithlon megis alcohol a chyffuriau presgripsiwn yn ogystal â chyffuriau anghyfreithlon ceir rhesymau da paham y gellir delio gyda'r ystod yma o gyffuriau o dan un strategaeth er enghraifft gall ffactorau tebyg arwain at gamddefnydd a cheir peth dyblygu yn y dulliau o ymateb i'r problemau mae'n amlwg bod consensws y dylwn gadw at y ffocws mwy cyffredinol hyn wrth fynd i'r afael â'r broblem ddifrifol hon yng nghymru mesur safonau gofal comisiynydd plant dychrynwyd cymru gyfan gan adroddiad waterhouse ar gam drin plant yng ngogledd cymru mae'r cynulliad wedi ymrwymo i weithredu argymhellion sir ronald waterhouse i gyd un o'r argymhellion allweddol yw apwyntiad comisiynydd plant â phwerau cyfreithiol i gynrychioli a gwarchod hawliau plant cytunodd llywodraeth y deyrnas gyfunol welliant yn y mesur safonau gofal er mwyn creu'r swydd hon ac ers mis mawrth bu'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol yn ymwneud yn fanwl â llunio'r ddeddfwriaeth hon a chofnodi yn fanwl union bwerau a chyfrifoldebau comisiynydd plant cymru a fydd tipyn ehangach na rhai comisiynydd lloegr ymgeiswyr lloches a charchar caerdydd gan y parchedig aled edwards tystiolaeth i bwyllgor cyfle cyfartal cynulliad cenedlaethol cymru gorffennaf diolchaf i'r pwyllgor am y cyfle hwn i gyflwyno tystiolaeth ar sail yr hyn a welais parthed amgylchiadau'r lloches ymgeiswyr a gedwir yng ngharchar caerdydd yn rhinwedd fy swydd fel cadeirydd rhwydwaith lloches ymgeiswyr caerdydd a'r cylch ac fel swyddog cyswllt yr eglwysi ar gyfer y cynulliad cenedlaethol rwyf yn mynegi fy niolch i gaplan y carchar y parch mark john ac i'r awdurdodau am ganiatáu i mi weld y carcharorion a gedwir yn adain f gofynnodd y caplan a'r carcharorion i mi ddod gerbron y pwyllgor hwn a'i dweud hi fel y mae ceisiaf wneud hynny hoffwn nodi'n ysgrifenedig fy mod yn argyhoeddedig bod yr awdurdodau yng ngharchar caerdydd wedi ceisio ateb gofynion ffydd y carcharorion mae hyn yn cynnwys darparu bwydydd arbennig gofal bugeiliol a chyfleoedd priodol i addoli er hyn rwyf yn cyflwyno i'r pwyllgor hwn farn bendant y cymunedau ffydd rwy'n eu gwasanaethu bod yr arferiad o osod lloches ymgeiswyr mewn carchardai yn enwedig carchardai o oes fictoria yn hollol anaddas mae eu cadw fel carcharorion yn y ddalfa a holl oblygiadau hynny yn israddol fore llun fe dreuliais ryw deirawr yng ngharchar caerdydd caniatawyd i mi ynghyd â'r caplan fod yn dyst i'r broses o dderbyn carcharorion o'r dg o dan yr amgylchiadau cawsant eu trin yn dda cawsant gyngor cyfreithiol mewn iaith yr oeddent yn ei deall gofynnwyd a oedd eu teuluoedd a'u ffrindiau yn ymwybodol o'u sefyllfa ac fe dderbyniodd bob un a oedd wedi ei ddedfrydu ddyddiad rhyddhau ac fe gawsant gardiau er mwyn i'w teuluoedd ymweld â hwy gall amgylchiadau'r lloches ymgeiswyr sy'n chwilio am loches fod yn dra gwahanol cefais ymweld â'r lloches ymgeiswyr ar adain f ar y diwrnod hwnnw roedd yn cael eu cadw yno asiaid oedd y mwyafrif gyda rhai o ddwyrain ewrop ac ambell un o ranbarth y sahara yn yr affrig mae gan y carchar lety i o loches ymgeiswyr erbyn hyn rwyf wedi gallu ymweld â'r lloches ymgeiswyr yn ystod cyfnod a elwir yn gyfnod cymdeithasu yn ogystal â'r cyfnodau roeddent wedi eu cloi yn eu celloedd cânt eu ryddhau o'r celloedd adeg prydau bwyd ac er mwyn cael ymarfer corff maent yn treulio ryw awr y dydd yn y celloedd fodd bynnag ddydd llun caniatawyd i mi dreulio cryn dipyn o amser ar fy mhen fy hun gyda dau o'r lloches ymgeiswyr treuliodd sic mwslemiad a christion gyfnod ar eu pen eu hun mewn ystafell fach yn gwrando ar straeon roeddent yn bobl galluog gwerthfawr mewn unrhyw gymuned a chanddynt gymwysterau ôl radd a sgiliau yn ogystal roedd un wedi dianc o erledigaeth crefyddol yn ei wlad ei hun wedi iddo gael troedigaeth o un agwedd o'i ffydd at agwedd arall pe credai nad oedd ei fywyd mewn perygl fe âi adref soniodd y ddau am brofiadau yr oedd yn eu tyb hwy yn israddol gofynnaf i'r pwyllgor nodi'r rhain wrth fynd i mewn i'r carchar maent i gyd yn teimlo cywilydd mae rhai yn teimlo'n eithriadol ofnus maent yn gwrthwynebu cael eu disgrifio a'u trin fel troseddwyr mae agweddau o fywyd yn y carchar megis cael eich dadwisgo yn anymunol i bawb mae'r profiad yn fwy anymunol hyd yn oed i bobl sydd yn parchu gwerth ac urddas y corff yn sgîl eu ffydd maent yn gwrthwynebu cael eu gweld yn gyhoeddus megis yn ysbyty'r brifysgol mewn gefynnau dywedodd un o'r lloches ymgeiswyr wrthum y byddai'n well ganddo farw na chael y profiad hwn eto mae diffyg cyswllt gyda ffrindiau a theuluoedd yn fater gofid dywedodd un o'r lloches ymgeiswyr wrthum pa mor anodd bu cael sgwrs ugain eiliad gyda'i fam yn india nid yw'n hawdd iddynt gysylltu a'u teuluoedd yn eu cartrefi dramor soniais ynghynt am fy nghred mai nid mewn carchar y dylai'r lloches ymgeiswyr gael lloches mae'n hollol anaddas tua diwedd fy nghyfarfod gydag un o'r lloches ymgeiswyr ddydd llun gofynnodd i mi syllu ar ei wyneb a welwch chi'r marc du ar fy ngwyneb gofynnodd ni allwn weld unrhyw farc rwyf innau'n gweld marc mynnodd hwn yw fy ngwarth awgrymaf i'r pwyllgor hwn mai ein gwarth ninnau ydyw ac fe ofynnaf i'r cynulliad ddatgan yn glir nid ydym yn trin pobl yn y modd hwn yng nghymru parthed cadw lloches ymgeiswyr yng nghymru gofynnaf i'r cynulliad cenedlaethol ddefnyddio'i holl bwerau yn ôl rhan o ddeddf llywodraeth cymru i ystyried y mater hwn sydd yn amlwg yn effeithio ar gymru ac i ymateb yn addas i weinyddiaeth llywodraeth y dg angen ffenestri a drysau newydd myfyrdod ar gyfer wythnos yr eisteddfod profi'r ddameg gyda gwyl eisteddfod y cymry'n agosáu profwyd dameg gyfoes aeth cristion a chymraes ifanc deunaw oed i fferyllfa rhywle ar gyrion caerdydd gan wybod bod cynulliad cenedlaethol cymru wedi darparu cynllun presgripsiwn am ddim i bawb rhwng a oed aeth ati i weld sut y gallai person ifanc fanteisio ar y ddarpariaeth er mawr syndod iddi gwelodd nad oedd y taflenni presgripsiwn yn cynnwys darpariaethau arbennig y cynulliad gyda biro bydd staff ambell fferyllfa yn gwasgu amodau arbennig cymru ar gefn y daflen presgripsiwn y mae'r cynulliad fel corff yn amlwg yn anadlu ond yn wyneb greddfau gweinyddol yr hen drefn y mae'n cael ei hun yn byw rhwng bocsys ychydig efallai yw'r bobl ifanc hynny sy'n gwybod am y ddarpariaeth hon a phrin efallai er gwaethaf holl ymdrechion yr awdurdodau a'r proffesiwn yw gwybodaeth ambell un sy'n gwerthu'r moddion mentraf awgrymu taw nid ar lawr pwyllgorau'r cynulliad y bydd y frwydr dros feddyliau a chalonnau pobl yn cael ei hennill yngln â datganoli ond yng nghanol yr ymwneud cymhleth hwnnw er enghraifft sy'n digwydd rhwng fferyllwyr a phobl ifanc mae angen ffenestri a drysau newydd ar y broses diffyg deall gwelwyd diffyg gwybodaeth yr un mor ddifrifol parthed polisïau'r cynulliad mewn meysydd eraill cafwyd ymdrechion clodwiw ar ran y sefydliad i gynorthwyo pobl ifanc sy'n ddigartref yn benodol ymestynnwyd categorïau'r rhai hynny ellir eu gosod fel blaenoriaeth ar restrau tai yng nghymru penderfynwyd cynnwys pobl ifanc rhwng ac oed ieuenctid sy'n gadael gofal a'r rhai sydd efallai'n gorfod osgoi camdriniaeth neu drais rhagdybir taw ychydig ymysg yr ifanc sy'n gwybod am ddarpariaethau'r cynulliad mae'r ieuenctid sy'n parhau i fyw ar y strydoedd mewn dinasoedd fel caerdydd ac abertawe yn llawer rhy brysur yn cynnal eu hunain o ddydd i ddydd i wybod beth sy'n mynd ymlaen mewn llysoedd gwleidyddol ceir gagendor enbyd rhyngddyn nhw a'r gwleidyddion sy'n ymdrechu i'w cynorthwyo y mae angen drysau a ffenestri newydd ar y ddarpariaeth dallineb yr hynafgwyr erbyn hyn ceir tystiolaeth gadarn nad yw hyd yn oed rhieni dosbarth canol a deallus cymru yn gwybod beth y mae'r cynulliad yn ei wneud yngln â'r hyn sydd o bwys personol iddyn nhw nodaf enghraifft fel grp mae'r rhieni sy'n ymgyrchu dros blant â gofynion addysg arbennig yn eithaf egniol a huawdl yn ddiweddar yn sgil ymdrechion i newid y côd ymarfer cymreig ar gyfer addysg arbennig anfonodd un grp holiaduron at nifer o rieni cafwyd atebion yn dangos bod o'r rhai a holwyd yn gwybod dim am drafodaethau cwbl allweddol y cynulliad ar ddyfodol addysg eu plant gellir rhagweld yr un diffygion yn codi gyda hyn ynghylch yr oedrannus a'r llesg yn gynnar yn y flwyddyn newydd mae'r cynulliad yn gobeithio cyflwyno cynllun unigryw a fydd am gyfnod o chwe wythnos yn cynnig gofal cartref am ddim i gleifion sy'n cael eu rhyddhau o ysbytai amser a ddengys faint fydd yn cael clywed am y cynllun buddiol ac arloesol hwn prin iawn mae gennyf ofn fydd y rhai fydd yn cysylltu'r polisi a'r cynulliad nid yw'r ffenestri a'r drysau yno ar gyfer ymwybyddiaeth o'r fath dehongli rhaid cyfaddef hefyd taw prin ymysg pobl cymru fu'r dehongli a'r delweddu gwleidyddol hwnnw sy'n gorwedd wrth hanfod egluro unrhyw broses wleidyddol iach nid gwaith yr eglwysi ydi cyflwyno `spin' gwleidyddol ar gyfer y cynulliad ond gan nad yw'n cael ei wneud yn aml iawn mentrir awgrymu ambell beth o bwys `llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion' meddai'r efengyl ` fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi' tros gyfnod o ddwy flynedd daeth llu o ystadegau i law sy'n amlygu manteision a chost datganoli ar ei wedd gymreig bu'r manteision yn niferus erbyn hyn ar gyfer pob aelod o'r cynulliad cafwyd chwe nyrs ychwanegol athro ychwanegol a lleihad o yn niferoedd y di waith yn fwy allweddol efallai o gofio brwydrau cynnar y cynulliad dros arian amcan un eisoes derbyniwyd sêl bendith yr awdurdodau ar grantiau ewropeaidd werth £ miliwn yn nhermau gosod pwysau gwleidyddol ar y trysorlys mae'r ffigwr hwn yn cynrychioli £ miliwn ar gyfer pob aelod o'r cynulliad ar ben hyn gellir disgwyl £ miliwn arall fel arian cyfatebol maes y bydd eglwysi a chymdeithasau gwirfoddol yn cadw golwg praff arno yn y dyfodol fydd gweithgareddau ymddiriedolaethau'r deyrnas gyfunol ceir tystiolaeth bod cymru hyd yn gymharol ddiweddar oherwydd diffyg proffil mae'n debyg wedi colli miliynau yn nhermau dyraniadau elusennol ym mis mawrth clywodd rhai o aelodau'r cynulliad a chynrychiolwyr o'r byd gwirfoddol yr ystadegau diweddaraf ar sut y bu i o ymddiriedolaethau ddyrannu £ biliwn drwy'r deyrnas gyfunol ond £ miliwn o'r cyfanswm sylweddol hwn a ddaeth i gymru daeth tro ar fyd mewn ambell gornel oherwydd presenoldeb cymreig cryf ar yr arc addington fund llwyddwyd yn ystod argyfwng y clwyf traed a'r genau i ddosbarthu dros £ miliwn i deuluoedd amaethyddol yng nghymru y mae pobl cymru eto i glywed beth fu manteision dyfodiad y cynulliad yn nhermau ychwanegu llais penodol cymreig ar bolisïau prydeinig eisoes gwelodd yr eglwysi wahaniaeth ar fyd trwy gydweithrediad newydd a'r cynulliad ac ysgrifennydd gwladol cymru yn dilyn pwysau gan gyngor partneriaeth gwirfoddol y cynulliad er enghraifft gwelodd jack straw yn dda i ddileu costau ymholiadau'r heddlu ar gyfer cofrestru'r rhai sydd i weithio gyda phlant arbedodd hyn rhai cannoedd o filoedd i gymdeithasau gwirfoddol cymru wrth gwrs mae'n rhaid cydnabod bod y cynulliad ei hun yn costio ac fe gafodd ei drafferthion yn ystod blwyddyn cyntaf y sefydliad darparwyd £ miliwn ar gyfer `swyddfa'r llywydd' bu ambell un yn y wasg gymreig yn cyfri'r gweision sifil ac yn cynnig sylw ar gostau pob drws a phorth o'r bron fe'i gwelwyd gan ddefnyddio geiriau'r efengyl fel phariseaid yn `hidlo gwybed ac yn llyncu camelod ' bu adrodd stori'r cynulliad yn y wasg gymreig ar brydiau yn wirioneddol fach ar ddiwedd y dydd y ffigyrau mawrion yn nhermau'r economi iechyd a llywodraeth leol ddylai fynnu'n sylw fel pobl wrth or ganolbwyntio ar gostau'r cynulliad byddwn yn trafferthu ynghylch llai na o'r gyllideb gymreig y neges gellir dadlau y dylai'r cynulliad y wasg a'r cyfryngau cymreig edrych o'r newydd ar sut y mae stori datganoli yn cael ei hadrodd efallai fod hynny'n wir ond yn y cyswllt hwn gall unrhyw un weld brycheuyn yn llygaid ei frawd ceir terfyn pendant i allu'r cynulliad yn nhermau hysbysebu ceir pwysau masnachol hefyd ar y wasg a'r cyfryngau efallai y dylai cymdeithas ddinesig gymreig edrych yn hytrach ar y trawst sydd yn llygaid ei hun ac arddel cyfrifoldeb newydd yn nhermau trosglwyddo gwybodaeth sydd o fudd i gymdeithas gorwedd llwyddiant datganoli nid yn yr hyn y gall llywodraeth ei wneud dros gymdeithas ond yng ngallu y gymdeithas gymreig i gyflawni pethau drwy lywodraeth yn wyneb hyn rhagwelir y gallai ymddiriedolaeth ddinesig sy'n rhannu gwybodaeth ac yn addysgu drwg gymru gyfan weithredu fel ffenestri a drysau gwerthfawr i broses wleidyddol ifanc fe all y gymdeithas ddinesig gymreig weithredu fel ffenestri a drysau ond erys yr hyn sy'n perthyn i gynnal ac amddiffyn polisïau a phenderfyniadau gwleidyddol gyda'r gwleidyddion hynny sy'n eu creu yn y lle cyntaf dylai'r eglwysi yn fwy na neb barhau i arddel yr hawl i ddweud dameg boed hynny i ganmol ac i hyrwyddo neu weithiau i herio adolygiad pwyllgor diwylliant cynulliad cenedlaethol cymru o'r iaith gymraeg ymateb canolfan yr eglwysi ar gyfer y cynulliad cenedlaethol y deml heddwch parc cathays caerdydd cf ap e bost eglwysi nationalassembly freeserve co uk cyflwyniad cyflwynir yr adroddiad hwn gan ganolfan yr eglwysi ar gyfer y cynulliad cenedlaethol mae'r ganolfan yn gwasanaethu cytÛn eglwysi ynghyd yng nghymru sef y gynghrair gynulleidfaol byddin yr iachawdwriaeth cymdeithas grefyddol y cyfeillion eglwysi y bedyddwyr cyfamodol yr eglwys fethodistaidd yr eglwys ddiwygiedig unedig undeb yr annibynwyr cymraeg undeb bedyddwyr cymru eglwys bresbyteraidd cymru yr eglwys gatholig rufeinig a'r eglwys yng nghymru mae nifer o eglwysi wedi penodi arweinyddion neu staff penodol i oruchwilio materion sy'n ymwneud a'r iaith gymraeg penododd yr eglwys gatholig yr esgob daniel mullins i oruchwiliaeth o'r fath byddai sawl un yn dadlau yn nhermau hanes na fyddai'r gymraeg yn fyw heddiw oni bai am ei pherthynas â'r ffydd gristnogol bu'r beibl cymraeg y llyfr gweddi gyffredin emynau'r genedl a chyfraniad parhaol capel a llan yn gorwedd wrth hanfod parhad yr iaith rhyngddynt mae gan yr eglwysi a enwir uchod brofiad helaeth o wasanaethu cymunedau ieithyddol y gymru gyfoes mae cytÛn fel corff eglwysig yn arddel polisi gwbl ddwyieithog ac mae'r eglwysi mewn amrywiol ffyrdd yn cynnal ac yn hyrwyddo'r defnydd a wneir o'r iaith gymraeg ym mhob rhan o gymru boed hynny'n wledig neu'n drefol dengys yr ystadegau cenedlaethol diweddaraf yngl n ag addoliad ar y sul bod eglwysi cymru yn arddel patrwm ieithyddol amrywiol a chyfoethog defnyddir y gymraeg yn unig yn o'r eglwysi saesneg yn unig yn o'r eglwysi ac mae pellach yn addoli'n ddwyieithog bydd y sy'n weddill yn cynnal rhai gwasanaethau cymraeg a rhai yn saesneg mewn ardaloedd poblog gwelwyd yr eglwysi yn gwasanaethu nifer o gymunedau ethnig lleiafrifol cynhelir gwasanaethau mewn ieithoedd fel lladin norwyeg groeg a chantonieg dogfennau cytÛn a'r iaith gymraeg ar dro'r ganrif ddiwethaf cyhoeddodd cytÛn dwy ddogfen sy'n ymwneud yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol â chwestiwn yr iaith gymraeg cyfeirir atynt fel dogfennau cefndirol gwerthfawr yng nghyswllt cylch gorchwyl ymgynghoriad presennol pwyllgor diwylliant y cynulliad cenedlaethol yn arbennig mewn meysydd sy'n ymwneud â gallu unigolion i ddefnyddio'r naill iaith neu'r llall chefnogi'r gymraeg fel iaith y teulu a'r gymuned darparu cyfleoedd i bobl ddysgu cymraeg a'i defnyddio a hyrwyddo parch cyfartal tuag at y gymraeg a'r saesneg a chynnal y consensws a'r ewyllys da genedlaethol at ddwyieithrwydd mae cymru cymdeithas foesol mehefin yn cynnig ymateb ecwmenaidd i rai materion moesol yng nghymru trafodwyd cwestiynau allweddol fel teulu a chydberthynas addysg gofal iechyd a gofal cymdeithasol tai a'r digartref gwaith a pholisi economaidd a threfn llywodraeth yn chwefror cyhoeddodd yr eglwysi ddogfen iaith a diwylliant cymru dan nawdd gomisiwn cytun ar gymru a'r byd hon yw'r unig ddogfen o eiddo'r holl eglwysi trwy cytÛn sy'n trafod mewn modd uniongyrchol yr iaith gymraeg a gofynion y gymdeithas amlieithog gymreig gofynnwyd i'r gweithgor a fu'n gyfrifol am gynhyrchu'r adroddiad a fyddai'n · gosod sylfaen athrawiaethol ddiwinyddol dros bwysigrwydd y gymraeg · chwilio'r sylfeini moesol dros gydberthynas mewn cymdeithas amlieithog · chwilio ffyrdd i'r eglwysi gydweithio â'i gilydd i hyrwyddo'r gymraeg yng nghyswllt gwaith yr hyn a ystyrir yw teyrnas dduw yng nghymru · ystyried problemau ymarferol sy'n rhwystro hybu'r iaith gan gynnwys barnau a rhagfarnau amrywiol ac argymell sut y gallai'r eglwysi fynd i'r afael a'r rhain · awgrymu sut y gall yr eglwysi hybu iaith a diwylliant cymru iaith a ffydd wrth drafod yr hyn a ddywed y beibl am iaith tarddiad cenhedloedd a nodweddion cenedl daw iaith a diwylliant cymru i nifer o gasgliadau sy'n llywio ac yn cyfarwyddo ymateb rhan helaeth o'r traddodiad cristnogol yng nghymru i ofynion y rhai hynny sy'n arddel ac yn ymarfer yr iaith gymraeg yn allweddol awgrymir taw nid ffrwyth gweithgarwch dynol yw iaith ond gweithgarwch sy'n dwyn sêl bendith duw yng nghyswllt y testament newydd nodwyd taw trwy gyfrwng mamiaith ei genedl ei hun aramaeg y dewisodd iesu ddysgu ei ddisgyblion a phregethu i'w gydwladwyr i nifer o eglwysi mae mater yr iaith yn ymwneud yn uniongyrchol â ffydd iaith a chened daeth iaith a diwylliant cymru i drafod ac i ddyfynnu sylwadau emrys ap iwan ni fyddai holl eglwysi cymru yn gosod yr un pwyslais ar gyfraniad diwinyddol emrys ap iwan ond mae'n mynnu lle anrhydeddus yn arbennig ymysg yr enwadau hynny sydd â'u gwreiddiau'n ddwfn yn hanes cymru a'r cymunedau hynny sy'n arddel yr iaith gymraeg yn eu bywyd a'u cenhadaeth daw'r un dyfyniad hwn at graidd ei ddadl ddiwinyddol ynghylch cenedl a iaith cofiwch yn mlaenaf eich bod yn ddynion o'r un gwaed a'r saeson a'r bwyriaid a'r caffiriaid a'r sineaid am hynny byddwch barod i roddi iddynt hwy bob braint a fynnech ei chael i chwi eich hun cofiwch yn ail eich bod yn genedl trwy ordeiniad duw am hynny gwnewch yr hyn a alloch i gadw'r genedl yn genedl trwy gadw'i hiaith a phob peth gwerthfawr arall a berthyno iddi gan i dduw eich gwneuthur yn genedl ymgedwch yn genedl gan iddo gymeryd miloedd o flynyddoedd i ffurfio iaith gyfaddas ichwi cedwch yr iaith honno canys wrth gydweithio â duw yn ei fwriadau tu ag atoch bydd yn haws ichwi ei gael wrth ei geisio `y ddysc newydd' a'r hen homilïau creu cenedl ddwyieithog gwnaeth iaith a diwylliant cymru dri chyfraniad pwysig i fywyd a chenhadaeth yr eglwysi · galluogi cristnogion yng nghymru cymraeg a saesneg eu hiaith gan gynnwys y rhai sydd newydd symud i fyw yng nghymru i werthfawrogi'n llawnach arwyddocâd yr iaith gymraeg a'i lle yn natblygiad cymru a bod yn fwy effeithiol mewn tystiolaeth gristnogol gyfoes · awgrymu ffyrdd i'r eglwysi ymateb i natur ddwyieithog y gymdeithas gymreig hyd yn oed mewn ardaloedd traddodiadol cymraeg tybiwyd bod gwir angen am hyn os yw'r holl eglwysi i'w gwreiddio oddi fewn i'r gymdeithas gymreig gyfoes ac adlewyrchu ei hanghenion a'i gobeithion yn eu bywyd a'u haddoliad · rhoi cyfle i gristnogion y tu allan i gymru i werthfawrogi ychydig o'r cyfoeth sydd â'r gael i'r eglwysi yn y cenhedloedd hyn ac yn fyd eang drwy'r iaith a'r diwylliant cymraeg ar y cyfan felly mae eglwysi cymru'n rhannu dyhead y cynulliad cenedlaethol i greu cymru ddwyieithog ac yn gwerthfawrogi'r cyfle a gynigir gan yr adolygiad hwn i awgrymu strategaeth bendant o'r camau tuag at gyflawni'r nod honno strategaeth ar gyfer creu cymru ddwyieithog deddf iaith newydd mae nifer o eglwysi eglwys bresbyteraidd cymru ac adran gymraeg undeb bedyddwyr cymru wedi gofyn am ddeddf iaith newydd fyddai'n gwneud cymraeg a saesneg yn ieithoedd swyddogol yng nghymru mynegwyd yr argyhoeddiad hwn yn fwyaf arbennig gan eglwys bresbyteraidd cymru yn ystod cymanfa gyffredinol nodwyd nad yw'r ddeddf bresennol yn corffori darpariaeth sy'n gwneud y gymraeg yn iaith swyddogol yng nghymru nid yw'r ddeddf bresennol yn gosod unrhyw gyfrifoldeb ieithyddol ar y corfforaethau gwladol a breifateiddiwyd cyrff megis y byrddau dwr trydan a'r rheilffyrdd gan fod y cyrff a breifateiddiwyd yn darparu gwasanaethau hanfodol i'r dinesydd a gwasanaethau sydd o natur monopolistig ni ddylid eu heithrio rhag cyfrifoldebau deddf iaith nid yw'r ddeddf ar hyn o bryd yn rhoi'r hawl i'r dinesydd sy'n dymuno defnyddio'r gymraeg yn ei ymwneud â chorff cyhoeddus i wneud hynny yn absenoldeb cynllun iaith yn ogystal gwêl eglwys bresbyteraidd cymru nad yw'r ddeddf bresennol yn caniatáu dewis rheithwyr sy'n deall cymraeg a chafwyd yr argyhoeddiad y dylai bob plentyn ag ieuenctid dan oed sy'n siarad cymraeg dderbyn yr hawl i gael unrhyw achos gyfreithiol am gamdriniaeth yn ei erbyn neu y mae ef neu hi yn barti i'w gynnal yn yr iaith gymraeg trafodwyd hyn yn sgil cam drin plant yn hen siroedd clwyd a gwynedd credir y dylid rhoi hawl i bob achwynydd dderbyn iawndal gan gorff cyhoeddus pan ddioddefodd sarhad neu golled uniongyrchol oherwydd methiant y corf cyhoeddus i weithredu ei gynllun iaith yn ddiweddar mynegodd nifer o arweinyddion eglwysig eu hanniddigrwydd ynghylch amharodrwydd neu fethiant y criminal records bureau yn lerpwl i ddarparu gwasanaeth cymraeg cyflawn a phrydlon credir hefyd y dylai bod gan bawb mewn carchar canolfan cadw neu unrhyw sefydliad cyffelyb a weinyddir gan yr ysgrifennydd cartref yr hawl i gynnal cyfweliadau a pherthnasau ac eraill yn gymraeg yr hawl i dderbyn a danfon gohebiaeth yn y gymraeg ac i dderbyn llyfrau a ffilmiau cymraeg a'r hawl i dderbyn gwasanaeth caplan cymraeg comisiwn mae rhai eglwysi eglwys bresbyteraidd cymru ac undeb yr annibynwyr cymraeg yn gofyn i'r cynulliad cenedlaethol sefydlu comisiwn yn annibynnol o'r cynulliad i ymchwilio'n ofalus i'r achosion economaidd cymdeithasol a diwylliannol yr argyfwng yn y cymunedau cymraeg eu hiaith ac i argymell ffyrdd a mesurau y mae angen eu mabwysiadu er mwyn diogelu'r cymunedau hyn comisiwn brenhinol ym medi galwodd y parchedicaf rowan williams archesgob cymru am gomisiwn brenhinol i drafod dyfodol cefn gwlad yn benodol yn sgil clwy'r traed a'r genau nodir bod mwyafrif y broydd hynny sy'n arddel yr iaith gymraeg i'w canfod mewn ardaloedd gwledig ac fe gyfeiriodd yr archesgob at gyfanrwydd y bywyd gwledig cymreig yn ogystal ag adolygiad difrifol o sut y cafodd yr argyfwng hwn ei drafod rydym angen rhywbeth fel comisiwn brenhinol ar ddyfodol cefn gwlad fydd yn edrych ar faterion amrywiol sy'n gysylltiedig cynhyrchu bwyd y diwylliant dynol ac anghenion cymunedau amaethyddol yr angen brys am farchnata cydweithredol mwy lleol megis yn ffrainc cyfleoedd a risgiau twristiaeth a chwestiwn enfawr cyfrifoldeb amgylcheddol tymor hir cynllunio byddai nifer o eglwysi fel adran gymraeg undeb bedyddwyr cymru yn pwyso ar y cynulliad cenedlaethol i gymryd camau deddfwriaethol buan i hybu gallu pobl leol i adeiladu rhentu prynu ac addasu tai eisoes cafwyd polisïau o'r fath yn ardal y llynnoedd a bwriadau cadarnhaol ar ran parc cenedlaethol exmoor safon y drafodaeth gresynodd adran gymraeg undeb bedyddwyr cymru bod rhai yn ystyried galwadau am bolisïau cynllunio sy'n ffafrio pobl leol yn `hiliol' cafwyd galwadau cyffelyb mewn broydd gwledig eraill yn y deyrnas gyfunol ac ni chafodd cyrff fel parc cenedlaethol exmoor eu dyfarnu'n `hiliol' am gynnig polisïau fyddai'n ffafrio pobl leol yn y farchnad dai teg hefyd yn hyn o beth i'w dweud i rai arweinyddion eglwysig fynegi pryder cyhoeddus yngl n â geiriad ambell drafodaeth a gafwyd yn ddiweddar ar ddyfodol y broydd cymraeg yn dilyn datganiadau cyhoeddus ar sefyllfa'r gymraeg yn ei chadarnleoedd yn ystod eisteddfod genedlaethol sir ddinbych a'r cylch gofynnodd y parchedicaf rowan williams archesgob cymru am ofal bu'r protestiadau yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac yn wir dros y misoedd diwethaf yn fodd i dynnu sylw at bwnc o gonsýrn gwirioneddol ac at faterion y mae gwir angen mynd i'r afael â hwynt eto i gyd yn anffodus bu natur eithafol yr iaith a ddefnyddiwyd wrth fynegi'r pryderon hyn ac wrth fynd i'r afael â'r drafodaeth yn fodd i dynnu sylw oddi wrth y materion gwirioneddol bwysig megis y trafferthion sy'n nodweddu economi gweledig cymru a'r bygythion difrifol sy'n wynebu cymunedau cymraeg eu hiaith rwy'n sïwr taw nid y bwriad unrhyw un sydd wedi cyfrannu i'r drafodaeth oedd i'w sylwadau gael eu dehongli fel rhai hiliol rwy'n sïwr hefyd fod 'na neb hyd yma yn ceisio hybu rhagfarn neu drais yn erbyn unrhyw berson o garfan ieithyddol arall eto i gyd mae'r iaith sydd wedi ei defnyddio wedi rhoi cocyn hitio i'r rhai hynny sy'n ceisio bychanu'r ystyriaethau pwysig hyn cyflwynwn y sylwadau hyn yn y gobaith y byddant o gymorth i'r pwyllgor diwylliant a maes o law i'r weithrediaeth wrth iddi bennu polisi gobeithiwn y bydd modd gwneud hynny'n fuan yn nhermau deddfu eilaidd yn y cynulliad a phwyso am ddeddfu sylfaenol angenrheidiol yn san steffan y parchedig peter dewi richards llywydd cytun y parchedig gethin abraham williams ysgrifennydd cyffredinol cytun manylion pellach gan y parchedig aled edwards canolfan yr eglwysi ar gyfer y cynulliad cenedlaethol y deml heddwch parc cathays caerdydd cf ap e bost eglwysi nationalassembly freeserve co uk nodiadau briffio canolfan yr eglwysi ar gyfer y cynulliad cenedlaethol chwefror ymateb cymreig i secure borders safe haven papur gwyn integration with diversity in modern britain nationality immigration and asylum rhagarweiniad paratowyd y nodiadau briffio hyn ar bapur gwyn secure borders safe haven a gyhoeddwyd ar chwefror gan fod gofal lloches ymgeiswyr yng nghymru a thrwy gydol y du yn gyffredinol yn destun gofid i nifer o'r cymunedau ffydd roedd datganiad i'r wasg gan y swyddfa gartref hefyd yn dweud yn glir byddai'r argymhellion yn effeithio ar bwerau deddfwriaeth datganoli gan gynnwys cynulliad cenedlaethol cymru ymateb cyffredinol dylid croesawu nifer o'r argymhellion yn bennaf oll dylid canmol gwneud i ffwrdd â system talebau a chroesawu'r mesurau i wneud ceiswyr lloches yn rhan o'r gymuned wedi clywed datganiad yr ysgrifennydd cartref dywedodd nick hardwick o'r uk refugee council ceir nifer o fesurau a oedd eisoes yn adnabyddus acyr ydym yn eu croesawu prif argymhellion yn ôl oxfam os bydd argymhellion y papur gwyn yn datblygu'n gyfraith i bydd canolfan gadw campsfield house ger rhydychen yn cau ond erbyn y gwanwyn bydd cynnydd o i o leoedd ar gyferyn y nifer bydd yn mudo'n ddiogel secure removals ii bydd cynllun ar y cyd yr undeb ewropeaidd ac unchr yn caniatáu cwota o geiswyr lloches i ddod i brydain bob blwyddyn y bwriad yw sefydlu pyrth i'r rhai hynny sydd fwyaf angen lloches er mwyn iddynt ddod yma yn gyfreithlon iii bydd talebau yn dirwyn i ben erbyn diwedd iv bydd deddfau parthed rhoi'r hawl am glywed achosion mechnïaeth mewn llys barn i'r rhai hynny mewn canolfannau cadw yn dod i ben v mae wyth safle wedi eu clustnodi ar gyfer dechrau system esmwyth o ganolfannau sefydlu rhagarweiniol llety adrodd yn ôl a mudo vi bydd y system gwasgaru tu allan i lundain a'r de ddwyrain yn parhau ond wedi eu seilio ar ardaloedd o glystyrau iaith vii bydd cyfnod o niwrnod ar gyfer apelio yn erbyn gwrthod cais am loches ni fydd apêl yn erbyn mudo viii caiff y rhaglen sydd yn cynorthwyo'r rhai hynny sydd am ddychwelyd adref cyn caiff eu cais am loches eu penderfynu ei ymestyn ix sefydlir llinell ffôn gyfrinachol er mwyn datgelu camddefnyddio'r system mewnfudo x ceir mwy o gyfleoedd i'r rhai hynny a dderbynnir fel ffoaduriaid trwy gyfrwng rhaglen integreiddio ffoaduriaid ymateb y du mae'r uk refugee council wedi nodi sawl testun gofid y broses o benderfynu rhaid cael penderfyniadau o'r radd flaenaf wrth galon unrhyw system i geiswyr lloches er mwyn hygrededd fel y dywed hardwick gallai'r penderfyniad anghywir fod yn fater o fywyd a marwolaeth i bobl sy'n ffoi erledigaeth gall ceisio sicrhau bod achosion lloches ymgeiswyr yn cael eu trin yn deg ac yn gyflym fod yn wrthddywediad efallai mai dymuniad yr ysgrifennydd cartref yw gweld system y du yn mynnu ymddiriedaeth a hyder ond nid yw'r papur gwyn yn mynd i'r afael â'r pynciau mae'r rhai hynny sydd yn gweithio gyda cheiswyr lloches wedi eu codi droeon parthed yr annhegwch presennol yn y broses o benderfynu diogelu mechnïaeth tra cadwyd ceiswyr lloches yng ngharchar caerdydd roedd un o'u prif gwynion yn ymwneud â'r broses o fechnïaeth mewn rhai achosion wedi derbyn cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth gywir gwelwyd llwyddiant wrth i o rai grwpiau dderbyn mechnïaeth roedd y rhai hynny nad oedd wedi derbyn mechnïaeth yn cwyno na chawsant y cyngor cywir ac na chawsant eu cynrychioli'n gywir chwaith wrth ymateb i'r papur gwyn dywedodd hardwick ar ran yr uk refugee council rydym yn eithriadol o siomedig bod y mesurau diogelu mechnïaeth a gyflwynwyd gan ddeddf mewnfudo a lloches ond na weithredwyd wedi diflannu yn gyfan gwbl mae hyn yn gwbl groes i ymrwymiadau'r gorffennol mae gennym y record waethaf yn ewrop o bell ffordd parthed carcharu lloches ymgeiswyr pobl nad sydd wedi troseddu mae'r argymhelliad i ymestyn cadw yn y ddalfa yn gwbl anghywir yn enwedig i deuluoedd a phlant cyd destun cymreig wrth groesawu'r papur gwyn dywedodd ysgrifennydd gwladol cymru paul murphy mae cymru yn adnabyddus oherwydd ei hamrywiaeth diwylliannol a thros y blynyddoedd fe groesawyd nifer fawr o bobl o bedwar ban y byd rwyf yn croesawu'r mesurau yn y papur gwyn fel cam ymlaen gwirioneddol yn ein had drefniant o bolisïau cenedligrwydd mewnfudo a pholisïau parthed lloches rwyf yn croesawu'n arbennig y ffaith bod y swyddfa gartref wedi talu sylw arbennig i'r iaith gymraeg yn y papur gwyn hwn a'r ffaith bod nifer o'r gwasanaethau sydd yn hollbwysig er mwyn cyrraedd y polisïau hyn wedi eu datganoli ac o'r herwydd ceir amgylchiadau gwahanol yng nghymru rydym yn gweithio ar y cyd gyda'r cynulliad cenedlaethol i gymru mewn partneriaeth gyda'r swyddfa gartref parthed yr oblygiadau allai ddeillio o'r papur gwyn ac unrhyw faterion eraill parthed mewnfudo a allai effeithio ar gymru dengys hyn i gymru gwerth partneriaeth bositif rhwng y llywodraeth a'r cynulliad cenedlaethol ymateb yng nghymru mae canolfan yr eglwysi ar gyfer y cynulliad ynghyd ag asiantaethau eraill megis y cardiff and district asylum network yn croesawu rhai o'r prif nodweddion y crybwyllir yn sylwadau paul murphy datganoli mae'n amlwg bod y ddeialog rhwng y cynulliad cenedlaethol a'r swyddfa gartref wedi dwyn ffrwyth canlyniadau penodol un enghraifft o hyn yw'r modd y symudwyd ceiswyr lloches o garchar caerdydd ym mis tachwedd yn hytrach nac ym mis ionawr fel y bwriadwyd mae'r asiantaethau sydd yn gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid wedi gwerthfawrogi'r gefnogaeth aml bleidiol a roddwyd yn y cynulliad i egwyddorion cynhwysiad cymdeithasol a chyfle cyfartal mae gweinyddiaeth y cynulliad a'r pwyllgor hawliau cyfartal wedi ystyried ceiswyr lloches a ffoaduriaid termau'r swyddfa gartref fel dinasyddion llawn a chyfartal mae galw ar swyddogion mewnfudiad y du i esbonio eu polisïau mewn cyd destun cymreig wedi bod yn elfen hollbwysig wrth adolygu effaith polisïau mewnfudo yng nghymru yr iaith gymraeg rhaid canmol y parch a roddir i'r iaith gymraeg yn y papur gwyn o hyn ymlaen fe all pobl o batagonia sydd yn siarad cymraeg ddyfod yn ddinasyddion prydeinig drwy ddangos eu bod yn rhugl yn y gymraeg yn hytrach nac yn saesneg ni wyddom fodd bynnag a fydd disgynyddion y gweinidog annibynnol radicalaidd michael d jones yn barod i dyngu llw i fod yn ddinasyddion ffyddlon brenhinol a phrydeinig mae canolfan yr eglwysi ar gyfer y cynulliad cenedlaethol wedi nodi sawl problem benodol yn y papur gwyn a allai fod yn fater gofid i gymunedau ffydd yng nghymru plant yn dilyn cyhoeddiad adroddiad waterhouse ymrwymiad y cynulliad cenedlaethol i blant a phenodiad comisiynydd i blant yng nghymru rhaid mynegi pryder parthed lefel isel yr incwm a glustnodir ar gyfer teuluoedd sydd yn ffoaduriaid neu'n lloches ymgeiswyr gofalu am blant heb rieni neu berthnasau a'r posibilrwydd o garcharu teuluoedd yng nghymru neu o gymru cymunedau ffydd yn dilyn sefydlu cyngor rhyng ffydd i gymru gan y cynulliad cenedlaethol mae angen esboniad pellach parthed oblygiadau sylwadau'r ysgrifennydd cartref yn ymwneud â gweinidogion yr efengyl ac y dylid annog tramorwyr sydd yn y du yn barod i wneud cais am ddinasyddiaeth fel nad oes nifer anghyfartal o'r deiliaid swyddi yn dod o du allan y du rhai a allent wybod ychydig iawn am gymdeithas ym mhrydain a'n gwerthoedd sylfaenol i'r rhai hynny sydd yn dod i'r du rhaid sicrhau eu bod yn deall a gwerthfawrogi iaith a diwylliant y du cynhwysiad cymdeithasol wrth ystyried ymrwymiad y cynulliad cenedlaethol i gynhwysiad cymdeithasol rhaid gofyn a oes angen neu awydd i weld llinell ffôn mewnfudo newydd fel y gall aelodau'r cyhoedd adrodd am drosedd yn ymwneud â mewnfudo gall hyn arwain at deimladau o fod yn agored i niwed ac o eithrio fe ellid camddefnyddio'r system hon gan grwpiau gwleidyddol eithafol neu grwpiau hiliol dinasyddiaeth gymreig fe allai fod yn anoddach i gynnwys ceiswyr lloches ffoaduriaid ac ymfudwyr yn y gymdeithas gymreig oherwydd geiriad y llw dinasyddiaeth arfaethedig yn ôl y llw teyrngarwch sydd yn bodoli eisoes yn ôl deddf cenedligrwydd prydeinig rhaid i ymgeiswyr dinasyddiaeth dyngu llw i'r frenhines a'i olynwyr yn ôl y gyfraith gellid dehongli'r geiriad i olygu bod y llw yn gofyn i rywun fod yn frenhinwr prydeinig mewn rhai cymunedau yng nghymru efallai fod gwerthoedd gwahanol parthed dinasyddiaeth yn bodoli gellir cael manylion pellach oddi wrth canolfan yr eglwysi ar gyfer y cynulliad cenedlaethol y deml heddwch parc cathays caerdydd cf ap paratowyd papur briffio'r ganolfan fel ffynhonnell gwybodaeth nid yw'r cynnwys o reidrwydd yn adlewyrchu barn yr eglwysi sydd yn perthyn i cytÛn