rhagair cwlwm busnes y cymoedd annwyl gyfeillion mae hi'n bleser o'r mwyaf gennyf gynnig gair neu ddau o groeso i chi i'r wefan hon mae'n cynnwys manylion am fusnesau cymraeg o fewn ein hardal ni yma yn y cymoedd mae enwau cyswllt cyfeiriadau a manylion eraill am fusnesau sydd â siaradwyr cymraeg yn gweithio ynddynt busnesau sydd yn cynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y gymraeg neu bobl sydd am ddatblygu lle i'r gymraeg yn eu gwaith mae hi'n hanfodol bwysig bod y gymraeg yn cael ei defnyddio ym myd busnes yn ogystal â'r byd diwylliannol addysgol neu grefyddol mae angen ei defnyddio ym mhob agwedd o'n bywydau beunyddiol gan gynnwys ein bywyd gwaith bydded yn y sector preifat cyhoeddus neu wirfoddol dyma felly lyfryn a fydd yn ddefnyddiol i chi wybod pwy fedr eich helpu trwy gyfrwng y gymraeg ym myd busnes y cymoedd mae hi'n bwysig iawn i'r cymry cymraeg sy'n gweithio yn y sectorau hyn allu cysylltu â'i gilydd er mwyn rhannu arfer da ac er mwyn lledaenu gwybodaeth ein nod yn y pendraw yw hybu llwyddiant busnesau yn y cymoedd a thrwy hynny creu neu diogelu swyddi rwyn siwr bydd yn ddefnyddiol iawn i bawb edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych neu eich gweld yn bersonol yn un o gyfarfodydd y cwlwm busnes sydd yn cael eu cynnal bob rhyw ddau fis ac sydd wedi llwyddo i ddod â phobl o'r un feddylfryd at eu gilydd i drafod materion busnes trwy gyfrwng y gymraeg hoffwn ddiolch i menter a busnes menter iaith awdurdod datblygu cymru adran datblygu cyngor sir rct elwa a'r cwmni gyrfaoedd gyrfa cymru am eu cymorth gwerthfawr wrth gynhyrchu'r wefan hon ymddiheurwn i'r busnesau hynny sydd heb eu cynnwys yn y wefan ar hyn o bryd ond byddwn yn sicrhau bod pob cwmni yn cael eu cynnwys yn y dyfodol pob dymuniad da dr owen jones cadeirydd agrisense bcs cyf cwlwm busnes y cymoedd