dwr mawr llwyd home seren wen white star harbwr gwag empty harbour dwr mawr llwyd big grey water amryw various dolenni links dwrmawrllwyd jpg bytes y dwr mawr llwyd deuddeg stori i iwan diolchiadau hoffwn ddiolch i gomer am gyhoeddi'r casgliad yma o storïau mae'r cwbwl ohonynt wedi gweld golau dydd o'r blaen ond gyda chefnogaeth gwasg gomer dyma gyfle imi eu golygu ac ailwampio cryn dipyn ar rai ohonynt diolch hefyd i olygyddion barn golwg a taliesin am ganiatáu imi ddefnyddio'r storïau a gyhoeddwyd ganddynt golwg a gyhoeddodd nid twrci mo ifan rhagfyr y parch a'r het awst reptiles welcome rhagfyr a llawn iawn yw'r môr awst yn barn y cyhoeddwyd cyfraniad at gofiant yr hybarch frawd stotig isgis ionawr chwefror morys y gwynt ac ifan y glaw gorffennaf awst crafu ffenest o dan y teitl yr hen glerc mehefin a vatilan lleidr llestri rhagfyr ionawr cyhoeddwyd y pump darn sy'n weddill yn taliesin cartoffl ebrill y dw r mawr llwyd haf bant â'r cawr gaeaf amser y gwcw yw ebrill a mai haf a'r sbarion hydref nid stori mo'r darn olaf ond tameidiau o storïau nas sgwenwyd a dyna pam fy mod i'n dweud mai deuddeg stori sydd yma ac nid tair ar ddeg yn olaf mi leiciwn ddiolch i sian am bob dim dyma ni'n ôl cynnwys cartoffl llawn iawn yw'r môr nid twrci mo ifan morys y gwynt ac ifan y glaw cyfraniad at gofiant yr hybarch frawd stotig isgis reptiles welcome crafu ffenest y parch a'r het bant â'r cawr y dw r mawr llwyd vatilan lleidr llestri amser y gwcw yw ebrill a mai sbarion cyhoeddwr cartoffl nid oes sôn am gartoffl goch yn chwedloniaeth canol ewrop nid oes sôn amdano ar y cyrion chwaith creadur y cysgodion ydyw ni dda ganddo dramwyo erwau noethion y paith hwngaraidd ac nid o ddewis yr â ar waelod trai dros aberoedd tywodlyd y gorllewin coeden yw ei gartref a honno'n un â'i gwreiddiau'n ddwfn ym mherfeddion coed y graig lwyd yng nghymru ond nid pawb yn y parthau hyn a w yr ei hanes nid yw'r sôn amdano yn wir nac yn fynych nac yn fawr o'r ychydig dethol a w yr amdano haws ganwaith cael ganddynt ffoi dan weiddi ar draws y caeau na chael ganddynt fynegi'r un sill o'r hyn a wyddant am ei hynt rhy gref rhy fyw yw'r gred y dêl dial cartoffl yn esgud ac yn greulon ar y neb a ranno'i gyfrinachau enbyd o wybod hyn uchod hysbysed y darllenydd nad ar chwarae bach y dylech chwi wthio'ch pig i'r llith a ganlyn cofied gan y darllenydd gwiw hanes annifyr horlics y post yr hwn a roes imi'r hanes hwn daeth cartoffl goch ar ei warthaf gefn nos ddu a'i anrheithio a'i gosbi a dwyn ei stampiau fe ddichon nad creadur llawen fydd cartoffl pan genfydd i minnau gyhoeddi'r stori hon i'r byd a'r betws gael ei gweld ac odid na ddaw i'm ceisio ac i'm cosbi innau am ei fradychu ni waeth gen i onid fy nyletswydd yw dinoethi'r gwir amdano mae'n amlwg fod arnoch chwithau awydd rhannu ffawd horlics y post ydych chi'n deisyfu cartoffl goch ar flaenau'i draed yn dw ad amdanoch gefn nos ddu a chithau'n cerdded rhyw lwybrau tawel ac unig dan gangau duon y coed ar eich pen eich hun iawn felly darllenwch ynteu anifail go arbennig yw cartoffl goch nid yw'n fawr nac yn fach ac mae ganddo olau sy'n fflachio o'i glustiau pan fydd o'n flin nid aderyn mohono ond mae'n byw mewn coeden ac unwaith bu'n rhaid iddo fagu tri chyw bach mewn nyth bu ganddo gariad unwaith ond fel y diafol a'i was nid yn hir y'i cadwodd cychwyn ei drafferthion oedd trip i gaer yn rhith dyn coch â locsyn gwyn cyfnod y nadolig oedd hi i brynu batris ar gyfer ei declyn y noson honno yn lluddedig ac yn wan ar ôl ei daith ac wedi dadrithio ohono yn ôl i'w ffurf gynhenid a fyntau'n paratoi gyda rhyddhad enbyd i ddringo i'w wâl ym mrigau'r pren cafodd gynnig pres am ei gynffon hir a swmpus a fagwyd ganddo'n daclus dros y blynyddoedd gwrthododd y cynnig yn ddiflewyn ar dafod ac aeth i'w wely deffroes y bore trannoeth a gwayw yn ei gefn a sylwi fod rhywun wedi tocio'i gynffon yn ystod y nos lled gaeodd ei lygaid gwthiodd ddau ddant hir a melyn dros ei wefus isaf a rhwygodd wialen ystwyth o fôn y pren cydiodd yn ei declyn yn ei bawen arall 'dwi'n amau'n gryf fod a wnelo iorwg y gynffon â hyn ' meddai'n chwyrn gan neidio i'r llawr a'r gwaed o'i ben ôl clwyfus yn tasgu fel dw r oddi ar gefn ci roedd goleuadau amryliw yn fflachio o'i glustiau ac roedd ager yn mygu o'i ffroenau fel o domen dail 'cosbaf yr iorwg fradwr yna am hyn o drais ' meddai'n boenus a fyntau'n ceisio'i gysuro'i hun trwy feddwl am ffyrdd i ddial ar ei elyn newydd llusgodd y wialen ar ei ôl ar hyd llwybr y goedwig a'i llusgo wedyn o'r coed i ganol byd o gymylau gwynion a haul lle mae'r afon yn lledu ac yn llifo'n llonydd rhwng dwy dorlan 'mi gaiff iorwg y gynffon dalu'n ddrud am hyn ' chwyrnodd wrtho'i hun drwodd a thro 'mi wnaf i'r lari gwirion dalu am hyn o drais cas arnaf ' wel yrw an i'r rheini ohonoch sy'n ei nabod fe wyddoch fod iorwg y gynffon yn dipyn o gynffonnwr ei ddiléit yw hel cynffonnau anifeiliaid a'u harddangos ar barwydydd ei siambr maen nhw'n cymryd llai o le na'r anifeiliaid cyfain ac yn fwy defnyddiol mae o wedi dysgu'r iaith yn rhugl ond bod y bobol sy'n ei siarad ddim yn ei siarad hi fel mae hi yn ei lyfr am nad ydi o ddim yn dallt llawer mae o'n meddwl nad oes yna fawr i'w ddallt rhoes enw cymraeg ar ei fab mae ganddo gi o'r enw pero ac aderyn o'r enw parot bydd o'n archebu hadau i parot o gylchgrawn bwyd adar dim ond er mwyn derbyn pecynnau drwy'r post pan fydd horlics y post yn galw efo'r pecynnau bydd parot yn sgrechian bydd iorwg y gynffon yn rhuthro i'r drws ffrynt ac yn sibrwd 'dyma ef y postmon beth sydd ganddo i ni heddiw ' bydd horlics yn crafu'i arlais â blaen ei feiro ac yn gwthio'i gap i gefn ei ben 'seiniwch yn fan 'ma am yr hadau ' 'o ai dyna sydd yma ' fydd ateb iorwg dywedir mai ei hobi hel cynffonnau ydyw'r achos am roi'r gynffon yn ei enw hadau bach oedd ei enw cyn hynny yn ôl cofnodion y plwyf gellwch fentro fod iorwg yn eithriad i'r rhelyw efallai'n hollol unigryw 'diolch i dduw ei fod o'n unigryw ' ydyw ymateb horlics y post i hyn 'pwy ddiawl fasa isio un arall 'run fath â fo ' ond yn nes at y pwynt yn hyn o hanes ac fel yr awgrymwyd eisoes y mae iorwg y gynffon yn gynffonnwr heb ei ail ei ddiddordeb ysol yng nghynffonnau bwystfilod y maes ac yn llosgyrnau ymlusgiaid y nos a'i harweiniodd ymhen hir a hwyr i goed y graig lwyd yng nghymru ac at goeden cartoffl goch ac yno y cyflawnwyd ganddo un o dri anfad llost ladradau'r ynys hon bid a fo am hynny fe ddarfu i gasgliad cynffonnau hynod iorwg ennyn diddordeb neb llai na lluan bol deryn llyfrgellyddes leol a gwdihw clywais gan horlics y post iddi ymweld â iorwg liw nos ddu ac iddi gael ganddo'r hyn a geisiodd 'afraid dweud ' meddai horlics wrthyf ac yntau'n llyfu'r unig stamp a gyhoeddwyd gan tsietsienia 'afraid dweud iddo gael ei gyfareddu gan ysblander ei phlu sidanaidd a'i swyngyfareddu gan loywder ei phig yr oedd wedi gwirioni hefo hi a benthycodd iddi ran helaeth o'i gasgliad yn cynnwys ei drysor gorau cynffon cartoffl goch roedd hi wedi gofyn yn benodol am gael benthyg honno ' amneidiodd horlics y post arnaf i ddynesu ato 'dyma iti stamp o rwsia ' meddai'n ddwys gan wasgu'r petryal llaith i ganol fy nhalcen 'sylwa nad ydi o ddim mwy na'r stamp arall yna ' estynnodd ei hances i sychu'r stamp i'w le a chamu'n ôl 'stampiau o tibet sy'n brin o'm casgliad ' meddai 'ond ta waeth am stampiau dyma fel bu'r hanes yn ôl be ddywedodd lluan wrthyf rwy'n gweithio mewn swyddfa weithiau ac mae ynddi lot o lyfrau a bydd iorwg y gynffon yn holi byth a hefyd am lyfrau'n ymwneud â chynffonnau mae o'n ddyn blewog iawn mae o'n siarad fel robot ac mae'i geg o'n symud o gwmpas ei ben mae ei goesau yn hir a'i wyneb yn fain ac nid y fi y mae'n ei garu ond y llyfrau yr wy'n eu cynrychioli nid y fo yw fy nghariad mae 'nghariad i'n goch ac yn gyfrwys ond 'dwi'n trio fy ngorau'i gael o'r un feddwl â mi mi ddaeth iorwg y gynffon acw un diwrnod a gofyn am fy ngweld i 'lluan ' medda fo rydw eisiau dweud peth i ti mae gyda fi cynffon newydd ond nid yn gwybyddus beth i'w wneud gyda hi efallai gall ti cymorth fi rwy'n hoffi cael pwyllgor i trafod beth i'w wneud lluan sut mae mynd ati i ehm i cael stwffio cynffon cartoffl goch i mi fy hun ' 'paid â gofyn i mi ' meddwn i 'pam na stwffi di dy ben i fyny dy din ' 'na lluan mae cynffon cartoffl goch gennyf nawr ac mae yn apelio i fi ti'n gallu helpu fi i cael stwffio y cynffon hon i'w rhoi ar fy wal wyt ti'n hoffi trafod pwyllgor nawr ' 'cadw dy blydi pwyllgor y dwylo blewog ' meddwn innau a do mi wnes i suddo fy mhig yn ddwfn i ganol ei drwyn ac a fyntau'n griddfan â'i ddwylo dros ei ben mi lwyddais i achub cynffon cartoffl goch a fflio drwy'r ffenest i ganol y nos beth bynnag mae'r gynffon gen i rw an a fi sy piau hi hefyd ' 'dyna ' meddai horlics y post 'oedd tystiolaeth lluan bol deryn ' yn y cyfamser roedd cartoffl goch wrthi'n bustachu tua chartref iorwg y gynffon a'r wialen fawr o'i ôl a'i blaen yn crafu graean gwyn y dreif a'r brigau'n gwneud sw n suo a sisial wrth sgubo llwybr o'i ôl yma ac acw ar ei ôl roedd diferion o waed coch wedi lliwio'r cerrig mân roedd ei wynt yn ei ddwrn roedd yn wan fel cath effaith colli gwaed meddyliodd neu effaith colli'i gynffon neu'r ddau beth llusgodd ei gangen a'i declyn i fyny'r grisiau at y portsh gwasgodd fotwm y gloch 'dad ' gwaeddodd llais plentyn o'r ty 'dad mae 'na anifail go arbennig yn drws mae o fel hanner llwynog a hanner gwiwer dad blaw bod gynno fo ddim cynffon ' 'nagoes toes gen i ddim cynffon ' chwyrnodd cartoffl goch 'sgwn i pam eh sgwn i be 'di'r achos am hynny a sgwn i ar bwy mae'r bai t'yd allan di iorwg y gynffon mi dy ddysga'i di i ddwyn cynffonnau pobol ' 'nid pobol ydys ti ' meddai llais iorwg y gynffon o'r ty 'dad mae o'n gneud sw n chwyrnu mawr ac yn dangos ei ddannadd ' gwaeddodd y plentyn 'ac mae 'na oleuadau'n fflachio o'i glustiau ' ymddangosodd gwyneb gwelw'r plentyn wedi ei wasgu at wydr y ffenest ochor a'i anadl yn lledu'n llwyd ar ei hyd 'sydd cartoffl goch wedi dod credais offeryn ' meddai llais iorwg y gynffon a fyntau'n swnio fel petai'n rhoi ei slipars am ei draed 'mae o'n dod o amgylch y cynffon efallai ' 't'yd allan i fan'ma a t'yd â 'nghynffon i hefo chdi ' chwyrnodd cartoffl goch a cheisiodd droi handlen y drws 'dad dad ' gwaeddodd offeryn 'mae cartoffl yn trio dw ad i'r ty ' daeth pen y tad i ffenest y portsh 'rw an cartoffl goch ' meddai'n awdurdodol 'dos ar goll cerwch yn ôl i dy coedwig dim animaliaid yn y ty hon ' 't'yd â 'nghynffon i'n ôl imi'r sbaddwr afancod uffarn ichdi ' poerodd cartoffl yn filain gan ddilyn â'i lygaid y geg a welai'n symud o gwmpas pen y dyn 'neu mi wthia'i'r wialen ystwyth yma drwy flwch dy lythyrau di a'r holl ffordd i fyny twll dy din di ' 'nid oes bygythiad fel hon yn ofni fi fwystfil coch heb gynffon mae horlics y post yn dw ad yn cosbi ti os ti'n rhoi coeden trwy blwch post fi doswch neu mae'n poenus gennyf beth fi'n gneud i ti ' 'mae o'n ddigon poenus yn barod y lleidar llosgyrnau drama ichdi lle mae 'nghynffon i ' dechreuodd cartoffl goch wthio'i gangen drwy flwch llythyrau'r portsh daeth iorwg y gynffon i ganol y portsh a dechrau ei gwthio'n ei hôl cododd cartoffl ei declyn a'i anelu drwy'r ffenest at ben y dysgwr 'os na chaf fy nghynffon mewn dau eiliad mi fyddi di wedi camdreiglo am y tro ola mêt ' bygythiodd yr anifail anafus â dicter lond ei lais 'be mae o'n ddeud dad ' gwaeddodd y plentyn 'cau i fyny offeryn ' gorchmynnodd y tad gan wthio'r bachgen yn ôl i'r ty a throi ar ei wrthwynebydd 'mae nid gennyf cartoffl ' roedd pryder i'w ganfod dan acen wichlyd y dyn 'mae gan lluan bol deryn hi sy'n wedi ei dwyn a'i bwyta nid gydag arfau peraroglus rwyt yn ein bygwth onid rwyt yn hoffi pwyllgor yn well i trafod popeth ' 'be haru chdi'r cranc gwallgo ' chwyrnodd cartoffl goch cododd ei gangen a'i gollwng yn erbyn ffenest y drws a neidio'n ôl i osgoi'r teilchion gwydr cododd ei goes yn ddirmygus ar gornel y portsh a throi ar ei sawdl heb sbïo'n ei ôl yr oedd blinder mawr yn dw ad drosto a chloffodd yn simsan yn ôl i lawr y dreif i chwilio am goeden addas i lochesu ynddi nes deuai nos 'pwyllgor wir ' ysgyrnygodd wrtho'i hun 'dad ' meddai offeryn sawl brithyll 'sut wyt ti'n medru siarad hefo'r anifail go arbennig yna yn ei iaith ei hun a chditha'n methu siarad cymraeg ' 'o ' meddai'r tad 'mae fi'n methu siarad iaith yr animal hon yn cywir hefyd offeryn ' 'stopia alw offeryn arna'i nei di ' 'ond dyna ydys eich enw ti offeryn ' 'dad ' cwynodd y plentyn 'pam na fasat ti wedi prynu enwau cymraeg i blant pan ges i 'ngeni yn lle'r geiriadur termau iesu bach mae isio gras weithiau ' ar ei ffordd i'r pentref nesaf yr oedd horlics y post pan welodd lluan bol deryn yn gorffwys ar gangen isel uwchben y llwybr yr oedd cynffon cartoffl goch yn hongian fel cadach dros y brigyn 'to wyt to ww ' meddai hi pan welodd ei ffrind yn dod 'helfa beryg sydd gennyt lluan ' meddai horlics y post 'credaf nad hapus fydd cartoffl goch pan genfydd pwy gafodd ei gynffon ' 'to wyt to ww ' chwarddodd hithau 'mi ceith o hi gen i â chroeso nid i'w ysbeilio yr euthum i dwyllo'r dysgwr drwg ond i adennill i gartoffl annwyl ei gynffon fawr a thrwy hynny adfer iddo'i falchder ac ennill i minnau'i ddiolch ac efallai hyd yn oed ei serch mi wn sut i'w phwytho'n ôl i'w lle fel na fydd ei ben ôl fymryn gwaeth wedi'r cywain creulon a fu ar ei gwt syber gobeithio wedyn y gwelith faint mor fawr yw fy nghariad ato nid iawn fydd iddo droi tu min ataf ar ôl hyn ' gwthiodd horlics y post ei gap i gefn ei ben a chrafu'i arlais lle'r oedd stamp trionglog o fongolia'n dechrau cosi'i groen 'os gwir y gair mi fydd yr un coch yn falch ' meddai gan estyn stamp lliwgar llun glöyn byw a'i lyfu'n ofalus 'haws ennyn llid cartoffl na'i lawenydd ' ychwanegodd glynodd y stamp i'w dalcen a chodi'i sach i'w gefn 'paid â'i herio fo lluan ' meddai gan droi i fynd 'ella y gwnaf ' gwenodd hithau'n ddireidus 'ac ella wna'i ddim ' sylwodd mai stamp o lithwania oedd ar dalcen y postmon ac nad oedd werth ond dwy goron 'ei di ddim yn bell hefo stamp bach rhad ' galwodd ar ei ôl diolchodd fod ganddi lygaid yn ei phen i weld drwy lwydwyll y canghennau gafaelodd â'i dwy grafanc yn y gynffon a chodi ar adain gref i ganol y coed deffrôdd cartoffl goch a'r gwayw yn ei ben ôl yn saethu drwy'i gorff ac yn gwneud i'w glustiau hael godi'n bigau ar dop ei ben roedd digon o olau ar ôl ynddynt iddo weld ei ffordd yn glir i ddringo o'r goeden cafodd hyd i bwll o ddw r ar ymyl y llwybr a drachtio ohono'n sychedig ac yn hir tra oedd ei safn yn y pwll synhwyrodd fod ei glustiau'n codi i big eto a hwythau'n dal murmur pell to wyt to ww to wyt to ww blincin hogiau'r wyddfa eto meddyliodd a throi'n ôl at ei ddiod neu neu lluan bol deryn a neidiodd i ben y goeden agosaf a chychwyn llamu o frigyn i frigyn drwy friglas lwyni'r brain tuag at y sw n 'to wyt to ww to wyt to ww ' meddai lluan bol deryn pan welodd o'n dw ad 'cau dy geg a t'yd â 'nghynffon i'n ôl imi ' poerodd cartoffl goch yn ffiaidd 'does dim angen bod yn gas ' meddai hithau gan wincian arno 'be mae hi'n werth ichdi dinfoel ' chwarddodd wedyn o gadarnle ei changen uchel 'mi wn i lle mae dy sgubor di lluan mi wn i lle mae dy nyth ac mi wn sawl wy sydd gen ti y gynffon lluan jest t'yd â'r gynffon ' dechreuodd cartoffl ysgwyd y goeden yn fygythiol 'ha ha ha ' meddai lluan gan guddio'i gwyneb â'i haden dde 'a be os ydwi wedi bwyta dy gynffon di ha ha ha mae arna'i ofn fy mod i wedi bwyta dy gynffon di cartoffl druan blasus hefyd er braidd yn wydn yn y pen main tyfa un arall os wyt ti'n gweld ei cholli ' heb air o'i ben estynnodd cartoffl goch ei declyn a chyda goleuadau'i glustiau'n fflachio'n wyllt anelodd annel union at frest y deryn nos a gollwng tuag ati ergyd farwol fawr 'o gartoffl gwyn pa beth yw hyn ' ochneidiodd hithau wrth weld y smotiau coch yn britho'i bron llaciodd ei gafael yn y gangen a hithau'n plymio'n feddal i'r llawr a'i phlu'n tasgu fel eira mynydd i'r pedwar gwynt Â'i ddannedd yn gwthio'n bellach bellach dros ei wefus gwibiodd cartoffl goch drwy'r brigau mân i gyfeiriad sgubor craig y nos dringodd yn lloerig i ben y trawstiau derw a thros y tulathau at y nyth estynnodd ei ddwylo i'w rhwygo'n sitrwds ond atolwg oedodd ei law canys yno'n dorch o'i hamgylch roedd ei gynffon flewog fawr yn sownd wrthi yr oedd nodyn ar gardyn lliw 'i'm cariad cartoffl dy gynffon yn saff o waelod fy nghalon lluan bol deryn xxx' diffoddodd y goleuadau yng nghlustiau cartoffl goch ni allai weld dim byd dim mwy gollyngodd ei declyn difa oddi wrtho fel petai'r haearn yn sydyn yn boeth cydiodd yn ei gynffon a gwthio'i wyneb i'r rhawn cynnes a'i ddagrau'n glynu fel plaster yn y blew yn ddryslyd gwthiodd bawen ansicr i'r nyth a'i thynnu dros y tri wy llonydd a gafodd yn glyd yn ei gwaelod ystumiodd ei gorff fel y gallai eistedd yn ysgafn ysgafn ar ganol y nyth ac yntau'n clywed yr wyau'n grwn ac yn gynnes o dan ei din ni ddaeth siw na miw o unlle i darfu arno dim ond suo pruddglwyfus y gwynt drwy frigau'r coed roedd oglau gwair y sgubor yn codi ato ac yn cosi'i safn a'i ffroenau llithrodd ewin o leuad i hollt yn y to sinc a syllu'n ddigyffro arno cododd ei safn at y golau a'i wrychyn yn codi y tu hwnt i sgubor craig y nos y tu draw i fforest coed y graig lwyd roedd yr un lleuad yn ariannu tywod yr aberoedd gwag a'r un awel isel yn symud drostynt ar y paith hwngaraidd roedd yr afonydd yn wyn ac yn llonydd dan eu haen o rew cryman y lleuad yn medi'r cymylau'n dawel a'r awel wan yn chwythu briwsion mân o eira bob hyn a hyn o frigau'r coed ac ar anterth distawrwydd y nos daeth ubain wylofus hir drwy'r awyr denau a'i adlais yn crogi'n grynedig ar y gwynt o'r noson honno allan ni welwyd mo cartoffl goch yng nghoed y graig lwyd ac ni welir mohono y rhawg eto nac yn crwydro'r dydd nac yn chwarae'r nos mae ei gywion wedi mynd o'r nyth a sgubor craig y nos wedi hen fynd â'i phen iddi nid oes bellach ond y fo a ninnau y ni yw'r helwyr y rhai sy'n gwybod amdano y ni sy'n atebol am ei helynt y ni a gynaeafodd ei gynffon y ni a fedodd egin glas ei galon y ni yw'r rhai sy'n sôn amdano ac yn tynnu eraill i chwilio am ei guddfan arnom ni y mae'r bai ei eiriau olaf cyn diflannu i'r gwyll oedd 'am yr hyn a wnes esgymun fyddwyf ac am yr hyn a wnaethoch dyma'r felltith a roddaf arnoch chwychwi a w yr gyfrinach chwerw cartoffl erlidiaf chwi'n ysgeler ac yn flin canys ni ddaw imi orffwys tra bo undyn byw ar ôl yn sôn am yr hyn a wneuthum ' dyna paham na fu hyd y dydd heddiw sôn am gartoffl goch yn chwedloniaeth canol ewrop a dyna paham na fu sôn amdano ar y cyrion chwaith felly pan fyddwch dryma'r nos yn cysgu chwi wyddoch pwy ddaw i'ch dadebru mae cysgod cartoffl yn hir a'i lid o'n hwy llawn iawn yw'r môr 'i be oeddach di isio taflyd fy mhethau i gyd i'r môr ' medda chdi roedd hi'n noson loergan leuad a'r lleufer drwy'r ffenest agored yn sgleinio yn dy lygaid ar wawrio oedd hi achos roedd brefu'r defaid i'w glywed o'r glastraeth mi welais i chdi'n siarad yn dy gwsg o'r blaen a'th lygaid yn agored fel hyn a chdithau'n cysgu a dyma fi'n syllu rw an i'th lygaid ac yn sibrwd 'dyna fo 'mach i ' meddwn i 'cysga di ' 'be am fy mhethau i ' meddai chdi 'pwy bethau wedyn ' meddwn i wyddwn i ddim p'un ai cysgu ynteu wedi deffro oeddach di 'fy mhethau fi i gyd ' medda chdi a chdithau'n dal i syllu heibio imi i lygad y lleuad roedd blaen y wawr yn dechrau dringo'r parwydydd 'fy welingtons fy siaced a 'mrechdanau fi i gyd wedi cael ffluch gen ti i ganol y môr ' roedd dy lais yn bell rywsut 'syniad chdi oedd mynd i lan môr ' edliwiaist wedyn 'yng nghanol twyni tywod mawr oeddan ni a ninnau i fod i gael te glan môr oeddwn i wedi tynnu am fy nhraed ac wedi rhoi fy siaced yn y naill welington a'r brechdanau yn y llall a dyma chdithau'n codi gan afael yn fy mhethau a rhoid ffluch iddyn nhw i gyd i ganol y môr meddwl ei fod o'n beth digri i'w wneud oeddach di mae'n rhaid roeddach di'n chwerthin o'i hochor hi beth bynnag ac yn fy herian i fynd i'w nôl nhw i'r dw r ' 'i be oeddach di isio cadw'r brechdanau yn dy sibw ts ' meddwn i a finnau'n dychmygu ei fod o'n lle rhyfedd i gadw bwyd trio cofio oeddwn i pryd fuon ni i'r traeth ddwytha 'toeddan nhw wedi'u lapio mewn papur llwyd chdi oedd yr un oedd isio bwyd lan môr yndê a finnau wedi hwylio ychydig o frechdanau ac wedi eu lapio nhw'n bacad bach del fy mwyd i oeddan nhw bwyd y ddau ohonon ni a dyma chditha'n eu taflyd nhw i gyd i'r môr toedd gynnon ni ddim byd ar ôl i'w rannu wedyn ' 'a be wnest ti wedyn ' 'ond mynd i nôl fy mhethau i'r dw r yndê be arall wnawn i a dyma 'na wamar o don fawr yn codi o 'mlaen i a'r tonnau eraill i gyd yn codi dros fy mhen i mi lwyddais i neidio'r un fawr fawr neu mi faswn wedi boddi'n syth ond roeddan nhw'n codi ata'i o hyd ac yn fy nghario i oddi wrthot ti a finnau'n eu gweld nhw'n gyrru heibio fi draw am y traeth ac yn torri am ben y twyni glan môr lle buon ni'n ista a'r lan wedi mynd yn bell a finnau'n methu cyrraedd atat ti'n f'ôl dim ond dy weld ti'n sefyll ar ben y twyni a dy law yn cysgodi dy lygaid ac mi glywais i chdi'n chwerthin wrth droi dy gefn dengyd yn ôl am y glastraeth wnest ti a'th draed yn rhydd a sych a 'nhraed innau'n plymio i ddyfnjwn y môr ' 'fedrist ti ddw ad o'r môr yn diwadd 'ta yn dy freuddwyd ' 'do'n ôl pob golwg neu faswn i ddim yma rw an nafswn a dim diolch i chdi am hynny chwaith dwn i ddim sut dois i achos roedd y cerrynt am fy nghario allan i ganol yr eigion a finnau'n methu cwffio'n ôl welis i glogwyni'r graig ddu a gweld dannedd y creigiau'n corddi'r dw r a'r gwymon yn dywyll yng nghanol yr ewyn a'r lleuad yn felyn ac yn llonydd ac mi glywis i'r dynfa yn gafael yna'i ac mi roeddwn i wedi blino a daeth yr awydd drosta'i i gael llithro i freichiau'r gwymon a charu mawr y dw r doeddwn i ddim isio cwffio ragor roedd yr holl gicio a brathu wedi mynd yn drech arna'i llonydd oeddwn i isio dim byd mwy a finnau'n clywed y dw r yn gynnes fel gwaed amdanaf braf oedd llithro o dan ei gynfasau o sidan braf oedd gwylio'r swigod yn codi a finnau'n suddo o roedd hi'n braf cael gollwng gafael a jest mynd tan nes cefais i'r gwaelod yn codi ata'i dan fy nhraed a brifo 'modiau ar y cregyn dan wymon y creigiau codi 'mhen ddaru mi wedyn ac mi ddaeth o'r dw r a finnau'n chwilio welwn i'r llwybr sy'n codi o odre'r clogwyni mi gwelis i o ond toedd yna ddim sôn yn unlle am y sibw ts nac am y gôt na'r brechdanau na dim a chdithau wedi mynd hefyd ' 'mae'n siw r dy fod ti'n flin gacwn hefo fi ' roeddwn i'n sbïo drwy'r ffenest agored ar lwybr y lleuad oedd yn dal i sgleinio'n wan ar y môr mawr llwyd 'hefo chdi ' difaterwch oedd yn dy lais 'toedd yna ddim byd ar ôl y tu mewn imi i'w gorddi a doedd dim ots gin ti yn nagoedd roedd hynny'n amlwg roeddach di wedi taflyd fy mhethau i gyd i'r môr ac wedi chwerthin wrth droi dy gefn nid blin hefo chdi oeddwn i ond blin hefo fi'n hun am goelio dy bethau di unwaith ac yn flin 'mod i'n goro cerdded yn droednoeth dros gerrig miniog ac yn flin 'mod i'n goro chwilio eto byth amdanach di wyddost ti pam roeddwn i'n gorfod chwilio amdanach di er mwyn ichdi gael gwybod mi gerddais strydoedd trefi glan môr yn holi dy hanes mi grwydrais heibio'r siopau pwcedi plastig a rhawiau melyn heibio'r swigod gwynt a'r saeson haf dros bont yr harbwr draw i'r cei a finnau'n gofyn i bawb oeddwn i'n ei nabod a welson nhw chdi hyd lle a neb am fy helpu fi mêl ar eu bysedd nhw toedd wrth eu bodd efo'r gwaith siarad roeddwn i'n ei greu iddyn nhw a finnau'n droednoeth hefo llond pen o dywod a 'ngwallt ar draws fy nannedd 'a'r cwbwl dwi'n gofio wedyn ydi'r nos yn dw ad a finnau'n dal i chwilio amdanat a finnau'n cyrraedd yn ôl i fan'ma ac mae'n rhaid ei bod hi'n hwyr achos dyna lle'r oeddach di yn rhochian o'i hochor hi yng nghanol dy wely ac yn 'cau deffro imi pan oeddwn i isio gofyn pam ond mi rwyt ti wedi deffro o'r diwedd rw an yn do fy nghariad gwyn i ac felly deud wrtha'i rw an i be oeddach di isio taflyd fy mhethau fi i gyd i'r môr ' dwinnau'n cofio trio egluro ei bod hi'n ddrwg gen i ei fod o'n beth ofnadwy i'w wneud wrth gwrs ond mai breuddwyd oedd hi wedi'r cwbwl ac nad oedd dim byd mawr wedi digwydd go iawn fyddwn i byth wedi meddwl gwneud y ffasiwn beth ddim hyd yn oed mewn breuddwyd 'fyddwn i rioed wedi taflyd dy bethau di i gyd i'r môr ' meddwn i 'ond mi wnest ' medda chdithau 'o t'yd o'na bellach ' meddwn i 'mae'r haul ar godi pethau i'r nos ydi breuddwydion mae hi'n hwyr glas ichdi anghofio'r lol yma am daflyd dy bethau di i gyd i'r môr ' efallai fod rhyw dinc crafog yn fy llais newydd ddeffro'r oeddwn i ac mi roedd gen i ben mawr ac angen paned o goffi dda a dyma finnau o'r llofft gan feddwl gwneud paned inni a hefyd dangos ichdi unwaith ac am byth fod bob dim yn iawn mi es i estyn dy sibw ts o'r twll dan grisiau a'th siaced di o'r wardrob ichdi gael gweld 'mod i'n deud y gwir ond erbyn chwilio yn y twll dan grisiau doedd dy sibw ts di ddim yno a toedd dim sôn am dy siaced di yn y wardrob chwaith dal i orwedd ar y gwely'r oeddat ti gan syllu'n syth o dy flaen mi rois hambwrdd y pethau brecwast ar y bwrdd erchwyn mor welw oedd dy wyneb meddyliais mor llonydd oedd dy wefusau plygais drosot i'th gusanu ar dy wefusau roeddan nhw'n oer dim ond wrth godi 'mhen a syllu arnat y sylwais fod llond dy wallt o ronynnau bach tywod a'r rheini'n chwincio fel sêr nid twrci mo ifan clywais yn ddiweddar griw o hen blant bach yn canu'n uchel ar eu ffordd o'r ysgol a dyma'r rhigwm a genid ganddynt 'mae ifan llwyd ifan yn dwrci go iawn fe'i rhostiwn ben bore a'i fwyta fo'n 'pnawn ' dim rhyfedd ei fod o'n gyff gwawd gan bawb meddyliwn innau a fyntau â'r fath olwg arno'n codi at ei gwsmeriaid gefn dydd golau ond dyna fo y fo ydi perchennog unig siop larwm y pentref mi gaiff wneud fel a fynno os myn esgeuluso'i drwsiad esgeulused un tro daeth gwraig yr oedd arni hi bres iddo fo i'r siop ac meddai hi 'dach chi'n drwsiadus heddiw ifan llwyd ifan ' 'nacdw ' meddai yntau 'ydach chi am dalu'ch dyledion neu beidio ' 'nacdw ' meddai hithau rhag i neb gamddeall fu ifan llwyd ifan rioed yn ddyn poblogaidd yn yr ardal credaf fod gennyf sail i honni hyn yn sgil yr hyn a glywais â'm clustiau fy hun credaf mai dyma'r clywed gorau sydd siaradais yn bersonol eithr nid yn or bersonol gyda nifer o dwristiaid o'r almaen a oedd yn chwilio am gastell yn fras dyma'r ymateb a gefais 'nid yw ifan llwyd ifan yn ein teithlyfr ai dacw'r castell ' holais y porthor a nododd fy nhocyn ar balmant gorsaf rheilffordd y pentref mae yma ganllath o lein yn gylch o gwmpas tw r y llan fe'i gosodwyd yn abwyd i ddenu ymwelwyr ond nis gwnaeth nid oes gennym eto nac injan na cherbydau a dyma'r ymateb a gefais 'rydym oll ac un yn drwgleicio'r dyn ' efallai na ddihysbyddais yn llwyr yr holl ffynonellau a oedd ar gael imi ac efallai mai byrbwyll oedd fy honiadau yn llais llwyd ein papur bro yr wythnos ganlynol ond duw a w yr mi wnes y peth iawn dwi'n meddwl dwi'n cofio'r balchder a deimlais o weld y pennawd bras mewn print inc du 'nid twrci mo ifan llwyd ifan ond ' amlygir diffyg serch y brodorion tuag ato mewn ffyrdd cynnil ond arwyddocaol bydd pobol yn croesi'r stryd i'w osgoi bydd rhieni'n dysgu eu plant i wthio cachu defaid i'w flwch llythyrau ar aelwydydd y fro bydd neiniau a theidiau'n hel atgofion am yr hen amser gynt pan fyddid yn gwthio troseddwyr i lawr ei gorn simdde er mwyn iddynt ysbeilio'i eiddo mae ei enw'n ddigon i beri i ardal gyfan grychu trwyn ni fydd ifan llwyd ifan yn cyfarch ei gwsmeriaid wrth eu henwau dim ond galwadau ffôn dienw y bydd yntau'n eu derbyn yr unig ohebiaeth a gaiff fydd gorchmynion i dalu am bethau y mae eraill wedi eu prynu yn ei enw fo ni w yr neb o ble y tardda'r môr atgasedd tuag ato barn y werin bobol yw nad ydynt yn gwybod tarddiad dim byd felly bedi'r ots tydi o'n ddigon ei fod yn hen gingroen anghynnes a nhwythau wedi arfer ei gasáu o erioed efallai fod cochen ffrom yn waeth am ddrewi ac efallai fod ardalydd niwcymbyr yn fwy o goc oen ond yn y bôn y fo ifan llwyd ifan yw'r drwg yn y caws am bob dim go iawn mae yntau wrth gwrs wedi dysgu dygymod â'i driniaeth yn wir weithiau gellid credu ei fod am annog y peth yn aml bydd estroniaid i'r parthau hyn yn argyhoeddedig ei fod yn gwneud ati i dynnu pobol yn ei ben erys cof o hyd yn y plwyfi anghysbell ym mhen pella'r cwm lle bydd rhaib y gwynt yn miniogi'r cof am sais yn dw ad i'r pentref ac yn holi am y saethu ym mhen draw'r stryd 'ifan llwyd ifan sydd yn saethu at y plant ysgol ' oedd yr ateb a gafodd y sais 'mae'r dyn hwn yn gwneud ati i dynnu pobol yn ei ben ' meddai'r sais cytunodd y brodorion ond roedd gwên yn chwarae ar wefusau rhai ohonynt oherwydd dim ond estron cwbl anhyddysg yn ein traddodiadau ni a allai fod wedi meddwl y fath beth petai ond wedi dallt ein ffordd ni o siarad byddai wedi gwybod mai ystyr 'ifan llwyd ifan sydd yn saethu at y plant ysgol' yw 'mae gennym isod giang o hogiau iach yn plannu bwled blwm yn nhwll ei din' gresyn nad oedd y sais wedi ein dallt ni'n iawn ond mae angen ifan llwyd ifan arnom unwaith ffoes ymhell i le diarffordd a buom yn un haid yng ngyddfau'n gilydd nes iddo gael ei ddarganfod a'i ddwyn yn ôl i'n plith nid oeddem am i hyn ddigwydd eto felly torasom ei goesau i nadu iddo ddenig i ffwrdd eto cafwyd baglau iddo a'i wthio'n ôl y tu ôl i gownter ei siop ac yntau'n crogi'n sigledig o'i faglau pren yr un fyddai'r diwn gron ganddo o hyd 'a fedraf eich cynorthwyo ' 'na fedri ' 'bedachisio 'ta ' 'isio larwm ' 'rydych yn y lle iawn ' 'wn i lembo jest t'yd â fo ' 'sut un hoffech chi ' 'un coch hefo melon ar lawr gwastad ' 'yn union deg syr ' a dyna'r gwaethaf waeth faint mor astrus ac annelwig fyddai'r archeb byddai'r union larwm ganddo yr oeddem wedi hen ddihysbyddu ein geirfa fer wedi ei throi y tu chwithig allan ac wedi benthyg geiriau newyddion na fedrem hyd yn oed mo'u dallt ond byddai storfa ifan llwyd ifan yn dal i wegian dan bwysau larwmiaid rhyfedd a dieithr a ninnau druan yn methu dw ad o hyd i enwau iddynt gyda threigl y blynyddoedd daeth yn amlwg nad trwy deg yr oedd trechu llwyd ifan eithr trwy dwyll lle cynt y bu'i angen arnom bellach nid oedd arnom eisiau dim oddigerth gwaredigaeth oddi wrtho penderfynasom mai ar ôl yr arwerthiant nadolig o larwmiaid hanner pris fyddai'r adeg orau i'w ladd ni fynnai neb fethu'r arwerthiant tyrrai'r werin bobol o bell ac agos o bant i bentan ac o fôn i fynwy i fynychu'r achlysur hwyliog hwn larwmiaid yn mynd am hanner pris eraill yn mynd am hanner nos ni fyddai taw ar weiddi'r gwragedd a chrio'r plant mi fyddai fel ffair borth acw a phawb a'i garreg i'w phledu drwy ffenest siop larwms iddyn nhw gael estyn eu dwylo blewog at y stoc tu mewn un flwyddyn daeth llond bws o siapaneaid i'r arwerthiant a hwythau'n ceisio talu am eu pwrcasiadau nid oeddem yn dallt hyn canys nis gwelwyd o'r blaen llwyddodd ifan llwyd ifan i fyw ar eu pres am beth amser a medru prynu sebon i olchi'r rhwymau am ei ben ni wnaeth hyn ond corddi'r gymdogaeth yn waeth roedd yn rhaid inni gael gwared ohono wmffra nionod bach ddaru daro ar y syniad dyna pam mai fo fu'n rhaid mynd i'r sasiwn mawr i hawlio'i dreuliau fe'n darbwyllodd i aros tan ar ôl y dolig i ddifa'r gwerthwr larwms dadleuai y byddai gennym fwy o amser ar ein dwylo rhwng y dolig a'r flwyddyn newydd a bod hynny'n caniatáu inni wneud joban iawn ohoni yr oedd ef beth bynnag wedi ymrwymo i fynychu sawl achlysur tymhorol cyn yr w yl meddai ac roedd ei sadyrnau i gyd wedi eu neilltuo ar gyfer ymweld â'r arbenigwr cosbi plant ategwyd hyn gan einion chwerthin yr oedd yntau'n brysur gyda'r coed nadolig a rhwng hynny a'r ymarfer côr ni châi yntau gyfle i fynychu lladdfa llwyd ifan tan ar ôl gw yl san steffan fan gyntaf cytunwyd ar ddyddiad ac amser y seithfed ar hugain am wyth o'r gloch y bore gohiriwyd y cyfarfod ac aeth pawb am adref i gael te yn ddiweddarach gwnaed cwyn swyddogol gan alwyn galwyn fod iocyn celwydd wedi ei rwystro rhag cynnig gwelliant yngly n â'r bwriad i godi wal o amgylch defaid ifan llwyd ifan a bod iocyn wedi bron â'i fygu wrth sodro cledr ei law am ei geg a'i drwyn i'w rwystro rhag siarad a bod hynny wedi peri i'r cadeirydd fethu'r pwynt a geisiai'i wneud ac felly nas cofnodwyd teimlai'n flin iawn am hyn meddai yn ddistaw bach teimlai aelodau eraill y pwyllgor ei bod efallai'n bryd i alwyn galwyn gael ei orfodi i lyncu pwcedaid o sment sychu'n sydyn ac wedyn ildio'i sedd i rywun callach bid a fo am hynny gwawriodd bore dydd nadolig yn oer ac yn glir rhubanai'r mwg o simneiau'r tai gwenai'r goleuadau melyn o'r ffenestri a deuai sw n chwerthin a gweiddi plant o gyfeiriad siop ifan llwyd ifan mae'n hen draddodiad nadolig yn ein hardal ni i'r plant bledu peli eira pan fydd eira neu bledu cerrig pan na fydd at ffenestri siop ifan llwyd ifan yn wir credaf mai dyma darddiad gwreiddiol yr hen ddihareb dolig gwyn llwyd a'i myn dolig llwyd pledu cerrig at ffenestri'r cwd bydd bore dolig yn amser braf gennyf bob tro hithau'n glyd ar yr aelwyd a thanllwyth o dân poeth yn clecio yn y grât a bolaid o win coch cynhesol yn iro'r galon arogleuon y twrci a'r sbrowts a'r tatws rhost yn codi o'r gegin a'r byd tu allan yn llwm ac yn oer a neb i'w weld yn unman heblaw ifan llwyd ifan ar ei bedwar ar y palmant o flaen ei siop yn ceisio glynu papur newydd dros weddillion ei ffenestri ni fyddwn yn caniatáu iddo gael pryd poeth i ginio nadolig ond fel arfer bydd y cymdogion yn estyn ambell dun sardîns neu dun ffa pobi ac yn eu plymio drwy bapur newydd ei ffenest ar eu ffordd i'r oedfa neu i'r dafarn bydd yntau'n eu cywain yn ofalus yn wir dyma fydd ei brif a'i unig gynhaliaeth dros gyfnod y gwyliau eithr er cymaint ei ddyled i'r gymdogaeth bach iawn o ddiolch a gawn ganddo am ein haelioni ond y flwyddyn hon bu tro ar fyd drannoeth gw yl san steffan fe ddaeth pawb ynghyd i stafell bwyllgor neuadd y plwyf yr oedd pawb i ddw ad a'u harfau difa llwyd eu hunain gyda hwy a dyna amrywiaeth od a gafwyd cyllyll ffyrc picweirch pladuriau gwn cychwyn rasys rhwyf cwrwgl telyn deires rhaffad o nionod llond tun bisgedi o fins peis a thair coes twrci gyda seindorf arian nionod bach yn y blaen gorymdeithiasom o'r neuadd ar ganol stryd fawr nid ei bod yn fawr felly ond y hi yw'r unig un sydd gennym a sefyll yn swnllyd gerbron siop larwms 'tyrd allan ifan llwyd ifan ' galwodd wmffra nionod bach gan daflyd nionyn drwy bapur newydd y ffenest ddrylliedig ategwyd y floedd gan drawiad o'r drwm a diasbedain o'r symbalau pres 'wedi cau heddiw ' ebe llais gwichlyd ifan o ganol y papur 'dan annwyd trwm dewch 'nôl fory ' 'tyrd allan ifan llwyd ifan ' meddai nionod bach eto 'neu mi cei di hi gennym ni ' daeth sw n pesychu bloesg o grombil y siop 'tyrd allan llwyd ifan edrych mae gennym fins peis iti edrych mae gennym hefyd goesau twrci iti edrych y gwirodydd cryfion sydd gennym fe wnâi'r rhain i galon yr esgimo oeraf yn y byd gnesu'n ei frest ' daeth pen rhwymedig ifan llwyd ifan drwy'r ffenest a golwg drybeilig arno a fyntau'n crynu dan gryd neu dan dwymyn 'mmmins peis tttwrci gggwirodydd ' meddai gan agor a chau ei lygaid gael iddo gael cynefino â'r golau 'wel diolch ichi gymdogion diolch mae hyn ' ond torrodd ei lais dan rym yr emosiwn a gronnai siw r o fod yn ei frest o weld y fath dyrfa wedi hel i edrych amdano a phowliai'r dagrau'n hael fel marblys i lawr ei ruddiau llwydion dichon na sylwasai ar yr arfau miniog a gludem ond dyna ichi effaith a gafodd hyn o eiriau arnom fe'n syfrdanwyd ni allai undyn byw ohonom symud na bawd na throed ifan llwyd ifan yn dweud diolch pan gawsom eto ddefnydd tafod leferydd ymgynghorasom na nid oedd hyd yn oed yr hynafgwyr hynaf yn ein plith yn cofio hyn o'r blaen penderfynasom na allem mo'i ladd a fyntau wedi bod mor glên â diolch inni a hynny am y tro cynta 'rioed troesom ar ein sodlau a martsio'n dalog yn ôl am y neuadd gan adael y mins peis y coesau tyrcwns a'r diodydd gwirodydd ar drothwy llwm ifan llwyd ifan iddo gael mwynhau gweddill y dydd yn dawel ac yn ddigyffro yng ngweddillion ei siop 'wedi'r cwbwl ' meddai wmffra nionod bach a ninnau o amgylch bwrdd pwyllgora'r neuadd yn disgwyl i'r sment setlo yn stumog alwyn galwyn 'mae hi yn gyfnod ewyllys da i bawb ond tyrcwns 'tydi hogiau ac fel y gwyddom nid twrci mo ifan llwyd ifan ond c t ' morys y gwynt ac ifan y glaw mae morys y gwynt yn y drws yn gofyn geith o ddw ad i'r ty mae o'n gwasgu'i wyneb i'r ffenest ac yn crafu'i ewinedd hyd y gwydr y byd sy'n rhy fawr a'r gwaith yn rhy hir mae o isio gorffwys mewn lle cynnes a braf wneith o ddim tarfu arni hi mae o'n gaddo bihafio wneith o ddim malu'r lluniau tro 'ma na dymchwel y byrddau dim ond meddwl ei fod o'n fawr mae hi rhaid iddi gofio mwya'n byd fydd rhywbeth i'w weld o bell lleia'n byd fydd o o'i gael yn eich llaw nid y fo fuodd wrthi neithiwr yn rheibio'r goedwig ac yn dwyn y dail gwarchod pawb nacia nid y fo ddaru gorddi'r môr a'i chwipio fo dros ben y cloddiau i gyd i ganol y tai fydd o byth ychwaith yn gwthio'i fysedd dan fondo'r toeau a'u codi fel codi caead blwch ar ysbrydion aflonydd teulu gwyn ap nudd mae'r bai ar bendigeidfran mae'r bai mae nhw i gyd isio cael marchogaeth yr awyr ar ei gefn byddant yn heidio amdano fo ac yn neidio ar ei gefn yn gwasgu'u sbardunau pigfain i'w ystlysau ac yn ei fflangellu'n ddidrugaredd â'u gwiail tân pwy a wêl fai arno am grio a chnadu a'r fath giwed yn ei biwsio trio'u hel nhw o'na mae o gorfod gollwng pob dim o'i ddwylo a'i g'leuo hi rhagddyn nhw fel llwynog o flaen y cw n o na bai'n cael llonydd ganddyn nhw i ddilyn ei ddyletswyddau troi melinau gwynt i falu grawn yn fwyd i'r plantos ydi dyletswydd gwynt llenwi hwyliau gwynion a'u gwthio dros groen yr eigion ydi dyletswydd arall rhoi pàs i'r cogau sy'n mudo draw o'r affric ydi un arall ond tydi o ddim wedi cael amser i wneud ei waith yn iawn pethau syml fel yna sy'n rhoi pleser iddo nid gwneud drygau ond mae nhw'n 'cau gadael llonydd iddo ac mae o'n mynd o'i go'n lân weithiau mae o wedi bod wrthi'n ffoi erstalwm iawn wedi ffoi droeon o gylch ac o amgylch y byd a'r ysbrydion aflonydd ar ei sodlau dragywydd yn ei hambygio ac yn ei gosbi newydd gael pum munud o flaen arnyn nhw mae o wedi cael ei draed yn rhydd am y tro cyntaf ers cantoedd plîs wneith hi agor y drws neu'r ffenest dim ond iddo fo gael dw ad i'r ty dim ond am dipyn bach ac os ceith o ddw ad i mewn a geith ifan y glaw tu allan ddw ad i mewn hefo fo mae ifan fan hyn yn crio isio cael dw ad i'r ty nachewch chewch chi ddim dw ad i'r ty ar ôl ichi dynnu'r lle 'ma'n gareiau y tro dwytha finna'n ddigon gwirion i goelio dy lol di morys ac yn ddigon diniwed i gredu fod dagrau'r hen ifan 'na'n dweud y gwir rhai drwg ydach chi deud wrth ifan am fynd yn ôl i'w nyth yn y gogledd lle mae wyau'r glaw yn deor fel ffynhonnau tydan ni ddim isio'i deip o ffordd hyn deud wrtho fo am fynd i ganol anialwch affrica lle mae'r haul yn boeth a sychad yn cau gyddfau'r nadroedd mi gâi groeso'n fanno toes mo'i angen o'n fan hyn na chditha chwaith morys cerwch o'ma i uffern ar ôl yr helynt hwyr a wnaethoch chi'r tro 'blaen ond mae ifan yn edifar iawn am be wnaeth o mrs bach neith o mohono fo eto mae o'n crio go iawn isio cael dw ad i'r ty mrs clywch ei lais o'n cwyno awn ni ddim o'ma tan gawn ni ddw ad i mewn ninnau wedi dw ad o le pell i edrych amdanoch chi mrs roeddan ni'n meddwl yn siw r y basa ni'n cael croeso ydi'n croeso ni wedi mynd yn brin yma mrs does bosib eich bod chi'n dal dig wrthon ni ar ôl y tro 'blaen mae hi'n falch o'n gweld go iawn ifan mi ddaw at ei choed yn y munud paid ti â phoeni ac wedyn gawn ni fynd i mewn t'yd ifan cyfyd ar fy nghefn i awn ni am dro bach dros y fron fry a draw am fynwes y dwyrain inni roi cyfle i mrs bach hwylio sgram inni ond mi ddeudaist ti y basan ni'n cael lle da fan hyn be wnawn ni rw an morys mi dwi wedi blino teithio eangderau'r sygnau diwael ar dy gefn dwi'm isio mynd am dro hefo chdi dwi'n wlyb at fy nghroen ac mae'r carpiau yma sgynna'i amdana'i'n da i ddim pan fydd yr oerfel yn gafael ym mêr fy esgyrn carpiau hudol ar y diawl tydyn nhw'n cadw dim arna'i rhag y cenllysg mawr sy'n hyrddio o'r mynydd mae'i ofn o arna'i morys ac mi ddaw eto amdana'i heno a 'ngholbio fi'n ddu las a'm lluchio i'r môr fedra'i ddim dioddef noson arall fel 'na felly plîs gofyn iddi eto morys gofyn gawn ni fynd i'r ty mrs bach a chditha fel gwac a mew ddeudaist ti yn dallt eich gilydd i'r dim yn benna ffrindiau fedra'i ddim coelio y basach di'n fy nhwyllo i fel hyn deud wrthi eto na wnawn ni ddim llanast os wyt ti mor agos ati deud wrthi mai trwsgwl oeddwn i'r tro dwytha trwsgwl a blêr glaw ifanc oeddwn i yn goesau i gyd fel ebol blwydd doeddwn i heb arfer hefo cyllell a fforc a chofia ddeud wrthi bod yn ddrwg gen i am y llestri cofia ddeud wrthi mai chdi ddaru droi'r byrddau a chwalu'r lluniau a chwythu'r tân i fyny'r simdde nid ifan y glaw chdi wnaeth gur hyd y mur main nid y fi deud ti wrthi yr a'i i mewn ar fy mhen fy hun wnes i fawr o'i le'r tro 'blaen gwranda os ca' i fynd i mewn mi ro' i air da drosot ti ac ella wedyn y daw hi at ei choed a'th adael dithau i mewn ac os ydi hi'n 'cau gwrando mi sleifia'i drwodd i'r cefn pan ga'i 'i chefn hi a dy adael di mewn beth bynnag ac mi geith hi weld na tydan ni ddim yn wynt ac yn law drwg drwg go iawn geith ifan ddw ad i'r ty ar ei ben ei hun 'ta mrs bach mae o'n gaddo bihafio nid arno fo roedd y bai tro dwytha yn nacia dwi'n dallt pam nad ydach chi isio 'nghynnwys i yndw'n iawn ond pam cosbi ifan druan a fynta heb wneud dim byd o'i le dewch mrs bach agorwch gil y drws iddo fo mae o'n gaddo bihafio cer di'n ddigon pell 'ta morys y gwynt draw i'r traeth â chdi lle galla'i dy weld di'n corddi'r tonnau rw an ifan a dim ond os wyt ti'n gaddo bod yn law da t'yd i mewn am funud ond dwi ddim isio gweld chdi'n chwarae'n wirion cofia neu allan ar dy ben fyddi di dallt wannwl dad rwyt ti'n wlyb diferu hogyn cer i'r cefn y munud yma i dynnu'r hen garpiau gwlybion yna cyn iti gael annwyd mi gei di ddigon o dyweli glân yn y cwpwrdd cynnes mae 'na ryw hen ddillad i'r mab yn y gist wneith yn iawn ichdi wedyn t'yd â'r hen bethau yna imi wir gael imi'u sychu nhw o flaen tân rwyt ti'n crynu fel deilen hogyn wyt ti ddim yn dda t'yd mi gei baned gnesol a bechdan grasu ac mi ddoi di wedyn 'sti fyddi di ddim yr un un dach chi'n glên ofnadwy hefo fi mrs bach diolch yn dew ichi mae'r fechdan grasu 'ma'n dda dwi am gadw tamaid i morys erbyn fydd yn rhaid imi fynd allan ato fo bechod drosto fo'n goro rhynnu allan yn yr oerfel ac yn goro cuddiad oddi wrth yr ysbrydion aflonydd maen nhw'n ei blagio fo'n ddidrugaredd wyddoch chi dyna sy'n ei yrru o o'i go a'i yrru o i wneud drygau cofiwch mae hi'n well arno fo rw an chadal fel byddai mae gwyn wedi cadw rhai o'r ysbrydion yn ôl i helpu hefo gwaith y teulu ac mae morys wedyn yn medru dianc yn amlach achos toes yna ddim digon ohonyn nhw i'w ddal o weithiau tasa fo'n cael dw ad i'r ty mi gaech weld wedi altro mae o'n barod 'plîs a thanciw' ydi hi bob gafael ganddo fo rw an 'chi rêl gwynt bonheddig ydi o wedi mynd ond dyna fo mae'n rhaid iddo fo gael ei gosbi mae'n debyg cofiwch mae o wedi diodda am be wnaeth o ei gydwybod yn ei bigo fo dragywydd o oes mae gan hyd yn oed hen gorwynt fatha morys gydwybod mae o wedi diodda ergydion saethau edifeirwch yn gawodydd a'r rheini ar ben y sbardunau tân fydd yr ysbrydion aflonydd yn gwanio yn ei din ydach chi'n synnu fod y cradur yn cynddeiriogi ac yn chwipio troi yn ei unfan fel ci â briw ar ei din a'r coed a'r tai a'r môr a'r llongau i gyd yn chwipio troi hefo fo ac yn codi fel mwg i'r awyr a lle bynnag y bydd o wedi bod mae ôl ei droed i'w weld yn rhych ar draws y gwledydd ond neith o mohono fo eto mae o'n gaddo na wneith o os ceith o ddw ad i'r ty wel galw arno fo 'ta neno'r tad ond dwi'n dy ddal di'n gyfrifol am ei ymddygiad o cofia ifan ac unrhyw chwarae'n wirion ac mi fydd y ddau ohonoch chi allan ydach chi'n licio tatws pum munud o'ch dau mi fydd ar y bwrdd erbyn dowch chi'n ych ola morys lle'r wyt ti mae hi'n deud y cei di ddw ad i'r ty mi ddeudis y caet ti adwy morys morys y gwynt lloches am y noson o'r diwedd ac mae hwn wedi diflannu lle uffarn mae o mi faswn i'n well off hebddo fo wir dduw mae bob man mor llonydd dim sisial ym mrigau'r coed dim byd ond rhyw pwt o ewyn ar frig y tonnau hei chdi awel fôr welaist ti mo morys y gwynt yn unlla draw ar y bae oedd o gynna yn corddi'r dyfroedd fel fflamia ond sbia rw an mae pob man mor llonydd welais ti o ar y gorwel gynnau draw fan 'cw lle mae'r pyst haul yn gwneud patrymau ar y dw r o wela' i o rw an a phell mae o wedi mynd ydi'r ysbrydion aflonydd ar ei gefn o o hyd cer â negas iddo fo drosta'i wnei di be wyt ti'n feddwl dros pwy mi ddylat wybod pwy ydwi ond ifan y glaw 'de dwi'n un o'r elfennau mawr 'sti yn feistr ar ryw chwa bach o ddarpar wynt fatha chdi felly dos rw an a deud wrtho fo fod ifan y glaw yn deud am iddo fo ddw ad i'r ty dos da'r awel a brysia dwi'n dechrau poeni mrs bach mi ddyla'i fod o 'di cyrraedd erbyn hyn deu oedd y tatws pum munud yn dda ust glywsoch chi'r crafu ar y ffenest morys ydi o'n ei ôl yn siw r i chi be gadwodd o dwch rargian mae o wedi diffygio'n lân mae'n rhaid drychwch arno fo yn un hwdwl ar y rhiniog t'yd i'r ty morys bach gael ichdi gnesu o flaen tân morys mae mrs bach wedi gwneud tatws pum munud ichdi t'yd rho dy fraich am f'ysgwydd i sbiwch mrs bach ylwch golwg arno fo mae o fatha tasa fo wedi bod hanner ffordd rownd y byd ylwch mrs bach mae o fel oen llywaeth toes yna ddim chwyth ar ôl yn ei frest o dach chi'n coelio fi rw an na chewch chi ddim trafferth hefo fo heno mrs bach wel wir mi rydach chi i'ch gweld wedi eich dofi chadal y tro dwytha fuoch chi yma'n cadw reiat ac yn strancio ac yn malu dach chi i'ch gweld yn aeddfetach elfennau rywsut mi gewch ddw ad pan fynnwch eto cewch â chroeso mi fydda'i'n falch o'ch cwmpeini mae'r mab wedi hen adael y nyth ac ers claddu'i dad o rhad arno ond t'yd dithau morys newidia'r hen garpiau budron yna ichdi gael cnesu'n iawn mi ddangosith ifan ichdi a hwdiwch dyma bâr o slipars bob un ichi gwrandwch ewch chi ddim adra heno mi gyweiria'i ddau wely glapsam ichi yn y llofft gefn fyddwch chi ddim yr un rhai wedi cael noson iawn o gwsg ifan wyt ti'n teimlo'n iawn mi dwi'n cosi drosta'i ac mae 'nghroen i fel tasa fo'n rhy fach i 'nghorff i fedra'i ddim cynefino hefo dillad ei mab hi dwi isio 'ngharpiau hudol yn ôl imi gael chwyddo'n fawr coda o'r gwely yna a helpa fi chwilio amdanyn nhw ar lein maen nhw mae'n siw r neu ar hors ddillad o flaen tân ty'd brysia well inni godi mae gwaith yn galw picia lawr grisia i chwilio am y carpiau ifan gael inni chwyddo'n fawr fawr a mynd yn ddrwg ddrwg mae'n biti gen i braidd fod yn rhaid inni reibio'r ty 'ma rw an wedi cael croeso da fyddi di'n poeni weithia ifan ws ti am orfod chwalu tai pobol a ballu yndi mae o'n dw ad hefo'r job wn i ond ta waeth picia nôl ein dillad ni reit handi nei di chdi drefnodd inni gael dillad glân a ballu aru chi gysgu'n iawn o'ch dau ifan hidia di befo am yr hen garpiau yna am funud bach y peth pwysig ydi ydi morys yn well wedi cael cwsg bach da iawn mae'r cradur wedi cael ei roi drwyddi'n o arw'n ddiweddar tydi fydd y bacwn a'r wyau ddim chwinc eto be rw an ia y carpiau yna oedd gynnoch hi amdanoch pan ddaethoch chi be amdanyn nhw be wyt ti'n feddwl eich dillad gwaith doedd y dillad yna ddim ffit i glown yn y syrcas hogyn roeddan nhw wedi madru i gyd ac yn drewi fel ffwlbart nid dillad faswn i'n eu galw nhw wel fedra' i ddim mo'u rhoid nhw ichdi ifan dwi wedi eu llosgi nhw mi aethon ar y tân neithiwr ar ôl ichi fynd i'ch gwlâu mi gewch gadw'r rheini rois i ichi fydd ar y mab mo'u heisio nhw eto fydd dim rhaid ichi grwydro'r byd yn rhith dau drempyn be sy ifan mi rwyt ti wedi gwelwi mwya sydyn eistedd di'n fan 'ma 'ngwas i hwda lymed o ddw r mae dy law bach di'n crynu ifan ifan be sy lle mae'r carpiau ifan pam na ddoist ti ddim â nhw rhaid inni newid yn ôl be sy mater ifan wyt ti wedi gweld drychiolaeth neu rywbeth lle mae'r blydi carpiau hudol ifan dyna dwi isio'i wybod lle ddiawl maen nhw fedrwn ni ddim rheibio'r ty na boddi'r fro heb y carpiau hudol ifan felly lle maen nhw ydyn nhw yn y cwpwrdd cynnes ynteu'n hongian allan ar lein ynteu be brysia wnei di imi gael gwisgo amdanaf a llenwi'r awyr a gwneud drygau mawr dwi isio bod yn wynt gwyllt eto a thydi ddiawl o bwys gen i am yr ysbrydion aflonydd chwaith rw an lle mae 'nillad i plîs ifan bydd morys y gwynt ac ifan y glaw i'w gweld yn aml ar bnawniau sul yn cerdded ar hyd y morglawdd uwchlaw'r traeth yn ystod yr wythnos fyddan nhw'n helpu mrs bach hefo gwaith y ty hwfro golchi llestri picio'n ôl neges pan fydd hi'n braf fyddan nhw weithiau'n trin yr ardd ac yn tyfu mân lysiau fel tatws a moron a ballu bob dydd mercher ar ôl cinio fyddan nhw'n cymryd y bws bach i'r farchnad ond fyddan nhw ddim yn prynu dim byd tro o gwmpas y maes paned mewn caffi ac adref erbyn amser te ond cerdded y morglawdd fyddan nhw ar bnawn sul mae nhw'n cerdded yn ara deg a'u llygaid yn gwylio'r gwylanod sy'n cylchu'r castell mae nhw'n sefyll i wylio cwch yr haul yn suddo i'r bae pethau sydd wedi mynd yn fawr rywsut a'r byd wedi mynd yn ddiarth maen nhw'n gorfod rhoi clun i lawr ar fainc i gael eu gwynt atyn ar y llwybr wrth droed y fainc mae cragen wen wedi ei gadael gan ryw wylan neu ryw blentyn maen nhw'n ei dal at eu clustiau bob yn ail gael iddyn nhw glywed llais y môr mawr yn dw ad ohoni a hwnnw'n sibrwd mwya'n y byd y bydd rhywbeth i'w weld o bell lleia'n y byd fydd o pan ddaw o dan dy law cyfraniad at gofiant yr hybarch frawd stotig isgis bu'n fwriad gennyf ers tro byd gyhoeddi cofiant un o saint hynodaf ein cyfnod saif rhyngof a dwyn y gorchwyl hwn i ben flynyddoedd o durio a chloddio diflino ond boed i hyn o lith fod yn damaid i aros pryd i'r efrydydd dyfal a fyn bori ym maes ffrwythlon hanes ein harwyr sanctaidd taeog o blwy'r eithin yn ardal diffwys fu'r hybarch frawd stotig isgis ran helaeth o'i oes yn allanol nid oes un dim hynod yn ei fuchedd hyd at adeg ei wasanaeth milwrol byw bywyd taeog cyffredin a wnai codi gyda'r wawr mynd allan ym mhob tywydd i ysbeilio'i gymdogion meddwi'n ulw yn y dafarn gyda'r nosau ac adref mewn pryd i golbio'i fam eithr yn ystod ei wasanaeth milwrol a barodd chwe blynedd trawsnewidiwyd isgis o fod yn daeog dwylo blewog i fod yn garn lleidr didrugaredd ac yn sgandal uffernol anrhaith rhaib a thrais a'i dilynai a daeth ei enw'n ddychryn i blant bach ym mhob cwr o'r wlad yn dilyn ei yrfa lwyddiannus yn y fyddin ceisiodd a chael ei ordeinio'n fynach ac felly y bu fyw weddill ei oes na ddaeth eto i ben yn wylaidd ac yn ostyngedig a'i galon yn eiriol dros eraill yn amlach na throsto ef ei hun o'i eni i'w farw na fu eto mor llwm y llun o'i fywyd allanol nid oes fawr i'w ddweud ac am fywyd mewnol dyn odid nad gresyn yng ngolwg duw fyddo unrhyw ymchwiliad i dywyll leoedd yr enaid onid cableddus o'r bron fyddai ceisio dinoethi calon cristion eithr yng ngwyneb hyn ac yn y gred hyfryd na all un dim bellach fennu ar sancteiddrwydd ein hybarch ddwyfol stotig a ddaeth i'r byd o'i go ac a'i gedy'r un modd mi geisiaf yma olrhain peth o'i hanes yn y gobaith y disgynno lygedyn o ddisgleirdeb y sant ar y sawl a'i darlleno y galon yw maes y gad yn rhyfel yr oen a'r galon sydd ddofn yn y galon ddofn y bydd bywyd y gwir gristion a'r sawl a êl i gyfrin leoedd y llannerch honno a ddaw wyneb yn wyneb â dirgelion bod gw yr y sawl a ymroddodd â chalon bur i synfyfyrio ar ei ystad fewnol mor anodd mor amhosibl yw cyrraedd at lwyr ddealltwriaeth hyd yn oed am ennyd awr o ddirgel ffyrdd yr enaid canys yn ei dwyster mae'r galon yn cyd gyffwrdd â'r lle hwnnw nad oes iddo na ffyrdd na ffiniau nid oedd y brawd stotig yn deall hyn nid oedd yn deall fawr o ddim byd ond gwyddai lawer yn nyfnder greddfol ei galon gwyddai er enghraifft sut orau i sleifio heibio pawb i'r ffreutur amser cinio yn wir dyma ddechrau fy nghyfathrach ag ef a minnau'n las fynach dibrofiad yn nechrau fy ngyrfa sanctaidd gofynnais iddo fy nysgu yng nghyfrin grefft denig i mewn o flaen pawb cofiaf ei ofal a'i amynedd wrth fy hyfforddi mor ofalus y dangosai imi sut i baratoi bomiau mwg ac yna sut i'w gollwng o le uchel am ben y dorf dan weiddi 'tân tân ' coffa da amdano'n aros i gydied yn fy llaw a ninnau'n rhuthro ein dau drwy'r drysau am y seddi gorau a'n habidau mynachod yn nofio o'n hôl ie mynach cyfrwys oedd y brawd stotig yn feunyddiol fe synnwn at ei allu rhyfeddol i dwyllo'r brodyr zebra ac at ei allu i osod y bai ar frodyr llai llwyddiannus ni phallwn â'i edmygu ceisiwn ei efelychu ef ydoedd fy athraw mor awchus oeddwn yn wir i ddysgu'r hyn a allwn ganddo fel mai o'r bron y cofnodais unrhyw beth a ddywedodd wrthyf erioed er mawr syndod a siom imi'r awron a finnau'n cywain fy nodiadau ynghyd gwelaf nad erys imi namyn un cardyn post a dwy anfoneb am olchi ei sanau budron ai dyma'r unig dystiolaeth sy'n aros o'r gyfathrach agos a fu rhyngom nage canys erys eto yn storfa'r cof atgofion fyrdd amdano ac am ei storïau a'i hanesion oll y rheini yn anad unpeth ydyw cynsail hwn o gofiant a'r cyntaf ohonynt oll ydyw hanes cyfnod ei eni pan nad oedd eto ond yn ifanc iawn fel llawer o daeogion ei gyfnod rhoddai ei dad wlbig isgis groeso parod i bererinion a chardotwyr crwydrol ddyddiau gw yl byddai'r ty dan ei sang ac anaml drannoeth yr w yl y gadewid ganddynt gymaint â hances boced o'u hôl ond mynd â holl eiddo'r teulu i'w canlyn un tro tua'r pasg ac yntau'n ddyflwydd oed cododd stotig ei ben o'r crud a gofyn i'w fam 'pam fod y bobol ddiarth a da yma'n mynd â'n holl eiddo ni oddi arnom bob tro y byddant yn galw heibio ' ni allodd ei fam mo'i oleuo gan na wyddai hithau mo'r ateb gofynnodd y bachgen dyfal yr un cwestiwn i'w dad pan ddadlwythwyd hwnnw o ferfa yn hwyrach yr un noson daeth wlbig ato a chodi'r plentyn bach yn ei ddwylo yr oedd grym rhyfeddod wedi ei sobreiddio'n llwyr ac ebychu mewn syndod 'clywch ar hwn gyda siarad treiddgar fel hyn fe eith y crwtyn yn bell ' a chyda hynny o sylwad rhoes hwb i'r bychan ar ei ben drwy'r drws agored i ganol y domen dail ar bwys y ty 'ac efallai y dysgith hynna ichdi beidio â rhoi dy drwyn lle does mo'i angen ' cafodd y profiad gryn ddylanwad ar y stotig ieuanc hyd yn oed ac yntau mewn gwth o oedran yn bedwar ugain oed onid yw'r mynach musgrell yn dal i fynnu cael taenu tail ar hyd ei gorff cyn cysgu'r nos nid anhapus oedd plentyndod stotig isgis ond trychinebus pan ddaeth i oedran llanc daeth i sylweddoli gymaint ar ei golled y bu yn cael ei eni'n fab i daeog brwnt dihangodd unwaith i'r goedwig a cheisio cael ei fabwysiadu gan deulu o eirth duon ni allodd mo'u darbwyllo i'w dderbyn dychwelodd at ei dylwyth a'i gynffon yn ei afl penderfynodd wneud y gorau o fyd gwael ac a fyntau'n ieuanc hardd a chydnerth bid sicr nad hogyn amhoblogaidd ydoedd hyd y pentref roedd yn gyfaill i holl lanciau'r lle yn cerdded allan gyda llancesi'r plwyf yn yfed gwirodydd a chwrw melyn yn dawnsio a chanu'r ffidil yn lladrata ac yn mwrdro yn fyr yn ymddwyn yn union yr un fath â phob llencyn arall yn y plwyf mawr oedd y llgadau bach a wneid arno'r sul gan ferched pengoch llygatlas hardd yr ardal yn eglwys ein santes elibwbana llawr plwyf eithin atynnwyd yntau atynt ac at un ohonynt yn anad neb a chyn bod sôn am briodi fe gyflawnwyd ganddynt un noson drom o haf yn nhalar gweirglodd cae pen stanc y weithred a gyflawnir yn aml gan bobol ifanc ddireidus iawn trannoeth y bore a hwythau'n gweithio ynghyd gofynnodd ei dad iddo 'ymhle fuest ti neithiwr fy mab roedd pryder lond fy nghalon drosot ' 'trin swllt y sgwd yng ngweirglodd ydfab pen stanc os ydi o'n unrhyw beth i chi 'nhad dallt ichi fod yno o 'mlaen i ydi mam wedi cael gwybod ' gresyn gennyf na chlywais gan y brawd stotig weddill yr hanesyn a nas cofnodwyd canys y mae'n dysgu inni lawer am derfysg mewnol y darpar fynach ar y cyfnod cythryblus hwn o'i fywyd cyn cychwyn ar amgenach gyrfa er mwyn ceisio goleuni pellach ymwelais â phentref genedigol y sant lle cwrddais â'i dad a oedd erbyn hynny mewn gwth o oedran a fyntau dros ei gant a deg oed pan sylweddolodd pwy oeddwn i daeth allan o'r gwth a'm croesawu â breichiau agored llwyddais i osgoi ei grafangau ond pan holais yn fanwl yngly n â'r digwyddiad uchod aeth ei groeso braidd yn brin ac fe'm carcharwyd am gyfnod ym mhydew ty bach y teulu yng ngwaelod yr ardd digwyddiad arall o bwys yn natblygiad y llanc sanctaidd oedd yr hyn a ddigwyddodd un ben bore chwerw o ionawr pan oedd cacen o eira'n cau am eu cwt deffrowyd y teulu gan sw n crafu yng ngodre drws y gegin 'codwch allan i ffagio'r adar lladron uffarn 'na dan draed ' gwaeddodd wlbig o'i wely agorodd mrs isgis y drws a phwy welodd hi ar ei hyd ar lawr yn crafu'r rhiniog ag ewin du ond sglaffen y cogydd wedi ei dadmer ar y stof wedi tywallt dogn o wirod rwdins drwy dwmffat i'w chorn gwddw ac wedi sodro tysen boeth yn ei boch dadebrodd sglaffen a daeth at ei choed 'mi fuoch i ffwrdd ' meddai mam stotig 'do amlen isgis bum oddi cartref ' meddai sglafflen 'nid byr o gyfnod ydoedd ' meddai mam stotig 'bu'n gyfnod maith ' meddai sglaffen 'sut dywydd gawsoch chi ar eich gwyliau ' holodd stotig isgis 'nid ar fy ngwyliau y bûm fab gwirion ond ar bererindod i lefydd pell pererindod hyd feddrod merthyr yn y ffydd a safodd drosom â'r corwynt yn ei ysu ac a safodd drosom â'r eigion yn ei wlychu ac a safodd drosom â'r byd yn cau amdano pererindod i'r man lle gorwedd llwch chwithgoch sant y mwyaf a'r gorau o'r saint i gyd a'm ffefryn personol ' disgleiriai'r dagrau yng nghonglau llygaid yr hen wraig 'dyn dwyfol iawn a da ydoedd yn sicr siw r a phendifaddau ichi ' syfrdanwyd stotig gan ei geiriau os oedd hwn yn ddyn dwyfol a da yna mae hynny'n golygu fod duw yma gyda ni felly does dim diben imi fynd i chwilio amdano fo oherwydd mae o yma yn y stafell hon rw an ac ym mhob man meddyliodd yn gynnil wrtho'i hun ar ôl hyn ac yntau'n gwybod ei fod wedi darganfod ffydd daeth newid mawr dros y llanc gafaelodd tynfa ynddo tuag at fywyd mynach ond roedd gan y mynach syniadau amgenach wedyn ysgrifennodd am fanylion i sawl enwad y brodyr gwynion y brodyr duon y brodyr zebra ymhen hir a hwyr gofynnodd am ganiatâd ei dad i ddiosg ei ddillad lleyg 'be haru chdi'r sglyfath ' meddai'r tad 'cheith yr un mab i mi rodio'r stryd yn dinnoeth ' eglurodd stotig yr hoffai abid mynach nid oedd ei dad am gyd weld 'mae gin ti ddigon o habids afiach yn barod ' meddai ond o dipyn i beth daeth wlbig i sylweddoli fod ei fab o ddifri yngly n â mynd yn fynach a daeth hefyd i sylweddoli y byddai'r teulu beth uffarn yn elwach o gael cefnu ar y 'cyw gog' yma o fab iddyn nhw a lowciai fwyd tri dyn ac a yfai lond tafarn o lysh ar ei dalcen ond na chyflawnodd werth chwannen o waith at ei gadw erioed dim ond rhochian yn ei wely tan ganol dydd a galw am ei frecwast wedyn 'fy mab ' meddai wlbig un noson a hwythau'n ymgodymu â'i gilydd am le wrth y stof 'cysidrais yn hir ac yn ddwys dy gais am ganiatâd i'th urddo mewn urddau eglwysig a deuthum i gydsynio â thi ac i gytuno och wae y nosweithiau digwsg a dreuliais yn troi a throsi'n feddyliol yr hen benderfyniad caled hwn bendith arnat fy mab mi gei fynd i'r môr ar fflat nage dy frawd oedd hwnna o ia cei fynd yn fynach yn ddi oed a byw fel cranc heb ddynas cei fynd ar unwaith heb ddim strach y cwtrin bach anghynnas ond wrth gwrs yn gyntaf mae'n rhaid iti gyflawni dy wasanaeth milwrol ' 'bydd bydd bydd ' gwaeddodd stotig oherwydd yn yr ystad fregus yr oedd ynddi roedd yn agored i unrhyw awgrym a gyflwynid iddo cyflwynwyd iddo'r awgrym ei bod yn rhaid iddo ymladd cyn mynd yn fynach yr oedd yn hapus yn y fyddin daeth yn hyddysg ar drin arfau ac ar ladd mynach ydoedd hyd y gwyddai ef ac nid oedd hyd yn oed ei gadfridog â'r galon i'w ddarbwyllo nad mynach ond milwr ydoedd hyd ei anadl olaf na bu eto ni bu ddryll o'i ochor na chasgliad o fomiau yn bell o'i law 'fy ngwaith yn y byd hwn yn y lle yma lle'r ydym yn y rhagbrawf hwn ar gyfer llwyfan theatr yr arglwydd fy ngwaith yw lladd llawer o anghredinwyr ' nid anfynych h y mynych y bu'r ddameg hon dros ei wefus ddwyfol 'ac mi lladda'i nhw hefyd y paganiaid aflan ' mae dylanwad ei dad ar ein sant wedi ei gydnabod bellach gan bawb ond rhai 'ysgolheigion' honedig y mae eu hymennydd mor fach ag wy morgrugyn wedi ei hollti yn ei hanner yr wy yn hytrach na'r morgrugyn ac mae eu honiad felly'n anghywir flynyddoedd wedi i mi ddyfod i'w adnabod a'i garu fel tad ar ganol ei ginio fe'm breintiodd ag un o'i gyfaddefiadau prin ond o mor werthfawr sbonciodd deigryn neu ddau o'i lygaid a chrynodd ei wefus dair gwaith 'ni ddeuthum erioed i draed sanau fy nhad ' meddai 'yn wir claddwyd ef yn nhraed ei sanau roedd yn ddyn anllythrennog iawn ni allodd erioed ddysgu adrodd gweddi'r arglwydd coffa da am ei fersiwn gwerinol ef haia dad sut wyt ti'n y nefoedd sant eiddgar 'di'n enw dylad di'r ddynas dwi 'di gneud f'ewyllys fel na cheith hi'm dima daeth ychwaneg o ddagrau'n ebrwydd i lygaid yr hen sant wrth gofio gweddïau ei dad 'roedd fy nhad yn credu ei fod yn sant ' meddai cododd ei wyneb sanctaidd at y ffenest a syllu drwyddi draw i'r pellter 'y creadur diniwed annwyl ' sychodd ei lygaid a'i lawes 'adnod arall fyddai gan fy nhad ' meddai'n freuddwydiol 'fe'i clywaf eto yn canu yn fy nghlustiau fy marclod yw fy mogel ni fydd peisiau arnaf fy nhad druan ni wyddai mo'r peth symlaf fyw credai fod dilyw noa wedi digwydd ar ddydd gwener ac mai dyna'r rheswm ein bod ni'n bwyta pysgod ar y dydd hwnnw dim ond yn ôl eu gwisg y gwyddai sut i wahaniaethu rhwng mab duw a siôn corn roedd yn ddyn hollol anwybodus twyllodrus a budur dysgais ganddo'r cwbwl a wn ' teulu mawr oedd teulu wlbig isgis tad mam naw mab a deunaw merch a hwythau'n cyd fyw'n serchus dan yr unto annwyl iawn gennyf yw'r hanes a gefais gan yr hybarch frawd ac yntau'n ddwy ar bymtheg a thrigain oed amdanynt oll yn un teulu bach dedwydd ar yr aelwyd yn adrodd chwedlau drwy'r nos ac yn tynnu gwelltyn am gael cysgu ar y gwely byddai'r bechgyn hy n yn gweithio gyda'r tad ar y tyddyn un dydd gwener o ionawr hallt a hwythau'n cynaeafu tua'r waun galed digwyddodd fod yn dro i'n darpar fynach hwylio'r cinio canol dydd gan anghofio ei bod yn ddydd gwener paratôdd ochor mochyn wedi ei rhostio ar gigwain dros farwor coch bwytawyd ohono ganddynt oll ond cadwodd tad stotig isgis damaid ohono yn ei bwrs heb i neb sylwi ddeugain mlynedd yn ddiweddarach ac yntau ar ei wely angau troes tad stotig ei wyneb ato 'fab ' meddai 'a gofi'r gwener hwnnw a ninnau'n cynaeafu'r waun galed fe roddaist imi gig moch i'w fwyta roedd ei flas fel blas cig corff mynwent i mi dyma damaid a gadwais o'r diwrnod hwnnw hyd heddiw blasa fo onid ydi o'n ffiaidd ' 'wel nhad ' meddai stotig gan boeri'r afiach gig i'r llawr 'mae tuedd i fwyd ddifetha dros gyfnod o ddeugain mlynedd mi ddylech fod wedi cwyno ar y pryd yn lle cadw'r peth at eich calon fel hyn petaech wedi sôn ar y pryd mi allwn fod wedi cynnig wy wedi'i ferwi ichi neu rywbeth ond wyddoch chi ddeugain mlynedd wedyn be fedra'i wneud ond dweud sori fe ddaru chi fwyta'r cwbwl ar y pryd os dwi'n cofio'n iawn ' 'nid oeddwn am dy frifo di fy ngwas i mi wyddwn mor groendenau wyt ti am dy waith coginio ond dywed imi fy mab pam y cyflwynaist inni gig moch ' 'am nad oedd golwg rhy iach ar y cig oen fy nhad wedi marw o ryw haint oedd yr w yn ac er eu bod yn rhad nid oedd cig gwyrdd yn apelio ataf ' 'ond fy mab ' ebychodd y tad gan geisio codi ar benelin fusgrell 'mi roedd hi'n ddydd gwener ' 'oedd hi ' craffodd stotig i ên 'wel fy nhad efallai fy mod i wedi anghofio pa ddiwrnod oedd hi '' 'ond sut gallet ti fod wedi anghofio peth felly ' 'o bosib fy nhad yn debyg i'r ffordd yr oeddech chithau wedi anghofio ei bod hi'n fis ionawr a bod saith mis arall tan y cynhaeaf efallai tada yn y dull yr oeddech wedi anghofio hau'r had y flwyddyn honno a phob blwyddyn na chynt na chwedyn hwyrach fy nhad yn yr un modd ag yr anghofioch ymolchi'r un rhan o'ch corff erioed oddi ar y dydd y'ch ganed chwi mae pethau fel hyn yn digwydd i ddyn weithiau 'nhad ac mae'n wir ddrwg gennyf os nad oedd y porc yn plesio ' gresyn o'r mwyaf gennyf nad oes gennyf gofnod o ddiwedd y sgwrs ddiddorol hon sy'n dinoethi inni nifer helaeth o rinweddau ein sant Âi bywyd y pentref â'r bachgen dwyfol i'w ganlyn canu dawnsio a charu oedd ei bethau ar ben y ffeiriau ar ben y gwyliau fe'i gwelid â'i ffidil yn difyrru'r bobol ac yn cadw hwyl gyda'r hwyr un noson ffair w yl ifan gwelwyd stotig a'i gyfaill lyshog pen llau yn cyfeirio'u camre tua'r dref roedd ffidil stotig a chwibanogl lyshog â'u llond o ganu gwyllt y paith a nhwythau â'u cysgodion duon yn llenwi'r strydoedd wrth gamu'n larts tuag tuag at feibion y crydd a nifer o'u cefnogwyr yr hynaf ohonynt llabwst gewynnog o'r enw crafwr a ddaeth atynt gyntaf gafaelodd yn ffidil stotig poerodd yng ngwyneb y sant a chrensio'r offeryn dan ei droed roedd tyrfa fechan o ferched y lle wedi hel o'u cylch pesychodd rhywun yn y distawrwydd dyma yng ngeiriau stotig beth a ddigwyddodd nesaf 'mi benderfynais yr ildiwn i'r llanc cydnerth plygais fy mhen yn isel tua'r llawr eithr roedd gennyf gywilydd ymddangos yn llai na dewr o flaen y genethod roeddwn i'n cofio egluro wrth nifer ohonynt faint mor ddewr yr oeddwn mewn brwydr roeddwn i'n clywed mab y crydd yn fy herio ond roeddwn i â'm llygaid tua'r llawr yn sbïo ar y cerrig mawr a welwn o gwmpas fy nhraed heb godi fy mhen eglurais yn ddiymhongar i crafwr mab y crudd nad iawn oedd iddo ddinistrio fy ffidil roeddwn i'n ei glywed yn piffian chwerthin a finnau'n codi â charreg drom yn fy llaw a blannais yng nghanol ei wyneb safodd fel coeden mewn gwynt am eiliad a chwympo i'r llawr cael a chael fu hi imi osgoi'r gwaed a sbowtiai allan o'i geg yn anffodus aeth peth o'r gwaed ar un o'm sgidiau a chefais ddrwg gan mam am faeddu eithr ni chefais drafferth gan crafwr wedyn canys bu farw rwy'n credu'n gydwybodol mai dyna'r adeg y sylweddolais fod canu'r ffidil a'r chwibanogl yn gallu arwain i brofedigaeth a phenderfynais gysegru gweddill fy oes i wasanaethu duw ' gwelwn yma'r mynach ifanc yng nghanol bwrlwm ieuenctid yn cael ei wysio efallai am y tro cyntaf i gyflwyno'i hun o flaen pyrth agored bywyd o ymgyrraedd ysbrydol bywyd a ordeiniwyd iddo o awr ei eni collfarnaf yr awduron hynny a fydd yn trin a thrafod ein mynach annwyl ei fywyd a'i waith ac a fydd weithiau mor hy ag awgrymu darfod i'n harwr gael hwb sylweddol yn ei flaen ar hyd y llwybr a ragordeiniwyd iddo gan y ffaith fod lloches i'w gael o ymaelodi mewn urddau eglwysig hyd yn oed i lofrudd yn enwedig ym mynachlog y brodyr zebra yr hyn mae'r awduron hybarch a da hyn yn ei fethu yw'r ffaith fod pawb yn y parthau hynny'n llofruddio'i gilydd yr adeg honno ac nad eithriad mo stotig isgis yn hyn o beth peth hollol naturiol iddo oedd ymuno â'r brodyr zebra gyda chatrawd frenhinol y taeogion gwledig y bu stotig yn gweini ei wasanaeth milwrol yn eu gwersyll ger dinas cracyr un noswyl sant bifys cychwynnodd gyda dau o'i gyd filwyr i ddifyrru'r noson yn y dref aethant i un o'r gwindai mawrion gloywon hardd ar y prif sgwâr lle'r oedd canu dawnsio a dathlu dan y goleuadau grisial cawsant fwrdd llieinwyn ac archebasant fwyd a diod a dyma fwrw iddi'n frwd i sgwrsio ac i dynnu coes fel y byddir ar achlysuron felly eithr ni chyfrannai stotig yr un gair i'r sgwrs toc troes ei gyfaill rachaboflaf ato a holi 'wedi cael dwyn dy bwdin yntau dwyn dy dafod wyt ti stotig dangos inni'r sawl a ddygodd dy bwdin ac fe'i tagwn ' 'ni ddygodd neb fy mhwdin canys nis archebais ' atebodd y milwr ifanc a golwg bell yn ei lygaid 'roedd y ddau gwrs cyntaf yn ddigon ' 'beth ynteu sydd ar dy feddwl stotig a bwrw fod gen ti un ' 'meddwl yr oeddwn ' meddai stotig 'meddwl amdanom yma'n y dafarn hon yn bwyta o'r seigiau gorau ac yn drachtio fodca pur o wydrau grisial a ninnau'n gwrando ar alawon pêr ein heangderau ac yn gwenieithio gyda'r merched ifanc ac yn eu cusanu'n braf ac eto ar yr union awr hon ar ben moel anial drwy ganol yr eira a'r gwynt yn torri trwyddyn nhw fel gwydr y mae'r mynaich troednoeth llwm yn ymlwybro o dan eu pynnau penyd tua'r offeren nos a hwythau heb gysgu ers pedwar mis meddwl yr oeddwn i tybed pwy sydd gan y lle gorau heno y ni ar anterth ein rhialtwch yma ynteu y nhw llwm fynaich yng nghanol oerni blin yr eira ' 'does dim dwywaith amdani ' meddai rachaboflaf gan ddrachtio'n hael o'i fodca 'y mynaich sydd orau eu lle heno yn bendifaddau ' 'os oes coel ar hyn ' meddai stotig wedi ei syfrdanu dywedir bod golau fel golau'r haul wedi tasgu o'i lygaid 'os gwir y geiriau hyn rwyf innau am fynd yn fynach canys tybiaf nad hawdd canfod lle gwell na'r eiddom yma'n awr ac os ydi'r mynaich yn well eu lle na ni yna mae'n fyd da iawn arnynt ac yn swnio fel y feri peth i mi ' 'nid anodd gan hwn goelio'r anhygoel ' sibrydodd rachaboflaf yng nghlust postyn byddar 'paid â'i ddarbwyllo fo o'r gwir neu mi geith siom fawr ' 'sut ' meddai postyn byddar 'dim ots ' meddai rachaboflaf 'be ' meddai postyn byddar 'cau hi'r penbwl ' meddai rachaboflaf â rhoi sgwd i'w gyfaill oddi ar ei stôl oni roliodd i ganol y llawr a'r dawnswyr yn baglu drosto y bore trannoeth diosgodd stotig isgis ei lifrai milwr a rhedodd i'r stryd yn noethlymun dan weiddi 'rwyf yn fynach rwyf yn fynach' aed ag ef mewn sach at y brodyr zebra at abad abaty moel anial 'fy mab ' gofynnodd yr abad badach iddo 'rwyt heddiw'n wedi dy ddinoethi gymwys fel yr oeddet pan ddaethost gyntaf i'r byd dynesa ataf fy mab gael imi gael iro dy gorff ag olew sanctaidd ' 'cadw dy hen fachau ichdi dy hun ' 'ni raid iti strancio fy mab ' 'dwi ddim yn fab ichdi'r sglyfath ' gwaeddodd stotig 'pwy ddiawl wyt ti'n feddwl wyt ti ' rhoes stotig swadan greulon i'r henwr ar ei big oni ffrydiodd y gwaed o'i drwyn 'fy mab diniwed myfi yw'r abad badach ac ni ddylit fod wedi gwneud hynna canys ti yw'r brawd stotig a ddaw'n enwog y rhawg am dreulio blynyddoedd mewn twll tanddaearol heb ddim i'w fwyta na'i yfed ond bara haidd a dw r golchi llestri a dim gair i'w glywed ganddo gydol yr amser heblaw ei baderau ac ambell i ga'i ddod allan rw an plîs ' 'am be ti'n mwydro'r mul digychwyn does gen i ddim bwriad o dreulio blynyddoedd mewn twll ' 'anghywir ' meddai'r abad a'i fys a'i fawd yn dynn am ei drwyn i nadu'r gwaed troes at ei ystlyswyr malwr a gwasgwr 'ewch ag ef ' meddai a rhoes glec ar ei fawd 'fe'th welaf di mewn ugain mlynedd stotig os byw ac iach yntê os byw ac iach ' sibrydodd air neu ddau arall yng nghlust ei ddisgybl ac yna'i daro'n ffyrnig yn ei lygad a migwrn cnodiog 'na na abad badach ' meddai'r taeog truenus ac yntau'n llefain dros bob man fel y'i llusgwyd o'r stafell 'abad badach sgynna'i ddim brwsh dannedd hefo fi plîs gollyngwch fi ga'i o leia estyn fy mhajamas mi ga'i gaethdra yn y tywyllwch ' atseiniai'r ebychiadau lloerig hyd y coridorau cerrig a'r sw n traed yn araf bylu ar draws tawelwch y nos daeth clec haearnaidd haearnborth yn cau a thoc wedyn dyma hi'n dawel eto estynnodd yr abad badach am gacen hufen o'r llestr arian wrth ei benelin a suddodd pâr gwancus o ddannedd gosod i'w chanol mae hon yn gacen felys iawn meddyliodd wrtho'i hun nifer o flynyddoedd wedyn a'r hybarch frawd wedi hen gynefino â'i gartref tanddaearol ymwelais ag ef un bore nadolig a chael ganddo newyddion syfrdanol  chryndod lond ei lais ebe fo 'celf goll y mynaich zebra ' pwyntiodd â'i fys ewinog du tua thwll yn ochor ei bydew 'darganfyddiad mawr o bwys ' meddai wedyn 'murlun canoloesol rhaid iti sôn wrth badach ' pan godwyd fi o'r pydew euthum ar f'union at yr abad badach mynegais iddo yr oll a glywswn cynhyrfodd yntau drwyddo a daeth golwg ryfedd i'w lygaid 'wyt ti'n hoff iawn o gacenni hufen ' gofynnodd yn gynnil cyn pen dim o dro roedd y brawd stotig wedi ei godi o'i ffau ffiaidd golchwyd ef mewn baddon marmor gwisgwyd abid a chasog amdano a dygwyd ef gerbron cynhadledd i'r wasg dyma fel yr adroddwyd am y darganfyddiad yn y taeog plwyfol cafwyd hyd i'r murlun gan yr hybarch frawd stotig isgis ac yntau'n crafu pridd a cherrig o dwnnel yr oedd wedi ei gloddio o dan y fynachlog mewn cynhadledd i'r wasg dywedodd yr hyb isgis 'roeddwn wrth fy modd yn y pydew oeddwn wir ichi ugain mlynedd ydi hi'n gymaint â hynny roedd duw gyda mi yn y twll tan tua dwy flynedd yn ôl ond bu camddealltwriaeth rhyngom ac fe aeth hoffwn bwysleisio nad ceisio denig o'r twll oeddwn i ' 'deallwn oherwydd natur fregus y murlun na fydd i'w weld am beth amser eto ymddengys mai'r unig un sydd wedi ei weld hyd yma yw'r hyb isgis 'mae'n arbennig o wefreiddiol ' meddai llefarydd materion anhygoel y fynachlog 'mae ein brawd stotig wedi disgrifio golygfa ryfedd mae'n ymddangos nad oes hafal i'r llun hwn wedi ei weld ar wyneb haul daear erioed mae'r abad wedi archebu bara brith a sgons i de a dyna sut y bydd yn dathlu'r darganfyddiad ' wedi'r dathlu cefais y fraint o fod yr un cyntaf i gael gweld y murlun arweiniwyd fi gan yr hybarch stotig ei hun crynai ei lais ag emosiwn wrth iddo egluro imi 'dyma'r darganfyddiad pwysicaf a wneuthum erioed roedd fel dydd yn gwawrio arnaf ' arweiniwyd fi yn ôl drwy'r haearnbyrth celloedd ac i lawr y grisiau culion cerrig i grombil y ddaear yn y gwaelod crogai ystol raff ac i lawr honno'r aethom i'r dyfnjiwn wedi hir ddisgyn daethom at geg twnnel a ninnau'n gwasgu iddo ac yn cropian ar ein hyd â'n gwynebau gwta fodfedd o'r llawr yn y pen gwelais yng ngolau'r fflashlamp lechen fawr lefn ac arni nifer o ysgythriadau oedd yn ymdebygu i ymgais gyntefig i chwarae oxo 'dyma chdi ' meddai stotig o'r tu cefn imi 'dyma'r cwbwl ' 'gwêl fel mae'r cylchoedd yn cynrychioli'r bod mawr a'r croesau'n ymgais gynnar i ddadansoddi'r aberth ar y groes gwêl fel y mae'r llinell letraws sy'n cysylltu'r tair croes ynghyd yn cynrychioli'r gwrth grist sydd am nacáu gwyrth yr aileni onid ydi o'n wyrthiol berffaith ' 'mae o'n crap ' meddwn i'n sychlyd braidd gan geisio cuddio peth ar fy siom ni allaf wadu nad oedd rhyw ddraenen bach o amheuaeth wedi turio i swigen fy mrwdfrydedd meddyliais fagio am yn ôl a dyna pryd y sylweddolais na allwn fynd roedd cwymp sydyn o bridd fel petai wedi cau y tu cefn imi yr oeddwn yn gaeth 'sut 'dan ni'n mynd o fan hyn stotig frawd ' meddwn i 'hei stotig lle'r wyt ti ' disgynnodd ychydig o bridd eto ac aeth o dan goler fy nghasog a chrafu fy nghroen cythrais i'r pridd gyda'm hewinedd ond daeth cwymp arall dros fy mhen roedd golau'r fflashlamp ar ddarfod yr oeddwn ar fy mhen fy hun yn y twll tywyll tawel ystyriais roi'r gorau i'r holl syniad o sgwennu cofiant yr hybarch frawd stotig isgis reptiles welcome reptiles welcome meddai'r arwydd ac mi es innau i mewn 'su'mai con ' meddai'r boi tu ôl y ddesg 'isio rhywbeth wyt ti ' 'pam dydi'r arwydd tu allan ddim yn gymraeg ' holais innau 'o wela' i ' meddai'r dyn 'un o'r rheini wyt ti ia blydi welsh nash dwi'm isio dy deip di yma eniwê be ydi reptile yn gymraeg ' 'ymlusgiad ydi'r gair swyddogol ' eglurais innau 'ond tydi o'm yn air da mae'n well gennyf i gael fy nghyfeirio ataf fel 'anifail ymlusgo' mae o'n fwy gwleidyddol gywir ac yn swnio'n well ' 'chdi â dy gymraeg mawr ' meddai'r boi tu ôl y ddesg 'sudd oren a chreision fyddi di isio nesa mwn blydi crancs sut fath o anifail sy'n ymlusgo wyt ti beth bynnag ' 'o armadilo ' meddwn innau gan gochi'n fflam goch achos roeddwn i wedi anghofio fy nghyflwyno fy hun roeddwn i wedi dysgu ei bod hi'n hanfodol dy gyflwyno dy hun i bobol a dyma finnau rw an wedi anghofio gwneud roeddwn i'n swil toeddwn ac yn ffwndrus achos dyma'r tro cynta imi fod mewn gwesty ac roedd pob dim yn newydd imi 'toedd roeddwn i ofn gwneud rhywbeth yn rong mewn lle crand yn enwedig tro cynta achos fasat ti ddim isio dangos dy hun yn wirion o flaen pobol ddiarth nafsat toedd hwn ddim yn lle crand felly erbyn dallt ond wyddwn i mo hynny ar y pryd 'tydi ffycin armadilo ddim yn repteil ' meddai'r boi 'pardon ' meddwn innau 'dim ond repteils dwi isio yma ddim blydi anifeiliaid o fforestydd y glaw wyt ti'n meddwl na fedra i ddim nabod 'ymlusgiad' pan wela'i un i be ddiawl 'dwi'n talu 'nhrethi os ydi pob anifail penchwiban am gael martsio drwy fy lle fi'n cwyno am fy seins gan honni ei fod o'n repteil sw gaer ydi'r lle i chdi mêt ' 'wel dwi'n feri sori ' meddwn innau ac mi roeddwn i'n sori go iawn achos ymlusgiad oeddwn i wedi meddwl oeddwn i nid trio twyllo'r dyn oeddwn i roeddwn i wedi cael fy nwyn i fyny i gredu mai dyna'r oeddwn i gan y cenhadon ystwyth rheini ddaru fy nghymryd i oddi wrth mam a'm magu fi mewn caets wyddost ti be hwnna oedd y tro cynta imi ddysgu nad dyna'r oeddwn i mi ges sgytwad go hegar dwi'n deud dim llai 'ga'i lasiad o ddw r syr plîs ' meddwn i 'dwi'm yn teimlo'n dda iawn ' mi ges gymaint â hynny gynno fo a chael ista lawr am funud hefyd ac ar ôl cael llymaid bach o ddw r mi ddois ataf fy hun a gallu egluro'r sefyllfa i'r perchennog ac mi ddaeth yntau at ei goed wedyn a dechra bod yn reit glên 'tisio peint 'ta ' medda fyntau 't'yd dwi'n alcoholic ' 'wel oce 'ta ' meddwn i 'trowch fy mraich i ' roeddwn i'n trio torri cyt o'i flaen o a smalio 'mod i wedi hen arfer a ballu trio chwerthin yn gês i gyd a jarffio i fyny at y bar ond wedyn mae hi'n anodd chwerthin hefo ceg bach bach fatha sgin armadilo ac mae hi'n anodd jarffio hefo cragen ar dy gefn a choesau chwe modfedd o hyd ta waeth mi gym'ris i at y cwrw felinfoel oedd o os dwi'n cofio'n iawn ac mi wnaeth hi gwpwl o beints ac mi'r aeth rheini'n gwpwl o beints wedyn wyddost ti fel mae hi ac erbyn daeth y locals i mewn gyda'r nos roedd y ddau ohonom ni'n dawnsio ar ganol y bwrdd pw l nacia wir dim byd hoyw dynas armadilo ydwi yli belinda 'di'r enw be ddeudaist ti oedd d'enw di cartoffl enw cymraeg da y wiwer goch ola' ddeudist ti dwyt ti ddim yn debyg i'r un wiwer welais i a be ddigwyddodd i dy gynffon o sori sore point dallt yn iawn 'ddylis i ddim dy fod ti mor groendenau dwi'n siw r fod mewnlifiad y llwydion yn broblem fawr ichi ia dallt yn iawn cyw rw an lle'r oeddwn i ia wel ar ganol bwrdd pw l oeddan ni ac mi roedd y cwsmeriaid wedi gwirioni'n bot 'toeddan tro cynta i lawar ohonyn nhw weld armadilas chwaethach byth ei chwrdd a chael prynu peint iddi dwi'n meddwl mai am fy mod i'n enghraifft wych o'm rhywogaeth ddaru nhw gymryd ata'i i ddechra a hefyd wel mi fyddai'r armadilos eraill yn sw yn arfer dweud fy mod i'n secsi o taw â dy lol wirion gwranda dyma'r boi oedd bia'r lle ata'i tua amser cau a gofyn awn i i'r gwely hefo fo deud wnaeth o na fydda'i wraig o ddim adra tan yn hwyr hwyr a toedd dim ots amdani beth bynnag yr hen sgwran hyll iddi'n smocio'i ffags yn gwely ac yn byta'i tsips yn bath a byth yn cynnig panad iddo fo pan fyddai hi'n cael panad bora a ta waeth am hynny roedd yn gas gynno fo hi beth bynnag a toedd hithau ddim yn hidio fawr amdano fo felly pa wahaniaeth oedd o i neb os oedd o wedi syrthio mewn ffansi hefo repteil 'ddeudist ti nad oeddwn i ddim yn repteil ' mynnais innau achos oeddwn i wedi dechra meddwi dipyn bach ac os nad ymlusgiad oeddwn i go iawn toeddwn i ddim am i neb gael meddwl mai dyna oeddwn i 'anifail ydwi a thydwi ddim yn drewi lot ' 'oce 'ta 'mach i ' medda fyntau'n ffeind 'neith hi un arall ac mi awn i'r llofft am ffwc ' 'dwi'm yn gwybod ffor i neud o ' meddwn i achos toeddwn i ddim 'be mynd fyny grisiau ' medda fyntau 'nacia ' medda finnau achos mi roeddwn i'n swil braidd doeddwn i ddim wedi cael cyfathrach rywiol hefo dyn mawr blewog hefo bol cwrw o'r blaen wyddwn i ddim be i'w ddisgwyl wel toes yna fawr o ddarpariaeth o ran gwersi rhyw yn y sw dwi'n amau mai dyna'r rheswm tydi sw ddim yn lle da i fagu anifeiliaid bach ac wrth gwrs hefyd pan ti'n gaeth mewn caets wyt ti'n rhy ddigalon i fod isio ffwcio lot oeddwn i wedi bod hefo rhai o'r mwncwns ond oeddan nhw'n hoples naddo fues i rioed hefo gwiwer cofia fasa gen i ddim awydd rywsut ta waeth roedd hwn yn fwy na'r un mwnci welis i erioed ac yn lot mwy na gwiwer wel mi es i'r llofft a thurio i ganol blerwch y cynfasau dwi'n siw r fod fy nghragen i'n gwneud lwmp dan y dillad gwlâu ond fedrith armadilo ddim tynnu'i chragen 'sti achos mae hi'n sownd ond cragen neu beidio dwi'n meddwl 'mod i'n reit ddeniadol yn ll'gada walter sori ddeuis i ddim naddo walter harris ydi'i enw o ella dy fod ti'n gwybod amdano fo wel mae'n rhaid fod walter yn fy ngweld i'n ddeiniadol achos pan ddaeth o i'r llofft roedd gynno fo bolyn tent syrcas yn ei drwsys ac mi ddaeth yn syth amdana'i heb dynnu amdano na dim dim ond agor ei falog a syrthio'n glewt i ganol y gwely 'walter ' meddwn i mewn llais bach clws 'walter wyt ti am wneud cariad hefo fi wyt ti walter plîs paid â bod yn ryff hefo fi wnei di ' 'o ffyc off crwban ' meddai walter a dyma fo'n dechrau chwyrnu fel injan stêm a phan sbïais i arno fo wedyn dyma fi'n gweld faint mor horibl oedd o go iawn a'i hen dishirt o'n stremps i gyd a'i fol cwrw fo fatha slefran fôr anfarth a'i wallt o'n diferu o saim a'i ddannedd o'n frown ac yn felyn a dyma fi'n meddwl ych a fi am ddyn ffiaidd dwi'm isio hwn yn gariad i mi a dyma fi'n closio'n nes ato fo ac yn turio fy nhrwyn hir i'w falog ac i mewn i'w drôns o a dyma fi'n cydiad gafael yn ei hen bidlan gerfydd fy nannedd bach a'i chnoi hi fel fflamia fatha tasa hi'n bry genwair ac ws ti be 'ddeffrodd y diawl ddim cofia a finnau'n gallu denig allan o'r ty drwy'r cefn a rhedeg nerth fy mhegla ar draws caeau i'r coed i guddiad cuddiad ydwi byth 'ddar hynny hefyd achos mae'r sw isio fi'n ôl ac mae walter wedi rhoi hylltod o bres iddyn nhw i gael hyd i fi ond chân nhw byth mohona'i achos dwi'n rhy giwt iddyn nhw i gyd mae'n iawn arnach di cartoffl toes yna'r un sw fyddai'n cynnig crocbris am wiwer goch heb gynffon ia mi wn i eich bod dan warchae'r llwydion a ballu a ballu ond taw am funud gael imi gael gorffan y stori fues i draw heibio gwesty walter yn ddiweddar 'ma 'sti wedi mynd am dro bach i'r cyffiniau oeddwn i ac mi arhosais i'n ddistaw bach yn y coed am y lôn a'i le fo i gael busnesu dipyn bach doedd fawr ddim wedi newid mi roedd angen côt o baent ar yr adeilad roedd llond y potiau blodau o chwyn a dim byd yn y maes parcio ond rhyw hen gronc o gar a dim gwynt yn y teiars dim ond un peth oedd wedi newid roedd o wedi gosod arwydd newydd sbon y tu allan a hwnnw mwya c'wilydd iddo fo'n dal yn uniaith saesneg a be sgynno fo arno fo ond 'no ffycin reptiles' crafu ffenest cyn iddo ddiffodd golau erchwyn ei wely penderfynodd scilingo capten wedi ymddeol o'r llynges godi i roi taw ar y crafu ar ei ffenest roedd gwres y ty wedi ei hen ddiffodd ac felly gwisgodd ei slipars a'i w n nos cyn croesi'r stafell rhythodd drwy'r gwydr i drio dal y diawchiaid bach ond ni welodd ddim byd nid oedd dim i'w weld heblaw'r tywyllwch y tu allan parodd hynny beth syndod i scilingo oherwydd tybiasai y byddai goleuadau'r stryd yn dal ynghyn yr adeg yma o'r nos ond gan na chodai'n aml iawn mor hwyr â hyn ni feddyliodd fawr amdano roedd y nos yn gwneud i'w ffenest sgleinio fel drych gan ddangos ei wyneb yn fanwl ac yntau'n falch o weld fod pob blewyn yn ei le roedd hi'n amser maith ers iddo'i weld ei hun yn y drych wedi rhoi'r gorau i eillio'i locsyn i beth yr oedd angen cadw drych yn ei ystafell gwelodd heno bâr o lygaid yn rhythu arno sylwodd ar y cysgodion hirion oddi tan ei lygaid pryd daeth y rhychau dyfnion yna ar draws ei dalcen daeth llaw i'r golwg ei law dde a honno'n codi at ei wyneb ac yn anwesu blew ei locsyn a fyntau wedi cau'r llenni fe ddaeth pethau'n ôl i drefn tybiodd fod y sw n crafu wedi mynd ni allai mo'i ddioddef yn enwedig yn ystod y nos roedd y smic lleiaf o dwrw'n ddigon i'w gadw ar ddi hun neu i'w ddeffro ac yntau'n cysgu nid oedd wedi bod yn cysgu'n dda hyd yn oed cyn y crafu ffenest ond rw an gyda'r crafu ffenest diawledig yna wedi dyfod i'w blagio rownd y bedlen pwy oedd y tu ôl iddo pwy bynnag oedd wrthi mi caen nhw hi ganddo fo a holl rym y gyfraith yn gefn iddo unwaith y câi o afael ynddyn nhw mi gaent weld nad neb o ddyn oedd adolfo scilingo ceisiodd feddwl faint oedd hi o'r gloch er mwyn taro nodyn ar bapur fel arfer byddai'n gallu dyfalu'r amser yn gywir i'r pum munud agosaf eithr am ryw reswm heno sylweddolodd nad oedd ganddo'r syniad lleiaf faint o'r gloch oedd hi ni chadwai gloc wrth gwrs gan y byddai'r tipian diderfyn wedi ei yrru'n wirion bost mewn byr o dro a beth bynnag onid i'r cloc y bu'n gweithio gydol ei yrfa erioed onid oedd hi'n iawn iddo anghofio am ormes bysedd y cloc bellach ac yntau wedi ymddeol gwasgodd y botwm yn ystlys ei set radio ond efallai oherwydd traul ar y batris ni ddaeth ohoni ond hisian tonau'r môr rhoes dro i'r nobyn crwn ond yr un sw n a gafodd ar draws pob tonfedd ac o roi'r teledu ar fynd ni chafodd ar honno ddim byd ond eira mân yn pluo ar bob sianel cododd declyn y ffôn i gael galw'r cloc siarad gwylltiodd yn gacwn pan ddaeth hisian tonau'r môr o glust y ffôn hefyd fel y sw n sy'n dyfod o grombil cragen pam nad oedd dim byd yn gallu gweithio'n iawn yn y wlad ansyber hon onid oedd ei filiau i gyd wedi eu talu'n brydlon pa esgus oedd ganddyn nhw am ddiffygion fel hyn penderfynodd yr âi ar ei union allan i ffonio'i gw yn o'r ciosg stryd ond pan geisiodd agor drws ei lofft roedd yr handlen yn troi'n gylch fel pedlen beic a'r drws yn 'cau agor curodd ei ddyrnau ar y pren nes sylweddoli na chlywai neb mohono dyna fo meddyliodd mi arhosai tan y bore felly ac mi weiddai allan drwy'r ffenest a chael help wedyn yn ei dempar odid na fyddai wedi ceisio dringo o'r ffenest i ganghennau'r goeden oni bai iddo eisoes sicrhau ei bod wedi ei thocio'n llym rhag dyfod ei brigau ar gyfyl ei ffenest ar yr adar yr oedd y bai mae'n rhaid felly roedd hi'n gywilydd o beth nad oedd gwydr atal sw n yn gallu atal rhyw fymryn o grafu adar roedd y gwydr dwbl wedi llwyddo i ladd trydar yr adar ben bore yn effeithiol iawn ond nid y crafu ffenest ni ataliai mo hwnnw o fath yn y byd byddech yn tybio mai papur llwyd oedd yn ei ffenesri nid gwydr tew ond felly mae hi mae'n debyg tydi'r adar yn nythu yn y gwanwyn ac yn mynd yn wenwynllyd o'u coeau o bob aderyn arall a ddaw ar eu cyfyl a hynny'n cynnwys eu cysgod eu hunain yn y gwydr a dichon mai dyna ydi'r twrw ar y ffenest hyrddiadau'r cyrff bach pluog yn taro'n erbyn y gwydr rhyw ditw tomos las wallgo neu robin goch hurt bost wfft iddyn nhw doedd gan scilingo fawr o barch at adar ac roedd eu giamocs yn ei gynddeiriogi a nhwythau mor hy a'i amddifadu o'i gwsg bob nos byddai'r pethau hyn yn cael eu datrys unwaith ac am byth yn y bore wedi i'r wawr dorri aeth i orwedd a'r clustogau o'r diwedd yn braf o dan ei ben gwasgodd fotwm y golau erchwyn i'w ddiffodd llifodd y duwch drosto nes oedd llond ei ben o wreichion coch a melyn o flaen ei lygaid ym mhob man daeth sw n bach heibio'r crafu ffenest i mewn i'w glust rhyw sw n o'i grombil oedd o fel tipian cloc bwrlwm o synau fel swigod mewn dw r yn berwi drwyddo roedd ei anadl yn gyson serch hynny fel anadl y rhai a deithiai'r awyren byddai eu hanadl yn gyson ac yn llyfn a nhwythau'n cysgu'n sownd roedd gan bob un ohonynt ryw batrwm neilltuol i'w anadlu pymtheg ohonyn nhw'r noson honno saith dyn wyth dynes yn gorwedd yn noeth ar lawr yr awyren a'r cwbwl ohonynt yn anadlu'n braf mae'r awyren yn chwyrnu drwy'r nos mae hi'n canu grwndi uwch ben yr eigion roedd lleisiau'n siarad yn ei helmed ac yn ei orchymyn egyr y pyrth cefn a daw hoelen o wynt i'w wyneb a gwynder y lleuad i'w lygaid ymhell bell islaw mae'r tonnau'n gwnio pwythau cris croes ar y môr o un i un mae o'n helpu i lusgo'r cysgwyr noeth tua'r porth allan ac yn eu gwthio fesul un drwyddo nid yw'n eu gwylio'n disgyn unwaith fe lithrodd ei droed a fu ond y dim iddo fo blymio allan ar ôl un o'r cysgwyr mae o'n plymio eto heno drwy haenau o gwmwl ac yn gweld amrannau bach o ewyn yn wincio arno a llygad y lleuad ar y môr ond cyn iddo ddeffro mae o'n arafu ac yn suddo'n hawdd trwy ddail castanwydden i'r llawr a dafnau o law yn pitrwm patrwm ar y dail llenwa ei ysgyfaint ag aroglau'r glaw a gwylio'r dw r yn gwneud olion malwod ar y dail sefyll mae o ar ganol llwybr caregog rhwng y caeau a'r coed yn y pellter mae'r mynyddoedd wedi eu cuddio gan garthen o gwmwl efallai mai'r tu hwnt i'r mynyddoedd y mae ei gyrchfan mae o'n holi'r cerddwr sy'n cymryd seibiant ym môn y clawdd nid yw hwnnw'n ei ateb nid yw'n codi ei lygaid ato nac yn ei gydnabod mewn unrhyw ffordd dyro ateb gwaedda mae'n rhaid iti roi ateb mae o'n cofio'r gweiddi a'r sgrechian liw nos o'r seleri holi mae'r cerddwr yn dal i'w anwybyddu be fedr scilingo ei wneud ond cerdded y llwybr tua'r bryniau draw mae o'n dyfod at gastell a'i byrth o'n eang a'i dyrau'n lluosog ni ddaw adyn byw ato ac yntau'n crwydro'r cynteddau o neuadd i neuadd mae o'n chwilio'r castell a phob neuadd yn foel heb danau ar ei haelwydydd yn y man daw i ben un o'r tyrau oddi tano fe wêl gefn gwlad clytiog o gaeau a choed yn y pellter mae stormydd duon yn hel am gopaon y mynyddoedd wrth sbïo i lawr mae o'n cael pendro sydyn ac mae cerrig y tw r yn sydyn yn ansad o dan ei draed mae o'n sychu'r chwys oddi ar ei dalcen ac yn simsanu yn ei ôl am y grisiau unwaith eto mae o'n prysuro o neuadd i neuadd gan chwilio am ffordd i ddianc wedi cyrraedd y llawr o'r diwedd mae cloeau mawr ar y drysau mae agoriad yn crogi mewn blwch yn ochor un o'r drysau ac yntau'n estyn amdano dim ond pennau'i fysedd sy'n llwyddo i gyffwrdd â'r metel oer pam ei fod o wastad mor oer mae o'n cofio rw an bu yma o'r blaen ac wrth gofio mae o'n sylweddoli ei fod o wedi deffro a'i bod hi'n ddu bitsh yn ei ystafell a dim sw n crafu yn dyfod o'r ffenest mae o'n estyn at y lamp erchwyn ac yn gwasgu'r botwm dratia mae'r ffiws wedi chwythu neu mae'r bylb yn ffliwt ydi'n rhaid iddo fod heb olau rw an ar ben bob dim mae o'n flin ei fod o'n gorfod straffaglu o'i wely i chwilio am swits y golau mawr nid yw ei slipars yn y lle y gadawodd o nhw wrth droed y gwely nid yw'r carped yn y lle y dylai fod ar lawr o dan ei wely yn lle carped mae cerrig a'r rheini'n fferru'i draed mae o'n estyn ei law i chwilio am y swits golau ond ni ddaw dan ei fysedd ond cerrig geirwon mur castell yn araf deg bach â'i law o'i flaen mae o'n cylchu'r ystafell gan ddisgwyl bob munud cael dyfod at ffenest neu at ddrws ond ymhen hir a hwyr mae o'n rhoi'r gorau iddi ac yn gorfod gorwedd ar lawr i gael ei wynt ato a daw'r oerfel i'w ysu hyd fêr ei esgyrn yn ei annifyrrwch mae o'n holi pam fod yn rhaid iddo fo ddioddef hyn dim ond dilyn ei gyfarwyddiadau a wnaeth yn ei waith fel pawb nid y fo oedd wedi dyfeisio'r polisïau nid y fo oedd wedi rhoi'r pigiad cysgu i'r rheini oedd yn fflio'r awyren dim ond dilyn rota'r noson wnaeth o yn ôl rota'r noson honno ei waith oedd helpu i luchio allan os oedd ganddo awydd i ddyfod ymlaen yn ei yrfa fe wyddai fod yn rhaid iddo gymryd rhan ni fyddai ganddo obaith fynd yn gapten heb rhoi help llaw ar awyren nos fercher ac oni fu bron iddo dalu'n ddrud am ei wasanaeth hefyd mae o'n fflio'r awyren eto neu efallai mai awyren arall ydi hi mae o'n eistedd yn nesaf at y ffenest yn union y tu ôl i'r adain chwith mae'r haul yn loyw ar fetel yr adain a fflapiau ar ymyl yr adain yn agor ac yn cau yn croesi'r mynyddoedd mae ffyrdd igam ogam yn mynd dros y bylchau a'r haul weithiau'n chwincio oddi ar sgrîn wynt rhyw gerbyd ar y lôn yma a thraw yn y dyffrynnoedd mae rhwydwaith y lonydd yn cyrraedd pentrefi ar gopaon y mynyddoedd mae'r eira'n sgleinio'n wyn yn yr haul ac yn las yn y cysgodion a llond sgyfaint o gwmwl yma a thraw yn crwydro'r ffriddoedd mae hi'n amser cinio ar yr awyren a daw dwylo mewn menig duon i rannu'r arlwy a rhoddir hambwrdd plastig ar y silff o'i flaen mae caead ffoil wedi ei gau'n dynn ar ddesgil betryal y prif gwrs yr unig fwyd cynnes a gafodd felly dyma'r un cyntaf i'w agor penderfyna rhaid iddo godi clustiau'r cap ffoil a thynnu'r caead yn ofalus rhag iddo golli'r cynnwys ar ei lin cyllyll a ffyrc tila mae rhywun yn eu cael hefyd ond o leiaf nid rhai plastig ydyn nhw mae o'n dewis hanner potelaid o win coch gwin y wlad maen nhw'n hedfan drosti sylwa fod tameidiau o gwmwl yn dechrau britho'i ffenest allan fel gwlân dafad ar weiren bigog mae'r awyren wedi dyfod i ganol rhyw derfysg medd y llais mewn nifer o ieithoedd ac ni fydd y coffi'n cael ei weini nes y byddant wedi dyfod allan ohono'r ochr draw mae'r niwl yn chwyrlio'n dew y tu allan i'w ffenestr a scilingo'n dychmygu angylion yn hedfan drwyddo a'u gynau gwynion yn llaes a'u traed yn noeth roedd pawb arall yn ymgodymu a'u cinio fe sbïodd allan eto a gweld gwyneb yn sbïo'n ôl arno o'r niwl ni allodd mo'i reoli'i hun a sgrechiodd nerth esgyrn ei ben troes pawb eu pennau ato mewn syndod mae'r sgrech yn fferu rywle yn ei frest nid pennau sydd wedi eu troi ato ond penglogau a dannedd mawr gwynion yn gwenu arno a thyllau duon yn syllu arno yn lle llygadau bob tro pan fyddai'n deffro o'i gwsg cythryblus byddai scilingo yn ceisio dileu ei freuddwyd o'i feddwl byddai'n prysuro i ymolchi ac i wisgo amdano ac allan â fo wedyn i'r stryd o'i fwrdd ar balmant y caffi byddai'n arfer gweld y mamau a'r neiniau yn eu dillad duon ac fe wyddai beth oedd ar eu baneri ond nid aeth atynt erioed i egluro'r hyn a wyddai am y desaparecidos efallai y dylai egluro efallai wedyn y câi lonydd gan y crafu blin mi âi atynt yn y bore penderfynodd ond bod y bore heddiw'n hir yn dyfod yn y cyfamser mae o ar ei hyd ar lawr yn fferru yng nghanol y tywyllwch ac mae'r crafu yn ei ôl mae'r crafu'n nesu'n nes bob gafael daw'r crafu ato ar hyd y cerrig mawr mae'r crafu'n sibrwd yr hen gwestiynnau yn ei glust fel tonnau'r môr yn holi'r graig ac mae pymtheg enaid a phymtheg mil yn ei gario fel cwrwgl ar lanw uchel ac o'r diwedd mae o'n deall nad ei holi y maen nhw ond ei gyhuddo gw yr nad cysgu y mae o a gw yr na chaiff ddeffro eto ychwaith mae'r crafu wedi cyrraedd ei frest ac mae'r ewin hir wrthi'n symud ei ddillad nos oddi ar ei groen ac yntau'n noeth daw crafangau mewn menig i afael am ei fferau ac am ei arddyrnau a'i dynnu'n dynn dros y cerrig mae'r crafu ar ei ffenest wedi peidio a scilingo eisoes yn clywed y nos yn llifo drwy'i wythiennau yn lle gwaed y parch a'r het dros filltir o led ydi'r afon yn ei cheg ac mae'r llwyni isel ar y dorlan bellaf yn mynd a dw ad fel rhuban yn nhonnau'r tes daw pob math o nialwch i'r lan yng ngheg yr afon hen ddodrefn sgerbydau cychod cyrff oni bai am yr awel sy'n codi o wyneb y dw r mi fyddai'n rhy fyglyd i eistedd allan ar y feranda dan gysgod y cynfas gwyn wrth gwrs mae'r pimms oer yn help ac mae hi'n braf cael gwrando crafu'r tonnau ar y tywod du 'esgusodwch fi ' meddai dyn bach wedi ei wisgo fel arloeswr tiroedd anghyfannedd o fwrdd cyfagos 'a glywais i chi'n sôn am buenos aires ' roedd helmet wen am ei ben a gwallt mawr gwyn fel cnu dafad yn ymwthio ohoni 'lle diddorol iawn ' meddai'n fyfyrgar 'wyddech chi mai o'r llydaweg buan hag aes y daw'r enw wel a dweud y gwir y fi enwodd y lle ' siaradai'r dieithryn braidd heb agor ei geg fel tafleisydd cododd a sefyll ger eu bron 'maddeuwch i mi wnes i ddim fy nghyflwyno fy hun ' estynnodd ei law 'yr athro devet e lostig m a llydawr a llyfrbryf wrth fy ngwaith ond arloeswr tiroedd anghyfannedd yn ystod oriau hamdden ' syllodd ar y gwydrau pimms 'ar eich gwyliau ydych chi mor hy â gofyn ' 'y parchedig john f thomas ' meddai john f thomas gan wthio'i wydr o'r neilltu a chodi i ysgwyd llaw â'r dyn 'a dyma gloria wilderbeest evans fy nyweddi mae ein gwyliau ar fin dw ad i ben ' roedd tinc sur i'w glywed yn ei lais pan gafwyd nad oedd yr athro'n aelod o'r hen gorff archebwyd rhagor o'r ddiod oer a daeth y gweinydd tal yn ei fenig gwynion i'w dollti i'r gwydrau gan foesymgrymu'n ffurfiol ond yn urddasol 'ddaru chi ddim hidio llawer am y wlad felly ' holodd yr arloeswr llydewig 'y bwyd ddim yn dygymod hefo chi mae'n debyg ' 'nid hynny oedd ' grwgnachodd john f thomas 'cael ein herwgipio wnaethon ni diar annwyl gan ddau giaridym budr ac anllythrennog a chael ein trin yn enbyd iawn ganddyn nhw ond mi gawsant ail yn y diwedd y ffieiddgwn afiach iddyn nhw ' 'bu'n brofiad ysgytwol iawn ' ategodd miss wilderbeest evans yn ei llais edrych lawr ei thrwyn roedd hi'n llong hwyliau fawr o ddynes a'i breichiau fel canghennau a'i choesau fel dwy goeden 'sut fath o daclau brwnt fyddai'n herwgipio pererin dwch ' 'gif yp ' meddai'r llydawr 'eithr credaf y caf wybod yn dra buan ' ac mi gafodd wybod eglurwyd iddo fel y bu john f thomas yn mwynhau te cymreig paned a phic ar y maen yng nghaffi casa marguerita gannoedd o filltiroedd o'r sanctaidd fan y bu miss wilderbeest evans yn teithio ynddi ar ei phererindod i san marcos de la compostella uchaf a chafodd wybod am y modd y daeth y ddau yn agos yn ystod eu caethiwed ac yn y diwedd setlo ar briodi tydi o'n rhyfedd y pethau a arfaethir i ddyn gan ffawd roedd ffawd higgins yn ddyn boliog iach a llond sach o chwerthin mewn bocs yn ei frest nid trwy orwedd ar wastad ei gefn mewn gwely plu y llenwodd ei ben â dannedd aur eithr trwy chwys ei wyneb ynghyd â'i allu rhyfeddol i nabod mewnfudwyr addas i'w pluo dyn ydoedd wedi ei galedu gan erwinder llethol y paith un o 'hil y diawl dan haul y de' chadal byfer y bardd yn ei epig 'hallt yw'r môr' y diwrnod hwnnw pan ddaeth miss wilderbeest evans heibio san marcos de la compostella uchaf yn ei fan yr oedd ffawd higgins wrthi'n clymu'i ful i ganllaw grisiau'r salw n ond nid yn san marcos de la compostella uchaf yr oedd john f thomas y diwrnod hwnnw eithr saith gan milltir o'r fan a fyntau'n cael 'paned wrth fwrdd â lliain coch a gwyn drosto ym muarth caffi casa marguerita dan gysgod masarnen fawr roedd ei goler starts yn brathu'i dagellau a'i het gantel llydan yn boeth odiaeth am ei ben cododd gwpan tsieina eiddil at ei fin a honno'n cosi godre'i drawswch trwchus 'paned dde ' meddai fel petai'n dyfod o grombil mwynder maldwyn un o fôn ydoedd go iawn ond ei fod o wedi darganfod amgenach tafodiaith 'iti moin ifi wneid e nawr parch bach ' holodd marguerita mimosa mewn acen a orweddai rywle rhwng gwauncaegurwen a santiago 'ddim eto ddynes er mwyn dyn ' bytheiriodd john f thomas 'rwy'n cael 'paned ' tasgodd stribed o de o'i geg a chronni'n berlau crynedig hyd odre'i fwstash pwyntiodd â bys main diwyro i gyfeiriad llwch a godai'n igam ogam o ganol ehangder unffurf y dyffryn 'mae rhywun yn dyfod ac nid dirwestwr mohono ' gwelid o bell glustiau hirion mul yn codi ac yn gostwng drwy'r llwch ac o dro i dro gwelid chwip yn codi ac yn gostwng hefyd a thoc wedyn clywid clec lledr yn cosbi'r gwynt 'bydd e señor morgan sbelen yn cyrraedd w ' meddai señora mimosa 'mae amser 'da ni i gael un bach 'to 'sbo ' 'tewch ddynes ' meddai yntau temiodd arni a brathu brathiad pwrpasol o'i bic ar y maen yn y cyfamser mae miss wilderbeest evans â'i breichiau ar y cownter a hithau'n plygu drosto tuag at jose juan y gwerthwr creiriau ac mae hi'n lleisio'i chw yn am y seithfed tro 'nid af oddi yma oni chaf fy mhres yn eu hôl mae'r gofrodd a brynais yn ddiffygiol mae o wedi torri dyma hi'r dderbynneb rw an tala ' 'mae'n ddrwg gennyf ' ymddiheura marsiandwr y cofroddion diffygiol dyn main pryd tywyll a'i wep wywedig yn suddo'n is na'i ysbryd llwm 'mae'r pres wedi mynd desaparecidos welwch chi ' mae'n dangos â chefn ei law y ddrôr fawr wag sy'n agored o'i flaen 'dewch señorita darllenwch fy ngweflau dim pres yn ôl dim byd byth tydi o'n rhyfedd fel y gall ffawd dynnu dau lwybr yn un yr oedd ffawd higgins wrthi'n clymu'i ful i ganllaw grisiau salw n y pentref a newydd dynnu cefn ei law dros ei weflau pan welodd ddynes fawr nobl a'i pheisiau fel dail coed yn plymio allan o siop greiriau jose juan ac yn cwympo'n hwdwl i ganol y stryd rhuthrodd ati a chynnig iddi help ei law bustachodd hithau'n drwm i'w thraed a dechrau curo'r llwch o'i sgerti llydain 'ffawd higgins at eich gwasanaeth fadam ' meddai'r brodor a'r aur yn fflachio fel brithyll yn ei wên dechreuodd ei helpu i guro'r llwch o'i dillad 'tynnwch eich hen ddwylo oddi arnaf ' meddai'n chwyrn 'rwy'n all right thanciw nid wyf erioed wedi profi'r fath annuwioldeb rydych oll ac un yn anwariaid yn y parthau hyn ac mi fydd yn adroddiad anffafriol iawn gaiff y w i amdanoch pan af adref ' 'siw r iawn siw r iawn ' ymddiheurodd ffawd higgins gan feddwl wel i beth y mae twrci'n da ond i'w bluo 'dewch mi wn i am le lle cewch chi lonydd ' nid amlach y daw ffawd nag y daw anffawd yn ei sgil mae anffawd morgan yn gweiddi 'hola ' wrth groesi buarth casa marguerita tuag atynt saif marguerita mimosa wrth benelin y parch gan arllwys bwa o de o'i thebot i lygad ei gwpan 'bonas tardas señor morgan ' medd yr wreigan a phlygu'r ben glin i'r newydd ddyfodiad tal llychlyd 'y parchedig john f thomas ' medd john f thomas gan godi ac estyn ei law 'que ' medd y dyn a throi at marguerita 'un o'r hen wlad ' eglura hithau mae hi'n plygu'r ben glin ato cyn troi am y ty dychwela â llond ei hafflau o lestri te hwylio'r bwrdd nesaf at fwrdd john f thomas i anffawd morgan gael te hefyd 'o gymru 'chi'n dod ife ' medd y dyn gan blygu drosodd at fwrdd ei gymydog mae o'n estyn ei law ato'n ara deg bach ar ei arddwrn sylwa john f thomas ar lun tatw glas o we pry copyn a phry cop mawr arni wrthi'n rhwydo'i brae maen nhw'n ysgwyd llaw 'wel ' medd anffawd wedi iddo ddrachtio o'i baned 'beth sy'n dod â thi i le fel hyn señor thomas ' 'enillais i wyliau ym mhatagonia am wylio s c ' eglura john f thomas heb rodres yn ei lais 'deuthum yn ail mewn cystadleuaeth darogan y dyfodol mi ffilmiwyd y cwbwl yng nghaernarfon ' 'wel ' medd anffawd 'sdim diben darogan y gorffennol sbo ' mae sglein yn lledu ar draws ei lygaid culion 'darogan y dyfodol ife dyma brawf iti beth sy'n mind i ddicwdd fori ' 'ail y dois i ' medd john f thomas yn bwyllog 'nid wyf eto'n feistr ar fy nghrefft ryw awr ymlaen llaw ydi'r gorau y medraf ei ddarogan eto ' 'wyt ti'n gallu darogan poen a gofid i ti dy hinan o fewn yr hanner awr nesaf yma 'te ' 'nid wyf yn medru darogan hynny ' meddai john f thomas 'blydi hoples ' medd anffawd morgan gan estyn bonclust egr iddo onid yw ei sgrech yn uwch na bloedd mochyn ar agor ei wddf nid yw anffawd fawr o dro wedyn yn ei glymu â'i raff a'i godi fel sach i gefn ei drol mae'r haul eisoes yn lledu cysgodion ar draws buarth y caffi mae'r awel nos yn siffrwd yn nail y gastanwydden  chlep o'i chwip mae anffawd morgan yn gyrru'r drol wichlyd a'i llwyth syfrdan yn ôl y ffordd y daeth ar draws y paith cyn mynd o'r golwg yn llwyr yng nghysgodion y nos mae o'n codi'i het unwaith ar marguerita mimosa a hithau'n sefyll yn syllu arno o adwy'r buarth 'miss wilderbeest evans ' ebychodd john f thomas wedi i'r rhwymau gael eu tynnu o'i geg 'ai chi sydd yno ' nid oedd erioed wedi ei gweld yn ei blwmars o'r blaen 'nage ' atebodd hithau'n sychlyd braidd 'pwy oeddech chi'n ei ddisgwyl ' 'cael eich herwgipio gawsoch chi ' 'rydych yn graff iawn ' credai john f thomas fod tinc eironig yn ei llais ond fe'i hanwybyddodd 'pwy fasa'n meddwl eich gweld fel hyn ' meddai blwmars atal cactys oedd ganddi amdani 'tewch â'ch blydi lol ddyn a gwnewch rywbeth ' gorchymyn oedd hi'n bendant tybiodd john f thomas mi fyddai'n well iddo geisio ufuddhau a'i lygaid wedi cynefino fe welai ei bod hi wedi ei chlymu ben lawr traed fyny o drawst uchel yn y nenfwd yr un trawst ag yr oedd yntau wedi ei glymu iddo roeddan nhw ill dau yn crogi fel dau ystlum gerfydd eu traed o nenfwd ogof roedd tân coed yn mygu yng ngheg yr ogof a'r fflamau'n aflonyddu'r cysgodion llenwai'r mwg eu ffroenau a llosgi eu llygaid 'gwnaf fy ngorau glas ond 'dwn i ddim fedra'i ' meddai john f thomas yn ymddiheurgar cychwynnodd siglo tuag ati gan geisio bachu'i ddannedd ym mhlygiadau hael ei blwmars y rhai a ddadorchuddiwyd gan gwymp ei sgerti am ei phen llwyddodd i gynyddu'r siglo onid oedd o fewn dim i'w chyrraedd a chydag un hwb arall o'i bennau gliniau ar y tro dyma bendil ei gorff yn pledu i mewn iddi fel pêl yn taro sachaid o lwch lli 'be gythraul ydi'r sw n a'r strancio yna ' gwaeddodd ffawd higgins o ganol ei flancedi ger y tân 'rhowch gorau iddi cer i roi proc arall iddyn nhw anffawd cofn iddyn nhw anghofio'u bod nhw'n hefo ni rw an ' 'yn gwmws ' meddai'r llall gan godi'n flinderus ond heb rwgnach roedd anffawd yn hoff o brocio tinau ymwelwyr prociodd y ddau'n brofiadol â phicwarch hir 'be wnaethon ni i haeddu hyn ' holodd john f thomas wedi tewi o sgrechiadau miss wilderbeest evans 'dyna 'dan ni am ei wybod ' meddai ffawd higgins yn gynnil a'i ddannedd aur yn fflachio yn fflamau'r tân 'anwariaid ' meddai miss wilderbeest evans dan ei gwynt 'ti moin proc arall swigen ' 'yn eno'r tad byddwch drugarog ' ymbiliodd hithau'n wel yn ymbilgar iawn 'na ' meddai'r ddau herwgipiwr yn swta reit 'be ydach chi isio hefo ni 'ta ' wylodd hithau wedyn troes anffawd at ffawd a chodi'i sgwyddau amneidiodd hwnnw arno a sibrwd yn ei glust gan bwyntio at at 'ydach chi rioed am am ' petrusodd john f thomas 'am gadw miss wilderbeest evans yma'n gaeth hefo chi a 'ngorfodi fi i fynd oddi yma i chwilio am ei phridwerth tra 'dach chi'n ei hanrheithio o'i gwyryfdod ' roedd gronyn o obaith yn ei lais y tro hwn 'dim ffiars o beryg ' atebodd ffawd higgins 'bedachi'n awgrymu ' mynnodd miss wilderbeest evans yn ffrom 'ai felly'r parchedig thomas yma sy'n mynd â'ch ffansi ' 'byddwch yn dyner hefo fi ' meddai john f thomas a chwythu sws 'ylwch ' gwaeddodd ffawd higgins gan neidio i'w draed yn gacwn wyllt 'nid eich cyrff chi 'dan ni isio ond eich arian be ddiawl ydach chi'n feddwl ydan ni y blydi cwbwl ydan ni isio ydi'ch pres chi ' 'faint 'dach 'chisio ' atseiniodd llais miss wilderbeest evans o wal i wal fel deryn mewn caets 'ac mewn punnoedd lloegr cofiwch dyna'r cwbwl sgynnon ni ond mi gewch eu newid nhw yn y banc ' 'wn i hynny ' meddai ffawd higgins gan wasgu syms cymhleth yr olwg i'w galciwleiddiwr craffodd ar y sgrin 'deg punt a saith deg saith ceiniog ' 'be yr un ' roedd sgytwad yn llais john f thomas 'ydach chi'n siw r fod hynna'n iawn ' 'wel oce 'ta 'gymrwn ni hyn'na am y ddau ohonoch chi ' ildiodd yr herwr 'iawn ' cytunodd miss wilderbeest evans 'mae'r pres yn fy mhwrs i mae'na bapur ugain yna ac mi dwisio'r newid ' cododd miss wilderbeest evans hances gotwm wen at ei thalcen a galw am lond jwg arall o pimms pesychodd john f thomas i'w ddwrn a sythu'i goler roedd hi'n uffernol o boeth meddyliodd a fyddai'n weddus iddo ddiosg ei siaced a phenderfynu efallai na fyddai ac eto roedd yr athro devet e lostig wedi cael diosg ei helm wen a'i hen wallt mawr gwyn yn codi o'i ben fel cyn chwythu plu cloc dant y llew syllai'r athro llydewig o'r naill i'r llall wrth wrando'r hanes hynod 'hanes hynod ' meddai'r athro llydewig 'a dyma hi'r fodrwy ' cododd miss wilderbeest evans ei llaw i'w dangos 'mae mr thomas am brynu un iawn imi yng nghaernarfon wedi inni gyrraedd adref yn tydach anwylyd ' 'buan hag aez ' meddai john f thomas yn ei dipyn llydaweg er mwyn ei ddangos ei hun 'si señor buenos aires ' meddai'r gweinydd a hwnnw wrthi'n arllwys y ddiod 'dacw hi eich cwch yn symud tua'r lanfa yn awr ' 'wel diolch byth a yec'hed mad ' meddai miss wilderbeest evans bu cryn dincial gwydrau a drachtio'n hael 'a wyddoch chi be ydi'r peth rhyfedda i gyd ' meddai hi wedyn 'wedi cam ddarllen ei beiriant cyfrif oedd yr herwr dwl ac anllythrennog deng mil saith gant saith deg saith o bunnau oedd ar y diawl isio gynnon ni ond doedd o heb arfer hefo pres saesneg yn nagoedd y lembo hurt iddo fo roedd o mor dwp roedd y ddau ohonyn nhw mor hollol ddwb mi roeddwn i'n crefu na fyddai gonestrwydd john f thomas ddim yn drech na fo a gadael y gath o'r cwd ' 'wel mi roedd yn anodd coelio ' ategodd john f thomas 'wyddoch chi mai mul ffawd higgins oedd y clyfra ohonyn nhw ill tri rhwng hwnnw â throl anffawd morgan oedd hi mi welis benabyliaid callach petae'r taclau byrbwyll ond wedi gwybod fod gennym adwy i'r cwbwl a gasglwyd gan werin arllechwedd at gronfa capeli'r wladfa dros ddeng mil o bunnau mewn arian sychion yn ein gofal mi leiciwn weld eu gwynebau a nhwythau'n gwybod hynny a dychmygwch drasiedi i ffyniant yr achos fyddai i ni fod wedi colli'r cwbwl i'r ffasgwyr lladronllyd diolch byth mae'r cwbwl yn saff ym mag miss wilderbeest evans achos dathlu ddwywaith ydach chi ddim yn meddwl mae gennym amser am un bach arall siawns cyn elo'r cwch weinydd jwgiad arall o bimms os gweli di'n dda ' 'si señor ' meddai'r gweinydd a chipio'r jwg a'r gwydrau gweigion oddi ar y bwrdd a'u lluchio dros ben y teras i'r afon islaw 'be haru chi ddyn ' chwyrnodd miss wilderbeest evans ar godi o'i set rhoes yr athro devet e lostig m a law ar ei braich a'i hatal 'hidiwch befo'r gwydrau ' meddai gan wenu o glust i glust nes i'w ddannedd aur yn fflachio fel brithyll yr haul 'ha ha ha ' meddai wrth dynnu'r mwng gwyn oddi am ei ben a'r chwerthin yn dengyd yn ffrydiau o'r bocs yn ei frest 'ff ff ffawd morgan ' sgrechiodd y ddau a llamu y tu cefn i'r gweinydd 'galwch yr heddlu weityr galwch y fyddin herwr ydi o dyn drwg daliwch o ' ni chynhyrfodd y gweinydd ddim tynnodd ei fenig gwynion yn bwyllog a'u lluchio i'r afon rhoes law fawr am ysgwydd john f thomas a'r pry copyn ar ei chefn yn las ac yn chwyslyd ar ôl bod cyhyd yn y faneg wen gwenodd yn hyll 'nid amlach y daw ffawd nag y daw anffawd yn ei sgil ' meddai gan estyn cyllell hir o'i gôt a phrofi'r min ar ei dafod 'shw'mai ' llewygodd miss wilderbeest evans 't'yd yma ' meddai ffawd morgan wrth y parch john f thomas gan godi'n araf oddi wrth y bwrdd ac amneidio arno i ddyfod yn nes 'tydwi ddim yn hapus iawn 'da'r pethach 'chi wedi bod yn 'ddweud gynne fach ' rhoes ei fraich yn dadol am ysgwydd y parch a phlygu ato i sibrwd yn ei glust 'ond rwy'n ddyn rhesymol beth am i'r pedwar ohonom ni fynd am dro bach hyd lan yr afon inni gael trafod pwy sy'n ful twp a phwy sy'n fasdad dwl dadebra'r het yna a gwêd wrthi am ddod a'i phwrs gyda hi ' mae'r llwyni ar y lan bellaf yn rhubanu yn y gwres o hyd a'r tonnau'n lledu'n ddiog y tu cefn i gwch buenos aires a honno'n troi o'r lanfa am ganol yr afon ar hyd y glennydd mae dryswch o sbwriel yn chwysu yn y tywod du ond ni ddaeth neb eto i chwilio drwyddo fo ni ddeuant tan heno pan fydd pwysau'r haul wedi llacio a'r gwres mawr wedi mynd yn llai bant â'r cawr nid yn yr union acen honno na chwaith yn yr oslef acw yr oedd bendigeidfran wedi bwriadu cyffesu dwi'n amau a oedd o wedi bwriadu cyffesu o gwbwl ac i mi does ryfedd yn y byd i'r gymdogaeth gapelog ond hoff o gabarê hon godi yn ei erbyn a'i arddel fel gelyn a'i gladdu wedyn yng nghanol y rhedyn i rifo'r sêr yn oes oesoedd dichon i hynny ei daro'n ei dalcen fel lorri lo a honno'n rowlio lawr yr allt heb frêcs ond 'a fo bont bid bant' fyddai tiwn gron yr emynwr uchelgeisiol hwnnw a drigai gerllaw a beth bynnag ymresymodd hwnnw onid hen bagan barfog oedd y cawr rhyw gyw dryw o dduw ar waetha'i faint duw di sylw o'r cynfyd blin a oedd angen pin bach yn ei swigen fawr yn bendifaddau nid heb ei dalcen y bu fyw'r hen bant ac nid yn aml heb ei ben chwaith cadwodd ei ben a phawb o'i gylch yn holi pryd oedd o am ei arddangos eto 'cawn weld ' meddai'r pen o'r bocs a chanodd fel cana'r aderyn am grwydro yma a thraw a sôn ei fod o'n disgwyl i'w dad o alw draw oni wyddai o'r gorau mai hanfod crefyddwr llwyddiannus yw'r gallu i gorddi'r ffyddloniaid i ladd pawb o ychydig ffydd ewch i mewn i'w byrth ef a dwyn ei dy dyna oedd byrdwn ei bregeth yn y bocs ond y cwbwl oedd ar ei feddwl oedd ble mae'r drws y drws na ddylid ei agor oedd ganddo dan sylw y drws hwnnw sydd draw dros y tonnau lle mae'r aber yn cau ar y gorllewin a lle mae llawenydd a chyfeddach ac ar achlysuron arbennig ar ôl ychydig o lanhau ethnig rialtwch mawr roedd yr hen bant â'i fryd ar wella'i fyd ond sut onid dyna'r cwestiwn ai ffyrnicach yn y cof fodoli mewn bocs ynteu gwyro ar yr aswy law edrychodd yr hen bant ar yr oriawr ar ei arddwrn a meddwl pe na bai'n byw yn yr anialwch ond yn cael cerdded union ffordd wrth olau dydd y byddai'n brafiach o lawer arno tynnodd ei ben yn ddisymwth o'i focs a syllu eto ar ei elyn mawr nid oedd mor debyg â hynny i gyw dryw penderfynodd dyn mawr oedd hwn a fforest am ei ben a'i lais yn uwch nag alto a'i drwyn yn finiocach na dirmyg sais 'a w r ' meddai bendigeidfran wedi sylwi ar ben yr hen bant yn ymddangos o'r bocs 'mi a wn pwy wyt ti ac ni chyfarchaf well iti nid wyt gystal dy degwch a'th ben yn noeth heb flwch amdanaw rwyt ti hefyd yn falwr awyr o'r radd flaenaf ys pregethwr athrist ansyber wyt a'th ormes sydd yn faich ar yr ynys hon ' 'sbia adra'r pagan anferth ' ysgyrnygodd yr hen bant drwy'i ddannedd rywle yn y pellter seiniodd corn trên 'mi wn i ddigon amdanat ti i lenwi traethawd ymchwil a hynny dim ond er mwyn trafod dy dueddiadau rhywiol gwyrdroëdig ydi hi'n wir be maen nhw'n ddeud amdanat ti a'r ffured druan o'r ffured ddeudwn i mi fasa trafod hagrwch dy wep di'n llenwi dwy gyfrol ysgrifau beirniadol ac angen pedair arall i dy ddisgrifio'n iawn i ymdrin yn arwynebol yn unig â'th ddiffygion glendid mi fyddai gofyn argraffu chwaer gyfrol i'r bywgraffiadur ond hefo sgwennu llai fasa 'na ddim lle yn yr un geiriadur ar gyfer dy iaith ffiaidd ac aflednais hyd yn oed geiriadur yr academi a gresyn iti fynegi'r farn a fynegaist am fy mhen nid er dy fwyn di y gosodais rubanau yn fy ngwallt a thydi ffuen o ots gennyf i os na chyfarchi di well â mi does gen i mo'r amynedd na'r awydd i ddal pen rheswm hefo cawr mor anfeidrol ei dypdra ac ar ben hynny dacw hi fy nhrên da bo ' 'ta ta ' meddai'r cawr gan godi ei law at gwmwl o gandi fflòs pinc roedd hen widdon lwyd astrus yn eistedd am ben y cwmwl yn gwbwl groes i safonau glendid newydd y gymuned ewroffobaidd statws i datws werdd 'a ' meddai bendigeidfran wedi anghofio fod ganddo gywilydd o'i faint canys nid yn aml y gwêl dyn widdon yn symud ato drwy'r cwmwl cododd y widdon ei bys at ei gwefus a sibrwd yn egr 'a oes gennyt chwaneg o lafariaid gawr ' 'oes ' ebe'r mawr 'nifer ' 'dangos imi felly dy grair o hen bair o oes a aeth heibio a'th ddulyn neu dy faladeulyn a'th esgair gerllaw'r coed ' agorodd bendigeidfran ei falog dechreuodd y widdon lwyd chwerthin o'i hochor hi roedd hi wedi arfer â gweithio'r nosau mewn bariau ym mrest ac yn un sgut am ganu baledi trist y môr ond o weld y cawr yn sychu'r dagrau yn ei ffedog cymerodd biti drosto efallai'n wir meddyliodd fod yma un o hynodion bethau cymru estynnodd iddo deipysgrif yn olrhain talpiau o'i hanes na wyddai hyd yn oed o amdanyn nhw 'mi wn i pwy sgwennodd hyn ' meddai'r cawr a fyntau'n cael cip ar drên yr hen bant wrthi'n cael ei sugno fel sbageti i geg y twnnel du roedd y deipysgrif wedi ei sgrwnsio'n belen yn ei ddwrn gwelai ben yr hen bant yn ei wylio o ffenest cerbyd ola'r trên 'cer yn ôl i chwarae yn dy lyn y pysgotwr drama ' gwaeddodd yr hen bant a chodi'i ddwrn yn fygythiol ar y cawr gollyngodd bendigeidfran ei afael yng nghwmwl y widdon a hwnnw'n nofio fry i entrychion awyr a hithau'r widdon yn gafael yn dynn ac anghofiodd pawb am y widdon wedyn 'nid chwarae fydda' i yn fy llyn ' gwaeddodd bendigeidfran ac estynnodd ei law fel chwip a bachu'i fysedd yn nhindres y trên a'i llusgo o'r twll fel llyngheryn o din maharen 'ond mae gen i bysgod ' ychwanegodd pan oedd y ddau wyneb yn wyneb drachefn 'maen nhw'n byw yn fy mhysgodlyn ' 'wrth gwrs ' meddai'r hen bant fel mae'n digwydd bod mae'r rheilffordd yn cydredeg am gryn bellter gyda glannau'r llyn cyn turio drwy'r mynydd i gyrraedd y byd go iawn gwthiodd y cawr ddau fys i ddw r ei lyn a chodi ohono ddau siarc syfrdan rhoes eu pennau yn ei geg a chau'i ddannedd arnynt pan ryddhawyd y siarcod dawnsiasant lambada bach dros y tonnau a hwythau'n canu soprano am golli rhyw gi o'r enw shep 'cwpwl o'm silidons ' meddai'r cawr 'hoffet ti weld rhai o 'mhysgod mawr i rw an ' roedd distawrwydd yn llethu'r llwyni a braw syn yn y brwyn torrwyd ar y tawelwch gan larwm bach yn canu o oriawr yr hen bant 'hei ' meddai gan guro'i ddwylo'n bwyllog ddwywaith neu dair 'dwi'n eitha licio dy steil di dwi'n chwilio am act fathag un chdi ar gyfer fy nghabarê wyt ti'n rhydd nos wener ' nos wener oedd hi'n digwydd bod eisteddai'r hen bant ar stôl uchel ger y bar a'r farmones y tu ôl i'r bar wrthi'n tynnu iddo beint o gwrw melyn 'go iawn' stotberger o'r isalmaen roedd yr hen bant yn hoff o win bwrgwyn ac o win coch clir bordô roedd o'n berchennog ar blasty bychan un o'r petits châteaux bondigrybwyll châteaux pant lle byddai'n drugarog wrth ei werin ac yn dad i nifer o'i daeogion yn enwedig ar y sul a hynny'n dangos ei fod yn wir gristion ond er hoffed oedd o'i win a'i werin ni fynnai i neb yma wybod hynny ac felly ym mar cefn yr hen fat nid yfai namyn cwrw melyn bach rhag i'r locals feddwl ei fod o'n gadi ffan 'mi dy fwcia'i di yn y fan a'r lle ' meddai 'dyma dy gontract ti on ar ôl yr act nesa ' ystyriodd y cawr y cynnig 'ti'n tynnu 'nghoes i twyt ' meddai 'mi fedra'i ddeud arnach di nad wyt ti o ddifri yn un peth dwi'n amau bodolaeth dy gabarê di ac yn ail dwi'n amau dy fodolaeth di dy hun ' chwarddodd y gynulleidfa'n frwd pan glywsant hynna a chlywyd un llais lef yn uwch na'r lleill yn gweiddi 'anterliwt ' 'diolch mr bobyrt ' meddai'r hen bant yn nawddoglyd braidd 'camodd i erchwyn y llwyfan a chodi'i law i gysgodi'i lygaid rhag y llifoleuadau 'pan 'dach chi mor enwog â fi mi rydach chi'n dysgu i ymdopi â mân rwystredigaethau megis pen bach fatha mr bobyrt yn porthi o'r cefn neu â rhywrai byth a hefyd am ddwyn eich hosannau ' cododd y meic yn agos at ei geg 'ond yn awr mae'n hen bryd inni gynnig cwestiwn jac yn bocs arall i'r gynulleidfa a dyma fo er mwyn sefydlu gwastadedd eang o baith beth sydd arnoch ei angen ia mr bobyrt ' 'tir rhywun arall syr ' galwodd mr bobyrt yn awyddus fel cangarw 'da'r hogyn bobyrt ' meddai'r hen bant 'ti wedi ennill gwyliau di droi'n ôl i batagonia bell ond yn awr ac mae'n rhyddhad personol i mi ac yn fwynhad i chwithau dyma gyflwyno heno am y tro cyntaf erioed ar lwyfan yr hen fat ac mae'n haws gennyf ei wneud o heno gan fod neithiwr wedi darfod â bod a nos fory heb eto'i chyffwrdd dyma gyflwyno yr holl ffordd o harlech yn ardudwy bendigeidfran gawr a'i draed ar lawr i'ch difyrru â'i driciau mân a mawr am obwyti beth wedwn ni hanner awr rhowch groeso iddo ' 'bwwwwww ' gwaeddodd bobyrt ond boddwyd ei brotest gan fonllefau o gymeradwyaeth a churo dwylo a chicio traed sgidiau hoelion mawr ar estyll gwichlyd llychlyd llawr 'diolch ' meddai'r cawr gan gamu'n ansicr o'r asgell chwith a fyntau'n cochi 'dat ei glustiau ac yn clywed y chwys yn treiglo dan ei geseiliau 'mae'n ddrwg gen i am y to ' cododd y goron o do'n ofalus oddi am ei ben a'i osod yn y cae swings cyfagos ymddiheurodd am chwalu'r llwyfan dan ei draed ac yna estynnodd ei law i'r wybren a gafael mewn cwmwl bach arall i'w ddefnyddio fel clustog wedi ymgyffordduso aeth rhagddo i gyflwyno hanner awr o ddifyrrwch a doniolwch gyda'r difyrraf a'r doniolaf i gynulleidfa'r hen fat ei brofi na chynt na chwedyn a phan oedd y cyfan drosodd a fyntau'n ymlacio yn ei stafell newid yn tynnu'n hir ar sigâr o ciwba a'i ji an ti ger y drych o'i flaen daeth cnoc ar y drws 'pwy sy 'na ' holodd y cawr ysgwn i pwy sy 'na meddyliodd wedyn a rhoes ei sigâr ar ei hochor yn y blwch llwch a chlymu'r w n nos sidan yn dynnach amdano 'rydym yn fagad anfodlon ' meddai'r arweinydd a safai fel sment ar y trothwy a'i gefnogwyr yn eu hyll y tu cefn iddo rai ohonynt a dannedd miniog yn ymwthio dros eu gwefusau 'pwy'n union ydach chi ' holodd y cawr 'ni ydi'r rhai basa'n rheitiach i ni fod wedi cael bod yn ganolbwynt i'r stori hon yn hytrach na chdi ' 'dach chi'n ei roi o mewn ffordd glogyrnaidd iawn ydach chi ddim ' meddai'r cawr yn wfftiol 'mae gen i hawl i fod yma achos dwi'n fwy na chi ' 'annelwig iawn wyt ti yn ein barn ni ' meddai'r arweinydd 'does yna ddim disgrifiad iawn ohonot a dan ni ddim yn gwybod dim byd o dy hanes lle mae'r holl gyfrolau yma amdanat welson ni'r un onid llechwraidd ydi'r ffordd y sleifiaist i mewn i ganol yr hanes ac ar ben hynny dan ni'n meddwl ei fod o'n beth dan din dy fod wedi dy wneud mor fawr ' 'rhydd i bawb ei farn ' meddai'r cawr 'i mi nid y fi sy'n fawr ond y chi sy'n fach a thydach chi byth wedi ateb fy nghwestiwn pwy ydach chi pan dach chi'n gall ' 'y ni ydi'r rhai a ddifreiniwyd o'r chwedl a'i hawlio hi'n ôl a wnawn sef ydym fyfi elfyn olew a guddiodd mewn llwyn a'r estron yn troedio'n llwybrau ac a wylodd pan welodd ei wlad yn mudo ac yma'n gefn imi wele coch ei deiliwr a bwythodd well tyllau nag a welaist ti o glytiau ac a wnaeth fantell aur i frenin brythoniaid byd ac yn gefn iddo yntau mae swaballt ac wrth gwrs tydi swaballt ddim angen cyflwyniad nacdi o ac mae'r widdon yma hefyd yn cwyno fod pawb yn ei hanwybyddu amdani ' ystyriodd bendigeidfran y geiriau hyn heb yngan gair agorodd ei geg i siarad 'rwy'n gweld ' meddai 'wel o leia tydi bluegroser ddim hefo chi ' 'cw î ' meddai bluegroser roedd o'n sefyll y tu cefn i swaballt a hynny'n ei wneud yn anweledig achos fel y gw yr y cyfarwydd mae cysgod swaballt yn gwneud popeth y disgynno arno'n anweledig 'o briwsion ' meddai'r cawr 'rwy'n dyfalu ei bod ar ben arnaf felly ' 'ia ' meddai elfyn olew 'nid a fo ben bid bont ydi hi rw an ond ar hen ar yr hen gawr mi rwyt yn y lle rong gyfaill a dacw'r drws ' cododd y cawr ei dent syrcas o hances at ei drwyn a chwythu sychodd lyn tegid o'i lygaid a chodi ar ei draed ar ei ffordd allan rhoes gam gwag a ffagio'r hen fat yn fflat fel mat a'r bagad anfodlon yn grybibion fel pryfaid genwair wedi eu mathru rhwng dwy garreg 'rwy'n dyfalu na fyddaf yn ymddangos ar y llwyfan hwn y rhawg ' meddai bendigeidfran wrtho'i hun ar hynny pigwyd ef gan ei gydwybod 'paid ' gwingodd 'wir yr rw an nid oeddwn ond dipyn yn wirion nid cawr drwg ' 'dwi'n amau hynny ' meddai'r hen bant gan frathu ei ben dros y clawdd y tu ôl i'r hwn y bu'n piso 'a dwi'm yn talu i chdi am dy berfformans heno chwaith ichdi gael bod yn dallt mi gei di ganu'n iach â dy swllt a chwech ' 'cwtrin plentynnaidd ' meddai'r cawr dan ei wynt a hwnnw'n wynt mawr mawr a sgubodd yr hen bant i ben derwen fawr gyfleus gerllaw 'tri chanmil o drychfilod yn dy wely ' meddai'r hen bant yn groendenau fel llyffant mewn padell ffrio 'wyth ar hugain o slumod gwenwynig yn dy wallt a saith sguthan i fyny dy din ' 'nagoes yr emynwr talcan slip ichdi ' meddai'r cawr yn hunan fodlon i gyd wedi tynnu'i law drwy'i wallt ac wedi gwthio bys ymchwilgar i'w ogof anhyfryd 'oes ' mynnodd yr hen bant a rhoes glec ar ei fawd 'waaaaaa ' sgrechiodd bendigeidfran a fyntau'n sboncio fel sioncyn gwair mawr 'gwranda ' meddai'r diwinydd parchus o bwys aruthrol sydd wedi cael astudio'i waith yn fanwl heb i neb ganfod na rheg nac anweddustra ynddo tan yn ddiweddar 'gwranda'r lwmp dwi'n cyfri lawr o ddeg a dyna hi wedyn ta ta ffinito rwbio chdi allan tynnu'r tjaen arnach di canu'n iach achos ti ddim yn bod ' edrychodd yr hen bant ar ei wats roedd bendigeidfran yn dal i neidio hyd y lle â golwg boenus arno ond yn dal i gadw llygad ar yr hen bant 'deg naw wyth saith ' cyfrai'r hen bant yn bwyllog 'dwi'n sori dwi'n sori ' gwichiodd y cawr yn wyllt 'stopia'r cyfri tynna'r pethau ofnadwy yma oddi arna'i plîs maen nhw'n fy lladd i hen bant maen nhw'n fy lladd i ' 'bw hw bechod de ' meddai'r hen bant a stopio'r cyfri ar ddau 'ddyla dy fod ti wedi meddwl am hynny cyn ichdi 'ngalw fi'n emynwr talcen slip ' 'ond un o'r de wyt ti i fod wil nid gog wyt ti ' ebychodd bendigeidfran â'i anadliad olaf ond un 'hei ti'n iawn hefyd ' meddai'r hen bant ac fe dynnodd yr hud oddi ar bendigeidfran a gyrru'r slumod o'i wallt a'r sguthanod o'i din a'r trychfilod o'i wely a'u hanfon yn ôl i dy elwyn yng nghaernarfon 'ffancs pant ' meddai'r cawr â'i anadliad olaf 'ac am hynna mi wna innau gyffesu nad wyf yn bod go iawn ' 'doedd hynny ddim mo'r peth doethaf i'w wneud ' meddai'r hen bant wrth wylio'r cawr yn datgymalu ac yn diflannu fesul tamaid nes nad oedd ar ôl ohono ond ei drwyn trahaus a'i dalcen a'i ben claddwyd pen y clamp anffodus nid yn y gwynfryn i rwystro'r saeson rhag dyfod i'r ynys ond a'i wyneb i fyny dan swp o fwsog ger ffos y ffin ac yno y mae o'n hyd heddiw'n cyfri sêr 'fel deudis i ' meddai'r emynwr o shir gâr o lwyfan newydd y fat ifanc a'r lle dan ei sang 'a fo bont bid bant ' cafodd fel y caiff bob tro gymeradwyaeth frwd a hyd yn oed mr bobyrt yn gorfod gweiddi hwrê y dw r mawr llwyd y dw r mawr llwyd a'i donnau pitw sy'n goglais fy ngwegil ac yn gwneud hen sw n twt twtian fel sibrwd pregethwyr yn fy nghlust finnau wedi meddwl erioed fod dw r yn beth lliwgar llawen nid yn hen beth surbwch blin dwi'n dal i gofio fel y byddwn i'n gwirioni hefo fo erstalwm cofio fel byddwn i wrth fy modd ar deras heulog yn gwylio cychod yr aber yn gwneud cylchoedd gwynion rownd y bae cofio ni'n gorwedd ar lan pwll y rhaeadrau'n chwerthin wrth glywed dim byd ond rhuo'r dw r awn i ddim ar gyfyl lle felly rw an awn i nunlle'n agos i ddw r fasa waeth gen i tawn i byth yn gweld diferyn o'r diawl peth eto ond tydi hynny ddim yn debygol achos mae o ym mhob man yma toes gen i nunlle i droi nad ydwi'n ei weld o'n llenwi pob twll a chongl o'm llygaid tydwi'n goro byw yn ei ganol o nid ei fod o'n oer tydi o ddim mae'i dymheredd o'n o lew am wn i neu mi faswn wedi fferru erstalwm ond be sy'n ddiflas ydi ei unffurfrwydd o mae o jest mor ddigyfnewid mor debyg iddo fo'i hun mor gyson ddiflas fflat dim iot o ffraethineb dim owns o wreiddioldeb yn hollol ddi fflach dim byd ond yr un hen wyneb llwyd digymeriad sych yna rownd y bedlan ia mi wn ei fod o'n groes ddeud ond mae hwn yn ddw r sych a dwi'n dweud hynna a finnau yn ei ganol o'n wlypach na sgodyn ers oes adda mi fydda'i'n trio pob dim hefo fo trio tynnu llaw dros ei ben o canu iddo fo dweud straeon digri wrtho fo does dim byd yn tycio dro arall fydda'i'n blino ar ffalsio hefo fo ac yn mynd ati i'w ddyrnu o ei waldio fo'n iawn nes bydd fy migyrnau'n gignoeth wrth gwrs fydd hynny'n tycio dim chwaith mae'r dw r mawr llwyd yr un fath o hyd yn dweud dim ac yn gwneud llai a'r hen donnau diffaith yma'n dal i hel o gwmpas fy nghlustiau i ac yn cosi ffroenau fy nhrwyn fuodd pethau ddim fel hyn erioed naddo'n tad dwi'n cofio'r adeg pan oedd y dw r yn fach fydda fo'n treiglo'n ddiniwed rhwng bodiau fy nhraed gan wenu'n slei bach yn llygad yr haul finnau'n meddwl ein bod ni'n dallt ein gilydd y dw r bach a finnau ein bod ni hwyrach hyd yn oed am fod yn ffrindiau fyddwn i'n camu drosto fo yn neidio fel gafr ar d'ranau o'r naill ochor i'r llall yn mynd ac yn dw ad fel mynnwn i yn cael hwyl iawn yn chwarae ac yn chwerthin hefo fo toes yma fawr o hynny rw an sbia o ddifri calon ffordd mae'r sglyfath wedi troi allan un gwyneb llwyd diderfyn a'i lond o donnau bach dibwys yn mynd i gyd fel dyn â chrynfa o'r cryd arno mae gen i go da o'r adeg fyddwn i'n medru gweld yn bell bell i bob cyfeiriad a'r dw r yr adeg honno ond yn cyrraedd 'dat fy mhennau gliniau a finnau fatha rhyw fendigeidfran o foi yn sathru arno fo ac yn cerdded yn dalog drwyddo fo'n ei ffagio dan fy nhraed deu mi fyddai'r gwynt yn tonni yn fy ngwallt a lliwiau'r tiroedd yn llenwi fy llygaid rhai'n isel a rhai'n uchel a'r cwbl yn gylch o amgylch y dw r fyddai wedi bod y peth hawsaf yn y byd yr adeg honno imi fod wedi camu o'r dw r a throedio'r tir fyddwn i'n rhoi fy llaw allan i'w gyffwrdd o weithiau roedd o mor agos thâl hi ddim imi bendroni yngly n â hynny rw an byddai'n well imi drio cau fy meddwl arno fo cau'r adwy ar yr 'ugeiniau o lwyd anghynnes ddi les feddyliau' eu cadw nhw o'r golwg yn dynn dan yr hatshys ond fedra'i ddim roedd yna gymaint o diroedd braf i bob cyfeiriad a phobol glên yn byw ynddyn nhw i gyd cyn y dw r tir isel oedd tua'r de oddi wrtha'i ar hwnnw y collais olwg gynta pryd oedd hynny dywad tua'r adeg roedd y dw r wedi cyrraedd o gwmpas fy nghanol dyna pryd oedd o roeddwn i heb gymryd fawr o sylw o'r tir isel cyn hynny achos fyddai'n well gen i edrych tua'r mynyddoedd i'r gogledd neu tua'r ffriddoedd a'r ceunentydd coediog i'r dwyrain dim ond cip wrth fynd heibio a gâi'r tir isel gen i rw an ac yn y man ac wrth gwrs dwi'n 'difaru hynny rw an achos erbyn hyn toes gen i ddim byd ond brith gof am yr iseldir dim ond y syniad ei fod o wedi bod yno unwaith digwydd troi fy mhen ddaru mi un tro a sylwi'n sydyn nad oedd o ddim yno y dw r wedi codi'i orwelion i gyffwrdd â chantel y cwmwl isel a dim byd rhyngthyn nhw bellach i'w cadw ar wahân dim llinell bell na dim codi fy sgwyddau wnes i a throi'n ôl i syllu tua'r uchelderau lle dilynwn â'm llygaid hynt yr eryrod a welwn yn cylchu'r copaon fel petaent yn crogi ar gortynnau gweld wedyn gwyn y defaid grisial ar y ffriddoedd a gwydr ffenestri'r tyddynnod yn goleuo yn yr haul hwyr gweld colli'r lliwiau fydda'i fwyaf am wn i do aeth y ffermydd y ffriddoedd a'r copaon hwythau dan y don mynd o un i un dros gyfnod maith wnaethon nhw doeddwn i fawr o feddwl y byddai'r dw r yn mynd â nhw i gyd ond dyna fo o leia mae'r cof am rheini'n aros cofio'u cadernid balch di ildio yng ngolau'r haul dwi ddim isio meddwl amdanyn nhw yn eu gwendid wedyn yn ddim byd ond clytiau o ynysoedd yn brigo i'r gwyneb rhwng y dw r a'r cwmwl dwn i ddim pryd aethon nhw y tro cynta imi sylweddoli eu bod nhw wedi mynd oedd yr adeg y daeth y dw r gynta dros fy sgwyddau dwi'n cofio'r don gyntaf a lyfodd fy afal breuant a finnau am ryw reswm yn codi 'ngolygon tua ffiniau pellaf fy myd ac yn gweld yn y lle y bu'r ynysoedd ddim byd bellach ond y dw r efallai 'mod i'n methu ond mi daerwn mai tua'r adeg honno hefyd y boddwyd yr haul roeddwn i'n dal i gofio am sbel i ba gyfeiriad roedd yr ynysoedd wedi bod a dyma benderfynu unwaith trio symud tuag atyn nhw ond mae'n rhaid fy mod i wedi drysu'r cyfeiriad achos waeth faint y cwffiwn drwy bwysau'r dw r welwn i ddim byd ond y llanw llwyd ar bob llaw yn codi fel soser i gusanu'r cymylau cantel isel uwch fy mhen tonnau llwyd y dw r a'r awyr draeth wedi mynd yn un fy nhraed innau a'm coesau wedi mynd yn un â'r tywod a'r cerrig mawr ac anweledig llwyd ydi'r unig liw sy'n bod ym myd y dw r mawr pe bai yma lygaid i'm gweld fe'm gwelent innau'n llwydaidd fy ngwedd mwn a pha ryfedd a chan nad oes na nos na dydd yn y byd llwyd cyll dyn ei afael ar dreigl amser a chyll amser hithau'i statws a'i harwyddocâd dysgais yma werth amynedd a'i bris hefyd ar y dw r mae'r bai mae o'n codi mor araf nad oes modd dal sylw ar newid ei lefelau yr unig awgrym nad ydi o'n llonydd fydd ambell don hyfach na'i gilydd a ddaw weithiau gryn oriau cyn y lleill fydd yn rhwym o ddilyn yn ei sgil heddiw aeth ton i'm clust ac un arall neu'r un un efallai i'm llygad nid yw'r dw r mawr llwyd yn derbyn eithriadau unffurfiaeth yw dechrau a diwedd y gân mi fentraf fy mhen y rhydd hyd yn oed yr hen ddw r sych hwn gysgod o wên pan eith blewyn olaf fy nghorun o'r golwg dan ei groen herciog mi sychith ei ddwylo a sythu'i dei a dweud wrtho'i hun yn ei ffordd dawel undonog nad oeddwn i'n bod go iawn ac na fu yma eirioed ddim byd ond dw r mi dwinnau a deud y gwir yn gweld y diwrnod hwnnw'n hir yn dw ad dwi wedi 'laru ar undonedd y dw r mae'i lais o fwyfwy yn fy nghlustiau yn llenwi 'mhen â blinder plwm mi dwi wedi cael hen lond bol a be wn i efallai bydd fy myd i'n well o dan y dw r pwy a w yr na welaf yno eto fy mryniau a'm ceunentydd ac y daw eto'r eryrod i gylchu uwch fy mhen hwyrach y daw ataf gopaon newydd fel preiddiau grisial o gorlan y nos hwyrach pan fydd y wawr yn goch a'r sêr o un i un yn diffodd eu canhwyllau y cyfyd arnaf eto haul gwyn rhyw fore llonydd felly dewch donnau llyfwch gopa fy mhen sugnwch fêr fy esgyrn llyncwch fi a'm gollwng drwy'ch rhwydi'n rhydd yn rhydd o'ch sibrwd hen bregethwyr yn rhydd o afael y dw r mawr llwyd vatilan lleidr llestri vatilan lleidr llestri hirben a diegwyddor oedd yr unig un i nel ei garu go iawn erioed pan fyddid yn sôn am ei gampau'n gwagio siopau o'u nwyddau oll byddai nel yn dal dano gan weiddi 'wel ddaru o ladd neb yn naddo ' a phan ddaru o ladd huws parsli am y tro cyntaf dyma hi'n gweiddi eto 'wel toedd dda gen i mo'r hen gingroen beth bynnag ' doedd waeth beth wnâi vatilan byddai nel yn sefyll yn gefn iddo drwy ddw r a thân dyn cyfrwys oedd vatilan fel y buoch chi'n amau a dyn drwg iawn 'mae'r diwedd yn agos ' meddai vatilan unwaith wrth y siopwr gemp a fu unwaith yn enwog am ei gasgliad o lestri kemper ond nid ar ôl i vatilan alw 'wwwwww ' meddai'r siopwr gemp drwy'r rhwymyn am ei geg gan geisio gwthio'i dafod rhwng ei ddannedd 'siarad yn gall ddyn neu cau hi ' meddai vatilan a chodi pen glin frwnt rhwng coesau gemp a thorri cawg kemper am ei ben dwi'm yn cofio beth oedd ymateb y siopwr ond dwi'n gobeithio fod hon yn enghraifft ddigonol o gyfrwystra'r lleidr llestri vatilan 'vatilan ' meddai nel un bore gwyn a hithau'n codi ar flaenau'i thraed ger y muriau mawr 'dwi isio siarad hefo chdi ' 'nid vatilan ydwi ' meddai'r plismon bochgoch siwtlas enfawr a gamodd o borth y slobfa a sefyll o'i blaen roedd ganddo bwced yn y naill law a brwsh sgwrio yn y llall rhoes y brwsh yn y bwced a honno ar lawr 'nid vatilan mohonof o gwbl ' meddai eto estynnodd lyfryn o'i boced a darllen ohono 'lleidr yw vatilan a phlismon o'r enw pc llong wyf innau ' edrychodd yn fuddugoliaethus ar nel ac ychwanegu gyda dirmyg lond ei lais 'dyna'r gwahaniaeth rhyngom ein dau ' 'cau dy big y plismon drama ' meddai nel 'pryd wyt ti'n mynd i ryddhau fy nghariad wnaeth o fawr o'i le ' 'naddo ' ffugiodd pc llong syndod mawr cododd y bwced a throi at y graffiti enbyd a beintiwyd hyd furiau ei gelloedd dechreuodd sgwrio'n galed a'r ewyn yn lafoer gwyn o safn ei frwsh yn ddisymwth oedodd ei law a throi at y ferch a safai'n gwylio'r gwaith roedd ansicrwydd yn ei wedd 'wyt ti'n siw r na wnaeth o fawr o'i le ' holodd gan sychu'r chwys berw o'i dalcen â hances fawr 'yndw 'sti ' meddai hithau cododd yntau'i lyfr o'i boced a chrychu'i dalcen wrth chwilio a chwalu drwyddo fo toc goleuodd ei wep a daeth gwên i chwarae ar ei fin 'reit mi rwyt ti'n rong ' gwaeddodd a phlannu bys i ganol ei lyfryn toedd o fawr o gop a dweud y gwir ond mi roedd o'n hoff o fân ddefodau'r swydd 'mae'n dweud fan hyn fy mod i wedi restio fo droeon am sawl trosedd ac nad wyf i'w ryddhau dros fy nghrogi ac mi ddyfynnaf tydan ni ddim am adael i lofruddion enbyd grwydro'r strydoedd yn ddilyffethair ' 'yndach ' meddai nel a dyma hi'n ei gicio yn ei ffêr mae yna lot o gicio yn y stori hon ac os ydach chi ddim yn licio cicio peidiwch â darllen gam ymhellach roedd pc llong yn sboncian i fyny ac i lawr fel estrys ungoes ac yn chwythu fel fflamiau ar ei chwibanogl arian cymerodd nel y cyfle i edmygu'r graffiti y bu'r heddwas yn ceisio'i lanhau 'vatilan dieuog' a 'rhyddid i vatilan' oedd y sloganau mewn llythrennau breision cochion ac un arall o dan y rheini'n dweud mewn paent glas 'pc llong y cwd' 'mae'r gwir yn lladd tydi ' edliwiodd nel a dyma hi'n estyn ei braich allan ac yn gwthio pen ei bys i ganol ei fol oni chollodd ei gydbwysedd yn llwyr a chwympo'n glewt ar lawr a'i helmet las a'i lyfryn yn fflio ar chwâl i ganol y lôn 'nid y gwir sy'n lladd ond vatilan ' gwaeddodd pc llong o'r gwter lle glaniodd 'y fo sy'n lladd fo sy'n dwyn a fo sy'n mwrdro a fi sydd wedi ei ddal ' un cyndyn oedd y swyddog i gydnabod ei feiau fo'i hun byddai'n ei gweld hi'n haws i gydnabod beiau pobol eraill a'u harestio nhw am hynny dyna sut ddaru o ddal vatilan crafangodd am ei lyfryn oedd yn agored ar y ffordd lathen oddi wrtho ond roedd nel yno o'i flaen i'w gicio dan olwynion lorri a'i sbydodd yn dipiau ciciodd hi ei helm o'i afael hefyd ac aeth honno dan olwynion y bws ysgol 'rw an y plismon plant ichdi ' ysgyrnygodd nel gan sefyll â'i thraed un bob ochor i ben pc llong a lledr ei sgidiau sodlau uchel yn cochi'i glustiau 'tydi vatilan heb ladd neb yn naddo ' 'mae'r dillad isa yna sgynnoch chi amdanoch yn anghyfreithlon ' meddai pc llong 'tynnwch nhw ' 'nanaf y sglyfath ' poerodd nel 'o leiaf ddim tan wyt ti'n cyfadda na ddaru vatilan ddim lladd neb t'yd w an mi gei di ddweud wrtha'i ' roedd pc llong yn cael trafferth cael ei wynt ato ac ni allai godi gan fod sodlau uchel nel yn hoelio'i glustiau tywysogaidd i'r pafin wrth sbïo ar ei choesau hirion daeth i'w feddwl bwt o hen gân werin yr arestiodd o rywun am ei chanu rywdro mi hoeliwn ni ei glustiau bach i'r bordyn mas y bac mi hoeliwn ni ei glustiau bach i'r bordyn mas y bac roedd y gwynt yn llenwi ei ffrog hi ac oni bai am y boen yn ei glustiau tybiai y gallasai fod yn hapus yno ond cofiodd toc fod ganddo job o waith i'w wneud wrth gwrs a dyma fo'n meddwl chwarae ei gardyn gorau a dweud mewn llais oeraidd 'ond fo laddodd huws parsli ynte mi fues i'n ei gnebrwng o mi fues i'r fynwent ' 'be am inni ofyn barn huws parsli am hynny ' meddai nel yn swta camodd dros yr heddwas a tharo'i phen i mewn i ddrws y siop lysiau ar gornel y sgwâr 'ddowch chi allan am funud huws parsli plîs mae pc llong isio gair hefo chi ' daeth dyn mewn ffedog streips o'r siop gan sychu'i ddwylo ar gadach gwyn 'be mae hwn isio eto ' grwgnachodd 'mae gen i gwsmer yn siop mi fydda'i 'di colli hwnnw munud a fynta'r cynta'r wythnos yma ' safodd â'i ddwylo ar ei gluniau gan wylio pc llong a oedd yn ei eistedd ar ochr y palmant yn ceisio cael ei wynt ato 'wel be wyt ti isio tro 'ma llong dwi 'di talu'r pres cadw draw ichdi un waith mis yma brysia mae gen i siop i'w rhedeg ' cododd yr heddwas ei ben a syllu'n amheus ar huws parsli 'onid ydi o'n wir fod vatilan wedi eich llofruddio ' 'yli di yma pc llong ' meddai huws parsli'n dechrau cael myll 'mi fues i drwy hynna i gyd yn cwrt naddo ddaru o ddim mo fy llofruddio na fy mwrdro na fy lladd nac uffar o ddim arall chwaith ac mae'r hen straeon yma wyt ti'n eu hel amdanaf fy mod i wedi fy nghladdu a dy fod ti wedi bod i'r cnebrwng ac fel y byddi di'n rhoi blodau ar fy medd bob dydd sul wel mae o'n blydi niwsans ac yn gwneud drwg diawledig i 'musnes i er mwyn dyn a wnei di roi'r gorau iddi ' 'twyt ti ddim yn talu digon o bres cadw draw imi roi'r gorau iddi'n gyfan gwbwl ' atebodd pc llong gwnaeth osgo ar i'r gwerthwr llysiau fynd ymaith 'symud ymlaen rw an di cer yn ôl i dy siop mae dy gwsmer di newydd gerdded allan hefo llond ei hafflau o dy stoc di ' rhegodd huws parsli a'i bachu hi o'na ar ôl y cyn gwsmer troes pc llong at nel a thapio'i drwyn yn wybodus 'wel ' meddai nel 'wel be ' meddai pc llong 'wel wyt ti'n fodlon coelio rw an na laddodd vatilan mo huws parsli mi rwyt ti wedi'i glywed o gan y dyn ei hun o lygad y ffynnon ' 'tydi gair huws parsli'n profi dim i neb ' meddai pc llong gan godi i'w draed a phlygu ei ddwy ben glin tuag at allan 'paid â bod yn grinc ' meddai nel a hithau'n closio ato gan sychu tamaid o lwch o'i foch efo bys sidanaidd gwlychodd y bys lolipop yn ei cheg a'i rwbio fo ar ei foch nes oedd y croen yn goch 't'yd rw an bydd di'n blismon da rhyddhau vatilan nei di ' 'alla'i ddim ' roedd pc llong yn dechrau anesmwytho roedd wedi colli ei lyfr nodiadau ac yn anffodus doedd o heb ddysgu'r rhesymau ar ei gof ceisiodd ganolbwyntio 'na alla'i ddim ' meddai eto 'achos hyd yn oed os ydi huws parsli'n dweud y gwir ac mae gennyf f'amheuon hyd yn oed wedyn rwy'n credu fod yna fater bach arall ar ôl yn toes rwy'n tybied fod yna fater ychwanegol siw r o fod ydach chi ddim yn meddwl ' 'oes ' holodd nel yn ddiniwed 'dwn 'im byd ' tynhaodd pc llong ewynnau ei ên a rhwbio'i arlais yn ffyrnig roedd hi'n anodd meddwl heb ei helmet 'mater arall mater o bwys 'doedd o ddim yn dw ad roedd o wedi mynd roedd o ar goll heb ei helm a'i lyfryn yn y gors yng nghanol nunlle heb fap mor wir y gair lle bydd camp bydd rhemp rhemp gemp ia hwnna ydi o y siopwr gemp siw r dduw sut y bu iddo anghofio wel mae'r achos yn y bag rw an yn saff cliriodd pc llong ei lwnc a chwyddo'i frest i'w llawn maint 'y siopwr gemp ' meddai ac anadlu allan gyda rhyddhad mawr 'o hwnnw ' doedd nel ddim i'w gweld yn poeni fawr am hynny 'tydi hynny'n ddim byd nacdi ' meddai'n ddidaro 'laddodd o mo hwnnw yn naddo ' 'naddo ond mi drïodd ei orau ' 'naddo ' meddai'r siopwr gemp oedd yn digwydd croesi'r stryd tuag atyn nhw ar y pryd 'ddaru o ddim trio wyddoch chi cam â fo fyddai dweud hynny wyddoch chi beth gyfeillion tydwi ddim hyd yn oed yn ei feio fo chwaith wel toeddwn i heb arfer hefo lladron yr adeg honno yn nagôn ac mi wnes i gadw braidd gormod o sw n roedd yn rhaid iddo fo chwalu'r cawg kemper am fy mhen neu mi fasa rhywun wedi 'nghlywed i a chwarae teg iddo fo mi anfonodd gardyn o'r carchar i ymddiheuro i'r cawg doedd dim yn rhaid iddo fo'n nagoedd o ran hynny mi wnaeth y cawg anfon cardyn i minnau yn ymddiheuro am y pen ynteu ai 'mhen ddaru ymddiheuro i vatilan dwi'm yn siw r rw an ' dechreuodd y siopwr gemp chwilio drwy'i bocedi tynnodd fol afal a thamaid o gortyn o boced ei drowsus a'u cyflwyno fel tystiolaeth 'diddorol iawn gemp ' meddai'r heddwas estynnodd ei bensal sbâr a gwnaeth nodyn ar lawes ei grys 'felly toedd vatilan ddim isio dy ladd di nagoedd gemp ' meddai nel yn sgipio tuag ato fo gan roi ei braich i orwedd am ei ysgwydd esgyrnog 'be wyt ti'n feddwl o garcharu vatilan druan am iddo beidio â thrio dy ladd di ' 'o sgandal ' meddai gemp 'wyddoch chi beth gyfeillion theimlis i rioed yn well 'achan roedd y glec ar fy mhen hefo'r cardyn post o gemper yn ffisig i 'noctor i mae hwnnw wedi bod yn cwyno'n ddiweddar dwi wedi dweud wrtho fo am gymryd peth o'i ffisig ei hun mi fydda'i'n credu fod yfed fy nw r fy hun yn beth da wyddoch chi wel mi rydwi'n ei gael o'n rhatach yn tydw a dyna chi'r llestri wel mae'n well gen i'u lle nhw dim gwaith sychu llwch dim gwaith poeni yn eu cylch nag yn eu sgwâr mae'r busnes newydd mewnforio rhew o rwsia'n talu ar ei ganfed felly diolch yn fawr iawn ichi'r un fath ond mi sticia'i at hwnnw os byw ac iach diawcs pc llong ydach chi yn y farchnad am 'chydig o rew rwsiaidd rhew gorau cofiwch mi gewch hwylio'ch llong ynddo fo ha ha ha ydach chi'n ei chael hi sarjant fues i rioed yn hapusach ac i vatilan mae'r diolch am bob dim ' dawnsiodd gemp ddawns bach ysgafn droed i fyny ac i lawr y palmant gan glecio bys a bawd 'ydach chi wedi darfod ' holodd pc llong 'oherwydd mae'n rhaid imi gymryd i dasg nifer o'r honiadau hyn os mai rhew ydach chi'n ei werthu sut ydach chi'n disgwyl imi hwylio llong ynddo fo ac os fel y credaf ac fel yr awgrymwyd gennych nad oes gennych chi rew go iawn ond yn hytrach rhew wedi'i ddadmer sef dw r ia dw r gemp yna mi rydych chi'n agored i gael eich erlyn gan adran safonau masnach y cyngor dosbarth ac i ateb eich pwynt olaf ond un nacdw tydw i ddim yn 'ei chael hi' ddim ar hyn o bryd beth bynnag ac nid sarjant mohonof ddim eto a thydi o ffuan o ots gen i ydach chi'n hapus neu beidio ' curodd nel ei dwylo 'sut ddaru chdi gofio'r holl eiriau yna heb lyfr ' holodd hi'n wawdlyd 'ydi hynna'n ddigon o brawf ichdi na wnaeth vatilan ddim byd o'i le nid lleidr mohono fo ond cymwynaswr sy'n cynnig cymorth i bobol ymwared â'u heiddo a thrwy hynny ganfod byd gwell iddyn nhw'u hunain mae o hefyd yn ymgynghorydd busnes buddiol ac effeithiol fel y gwelwch o fenter newydd gemp a sefydlwyd iddo'n un swydd gan fy nghariad i ' 'yr unig beth sydd ' meddai gemp gan grafu'i ben 'ac mi ddylwn ofyn i vatilan decini ond mae o'n jêl tydi wel yr unig beth sydd ac mi hoffwn eich barn ydach chi'n meddwl y dylwn i botelu'r rhew a'i alw o'n ddw r dw r da o rwsia dyna oedd yr enw oedd gen i dan sylw mae o'n well na dw r y mynaich tydi dach chi'n gweld mae yna lot o'r rhew wel y rhan fwyaf ohono a dweud y gwir yn cyrraedd acw heb ei rewi'n iawn wyddoch chi ac wedyn mae o'n hen beth anhydrin i'w bacio mewn bocsys papur ac ati mae o ar hyd y ty 'cw ac mae'r wraig wedi 'ngadael i ar ôl deugain mlynedd o'i herwydd o ac er mor hoff yr ydwi o'm dw r fel y gwyddoch efallai fedra'i yn fy myw mo'i yfed o i gyd wyddoch chi mae yna ormod ohono fo ac wedyn meddwl yr oeddwn ' 'cau hi gemp ' meddai pc llong 'ar dy feic ' cododd gemp yn sigledig ar gefn ei feic a phedalu'n ffwndrus i lawr y lôn teimlai nel bechod drosto fo ond roedd o'n hapus medda fo ac roedd hynny'n beth da vatilan oedd y peth pwysicaf rw an meddyliodd rhyddid i vatilan 'rhyddid i vatilan ' gwaeddodd nel gan redeg at pc llong a dechrau curo'i dyrnau bychain ar gasgen ei frest 'vatilan dieuog vatilan dieuog ' 'yli di yma ' meddai pc llong gan gydio yn ei garddyrnau hi 'ai ti felly sy 'di bod yn peintio'r sloganau yma hyd furiau fy nghelloedd ' 'nacia'n tad ' meddai nel 'digwydd eu darllen nhw wnes i gwranda llong plîs wnei di roid un cyfle bach arall i vatilan mi af i'n wystl drosto fo ' 'be 'di wystl ' 'dim ond cyfiawnder dwi'n ei erfyn gen ti llong dyna'r cwbwl ' dechreuodd strancio i geisio cael ei garddyrnau'n rhydd o'i bawennau cwympodd strap ei ffrog oddi ar un ysgwydd wrth edrych i lawr ar hyd ei drwyn gallai'r plismon weld siâp ei chefn a'i bronnau a'i chroen brown llyfn 'mi gafodd ei farnu'n ôl y drefn arferol ' meddai'n freuddwydiol 'naddo ddim ' mynnodd hithau gan lwyddo o'r diwedd i dynnu un llaw yn rhydd o'i afael 'y cwbwl gafodd o oedd chdi'n gweiddi 'vatilan wyt ti felly mi rwyt ti'n euog carchar amdani ' pwy roes yr hawl ichdi farnu pobol ' 'ddim dyna be ddigwyddodd ' protestiodd y pc 'ia'n tad dyna be ddigwyddodd ' gwaeddodd vatilan drwy fariau'i gell 'ond dim ots achos dwi'n hapus yma ' 'nagwyt tad ' meddai pc llong yn flin 'mae'n iawn felly tydi ' meddai hithau gan luchio'r gwallt o'i gwyneb a fflachio gwên ddireidus ar y glas 'os wyt ti'n hapus vatilan mi dan ninnau'n hapus 'tydan rhen gopyn ' rhoes winc awgrymog ar pc llong a thynnu tafod dros ei gwefusau'n ara deg 'yndan ' meddai pc llong cydiodd hithau ym mhawen yr heddgeidwad a'i lusgo ar ei hôl i borth y swyddfa i mewn â nhw i'r stafell aros ac eistedd ar y fainc hir edmygodd hithau'r botymau ar ei lifrai a'u cyfri bob yn un a'u sugno wedyn yn ei cheg a'i thafod yn rhoi sglein bach i'r metel gwyn 'botymau sgleiniog sgen ti'n de ' meddai gan wthio'i llaw i'w siaced dynn a dadfachu'r botymau fesul un roedd pc llong yn dechrau chwysu eto ac roedd fel petai awyren bach swnllyd yn mynd rownd a rownd ei ben sw n fel cachgi bwm yn sownd mewn bys coch yn canu grwndi yn ei glust teimlai'n gysglyd braf roedd hi wedi ei ddadwisgo cyn iddo fedru dweud prif gwnstabl a doedd fawr o ots ganddo chwaith 'pa un ydi'r gell fwyaf cyfforddus llongws ' holodd hithau gan wneud sw n clychau hefo'r goriadau 'cell un ' meddai yntau'n floesg a hithau'n ei arwain iddi 'gorwedd di ar y gwely 'ta ' meddai nel 'i minnau gael tynnu amdanaf ' dechreuodd ddaffod botymau ei ffrog 'wel wyt ti am rythu arna'i fel ci a finnau'n tynnu amdanaf ynteu wyt ti am gau dy lygaid fel gw r bonheddig a throi at y pared mi gei weld hynny tisio yn y munud ' ufuddhaodd pc llong a hithau wedyn yn sleifio o'r gell ac yn cloi'r drws yn ddistaw bach ar ei hôl daeth vatilan o'i gell a rhoi sws i nel 'da'r hogan mi wyddwn ei fod o ynot ti ' sylwodd ar ddillad pc llong wedi eu lapio'n daclus ar gadair y swyddfa tynnodd vatilan amdano a gwisgo dillad y glas roeddan nhw'n rhy fawr ond gyda chymorth ambell i bìn dwbwl cafwyd trefn weddol 'ga'i agor fy llygaid rw an ' galwodd pc llong o gell un 'cei os tisio ' meddai vatilan 'ond faswn i ddim isio gweld yr hyn weli di ' gwasgodd ei wyneb i'r blwch yn y drws 'ych a fi llong yli stwffia dy gorff i'r rhain ' medda fo wedyn a gwthio'i ddillad carchar drwy flwch bach y drws 'mi'ch lladda'i chi am hyn ' bytheiriodd pc llong a fyntau'n ceisio cuddio'i noethni a'i ddwy law 'be ddyfyd y sarjant ' 'taw rw an ' gorchmynnodd vatilan aeth yn ôl i'r swyddfa a sgwennu adroddiad swyddogol ar gyfer y sarjant oedd i alw yn ôl y rota yn hwyrach y pnawn hwnnw wedi canu'n iach â'r cop anffodus aeth nel a fyntau i'r stryd a'i chychwyn hi yng nghar yr heddlu am y maes awyr ar y ffordd bu'n rhaid i vatilan yn rhith pc llong restio perchennog set o lestri llanelli am nad oedd ganddo hawl i'w atal dweud a chymerodd y llestri i'r ddalfa o ran mechnïaeth rhoes dderbynneb swyddogol i'r perchennog a'i arwyddo pc llong gwerthodd nel y llestri i sais stondin farchnad a chyda'r pres prynasant siwt a thei a dillad bimbo a dau docyn dim troi'n ôl ar goncord i efrog newydd gan esgus eu bod yn swyddogion i un o gwangos cymru anfonasant air at y siopwr gemp yn ymddiheuro am ei wneud yn hapus a hefyd am frifo'i ben ac amgáu hefo'r llythyr lot o bres i wneud iawn am y cam anfonasant archeb banc sylweddol i huws parsli gydag archeb am dunnell o fananas gan ofyn iddo eu danfon i garchar pc llong y pnawn hwnnw daeth sarjant goch heibio celloedd llong a chanfod fod y plismon bant â'r cart roedd sarjant goch wedi bod yn ffan o glas y dorlan erstalwm ac fe hoffai ymarfer iaith y de roedd hi'n nes at acen plismyn efrog newydd yn ei dyb o 'ble iffen ma'r jawl ' meddai gan chwilio drwy'r papurach ar y ddesg cafodd y nodyn ac aeth drwodd i edrych am y carcharor 'diolch i dduw eich bod wedi cyrraedd ' meddai'r carcharor yn wylofus 'brysiwch agorwch y drws 'ma wnewch chi plîs ' 'gad dy lap vatilan ' meddai sarjant goch 'blydi gogs grinda fi wedi darllen nodyn pc llong man hyn felly paid ti â meddwl y gelli di 'nhwyllo i gwboi ma fe wedi egluro fel yr wyt ti wedi rhoi pwysau 'mlân yn un swydd i fod yn debyg iddo fe ti'n wan yn dy ben boi bach ta beth fe fydd hi wpc sych yma fory mae'n ymddangos fod pc llong bant o'r wlad am sbelen fach y blismones sych sy'n cymryd ei le fe trïa di efelychu honno os ti mor glefar efallai bydd y ddeiet fananas mae llong wedi ei threfnu iti'n help ' aeth sarjant goch allan o'r swyddfa dan biffian chwerthin oni bai am y lifrai swyddogol oedd ganddo amdano byddai wedi chwibanu wrth gerdded y strydoedd a fyntau'n meddwl gymaint yn saffach oedd yr hen fyd yma a vatilan yn gaeth mewn cell a pc llong yn bell i ffwrdd amser y gwcw yw ebrill a mai eisteddais ym môn coeden fawr i wylio'r haul yn chwarae yn y dail ac i wrando'r byd peth anodd ei ganfod ydi llonydd peth anodd ei gael sgwn i gafodd y gog hyd iddo fo'n rhywle neu ydi hi'n dal i chwilio'r hen lonydd gorffenedig yn eifionydd neu feirionnydd neu ydi hi'n blasu'r grawnwin poethion sy'n suddo ati drwy'r cwmwl ar y gorwel ta waeth peth prin ar y naw ydi llonydd wedi mynd bechod ei wastraffu o 'ddyliais i a neb i'w weld ar fy nghyfyl a neb yn crwydro'r traeth islaw dim un wan jac ohonyn nhw heddiw'n lluchio preniau o flaen eu cw n ia syllu wnes i rhwng y dail a'r coed a'r haul yn trio chwincio arna'i dan odre'r cwmwl a finnau â 'ngolwg dan y brigau ar erwau'r tywod taclus ydi tywod traeth llanw yndê dim chwyn yn tyfu arno nac olion cestyll yn suddo iddo welais i 'rioed mohoni'n dw ad drwy'r coed ar flaenau'i thraed chlywais i mohoni'n mynd o ran hynny chwaith sut gyflwr sydd arnach di meddai wn i ddim yn siw r atebais innau rhois fy llaw i guddio golau'r haul rhwng y brigau oedd yn dallu fy llygaid mae'r waliau'n debyg meddwn i a'r un hen fwsog sydd ar eu pennau dyna wyt ti'n ei feddwl meddai hi a melyn y briallu yn ei gwallt a glas bwtsias y gog yn ei llygaid ond chlywsom ni mo'r gwcw'n canu eleni naddo efallai y doith hi gyda hyn eto meddwn i neu hwyrach mai cân arall sydd ganddi erbyn hyn y tiroedd mae hi'n gorfod hedfan drostyn nhw sy'n drech na hi decini wn i ddim byd am wres meddai hi mae'n well gen i'r glaw mae glaw'n anochel rywsut er ei bod hi'n braf cael yr haul drwy'r dail i gosi dy fochau hefyd ond be ydi tywydd i mi drycin hindda gaeaf ha' dwn i ddim byd amdanyn nhw fyddi di weithiau'n clywed llais arall yn sibrwd yn dy glust di roedd hi'n fy llygadu fel 'tae hi'n disgwyl am ateb be ydan ni haws â holi meddwn i weithiau meddai hi mi rydan ni dim ond pan fydd y lleisiau'n berwi yn y brigau ac yn llithro rhwng y dail a welaist ti fel y chwiliwn amdanat a chdithau'n syllu'n bell i'r aber gwag welais i ddim byd meddwn i dim ond gweld y byd yn fan'cw ac wedyn dyma fi'n cau fy ll'gadau am ennyd a gweld chdithau'n fan'ma hefo fi'n aros llanw ar erchwyn nos ia meddai hi ond dim ond dail sy'n medru agor heb fedru cau agorais i 'nghalon unwaith meddai wedyn ac er ceulo'r briw camodd ataf a dw ad â'i gwyneb yn agos ataf gafaelais yn ei law o meddai hi a finnau heb ddisgwyl clai yng ngwely'r afon na phigau'r sêr roedd ei law o'n oer meddai ond roedd ei dalcen yn ferw o chwys ei sychu wnes i â godre fy llawes ond mi gododd ar ei draed nes oedd ei gysgod wedi mynd i lenwi'r lle a'i anadl yn pylu'r golau drwy chwareli'r ffenest ers faint ydwi wedi deffro meddai fo wedyn wyddwn i ddim mai cysgu oeddach di meddwn innau o'r drws achos mi wyddwn wedyn fod yn rhaid imi fynd wn i ddim lle mae o rw an na be mae o'n wneud dim ond weithiau fydd o'n meddwl amdana'i decini mi fydda innau weithiau'n meddwl amdano fo dwi'n cofio un tro ar ochor y foel mi ddaeth dros y boncan ata'i ac eistedd fel erioed wrth f'ymyl ond ei fod o'n swil wrth laesu'i fraich am fy sgwydda ac yn dyner wrth fy nghusanu dan fy nghlust awn ni ddim i ben foel heddiw medda fo mae hi'n bygwth tywydd mawr ac mae'r foel yn fwy na be dwi'n gofio hefyd pethau bach felly sy'n gwneud imi wybod ei fod o'n cofio tydi hi ddim yn fêl i gyd ar neb nacdi meddwn innau yn ei gweld hi'n gwelwi roedd hithau rw an yn syllu allan i'r bae a chysgodion fel cymylau yn symud ar draws ei llygaid nid hefo fi roedd hi'n siarad hwyrach dim ond syllu draw a'i gwefusau'n mynd chynigiais i rioed ddim byd iddo fo meddai dim ond fy nghalon dwi'n dal i drio cofio be oedd fy rhan i o'r fargen i fod ac mi ges innau fy nghalon yn ei hôl o'r diwedd a hithau'n waeth ei thraul mae'r briw wedi ceulo erbyn hyn a'r graith yn fach fach mae hi'n fach ac yn wyn yn fan'ma o dan fy mron a phan gododd ei chrys dyna lle'r oedd hi'n graith fach wen o dan ei bron chwith peth garw am frifo ydi cariad meddwn i ond isio fo ydan ni o hyd ia wn i meddai hi wrth dacluso'i chrys un garw wyt tithau am ddweud pethau sy'n amlwg i bawb maen nhw'n haws eu dweud na dweud pethau annelwig meddwn i mae'n haws caru na dadgaru meddai hithau yndi meddwn i a finnau'n trio meddwl am beth tebyg haws torri na dadwreiddio meddwn innau wedyn hawdd baeddu sidan main gwyn meddai hi amlwg bai lle ni cherir ychwanegodd amlwg cas a chariad meddai eto gawn ni beidio â siarad mewn damhegion bob gafael os gweli di'n dda meddwn i hawdd i'r claf a fo'n ddiddolur beri i'r afiach gymryd cysur meddai hi ia wn i hynny meddwn i a finnau'n trio cofio rhyw ddiarhebion digon o bwdin i'r diwrnod ei ddrwg ei hun meddwn i digon o grwth a thelyn ychwanegais digon yw digon o ganu'r un gân digon yw digon o fêl ar y tân digon yw 'chydig yn fwy na sgin ti a digon o bwdin a dagith chwech o gw n a chaeais fy ngheg roedd hi'n eistedd ym môn y goeden las ac yn sbïo arnaf o 'mhen i'm sawdl digrif gan bob aderyn ei lais ei hun meddai a dechrau agor ei chrys eto wyddwn i'r un ddihareb am bethau felly digrif yw gwisgo deugrys meddai hi'n ffrom gan lithro'r sidan main gwyn oddi am ei sgwyddau a dyma groen heb yr un crys a dyma hi'n chwyrlïo'r dilledyn o'i chylch a'i luchio oddi wrthi dros lygaid yr eithin a finnau'n ei gweld hi'n fronnoeth flin o'm blaen a'i llygaid yn goleuo mellt a'i dwy law ar ei chluniau gwnaeth osgo â'i phen a gododd ei gwallt ar yr awel gwisga fo 'ta meddai gwisga fo amdanat ar ben dy grys t'yd imi gael dy weld y deugrys bach a phwyntio ddaru hi at y llwyn eithin a'r pigau'n brigo drwy'r sidan golau a'r lleuad yn codi dros grib y mynydd cipiais y crys rhwng bys a bawd a'i bersawr yn flodau mai a'i dynnu rhwng fy mysedd a'i lapio amdanaf yn faner wen fel hwyl cwch heulog ar aber henfelyn a'r awel ym mlodau'r eithin yn felyn a'r sidan yn syrthio amdanaf fel tonnau o ewyn o beth bach mae hi'n licio'i chrysau'n llaes meddyliais nid blows o grys mo hwn meddwn i wrthyf fy hun ond hugan bendigeidfran o grys barclod bras y gawres o fôn o grys parasiwt o grys myn cebyst rhyw fath o dduwies wyt ti mae'n rhaid meddwn i a finnau wedi cael bwlch i 'mhen rhwng dau fotwm dim ond duwiesau fasa'n cael gwisgo crys mor nobl â hwn roedd golau'r lleuad yn llenwi ei chroen ac roedd sw n y llanw yn llenwi'r traeth y peth nesa wyddwn i roedd hi wrthi'n tynnu'i sgert a finnau'n dal i drio ymgodymu â'r crys sidan tynna dithau amdanat meddai hi be holais i pam am ei bod hi'n dop llanw a'r lleuad yn llawn meddai hi t'yd mi awn ni i drochi dwi ddim yn licio ymdrochi'n y môr meddwn i ac mae pigau'r eithin yn dew dan draed ac mi fasa'n rheitiach inni feddwl am ei throi hi a phwy ddywedodd y down i hefo chdi meddai hi gan gicio'i sgert oddi wrthi a dechrau mingamu dros bigau'r eithin am greigiau'r môr t'yd meddai hi tydi'r dw r ddim yn oer iawn erbyn imi ddringo i lawr y creigiau roedd hi wedi nofio hanner y ffordd i'r ynys mi gwelwn i hi fel corcyn gwyn yng nghanol y bae a finnau'n brathu bodiau 'nhraed i'r dw r dwi'n dw ad meddwn i gan drio gweiddi ond roedd awel tonnau'r môr yn f'erbyn ac mi roedd y dw r yn oer ddalis i mohoni naddo toedd gen i ddim gobaith ei goddiweddyd a hithau'n nofio fel sliwan wen ella mai môr forwyn ydi hi meddyliais i ond wedyn sgan rheini ddim coesau ar greigiau'r ynys roedd hi'n gweitsiad amdana'i t'yd meddai hi brysia lle dan ni'n mynd gei di weld roedd dafnau'r môr yn berlau ar hyd ei chefn a'i gwallt hi'n rhaffan dros un ysgwydd gwelais ei llaw wen hi'n estyn am yn ôl a'i bysedd hi'n amneidio ninnau'n gafael dwylo a'n dwylo ni'n oer mae 'na ryw sais wedi prynu'r ynys meddai hi ac mae gynno fo sleifar o dy ha 'rochor draw a dyna lle'r aethon ni mi wyddai hi sut i fynd i mewn a lapio'n hunain mewn blancedi a chynnau tân wisgi da sgin y sais ty ha 'ma meddwn i a ninnau draed yn nhraed ar groen dafad o flaen tân a gwydrau grisial yn chwincio fel sêr yn ein dwylo dim ond yn y deyrnas yma dan ni'n byw fel hyn meddai hi pa deyrnas ydi honno holais i teyrnas neb meddai hi gwthiodd ei gwallt o'i gwyneb doeddwn i ddim yn dallt ond mi smaliais fy mod i teyrnas neb meddwn i roedd yr hen olwg bell yna yn ôl yn ei llygaid ia meddai hi lle dan ni'n nabod heb gyffwrdd ac yn cael heb geisio ond yn ceisio dim byd nad ydi o ar gael mi sbïodd arna'i ac ychwanegu wyt ti'n fy nabod i yndw meddwn i doeddach chdi ddim meddai hi fydda'i eto meddwn i does yna ddim tro nesa yn nheyrnas neb meddai hi pam holais i achos does yna'r un ddoe na'r un yfory na'r un oriawr na chloc taid sut maen nhw'n gwybod faint o'r gloch ydi hi 'ta meddwn i taw meddai hi dim ond yn nheyrnas neb dan ni'n cael byw fel hyn ond chei di mohoni wrth chwilio 'sti a phaid ti â methu dy law pan ddaw dy dro i drio'i dal hi cofia achos weli di mohoni eto wela'i meddwn i heb ddeall yn iawn wyt ti'n hapus felly yndw meddai hi ond pam meddwn i os na pharith dim byd mae pob dim yn para am byth yn nheyrnas neb meddai hi ond chdi ddeudodd na pharith honno ddim meddwn i roedd y tân yn marw yn y grât a'r wawr yn llwyd yn y ffenest codais a'm cysgod yn llenwi'r llawr a sychais fy anadl oddi ar chwarel y ffenest i gael gweld golau glas y bore mi allwn gerdded y traeth yn ôl meddai hi siawns ei bod hi wedi treio yndi meddwn i a'm golwg ar y tywod tywyll sgwn i ddaru'r sais ty ha yna weld colli'r ddwy flanced mae'n siw r iddo weld colli'r wisgi roedd ein traed yn gwichian yn y tywod a'r carpiau o gymylau'n wylltion yn y dwyrain draw stribedi o byllau fel olew lle bu'r môr adar traeth yn chwibanu a darn o'r nos wedi aros yng nghoed y dorlan a thrydar adar mân yn boddi sgrech dwy wylan unig allan ar y traeth a'm traed yn feddal ar ôl y tywod a'r pinnau eithin yn mynd i'm traed a finnau'n neidio ar un goes cerddodd hithau dros binnau'r eithin heb ochor gamu a chipio'i chrys o'r llwyn golau'r bore'n sleifio atom o bob man rhoes ei chrys amdani a hwnnw'n ffitio finnau'n tynnu fy nhrowsus amdanaf ac yn cau fy malog tynnais gledr llaw dros fy ngwefus i gael clywed y blas hallt camodd hi at ei sgert a honno'n dorch ar lawr a'i chodi a'i hysgwyd yn rhydd o bryfetach a dail roedd y gwlith wedi gwlychu'n dillad ni'n wlyb soc crynodd wrth dynnu'r sgert dros ei fferau ac am ei choesau finnau'n straffaglio i wthio fy nhraed i sgidiau oedd newydd fynd ddau faint yn rhy fach imi roedd berw'r adar yn llenwi'r coed ac yn diasbedain drwy fy mhen ac mi gribodd ei gwallt â'i bysedd a'i hel o yn ei ôl a dal ei chledr i ddal llygedyn o haul y bore a dreiddiodd drwy'r brigau ati a'i llaw yn dal y golau fel petai drych yn ei llaw troes ata'i a gwenu mi glywn aroglau'r bwtsias y gog ac aroglau'r traeth roedd y golau yn nrych ei llaw yn loyw lân ac yn sgleinio o'i gwallt briallu ac o'i llygaid glas hithau'n troi ei chledr yn ara deg tuag ata'i a'r golau'n pefrio drosof ac yn fy llenwi â'i wres gwyn codais fy llaw at fy ngwyneb a gweld y llaw yn olau fel pe bai fflashlamp yn tasgu arni rhois y llaw arall allan i'm sadio ym môn derwen wrth f'ymyl roedd ei chroen yn arw ac yn dew o dan fy mysedd gwelwn y golau'n turio i gilfachau'r rhisgl ac yn deffro'r trychfilod nes eu dychryn a'u hel i guddfannau newydd yn eu braw ni allwn fwy na nhwythau syllu i lygad yr haul a hithau'n chwerthin drwy'r cwmwl ar ddechrau'r haf welais i mohoni'n mynd meddwl oeddwn i ei bod hi yno o hyd ac y cawn droi ati a chwerthin hefo hi a sôn am be welsom ni a meddwl wedyn y gwelwn i hi pan godai'r cwmwl oddi ar wyneb yr haul ond yn lle hynny daeth pigau'r glaw i guro ar y dail rywle'n y coed roedd sguthanod i'w clywed yn gwatwar llais y gog chanodd honno ddim eto eleni llonydd oedd arni hi isio mae'n siw r sgwn i gafodd hi hyd iddo fo sbarion faint mor fyr ydi stori fer i fod ydi'r rhain yn straeon ynteu'n falu awyr penchwiban pam fod angen holi neu egluro ta waeth maen nhw yma rzan ac felly dyna fo nid oes gysylltiad bwriadol cyd rhyngddynt ac nid ydynt mewn unrhyw drefn neilltuol y hi ydi siffrwd yr awel yn y dail hi 'di'r don sy'n llithro'i chrychiad dros y llyn hi ydi'r gwybed bach yn y rhedyn a'r clecian ym mrigau'r allt trigwn ynddi weithiau a hithau weithiau'n byw ynof i fel bod rhwng cwsg ac effro fel breuddwyd yn colli'i gafael dihangodd fy nhrên i dwnnel ac eisoes daeth chwiban trên arall heibio'r tro a hawlio'r lein roeddwn i'n edrych allan i'r bae ac yn gweld y goleuni'n cyrraedd ata'i o bob man pyst haul ar y gorwel a chleisiau ar hyd y dw r a finnau'n meddwl am bethau dibwys ac yn dal i drio gweld pethau mawr dim ond ymyl ei gwefus yn codi efallai ystum o'i phen dyna'r unig bethau a'i gwnaeth hi'n wahanol ond 'roedd fel rhwygo o'r ffenest ddarn o'r llen yn symud ei gwefusau roedd chwaon cynnes y môr roedd hi'n fy nghyhuddo dwi'n cofio ymddiheuro mae'n rhaid fy mod i'n syllu a chlywais wres y gwrid yn lledu pesychais troist dithau dy ben roeddan ni mewn car golf penagored a dim ond y gwynt yn canu yn dreifio'n hir ar hyd traethau heulog a merched bronnoeth yn bobman rai'n torheulo roedd yr arbenigwyr yn dweud fod yr haul yn ddrwg i'r croen ond nid dyna'r oeddwn i chwilio am rywun oeddwn i ni dwi'n cofio ni'n troi o'r traeth hyd lonydd y twyni draw i'r dref a'i strydoedd gwyngalchog a'i chysgodion mynd am y fferi oeddan ni goro croesi nes inni'n sydyn sylweddoli nad oedd yr ochor arall ddim yn bod roedd gwreiddiau john f thomas yn ddwfn ym mhridd gardd lysiau mrs wilderbeest evans plannwyd ef yn y flwyddyn ac roedd yn ei flodau o hynny hyd y flwyddyn pan dociwyd braidd ar ei ben a bu farw claddwyd ef ym mynwent y gaiman ar ei fedd fe eginodd coeden domatos a brifiodd yn gadeiriog lydan o'i bôn daeth ffrwythau cochion sgleiniog braf bachwyd y rhain liw nos gan giang o hogiau drwg iawn cawsant eu gwerthu i jâms y llysiau gwnaeth yntau arddangosfa ohonynt eithr nid oedd neb am brynu hogiau mor afreolus cawsant eu rhyddhau ar fechniaeth roedd y tomatos wedi llenwi fel cosynnau cochion amsterdam roeddan nhw'n crynu ac yn aflonyddu yn y gwres aeth â hwy adref er mwyn ceisio'u tawelu ond ni thyciai ddim iddo gosododd gloriau ar y ffenestri a phapur dan odre'r drysau ac aeth i'w wely ond yn nhrymder llethol y stafell a gewinau hirion o haul yn crafangu awyr lychlyd y llofft a'r tomatos yn aflonyddu yn y gegin pa obaith oedd ganddo i gysgu ti'n cofio nos galan ym mhrâg a llawr y ddawns yn ein sgubo ar draws llyn rhew a ninnau'n nofio'n braf dros frigau'r coed pam oeddan ni mor ddrwg a finnau'n dy garu fel tân yn caru mwg a ninnau'n mynd allan i ganol y sgwâr i gyfarch rhyddid ionawr a'r wlad newydd yn eu llygaid a'r gwynt yn fain dobre dania ydi'r unig beth dwi'n gofio o'u hiaith nhw rw an 'neith hi ddawns arall ' meddwn i ac aethon ni'n ôl i mewn neu efallai mai chdi a ddywedodd yn lle dianc allan i'r strydoedd maen nhw'n esgyn y grisiau at goridorau tywyll sy'n eu harwain i siambr briallu dawel 'cusana hi ' medd rhywun dim ond wedyn maen nhw'n cael ffoi o dan y gwely mae drws yn y llawr hefo grisiau cyfyng yn dirwyn i grombil y ddaear mae'r rhwd yn goch ar eu dwylo o'r canllaw hen cyrhaeddant lawr gwastad a phridd dan draed wedi tanio matsien gwelir canhwyllau yma ac acw mewn cilfachau mae o'n eu goleuo fesul un daw sw n dw r atynt o bell fel mae'r twnnel yn culhau mae o'n gwasgu dan lechen enfawr a'r ffrwd yn oer ar ei wyneb mynd fel sliwan wysg ei ochor a'i law yn trio dal y gannwyll uwch ei ben mae o'n yfed o'r dw r fel cath yn yfed llefrith ond daw sw n llechi'n crafu'i gilydd a fyntau'n troi ei ben a gweld llechen sgleiniog hefo geiriau arni cyn iddo fedru eu darllen mae o'n sylweddoli fod yr agen y daeth drwyddi wedi cau o'i ôl ac mae'r gannwyll rhwng ei fys a'i fawd ar ddarfod tasa'na dair neu bedair plaid yn bod a bod un o'r rheini'n curo'r lleill oedd wedi arfer bod hefo'r grym er bod chwe deg y cant o'r bobol yn erbyn y blaid honno ac wedyn bod dwy neu dair o'r pleidiau llai llwyddiannus yn creu clymblaid er mwyn codi dros bennau'r blaid lwyddiannus y tro nesaf a bod y tro nesa'n dw ad a'r glymblaid yn curo ond eu bod nhw wedyn yn ffraeo hefo'i gilydd ac yn methu cytuno dim byd ond eu bod nhw am ddatgymalu ond yn methu cytuno wedyn sut i wneud hynny a bod y blaid fawr a enillodd y tro cyntaf ond oedd newydd golli i'r glymblaid yn awyddus i gael pig i mewn ac yn dechrau ymuno dow dow hefo rhai carfanau o fewn y glymblaid annosbarthus nes dw ad yn diwadd i'w meistroli hi'n llwyr a'i gwastrodi a hynny heb fawr o wrthwynebiad be fasa gynnoch chi dwn im me wil chdi 'di'r un w yr y ffeithia 'ma tisio peint mae gan hyd yn oed fynyddoedd deimladau 'sti meddylia di amdano fo goro sefyll allan dan bob tywydd goro sefyll yn ein hunfan heb syflyd blewyn a dim ond effing defaid yn gwmpeini a chleimars yn bersonol well gin i'r defaid gwell sgwrs i'w chael hefo nhw a thydi defaid ddim yn gwisgo crampons fydd y defaid ddim yn gwanio bwyeill eira miniog i'n mannau tyner ni ac maen nhw'n gofyn inni fod yn ddiolchgar iddyn nhw am beidio â thynnu'r cwbwl o'n perfedd ni fel bydden nhw turio drwyddan ni a hollti'n ni i gael at ein creigiau ni ond o leia roedd y chwarelwrs yn siarad ein hiaith ni nid fel yr hepil yna sy'n trio'n corlannu ni i ryw barciau busnes sut hoffet ti gael dynion blewog mewn sanau cochion yn piso ar dy ben fawr o daro mwn sut deimlet ti yngly n â chynnwys caffi tu nôl i dy glust a rheilffordd i gyrraedd at dy glust dwi ddim hyd yn oed yn cael gwisgo fy nghap wedi mynd rhag sbwylio'r fiw ond mae'n profi un peth ichi nid y fi maen nhw isio'i weld y llefydd weli di o 'nghopa fi pam na fasan nhw'n mynd yno'n y lle cynta nhwythau'n dw ad yn rêl congrineros wedi lladd eu hunain yn dringo'r holl ffordd ac ar ôl eu hanner o lager maen nhw'n talu i gael mynd lawr y mynydd ar y trên mae 'na rai'n edliw imi 'mod innau'n ddiog ond cyfeiliorni maen nhw gwitsiad ydwi gwitsiad am yr adeg iawn a phan symuda'i mi gewch weld be ydi symud ond tydw i ddim ar frys mawr ges i 'mhen blwydd yn ddeugain mil miliwn echdoe a faint o gardiau ges i nacia dim un sôn yn papur dim twrw bach na mawr dim hyd yn oed llun felly'r tro nesaf y daw rhyw ohebydd heibio mi fydda'i'n hen barod amdano a dyna ichdi sgw p fydd i eco'r wyddfa y mis wedyn 'hen hac hic iacit' fydd y pennawd synnwn i ddim ac mi gofian amdana'i wedyn pan fydda'i'n ddeugain mil miliwn ac un dim uchelgais ond dy weld di'n gwenu mae'r dydd a'r nos wedi ffeirio'u lle a'r plant yn chwarae mewn ty gwag a'r ffenestri'n chwilfriw goleuadau car yn sgubo lawr y dreif mae ffenest drydan y car yn agor fel agor ceg dyn bach prysur sy'n rhuthro at ystlys y car a gwthio'i ben atom i'r ffenest rwy'n cofio gofyn iddo a oedd yn ymarfer i fynd yn bengwyn o fore gwyn o bedwar ban sul gw yl a gwaith mae'r hen blant bach yn cyrraedd atom ac yn ein goddiweddyd ar y ffordd sy'n codi am wddf y mynydd cyhoeddwr argraffwyd gan wasg gomer llandysul isbn nôl i'r top