deunyddiau darllen grwp storiau gweithgareddau sgidia ryan giggs dwi'n gweld efo fy ilygad fach i rhywbeth yn dechrau efo o o g tawelwch ilethol doedd dim i'w glywed ond swn mwmian injan y car yn gyrru i lawr y draffordd meddai hanna eto wel dewch `laen rhywbeth yn dechrau efo g dechreuodd dad a mam weiddi rhestr o eiriau yn uchel glaswellt ysgwydodd hanna ei phen ym glaw naci gwregys diogelwch na goleuadau traffig gwair gwellt gwyneb gwasgod gewin gwylan parhaodd dad a mam i restru pob gair oedd yn cychwyn gyda'r lythyren g yn yr iaith gymraeg ond heb fawr o lwc eisteddai hanna yn sedd ôl y car â gwên fodlon braf ar ei hwyneb trodd i edrych at ei brawd iau oedd yn hepian cysgu wrth ei hymyl a rhoddodd bwniad sydyn iddo yn ei stumog deffrodd yntau mewn braw a syllu'n flin ar hanna tyrd rhydian mae'n rhaid i ti chwarae'r gêm `ma giggs oedd ei ateb swta gan syrthio'n ôl i'w drwmgwsg m a a a m protestiodd hanna a chwyno'n ddi ben draw nad oedd rhydian yn cymryd y gêm o ddifrif naw milltir a chwarter awr yn ddiweddarach roedd rhydian yn dal i gysgu'n sownd a dad a mam mewn penbleth llwyr wrth geisio datrys y gair cudd o'r diwedd gwaeddodd hanna reit neb wedi dyfalu'n gywir mi wnai dd'eud yr ateb ta y gair oedd gaer chwarddodd hanna yn uchel dros y car gan hawlio buddugoliaeth fawr hen hogan wirion meddyliodd rhydian rhwng cwsg ac effro efo c mae caer yn dechrau prun bynnag syllodd drwy ffenestr y car a gwelodd dwr yr eglwys gadeiriol a'r swyddfeydd a'r siopau modern yn codi'n uchel i'r awyr gymylog welcome to chester meddai'r arwydd ffordd ond `roedd rhydian ar dân eisiau mynd `nôl adref i fwlch mawr nid trip diddorol i'r sw oedd hwn i fod ond yn hytrach trip siopa am esgidiau newydd yn barod ar gyfer tymor newydd yr ysgol i rhydian elis roedd siopa yn uchel iawn ar ei restr o gas bethau yn ymladd am le ar y brig gyda nadroedd brocoli mathemateg a gemau plentynnaidd hanna erbyn amser cinio `roedd rhydian wedi cerdded milltiroedd ar filltiroedd o amgylch siopau esgidiau dinas caer neu'n hytrach roedd yn teimlo'i fod wedi cerdded milltiroedd dyna lle'r oedd y teulu yn dilyn mam o un lle i'r llall fel trên bach yr wyddfa mam yn gwibio ar y blaen yna hanna yn sgipio'n llon ar ei hôl am iddi gael dillad newydd sbon danlli rhydian wedyn a'i ben yn ei blu ac yn olaf dad druan yn cael trafferth mawr i gario oddeutu hanner dwsin o fagiau plastig ar bob braich `roedd ei fam yn ddynes anodd iawn iawn ei phlesio ac yn gweld bai ar bob pâr o `sgidiau a welai rhy ddrud meddai am un ohonynt rhy fach am un arall rhy goman am y lleill ond roedd rhydian yn gwybod yn iawn sut rai yr hoffai ef eu cael stopiodd yn stond with basio heibio siop chwaraeon cerddodd yn araf at y ffenest a safodd yno'n geg agored a'i lygaid fel soseri 'esgidiau ryan giggs ' meddai wrtho'i hun wrth weld y pâr du a gwyn sgleiniog ffasiynol yn sefyll ar stand arian gwenodd wrth feddwl amdano'i hun yn cicio pêl ar gae'r pentref yn yr esgidiau arbennig hynny lledodd y wen yn fwy wrth feddwl mor genfigennus y buasai ei ffrindiau yn ysgol gynradd llanllechog a'r genod i gyd wedi mopio'n lân gyda phishyn diweddara' cymru yn sydyn teimlodd ewinedd miniog ei fam yn crafangu yng ngholer ei grys a'i dynnu'n ôl yn hollol ddi seremoni oddi wrth y ffenestr llusgodd ei fam ef i mewn i`r siop esgidiau nesaf yn y ganolfan a'i orchymyn i eistedd yn llonydd ar sedd gyfagos eisteddodd rhydian yno'n dawel a syllu'n ddiflas ar ei fam yn estyn un o'r esgidiau duon mwyaf anniddorol ac anffasiynol o'r silff yna heb bw na be clywodd floedd vn atsain dros y siop hwre gollyngodd ei fam yr esgid mewn braw a cherddodd tair o wragedd y siop o nunlle yn wên o glust i glust daeth y wraig gyntaf at rhydian yn cario bocs esgidiau iliw arian yn ei dwylo yr ail ferch gyda photel anferth a siampên a'r drydedd yn gwenu'n wirion wrth gario balwnau lliwgar yna dechreuodd y wraig gyntaf siarad mewn saesneg smart ofnadwy llongyfarchiadau mawr fel cwsmer rhif i'n siop ni chi yw enillydd ein gwobr abennig hwrê ê ê a dechreuodd y dair ohonynt ddawnsio a phrancio fel wyn o amgylch rhydian hollol boncyrs oedd ymateb cyntaf rhydian iddynt ond buan y newidiodd ei dôn dyma meddai mrs saesneg crand eich gwobr fawr ac agorodd gaead y bocs o'i flaen rhythodd rhydian i mewn i'r bocs a bu bron iddo lewygu yn y fan ar lle yr oedd y daith yn ôl adref i ogledd cymru yn un bur wahanol y noson honno yn y sedd flaen gyrrai dad y car tra roedd mam yn gwenu'n braf wrth afael yn y botel siampên yn y sedd ôl eisteddai hanna yn dawelach na'r arfer wedi llyncu mul wrth ei hochr roedd rhydian ar ben ei ddigon ar ôl y diwrnod siopa gorau a gafodd erioed ar ei lin roedd bocs esgidiau lliw arian bocs yn cynnwys esgidiau pêi droed unigryw yn union fel rhai ryan giggs stori gan dylan wyn williams