portreadu'r cymry bryn terfel barry john gwynfor evans arglwydd tonypandy siân phillips mae'r rhestr o bobl sydd wedi eu portreadu gan yr arlunydd david griffiths ac sydd i'w gweld yn arddangosfa o'i waith rhwng gorffennaf a hydref yn y llyfrgell genedlaethol yn aberystwyth yn darllen fel rhestr o bwy yw pwy yng nghymru ail hanner yr ugeinfed ganrif dros gyfnod o mlynedd mae david griffiths wedi bod yn arlunydd llys answyddogol i fywyd cymru gan wisgo mantell traddodiad sy'n ymestyn yn ôl i'r arlunwyr gwlad mae david wedi portreadu arweinwyr ac eiconau bywyd cymru er mai yn lerpwl y ganed a magwyd david griffiths roedd o gefndir cymreig ac roedd celf hefyd yn ei wythiennau gan i'w hen daid dynnu llun o'r gwleidydd william ewart gladstone symudodd y teulu o lerpwl i bwllheli pan oedd david yn saith oed ac yno yn ysgol ramadeg y dref y daeth dan ddylanwad yr athro a'r arlunydd elis gwyn cyn mynd yn ei flaen i astudio celf yn ysgol gelf slade yn llundain arwisgo tywysog cymru yn daeth a bri iddo gyntaf wrth iddo ennill comisiwn i lunio portread o'r tywysog ifanc ers hynny mae wedi llunio portreadau o ddwsinau o bobl ym myd gwleidyddiaeth dysg meddygaeth crefydd celf a cherddoriaeth gan gynnwys portreadau annisgwyl fel rhai enoch powell a george melly mae yna draddodiad o lunio portreadau traddodiad o groniclo'r eisteddwr yn gywir ac yn driw dyna draddodiad rembrandt a velasquez a dyna'r traddodiad yr wyf i'n rhan ohono mae'n draddodiad anodd i'w ddilyn yn yr hinsawdd gelf sydd ohoni lle mae celf cysyniadol yn norm os nad yn gelf sefydliadol bellach ond rwy'n dilyn fy nghwys fy hun medd david griffiths o'i stiwdio yng nghaerdydd arddangosfa portreadau david griffiths yw prif ddigwyddiad y llyfrgell genedlaethol dros yr haf mae'r arddangosfa yn dyst i'r parch sydd iddo a'r pwysigrwydd a roddir i artist sydd wedi dyrchafu diwylliant a chymdeithas cymru trwy ei waith mae llyfrgell genedlaethol cymru yn falch iawn o gael cynnal arddangosfa portreadau david griffiths arddangosfa sy'n cynnal dychymyg y cyhoedd ac sydd hefyd yn chwarae rôl bwysig gymdeithasol a chelfyddydol wrth i gymru geisio dod i dermau â'i hinsawdd wleidyddol a diwylliannol newydd dywedodd michael francis pennaeth arddangosfeydd llyfrgell genedlaethol cymru am ragor o wybodaeth a delweddau siôn jobbins swyddog marchnata sij llgc org uk david griffiths cyhoeddiadau llgc datganiadau i'r wasg mae'r tudalennau yma yng ngofal swyddog y we these pages are maintained by the webmaster © llgc nlw diweddarwyd last updated