newyddion rygbi ar ddydd sadwrn ebrill aeth tîm rygbi ysgol llandegfan i lanelli i gynrychioli ynys môn yng nghystadleuaeth rygbi i ysgolion cynradd cymru roedd y twrnament i blant dan gyda phob tîm yn cynnwys aelod blaenwr a cefnwr chwareuwyd hanner o ddeng munud yr un gyda'r rheolau'n caniatáu cyffyrddiad lawn chwaraeodd y tîm bedair gêm yn eu grwp yn erbyn ysgol bryn coch yr wyddgrug ysgol penyrenglyn ac ysgol bro eirwg caerdydd ac ysgol chwilog pwllheli enillwyd un gêm un gêm yn gyfartal a cholli dwy aeth y tîm buddugol yng ngrwp llandegfan sef ysgol bro eirwg ymlaen i ennill y gystadleuaeth gan guro ysgol dewi sant llanelli yn y gêm derfynol chwaraeodd pob aelod o dim llandegfan yn rhagorol ac i safon uchel chwaraewyd y gêm derfynol ar gae stradey ac wedyn gwelodd yr hogiau gem llanelli yn erbyn glasgow cafodd yr hogiau gyfle i gwrdd ac aelodau o dim llanelli a'r cyfle i gael sesiwn ymarfer annisgwyl gyda rhai aelodau o dim llanelli llandegfan yn erbyn penyrenglyn llandegfan yn erbyn ysgol bro eirwg cystadleuaeth rygbi dan urdd gobaith cymru llandegfan yn erbyn chwilog i mewn i'r sgrym yr hogia ar y stradey i'r gad eisteddfod genedlaethol yr urdd roedd disgybl o blwyddyn yn cystadlu yn yr unawd pres ac yn yr unawd piano dan yn eisteddfod genedlaethol yr urdd caerdydd ar ddydd llun ydd mehefin daeth yn gyntaf yn chwarae'r piano dan oed ac yn ail yn yr unawd pres roedd y safon yn eithriadol o uchel a rydym i gyd yn falch iawn o'i lwyddiant llongyfarchiadau cynnes iawn iddo aeth y parti deulais dan arweiniad mrs nest llewelyn jones i gystadlu ar ddydd mercher mehefin ni chawsant lwyfan y tro hwn ond fe wnaethant eu gorau glas ac roedd mrs jones yn falch iawn ohonynt aethom i lawr ar ddydd mawrth ydd mehefin ac aros mewn hostel yn llwyn y celyn powys roedd llawer o rieni gyda ni ac fe gawsom ddau ddiwrnod difyr iawn y parti deulais enillydd yr unawd pres a'r unawd piano gyda dau ddisgybl arall aelodau o'r parti deulais yn cael pryd gyda'r nos yn sgwrsio gydag owain gwilym hostel llwyn y celyn ar gae'r eisteddfod ar fannau brycheiniog prosiect mathemateg cafodd pedwar disgybl o blwyddyn lwyddiant hefyd a dod yn gyntaf yn y gwaith prosiect mathemateg i blant blwyddyn a roeddent wedi gweithio'n galed iawn ar waith yn ymwneud a phatrymau tri o'r disgyblion blwyddyn yn dangos rhan o'u gwaith prosiect mathemateg oedd yn cael ei arddangos yn yr eisteddfod pel droed ar ddydd iau ail mai aeth tim pel droed ysgol llandegfan i ysgol llanfawr caergybi i chwarae yng nghystadleuaeth cwpan albert owen wedi gem hynod o gyffrous collodd y tim wrth gicio o'r smotyn dywedodd eu hyfforddwr mr dyfed jones evans ei fod yn falch iawn o'r ffordd y chwaraeodd pob aelod o'r tim a'r sgiliau a ddangoswyd yn ystod y gem da iawn hogia