newyddion papurau dyddiadur cynhadledd amcanion aelodaeth dolennau llyfrau hafan sefydlu cymdeithas d j cynnwys beth yw'r broblem gan siôn jobbins y gymraeg a cheredigion gan penri james cre yn sefydliadol hiliol gan siôn jobbins coleg ffederal cymraeg yr unig ateb gan dr gareth popkins helynt y pwyllgor addysg gan dafydd glyn jones mentrau iaith sop i'r gymraeg gan siôn jobbins cymru a gwlad y basg gan mikel irujo addysg brifysgol drwy gyfrwng y gymraeg gan einir young a dilwyn roberts young xi creu coleg ffederal tu mewn i brifysgol cymru gan dr gareth popkins xii ydi hi'n bosibl creu papur dyddiol cymraeg gan ned thomas xii newid agwedd gan efa wulle ii egwyddorion addysg gan siôn jobbins vii plaid cymru a'r iaith beth yw'r broblem mae rhai o aelodau mwyaf blaenllaw y blaid yn cael anhawster deall y gall cenedlaetholdeb sifig olygu na ddylai'r gymraeg gael hawliau arbennig neu efallai eu bod yn deall hyn ond eu bod yn credu fod datblygu cenedlaetholdeb sifig yn bwysicach na gwarchod a hyrwyddo'r iaith gymraeg dyma rwyg deallusol mwyaf y blaid ac mae'n ddatblygiad diweddar yng ngwleidyddiaeth fewnol y blaid a chymru'n gyffredinol bydd dilyn cenedaletholdeb sifig i'w ben draw yn tywys y gymraeg ar hyd yr un trywydd â'r wyddeleg gan y bydd adeiladu cenedl wladwriaeth yn bwysicach nag achub y gymraeg mae'r blaid yn ofni trafod gwleidyddiaeth iaith oherwydd diffyg hunanhyder mewn cenedlaetholdeb diwylliannol ac ieithyddol mae cenedlaetholdeb diwylliannol yn colli ei hygrededd a'i hegemoni i genedlaetholdeb sifig sy'n ddeallusol ddiog yn fwy derbyniol i'r wladwriaeth bydeinig ac yn ymddangos yn fwy 'rhyddfrydig' er ei fod mewn gwirionnedd yn milwriaethu yn erbyn hyrwyddiad y gymraeg mae'r blaid yn dilyn agenda llafur brydeinig mae'r blaid hefyd yn dilyn polisi o drin pob rhan o gymdeithas ddiwylliannol cymru yr un peth er mwyn peidio codi gwrychyn ac er mwyn creu'r gymru newydd unedig mae peidio cydnabod gwahaniaethau ieithyddol cymru yn golygu nad oes gan y gymraeg ragor o hawliau yng ngwynedd nag sydd ganddi yng ngwent ac felly mae'n amhosibl bron amddiffyn cymunedau cymraeg naturiol gan y byddai hyn yn 'rhannu uned cymru' yn waeth na hyn defnyddir gwleidyddiaeth 'lleiafrifoedd ethnig' yn erbyn yr iaith gymraeg gan wleidyddion gwrth gymreig prydeinig y blaid lafur oherwydd sensitifrwydd y blaid i beidio ymddangos yn hiliol gwneir hi bron yn amhosibl iddi wrth ddweud sylwadau gwrth gymreig a wneir dan gochl hyrwyddo hawliau lleiafrifoedd ethnig mae hyrwyddo hawliau lleiafrifoedd ethnig yn cael ei ddefnyddio fel ffrynt i hyrwyddo cenedlaetholdeb prydain newydd y blaid lafur does gan blaid cymru ddim strategaeth iaith ar gyfer cymru yn yr un modd ag y byddai disgwyl i unrhyw grwp pwyso neu blaid wleidyddol feddu ar nod tymor byr canol a hir ar gyfer rhychwant o bynciau o dai i anabledd neu'r economi mae angen i'r blaid ac yna'r cynulliad ddatblygu strategaeth iaith yn sylfaenol mae angen gofyn pa fath o gymru a ydym am ei chreu beth yw'r ateb mae angen ail gipio'r ddadl ddeallusol dros genedlaetholdeb diwylliannol os na wneir hyn fe fydd y blaid byth a hefyd yn ofni trafod y sefyllfa ieithyddol yn gadarnhaol o ran y blaid mae cryfhau gwleidyddiaeth ddiwylliannol hefyd yn ffordd o gadw cefnogwyr a phleidleiswyr pan fyddwn ni'n methu gwireddu holl addewidion economaidd a chymeithasol y blaid mae angen i gefnogwyr y gymraeg siarad ag un llais ac yn fwy trefnus o fewn y blaid ac oddi allan iddi fel na all y gymraeg gael ei hanwybyddu ac fel y bo hi'n rhan ganolog wrth lunio pob polisi mae angen i gefnogwyr y gymraeg gyflwyno'r dadleuon dros yr iaith yn glir ac yn gall fel na fydd yn achosi camddealltwriaeth ymysg cefnogwyr a'r cyhoedd sut mae gweithredu dylid yn gyntaf sefydlu cymdeithas i weithredu fel 'think tank' gweithredol i ddatblygu polisïau o blaid yr iaith ni fydd ac ni ddylai'r grwp yma fod ar y pwyllgor gwaith nac ar y cyngor cenedlaethol ei bwrpas fydd cyhoeddi papurau ac ymgyrchu'n ddeallusol o blaid datblygu polisïau a fydd yn cryfhau'r iaith yn y gorllewin ac yn ei datblygu'n ymhellach yn y dwyrain gan gydnabod na ddylai pob rhan o gymru dderbyn yr un polisi ieithyddol ei fwriad fydd creu cymru rydd aml ethnig a chymraeg gofynnir am gefnogaeth ariannol a fydd yn cyfrannu tuag at gyhoeddi papurau enwir y gymdeithas ar ôl pleidiwr blaenllaw e e jr jones d j davies d j williams dylid ceisio tynnu pobl o wahanol farn i mewn i'r drafodaeth a dylid gwneud defnydd helaeth o brofiadau rhyngwladol e e o wlad y basg camau cyntaf cyhoeddi dadansoddiad o'r 'iaith gymraeg a'r etholiad cyffredinol' fel sail ar gyfer trafodaeth estynnir gwahoddiad i siaradwr gwadd o wlad dramor yn y gynhadledd fel e e innuit basgwr efallai y byddai modd i ac dalu treuliau teithio siaradwr o ewrop cynhelir cyfarfod agoriadol yng nghynhadledd anerchiad gan siôn jobbins yng nghyfarfod cyntaf yr egin fudiad cymuned yn y llew du yn nhal y bont ceredigion iv y gymraeg a cheredigion ffurf argraffu yr hyn a wêl cynghorwyr heddiw yw'r modd y mae gweithgaredd llywodraeth leol yn frith o gynlluniau a strategaethau sy'n hanu o ysfa'r llywodraeth lafur i reoli pob agwedd ar fywyd yn wir gellid dadlau bod eu tentaclau yn debyg dros ben i eiddo comecon yn yr undeb sofietaidd slawer dydd serch hynny gan fod y cynlluniau hyn yn rhan o'r gyfraith dyletswydd pob cyngor yw cyflenwi'r gofynion statudol hyn ond ar yr un pryd eu defnyddio i wireddu dyheadau cymdeithasol cymunedol a gwleidyddol sydd o les i'r sir a chymru gwaetha'r modd sefydlu biwrocratiaeth anhyblyg yw'r canlyniad yn fynych sydd yn adlewyrchiad ynddo ei hun efallai o wendidau llywodraeth leol ar hyn o bryd y mae problemau ieithyddol ceredigion yn gyffredin i bob ardal draddodiadol gymraeg arall mewnfudo gan deuluoedd di gymraeg yn gwanhau ond weithiau yn cryfhau strwythur cymdeithasol naturiol gymreig cyfryngau di gymreig tra arglwyddiaethol ac economi wledig anffyniannus dyletswydd cyngor sir yw sianelu'r grymoedd hyn ac nid ceisio eu hatal na'u gwyrdroi yn bennaf drwy weithredu polisi addysg cynllunio tai a datblygu economaidd sy'n cyfeirio at yr iaith gymraeg fel ystyriaeth naturiol wrth fesur sgil effeithiau'r polisi nid yw hyn yn anghyson â'r hyn a ddywedodd rhodri williams cadeirydd y bwrdd iaith wrth bwyllgor diwylliant y cynulliad yr hyn sy'n gwbl angenrheidiol i sicrhau ffyniant yr iaith gymraeg yn y byd modern yw cynllunio ieithyddol effeithiol 'rydym yn sôn yn aml am yr egwyddor o gynllunio ieithyddol holistaidd sef ceisio trin polisïau ieithyddol ar hyd ac ar draws pob maes polisi boed economaidd addysgol gymdeithasol neu ddiwylliannol williams y nod i fwrdd yr iaith yw darparu'r cymorth a'r adnoddau angenrheidiol i alluogi cynghorau i asio gofynion ieithyddol â pholisïau eraill a bod yn barotach i feirniadu pan nad yw hynny a gofynion y cynllun iaith yn cael eu gwireddu cynllunio llorweddol amdani o safbwynt ymarferol beth all cyngor sir ei wneud o fewn addysg y strategaethau a chynlluniau amlycaf yw'r cynllun strategol addysg y cynllun trefniadaeth ysgolion a'r cynllun iaith neu yng ngheredigion y cynllun addysg gymraeg pwrpas y cyntaf yw sicrhau cynnydd mewn safonau addysgol yr ail nod yw creu'r strwythur i wneud hynny a'r trydydd nod yw gwneud hyn oll trwy gyfrwng y gymraeg mae'r tri yn sylfaenol ddylanwadol ac yn cydasio â'i gilydd gall cyngor sir feithrin ewyllys da at y gymraeg drwy sefydlu system addysg o'r fath safon lle bo cyfle i bob unigolyn wireddu'i botensial a fydd yn cynnwys ac nid yn anwybyddu defnydd o'r gymraeg y nod ar hyn o bryd yng ngheredigion yw sefydlu continiwm ieithyddol a fydd yn caniatáu cynnydd yn safon y gymraeg pa bryd bynnag y daw plant i'r continiwm yn eu hysgolion gwaetha'r modd nid dyma sy'n digwydd ar hyn o bryd yn aml bydd plant â sgiliau ieithyddol cymraeg gwell na'r cyffredin yn glastwreiddio eu cymraeg ac yn gostwng yn hytrach na chynyddu eu safonau ieithyddol gall hyn ddigwydd wrth reswm gydag unrhyw bwnc mae yna le pendant i atal hyn drwy sefydlu parhad i'r continiwm a chaniatáu i ysgol categori a cymraeg yn bennaf symud i fod yn ysgol benodedig gymraeg y nod fydd sicrhau bod ysgolion categori b yn symud i gategori a b ac a b i a mae cyflymder y broses yn ddibynnol ar lefel y cymorth a monitro ond mewn gwirionedd bydd yn allweddol perswadio rhieni mai hyn sydd orau i'w plant bydd hynny yn sialens gyda rhieni di gymraeg yr wyf am weld rhagor o ysgolion penodedig gymraeg gynradd yn unig ar hyn o bryd a rhagor o ysgolion dwyieithog allan o uwchradd ar hyn o bryd mae'n anfon neges glir ynglyn â statws a disgwyliadau nid barn wleidyddol yn unig sy'n cefnogi hyn ond tystiolaeth arolwg bwrdd yr iaith lle bo'r boblogaeth yn rhagweld cynydd ystadegol uwch yng ngheredigion a chaerfyrddin yn y galw am y gymraeg o fewn meysydd dysgu awdurdodau lleol y gwasanaeth iechyd y gwasanaeth sifil banciau cymdeithasau adeiladu swyddfeydd post canolfannau hamdden a thafarnau gwestai bwytai beaufort at hynny yr oedd yn cytuno bod sgiliau dwyieithog yn fantais yn y farchnad swyddi arwain hyn at slogan ieithyddol mwyaf pwrpasol yr ymgyrch iaith sef 'heb waith heb iaith' gallwn addysgu'n llwyddiannus ond os yw gwaith yn brin diflannu a wna'r iaith er holl ymdrech y blynyddoedd cynnar datblygu'r economi gynhenid integreiddio amaeth a thwristiaeth yng nghefn gwlad a meithrin diwydiannau cynhyrchiol yn yr ardaloedd poblog gyda'r cyfan ohonynt yn meithrin delwedd gymreig mae cyfle i gynghorau sir werthu delwedd o gymru sy'n ieithyddol egsotig ac yn wahanol fel iwerddon ag iaith wahanol yn olaf dof at y cynllun unedol hwn sy'n arwain datblygiadau cynllunio am y mlynedd nesaf hyd at sail yr argymhellion yw nifer sylweddol o dai tua a fydd eu hangen ar geredigion yn y cyfnod hyn ffigwr a ddaw o'r tyfiant hanesyddol nid y tyfiant tebygol onid ddylai ceredigion ystyried yn gyntaf beth yw'r boblogaeth gynaladwy yn yr ardal dylai cynaladwyaeth gael blaenoriaeth uwch yn nodau'r cynllun economi gynaladwy cymdeithas gynaladwy iaith gymraeg gynaladwy ac amgylchedd cynnaladwy dylai fod yn ddyletswydd gynnwys y rhain yn yr adolygiad cyntaf ymhen mlynedd i gloi beth fyddai polisïau'r blaid ar y cyngor sir parthed yr iaith gymraeg dim llai nag ymdriniaeth lorweddol gynaladwy drwy gyfuniad o gynlluniau a strategaethau statudol byddwn hefyd yn disgwyl gweld gweinyddiaeth cyngor yn cymreigio dan reolaeth plaid cymru y perygl yn hyn yw gwneud y gymraeg yn iaith sefydliadol i'r werin frwydro yn ei herbyn brwydr y genhedlaeth nesaf fydd disefydliadogi'r gymraeg a rhaid inni gadw hynny mewn cof wrth weithredu heddiw llyfryddiaeth beaufort sefyllfa'r iaith gymraeg arolwg bwrdd yr iaith gymraeg williams r ymddangosiad cadeirydd bwrdd yr iaith gymraeg gerbron pwyllgor diwylliant cynulliad cenedlaethol cymru mai bwrdd yr iaith gymraeg papur gan y cyngh penri james arweinydd grwp plaid cymru cyngor sir ceredigion penrij ceredigion gov uk vii cre yn sefydliadol hiliol argreffwch cyhuddaf gomisiwn dros gydraddoldeb hiliol cre o fod yn hiliol ac o fod yn 'sefydliadol hiliol' yn erbyn cymunedau cymraeg eu hiaith cyhuddaf y cre o ddiffyg dealltwriaeth anhygoel o'r sefyllfa ieithyddol yng nghymru ac o'r bygythiad i'r iaith gymraeg at hynny cyhuddaf y cre o hyrwyddo'r iaith saesneg yn systematig a hynny ar draul y gymraeg fel y cre hoffai cymdeithas dj weld cymru aml ddiwylliannol ond yn wahanol i'r cre nid yw cymdeithas dj yn derbyn mai dim ond drwy gyfrwng yr iaith saesneg y mae modd cael cymdeithas aml ddiwylliannol credwn mai'r gymraeg ddyliai cyfrwng aml ddiwylliant fod mewn rhannau helaeth o gymru mae'r cre yn drysu rhwng marwolaeth y gymraeg fel iaith gymunedol oherwydd mewnlifiad o siaradwyr saesneg uniaith a'r nod gwiw hwnnw sef aml ddiwylliannedd nid aml ddiwylliannedd yw darostyngiad iaith fechan gan iaith fawr gref iaith sy'n gyfrwng addysg y cyfryngau a'r wladwriaeth nid aml ddiwylliannedd yw hynny ond gwladychu ac iaithladdiad mae'r cre fel petaent yn credu bod bodolaeth cymunedau cymraeg eu hiaith yn gysyniad hiliol ynddo'i hun maen nhw'n methu ag amgyffred bod modd i bawb o ba bynnag hil diwylliant neu rywioldeb ddysgu'r gymraeg ond mewn sefyllfa lle nad oes rhaid dysgu'r iaith a lle mae'r cymry cymraeg yn rhugl eu saesneg mae'r saesneg yn rhwym o droi'n iaith y gymuned cyn gynted ag y bo nifer ei siaradwyr uniaith nid o angenrhaid yn fwyafrif ond yn lleiafrif sylweddol dydw i ddim yn credu i'r cre gael ei sefydlu i ymgyrchu dros wneud y saesneg yn iaith gymunedol gwynedd ceredigion a sir gâr ynghyd â rhannau eraill o gymru ni sylwais i ychwaith i'r cre gael ei sefydlu i fwlian cymuned ieithyddol leiafrifol iaith a wnaed yn anghyfreithiol yn ôl deddf uno cymru a lloegr ac iaith nad oedd iddi statws swyddogol yn ei gwlad ei hun tan sefydlwyd y cre i amddiffyn lleiafrifoedd diwylliannol ond mae hi yn awr wedi penderfynnu ochri gyda'r farchnad rydd ddilyfethair a chyfalafiaeth ddi foes er mwyn lladd iaith hynaf prydain mae'r cre yn gwrthod hawl foesol cymunedau cymraeg i fyw a chredant nad oes gan aelodau o'r cymunedau hynny yr hawl hyd yn oed i'w hamddiffyn eu hunain pam y dylai cymry cymraeg dderbyn fod eu pentrefi a'u trefi sydd wedi bod yn rhai cymraeg eu hiaith ers canrif yn rhwym o droi'n bentrefi a threfi saesneg eu hiaith pam y dylai cefnogwyr yr iaith dderbyn darwiniaeth economaidd ac ieithyddol amrwd y cre a'u cefnogwyr yn y blaid lafur yr hyn sy'n gwneud agwedd y cre mor dorcalonnus yw iddynt fod yn ddall i'r cymariaethau amlwg rhwng yr ymgyrch dros yr iaith gymraeg a'r ymgyrch dros statws i ieithoedd eraill trefedigaethol y byd yr oedd brwydr yr arwyddion ffyrdd yng nghymru yn y au a'r au yr un fath yn union â'r un yn yr india yn y au yr un frwydr oedd ysgrifennu caernarfon ac nid carnarvon llanelli nid llanelly ag yw ysgrifennu mumbai nid bombay a kalikata nid calcutta mae'r diffyg dealltwriaeth sydd gan y cre o sefyllfa ieithyddol cymru yn anhygoel ac yn sarhad mae'n ymddangos mai arwyddair cre yw 'for wales see england' papur gan siôn t jobbins golygydd cymdeithasdj org vii coleg ffederal cymraeg yr unig ateb argreffwch gyda dyfodiad y cynulliad mae ffocws newydd i drafod lle'r gymraeg ym myd addysg uwch testun gwarth fu'r diffyg cynnydd trwy gydol yr ugeinfed ganrif heddiw dim ond y cant o'r myfyrwyr sy'n derbyn addysg trwy gyfrwng yr iaith ni chynigir modiwlau ond mewn ystod gul o bynciau yn aberystwyth a bangor yn bennaf ym mhrifysgol cymru rhyw ddau ddwsin o ddarlithwyr yn unig sydd â chyfrifoldeb arbennig yn y maes erys eu gwaith yn gwbl ymylol i'r gorchwylion sy'n cyfrif 'go iawn' sef y ras i gyhoeddi ymchwil a'r gystadleuaeth orfodol i lenwi'r cyrsiau cyfrwng saesneg er bod pwyllgor addysg y cynulliad wrthi yn cynnal arolwg addysg uwch mae gosod y gymraeg yn ei phriod le ymhell o fod ar frig agenda pleidiau llywodraeth cymru ni chydnebydd nac ymgynghorydd arbenigol y pwyllgor na'r cyngor cyllido faint y methiant meddylfryd seisnig prydeinig sydd wrth raidd gyflwyniadau llawer o'r prif gyrff o bwys megis undeb mwyaf y darlithwyr yr aut ac undeb y myfyrwyr eto diolch i'r arolwg ac i archwiliad iaith y pwyllgor diwylliant mae llygedyn o obaith y gallai'r sefyllfa wella rhyw fymryn o'r diwedd mae cenhadaeth dafydd glyn jones dros goleg ffederal cymraeg a syniadau bwrdd prifysgol cymru dros ddysgu cyfrwng cymraeg yn ganolog yn ei gyflwyniad i'r pwyllgor addysg galwodd dafydd glyn jones am benodi o ddarlithwyr cyfrwng cymraeg dros gyfnod o bum mlynedd yr amcan fyddai deg arbenigwr yr un mewn ugain disgyblaeth rhaid sicrhau 'màs critigol' o arbenigwyr ar draws y pynciau er mwyn cynnig ystod gyflawn o fodiwlau paratoi deunyddiau ac ysgrifennu gwerslyfrau swnia'r ddau gant yn llawer i ofyn amdano nes cofio bod prifysgol cymru yn coleddu tua o ddarlithwyr cyfrwng saesneg a nes bwrw golwg ar lwyddiannau gwledydd cymharol megis gwlad yr iâ gwlad y basg neu estonia byddai'r coleg ffederal yn cael ei ariannu yn uniongyrchol gan y llywodraeth a byddai ganddo ei swyddogion canolog ei hun o dan is ganghellor a fyddai yn gyfuwch ei statws â phenaethiaid colegol eraill y brifysgol craidd y gwaith serch hynny fyddai dysgu mewn canghennau yng nghalon y colegau traddodiadol megis aberystwyth abertawe neu'r coleg meddyginiaeth byddai'r darlithwyr cyfrwng cymraeg a'u myfyrwyr yn aelodau o'r coleg ffederal cymraeg a hefyd yn aelodau o'u coleg traddodiadol lleol llygad ffynnon fyddent yn lle diferion mewn cefnfor ar yr un pryd byddai cymuned addysgiadol gymraeg newydd yn blodeuo heb gael ei boddi gan adrannau mawr seisnigaidd a heb orfod crafu ymhellach am friwsion at hyn byddai holl gyfleusterau'r colegau traddodiadol ar gael yn ogystal â'u bwrlwm deallusol a chymdeithasol allblyg a rhyngwladol eu naws dyma ffordd o rwydo nifer o academyddion a myfyrwyr na fyddent am fynd i goleg cymraeg cwbl ar wahân ceir oddeutu o gymry cymraeg yn dewis astudio ym mhrifysgol cymru caerdydd a phrifysgol morgannwg ar hyn o bryd a nemor ddim dysg yn eu mamiaith ar gael iddynt yn y colegau traddodiadol gellid neilltuo adeilad arbennig symbol o bwys i gangen leol y coleg ffederal trwy ddefnyddio technoleg fideo a'r we gellid cynnig y modiwlau cymraeg trwy'r brifysgol neu'r sector uwch gyfan gallai cynadleddau penwythnos neu gyfnod mewn canolfan gyffredin hefyd ddod â holl gyfranogwyr modiwl neu gwrs at ei gilydd ym mis awst cafodd cen williams ei benodi'n swyddog cyntaf datblygu addysg cyfrwng cymraeg prifysgol cymru dan nawdd bwrdd y brifysgol dros ddysgu cyfrwng cymraeg gwilym humphreys yw'r cadeirydd ac efe a'r dr williams a gyflwynodd cynlluniau'r bwrdd gerbron y pwyllgor addysg o gofio cyflwr dreng polisi cyhoeddus heddiw prin fod bai arbennig ar y bwrdd am ei ieithwedd farchnad a 'dwyieithrwydd' ni cheir dim sôn yma am hawliau iaith y cymry ynteu fel trethdalwyr neu ddinasyddion nid oes galwad pendant am benodi darlithwyr ychwanegol neu sefydlu coleg ffederal ychwaith serch hynny mae gwaith addawol yn dechrau gyda holiaduron wedi eu hanfon at o ddisgyblion chweched dosbarth cynnwys strategaeth y bwrdd dargedau tymor byr mis nesaf megis llunio cynllun datblygu a marchnata creu cronfa ddata ar lein sefydlu paneli cwricwlaidd mewn maes hefyd ymhlith y cynlluniau tymor byr y mae datblygu ymchwil academaidd yn gymraeg a rhaglen hyfforddi staff i ddysgu trwy gyfrwng yr iaith yn ogystal at y canol a'r hir dymor ceir sôn am bethau megis sefydlu canolfan gefnogi ar y we a hybu cydweithio ar draws y sector addysg uwch gallai corff rheoli cyrsiau cyfrwng cymraeg gael ei sefydlu er mwyn dilysu ac achredu ar gyfer y sector ffon fesur i'r bwrdd fydd codi'r niferoedd sy'n dilyn modiwlau cyfrwng cymraeg yn arbennig ar ôl pan fydd y genhedlaeth gyntaf o ddisgyblion di gymraeg i gael gwersi cymraeg ar hyd eu hoes ysgol wedi cyrraedd oedran coleg fel y noda'r bwrdd bydd angen adnoddau ychwanegol ac addasu ar y drefn gystadleuol a'r model cyllido er mwyn sicrhau llwyddiant sonia cen williams serch hynny am weithio 'o fewn y drefn sy'n bod yn barod' ymddengys mai rhaid cropian cyn cerdded yw'r strategaeth gyda chynnydd yn y niferoedd yn esgor efallai ar newidiadau mwy 'mi fyddwn ni'n llawer nes at gael coleg ffederal mewn deng mlynedd ' meddai cen ond gyda phen yr enfys mewn tarth dros y gorwel y perygl ydyw y gallai'r holl strategaeth fynd ar goll yn nhymestl yr ad drefnu ehangach gallai'r gymraeg gael ei gadael ar groesffordd hanes gyda fawr mwy na gwefan newydd dan ei chesail o gydnabod hyn mae angen i'r cynulliad argymell ac ariannu sefydlu coleg ffederal cymraeg ar fyrder cam hanesyddol annisgwyl o'r fath yn hytrach nag ymgyrch hyfforddi tu mewn i fframwaith methedig a fydd yn denu a chadw staff byddai'r ymrwymiad eglur yn rhoi hwb i'r hen lawiau ac yn rheswm i ambell ddarlithydd ddysgu'r iaith gallai'r weledigaeth ryddhau'r un fath o egni ac ymroddiad ag a welir yn yr ysgolion cymraeg câi myfyrwyr a'i myn y cyfle i dderbyn addysg yn eu hiaith eu hunain o ran y rhai sydd yn ansicr eu bryd gall yr awyrgylch o gynnydd ac arloesi eu hysbrydoli huliwn y bwrdd a megir archwaeth yn y man am yr arlwy ystyriaethau cyfartaledd cynhwysedd chwarae teg hen ffasiwn dyma ddadleuon ehangach o blaid coleg ffederal cymraeg o safbwynt adeiladu bywyd deallusol y genedl mae'r wobr yn amlwg byddwn ni ar ein hennill yn anuniongyrchol hefyd wrth i bresenoldeb canghennau'r coleg cymraeg gryfhau'r galw am ddefnyddio'r iaith yn holl wasanaethau ategol y colegau traddodiadol o'r llyfrgell a'r ystafell gyfrifiaduron i berfeddion y gweinyddiad mewnol debyg na chawn y maen i'r wal heb ymgyrch fawr ar batrwm y sianel sut bynnag y bo bydd ein dylanwad ninnau'n allweddol beth amdani ynteu mae hi'n bryd troi'r coleg ffederal cymraeg yn rhan allweddol o bolisi addysg i blaid cymru llyfryddiaeth ar gyfer y cyflwyniadau i'r cynulliad gweler ei wefan tudalennau'r pwyllgor addysg a dysgu gydol oes 'agendâu a phapurau cyfredol a blaenorol' cyfarfodydd a mai yn arbennig gweler hefyd erthyglau dafydd glyn jones yn y traethodydd ebrill gorffennaf ionawr 'problemau prifysgol' gan richard wyn jones barn rhifyn ebrill tud daw'r dyfyniadau o eiddo cen williams o'r adroddiad yn golwg 'camu at goleg ffederal' rhifyn gorffennaf tud am feirniadaeth dreiddgar ar yr holl feddylfryd lled fasnachol tu ôl i bolisïau addysg uwch llywodraeth prydain erys academic freedom conrad russell routledge yn berthnasol iawn papur gan gareth popkins cyn ddarlithydd yn adran hanes a hanes cymru prifysgol cymru aberystwyth viii helynt y pwyllgor addysg ffurf argraffu ffurf pdf sgwrs i gymdeithas dj eisteddfod dinbych awst rwy'n gwerthfawrogi'ch gwahoddiad i fod yma y bore 'ma yng nghyfarfod cyntaf cymdeithas dj fel math o baratoad mi fûm y dyddiau diwethaf yma yn pori o'r newydd yn rhai o ysgrifau dr d j davies y teimlad a ges i oedd mor hynod berthnasol ac amserol o hyd ei ddadansoddiad radical a'i weledigaeth ar bynciau fel iawndal y glowyr y gwasanaeth iechyd a democratiaeth gydweithredol priodol iawn yw bod gr wp trafod o fewn y mudiad cenedlaethol yn coffáu ei enw ynghyd â'r d j arall d j williams ie helynt y pwyllgor addysg yn ôl yr addewid mi geisiaf grynhoi rhai meddyliau gan beidio ag ailadrodd gormod o'r hyn sydd yn barn yr wythnos yma mi ofynnwn ni gyfres o gwestiynau a'u hateb yn gryno beth fydd ei diwedd hi wn i ddim beth fydd y cam nesaf gawn ni weld beth oeddwn i'n ei feddwl nid yr hyn yr oedd y gwleidyddion llafur yn meddwl fy mod i'n ei feddwl pam roedden nhw'n meddwl hynny am mai llafur ydyn nhw wrth edrych yn ôl ydw i'n falch o unrhyw beth ydw popeth a ddywedais i yn y dystiolaeth i'r cynulliad rwy'n credu imi ei ddweud yn iaith y galon nid yn jargon anfad yr addysgwyr ddywedais i ddim mewnbwn na sgiliau rhyngbersonol ddywedais i ddim addysgu lle byddai pob cymro call yn dweud dysgu yn ôl arfer y cenedlaethau chyfeiriais i ddim at werthuso ond o ran hwyl mi hoffwn i feddwl fod hyn hefyd yn rhan o'r ymosodiad ar agweddau meddwl y sefydliad addysgol yn elfen danseiliol yn y dystiolaeth ac yn wedd ar yr eironi a gynddeiriogodd gymaint ar aelod merthyr beth oeddwn i'n ceisio'i gyflawni i ateb hyn mae gofyn bwrw golwg yn ôl yn gyflym dros hanes y syniad o goleg ffederal cymraeg nid yw'n syniad newydd ac nid fy syniad i mohono rwyf newydd ailddarllen dogfen a gyhoeddwyd gan undeb cenedlaethol myfyrwyr cymru ddiwedd y saith degau yn arfer y term ac yn gwyntyllu'r syniad yn bur fanwl am flynyddoedd hir mi fûm i'n cloriannu yn fy meddwl y dadleuon o blaid coleg cymraeg ar un safle a'r dadleuon o blaid coleg ffederal gan ochri fwyfwy a bellach yn derfynol mi gredaf at yr ail sail y penderfyniad yw un ddadl seml ond cref sef bod gan y myfyriwr sydd am ddilyn cyrsiau yn y brifysgol trwy'r gymraeg hawl i rywfaint o ddewis o ran ble i fynd rwy'n ymwybodol o'r perygl o daenu'r menyn yn rhy denau ac am fod yna rywfaint o draddodiad dysgu trwy'r gymraeg yn aberystwyth a bangor rwyf o blaid canolbwyntio i ddechrau ar y ddau le hynny ond dydw i ddim am ddweud na ddylai fod yn y man ganghennau o goleg ffederal cymraeg mewn colegau eraill mi hoffwn i feddwl y bydd yn ionawr fe drefnwyd cynhadledd undydd ym mangor gan ganolfan bedwyr ar y cyd â bwrdd y brifysgol ar ddysgu trwy'r gymraeg roedd hi'n gynhadledd gynrychioliadol gyda chroestoriad da o gyrff a sefydliadau ynddi yn cael ei chynnal dan nawdd y brifysgol a'i hagor gan brifathro'r coleg roeddwn i'n teimlo fod yr adeg wedi dod i agor y pwnc eto ac mi gyflwynais bapur a phenderfyniad yn gofyn i'r bwrdd dtg gymryd camau i sefydlu coleg ffederal cymraeg yn y brifysgol fe dderbyniwyd y penderfyniad heb neb yn erbyn ew go dda pawb o blaid diwrnod gwych a wyddoch chi sut y bydd cymry ar ôl cynhadledd pawb yn mynd adre wedyn rhai i anghofio rhai i weithio yn erbyn mae nghariad i leni fel gwynt o flaen glaw weithiau ffordd yma ac weithiau ffordd draw am flwyddyn union bron yr arwyddion oedd bod y bwrdd dtg am gydio yn y syniad a gweithredu arno ond ar ionawr dyma glywed fod y bwrdd yn rhoi'r syniad o'r naill du gan ddewis yn hytrach weithio o fewn y drefn bresennol ar sail profiad chwerw hanner canrif dim llawer llai mi alla' i ddweud wrthych beth ydi ffrwythau'r drefn bresennol llond llaw o hen gwsberis crebachlyd crimp wnaen nhw ddim un pryd o fwyd ichi ar faes yr eisteddfod yma heddiw fe ddilynodd dwy flynedd ddigon diffaith o geisio cadw'r drafodaeth yn fyw yn y colegau dim llawer o hwyl dau neu dri o gyfeillion ffyddlon pybyr yn gweld yr angen ac am symud ymlaen y rhan fwyaf o gymry da a chymry mawr y brifysgol ddim eisiau clywed ond yn hydref dyma bwyllgor addysg y cynulliad yn cychwyn ar ei ymchwiliad i holl faes addysg uwch yng nghymru ac yn rhestru yn ei faes gorchwyl fater dwyieithrwydd a dtg dyma gyfle meddyliais innau gan lawn sylweddoli mai argymell neu awgrymu yn unig yw'r hyn y gall y pwyllgor ei wneud ac nad oes unrhyw fath o reidrwydd ar y gweinidog na'r weinyddiaeth i dderbyn ei argymhellion dyma feddwl y gallwn i sôn wrth y pwyllgor a thrwyddo wrth y cynulliad am goleg ffederal cymraeg fel posibilrwydd a rhag ofn na fyddai neb arall yn cofio gwneud mi addewais yn un o'm papurau petai'r bwrdd dtg hefyd yn crybwyll yr un posibilrwydd y tynnwn i'n ôl rai o'r pethau y bûm yn eu dweud am y bwrdd wnaeth o ddim i'r pwrpas hwn mi sgrifennais bapur a hefyd atodi pedair ysgrif yr oeddwn wedi eu cyhoeddi eisoes ar y pwnc ac mi dderbyniais wahoddiad i gyfarfod y pwyllgor wel os do fe mae gweddill yn hanes yn weddol hysbys a dod yn ôl at ein chweched cwestiwn beth oeddwn i'n gobeithio'i gael brawddeg neu fan bellaf ddwy yn adroddiad y pwyllgor ddiwedd y flwyddyn hon wedi eu cyfeirio at y brifysgol ei hun ac at y corff cyllido hefcw yn crybwyll coleg ffederal cymraeg fel posibilrwydd i'w ystyried a gawn ni hynny amser a ddengys yn y cyfamser fe erys coleg ffederal cymraeg yn anghenraid sylfaenol yn ein bywyd addysgol a diwylliannol ac os nad hwnnw yna rhywbeth arall a fydd cystal neu well i'r diben o helaethu'r ddarpariaeth tg yn y colegau ei helaethu'n ddirfawr ac ar fyrder beth a gyflawnwyd yn raddol y gwawriodd arnaf i imi fod â rhan mewn rhywbeth hanesyddol a'r cadarnhad o hynny fu datganiad llywydd y cynulliad ar mehefin na allai gofio esiampl na chynsail arall yn ei holl brofiad o ddau d y senedd o wahardd tystiolaeth i ymchwiliad seneddol yn y fath fodd y neges a ddaeth o gyhuddiadau huw lewis o bleidlais aelodau'r glymblaid yn y pwyllgor ac o sylwadau'r prif weinidog yn golwg yw nad oes lle i safbwynt cenedlaetholdeb yn nhrafodaethau'r cynulliad ddim tra fydd llafur yn rheoli dywedwch wrth rhodri beth sy'n bwysig i chi meddai hysbyseb yn y papurau'r wythnos diwethaf heb gofio gorffen y frawddeg dywedwch wrth rhodri yr hyn sy'n bwysig i chi ac sydd wedi ei gymeradwyo yn gyntaf gan huw lewis yn naturiol yn sgil y ddadl yr wyf wedi bod yn meddwl cryn dipyn am y blaid lafur gwir blaid cymru fel y mae'n ei galw ei hun hynny'n gwbl gywir os mai cefnogaeth etholiadol yw'r ffon fesur a pha un arall sydd ond plaid george thomas fel y mae eraill ohonom wedi mynd i'w galw unwaith eto a'r ychydig ddyddiau hynny yn hydref yn ddim ond atgof pan oedd rhai o arweinwyr llafur am y tro yn bennaf arwyr y mudiad ymreolaeth fel am bob sefydliad mewn gwleidyddiaeth a hanes mae ffeithiau croes a pharadocsaidd amdani fe ddaeth cynulliad i gymru ac fe ddaeth senedd i'r alban trwy'r blaid lafur hi daliodd nhw'n ôl am dri chwarter canrif hi ddaeth â nhw pan oedd hi'n barod y rheini a ddyfalbarhaodd o fewn y blaid lafur gan gredu mai trwyddi hi yn unig y ceid mesur o ddatganoli maen' nhw wedi eu llwyr gyfiawnhau dyna'r gwirionedd digon caled i'w gydnabod efallai gan rai ohonom ni a feithrinwyd ar y gred mai trwy bwysau plaid cymru y dôi gradd o ymreolaeth ni bu dim pwysau gan blaid cymru ar lafur wedi nac yn wir wedi fel y gwelwn ni'n gliriach erbyn hyn ac eithrio'r pwysau mewn amgylchiadau cwbl arbennig ar un mater penodol iawndal y chwarelwyr dros ysgwydd mi welwn bellach mai'r ddwy flynedd oedd blynyddoedd y pwysau dros ymreolaeth do fe ddaeth cynulliad ond 'does dim llawer o olwg heddiw o'r wleidyddiaeth gynhwysol newydd yr oedd rhai pobl a minnau dipyn bach yn disgwyl ei gweld yn dilyn llafur yw llafur o hyd dyna efallai neges egluraf helynt y pwyllgor addysg oddi ar y diwrnod hwnnw yn awst pan gefnodd hi ar arweiniad keir hardie mae wedi bod yn blaid adweithiol yn ei hanfod yng nghymru o ymlaen bu cenedlaetholdeb cymreig yn bresenoldeb i'w hatgoffa a'i chyhuddo hi o hyn a dyna un rheswm pam y bu llafur yn ei gasáu gymaint yr oedd y diweddar harri webb yn dychanu gwleidyddiaeth cwmgrafft bron cyn geni'r rhan fwyaf o lafurwyr y cynulliad rhyfeddol yw'r modd y mae rhai o genhedlaeth newydd o hyd yn camu i mewn i'r hen esgidiau ac yn actio'r un hen rannau fel petaen nhw heb erioed weld y cart wn dyna fo mi allwn ladd ar y blaid lafur am weddill y diwrnod ond ar ôl dyfynnu'r hen rufeiniwr delenda est carthago mi adawaf lonydd iddi y mae wythnos fel y gwyddom yn amser hir yn yr hen chwarae hwn a bu dwy flynedd yn hanes plaid cymru yn ddigon hir i gynnwys llwyddiant hynod a ffiasgo rhwng y ddau begwn yna fe wêl yr hanesydd nifer o ffactorau personol ar waith ynghyd â damweiniau hanes a chrwyn banana fyddan nhw ddim yna yn yr un cyfuniad byth eto hon yw'r afon ond nid hwn yw'r d wr o hyd ond mae un nodwedd sydd fel petai'n fwy parhaol a gwaelodol na throeon munud awr mae hi yna drwy gydol hanes plaid cymru a honno yw'r duedd i fod yn amddiffynnol ac ymddiheurol ac i dreulio amser ac egni ar ddweud yr hyn nad yw hi'n ei olygu ac mae hyn mi gredaf i yn anorfod gysylltiedig â rhywbeth arall sydd yna o'r dechrau sef ansicrwydd sylfaenol ynghylch ei nod cyfansoddiadol senedd lawn yn ewrop yw'r geiriad ar hyn o bryd ond fel datganiad o nod cyfansoddiadol dydi o'n golygu dim nac yn werth dim rwyf wedi bod yn meddwl am hyn am flynyddoedd hir a'i weld yn gam neu'n gymwys yng nghyd destun rhai arferion meddwl traddodiadol sydd wedi eu corffori yn llenyddiaeth y cymry rwy'n gobeithio y bydd cyfrol o ysgrifau y mae'r lolfa am fentro'i chyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn hon yn help i egluro peth ar yr hyn yr wy'n ei olygu anodd hyd y gwelaf i osgoi'r ffaith mai brytaniad yw'r cymro a bod ganddo afael fawr ar ynys brydain sy'n rhyw wlad y galon neu wlad y dychymyg mewn rhannau pwysig o'i lenyddiaeth mae'r dystiolaeth os cywir yr wy'n ei dehongli yn pwyntio tuag at ryw fath o drefn ffederal fel nod i fudiad ymreolaeth a mudiad cenedlaethol cymreig ei ddatgan dydw i ddim yn meddwl y byddai'r un o'r ddau d j yn cytuno ond fe gewch chi ystyried y ddadl sylwch nad wyf yn dweud gair y bore 'ma yn erbyn annibyniaeth nac wedi gwneud o gwbl i berthyn i'r cenhedloedd unedig byddai'n rhaid i gymru fod yn wladwriaeth annibynnol i berthyn i'r undeb ewropeaidd byddai gofyn iddi fod mor annibynnol â phob un o'r pymtheg gwladwriaeth sydd eisoes yn aelodau oes angen dweud hynna wel oes mae'n ymddangos ar ôl i rai o'n gwleidyddion roi clymau chwithig iddynt eu hunain yn trio'i wadu does dim dadl foesol yn erbyn annibyniaeth na dadl economaidd chwaith ystyriaethau hanesyddol yn hytrach sy'n pwyso yn fy meddwl i o blaid rhyw fath o undeb ffederal rhwng tair cenedl yr ynys hon mae rhywbeth yn dweud wrthyf i ac wedi ei dweud ers llawer blwyddyn y byddai hwn yn nod cyfansoddiadol a fyddai'n apelio at fwyafrif digonol o bobl cymru cymraeg a di gymraeg gwlad a thref de a gogledd dwyrain a gorllewin a thrwy'r tri rhanbarth hanesyddol y gallwn eu galw y dywysogaeth y mers ac arglwyddiaeth morgannwg mae'n amcan y gellid bod yn hyf ac yn ymosodol wrth ei gyhoeddi a thrwy hynny gael gwared â'r nodyn petrusgar ymesgusodol a fu gyhyd yn gyfeiliant i'n trafodaethau ac yn drysu'n hwyl nid galwad yw hyn ar i'r un blaid newid ei pholisi pe bai plaid cymru yn cyhoeddi heddiw newid eto yn ei pholisi cyfansoddiadol ni fyddai'n argyhoeddi neb nod ac amcan sydd yma yn hytrach ar gyfer plaid newydd a allai mewn amgylchiadau arbennig ymffurfio o glymblaid yn y cynulliad prin y mae'n rhaid pwysleisio nad y glymblaid honno sydd yn rheoli ar hyn o bryd mae cymdeithas dj fel mudiad cymuned yn un o'r mudiadau llai a'r grwpiau pwyso y teimlodd rhai fod yn rhaid eu cael mae'r rheini'n gynnyrch y foment a'r hinsawdd a naturiol eu bod yn codi ond wrth inni gwrdd yma heddiw yn enw un ohonyn nhw dydw i ddim yn credu y byddai'r un ohonom ni yn gwadu nac yn amau mai'r peth i anelu ato yn y pen draw yw nid mudiad culach ei sail ond mudiad cenedlaethol gwleidyddol eang ei sylfaen oherwydd dim ond mudiad eang a all fforddio cymryd y mesurau gwir radical y mae eu hangen i ddiogelu ac i orseddu'r gymraeg ar yr awr hwyrol hon fe glywyd crybwyll ar y maes yr wythnos hon y syniad o refferendwm ar y cam nesaf mewn ymreolaeth y cwbl a ddywedaf yw cymerwch ofal cyn cynnal refferendwm na meddwl am ymhel â'r peth peryglus hwnnw mi fyddwn i'n cynghori yn gyntaf holi barn y cymry dro neu ddau pan yw plaid cymru'n sôn am gydraddoldeb â'r alban mi gredaf ei bod yn sôn am y peth iawn byddai'n berffaith briodol gofyn i'r etholwyr mewn pôl neu arolwg a fyddech chi'n hoffi gweld cymru'n gyfartal â'r alban o ran ei statws a'i breintiau o fewn y deyrnas yna beth am fentro cwestiwn pellach a fyddai'n briodol yn eich barn chi i gymru a'r alban fod ill dwy yn gydradd â lloegr o dan y goron does neb hyd y cofiaf i wedi meddwl am ofyn y cwestiwn yna ond dyna'r cwestiwn i'w ofyn wrth ofyn hwn byddem yn ein gosod ein hunain ar ben y llwybr tuag at radd o ryddid a fyddai'n ein galluogi mewn amser i weddnewid ein bywyd a'n rhagolygon fel pobl a chenedl dyna ni wedi crwydro ymhell tu hwnt i helynt y pwyllgor addysg ond mentraf feddwl y bore 'ma mai yng nghyd destun nod strategol tymor hir y mudiad ymreolaeth y mae gweld yr hen helynt hwnnw hefyd diolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi yn ystod yr helynt yn gydweithwyr yn w yr y wasg yn aelodau'r cyhoedd os na ddarllenwch chi ddim arall am y digwyddiad darllenwch yn barn y mis yma ysgrif cynog dafis sydd yn gadarn iawn ac yn fentrus iawn yn gwahanu gwir a gau o'i sefyllfa arbennig fel cadeirydd y pwyllgor cynhennus gallaf eich sicrhau nad wyf ddim tamaid gwaeth ar ôl y miri ond fy mod yn hytrach wedi cael adnewyddiad ysbryd fel goronwy owen clywaf arial i'm calon ac fel twm o'r nant gwell inni beidio â gadael dinbych y bore 'ma heb ddyfynu'r hen dwm tra gallaf rhodiaf fy rhych papur gan dafydd glyn jones cyn ddarlithydd yn adran y gymraeg prifysgol cymru bangor viii mentrau iaith sop i'r gymraeg ffurf argraffu ffurf pdf mae sylfaenydd cymdeithasd dj cylch trafod o fewn y mudiad cenedlaethol wedi rhybuddio bod perygl i'r gymraeg gael ei gweld fel iaith fegera daw'r sylwadau yn sgil amcangyfrif cefin campbell fod angen £ miliwn ar gyfer adfywio'r gymraeg mae gen i barch mawr at cefin campbell am ei waith arloesol gyda'r mentrau iaith ond rwy'n bryderus hefyd mae'r pryder hwn yn ymwneud â diffyg asgwrn cefn deallusol nifer o wleidyddion ac arweinwyr cymry cymraeg i ddweud yn glir fod gan gymry cymraeg hawliau ieithyddol yn hytrach na'u bod yn gorfod byth a hefyd fynd ar ofyn cymwynasau y gwir plaen amdani yw y gallai'r wladwriaeth gymraeg arbed miliynnau petai'n mynd at wraidd y broblem drwy weithredu deddf eiddo a deddf iaith 'wnaiff hynny ddim digwydd oherwydd bod arweinwyr cymru o'r farn y dylai fod gan y saesneg fwy o hawliau na'r gymraeg iddyn nhw siarad saesneg yw'r norm a'r gymraeg yw'r iaith annormal meddai siôn jobbins cynghorydd tref a chyn faer aberystwyth pa ddiben cyflogi rhagor o bobl i weithio yn y mentrau iaith pan fo'r comisiwn cydraddoldeb hiliol yn rhybuddio cyngor sir gaerfyrddin rhag peidio â gwneud gwybodaeth o'r gymraeg yn hanfodol ar gyfer swydd ei phrif weithredwr does gan y gallu i siarad iaith ddim oll i'w wneud â hil fel y tystia'r miloedd ar filoedd o bobl asiaidd sy'n siarad saesneg yn rhugl a nifer cynyddol sy'n medru'r gymraeg gwnaeth dyfarniad o'r fath fwy o niwed i'r gymraeg nag y gall unrhyw brês at fenter iaith lwyddo i'w ddad wneud mae'n drueni na chlywsom y tri rhodri rhodri glyn thomas rhodri morgan a rhodri williams mor uchel eu cloch dros hawliau siaradwyr cymraeg sir gâr ag y buont yn ddiweddar yn erbyn ymgyrchwyr iaith mae'r mentrau iaith yn cael eu defnyddio fel sop gan gynghorau sir a chan y cynulliad i gadw'r cymry cymraeg yn dawel ac i ganiatáu i gynghorwyr ac aelodau'r cynulliad cenedlaethol olchi eu dwylo o broblem yr iaith oes mae angen darbwyllo ac annog pobl o werth y gymraeg mewn ffordd resymol a phwyllog ac mae gan mentrau iaith swyddogaeth bwysig iawn ond mae gan y gymraeg hefyd ei hawliau mae'n hen bryd i aelodau cynulliad llafur a phlaid cymru yn ogystal â bwrdd yr iaith gymraeg gydnabod yr hawliau sylfaenol hynny yn hytrach na cheisio llwgrwobrwyo siaradwyr cymraeg meddai siôn jobbins cadeirydd cymdeithasdj org datganiad gan siôn jobbins golygydd cymdeithasdj org viii cefndir i'r gynhadledd y mae mikel irujo a fydd yn annerch cymdeithas dj yn ei chyfarfod nesaf yn dod o wlad y basg ac ef a fu'n gyfrifol am lunio polisïau ieithyddol diweddar llywodraeth gwlad y basg pdf i gael gwybodaeth gefndir am wlad y basg a'i hymdrechion i hybu'r iaith darllenwch amlinelliad juan josé ibarretxe ymgeisydd y glymblaid genedlaetholgar eaj pnv ea ar gyfer yr arlywyddiaeth o bolisïau ei lywodraeth yn ymwneud â'r fasgeg pdf am rai o syniadau diweddaraf y glymblaid genedlaetholgar eaj pnv ea i hybu basgeg darllenwch yr adran hon a ddaw o faniffesto y glymblaid genedlaetholgar eaj pnv ea ar gyfer etholiad cyffredinol y gymuned awtonomaidd fasgaidd mai pdf diolch i lyn lewis dafis am gyfieithu'r dogfennau hyn ix addysg cyfrwng cymraeg ym mhrifysgol cymru yn yr unfed ganrif ar hugain ffurf argraffu pdf ffurf pdf pam fod ein harweinwyr yn rhythu fel cwningod yng ngolau car pwy sydd arnynt ei ofn a pham sut y gallwn ni ddangos cefnogaeth a chryfhau eu hyder os oes angen neu wrthwynebu eu safbwynt os hynny sy'n briodol einir young is gyfarwyddwr ysgol astudiaethau trwy'r gymraeg prifysgol cymru bangor dilwyn roberts young adran addysg prifysgol cymru aberystwyth rhan o bapur a gyflwynwyd mewn cynhadledd yng ngregynog dysgu mewn prifysgolion yng nghymru tachwedd un o'r dogfennau pwysicaf ar y gweill ar hyn o bryd yw cais dr cen williams swyddog datblygu addysg cyfrwng cymraeg prifysgol cymru i lywodraeth cymru am gyllid i sefydlu canolfan genedlaethol ar gyfer cefnogi cyfrwng cymraeg mewn addysg uwch os derbynnir y ddogfen hon gan y llywodraeth dyma fydd tynged addysg gymraeg yn y sector uwch am y degawd nesaf canolfan rithiol fydd hon gyda'i staff wedi'u lleoli ar draws colegau cymru bydd i'r ganolfan adran wasanaethu ac adran polisi a strategaeth yn cael ei staffio gan gyfarwyddwr ac is gyfarwyddwr ar raddfeydd athro ac uwch ddarlithydd swyddog marchnata cyfieithwyr academaidd arbenigwyr terminoleg swyddog cyfrifiadur cynllunydd rhaglenni dysgu datblygwr staff ac ymchwilydd a staff ysgrifenyddol rydym am amlinellu yn fyr rai pwyntiau gan godi cwestiynau i'w trafod cyllido'r ganolfan y cyfanswm y gofynnir amdano yw £ m dros mlynedd rhaid nodi o'r dechrau fod hyn yn swm anhygoel o fach ar gyfer cymru gyfan mae gan ganolfannau ymchwil fel catc drosiant o dros £ m y flwyddyn ac mae portffolio ymchwil personol unigolion yn y ganolfan tua £ m dros dair blynedd rhaid nodi hefyd na chynhwyswyd chwyddiant yn y rhifau yn y ddogfen a ryddhawyd ar hydref ond mae dr williams wedi cymryd camau i newid hyn gallwn amcangyfrif yn fras fod gwariant ar ddarlithwyr trwy gymru gyfan tua £ m gan gymryd fod o ddarlithwyr yn ennill cyflogau o £ k un y cant o hyn yw £ m gan fod o boblogaeth cymru yn siarad cymraeg a'r nifer hwnnw ar gynnydd siawns na ellir cyfiawnhau gofyn am swm sydd o leiaf yn gyfwerth â o'r gwariant presennol ar staff byddai £ m y flwyddyn yn ddechrau da pam rhithiol nid coleg ffederal cymraeg nid oes dim byd o'i le ar y syniad o rithganolfan genedlaethol yn ei hanfod petai yna rywbeth i'r rhithganolfan ei gefnogi mae angen buddsoddiad enfawr yn y stoc academaidd yn ogystal â chanolfan fel a ddisgrifir gellid cyllido canolfan rithiol fel rhan o'r buddsoddiad ond y peth pwysicaf yw creu rhwydwaith o ddarlithwyr ac ymchwilwyr ar draws y colegau i'r ganolfan eu cefnogi ar hyn o bryd mae'r holl weithgaredd a awgrymir yn fwy rhithiol nag y bwriedir iddynt fod dwyieithrwydd cyfeirir at ddwyieithrwydd yn y ddogfen fel sgìl ychwanegol ond nid yw'n nodi yn benodol fod dwyieithrwydd yn sgìl i'r di gymraeg yn ogystal â'r cymry mae angen gofyn pam fod ein disgwyliadau am safon a chyrhaeddiad cymraeg dysgwyr cymraeg yn is o lawer nag yw'n disgwyliadau am safon a chyrhaeddiad saesneg cymry cymraeg mae hyn yn ein harwain at dynnu sylw at dueddiad peryglus sydd wedi codi'i ben sef cymry cymraeg yn poeni am y saesneg un o'r bobl sy'n gogwyddo i'r cyfeiriad hwn yw gwilym humphreys cadeirydd bwrdd y brifysgol ar ddysgu trwy gyfrwng y gymraeg a chyd awdur y ddogfen â dr cen williams yn ei ddarlith yn eisteddfod genedlaethol sir ddinbych a'r cyffiniau dysg rhwng dwy steddfod yng nghyd destun ysgolion cymraeg dywed does dim amheuaeth mai wrth ddysgu pwnc drwy'r gymraeg y mae datblygu gafael y disgyblion ar yr iaith honno beth yw polisi ysgol ar ddatblygu saesneg y disgyblion o fewn y cwricwlwm a yw peth dysgu drwy'r saesneg yn gwanhau ethos cymraeg yr ysgol yn sylweddol ai nifer y pynciau a ddysgir drwy'r gymraeg ynteu ansawdd y gwaith llafar ac ysgrifenedig a wneir yn y gwersi drwy'r gymraeg sydd bwysicaf onid yw'n hanfodol bod gan ddisgyblion y gallu i barhau â'u haddysg mewn coleg a phrifysgol drwy gyfrwng y gymraeg neu'r saesneg yn ôl eu dewis pwy all anghytuno â'r fath safbwynt rhesymol y gwir amdani yw na chaiff y cwestiwn fyth ei ofyn mewn ysgol cyfrwng saesneg dim ond cymry sy'n cael y cyfle i ddewis iaith nid yw'r cwestiwn yn codi i'r di gymraeg o na bai'r consyrn am y gallu i ddewis yn ymestyn at ddadlau yn gryf dros ei gwneud yn bosib i'r disgyblion barhau â'u haddysg goleg a phrifysgol drwy gyfrwng y gymraeg os mynnant oherwydd ar hyn o bryd mae'r dewis yn brin ac yn dila yn arbennig felly yn y pynciau tu allan i'r celfyddydau fel y'n hatgoffir gan mr humphreys yn yr un ddarlith ar hyn o bryd prin ysywaeth yw'r cyfleoedd i ddilyn cyrsiau addysg uwch drwy'r gymraeg mewn mathemateg a gwyddoniaeth ac felly rhaid diogelu gallu'r disgyblion i ddefnyddio'r saesneg yn ogystal â'r gymraeg yn gyfrwng yn y meysydd hyn ar y gorau o fewn y brifysgol modiwlau penodol a fydd yn bosib am flynyddoedd yn y pynciau hyn drwy'r gymraeg a byddai hynny yn gam mawr ymlaen o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol yn ein tyb ni dyma'r math o agwedd sydd yn mynd i ladd y gymraeg pan gafodd mr humphreys a dr williams y cyfle i newid y sefyllfa drwy lunio dogfen a oedd yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol gofynasant am friwsion yn hytrach na thorth gofynnwch a rhoddir i chwi ceisiwch a chwi a gewch mae'r ddogfen yn dweud y bydd 'cynnydd yn niferoedd staff y ganolfan gefnogi genedlaethol yn ôl llwyddiant cyfrwng cymraeg a chynnydd yn y colegau' un o'r melltithion sydd ar y gymraeg ydy'r meddylfryd 'fel bo'r angen' gadewch i ni fod yn gwbl glir does dim angen fel y cyfryw fel mae angen bwyd a dillad ac awyr iach fe allwn ni i gyd wneud popeth yn saesneg ond mae dymuniad i gadw'r gymraeg yn fyw a hynny nid am resymau sentimental ond am fod amrywiaeth yn beth iach onid yw hi'n beth rhyfedd fod pobl ar dân dros achub y byd a'i anifeiliaid bach fflwffi a thirluniau hardd ond yn methu â gweld gwerth mewn buddsoddi i gynnal amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol arbenigwyr mewn terminoleg rydym yn anghytuno â'r syniad o arbenigwyr mewn terminoleg a chyfieithwyr canolog dyma'r bobl a greodd y term llyth el a mynnu glynu at hynny pan yw trwch y boblogaeth yn defnyddio e bost yn naturiol fel y dadleuodd y diweddar bedwyr lewis jones 'y bobl sy'n creu iaith' ymddengys fwyfwy mai rhywbeth i raddedigion cymraeg sydd eisiau gyrfa wahanol i ddysgu yw cyfieithu ond gwaetha'r modd yn amlach na pheidio mae'n amhosib bron deall eu dogfennau technegol am nad ydynt hwy'n deall y pwnc dylid ystyried secondio athrawon uwchradd ac arbenigwyr pwnc sy'n medru'r gymraeg i fynd i'r afael â'r mater unwaith eto petaem yn cael cyllid digonol fe ellid mynd ati o ddifri i sefydlu neu gryfhau grwpiau sy'n bodoli yn barod i fynd i'r afael â hyn o gofio pwysigrwydd y rhithiol yn y ddogfen tybiwn ni mai yma mae dyfodol terminoleg mae angen meddwl tu allan i'r blwch lle mae'r gymraeg yn y cwestiwn mae ysgolion ymhell ar y blaen i'r sector prifysgol addysg uwch a dylid cydnabod hynny a defnyddio a thalu am eu harbenigedd o leiaf tan i'r sector addysg uwch ei oddiweddyd gwobrwyo medr dylem drafod y posibilrwydd o gynnig bonws i gymry cymraeg ar hyn o bryd llafur cariad yw llawer iawn o'r hyn sy'n digwydd wedi'r cyfan os gall unigolyn gyflwyno'i gwaith waith yn gymraeg neu saesneg mae hynny yn fedr ychwanegol byddai hyn wedyn yn creu cymhelliad i eraill ddatblygu eu medr diwedd y gân yw'r geiniog ac unwaith y byddai'r ymateb cyntaf a'r cega fod hyn yn gwahaniaethu yn erbyn y di gymraeg yn distewi byddai pawb yn derbyn yr egwyddor heb fawr o drafferth canlyniad arall posibl yw y byddai mwy o drigolion di gymraeg yn dechrau mynnu fod eu plant hwythau hefyd yn cael yr un manteision o fod yn ddwyieithog â chymry cymraeg gweler uchod pa wleidydd a fyddai'n mentro awgrymu na ddylai plant gael addysg gynradd uwchradd gymraeg targedau mae'r ddogfen am sicrhau bod o leiaf modiwl ar gael trwy gyfrwng y gymraeg ym mhob maes cwricwlaidd ymhen mlynedd yn anffodus nid oes yma ddiffiniad o faes cwricwlaidd tybed a yw'n ystyried meysydd ysgolion cynradd uwchradd awgrymwn fod addysg uwch yn rhy gymhleth i gynnwys y fath gymal beth bynnag mae'n darged tila dros mlynedd diweddglo trafodaeth i orffen mae'r ddogfen hon yn anhygoel o lywaeth y neges glir drwyddi draw yw sori ein bod yn fyw pam fod cynrychiolwyr y sefydliad yn teimlo bod rhaid ysgrifennu rhywbeth sydd mor ofnadwy o ddiniwed yn ein barn ni mae angen sefydlu coleg ffederal cymraeg fel y cytunwyd yng nghynhadledd bangor ionawr dylid gofyn i lywodraeth cymru neilltuo cyllid sy'n gyfwerth ag o wariant prifysgol cymru ar staffio er mwyn cyllido cnewyllyn o ddarlithwyr cymraeg ym mhob pwnc ar draws colegau cymru bydd y galw yn cynyddu yn unol â'r ddarpariaeth ac mae canlyniadau arolygon diweddaraf y swyddog datblygu ei hun yn dangos y byddai nifer sylweddol am ddilyn eu cyrsiau yn gymraeg petai hynny yn bosibl mae angen dod â phob math o arbenigwyr sy'n medru'r gymraeg at ei gilydd o bob sector ac mae angen edrych tu hwnt i glawdd offa yn ogystal bob tro y bydd digwyddiad yn unrhyw le yn y byd mae'r bbc yn gallu darganfod cymro neu gymraes i roi sylwadau efallai bod angen cydweithio â'r bbc a chyfryngau eraill i fynd â'r maen i'r wal yn bwysicach na dim efallai yw'r angen am arweiniad gan fwrdd dysgu drwy gyfrwng y gymraeg prifysgol cymru ac eraill mae'r syniad neu'r ddadl na wnaiff y cynulliad byth dderbyn hyn a'r llall yn wan gwleidyddion sydd yn y cynulliad sy'n aros am oleuni ac arweiniad gan arbenigwyr rydym yn gwneud cam â nhw ein hunain myfyrwyr a chenedlaethau i ddod os derbyniwn mai gan williams humphreys mae'r ateb i ddyfodol addysg gymraeg yn y sector uwch papur gan einir young a dilwyn roberts young xi creu coleg ffederal cymraeg tu mewn i brifysgol cymru ffurf argraffu pdf ffurf pdf dyma ofyn i bwyllgor addysg y cynulliad yn ei adroddiad ar addysg uwch gynnwys argymhelliad o blaid creu coleg ffederal cymraeg tu mewn i brifysgol cymru dyma alw ar y llywodraeth a'r sector addysg uwch ddatblygu a gwireddu'r cynllun sefydliad cyfansoddol y brifysgol fyddai'r coleg gyda changhennau tu mewn i'r colegau sydd eisoes yn bodoli mae ehangu sylweddol ar y ddarpariaeth trwy gyfrwng y gymraeg yn cydweddu ag ymrwymiad y llywodraeth i gynyddu'r niferoedd o bobl a gaiff addysg uwch diogelu dyfodol ffyniannus i'r iaith gymraeg a chreu cymru ddwyieithog daw nifer o ddadleuon ynghyd i ategu'r weledigaeth hon er mwyn cryfhau hunaniaeth ddinesig pobl cymru rhaid i'r rhai sy'n dewis cymraeg boed hwy'n siaradwyr mamiaith neu'n ddysgwyr deimlo ein bod nhw'n cael chwarae teg mae derbyn bod addysg uwch trwy gyfrwng y gymraeg yn hawl ddinesig yn gam at sicrhau cyfle cyfartal a mynediad i bawb ni all diwylliant yr un iaith fodern gyrraedd ei lawn dwf oni bai fod yr iaith yn gyfrwng ymchwil dysg ac addysg uwch mae hybu'r addewid sydd gan y gymraeg yn y maes yn cyfoethogi'r etifeddiaeth gyffredin a berthyn i bawb yng nghymru ac yn ychwanegu at gyfraniad unigryw cymru i amrywiaeth diwylliannol prydain a'r byd er mwyn creu cymru ddwyieithog mae angen ymarferol cael nifer cynyddol o bobl wedi'u haddysgu'n drylwyr i drin syniadau ar y lefel uchaf yn y gymraeg yn ogystal â'r saesneg a hynny er mwyn iddynt weithio ym meysydd megis y llysoedd barn y gwasanaeth sifil y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol mewn ysgolion diwydiant a masnach er mwyn ehangu'r ddarpariaeth yn sylweddol mae angen dybryd sicrhau bod y dewis o addysg trwy gyfrwng y gymraeg ar gael ar draws ystod gynhwysfawr o ddisgyblaethau i bob myfyriwr addysg uwch sydd yn ei ddymuno o fodiwlau unigol hyd at raddau prifysgol cyflawn sicrhau bod màs critigol o ddarlithwyr â chyfrifoldeb arbennig am ddysgu trwy gyfrwng y gymraeg ac am gyhoeddi gwaith yn y gymraeg gyda deunydd at ddefnydd myfyrwyr yn flaenoriaeth ganddynt mae dyfodiad y cynulliad a'r adolygiad o bolisi addysg uwch yn cynnig cyfle i oresgyn rhwystrau strwythurol yr hen drefn ers ei sefydlu ddiwedd yr au mae'r drefn o benodi darlithwyr â chyfrifoldeb arbennig dros y gymraeg tu mewn i golegau cyfansoddol prifysgol cymru wedi methu â chreu cynnydd sylweddol mae'r pwyslais ar gystadlu o dan y model masnachol sydd yn drech nag un dim arall ers yr au yn bwrw dysgu trwy gyfrwng y gymraeg ymhellach i'r cysgodion o dan y model hwn ymddengys y ddarpariaeth gymraeg yn gymharol ddrud ac anymarferol erbyn heddiw mae'r dysgu mewn rhai adrannau ar drai trwy gymru gyfan caiff llai na o fyfyrwyr beth o'u haddysg trwy gyfrwng y gymraeg mae llawer llai na chant o dros o academyddion yn y sector yn darparu ar eu cyfer y mae'r diffyg cynnydd yn y ddarpariaeth yn esgor ar deimladau o annhegwch a dieithrwch yn gwanhau bywyd deallusol yr iaith ac yn creu diffyg pobl â medr y mae ar y gymdeithas ei angen mae'r sgil effeithiau ehangach hefyd yn ddrud ar goll yr â'r cynnydd economaidd a allai ddeillio o lwyddiant yn y maes gwelir israddio statws a safle'r iaith drwy'r gymdeithas gyfan gan danseilio ymdrechion i sicrhau dyfodol iddi gan yr ysgolion a chyrff megis y mentrau iaith a bwrdd yr iaith yn eu cyflwyniad i adolygiad y cynulliad mae swyddogion bwrdd prifysgol cymru ar gyfer dysgu cyfrwng cymraeg wedi sôn am eu gwaith addawol diweddar eu cynlluniau a'r potensial mawr i ddatblygu addysg trwy gyfrwng y gymraeg maent hefyd yn tynnu sylw at y rhwystrau cynhenid i'r drefn bolisi sydd ohoni dim ond gydag arweiniad a gweithrediad gan y cynulliad a'r llywodraeth y daw llwyddiant diolch i bolisïau amrywiol mae gwledydd megis gwlad yr iâ neu ranbarth y basgiaid yn sbaen wedi llwyddo i ddarparu gwasanaeth addysg uwch cyflawn mewn ieithoedd â nifer absoliwt o siaradwyr tebyg neu lai nag eiddo'r gymraeg y mae hon yn weledigaeth gwbl gyraeddadwy yng nghymru gallai model y coleg ffederal cymraeg integredig allblyg roi'r fframwaith arbennig sydd ei angen er mwyn meithrin iaith leiafrifol heb godi muriau meddyliol neu ddiriaethol felly y gall addysg trwy gyfrwng y gymraeg gyd ffynnu ag addysg trwy gyfrwng y saesneg cynllun bras o'r coleg ffederal prif nodweddion a i'w sefydlu ar unwaith coleg ffederal cymraeg sef sefydliad cyfansoddol tu mewn i brifysgol cymru wedi'i ariannu ar wahân ag is ganghellor cyfuwch ei statws ag is gangellorion eraill prifysgol cymru a fframwaith cydlynu a gweinyddu canolog er mwyn rhoi arweiniad gosod asgwrn cefn sefydliadol sicrhau llais parhaol a chanolog ym mhrosesau llywodraethu a rheoli addysg uwch a chreu hunaniaeth gyhoeddus amlwg b i'w adeiladu dros gyfnod o ychydig flynyddoedd tîm craidd o ddarlithwyr llawn amser wedi'u penodi yn unswydd er mwyn cynnig dewis cynhwysfawr o fodiwlau ar draws ystod gyflawn o bynciau ac er mwyn datblygu a chyhoeddi gwerslyfrau a deunydd dysgu dylai canran sylweddol o'r tîm dysgu fod yn ei le cyn dechrau ar ymgyrch farchnata egnïol gan na ellir disgwyl i alw sylweddol ymddangos o blith darpar fyfyrwyr hyd nes y bydd y dewis ar gael c y rhan fwyaf o'r dysgu mewn canghennau tu mewn i golegau daearyddol traddodiadol prifysgol cymru ac o bosibl sefydliadau addysg uwch eraill yng nghymru gallai maint y canghennau amrywio o goleg i goleg o adeilad cyflawn symbol o bwys i ychydig ystafelloedd ch aelodaeth ddeublyg o'r coleg ffederal a'r coleg traddodiadol lleol a hynny i ddarlithwyr a benodir yn arbennig ac eraill a'i myn ac i'r myfyrwyr a fyddent yn dewis derbyn peth o'u haddysg uwch yn gymraeg amcan yr aelodaeth ddeublyg yw osgoi gorfodi dewis rhwng awyrgylch cymraeg pybyr ond neilltuedig a phrofiadau ehangach y colegau traddodiadol o safbwynt deallusol a chymdeithasol mae angen sicrhau bod adnoddau'r colegau traddodiadol megis llyfrgelloedd labordai ffreuturau neu ganolfannau chwaraeon ar gael hefyd d integreiddio dysgu'r gymraeg fel ail iaith ac ymdrech arbennig i ddenu siaradwyr llai hyderus ynghyd â dysgwyr modiwlau medrau iaith arbennig i helpu cyrraedd y safon ieithyddol angenrheidiol i ddilyn modiwlau pwnc rhydd y coleg ffederal cymraeg gyfle i gymru arloesi ac ysbrydoli gwledydd eraill ym mhedwar ban byd ym maes addysg ddwyieithog papur gan dr gareth popkins darlithydd trwy gyfrwng y gymraeg mewn hanes rwsia a dwyrain ewrop prifysgol cymru aberystwyth cyflwyniad ysgrifenedig i weinidog addysg llywodraeth cynulliad cenedlaethol cymru ac i adolygiad polisi addysg uwch y pwyllgor addysg a dysgu gydol oes thema allweddol addysgu trwy gyfrwng y gymraeg xii ydi papur dyddiol cymraeg yn bosibl darllenwch bapur ned thomas yn llawn ffurf argraffu pdf ffurf pdf sefydlu cymdeithas d j nid yw plaid cymru o reidrwydd yn cytuno â phob safbwynt a fynegir ar y wefan hon nid yw cymdeithas dj ychwaith yn cytuno â phob barn a fynegir gan gyfranwyr y papurau trafod