tachwedd dewch i lunio dyfodol ffestiniog ydych chi'n byw yn ardal ffestiniog oes ganddoch chi syniadau ar gyfer dyfodol y fro oes ganddoch chi farn ond ddim am ei lleisio mewn cyfarfodydd cyhoeddus yna gall ymarferiad cynllunio go iawn fod yn gyfle gwych i chi rannu'ch syniadau bydd yr ymarferiad yn cynnig cyfle i bawb o drigolion y fro roi eu safbwynt ar ddyfodol ardal ffestiniog mewn modd anffurfiol a chymdeithasol gan ddefnyddio dulliau ymarferol o gasglu syniadau am gynllunio yn yr ardal yn hytrach na chyfarfodydd cyhoeddus ffurfiol bydd cyfle i bobl ymweld a chanolfan leol i gael paned a rhoi eu barn datgan eu syniadau a chynnig eu sylwadau drwy osod cyfres o gardiau dewis ar fodel tri dimensiwn o fro ffestiniog ar hyn o bryd mae cyngor gwynedd yn datblygu cynllun unedol ar gyfer y sir cynllun fydd hwn sy'n dangos pa dir yn lle sydd i'w ddatblygu a pha fath o ddatblygiadau fydd yn dderbynniol bydd hwn yn ddogfen allweddol wrth ystyried ceisiadau cynllunio a bydd canlyniadau cynllunio go iawn yn cael eu hystyried wrth lunio cynnwys y cynllun unedol ar gyfer ardal ffestiniog disgyblion o'r bedair ysgol gynradd leol yn ogystal â gwirfoddolwyr o'r gymuned fu'n gyfrifol am lunio'r model polystyrene sydd yn cynnwys holl adeiladau ardaloedd blaenau ffestiniog tanygrisiau manod a llan ffestiniog ac ar raddfa un o'r ysgolion a fu wrthi'n ei baratoi oedd ysgol tanygrisiau a dywedodd gerallt jones yr athro sydd yn goruchwylio'r gwaith mae'r disgyblion wedi bod yn ddiwyd iawn gyda oriau o waith wedi eu treulio ar y model mae'r model wedi cyfrannu at adnabyddiaeth y plant o'r ardal ac wrth ei wneud mae nhw wedi dechrau meddwl am ffyrdd o wella'r ardal y maen't yn byw ynddo bydd cynllun unedol gwynedd yn gosod fframwaith ar gyfer datblygu yn y sir am hyd at mlynedd felly mae barn pobl leol yn hanfodol bwysig nid oes neb yn gwybod mwy am broblemau ardal na'r bobl sydd yn byw ynddi a gobeithio y bydd cyfranogiad pobl ardal ffestiniog o gymorth i ni ddarganfod beth yw yr anghenion a'r cyfleon yn yr ardal o ran materion cynllunio meddai aled davies rheolwr polisi adran cynllunio a datblygu economaidd cyngor gwynedd mae'r ymarferiad cynllunio go iawn yn cael ei gynnal ar y cyd gan gyngor gwynedd cyfle ffestiniog awdurdod parc cenedlaethol eryri a'r gwasanaeth cynorthwyo cynllunio cangen gogledd orllewin lloegr a gogledd cymru cynhelir yr ymarferiad cynllunio go iawn rhwng tachwedd a rhagfyr a bydd cyfle i drigolion llan ffestiniog tanygrisiau manod maenofferen a blaenau ffestiniog ymweld a chanolfan leol i weld y model a chynnig sylwadau lleoliadau ac amseroedd ymarferiad cynllunio go iawn mawrth neuadd y pentref llan ffestiniog mercher bethel tanygrisiau iau neuadd eglwys dewi sant gwener ysgol y manod sadwrn neuadd sefydliad y merched maenofferen gwybodaeth bellach esyllt rhys