datganiad i'r wasg mawrth bwlch mawr rhwng y rhywiau yn ysgolion cymru mae os gwelwch chi'n dda syr yn mynd yn ymadrodd prin yn ystafelloedd dosbarth cymru yn ôl canlyniadau rhagarweiniol y gofrestr swyddogol gyntaf o athrawon cymru mae teirgwaith gymaint o ferched ag o ddynion yn y proffesiwn addysgu ac mewn ysgolion cynradd mae'r bwlch rhwng y rhywiau hyd yn oed yn fwy gyda phum merch ar gyfer pob dyn yn y dosbarth mewn ysgolion uwchradd mae tua mwy o fenywod nag o ddynion mae'r ffigurau i'w cael yng nghanlyniadau cynnar cyngor addysgu cyffredinol cymru sydd wedi bod yn creu cofrestr ffurfiol o athrawon dros y flwyddyn ddiwethaf o dan reolau newydd a gyflwynwyd y llynedd mae'n rhaid i unrhyw un sydd eisiau dysgu mewn swydd athro neu athrawes cymwysedig yn un o ysgolion y wladwriaeth yng nghymru fod wedi eu cofrestru gan y cyngor mae disgwyl i'r crynhoad o ystadegau'r gofrestr newydd fod ar gael erbyn diwedd mawrth bydd yn cynnwys cyfanswm o o athrawon yn eu plith athrawon cyflenwi a rhai mewn addysg bellach addysg uwch ac ysgolion annibynnol ac athrawon sydd ddim yn dysgu ar hyn o bryd mae'r ffigurau rhagarweiniol yn debyg o arwain at ymdrechion newydd i ddenu mwy o ddynion i'r proffesiwn ar hyn o bryd dim ond o ddynion sydd wedi eu cofrestru o'u cymharu â o fenywod mae'r ffigurau ar gyfer athrawon sydd newydd gymhwyso yn awgrymu y bydd yr anghyfartaledd yn parhau dywedodd gary brace prif weithredwr y cyngor mae'r ffigurau yma'n cadarnhau'r hyn oedden ni'n ei amau ynglyn â'r anghydbwysedd mawr rhwng y rhywiau mae hon yn duedd sydd wedi bod yn datblygu ers rhai blynyddoedd er bod y bwlch yn fwy nag oedden ni'n ei feddwl mae athrawon gwryw a benyw yn gwneud gwaith ardderchog ond mae'r naill a'r llall yn dod dod â chyfraniad gwahanol i brofiad addysgol y disgybl felly rydyn ni'n credu y byddai'n beth iach annog mwy o ddynion i ymuno â'r proffesiwn yn ôl hugh jones ymgynghorydd recriwtio athrawon yng nghymru nid yn unig roedd merched yn y mwyafrif yn gyffredinol yng nghymru ond roedd llai a llai o ddynion yn hyfforddi i ddysgu rhai pynciau ar y lefel uwchradd ymhlith y pynciau hynny roedd bywydeg ieithoedd modern a saesneg fe allai hyn gael oblygiadau mewn ysgolion o ran sut y mae disgyblion yn dirnad y pynciau hynny meddai ychwanegodd mewn llawer o ysgolion cynradd mae angen cryf am fwy o ddynion ar y staff dysgu er mwyn cael esiamplau gwrywaidd i'r plant eu dilyn rydyn ni eisiau i gymysgedd y staff adlewyrchu cymdeithas yn gyffredinol dywedodd mr jones bod angen i'r rhai sy'n ymwneud â chyflwyno darlun o addysgu i'r cyhoedd wneud yn siwr eu bod nhw'n apelio at y ddau ryw fe ddylai'r ystod o anogaethau ariannol sydd ar gael i rai sy'n hyfforddi i fod yn athrawon y codiadau cyflog diweddar a'r gefnogaeth gynyddol ar gyfer datblygu personol datblygu gyrfa a rheolaeth wella'r recriwtio a chadw mwy o athrawon o fewn y proffesiwn yng nghymru meddai tynnodd mr brace sylw at yr ymwybyddiaeth gynyddol o ddatblygiad proffesiynol parhaol ar gyfer athrawon yng nghymru byddai hynny'n helpu i wneud addysgu yn yrfa fwy a mwy deniadol i ddynion a merched meddai