datganiad i'r wasg hydref arian datblygiad athrawon dim byd cuddiedig mae cyngor addysgu cyffredinol cymru wedi galw ar holl athrawon cymru i wneud cais am dros £ miliwn o arian datblygiad proffesiynol mae'r arian yn rhan o brosiect peilot i annog athrawon i ddatblygu eu hunain fel gweithwyr proffesiynol dywedodd gary brace y prif weithredwr mae'r arian yma ar gael i'r holl athrawon cofrestredig mewn ysgolion wedi eu cynnal yng nghymru does dim elfennau cudd mae'r arian ar gael yn awr ac nid yw ynghlwm i unrhyw ymrwymiad arall heblaw fod athrawon yn ysgrifennu adroddiad byr ar y gweithgaredd a ddewiswyd ganddynt mae hwn yn gyfle cyffrous i athrawon ni all y rhai hynny sydd wedi cysylltu â'r cyngor gredu bod yr arian ar gael iddynt ar gyfer datblygiad proffesiynol o'u dewis anfonwyd gwybodaeth ynglyn â phrosiectau peilot datblygiad proffesiynol parhaus dpp ynghyd â ffurflenni cais at bob athro ac athrawes yng nghymru mae enghraifft o sut y gellir defnyddio'r arian yn cael ei ddangos gan robert purchase pennaeth ysgol gynradd croeserw port talbot sy'n defnyddio'r arian i dalu am athrawon cyflenwi o ganlyniad bydd ganddo arian i gynnal cyfweliadau gyda disgyblion a dechrau holiadur gyda'r nod o gael eu safbwyntiau ar faterion megis bwlio gweithgareddau amser chwarae a bwyta iach y nod yw cynnwys disgyblion yn y broses o wneud penderfyniadau a sefydlu cyngor ysgol pan holwyd ef am ei farn ynglyn ag arian dpp yn cael ei ryddhau dywedodd robert rydw i o blaid unrhyw beth sydd yn codi proffil addysgu byddaf yn cael amser gwerthfawr i ddatblygu sgiliau a thechnegau cynllunio dadansoddi a gwerthuso holiadur gall pob athro neu athrawes elwa o ddatblygiad proffesiynol parhaus o ansawdd uchel a byddaf yn argymell fy nghyd athrawon i wneud cais nawr fel yn fy achos i nid yw cael yr amser yn fater o bryder oherwydd gellir defnyddio'r arian i dalu am athrawon cyflenwi anogir athrawon sydd â diddordeb i gysylltu gyda cyngacc os oes ganddynt unrhyw gwestiynau neu amheuon gellir cysylltu â'r tîm dpp ar trwy ebost cpd gtcw org uk neu drwy ysgrifennu at cyngor addysgu cyffredinol cymru ydd llawr southgate house wood street caerdydd cf ew gellir cael gwybodaeth bellach am y cyngor ar ei wefan yma