y botel wenwyn ar agor wel mae'r gath allan o'r cwd a'r cwd mewn cwestiwn ydi cynhrechwyr rhaglen ar c o'r enw uh beed ah bedwah nodyn mae c yn enwog iawn trwy'r byd am eu rhaglenni dychan mae ganddynt hanes hir a chlodwiw gan ddechrau o gyfresi fel marge williams yn yr 'au fe gafodd y gampwaith 'tonight heno' ei lawnsio yn y 'au ac erbyn hyn mae llu o raglenni dychan wedi ymuno gyda hi rhaglenni llawn ffraethineb fel taro baw top tip marge williams eto ac wrth gwrs uh beed ah bedwah mae hyd yn oed rhaglen blant fel paperhatzi wedi ei gydnabod fel un o raglenni dychan llwyddiannus y sianel mae'r rhaglen ubab sy'n cael ei gynrechu gan aitsh tee vee wedi gwneud darganfyddiad syfrdanol sydd o bwys i bawb llwyddodd y raglen godi bwys ar sawl achlysur mae eu hymchwil di flino wedi dod a nifer o feiau i'r amlwg er enghraifft maent wedi cael sgw p drwy ddarganfod fod pornograffi afiach i'w gael yn rhad a rhwydd ar y rhwydwaith arfaethedig a elwir yn uwchdraffordd wybodaeth tydi hon ddim yn bodoli eto felly mae ubab yn ei galw hi'n 'internet' maent wedi bod yn ymchwilio nawr ers oriau lawer ac wedi gweld fod miloedd o blant ar hyd a lled y wlad yn mynd allan i brynu cyfrifiadur pwerus modem llinell ffôn arbennig ac yna 'syrffio' y net drwy'r nos yn edrych ar luniau afiach wedi ei cymeryd gan bobl sal fe fyddan nhw'n gwerthu'r lluniau afiach yn smith's cyn bo hir mae'n siwr i chi sut meddech chi y mae'r plant yma yn gallu talu am yr holl offer ahh dyma lle mae pethau yn mynd yn glyfar hefyd ar gael ar yr internet mae ffeiliau sydd yn dweud wrthoch sut i ddwyn felly gall unrhyw blentyn ddarllen rhain yna mynd allan i ddwyn a felly talu am yr offer cyfrifiadurol q e d beth mae'r rhieni yn feddwl o hyn mae ubab wedi gofyn iddynt wrth gwrs mae ubab wedi darganfod fod rhieni dosbarth canol 'bourgeois' rhyddfrydol yn poeni dim am beth mae ei plant yn ei wneud roedd y rhieni dosbarth gweithiol i gyd rhy brysur yn trio crafu dwy geiniog ynghyd i dalu am y set deledu newydd a'r dôs wythnosol o nicotin ac alcohol fel nad oeddent yn gallu cadw llygad ar eu pum plentyn felly gofynnodd ubab sut allwn ni stopio y mocheiddra yma mae ubab yn mynnu fod rhaid cael deddf gadarn i stopio y budreddi yma i lygru ein plant maent yn dadle mae 'tegan i'r plant' yw'r internet nid rhwydwaith ar gyfer oedolion i wneud be a fynnon felly rhaid cael gwared unrhyw beth sydd yn afiach a llygredig gan wneud popeth yn addas ar gyfer plentyn oed gwyliwch y rhaglen holl bwysig yma ar c ar y dydd llun ain o fehefin am yr hwyr roedd c yn meddwl fod cynnwys y rhaglen yn fwy addas ar gyfer amser hwyrach ond na meddai ubab rhaid dangos i bawb y ffieiddra sydd ar gael ac os ydi hynny yn meddwl dangos merched noeth wedi ei adlewyrchu yn glyfar mewn sbectol am pm yna fe fydd y ratings yn well beth ddigwyddodd yn yr hen ddyddiau cyn yr internet wel roedd ein plant yn angylion wrth gwrs roedd dim syniad ganddynt am ryw na unrhyw ffieiddra corfforol arall mae'n wyrthiol fod ein cyn teidiau wedi llwyddo i gael neu neu fwy o blant gan nad oeddent yn gwybod dim am rhyw ac yn bendant nid oeddent yn ymwybodol o'i rhywioldeb heblaw eu bont yn wyrdroedig yn yr ysgol yn yr 'au roedd hi'n uffernol o anodd cael gafael ar pornograffi roedd hi bron yn amhosib deud y gwir roedd rhaid cerdded yr holl ffordd lawr y cae peldroed yna lawr y ffos tu ôl i'r cyrtiau tenis yna os oeddem yn lwcus fe roedd cylchgrawn llaith yn gorwedd ar y llawr a fe allech chi ei sgubo yn gyflym i'ch bag y ffordd arall wrth gwrs oedd mynd i'r siop bapur ar y gornel i'w brynu fel yr oeddwn i'n dweud roedd hi'n anodd iawn roedd hi yr un mor anodd cael gafael ar fideos treisgar yn enwedig rhai oedd yn cynnwys rhyw roedd rhaid mynd i'r drafferth o fynd i siop y gornel eto winc cyflym i'r siopwr gan ddweud it's for my father dyma sut oedd hi'n bosib cael sigarennau a alcohol hefyd yna nôl gartref i'w gwylio tra fod ein rhieni allan yn prynu carpedi neu rhywbeth heddiw wrth gwrs mae dyfodiad yr internet wedi sgubo hynna i gyd i ffwrdd a mae'n hawdd i brynu cyfrifiadur a modem er mwyn cael y lluniau yn syth i'r stafell wely a'r peth gorau amdano yw mae'r rhieni yn talu'r bil ffôn dim cwestiwn wedi ei ofyn maent yn hoff o frolio i'w ffrindiau mae e mor addysgiadol gyda'r pethau cd's hefyd mae e'n treulio oriau ar y cyfrifiadur yn gwneud ei waith cartref diolch ubab am raglen ddychan orau'r ganrif ac am ddod a'r pwnc difrifol hwn i sylw degau o rieni dosbarth canol cymru sb x os ydych yn gweld y lliwiau cywir ar y dudalen yn tydi o yn eich atgoffa o'r hen fonitors gwyrdd ar gyfer prosesu geiriau