`s lawer dÿdd w llywelyn williams k c m p newyddiadurwr gwleidÿdd a hanesÿdd o lansadwrn sir gaerfyrddin fe'i cyhoeddwÿd am y tro cyntaf yn y flwÿddÿn gwefan cymru cataloniia portada ffeiliau gweithio minneso ta aa baner cymru gif gwefan cymru cataloniia portada ffeiliau gweithio minneso ta baner catalonia gif gwefan cymru catalonia la web de catalunya i gal·les the wales catalonia website http www estelnet com catalunyacymru catala sion prys slawer dyd d htm `s lawer dydd w llywelyn williams k c m p morgan adolygiad diweddaraf latest update ····· dolennau ar gyfer tudalennau eraill yn y gwefan hwn ····· mynegai i'r llÿfr hwn ····· llên cymraeg ar y we tudalen siôn prÿs aberhonddu mynegai ar gyfer y testunau yn y gwefan hwn ····· testunau cymraeg â throsiad saesneg yn y gwefan hwn ····· yr iaith gymráeg ····· chwiliwch amdano yn y gwefan hwn neu ar y rhyngwe o'n tudalen archwilwÿr ····· cynllun y gwefan ····· mynegai yn nhrefn y wÿddor i'r hÿn a geir yn y gwefan ····· y cyntedd croeso ····· tudalen blaen y gwefan `cymru catalonia' ····· x `s lawer dydd gan w llewelyn williams k c m p ail argraffiad argraffwyd a chyhoeddwyd gan james davies a'i gwmni cyf gwasg deheudir cymru cyhoeddwÿd am y tro cyntaf yn x tudalen gwag x cynhwysiad pennod tudalen i fy hen gartref ii mamgu iii yr hen lias iv twmi price v griffith y gôf vi rhys edwards a dewi towy vii wil gelynen viii chware plant hen dramp x tudalen gwag x pennod i fy hen gartref fel mae'r byd wedi newid oddiar pan oeddwn i'n fachgen yn nuffryn sic towy ddeugain rnlynedd yn ôl nid meddwl yr wyf am y cyfnewidiadau a wneir gan y rhyfel er y gwna'r rhyfel esgor ar fyd gwahanol iawn i'r hyn ydoedd dair neu bedair blynedd yn ôl mae rhyferthwy'r magnelau yn synnu pensyfrdanu dyn nes y tueddir fi i lefain gyda huw morus wrth gofio'r hen amser `s lawer dydd pan oeddwn in fachgen mi welais fyd llawen cyn codi o' genfigen flin filen yn fawr ond cyn i'r rhyfel dorri allan yr oedd cymru wedi newid mwy mewn un genhedlaeth nag odid a wnaeth mewn un ganrif o'r blaen ar ei hyd pan oeddwn i'n fachgen `roedd llawer o hen ddefodau ac arferion y cymry yn aros os nad yn eu grym yn fyw ac yn flodeuog ac ambell i hen gymeriad wedi ei adael na cheid ei debyg mewn un wlad arall dan haul yr oedd y teulu yn fy hen gartref yn lluosog oblegid heblaw ni'r plant `roedd rhyw ddwsin neu ragor o wasanaeth ddynion yn wy r ac yn wragedd ac edrychid ar bob gwasanaeth ddyn fel un o'r teulu cyflogid hwy am flwyddyn adeg calan gaeaf the winter x kalends y fed o dachwedd yr oedd ffeiriau cyflogi yn llandeilo a llanymddyfri ond nid yn y ffeiriau y cyflogid y goreuon o'r gwasanaeth ddynion am bythefnos neu dair wythnos cyn c'lan gaea' yr oedd y ffermwyr a'u gwragedd yn brysur yn gwneuthur trefniadau am y flwyddyn ddyfodol yn cytuno a'r gweision a'r morwynion mis y celwyddau y gelwid mis tachwedd gan gymaint y cyffro a'r gleber yn yr ardal gymaint cyffro a chleber ag a geir yn nhy'r cyffredin pan newidir llywodraeth ac y mae gweision newydd yn cael eu cyflogi gan y deyrnas pawb am wybod faint o gyflog addawyd i rhys y fron beth oedd cyflog llaeth wraig cwmbran faint o ern ernest a roddwyd i was mawr llwyngwenno pwy oedd yn aros yn neu yn ymadael â'i hen lê a phwy oedd wedi bod yn euog o'r anfadwaith o hala'r ern yn ôl ar nos c'lan gaea' telid yr hyn oedd yn ddyledus i'r gwasanaeth ddynion nid oedd y cyflogau ond bychain ugain punt y flwyddyn a delid i tomos y gwas mowr `roedd tomos wedi bod gyda ni oddiar pan yn grwtyn ac aml yr adgoffai mai pum punt y flwyddyn a'i fwyd oedd ei gyflog y flwyddyn gyntaf iddo fod yn was mawr yr oedd yn byw mewn tyddyn bach gerllaw'r ty a digon o dir i gadw buwch ac yr oedd ganddo hanner cyfer o ardd heblaw a thalai chwech punt y flwyddyn o rent am danynt er lleied ei gyflog cododd ef a neli dri ar ddeg o blant a thyfasant yn bobl iach a chryf deunaw punt oedd cyflog yr ail was a phunt yn llai y waginer yr oedd pymtheg punt yn cael ei ystyried yn gyflog dda i'r cowman ac yr oedd dau was bach na chawsant fawr ond eu bwyd un neu ddwy bunt ar bymtheg oedd x cyflog y llaethwraig neu'r forwyn fowr ac yr oedd rhyw dair neu bedair o forwynion ereill dani heblaw croten fagu ar nos c'lan gaea' aent oll un ar ol y llall y gwy r yn gyntaf a'r merched ar eu hôl yn eu tro o'r gegin i'r neuadd i gael eu talu yn y neuadd eisteddai fy nhad wrth y ford a ledger mawr o'i flaen a mam yn eistedd ger y tân yn y gadair freichiau yn swil ac afrosgo deuai'r gwasanaeth ddynion i mewn ac yn ei dro wil y waginer eisteddai ar ymyl ei gadair gyferbyn a nhad deunaw punt oedd y gyflog gytun'son ni william gofynnai'n nhad ie ie atebai wil wel fe gesoch `wheigen deg swllt i fyn'd i ffair glan gaea' llynedd ag `rych chi'n cofio william torrai mam i mewn i fi ymhwedd arno chi beidio gofyn am fwy na choron o achos nag oech chi ddim wedi talu tomos y crydd am y pâr o `sgidie parch odw odw mystres fach `rwy'n cofio o'r gore ebe wil druan ag yna fe gesoch `wheigen amser n'dolig i dalu tomos y crydd meddai nhad eitha gwir mishtir ebe wil ag fe gesoch `wheigen arall i fyn'd i breimin ploughing match pantllwyfen meddai nhad do'n siwr atebai wil a choron i fyn'd i `steddfod caio dydd gwener croglith gyda'r côr o'r gore meddai wil a choron arall i fyn'd i daith leisa fronddeunant i dalu'r pwyth dros eich `wha'r eitha gwir ebe wil x `roedd wil druan wedi hen ddyrysu erbyn hyn ac yn teimlo fel pechadur pan ddadlennir y llyfr yn nydd bam a thynnai ochenaid o wir ryddhad pan glywai'n nhad yn dweyd a fel'ny william `does dim ond deg swllt ar hugain yn dwad i chi a rhag y'ch c'wilydd william dywedai mam a chithe'n caru merch neis lanwaith fel mari'r esger medde nhw a dych chi ddim yn trio safio dime wa'th 'rych chi heb dalu john teilwr am y pâr dillad gesoch chi'r haf d'wetha i fyn'd i ffair gwyl barna' da chi william bach triwch gynilo tipyn y flwyddyn nesa' wa'th wyddoch chi ddim pryd bydd eisie punt neu ddwy amoch chi `rych chi'n gweyd y gwir mystres fach ebe wil gyda gwên ddireidus `rwy'n penderfynnu troi'n gybydd fel morgans y siop o hyn i ma's ond os dannod hen oferedd oedd yn y neuadd `roedd rhialtwch yn y gegin chware cannwyll a'r afal codi arian mân o'r dw r ac ereill o gampau'r aelwyd arferai griffith y gof a william y saer ddod yno bob amser i feirniadu'r llwyau coed a'r pasgedi fu'r gweision yn eu gwneuthur wrth oleu'r tân ar yr aelwyd ie ac y mae'n gof gennyf am y trenshwnau coed a ddefnyddid bob amser adeg y fedel wenith ac a wnawd gan ddwylaw celfydd y gwasanaeth ddynion cyn bod llestri pridd wedi dod mor rhad a chyffredin nemawr byth y byddid yn prynu rhaca gwair gwaith cartref oedd y rhan fwyaf o'r eirf amaethyddol a ddefnyddid ar y tir ac nid anghofiaf byth fy malchder pan ges yn eiddo i mi fy hun y rhaca bach cyntaf o law tomos y gwas mawr x er lluosoced y teulu yr oedd rhagor na hwy yn eistedd i fwyta yn y gegin ddwywaith y flwyddyn deuai john teilwr a dau o'i weithwyr i dreulio wythnos neu ddwy i wneuthur neu i gywiro dillad i'r teulu amser melys i ni'r plant oedd hwn oblegid gwr hynaws a llawen oedd john a gw r digrif oedd ei weithwyr ond nid oedd digon o le iddynt wrth y ford fawr ac felly eisteddent wrthynt eu hunain o gylch bord gron a osodid ynghanol y gegin un tro gwelodd marged y forwyn fawr john yn torri ychydig o'r menyn oedd ar y ford a'r prentis ar yr un pryd yn torri ychydig o ben arall y menyn john bach meddai marged oblegid parch da i'w choffa `roedd hi mor bryderus i rwystro gwastraff a'i mheistres pam na fyddwch chi'ch dou yn torri'r menyn yr un ochr o dewch chi marged fach atebai john gan chwerthin fe ddewn ni'n dou at ein gilydd cyn bo hir unwaith yn y flwyddyn byddai morgan jones y saddler a'i fab yn dyfod am wythnos i gywiro'r offer harness ac nid oedd nemawr wythnos na fuasai y ddau willam y seiri neu dafi'r meuswn yno yr oedd gwehydd yn byw yn y plwyf ac efe oedd yn gweu defnydd `sanau a chrysau i ni gyd ac yr oedd lliwdy a phandy hefyd yn y plwyf cyfagos brethyn a gwlanen cartref a wisgid gan bawb ac un o'r ffugenwau mwyaf poblogaidd yn yr eisteddfodau lleol oedd brython llon mewn brethyn llwyd ond mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i'n llon iawn pan yn gwisgo crys gwlanen gwlad am y tro cyntaf flynyddoedd ar ol hynny deuthum i wybod beth oedd shakespeare yn ei feddwl wrth ddywedyd x winter garments must be lined oblegid yr oedd gymaint o tunica molesta a chrys nessus pe tae'r rhyfel wedi torri allan ddeugain mlynedd yn ôl ni fyddai raid i bobl yr hen blwyf ofni newyn nid oedd neb y pryd hwnnw yn gwerthu llaeth a'r uriig beth at wasanaeth y fferm a ddygid oddi bant oedd calch `roedd ffermwyr yn trin eu tir yn y dyddiau hynny oblegid `roedd digon o lafurwyr yn y wlad oeddynt heb deimlo swyn y trefydd a'r gweithiau ni ymadawai neb braidd o'r hen blwyf os nad oedd mewn rhyw fath o drwbwl clywais ddywedyd gan fy nhad am hen greadur a enwid bili jaci deimoth yr oedd wedi ei dorri ma's gan y tri enwad cref yddol a dyma ryw un yn gofyn iddo wel bili bach ble ei di `nawr o ebe bili'n ddigyffro mae'n o'r gore arna' i fe alla i fyn'd eto i ferthyr neu i eglwys loegr `wa'th mae nhw fel trugaredd a'u drws heb ei gau dim ond un noson dreuliodd fy nhad erioed yn lloegr os yn wir y dylid galw henffordd yn rhan o loegr un o'r ychydig o'r plwyfolion a fu'n byw yn lloegr oedd tomos y crydd bu efe yn gweithio wrth ei grefft am dri mis yng nghaerloyw a mawr oedd ei ymffrost byth wed'yn yr oedd tomos bob amser yn y cwrdd gweddi cenhadol nos lun cynta'r mis ac os gofynnid iddo gymryd rhan ni anghofiai ddywedyd rhywbeth fel hyn ar ei weddi cofia hefyd arglwydd am y paganiaid sy'n cyfaneddu yn ein trefydd mawrion mae rhai o honom ni'n gwybod am danynt c ond erbyn hyn mae pawb yn y plwyf wedi ymweled a'r trefydd mawrion mae mwy na hanner y tyddynnau yn anghyfannedd ac y mae'r bobl ieuainc x wedi ffoi tri pheth sydd eisieu i `neud ffarmwr yn shir gâr y dyddiau hyn ebe hen walch wrthyf rai blynyddoedd yn ôl basic slag yn lle tail barbed wire yn lle clawdd a chrwt o sais yn lle gweithiwr ond `roedd trin ar y tir `slawer dydd o'r mynydd du y ceid y calch mae fel ddoe yn fy nghof y tro cyntaf yr euthum yn y wagen i ymofyn calch o'r odynau gyda wil y waginer yr oedd cystadleuaeth lem drwy'r holl gwmpasoedd p'un fyddai gyntaf wrth yr odyn yr oedd yr odynau rhyw ddeg milltir oddiwrth fy hen gartref ac felly yr oedd yn rhaid cychwyn tua chanol nos er mwyn bod wrth yr odyn gyda'r wawr yr oeddem i gychwyn fore llun a gwaherddid ni i dorri'r sabboth drwy ddechreu ar ein taith cyn bod y cloc wedi taro deuddeg ond er nad oedd lle i ni gychwyn yr oedd wil wedi dodi'r pedwar ceffyl yn barod yn y wagen fawr bedair olwyn lester a ventin a duchess a diamond ac wrth gofio onid yw'n hynod fel mai enwau saesneg sydd gennym ni'r cymry ar geffylau enw march rhyfel syr rhys ap tomos gwron maes bosworth oedd llwyd y bacsau ac fel dafydd y ceffyl cwta yr adwaenid ei ewythr ond anghofiodd y bonedd eu cymraeg yn rhyw garn saeson trawsion y troisant a'r groyw iaith wiwdeg gymraeg wrthodant y bonedd yn unig oedd yn berchen ceffylau yn y dyddiau gynt a galwasant hwy ar enwau dieithr ag ychen y byddai'r ffermwyr yn aredig a mynych yr ych o'r iau a bawr lawr ei barlyrrau x a phan ddaethant yn berchen ceffylau ryw ganrif a hanner yn ol dilynent esiampl y bonedd a rhoddasant enwau saesneg iddynt am nad oedd enwau cymraeg wrth law ond enwau cyrnraeg oedd ar bron bob un o'r deg ar hugain gwartheg seren moelen mwyn wen cynffonwen ac felly yn y blaen yn union wedi'r cloc daro'r ergyd olaf o'r deuddeg ymaith a wil fel taranfollt yr oedd er's dyddiau wedi bod yn dwyn ceirch i'r ceffylau nes oeddynt mor llawn ysbryd a hwyl gystadleuol a wil ei hun golygfa hardd gallwn feddwl oedd gwel'd y pedwar ceffyl mawr porthiannus a'u mwng a'u cynffon wedi eu plethu ac yn edrych mor ffroenuchel yn eu cerbyd amryliw coch a glâs a gwyn a meirch rhyfel yr oeddem fel pe tae yn hedeg heibio plâs abermarles wil yn sefyll yn gryf ar ei draed yn y wagen a minnau yn gorwedd yn fy hyd ar wely o wellt yn y gwaelod cyn bo hir clywwn grochwaedd wil yn galw gât o flaen toll borth abermarles nid oedd gennym braidd ddigon o amynedd i aros hyd nes i'r hen wr oedd yn cadw'r gât ddod allan i'w hagor yn enwedig pan glywsom fod wagen cwmbran a wagen glandulais wedi myn'd trwodd eisoes ddeng mynud o'n blaen nid cynt y talwyd y doll ac y derbyniwyd y tocyn nag yr oeddem yn carlamu nerth traed dros bont ar dowy a thrwy bentref llangadog a'r pentrefwyr yn syllu arnom drwy'r ffenestri tra `roedd wil yn slashan ei chwip a thraed y ceffylau a phwys y wagen fawr yn peri i'r ddaear grynu yna rhaid oedd dechreu dringo i fyny drwy gwm sawdde nes d'od i bontarllechau bu twm o'r nant am ysbaid yn cadw hen gât abermarles ac ysgrifennodd englyn i bontarllechau ni welais ef mewn print ond rhoddaf x ef fel y'i dysgwyd ef i mi er na wn a oes na synnwyr na chynghanedd ynddo penigamp groywgamp ar greigiau pincod pencydiad mân lwybrau paunes pennant gomdnt gau pwynt yr holl ochr pontarllechau ar ol y bont rhaid oedd dringo rhiw serth hyd nes cyrraedd yr odynau calch wrth edrych yn ol mae'n rhyfedd gennyf na fuasai llawer cyflafan wedi digwydd oblegid `roedd wil yn gyrru fel jehu yny tywyllwch dudew `nawr ac yn y man byddem yn gorddiwes wagen arall aethom heibio wagen cwmbran a glandulais diolch i'r annwyl er iddynt hwy dorri'r sabboth y creaduriaid brwnt ac o'r chwipian a'r carlamu a'r bloeddio pa fodd y gallasom basio rhyw hanner dwsin o'r wageni yn yr heol gul ac wrth oleu'r sêr yn unig yn ddi anhap nis gwn ac nis gofynnais oblegid yr oedd gennyf yr hyder mwyaf diysgog yn neheurwydd wil fel gyrrwr ond cyrhaeddasom yr odynau fel yr oedd y wawr lâs yn torri dros y mynydd du y cyntaf oll o'n hardal ni rhyfeddais lawer paham yr oedd pobl yr ardal yn siarad am gymraeg cerryg calch neu beth bynnag y rhai hynny o'r ardalwyr oedd wedi treulio peth amser yn y gweithiau os byddai rhywun yn siarad cymraeg gwael trwsgl troednoeth chwedl syr john rhys yn mixio cymraeg a saesneg ys dywedai ceiriog dywedid ei fod yn siarad cymraeg cerryg calch yr oedd y dywediad yn ddirgelwch mawr i mi pan yn grwtyn a synnwn paham a pha fodd yr oedd cerryg calch yn elyniaethus i burdeb yr hen iaith flynyddoedd lawer wedi ymadael â chartref cefais oleuni ar y mater mae'n x debyg mai saeson o wlad yr haf a dyfnaint oedd y cyntaf i weithio calch ar lannau'r môr yn y deheudir yn aberthaw ger y barri yng ngwlad gw yr yn lacharn a lleoedd ereill dysgent ddigon o gymraeg i'w galluogi i ymgyfathrachu â brodorion y wlad ond pidgin welsh oedd eu cymraeg a daeth cymraeg cerryg calch yn ddiarhebol drwy'r deheubarth fe godais heddyw gyda'r wawr gan frysion fawr fy lludded canai wil hopcyn nid yw'r desgrifiad yn un hapus iawn o garwr sydd ar ei ffordd i'r goedwig i gusanu ôl troed ei wen ond yn fy hen gartref codai pawb gyda'r wawr ac nid oedd neb yn fawr ei ludded mor ddiddan oedd sw n yr adar yn telori yn yr ardd a'r berllan a'r anifeilaid yn deffro o'u cwsg y ceiliogod yn canu o flaen yr ysgubor y llaethwraig yn galw'r da wil y waginer yn chwibanu yn y stabal ie ac yr oedd hyd yn oed sw n y moch yn rhochian pan oedd y forwyn fach yn eu bwydo yn llonder ysbryd ac wedi i'r gwartheg gael eu godro a llu o orchwylion eu gorffen wele'r fintai brysur newynog yn tyrru i'r gegin i frecwast am hanner awr wedi saith a phob un o'r gweision oedd ar enw crefydd yn gofyn bendith yn ei dro ac ar ol i'r chwant am fwyd a llyn gael ei osod heibio ys dywed homer a'r ford gael ei chlirio byddai fy nhad a'm mam a ninnau'r plant yn dod i'r gegin o'r neuadd i'r ddyledswydd deuluaidd fy nhad yn dwyn beibl peter williams dan ei gesail ac yn ei osod ar ben y ford ni waeth pa mor brysur ydoedd boed hindda boed ddrychin boed haf boed aeaf boed dymor aredig neu gynhaeaf rhaid oedd cynnal y ddyledswydd deuluaidd os byddai pregethwr yn treulio noswaith yno ef fyddai'n darllen x a gweddio yr oedd fy hen gartref wedi bod yn lletty fforddolion am genhedlaethau ac nid oes odid un o'r hen hoelion wyth na fu'n tynnu wrth raffau yr addewidion yn y gegin fawr `rwyf fi'n cofio ymysg ereill williams llanwrtyd ac ap fychan s r a j r nicholson groeswen a john thomas lerpwl thomas hughes machynlleth a lleurwg david saunders a harris jones trefecca herber a penry evans hiraethog a david roberts wrexham gwalchmai a james nefyn dr rees abertawe a michael jones y bala brythonfryn a chaeronwy matthews ewenny a watcyn wyn garw nas gallwn gofio ymddiddan dafydd williams llanwrtyd yr oedd yn ymylu at gant oed ar y pryd ac yr wyf yn cofio ei fod yn sôn am williams pantycelyn ond beth a ddywedai am dano nis gwn ond cofiaf un frawddeg o'i weddi wrth ford y gegin rho i ni dy nerth o dduw meddai ac yna fe ymladdwn fixed baginet battle â'r diafol ei hun `roedd dafydd williams wedi dechreu pregethu cyn blwyddyn waterloo clywais am lawer ereill o'r hen gewri fu'n cynnal y wasanaeth yn y gegin williams o'r wern a john evans llwynffortun william williams llandeilo ac evans capel seion y tri brawd a rhys price cwmllynfell dr phillips neuaddlwyd thomas jones hermon a lewis powell caerdydd dafydd rees llanelli brutus a rhys dafis y glun bren y gwr llwm ei ddoniau a fu'n foddion i argyhoeddi williams o'r wern pa le a freintiwyd ac a gysegrwyd yn fwy gan draed y rhai fu yn efengylu ond pan na fyddai pregethwr yn aros gyda ni byddai pob un o'r gwrywod oedd yn arddel crefydd yn gweini yn ei dro `rwy'n cofio un frawddeg a x ddefnyddiwyd gan yr ail was un waith adeg hau gwenith gallwn dybio rho i ni o arglwydd ebe ef ras i hau grwn yn y byd hwn fydd yn bleser gyda ni ei fedu yn y byd a ddaw wrth edrych yn ol drwy nidd y blynyddoedd ai tybed fy mod yn colli fy ngolwg ar bopeth ond gwyndud yr hen amser efallai fy mod ond bywyd tawel heddychol yn llawn gweithgarwch amyneddgar a digrifwch diniwed oedd bywyd fy hen gartref fel y daw i'm cof heddyw ynghanol ffwdan afler bywyd arall tra gwahanol ond pe awn yn ol i'm hen gynefin nid yr hen fywyd syml fyddai'n fy nisgwyl oblegid mae dull yr hen fyd wedi myned heibio am byth yn wir yr oedd cysgod cyfnewidiad ar y wlad hyd yn oed ddeugain mlynedd yn ol clywais yr hen frawd dafydd y gam yn dywedyd `rwy'n cofio tair cenhedlaeth meddai y genhedlaeth gyntaf oedd cenhedlaeth bili a belo a chawl yr ail oedd cenhedlaeth mishtir a mystres a broth a'r drydedd yw cenhedlaeth syr a madam a thê x pennod ii mamgu enwau pert yw mamgu a thadcu maent yn awgrymu rhyw diriondeb ac anwyldeb na cheir mewn nain a thaid cu iawn fuost i mi galarnadai dafydd ar ol jonathan a chu iawn fu llawer hen wr a hen wraig i'w hwyrion ni welais fam fy nhad erioed bu farw cyn fy ngeni merch ydoedd i jac harri dafydd neu o'i seisnegeiddio john henry davies pistyll dewi llanfynydd a mab i thomas william thomas ruffydd neu thomas williams o'r crossnant yn yr un plwyf oedd fy nhadcu unig hawl thomas williams i anfarwoldeb oedd iddo dalu am yr unig dipyn ysgol a gafodd bachgennyn a elai dan yr enw twm sali w yr i hen wneuthurwr cychau gwenyn oedd yn byw mewn tyddyn bychan ar ei dir yng nghyflawnder yr amser daeth y bachgennyn yn ddyn enwog neb llai na'r hybarch thomas rees abertawe yr oedd rhyw gweryl wedi torri allan rhwng teulu'r pistyll a theulu'r crossnant ac nid oedd y ddau benteulu yn foddlon i garwriaeth y bobl ifanc rhyw fore wele `nhadcu yn brochgau marchogaeth i landeilo a merch y pistyll ar banier wrth ei sgil a phriododd y ddeuddyn heb gariatad yr hen bobl ffromodd y ddau dad yn aruthr a gorfu i'r pâr ifanc x ymladd eu brwydr heb help llaw eu rhieni ond os gwgu amynt wnaeth y ddau hen wr ystyfinig gwenodd rhagluniaeth ar eu cariad ffyddiog ganwyd iddynt wyth o blant chwech mab a dwy ferch ac yr oedd eu da a'u defaid yn lluosogi flwyddyn ar ol blwyddyn aethant i fyw i'm hen gartref y ffarm fwyaf yn yr holl ardal pan welodd jac harri dafydd fel yr oedd buddiannau bydol ei ferch a'i fab ynghyfraith yn cynyddu a phob peth yn llwyddo dan eu llaw lliniarodd ei lid a'i ddigasedd clywais ddywedyd gan fy nhad fel y maddeuodd yr hen jac i'w ferch henaf am garu'n ôl ei ffansi un bore teg yn yr haf yn daeth hen wr gwisgi i brownhill ar gefn poni felen yr oedd wedi ei wisgo'n daclus i'w ryfeddu mewn cot lâs gwasgod fflwsh a britshis penlin `sanau glânddu'r ddafad oedd ei `sanau ac am ei draed yr oedd esgidiau bach a bwclau arian amynt synnai'r plant wrth wel'd gwr bonheddig dieithr ar y clôs o flaen y ty a rhedasant i mewn i ddywedyd wrth eu mham aeth hithau allan i roesawu'r gwr dieithr ond pan ei gwelodd dyma hi'n gwelwi ac yn crynu fel y ddeilen ac yn llefain o nhad annwyl yr y'ch wedi dwad o'r diwedd odw beti ebe'r hen wr yn grynedig `rwyf wedi dwad cyn marw i ddweyd wrtho ti fy mod wedi maddeu i ti o diolch diolch nhad bach meddai mamgu rhwng ei dagrau dyna'r unig beth sydd wedi fy mecso erio'd ac ni chafodd y mab afradlon well croesaw nag a gafodd yr hen wr ystyfnig calon galed gan ei ferch arhosodd yno am noswaith a mamgu druan oblegid un drafferthus fel martha ydoedd yn methu gwneyd x digon o'i thad na welsai am ugain mlynedd a rhagor bore drannoeth dyma jac yn cychwyn yn ol i lanfynydd ar gefn ei boni a dyna'r tro diweddaf y gwelodd mamgu ef yn fyw diolch i ti beti ebe wrth ymadael am y greso ges i ar dy law fe gofiaf am danat ti yn fy ewyllys torrodd argaeau teimladau fy mamgu ar hyn ac yr oedd ei mwynhad a'i llawenydd yn ddigymysg cyn pen hanner blwyddyn yr oedd jac harri dafydd wedi huno gyda'i dadau ac y mae copi o'i ewyllys yn fy meddiant gadawodd ddwy fil o bunnau'r un i'w dair merch ieuengaf ac am fy mamgu dywed and to my daughter elizabeth as a sign of my forgiveness half a guinea and a pair of blankets yr unig beth arall a glywais am yr hen wraig oedd ei bod yn meddu ar lais cerddgar a soniarus hi a sara daniel oedd yn arwain y moliannu yn ebenezer pan dorrodd y diwygiadau allan yn a williams llandeilo oedd gweinidog ebenezer ar y pryd y gwr a ddaeth a diwygiad ` i'r deheubarth o lerpwl mab yr hafod yn llanfynydd oedd ef ac yn berthynas i'r teulu nosweithiau lawer bu ef a mamgu a mari ei merch a john ei mab yn canu yn y nos yn fy hen gartref alawon y diwygiad mynych y gofynaf a welais i mamgu bancylan mam fy mam mae gennyf rith cof i mi gael fy nghodi i fynny ym mreicmau rhywun i edrych arni yn ei harch a'r amdo gwyn am dani o'r braidd na chredaf fy mod yn cofio ei hwynebpryd yn debyg i fy mam ond yn welw o mor welw ai cof neu rith cof yw hyn anodd gwybod oblegid nid oeddwn ond tair blwydd oed pan fu farw goroesodd yr hen wr fy nhadcu hi am ddeugain mlynedd ond ni wellodd x fyth ei galon friw ni chlywodd neb ef yn dywedyd ei henw na sôn am dani hyd yn oed fy mam a hithau ei unig blentyn ond `roedd ei choffa yn berarogl yn ei hen gartref a hithau ei hun yn aros yno beunydd fel pe tae tu ôl i'r llen ni flinem ni'r plant ar glywed sôn am dani ei hysbryd llon ei direidi diniwed ei charedigrwydd i'r tlawd a'r anghenus ei duwiolfrydedd er mai eglwyswraig oedd hi a'i thiriondeb cariadus atom ni'r plant hoffem yn enwedig glywed y stori am ei thad a'i mham yn brochgau o'u cartref derimoelon ym mhlwyf llanegwad i ymladd a'r ffrancod oedd wedi glanio yn abergwaun yn gan adael y plant yn ddi amddiffyn gartref bid siwr ni anwyd mamgu am flynyddoedd ar ol hynny ond nid oedd waeth am hynny ac fel yr edmygem hen gleddyf rhydlyd ei thad oedd yn hongian uwch ben y tân yn bremenda isaf lle'r oedd ei brawd hynaf yn byw oblegid nid oedd cleddyfau mor gyffredin yn y dyddiau tywyll hynny ag ydynt yn yr oes oleu hon yr oedd fy nhadcu yn berchen ar ei ffarm wedi ei chael yn etifeddiaeth oddiwrth ei ewythr williams y `ffeirad dyn pwysig yn ei ddydd a'i dymhor oedd y parch thomas williams m a gynt o goleg wadham ym mhrifysgol rhydychen bu yn ficer llansadwrn a llanwrda o hyd yr oedd ganddo bump bywioliaeth arall un o honynt mor bell a rhandirmwyn oherwydd dyddiau'r pluralists oeddynt a gelwid ef ar lafar gwlad yn angel y saith eglwys ond mae'n debyg y perchid ef gan ei gyfoedion oblegid rhag brifo'i deimladau ni chodwyd un ty cwrdd ymneillduol yn llansadwrn yn ei ddydd yr oedd llawer o seintiau'n byw yn y plwyf ond x addolent mewn tai annedd ac ysguboriau ac aent i dderbyn cymundeb bob pen mis i grug y bar un o honynt oedd yr enwog nansi jones godreu'r mynydd ond gan mai yng nghrug y bar yr oedd yn aelod fel nansi jones crug y bar yr adwaenid hi yn ei dydd ac hyd yr awr hon hen gyfaill annwyl a chymydog agos iddi oedd dafydd sion edmwnt achubwyd ei enw rhag myned ar ddifancoll ar y ddaear gan un o bregethau john williams castell newydd emlyn brawd fy nhad clywais lawer o adrodd ar y bregeth hanner can' mlynedd wedi iddi gael ei thraddodi a chlywais herber ac owen glandwr a brythonfryn ac ereill yn dynwared y pregethwr tanllyd son yr oedd am farwolaeth y duwiol a chyferbynnai farwolaeth thomas hobbes yr athronydd a dafydd sion edmwnt ar ol manylu ar alluoedd a gwybodaeth yr athronydd desgrifiai ei wely angeu a'i eiriau olaf a leap in the dark ond am dafydd sion edmwnt beth wyddai fe am ddaearyddiaeth na daeareg ond dyfnder pâl yn yr ardd iddo fe gael digon o gennin erbyn y gwanwyn beth wyddai dafydd sion edmwnt am seryddiaeth ond digon i ddanfon mali i gornel y ty i wel'd os oedd y lleuad wedi codi iddo fe gael goleu i fyn'd drwy'r cwm i'r cwrdd gweddi ond pan ddaeth dafydd sion edmwnt i lyn tywyll cysgod angau llefodd fe welaf doriad dydd gerllaw bedd yr hen ficer y claddwyd fy mamgu ym mynwent y plwyf carreg lwyd ddiaddurn a ddengys man fechan ei bedd uwchben yr hen ficer y mae rhywun wedi codi carreg fedd ac wedi cerfio arni feddargraff lladin copiwyd ef y dydd o'r blaen gan dri o raddedigion prifysgol cymru a danfonwyd ef i mi dyna newid ar fyd tri gwr ifanc graddedig x yn gwario eu gwyliau yn y pentref bach anenwog ie ac y mae llawer yn rhagor o wy r dysgedig wedi eu codi yn llansadwrn erbyn hyn dyma'r tipyn lladin a gyfieithiais yn gyntaf erioed ond balbus mensam facit a ffwlbri cyffelyb o'r primer yn ysgol y plwyf yr oeddwn ar y pryd na synned neb glywed i mi ddechreu dysgu lladin yn y board school yn cynygiodd viscount sandon gweinidog addysg y pryd hwnnw roddi ysgol rydd i blentyn fuasai'n pasio'r arholiad o standard iv ymhob testyn cyn ei fod yn un mlwydd ar ddeg oed bum i mor ffodus ac ennill yr ygoloriaeth ond yr oedd amod ynglyn â hi sef fod yr ysgoler i ddewis special subject yn ychwanegol at wersi arferol yr ysgol ni wn paham ond y testyn arbennig a ddewisais i oedd lladin euthum ym mhen ychydig i'r fynwent i geisio dehongli beddargraff fy nghâr yr hen ficer fel hyn y darllena hic jacet vir admodum reverendus thomas williams qui cum vicarius fuisset hujus ecclesiae per spatium vi et xxx annorum cum summo omnium maerore obiit dic vii men sept a d mdcccxxvi aet lxix in memoria aeterna erit justus psalm cxii ond er marw mamgu cyn fod fawr cof gennym ni'r plant am dani clywsom lawer o son am dani gan y cymydogion a'r ardalwyr am ei dull digrifbert o wau ei dedwydd ddywediadau x ond yr hyn efallai a wnai i ni ryfeddu mwyaf oedd ei bod wedi cyfansoddi barddoniaeth nid er mwyn cystadlu mewn eisteddfod ychydig o eisteddfodau a geid yn nyffryn towy yn ei hadeg hi nac er mwyn ei gyhoeddi mewn cylchgrawn neu newyddiadur ni phrintiwyd llinell o'i heiddo yn ei bywyd ac ni wyddai neb ei bod yn barddoni ar ol iddi farw cafwyd gafael mewn llyfryn bychan yn ei llawysgrif yr hwn a orwedda o'm blaen fel yr wyf yn ysgrifennu gallwn feddwl fod hanner y tudalennau wedi eu dinystrio ar un tudalen fe geir cyfarwyddyd ffordd i wneyd furniture polish ar dudalen arall ceir dan y dyddiad june to herbert davies lbs of wool for blankets july lbs of grey wool july lbs of grey do yna yn gymraeg y modd i godi unrhyw saim oddiar ddillad a phethau cyffelyb ond ar rai tudalennau yr oedd penillion wedi eu hysgrifennu na wyddai neb am danynt o'r blaen beth a gynhyrfodd gwraig ffarmwr syml i geisio barddoni ffarmwr oedd ei thad ac ni chafodd hithau mae'n dra thebyg lawer o ysgol ac yn sicr ni chafodd gyfarwyddyd mwy na minnau ffordd i ysgrifennu'r gymraeg bid siwr nid oes llawer o werth llenyddol yn y farddoniaeth ond nid dyna'r pwnc pa fodd y daeth gwraig ffarrnwr heb gael cyfarwyddyd gan neb i ysgrifennu penillion o gwbl os gall neb ateb y gofyniad gwnaiff ddeongli cyfriniaeth y bywyd cymreig a gwna esbonio dirgelwch arbenigrwydd yr hen genedl ymysg cenhedloedd y ddaear ar un adeg mae'n amlwg fod cyflwr ei brodyr yn blino ei hysbryd tyner x o na b'ai fy mrodyr annwyl yn ufuddhau'r efengyl fwyn ac i'r drefen ogoneddus yr iesu'n marw er eu mwyn dyro iddynt ras i weled y fath ogoniant ynot ti nes y delont a'u teuluoedd i lefain arglwydd achub ni o am fodd i hau i'r ysbryd tra fo'm yn y byd yn byw fel cawn fedi mewn llawenydd yn y nefoedd gyda'm duw y mae'r adeg yn yr ymyl nad oes dim a dâl i ni ond fo rhyngom yn sylweddol yr ochr yma a thydi un o ragorolion y plwyf oedd sarah thomas neu i roi ei henw cyffredin yn ol dull gwledig ein cyndeidiau sara daniel yn ebenezer ty cwrdd yr annibynnwyr yr oedd sara'n addoli ond nid oedd anghariadoldeb yn ffynnu yn y dyddiau hynny rhwng eglwyswyr ac ymneillduwyr eglwys wraig o'i mebyd i'w bedd oedd fy mamgu a'r unig gysgod ar heulwen eu bywyd priodasol oedd fod fy nhadcu ac yntau wedi ei godi gan yr hen fam ac yn un o etifeddion yr hen ficer wedi troi'n fethodus ar ol symud i lansadwrn ond o barch a chariad tuag ato ai mamgu i'r capel am ddeg bob bore sul gyda'i phriod ac yna äi'r ddau am hanner awr wedi un ar ddeg i'r gwasanaeth i eglwys y plwyf deuai'r ficer i holl oedfaon y diwygiad a llawenychai wrth wel'd y defaid oedd ar ddisperod yn cael eu dwyn yn ôl o'r anialwch ac ni chenfigennai am eu bod yn myn'd i gorlan arall na'r eiddo ef yn un oedfa wlithog gwaeddodd sara daniel allan yng ngwres ac angerddoldeb ei hysbryd x tanbaid dere am dro arglwydd yn dy gerbyd achub a dyna fu arwyddair diwygiad yn yr ardal er mai eglwys wraig oedd mamgu yr oedd hi a sara daniel yn gyfeillion mynwesol gwraig dlawd yn byw mewn bwthyn bach tô gwellt yn y pentref oedd sara ond flynyddoedd ar ol iddi ymadael siaredid am dani fel mam yn yr israel ysgrifennodd fy mamgu ychyclig bennillion syml er coffa am dani ti ddisgwyliaist lawer sara am i'r amser ddod i ben it' gael gwel'd dy annwyl iesu a'i fwynhau ef yn ddilen fe ddaeth adeg dy ogonedd ar yr eilfed ddydd o fai ce'st dy ollwng o'th gaethiwed at y gwaredigol rai yn dragwyddol debyg iddo dyma'th amcan tra fo't byw cefaist hynny `nghyd a phobpeth a ordeiniwyd i blant duw y garreg wen alr enw newydd d'wedaist wrthyf yn dy ddydd oedd yr adnod a fendithiwyd iti gael dy draed yn rhydd y cuddiedig fanna nefol a'th gynhaliodd ar dy daith ac a'th nerthodd yn yr anial ysbaid hir flynyddoedd maith pwy mor barod i gyhoeddi doniau'r arglwydd yn ei dy ar bwy eto y gorffwysa deuparth o dy ysbryd di bu yn bleser genni'th glywed yn y cyrddau lawer pryd dy ddull ath lais'n gwaeddi diolch am gyfreidiau gras i gyd x yn dy gystudd buost dawel cedwaist olwg ar y nôd pwy na ddwed wrth wel'd dy hyder am fodd i ddilyn ôl dy dro'd cefaist ti fynediad helaeth `mhlith angylion tua thre rhai sydd wedi eu hordeinio i weinir sawl ai carant e' `nawr mi'th welaf dithau yna `mhlith y dorf o fewn i'r nef `n canu'r gloch ddechreuaist yma diolch byth i'w enw ef daeth i'm meddwl wrth fyfyrio am dy holl ddedwyddwch di na pherffeithir ddim o honot heb ryw wael un fel myfi ac os byth caf ddyfod atat i drigiannu yn y nef diolch iddo fyth ni ganwn clod a mawl i'w enw ef ni roddaf yma'r penillion marwnadol ereill a geir yn y llyfryn dyfynnais ddigon eisoes i ddangos gymaint oedd dylanwad pantycelyn arni ni roddaf chwaith ond dwy o'r emynau a gyfansoddodd er nad oedd hi druan yn ei gwyleidd dra wedi beiddio rhoddi'r fath enw uchelgeisiol arnynt tragwyddoldeb tragwyddoldeb sydd yn faith heb un terfyn minnau'n gyflym ar fy nhaith sydd yn cychwyn arglwydd cyfiawn santaidd pur rhaid wynebu modd i lynu wrth y gwir yw fy ngweddi x `nawr yw'r adeg i bar'toi gwnawn ystyried cyn y caffo'r drws ei gau rhaid ein harbed os diangaf ddydd a ddaw minnau gana' ar fryniau gwyn caersalem draw `haleliwla ar fin yr afon mae angeu yn y babell rwyf yn ei deimlo `nawr yn gwasgu'm natur egwan nes yw'n fy llethu lawr o am gael `nabod iesu heb un amheuaeth ddim cyn myn'd i rydiau'r afon ei fod yn briod im' hawdd gennyf gredu y try'r colegau allan sydd erbyn heddyw'n britho'n gwlad wragedd mwy eu gallu a'u diwylliant na jane davies banc y lan ond os cadwant ei chalon dyner a'i phurdeb ysbrydol a'i ffydd syml gwyn eu byd a gwyn fyd y wlad a'u magodd x pennod iii yr hen lias yn yr hen amser gynt `roedd yn arferiad yn llansadwrn i dalu pum punt er gwneuthur plentyn tlawd yn brentis plwyf yr olaf o'r prentisiaid oedd yr hen lias fel ei gelwid pan gofiaf fi ef gyntaf prentisiwyd lias pan yn grwtyn deng mlwydd oed yn was bach neu page boy gydag admiral syr thomas foley ym mhlas abermarles yr oedd yr admiral wedi priodi lady lucy fitzgerald merch y duc leinster a chwaer lord edward fitzgerald gwr pamela a gwron gwrthryfel ef oedd y cyntaf yn ei long ryfel y goliath i ymosod ar y llynges ffrengig ym mrwydr y nile ac ar ei long ef yr elephant yr oedd nelson ym mrwydr copenhagen ac wrth ei ochr ef y safai'r gwron pan gododd ei ysbienddrych at ei lygad tywyll bu farw yn yn admiral of the fleet yn portsmouth ym mreichiau lias y prentis plwyf o fynydd llansadwrn aeth ei weddw lady lucy i fyw i ffrainc lle y treuliodd y gweddill o'i dyddiau a lias gyda hi pan fu'r hen foneddiges farw tua gadawodd ddwy fil o bunau yn y three per cents i lias i fyw ar yr iws interest a ffarm llettyrywen gerllaw fy hen gartref yn eiddo iddo tra byddai byw pan aeth lias i abermarles yn grwtyn ni wyddai air o saesneg ar ol byw gyda'r hen admiral yn lloegr am flynyddoedd anghofiodd x yn agos bob gair o'r hen iaith wedi aros yn ffrainc am ddeng mlynedd a rhagor yr oedd yn fwy cyfarwydd a'r ffrangeg nag a'r saesneg ac yna pan oedd tua hanner canmlwydd oed daeth yn ol i fyw yn yr hen blwyf lle nad oedd ond ambell un yn gallu dim ar yr iaith fain `rwy'n cofio fel engraifft y tro y daeth sparbil o gapten yr hwn oedd wedi newydd briodi ag aeres ystâd gyfagos i ymweled â threftadaeth ei wraig daeth ar ei dro i'n ty ni dangoswyd ef i'r parlwr ystafell na ddefnyddid ond pan fyddai pregethwyr mawr yn aros gyda ni gofynnodd fy nhad iddo'n foesgar os dymunai gael rhywbeth i fwyta neu i yfed dyna'r cwestiwn cyntaf a ofynnid bob amser i ymwelydd mae gyda ni ddigon o bopeth yma arferai fy nhad ei ddywedyd ond gras ac arian atebodd y capten yr hoffai gael glasiaid o home brew oblegid yr oedd pob ffarmwr yn darllaw yn y dyddiau hynny yr oedd darluniau gladstone a bright ar y muriau a golwg sur a sarug a daflai'r capten arnynt nid oedd moesgarwch yn goddef i fy nhad adael yr ymwelydd wrtho'i hun ac yr oedd mam oddicartref nid oedd dim i'w wneyd felly ond rhoddi rhywbeth i'r gwr bonheddig i'w ddarllen tra byddai fy nhad allan o'r ystafell ond nid oedd ond un llyfr saesneg yn y ty sef the missionary travels of the rev thomas thomas in south africa ac wele fy nhad druan yn ei ddiniweidrwydd llednais yn cynnyg hwnnw i'r capten tra yr elai ef allan i ymofyn y ddiod beth fu achos yr anghydfod a gymerodd le wed'yn rhyngddynt ni allaf ddywedyd gyda sicrwydd oblegid nid oeddwn ond rhyw saith neu wyth mlwydd oed y pryd yn dilyn fy nhad yma a thraw pa un ai'r x darluniau radicalaidd ar wal y parlwr goreu ynte llyfr y cenhadwr cymreig neu rywbeth arall ni allaf benderfynu gan nad p'un pan oeddem ein tri yn yr ydlan dyma'r capten yn dywedyd rhywbeth swrth wrth fy nhad yn saesneg ni ddeallais beth ac yr oedd fy nhad fel llawer cymro arall dipyn yn wyllt ei natur fflamiodd fel mellten ond nid oedd ganddo ddigon o feistrolaeth ar y saesneg i ddweyd ei feddwl wedi methu cael gafael ar eiriau cydiodd yn ysgwydd y capten a throdd ef yn rownd nes oedd yn wynebu gât yr ydlan see that gate man ebe'n gynhyrfus then wâc thro' it a myn'd wnaeth y capten fel ci a phadell wrth ei gwt ond i ddod `nol at lias ar ol dychwelyd i lansadwrn priododd â merch o'r pentref a gwriaeth ei oreu i ddyfod yn ffarmwr er gwaethaf ei holl ymdrechion ni fu fawr llewyrch ar ei amaethu valet oedd lias ac anodd gwneud ffarmwr o hen valet ceisiodd ail ddysgu'r gymraeg ond rhyw gymysgedd ryfedd a siaradai o gymraeg a saesneg ac aml lw neu air llusg yn ffrangeg nid oedd ball ar storhaus am yr hen admiral a lady lucy yn enwedig lady lucy gan mor fynych yr oedd ei henw ar ei dafod lady lucy y galwai griffith y gof yr hen lias a glynodd y llysenw wrtho tra fu byw erbyn i mi gyrraedd oedran i ddeall beth oedd lias yn siarad am dano yr oedd pobl yr ardal wedi hen `laru flino ar ei storhâus yr oedd yr hen wr wedi myned yn drwm ei glywed a chymerai awr i ddywedyd hanesyn y byddai adroddwr deheuig yn gallu ei ddweyd mewn degwm o'r amser yn ei henaint felly digwyddodd lias ar ddyddiau blin nid oedd neb yn foddlon gwario awr i wrando ar y laudator temporis acti yn x ymffrostio yng ngwrhydri'r hen adrniral a glendid lady lucy a'u dywediadau pert a'u gweithrediadau digymhar er nad oedd llettyrywen ond lled cae oddiwrth fy hen gartref ni wyddwn i lawer am yr hen lias hyd nes yr oeddwn tua deuddeng mlwydd oed dechreuodd dafaden wart dyfu ar drwyn lias dywedodd y meddyg wrtho mai cancer ydoedd ac na ellid ei gwella ond yn y dyddiau gynt `roedd llawer o ddoctoriaid bôn clawdd yn yr ardal yn llansawel yr oedd doctor esgyrn yn llangadog trigai gwr oedd yn berchen ar eli llosg tân digyffelyb yn nhal y llychau yr oedd gof a chanddo eli ardderchog at wella'r ddarwden ringworm a fflamwydden erysipelas ac yn y plough inn ym mhentref caio yr oedd gan morgans y tafarnwr eli digymhar at wella cancer penderfynodd lias dreio meddyginiaeth y tafarnwr a chan nad oedd càr ganddo syrthiodd y gorchwyl arnaf fi i yrru'r hen lias unwaith yr wythnos i gaio i gael eli cancer ar ei drwyn fel yna y deuthum i'w adnabod ac i hoffi ei ddirif ystoriau yr oedd adgofion yr hen lias yn gystal a chrwth a thelyn i imi gan nad oeddwn erioed wedi darllen un nofel ond taith y pererin a chaban f'ewyrth twm ni chafodd yr hen lias erioed o'r blaen y fath wrandawr ac o'r pryd hwnnw hyd ddydd ei farwolaeth edrychai arnaf fel silly bucket ys dywed coleridge i arllwys ei adgofion iddo wyddot ti pam mae dy gartre'n ca'l ei alw'n brownhill meddai un tro na mon dieu what ignorance wel pan dalwyd y prize money i'r hen adrniral ar ol the battle of copenhagen thousands and thousands of pounds penderfynodd brynu stât x cete va sans dire that's what all the admirals did he was the son of the squire of ridgeway in pembroke ond stât fach oedd honno not big enough comprenez vous for a great man like sir thomas `roedd stât abermarles yn cael ei gwerthu it had been in chancery for years and more a fe brynnodd yr hen admiral ei hanner a williams y `ffeirad your ancestor mon ami gwarter o honi `roedd yr hen blâs wedi myn'd yn hopeless ruin no one living there for years a fe dynodd yr admiral ef i lawr ac o'r cerryg fe gododd blas newydd abermarles a thy ffarm brownhill cododd hefyd y ty bach lle mae isaac nathan yn byw a galwyd hwnw'n copenhagen ar ol y battle wel'd di he wanted to call your house copenhagen farm but my lady would not have it lady lucy was a great admirer of bobby burns all the whigs loved burns and hated william pitt a chan fod bobby wedi bod yn byw unwaith mewn lle o enw brownhill brownhill y galwyd the new house ni wn hyd y dydd heddyw a ydoedd esboniad yr hen lias yn iawn ai peidio am yr enw ond credaf ei fod yn iawn wrth ddywedyd mai o gerryg hen blâs enwog abermarles yr adeiladwyd brownhill yn yn yr hen blâs y cynlluniodd dr lewis meddyg iarlles rismwnt a rhys ap tomos pa fodd y gallai harri tudur lanio yn aberdaugleddau a goresgyn cymru a lloegr yno hefyd y llawnododd ficer pritchard ei ewyllys wel wel mae'r ffaith i mi dynnu fy anadl gyntaf rhwng cerryg yr hen blâs yn dwyn cymru fu rywfodd yn agosach ataf we always loved to have the napier boys staying with us eb ef dro arall roedd lady lucy'n x perthyn yn agos iddi nhw eh bien those were great days `roedd y cryts bob amser yn full of fun and frolick i remember once lady lucy heard that charlie was killed in the peninsula fe gadd pob gwasanaeth ddyn suit of mourning ond ma foi the first day we wore them who should turn up but charlie himself and what a feast we had ond efallai mai ei `stori oreu yn ol fy marn i ar y pryd oedd ei ddesgrifiad byw o'r guillotine ar waith yn paris yn a'r pennau wedi eu hysgaru a'r cyrff yn dawnsio yn y basged nid oeddwn byth yn blino ar glywed yr hanes ac ar ol i mi ei adrodd wrth blant yr ardal byddent yn tyrru at yr hen lias ar y ffordd fawr ac yn gweiddi dwedwch wrtho ni lias lewis ffordd mae nhw'n torri penne bant yn ffrainc un haf pan oeddwn gartref ar fy ngwyliau digwyddodd amgylchiad ynglyn â'r hen lias sydd wedi bod yn destyn llawer ystori gyfeiliornus ac felly gwell yw i mi adrodd yr hanes yn union fel y digwyddodd un bore ym mis awst daeth mari lloegr fach i ddywedyd wrth mam fod willie'r mab wedi cael gafael ar ddwy goes ôl mochyn yn un o'r caeau tyddyn bach a lle i gadw pedair buwch oedd lloegr fach nid nepell o'm hen gartref bu unwaith yn dafarn a'i enw'r pryd hynny oedd parc y beili ond ar ddechreu'r ganrif olaf pan oedd plâs newydd abermarles yn cael ei adeiladu daeth gweithwyr o saeson i westya yno a chan gymaint o saesneg a glywid yn y ty galwodd yr ardalwyr doniol ef yn lloegr fach ac fel y gw yr pawb oddiar pan alwodd gw yr antioch ddeiliaid y grefydd newydd yn gristionogion hyd ein dyddiau ni `does dim a ly m fel llysenw x enw ac wrth yr enw lloegr fach yr adwaenir parc y beili hyd heddyw yr oedd mari mewn cryn bryder oherwydd ni allai ddirnad ffordd y daeth y darnau mochyn i'r cae ac yr oedd yn ddrwgdybus mai rhyw elyn iddi oedd wedi eu taflu yno beth `na i mystres fach ebe'n gythryblus dwy i ddim am i neb dowlu i'n ngwyneb i na'r plant nad ydym ni ddim yn bobl onest o meddai mam mae llewelyn yn myn'd i bosto llythyron yn llangadog y prydnawn a geiff e' ddweyd wrth y polis ac felly bu pan oeddwn yn ei throedio'n gyflym tua'r pentref pwy welwn ar ochr yr heol a cheffyl a chart a gwas gydag ef ond yr hen lias nid oedd gennyf amser i wrando ar storhâus dibendraw yr hen wr hanner byddar ac felly aethum heibio yn dawel a llechwraidd gan hyderu na welsai fi ond siomwyd fi cyn i mi ei basio ugain llath clywn lais yr hen fachgen yn gweiddi c'est tu scelerat be' gebyst sy' arnat ti'n rhedeg heibio fel `na heb `weyd siw na miw wrtha i `does gen i ddim amser i aros lias bach meddwn innau beth yw'r hast sy' amat imbecile gwaeddai lias mae eisieu gwel'd y polis ama i ebe finnau y polis gofynnai lias pwy eisieu nhw sy' arnat ti chlywsoch chi ddim naddo wir i dduw ebe lias fe gawson afel mewn corff ar dir lloegr fach bore heddi meddwn innau x sacre bleu gwaeddai lias murder at our doors and we know nothing of it mae'n waeth na gwerddon `ma dyn neu feniw o'dd e' o corff meniw oedd hi meddwn innau o'r fileined d ebe lias and how old was the poor thing i can't say meddwn innau but her hair was quite white a lez vite mon ami ebe lias bant a ti `ngwas bach i paid loetran a dwed wrth y plisman am fwstro there's not a moment to lose ac ymaith a fi heb feddwl rhagor am y peth ond fy mod wedi cael y goreu ar yr hen lias pan ddaethum i'r pentref ac wedi posto'r llythyrau euthum i ddweyd y stori wrth y plisman ac addawodd yntau ddyfod cyn nos i loegr fach arhosais yn y pentref am awr neu ddwy yn hollol ddifeddwl ddrwg wedi anghoflo'r hen lias ac ar ol tê troais fy wyneb tuag adre' pan ddeuthum i gât abermarles gwelais rhyw ddwsin neu ragor o geir o flaen y square and compass a chlywn lais clochaidd yr hen lias y tu fewn yn baldorddan am y murder oedd wedi cym'ryd lle yn lloegr fach nid oedd dim i'w wneyd ond ei gwanu hi gartref gynted ag y medrwn erbyn hyn `roedd y sôn wedi myn'd ar led fel y gwna mewn ardaloedd gwledig fod cyflafan erchyll wedi cym'ryd lle yn lloegr fach danfonodd rhywun am y sergeant o lanymddyfri a daeth hwnnw a dau blisman gydag ef i wneud ymchwiliad i'r terrible tragedy fel y'i gelwid yn y papurau newyddion bore drannoeth john crwca oedd y gohebydd ac x am ddeuddeg awr `roedd john yn tybio ei fod yn fwy o ddyn na golygydd y times y cyntaf i gyrraedd lloegr fach oedd john saer cwmllife gwelodd arthur mab lloegr fach yn brwsho'r clôs o flaen y ty `roedd john yn gosod cryn fri arno ei hun fel llenor a phan yn gwneuthur coffin neu mewn angladd `roedd bob amser yn siarad cymraeg clasurol maent yn d'eyd wrthyf fi arthur ebe john yr oedd yn hoff o fenthyg priod ddull y gogledd ar achlysuron difrifol maent yn d'eyd wrthyf fi fod damwain alaethus wedi cymeryd lle yma heddyw'r bore beth gofynnai arthur yn syn clywais ddeyd ebai john eich bod wedi cael gafael ar gorff ar un o'r caeau o do atebai arthur ac fod y gelain wedi ei sybedu'n arswydus meddai john edrychai arthur yn hurt am foment yna dywedodd gyda gwên o `rwy'n diall `nawr do do `roedd ei hams hi wedi ca'l eu torri bant hams y crwt melldigedig rhuai john hams cofia'r bredych brwnt dy fod yn siarad am fenyw'n gorwedd yn ei gwaed meniw llefai arthur ond hwch yw hi hwch meddai john hwch wel wel ni fydd dim eisieu coffin arni sownd a throdd ymaith fel y gwr ieuanc goludog yn athrist cyn pen nos yr oedd yr holl ardal yn ferw drwyddi gyda'r newydd ac fel yr oedd gwaetha'r modd `roedd x cwrdd gweddi'n digwydd bod yn y pentref erbyn hyn `roedd pawb ond y gweinidog wedi dyfod i wybod mai canard ys dywedai yr hen lias oedd y stori wrth ddiweddu'r cyfarfod defnyddiodd y gweinidog ryw eiriau fel hyn gwared di arglwydd rhag y picellau sy'n ymlid liw nos bydd yn dyner wrth anwyliaid y chwaer a gollasom mor ddisyfyd c ni chlywodd lias druan y diwedd fyth ar stori'r hwch ond chware teg iddo estynnodd lawn faddeuant i mi tu malin meddai wrthyf yn twyllo hen ddyn but boys will be boys i remember charlie napier once a gorfu i mi wrando ar ryw stori ddiddiwedd am hwnnw ac yr oedd yn falch gennyf mai dyna'r unig benyd a dalais am rigan yr hen lias `doedd dim defence of the realm act mewn bod y pryd hynny os oedd yr hen lias yn hanner addoli'r admiral a lady lucy edrychai ar y capten oedd yn briod ag aeres abermarles gyda dirmyg ysgornllyd nid oedd dim a wnelai'r capten yn iawn that is not how things were done by sir thomas and lady lucy oedd ei fyrdwn bob cinio rhent llawer i ysgarmes boeth a gymerodd le rhwng y capten â hen pensioner y teulu a chan fod y ddau'n dafodrydd celai'r deiladon hwyl fawr wrth wrando ar y ddau'n bragawthan ac yn chwythu bygythion a chelanedd un yn erbyn y llall yr oedd lias yn feistr ar lwon mewn tair iaith ond bu'r capten fyw am flynyddoedd yn quebec ac yr oedd yn well ysgolor yn y ffrangeg na'r hen lias barn y gymydogaeth oedd fod y capten yn x cael y goreu ar lias gan gyfoethoced ei vocabulary a hyawdledd ei regfeydd o'r diwedd yn llawn o ddyddiau bu farw lias a chladdwyd ef ym mynwent y plwyf yn agos i fur dwyreiniol yr eglwys cyn pen blwyddyn ar ei ôl bu farw ei hen elyn y capten a thrwy ryw hap penderfynwyd ei gladdu gerllaw'r hen lias digwyddodd tom fy mrawd fyn'd i'r fynwent pan oedd bedd y capten yn cael ei dorri wyddoch chi pwy sy' wedi ei gladdu man yna gofynnai'r torrwr beddau gan bwyntio at fedd lias na wn wir atebai `mrawd yr hen lias ebe'r torrwr beddau ag a wyddoch chi lle `rwy' i'n myn'd i ga'l fy nghladdu na wn i meddai `mrawd rhwng y ddou ebe'r torrwr beddau `wa'th fe fydda i'n codi o'u bla'n nhw mae'r gair yn dweyd mai'r meirw yng nghrist a adgyfodant yn gyntaf ond ni wna' i syflyd o'r man yma hyd nes y coda' nhw a gwel'd i gilydd y mowredd annwl dyna reiets fydd gyda nhw x pennod iv twmi price gwr bach tew graenus oedd twmi price pum troedfedd a modfedd o hyd ac yn agos cymaint a hynny o led yr oedd yn llydan drosto ond yr oedd fel stond yn lletach yn ei ganol nag mewn un man arall edrychai twmi mor ddiniwed a'r golomen ond dywedid fod nid ychydig o gyfrwysder y sarff ganddo hefyd gof oedd o ran ei grefft yn hanner brawd i griffith y gof ond wedi iddo briodi â gweddw'r three horse shoes rhoddodd y goreu i'r efail a daeth yn dafarnwr digon medrus i allu cynnal y fusnes ymlaen ar ol colli marged ei wraig ie a llwyddodd gymaint yn ei amgylchiadau fel mai ef oedd y vicar's churchwarden ym mlynyddoedd olaf ei fywyd yr oedd yn meddu fel y teulu i gyd ar lais soniarus ac yr oedd ei glod drwy'r holl gwmpasoedd am ei ddatganiad o hob y deri dando glan meddwdod mwyn ar hyd y nos ac ereill o'r hen alawon ond ei gampwaith meddid oedd tair cân na welais mewn llyfr erioed yr eneth wrthodedig daeth mwydyn i maesteilo a `stim posib a chael nid wyf yn cofio geiriau'r ddwy gyntaf ond dyma fel y cofiaf fi eiriau'r olaf x `rwy' `nawr yn un ar hugain oed heb damed o faraf a loesen mae'n ngwyneb i yn gwmws fel gwyneb rhyw hen groten cydgan `stim posib a cha'l `stim posib a chocl `stim posib ca'l baraf a loosen wrth brynu a gwerthu ebol blwydd enillais hanner sofren a honno i gyd a rown yn rhwydd am damed o faraf a locsen i siop y druggist `n union es a gofyn wnes yn syden os gennych chi ddim rywbeth i roi i fi i ga'l baraf a locsen o dyma eli gwerthfawr iawn a hwnnw'n eli gwawrgoch wrth rwbio'n dda a rhwbio'n lew cewch wishgers lle y mynnoch wrth fynd i'r gwely rhwbio wnes a rhwbio nes bo'n twymo a bore dranno'th synnu wnes yr own i'n wishgers drosto edrychid ar twmi am ryw reswm neu'i gilydd fel gwr oedd o flaen ei oes ni allaf ddywedyd pam oherwydd nid oedd wedi cael fawr o ysgol ac nid oedd chwaith yn ddarllenwr ni chlywodd neb ef erioed yn `nelu siarad saesneg ac yn wir yr wyf yn ddirgel gredu ys dywed y pregethwyr na wyddai ond ychydig eiriau o'r iaith fain x un gaeaf bu i rai ohonom rai'r bobl ifenc gychwyn darllenfa yn y pentre ac er mwyn diddori'r rhai nad oeddynt yn hoff o ddarllen prynwyd draught boards yr unig chware o'r fath a welwyd yn y plwyf o'r blaen oedd chware carw rhyw fath o backgammon ond ar ol dysgu'r ffordd i chware draughts cyfaddefai pawb fod y chware newydd yn llawer trech na chware carw lledodd y bly s am y chware newydd fel haint y nodau drwy'r ardal yr oedd y ddarllenfa'n llawn bob nos a'r tafarndai'n wâg gwnaeth rhai o'r tafarnwyr brynu draught boards er ceisio denu eu hen gwsmeriaid yn ol un dydd pan oedd ffair yn y pentre aeth dau w r i'r three horse shoes a gofynasant i twmi os oedd draughts ganddo safodd twmi'n llonydd am eiliad neu ddwy yna meddai na `does dim draughts gen i ond mae gen i druman a burton ac allsopps wedi clywed sôn am draught beer yr oedd twmi mae'n debyg heb erioed ddeall ei ystyr er nad oedd ei arabedd mor gyfoethog ag eiddo griffith ei frawd eto adroddid llawer stori ddigrif am twn i un tro `roedd twmi a marged ei wraig yn dychwelyd yn lled hwyr o'r gwter fawr yr ochr arall i'r mynydd du marged yn gyrru'r cel ceffyl bach a twmi'n cysgu wrth ei hochr pan ddaethant at garreg fawr abermarles lle'r oedd bwci'n aros bob amser safodd y ceffyl yn ddisymwth treiai marged fel y mynnai `doedd dim modd cael jac i symud ac o'r diwedd gorfu iddi ddihuno twmi ac ebe twmi pan ddeallodd beth oedd yn bod be' sy' na howyr bach pwy sy'n stoppo'r cel bach i fyn'd tua thre nid yr hollalluog mi wranta wa'th `dyw e' ddim yn gneud drwg i neb a nid y x d wa'th `rwy' i wedi priodi `i whar e' come jac `y ngwas i bant a'r cart a dyma jac wedi clywed llais ei feistr yn myn'd yn ei flaen yn ddiddig ei wala bu twmi am flynyddoedd yn cario caws a `menyn ac wyau a blawd ceirch i'r gwter fawr nid oedd relwê yn nyffryn towy'r amser hwnnw ac äi twmi bob nos wener yn y cart gyda jac gan gyrraedd y gwter fawr fel y gelwid brynamman yn gynnar bore dydd sadwrn `roedd rhai pobl faleisus yn drwg dybio mai nid caws a `menyn yn unig a gariai twmi ond fod ffesants a phetris i'w cael weithiau yng ngwaelod y cart un tro pan oedd yn myn'd drwy bontarllechau daeth plisman at twmi stopiwch twmi ebe fe oes game gennych chi heno game atebai twmi game oes fe dynga' fe dynnith jac nes bod ei fola bach ar y llawr come jac ac yn slashio'i chwip a dyma jac yn carlamu nerth traed nes oedd y plisman wedi ei adael ymhell o'i ôl ond prif deitl twmi i enwogrwydd oedd ei allu i ragweled marwolaethau pan oedd yn ddyn ifanc `roedd yn gwel'd toilu drychiolaeth o angladd ac ni ddoi cannwyll gorff i'r ardal heb i twmi ei gwel'd o flaen neb arall clywais fy nhad yn adrodd lawer gwaith fel yr oedd ef a twmi'n dod `nôl un tro o ffair trecastell ac yr oedd tua hanner nos erbyn iddynt ddod i gymydogaeth cartref yr oedd y ddau'n flinedig a chysglyd a'r ddau geffyl oedd danynt heb fod yn fawr gwell yn ddirybudd dyma'r ceffylau'n sefyll a'r ddau wr ifanc yn dihuno welwch chi hwn `co ebe twmi'n gynhyrfus x na wela i ddim atebai fy nhad gan lygadrythu yn y tywyllwch mae ceffyl yn neidio ar yr hewl ebe twmi chlywch chi ddim rhyw ochen yr ochr arall i'r berth clustfeiniodd fy nhad ond ni chlywai ddim hisht clywch `nawr meddai twmi mae'r ochen i'w glywed `nawr yn blaen credodd fy nhad am foment ei fod yntau'n clywed rhywun yn griddfan yn y cae cydiwch ym mhen y ceffyl twmi ebe `nhad ag fe af i i wel'd pwy sy' `yco mae rhywun wedi ca'l anhap gyda'r gair dringodd dros y berth i'r cae ond er chwilio a chwilio ni welai neb yno ac ni chlywai'r ochain mwyach er fod twmi'n taeru o hyd ei fod ef yn ei glywed aethant adref ac yr oedd fy nhad wedi ei ddirgymell erbyn hyn mai wedi breuddwydio'r cyfan yr oedd twmi ac yntau drannoeth yr oedd ffarmwr cyfagos yn marchogaeth ar yr heol fawr a phan ddaeth i'r man lle clywodd fy nhad yr ochain y noson cynt neidiodd ei geffyl yn ddisymwth naill ochr a thaflwyd y ffarmwr ar ei ben dros y berth i'r cae ymhen ysbaid clywodd rhai fforddolion ei ochain dygwyd ef i dyddyn bach gerllaw ond bu farw cyn i'r meddyg gyrraedd llawer stori gyffelyb a adroddid am twmi a'i ddawn ryfedd ac ofnadwy wedi myn'd i gadw tafarn gwnaeth twmi ei oreu i guddio ei dalent ond parhau a wnaeth yr ardalwyr i gredu'n ddiysgog yn ei alluoedd yn fuan wedi i twmi gael ei wneuthur yn churchwarden daeth ciwrad newydd o'r enw williams i'r x plwyf dyn ifanc oedd wedi ei urddo o goleg st bees heb fawr o baratoad at y weinidogaeth nid oedd ball ar y storhâus adroddid am dano un tro yr oedd yr esgob yn dyfod i ymweled â'r plwyf ac yr oedd cyrddau mawr i gael eu cynnal yn yr eglwys syrthiodd i ran y ciwrad i ddarllen y llithiau a bu'r offeiriad am ddyddiau yn ei ddysgu'n fanwl fel na chawsai anair gan yr esgob daeth y dydd a gwnaeth y ciwrad ei ran yn fedrus ddigon hyd nes y daeth at un adnod ac fel hyn y darllenodd hi pilate saith unto him what is truth and when he had said this he went out again unto the juice cyn bo hir daeth y ciwrad i wybod fod yr ardalwyr yn credu fod twmi'n gallu rhagweled marwolaethau enynnodd ei lid pan glywodd fod y fath ofergoeledd yn ffynnu yn y plwyf aeth i wel'd twmi un bore i ymresymu ag ef thomas price ebe'r ciwrad mae'n ddrwg gen i glywed eich bod chi'n twyllo'r bobl anwybodus eich bod yn gallu rhagweled marwolaethau mr williams meddai twmi'n ôl `rwy'n rhoi `ngair i chi nag w' i ddim wedi ynganu gair wrth neb am y fath beth er's blynydde feallai nag ych ebe'r ciwrad ond mae'n nhw'n credu hynny ta p'un a'ch dyledswydd chi fel churchwarden yw i hargyhoeddi nhw i bod yn camsyned wel mr williams meddai twmi dalla i ddim help os yw pobol yn cyfeiliorni fel `na gallwch mi allwch help meddai'r ciwrad waeth ta chi'n dweud yn blaen wrthi nhw nag ych chi ddim yn perthyn y fath ddawn fe fyddai'r grêd farw cyn bo hir x wel atebai twmi dalla i ddim gneud mwy nag a wnes i o gallwch gallwch thomas price meddai'r ciwrad drachefn a mae'n rhaid i chi `neud rhagor hefyd neu fe weda i wrth y ficer fod ei churchwarden yn twyllo'r bobl ofergoelus ag ni fyddwch yn hir fel churchwarden wedyn y dyn ebe twmi'n wyllt odi chi'n meddwl mod i'n falch fy mod yn gallu rhagweld pwy sy'n myn'd i farw nesa' yn y plwydd odi chi'n meddwl i fod e'n beth neis i fi wybod pan fydd rhywun yn yfed glased yma gyda fi na fydd e' byw i wel'd diwedd y mis `dwy'i ddim wedi gweud gair wrth neb am hyn ers blynydde ag `rwyf fi'n fo'lon bod yn ddistaw byth ond `dalla i ddim gwadu'r ffaith mod i'n berchen ar y ddawn fel mae gwaetha'r modd thomas price llefai'r ciwrad yn syn a ych chi'n beiddio dweud wrtha i ryw rigmarôl ddwl fel na nid rigmarôl yw e' ebe twmi'n frawychus mae e' mor wir â'r efengyl rwy'n synnu'ch clywed chi meddai'r ciwrad ag os nad oes dim rhagor i ga'l oddi wrtho chi fe fydd yn rhaid i fi ddweud wrth y ficer gwedwch chi fynnoch chi syr ebe twmi wneiff e' ddim altro'r gwir ag os i chi'n dowto `ngair i fe weda wrthoch chi'r fyned yma pwy fydd y cynta' i farw yn y plwydd safodd y ciwrad yn fud am foment neu ddwy yna eb ef rhowch enwau'r tri cyntaf ag yna os byddwch yn iawn fe'ch creda chi na na llefai twmi mae un yn ddigon x na meddai'r ciwrad os ych chi'n iawn mae mor rhwydd i chi roi tri ag un y diwedd fu i twmi gytuno i ysgrifennu tri enw ar dri phapur a'u dodi mewn tri envelope ar ol marcio'r envelopes yn a'u cau penderfynnwyd eu rhoddi i'r ysgolfeistr i'w cadw clywais yr ysgolfeistr yn dywedyd y stori lawer gwaith y cyntaf i fyn'd oedd merch ifanc ddeunaw oed yr hon oedd wedi bod yn dihoeni ers misoedd o'r darfodedigaeth gelyn creulonaf cymru wledig ar ol yr angladd aeth y ciwrad at yr ysgolfeistr agorwyd yr envelope cyntaf ac ar y papur tufewn cafwyd enw ann morgan druan wel lwc oedd hyn ebe'r ciwrad `roedd pawb ers wythnosau'n disgwyl clywed ei bod wedi myn'd cyn pen mis digwyddodd marwolaeth arall a'r tro hwn marwolaeth ddisyfyd oedd yr oedd nathaniel rees wedi gwneud ffortiwn fach fel grocer yn y gweithiau ac wedi dychwelyd i'w hen gynefin i dreulio'r gweddill o'i ddyddiau nid oedd eto'n dri ugain oed ac yr oedd yn ddyn cryf bywiog iachus ond un diwrnod yr oedd yn brysio i ddal y trên yr oedd yr amser yn brin dechreuodd redeg syrthiodd mewn llewyg ar yr heol a bu farw'n union o apoplexy ar ol y gladdedigaeth aeth y ciwrad at yr ysgolfeistr agorwyd yr ail envelope ac ar y papur tufewn yr oedd enw nathaniel rees wedi ei ysgrifennu yn llaw grynedig twmi price gwelwodd y ciwrad a'r ysgolfeistr ofnent edrych ar eu gilydd y cyntaf i dorri ar y distawrwydd oedd yr ysgolfeistr mr williams ebe fe daf fi ddim ymla'n â hyn mae rhywbeth arswydus yma nag w' i ddim yn gallu x ei ddiall fy nghyngor i yw i dowlu'r trydydd envelope i'r tân na na meddai'r ciwrad yn ofnus fe ddylem wel'd enw pwy sy' lawr a rhybuddio'r dyn fel na fydd iddo fyn'd i'r farn heb baratoi nonsense ebe'r ysgolfeistr `dwy' i ddim yn gallu penderfynu a oes rhywbeth yn hyn neu beidio ta beth wneiff e' les i neb i w'bod pwy enw sydd lawr yna `does dim eisieu i ni weud wrth neb am y peth ond llosgwn yr envelope ar unwaith na meddai'r ciwrad `rwy'n penderfynu ei agor ' wel ebe'r ysgolfeistr chi roddodd yr envelope i fi ag mae gennoch chi hawl i ofyn am dano'n ôl dyma fe ond cofiwch mod i wedi'ch rhybuddio chi o'r gore o'r gore meddai'r ciwrad yn swrth gan gydio yn yr envelope agorodd ef tynnodd aran y papuryn i llaw grynedig edrychodd ar yr enw oedd arno trodd mor welw ag angeu drychwch meddai wrth yr ysgolfeistr gan estyn y papur edrychodd yr ysgolfeistr a gwelodd y geiriau mr williams curate yn llaw twmi price wedi ei ysgrifennu arno ni allodd un ddywedyd gair wrth y llall am rai munudau o'r diwedd ebe'r ysgolfeistr `twt lol yw'r cyfan shwd y gall twmi ragwel'd yn ots na rhywun arall mae'n hen bryd lladd yr hen ofergoelaeth am second sight dylai fadel â'r wlad gyda'r ysbrydion a'r canwyllau cyrff a'r holl ffwlbri arall oedd yr hen bobl yn credu yndyn nhw x eitha gwir meddai'r ciwrad yn groch ond `roedd ei rudd yn welw a'i wefusau'n crynu nos da fe af fi gartre'n awr ie dyna sy' ore ebai'r ysgolfeistr a pheidwch a gweud wrth neb am y nonsense `ma a meindwch `nawr beido a becso o na wnaf wir meddai'r ciwrad gan geisio chwerthin ond `roedd ei chwerthin yn annaturiol fe `nawn ddiwedd bythol ar enwogrwydd twmi price fel proffwyd ac ymaith yr aeth y ciwrad y noswaith honno aeth ar ei union i'r gwely ac ni chododd ohonno mwy cyn pen pythefnos yr oedd wedi marw ac ni allodd y meddyg ddarganfod beth oedd ei glefyd barn yr ysgolfeistr oedd ei fod wedi ei ddychrynu i farwolaeth x pennod v griffith y gof dyn gwahanol iawn i twmi price oedd ei hanner brawd griffith y gôf yr oedd griffith mor deneu ag oedd twmi'n dew ac mor dal ag oedd twmi'n fyr er fod y ddau yn berchen ar arabedd cyfaddefid mai griffith oedd wit y plwyf ac yr oedd ei bon mots ys dywedai'r hen lias ar dafod pawb yr oedd griffith yn un o'r ychydig eglwyswyr yn y plwyf ac er nad oedd yn aelod rheolaidd yr oedd yn wrandawr cyson ac yn amddiffynnwr selog o gysylltiad yr eglwys â'r wladwriaeth ei arwr mawr oedd brutus yr hwn oedd wedi ymsefydlu yn ei ddyddiau olaf yn yr half way ger llanymddyfri ac yn golygu'r haul dros william rees yr argraffydd clodwiw siaradai griffith gyda dirmyg am dafydd rees y diwygiwr yr hwn y bu brutus yn ymryson beunydd ag ef barn isel oedd gan griffith am ymneilltuaeth a'r syndod oedd fod yr ymneilltuwyr yn foddlon goddef enllibion griffith tra byddent yn cynhyrfu wrth glywed ereill llai eu dawn yn dywedyd rhywbeth angharedig am danynt efallai mai un rheswm am hyn oedd fod griffith yn perthyn i deulu tomos lewis y gôf ysbrydoledig o'r plwyf cyfagos tal y llychau x `rwy'n cofio dafi rees un tro ebe griffith yn ysgrifennu llythyr at lord john russell a'i gyhoeddi e' yn y diwygiwr a fe wna'th i bobol gredu fod lord john yn gallu darllen cymraeg a'i fod yn derbyn y diwygiwr yr oedd yn gweiddi byth a hefyd am ddadgysylltiad yr eglwys fe oedd y cynta' bron i wneud fe a'r rhest o'r pregethwyr ond fe gafodd bryd o dafod gan brutus baptis oedd brutus wedi bod ond fe welodd gyfeiliorni ei ffordd ac fe dda'th yn eglwyswr cadarn cyn diwedd ond fe gredai i ddiwedd ei oes mai christmas evans oedd y pregethwr mwyaf siangodd mewn esgid erio'd christmas evans yn wir dim ond gwas ffarm o'dd e' ag fe gollodd i lygad wrth ymladd mewn ffair a chas e' ddim cystal ysgol ag a ges i fe glywes brutus yn adrodd rhai o'i bregethau a chlywes i'r fath ffwlbri erio'd â `nghlustiau `roedd gydag e' un bregeth am y doethion yn dwad o'r dwyrain i edrych am y mab bychan yn methlem yr oedd yn desgrifio'r ffordd yr oedd y doethion yn galw mewn siop grocer ac fod y grocer yn arfer dodi sand yn y shwgir fel pe ta' grocer i'w ga'l ym methlem `ramser hynny a'i fod e'n gwerthu shwgir brown a demerara cyn i columbus ga'l gafel ar america glywodd neb shwd lol erio'd yn ar ol unauthorised programme mr chamberlain daeth cwestiwn dadgysylltiad i'r amlwg ac yr oedd yr holl gym'dogaeth wedi ei chyffroi aeth griffith o'i gof a meddai `does dim eisie dadgysylltiad `does neb ond y pregethwyr a'r radicaliaid yn `mofyn y fath beth `doedd dim son am y fath beth `slawer dydd pan oedd yr eglwys yn wannach nag yw hi heddi yr x eglwys yw gwraig y wladwriaeth beth ddeuthai ohonno ni'r gwrywod ta gyda ni ddim gwragedd gartre' i fod yn gydwybod i ni mae'r gwrywod yn gorfod myn'd i ffair a marchnad ond mae'r gwragedd yn aros gartre' i ddryched ar ol y plant ydych chi'n meddwl y buswn i'n dwad gartre' o ffair ne seshwn mor daliedd ag w' i ta dim o jane yn y' nisgwyl i mae tafod jane yn well na chydwybod i fi a beth ddeuthai o grefydd oni bae am y menywod yr argoel fawr fyddai dim na seiet na chwrdd gweddi cyn pen blwyddyn `roedd yr apostolion yn cwmpo mâs a'u gilydd hyd yn oed pan oen nhw yng nghwmpni'r gwaredwr a `doedd neb ohonyn nhw'n specto pwy oedd e' ond `roedd y gwragedd mair a martha a magdalen yn gwbod yn iawn a mae'r wladwriaeth yn gorfod gneud ambell i dro brwnt ond fe ddylai'r eglwys fod uwchlaw'r fath dricks mae eisieu cydwybod ar y wlad fel sy' ar ddyn a'r eglwys sefydledig yw'r gydwybod i gadw'r wlad yn weddol right un tro aeth griffith a dafi'r felin i'r sasiwn i langadog pan gyrraeddasant y cae lle cynhelid y sasiwn yr oedd tyrfa fawr wedi dyfod ynghyd dier mi dier mi meddai dafi gydag ochenaid mae rhyw haid o bobol wedi dwad at i gilydd oes ebe griffith mae rhyw gwplach yma mae nhw yma wrth y cannoedd a'r miloedd meddai dafi falle bod rhyw ddege yma ebe griffith weles i gymaint o bobol erio'd medai dafi mae nhw yma fel haid o wenyn glywsot ti beth `wedodd `rhen rowlands llangeitho am y gwenyn gofynnai griffith x naddo i meddai dafi o fe wedodd y bydde'r methodistiaid yn dwad `nol fel haid o wenyn i'r hen gwch ebe griffith wel meddai dafi'n ddireidus wela i fowr o argoel arnyn nhw'n dwad mae nhw wedi gneud nythe iddyn nhw'u hunain yn y prif ffyrdd a'r caeau ac y mae nhw'n byw'n eitha diddig yndyn nhw hefyd er gwaetha' padelli tyn y ffeiradon `rwyt ti'n gweud y gwir atebai griffith yn sych mae nhw wedi troi'n bicwns gwenyn meirch i gyd yr efail oedd cyrchfa bechgyn ifenc a llawer o bobl mewn oed hefyd drwy'r gym'dogaeth yno y trinid materion eglwysig a gwleidyddol a lleol a theflid llinyn mesur dros bawb yn ddiwahaniaeth ar ddiwrnod glyb ceisiai pob gwas ffarm gael gafael ar neges i fyn'd i'r efail ac os na ellid cael gwell esgus byddai'r ddannodd yn siwr o boeni wil y waginer a rhaid oedd myn'd i'r efail i gael tynnu'r dant digllawn griffith oedd doctor dannedd yr ardal ond nid cynt y gwelai wil yr offerynnau mawr hyll i dynnu'r dant nag y gwellai'r ddannodd yn llwyr ambell waith y gwelid griffith heb bib glai yn ei ben ac arferai ofyn i grytsach yr ardal danio'r bib iddo cyn pen hir byddai'r crwtyn wedi magu bly s at dybacco ond os gofynnai am bibed gan griffith arferai griffith ateb na na `y machgen mowr i fe gest dy ddysg am ddim rhaid i ti fyw ar dy gost dy hunan `nawr mae gen ti grefft `y ngwas i na fadewith a thi byth byddai griffith yn hoff o siarad am yr achosion a ddeuai o flaen y seiet un tro daeth achos mwy pwysig nag arfer dan ddisgyblaeth eglwysig yr oedd yn arferiad gan bobl dlawd y plwyf i dorri brwyn x ar lannau'r towy i doi'r mwdwlau gwair wedi torri'r brwyn rhwyment hwy yn ysgubau a gadawent hwy ar y cae am ddiwrnod neu ddau cyn eu cario adref un tro aeth gwr a alwaf yn morgan y fron nid dyna oedd ei enw i lan yr afon ond yn lle torri brwyn iddo'i hun cludodd ymaith yr ysgubau oedd yn gorwedd yno'n barod yn naturiol ddigon digiodd y bobl oedd wedi torri'r brwyn a deuthpwyd a'r achos o flaen y seiet yr oedd griffith yn gryf o blaid morgan ddylid dim o'i dorri e' ma's am hynna maentumiai griffith wa'th `doedd e' ddim ond yn cyflawni'r ysgrythyr ond nag ych chi'r dissenters ddim yn gwbod eich beibl wel meddai rhyw ddissenter oedd yn ei glywed fe glywes fod un o'r deng air deddf yn gorchymyn `na ladrata ' ond chlywes i erio'd sôn fod y beibl yn cyfiawnhau neb am ddwyn lladrata o'r blaen clywch chi e' `nawr gwawdiai griffith chlwsot ti ddim fod y testament newydd yn ein hannog ni i `ddwyn beichiau'n gilydd ' a dyna i gyd mae morgan poor fellow wedi wneud wrth y gair dissenter golygid yr annibynnwyr yn ung ty cwrdd meeting house bob amser y gelwid capelu'r annibynnwyr a'r bedyddwyr yr unig gapel oedd capel y methodistiaid ac yn hyn `roedd yr hen bobl yn iawn oblegid rhyw fath o chapel of ease i'r eglwys wladol oedd capelau'r methodistiaid hyd yr ymraniad yn ni chlywodd neb byth mo griffith yn chwerthin pan fyddai pawb yn crechwen wrth glywed ei ddedwydd ddywediadau ni welid gwên ar ei wyneb ef tynnai'r bwa hir gyda chymaint difrifoldeb a x phe bae'n traddodi pregeth nes yr oedd pobl ddiniwed nad oeddynt yn adnabod yr hen walch yn barod i gredu pob gair dywedai bethau rhyfedd wrthym ni blant yr ardal pan gaffai gyfle heb fod pobl mewn oed yn clywed yr oedd wedi cael gafael meddai ar ynys yn y môr tu draw i gaerfyrddin lle'r oedd marbles yn tyfu ar y coed yr oedd yn bwriadu danfon llong i ddwyn y marbles i lansadwrn a phan gyrhaeddai `nol byddai digon o farbles i holl blant y plwyf yn rhad ac am ddim buom am flynyddoedd yn hanner credu'r stori ac ni fyddem byth yn gwel'd griffith heb ofyn iddo am helynt y llong weithiau `roedd y llong ar y ffordd a byddai'n siwr o ddod yr wythnos nesaf pan ddeuthai'r wythnos nesaf `roedd griffith yn isel iawn ei ysbryd oherwydd fod y llong wedi suddo a'r marbles gyda hi ond y flwyddyn nesaf yr oedd yn addaw danfon llong arall ond er disgwyl a disgwyl ni ddaeth y llong a'r marbles i'r porthladd byth daeth wythnos nesa griffith mor ddiarhebol yn ein mysg ni'r plant i fory sion crydd yr hen gân dro arall dywedai wrthym ei fod yn cofio un gaeaf oedd mor oer fel yr oedd y geiriau'n rhewi wrth ddod allan o'i enau yn ystod y gaeaf yr oedd yn codi beudy gerllaw'r ty digwyddai fod ar ben y wal pan y syrthiodd y morthwyl o'i law i'r llawr nid oedd ysgol yn agos y pwnc oedd ffordd i gael gafael eilwaith ar y morthwyl `roedd ystên yn llawn o ddw r twym yn digwydd bod gerllaw arllwysodd y dw r o'r ystên ar ben y morthwyl rhewodd y dw r wrth ddisgyn nes oedd ffon o iâ o'r ystên i'r morthwyl ac wrth dynnu'r ffon cododd y morthwyl i fyny flynyddoedd wed'yn gwelais stori gyffelyb x yn baron munchausen ond ni chlywodd griffith sôn am y barwn geirwir erioed cofir un arall o ddywediadau griffith nad oedd yn newydd er y credaf ei fod yn hollol wreiddiol iddo ef pam nag ych chi'n shafo meddai rhywun wrtho pwy eisieu dioddef poen sy' heb yn rhaid gofynnai griffith mae pobl yn credu y dylai gwrywod ddioddef poen wrth shafo er gneud i fyny i'r menywod am na enir plentyn i'r byd heb boen rhoddir dywediad cyffelyb yn spence's anecdotes a phriodolir ef i dr abernethy y physigwr enwog a doniol yn amser y frenhines ann ychydig o gyfreithia oedd yn yr ardal nid wyf yn cofio ond am un gyfraith o'r plwyf yn ystod y deugain mlynedd diweddaf pobl ddoeth yw pobl y plwyf ond bu'n gyfreithia caled rhwng dau wr mewn plwyf cyfagos a bu llawer o siarad yn ei gylch pan ddeuthum adre o'r ysgol un haf cyfarfum â griffith ar yr heol dwedwch wrtho i meddai wa'th ches i ddim amser i ddryched ar y papur bore heddi faint fu orfod i charlie bach dalu i rogers myddfai o rhyw dri chant o bunau ebe fl a bid siwr fe fydd y coste'n rhagor meddai griffith mae'r trimmings yn wastod yn costi mwy na'r brethyn faint wedwch chi fydd y coste rwy'n clywed ebe fi y bydd y coste tua phum cant lycoch chi'n awr dir yn safio ni meddai griffith tri chant a phum cant dyna wyth cant o bunne ynte eitha' gwir ebe fi wyth cant o bunne ebe griffith dyna i x chi dwshged o arian `nawr gymaint ag a ellwn i enill mewn rhyw gwarter blwyddyn yr oedd gan griffith le i gadw buwch ac weithiau byddai'n magu llô un flwyddyn penderfynodd werthu'r fuwch a phrynu treisiad anner ddwy flwydd yn ei lle daeth john felindre yr hwn oedd dipyn o borthmon i geisio taro bargen i jane tra'r oedd griffith yn yr efail wedi methu dod i delerau â jane aeth john at griffith i'r efail rwy' wedi bod yn treio prynu'r fuwch griffith meddai ond mae jane a finne wedi ffeilu cytuno ar y pris faint oedd jane yn ofyn gofynnai griffith deuddeg punt ebe john a faint oeddet ti'n gynnyg meddai griffith saith punt ebe john o `r llô welsot ti `s dim dowt meddai griffith daeth efengyles heibio ar daith bregethwrol un tro a bu pawb yn tyrru i'w chlywed dywedid i'r hen walter thomas na fu erioed gyda chrefydd hyd yn oed yn nyddiau'r diwygiadau nerthol ei chlywed un waith ar ddeg ac iddo gerdded un dydd ryw bymtheg milldir er ei fod dros bedwar ugain oed ar y pryd cafodd droedigaeth yn ei ben ddyddiau a phan ymadawodd â'r fuchedd hon rai misoedd wed'yn mae'n ddilys ddigon iddo farw o farwolaeth y cyfiawn gofynnai rhywun i griffith ffordd oedd e'n cyfrif am boblogrwydd yr efengyles o'i chymharu â'r pregethwyr lleol o mae'n hen hen hanes shwd mae pobl wamal yn rhedeg ar ol pethe newydd ebe griffith dyna oedd bai mowr yr atheniaid yn nyddiau paul a ta `nhw'n byw yn ein dyddie ni fe fusent yn troi'n x ddissenters bob un wath dyna yw'ch hanes chi'r dissenters erio'd eise rhywbeth newydd o hyd `doedd y llyfr gweddi cyffredin ddim yn ddigon da i chi er fod y seintiau duwiolaf welodd y byd erio'd a'r pregethwyr mwyaf hyawdl wedi bod wrtho fe flinsoch ar yr un gweddiau sul ar ol sul mae'n well gyda chi glywed gweddi o'r frest gan ryw lasgrwt diddysg ne ffwlcyn digywilydd na gweddi chrysostom ei hun a tae chi'n gallu fe fynsech feibl newydd hefyd ac yr oech chi wedi blino ar homiliau'r eglwys oedd yn ddigon da i frenhinoedd `s lawer dydd a fe fynsoch gael pregethwyr bôn clawdd i weiddi rhyw ddwli ddoethe i'w penne gwag yn eu lle a `nawr yr ych yn dechre `laru ar bregethe'r pregethwyr ac yr ych yn rhedeg ar ol pob hen groten ddaw o'r gweithe i diwno'r efengyl fel pe bae yn anthem mewn cymanfa ganu a dyna'r hen wallter yr hen bechadur oesol yn downso `nol a blân ar hyd ale ebenezer ac wedi ca'l gras i'w hen galon garreg medde fe pan oedd yr efengyles yn canu solffa uwch i ben os drwy ryw ryfedd wyrth yr ewch chi'r `senters byth i'r nefoedd fe fyddwch wedi `laru cyn pen mis ar whare'r delyn aur a fe fyddwch yn hala petisiwn at gabriel am ganiatad i chi ga'l `whare giwga neu whistle dyn fe glywes i'r efengyles ac ar f'encos i giwga ddime yw hi er ei bod yn bercben ar lais da ac yn aelod ffyddlon o'r côr undebol nid wnai griffith byth gystadlu am wobr mewn eisteddfod eto `roedd yn caru ac yn gwerthfawrogi'r eisteddfod mae eisie'r eisteddfod meddai arno ni'r cymry wa'th `ry n ni'n rhy ffond o fyn'd i eithafion x mae'r eisteddfod yn hâff wai half way rhwng y ffair a'r seiet er ei fod yn gymro o waed coch cyfan yr oedd yn gritic llym o'n beiau a'n diffygion cenedlaethol tri chynnyg i gymro meddai un tro wrthyf pwy oedd y cecer coward `wedodd y ddiareb `na gynta' pwy eisie tri chynnyg sy' ar gymro os yw e' gystal dyn a sais ond mae'r cymry wedi gwaethygu wedi `madel â'r hen fam mae arnyn nhw ofon eu cysgod wedi troi'n ddissenters ofon byw rhag iddyn nhw bechu ag ofon marw rhag iddyn nhw gael eu cospi shwd gallwch chi ddishgwl ca'l tipyn o blwc mewn fath bobol a dyma'r holl blwyf yn plygu gân ac yn gweiddi abrec o fla'n `rhen gapten pwdwr `na sy'n y plas pwy ryfedd `does neb wedi eu dysgu nhw i barchu eu hunen ag i sefyll i fyny fel dynion a grewyd ar lun duw o na dyma ddysgir iddyn nhw i weud byth a hefyd `nid oes man glân a chyfan arnom o goryn y pen i sawdl y troed ' ych mae'n gâs gen i arddel weithe `y mod i'n gymro glywsoch chi'r hen stori am y trafaelwr `faint gymeri di am gario'r baich `ma ' meddai wrth y sais `peint o gwrw ' atebodd y sais `faint gymeri di ' meddai wrth scotchman `faint rowch chi ' mynte hwnnw `nol wrtho `beth gymeri di ' meddai wrth wyddel `mae'n diwel y glaw ' mynte pat `a fe gymera annwyd ' `a beth gymeri di ' meddai o'r diwedd wrth gymro `beth bynnag syr y fyddwch chi syr yn gwel'd bo'n dda i roi syr ' meddai'r ffwlcyn meddal a dyna'n hanes ni'r cymry yn fo'lon derbyn beth bynnag roiff y sais i ni o hyd x y tro diweddaf y gwelais griffith ar dir y byw oedd pan euthum i ymweled a'm tadcu ar y ffordd i'r pentre nos sul goddiweddais griffith ar yr heol ar ol y moesgyfarchiadau arferol meddai griffith ble mae'r wraig gyda chi o mae'n dwad tu ôl man `na gyda tadcu ebe fi a ble mae'r plant gyda chi meddai griffith o maent i gyd yn y nefoedd gyda fi griffith bach meddwn yn ysgafn druain o'r amddifaid bach atebai griffith welan nhw byth o'u tad x pennod vi rhys edwards a dewi towy nid wyf yn cofio ond dau lenor yn yr hen blwyf sef rhys edwards a dewi towy cefais y fraint ar ol ymadael â chartref o eistedd wrth draed llawer athro hyglod ond dywedaf ar air a chydwybod fy mod yn fwy dyledus i'r ddau wladwr syml nag i feistri'r ysgolion a fynychais na'r tutoriaid yn rhydychen yr oedd y ddau yn wir ddiwylliedig nid yn herwydd eu dysgeidiaeth na'u gwybodaeth ond oblegid eu bod yn myfyrio ar bob peth a wyddent ac yn meddwl drostynt eu hun yr oedd rhys edwards yn byw mewn ffarm fach o'r enw bwlchygwynt `does dim llawer o sw n bywiolaeth yn yr enw meddai griffith y gôf yn ei ddull gwatwarus oherwydd nid oedd gydag ef fawr olwg ar yr ymneilltuwr selog y rhyddfrydwr pybyr a'r llenor gwych wrth glywed rhysyn yn siarad dywedai griffith fe allech gredu fod doethineb y byd wedi cyd grynhoi yndo fe ond yn bwlch y gwynt y mae'n byw ac yno y bydd farw os llwyddiant bydol yw'r safon yna `roedd degau o bobl ereill yn y plwyf a ddylent gael eu coffhau o flaen rhys ond os nad oedd rhys yn gyfoethog ym mhethau'r byd hwn yr oedd ganddo olud meddyliol x nad oedd neb arall yn y plwyf yn berchen arno beth pe bae wedi cael ei eni hanner canmlwydd yn ddiweddarach beth pe bae wedi cael dysgeidiaeth yr ysgolion a'r colegau efallai y byddai wedi cyrraedd bri ac enwogrwydd neu efallai y byddai wedi colli'r gwreiddiolder a'r cryfder meddwl oedd yn ei hynodi rhys oedd y beirniad ym mhob eisteddfod ac ef oedd oracl y cwmpasoedd mewn pethau llenyddol yr oedd golwg urddasol arno nid oedd ond o daldra cyffredin ond gan mor lluniaidd ei gorff a thywysogaidd ei ymddangosiad rhoddai'r argraff ei fod yn fwy o gorffolaeth nag ydoedd mewn gwirionedd yr oedd ganddo drwyn mawr rhufeinig y byddai iwl caisar yn falch ohonno a barf laes hir fuasai'n gosod anrhydedd ar aaron a llygaid byw disglair a fyddent yn melltenu pan oedd wedi ei gyffroi mae wedi marw ers blynyddoedd bellach a chyn pen hir bydd y cof am dano mae'n ddiau gennyf wedi diflannu o'r tir eto gwnaeth waith mawr yn ei ddydd a'i dymor yn ei gylch cyfyng ei hun gwaith fu'n help i greu'r gymru newydd sydd erbyn heddyw'n herfeiddio cenhedloedd mwy eu maint a chyfoethocach eu breintiau er nad oedd ganddo lais peraidd yr oedd yn deall ac yn gwerthfawrogi cerddoriaeth ef a fu'n foddion i ddwyn gwybodaeth o'r tonic soffa i'r ardal os ych am ddeall cyfrinion dyfnaf cerddoriaeth meddai rhaid i chi fod yn gyfarwydd â'r hen nodiant ond am ganu gwerinol `does dim fel y solffa am flynyddoedd bu'n cynnal ysgol gân ym mhob pentre tu fewn i saith milltir i'w gartref pan gynhelid eisteddfodau'r gogofau yng nghaio hanner can mlynedd yn ôl rhys edwards oedd yn arfer paratoi x côr undebol yr ardal erbyn y gystadleuaeth deuai caradog neu eos morlais neu ryw arweinydd enwog arall o'r gweithfeydd i gynnal dwy neu dair rehearsal cyn dydd mawr yr eisteddfod a hwy ac nid rhys fyddai'n arwain y côr ar y llwyfan enillodd y côr lawer gwobr ond yr oedd rhys yn hollol foddlon i ereill gael y clod a'r poblogrwydd y noswaith cyn yr eisteddfod cynhelid cyngerdd yn ysgoldy'r plwyf pryd y byddai caradog yn swyno'r ardalwyr â'r crwth neu eos morlais yn canu cymreigaeth bur i eneidiau'r gynulleidfa yr oedd rhys edwards yn ymylu ar henaint pan gofiaf ef gyntaf ond yr oedd mor ifanc ei ysbryd a'r un glas lanc yn y lle gyda'r bobl ifenc yr hoffai fod bob amser nid oedd dim cyffredin yn ei olwg rwy'n lico bod gyda dynon ifenc arferai ddywedyd fe ddyle pob dyn ifanc dreio bod yng nghwmpni hen bobol er mwyn iddo ga'l iws eu profiad a fe ddyle hen bobol fod gyda'r bobol ifenc er mwyn eu cadw ar ddyhun ni allasai siarad fawr o saesneg er y gallai ddarllen llyfrau mawrion ys dywed yr hen ficer yn yr iaith honno arferai ddwyedyd na fu erioed yn cysgu ddeng milltir o'i gartref ond yr oedd yn efrydydd diflino ac yr oedd yn hyddysg yn llenyddiaeth cymru ac i raddau yn eiddo lloegr hefyd yr oedd gweithiau dewi wyn o eifion ar ei gôf ac ar ei dafod beunydd dyfynnodd un frawddeg o waith y gwr mawr hwnnw mewn cyfarfod dirwest unwaith er na wn hyd y dydd heddyw o ble y'i cafodd y mae meddwdod meddai nid yn unig yn mochyneiddio y corff ond yn cythreuleiddio'r enaid nes y mae'r meddwon yn rhy aml yn gefneintiau x gorffwyllog yn rhuthro dros ddibynnau dinistr i ddyfnderoedd pob math o drueni bu ef a mi'n cyd ddarllen llawer ar shakespeare ni flinai ar ganmol sesame and lilies ruskin clywodd sôn am first principles herbert spencer ac ni chefais lonydd ganddo hyd nes y benthyciais y cyfrolau o ryw lyfrgell a rhoi eu benthyg iddo ni allai ddirnad paham nad oeddwn i'n gallu eu mwynhau fel y gwnai ef ond er cymaint ei flys at ddarllen nid anghofiai feddwl drostoi'i hun ni ddilynai the pedantry of courts and schools ond ymresymai bob peth allan y canlyniad oedd i lawer o bobl yr ardal edrych arno fel heretic ac er mai ef oedd prif ddiacon ebenezer amheuid ei fod yn uniongred gan y mwyafrif o'i gyd aelodau garw fyth na fyddwn wedi gwneuthur nodiadau o'i ddywediadau gwreiddiol synhwyrgall ar y pryd fel athro yn yr ysgol sul yn y seiat ac yn y ddarllenfa ond gan na wneuthum nid oes dim i'w wneud ond ceisio gosod i lawr goreu y gallaf yr ychydig a gofiaf ar ol deng mlynedd ar hugain a rhagor bum yn ei ddosbarth yn yr ysgol sul am flynyddoedd byddai dadleu brwd yn cymryd lle yno'n fynych ynghylch dyrys bethau'r ffydd ac yr oedd rhywun bob amser yn barod ag esboniad idrisyn neu james hughes neu barnes neu matthew henry ond ar ddiwedd yr ymdrafodaeth `roedd yr athro yn barod â rhyw sylw gwreiddiol o'i eiddo ei hun unwaith dechreuodd tomos y crydd ddadl boeth ar y geiriau nac arwain fi i brofedigaeth maentumiai tomos fod hyn yn dangos fod yr arglwydd yn temtio dynolryw neu pwy eisie gofyn iddo i beidio'n harwain i brofedigaeth ac nad oedd dynion x felly yn gyfrifol am eu pechodau ni allaf ddywedyd pwy heresi yw hon oblegid mae'n dra thebyg ei bod mor hen bron a christionogaeth ni wn chwaith ac ni wyddai rhys edwards beth oedd ateb y tadau i'r hereticiaid ond yr oedd tomos y crydd yn barod i gadarnhau ei osodiad gydag enghreifftiau beiblaidd dangosodd fod duw wedi rhoddi caniatad i satan demtio job a'i fod wedi caledu calon pharaoh yr oedd y dosbarth bron yn arswydo wrth glywed y crydd ac nid oedd nemawr air yn cael ei ddywedyd i'r gwrthwyneb ar derfyn y ddadl ebe'r athro dirgelwch na allwn esbonio yw fod pechod yn bod mewn byd sydd dan lywodraeth yr hollalluog ond mae dwy adnod yn profi nad oes eisieu i ddyn wangalonni `digon i ti fy ngras i fy nerth i a berffeithir mewn gwendid ' ac y mae'r apostol yn dweyd yn bendant wrthom yn groes i athrawiaeth y brawd tomos jones `na ddyweded neb pan demtier ef gan dduw y'm temtir canys duw nis gellir ei demtio â drygau ac nid yw efe yn temtio neb ' drwy ymegnio y megir cryfder a thrwy demtasiynau y megir rinwedd `gwyn ei fyd y gwr sydd yn goddef profedigaeth canys pan fyddo profedig efe a dderbyn goron y bywyd ' fe demtiwyd crist yr un ffunud a ninnau ac os oedd e' heb bechod ein dyledswydd ni yw treio bod mor debyg iddo ag y gallwn efe fydd yn ein barnu ni yn nydd mawr y prawf ac os na fyddwn ni'n berffaith mae e'n gwybod nerth y temtasiynau ddaeth i'n cwrdd ae fe'n barna ni nid yn ôl ein ffaeleddau ond yn ôl yr hyn dreiom ni wneud annibynnwr o'r hen gyfansoddiad oedd rhys ac yn edmygwr mawr o mchael jones o'r bala x mae rhai pobol meddai yn gwneud spri ar ben `annibendod annibynia ' ond dyna yw ei phrif ogoniant os bydd dau neu dri wedi ymgynnull yn enw'r gwaredwr dyna eglwys y duw byw `where two hands meet each other helpfully ' fel y dywed ruskin `that is the only true mother church that ever was or ever will be ' mae john thomas lerpwl a gwy r y cyfansoddiad newydd yn treio troi annibynia yn gorff fel y methodus ac os llwyddan nhw fe fydd annibynia'n gorff rnarw cyn bo mr egwyddor sylfaenol yr hen independiaid oedd pob aelod yn offeiriad a phob cynulleidfa yn eglwys meddai dro arall `doedd yr hen bobol ddim yn credo mewn offeiriadaeth ond mae tuedd yn ein dyddiau ni i ddodi'r gweinidogion mewn lloc wrthynt eu hunain yr oedd john evans y bala yn siarad yn y set fawr un tro ac yn cadw ei wyneb tua'r pwlpud `trowch eich gwyneb at y bobol john evans ' meddai thomas charles wrtho `y dyn ' ebe'r hen saiit `ydych chi ddim yn un o'r bobol ' ac un o'r bobol oedd y pregethwyr i gyd `s lawer dydd yn nyddiau'r apostolion `roedd un aelod yn meddu ar y ddawn o broffwydo ac arall ar y ddawn o lefaru â thafodau ac yr oedd hawl i bob dawn gael ei harfer a fel'ny oedd hi'n arfer bod gyda ni pregethu wnai un aelod am fod ganddo ddawn pregethu ond `doedd e' ddim yn fwy cysegredig na neb arall a `doedd neb yn ei alw'n `barchedig ' ac ni allai neb wel'd mai pregethwr oedd oddiwrth ei wisg ond `nawr mae'r pregethwyr yn mynnud gwisgo côt ddi sic a thei wen er bod yn ots na dynion ereill ac y mae hyd yn oed y diaconiaid am wneud eu hunen yn urdd ar ben eu hunen ac x aros yn y swydd tra fyddont fyw nid fel'ny oedd hi'n arfer bod pan own i'n grwt `rwy'n cofio diacon yn cael ei ddiswyddo `beth `w' i `nawr ynte ' meddai wedi i'r seiat ddybennu `odw i `nawr fel dyn arall ' `roedd y gofyniad yn ddigon i ddangos nad oedd e'n ffit i'r swydd yr y n ni lawer yn rhy lym ac yn llawer yn rhy llac yn ein disgyblaeth eglwysig meddai dro arall yr y n ni'n galed iawn yn erbyn pechodau cyhoeddus medd'dod neu esgeulustra i fynychu'r cyfarfodydd ond beth am y pechodau ysbrydol llid malais digofaint cybydd dod balchder ffurfioldeb a rhagrith `does gyda ni ddim llinyn mesur i daflu dros y rhai'n a fe ddylai hyn ein gwneud yn fwy gwylaidd ac i gofio gorchymyn y meistr `na fernwch fel na'ch barner ` yr oedd gwr o'r byd wedi marw ac ebe rhys pwy feiddia ddweyd ei fod e'n golledig `rwy'n cofio john evans llwynffortun yn dweyd pan gwympodd dyn meddw o hen bont llandeilo i dowy a boddi a rhyw ddyn ar bwys yn dweyd `dyma ddyn wedi myn'd i uffern ' `na ' meddai john evans wyddoch chi ddim beth ddigwyddodd rhwng y bont a'r afon mae'r addoliad cyhoeddus yn llesol i'r rhan fwyaf o'r bobol mae'r ffaith fod ereill yn uno yn yr addoliad yn creu cydymdeimlad ac y mae dynion wrth reddf yn ffond o gwmpni i gilydd `man is a political animal ' meddai'r athronydd ac fel mae'r band of hope yn helpu'r gweiniaid i fod yn x ddirwestwyr mae'r eglwys yn helpi pechaduriaid i fod yn gristionogion ond fe all dyn fod yn ddirwestwr heb fod yn y gobeithlu ac fe all dyn fod yn gristion heb fod yn aelod o un eglwys mae rhai fel elias yn gallu cymuno â duw yn well yn unigedd y mynydd neu'r anialwch ond y perygl yw i bob diogyn i gredu ei fod e'n elias dro arall pan ddywedodd crist wrth y wraig o samaria fod y dydd yn dod pan na fyddai duw'n cael ei addoli yn jerusalem nac yn y mynydd hwn rhoddodd ben am byth ar y syniad fod unrhyw le yn y byd yn fwy cysegredig na rhyw le arall gobennydd carreg yn yr anialwch fu'n dy dduw i jacob ac yn y meusydd y mae cawodau gras wedi dyhidlo lawr ar genedl y cymry un o ddiffygion mawr cymru meddai mewn rhyw ddadl yn y ddarllenfa yw nad oes gyda ni ddim tref fawr yn hollol gymreig cer'wch i abertawe dim ond saesneg glywch chi ar hyd y stryd oedd er fod tai cyrddau cymreig i gael yno wrth y dyssenifi mae'r beirdd mwya' wedi bod yn trigo mewn trefydd ydych chi'n meddwl y byddai romer wedi gwneud y fath gampwaith oni bai ei fod e' fel ei arwr wedi gwel'd llawer dinas ond fe ddaw y dydd cyn bo hir pan fydd y cymry'n teimlo'n gartrefol mewn trefydd mawrion a dyna'r pryd y daw'n hathrylith yn fyd enwog x mae rbai pobol yn credu meddai mewn seiet y cânt eu cadw oherwydd eu bod yn yr arfaeth ond nid dyna ffordd duw gyda dyn mae rhagluniaeth wedi darparu bendithion dirif ar ein cyfer ond mae'n rhaid i ddyn wneud ei ran cyn eu mwynhau mae'n rhoi anadl einioes yn ffroenau'r baban ond rhaid i'w fam ei fwyda mae wedi paratoi digon o fwyd i'r miliynau sydd yn y byd ond mae'n rhaid iddyn nhw hau a medi `drwy chwy s dy wyneb y bwytei ' pan ddaeth crist i bethania i godi lazarus o'r bedd gofynnodd i'r bobol oedd yn sefyll oddi amgylch i dreiglo ymaith y maen fe allai'r gwr oedd yn adgyfodi'r marw dreiglo'r maen i ffwrdd ag `ysbryd ei enau ' ond nid dyna oedd ei ffordd ef `roedd ef yn foddlon gwneud y wyrth ni allai neb arall wneud ond treiglo'r maen dyna waith allai ac a ddylai dynion ei wneud arwyddair trefn gras yw `cleddyf yr arglwydd a gideon ` ebe yn y dosbarth yr unig ddeffiniad o grefydd geir yn y testament newydd o gwbl yw eiddo iago leiaf `crefydd bur a dihalogedig ger bron duw a'r tad yw hyn ymweled â'r amddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddi wrth y byd ' ond mae'n rhaid cymeryd yr efengyl gyda'i gilydd heb bwysleisio gormod ar un adnod yn fwy na'r llall `roedd iago'n ysgrifennu ei epistol at y deuddeg llwyth ar wasgar `roeddent hwy yn gredinwyr ond `doeddent ddim yn wneuthurwyr y gair `roedd eisieu ar iago eu dysgu nad oedd ffydd heb weithredoedd yn werth dim gallwn feddwl fod y deuddeg llwyth o'r un farn a'r x hen brydydd hwnnw oedd wedi meddwi a chwympo i ffos codwyd ef i fyny gan sosin `rhag eich cwilydd ' ebe'r sosin `a chithe'n arddel crefydd ' atebodd y prydydd achubwyd lot er meddwi mae'r beibl genni'n dyst achubwyd neb sy'n gwadu dwyfoldeb lesu grist dyna'r fath bobol oedd lago am argyhoeddi `roedd paul yn ysgrifennu at bobol ystyfnig oedd yn gwrthod credu yn iesu ac yn pwyso ar eu rhinweddau eu hun ac yr oedd ef am eu hargyhoeddi nad oedd gweithredoedd heb gariad heb ras heb ffydd yn werth dim yr y m ni'r cymry wedi gosod gormod o bwys ar athrawiaeth paul gan anghofio nad yw ond hanner y gwir man gwannaf ni'r annibynnwyr meddai dro arall yw ein daliadau am fedydd `does gyda ni ddim cyffes ffydd nac erthyglau crêd a mae hynny'n nerth i ni mae gyda ni le i bryfo fel'ny mae'n rhaid cael esgid fwy i ddyn mewn oed nag i lasgrwt heb ddibennu tyfu ond yr y m ni'n barod iawn i ddilyn hen draddodiadau fel pe baent yn erthyglau'r ffydd mae'r eglwys wladol yn gosod pwys mawr ar fedydd dywed fod rhyw gyfnewidiad gwyrthiol yn cymeryd lle drwy'r ordinhad a mynna gael tad a mam bedydd i sefyll yn feichiau dros y baban bach mae'r methodistiaid hefyd yn hollol resymol o'u safbwynt nhw mynnant fod y tad neu fam yn aelod ac fel'ny hwy yw'r meichiau dros y plentyn ni fynn x y bedyddwyr neb i gael eu troche ond credinwyr ac wrth gwrs nid oes eisieu tad na mam bedydd fel'ny cyfeiliornad yw meddwl fod y bedyddwyr yn credu fod pechodau'r credinwyr yn cael eu glanhau drwy'r ordinhâd canodd hen brydydd o'r gwter fawr fel hyn pe bawn i ddim ond gwybod fod dwr yn golchi pechod fe awn i aman tra bo'n lli a `molchwn am dri diwrnod ond `roedd y prydydd yn gwneud cam â'r baptis yu ei rigwm nid y dwr ond y droedigaeth oedd yn golchi'r pechod arwydd yw bedydd fod y crediniwr yn rhoddi ei hun ar enw crist yn y credu mae'r effeithioldeb ac nid yn yr arwydd ond am danom ni'r annibynnwyr `dydyn ni ddim yn credu fod gwyrth yn cymeryd lle wrth fedyddio a fe fyddai'n chwith gen neb ohonom gredu y byddai'r hollalluog yn poeni plentyn bach yn nhân uffem am byth am iddo farw cyn cael ei fedyddio a `dydyn ni ddim yn credu fod eisieu i'r bedyddiedig fod o oedran pan y gall amgyffred beth yw ystyr yr ordinhad na chwaith y dylai y plentyn gael ereill i addaw drosto i fod yn gristion `does dim ystyr nac amcan na rheswm ym medydd yr annibynnwyr dim ond ofergoelaeth a goreu i gyd po gyntaf y dilynwn siampl yr undodwyr a'r quakers a rhoi heibio y ffurf wasanaeth yn hollol pan gychwynnwyd y ddarllenfa yr oedd rhys edwards yn gefnogwr ffyddlon iddi dysgodd chware x draughts er mawr dramgwydd i rai o'i gydiddiaconiaid a daeth yn fedrus iawn gyda'r chware coed fel ei gelwid ef oedd bob amser yn y gadair pan fyddem yn trafod materion y dydd dadgysylltiad a masnach rydd a phwnc y tir ac ni fu llefarydd ty 'r cyffredin erioed yn fwy teg a diduedd nac yn fwy ei barch a'i ddylanwad un tro bu gennym mock trial cyhuddwyd isaac y crydd o fod wedi lladd ffesants yng nghwm bryndyfan liw nos un o'r athrawon yn yr ysgol ddyddiol oedd yn erlyn a rninnau'n amddiffyn a rhys edwards oedd y barnwr yr oedd deuddeg o wy r cyfrifol yn rheithwyr a mawr fu'r spri a'r rhialtwch circumstantial evidence yn unig oedd yn erbyn isaac dywedodd un o'r tystion tom pengwar neuadd ei fod wedi cyd gerdded âg isaac ar y noson ddywededig o'r pentre iddo ei weled yn troi lawr drwy heol fach gul oedd yn arwain i'r cwm ac iddo glywed sw n ergyd o ddryll cyn pen deng munud cyfaddefodd y tyst yn hollol deg pan groesholid ef ei bod yn noswaith dywyll ac nad oedd wedi gwel'd wyneb ei gydymdeithydd yn eglur ond ei fod yn adnabod ei lais yn dda os oedd y nos yn dywyll gofynnais ffordd galle neb wel'd i saethu ffesant o atebai tom yn barod `roedd y lleuad wedi dwad mâs o'r tu ôl i'r cwmwl pan glywes i'r ergyd gelwais innau dyst james rees y teiliwr yr hwn a gyfaddefodd mai ef oedd yn cyd drafaelu â tom pengwar neuadd ar y nos dan sylw mai ef ymadawodd â tom ar ben hewl fach bryndyfan ac iddo fe glywed sw n ergyd ym mhen rhyw bum munud ar ol `madael i tom daeth yr amser i'r barnwr annerch y rheithwyr x aeth yn fanwl dros y dystiolaeth siarsodd hwy i fod yn deg a chyfiawn ac os oedd ddadl yn eu meddwl y dylent ryddhau'r carcharor yr oedd james rees wedi tyngu mai ef fu'n cyd gerdded â tom ac mor belled ag y gwyddent `roedd james rees yn ddyn cywir a geirwir o'r ochr arall yr oedd tom yn bendant mai'r carcharor oedd ei gyd ymdeithydd mae'n wir fod tom yn cyfaddef na welodd wyneb y gwr oedd yn cyd gerdded ag ef ac yr oedd hyn yn dangos fod tom yn dyst gonest beth fuasai'n fwy hawdd nag iddo daeru ei fod wedi gwel'd wyneb y gwr ac mai'r carcharor ydoedd ond dywedai tom ei fod yn adnabod y carcharor wrth ei lais gellid newid ymddangosiad person ond nid yn rhwydd y newidid y llais gallai jacob wneud ei ddwylaw yn debyg i ddwylaw esau ond y llais oedd llais jacob o hyd ac a ydych foneddigion y rheithwyr meddai yn ei sylw diweddaf yn meddwl y byddai bachgen cyfarwydd a phrofiadol fel tom yn debyg o gamsyniad gwynt teiliwr am wynt crydd cafwyd isaac druan yn euog a dedfrydwyd ef i dri mis o lafur caled pe bai pob barnwr ar y fainc mor deg a chyfrwys gall a rhys edwards ac yn gallu ymresymu â'r rheithwyr yn eu hiaith arferol dilys y byddai'n fwy anhawdd cael traed carcharion yn rhydd mewn llawer sir yng nghymru yr oedd dewi towy yn llawer ieuangach na rhys edwards ffarmwr yn byw ar ei dyddyn ei hun ydoedd ac yr oedd wedi derbyn gwell ysgol na'r hen ddiacon nid oedd ganddo gymaint o wreiddiolder meddwl ond yr oedd yn efrydydd diball ac amyneddgar x ef ddysgodd i mi yr ychydig ramadeg cymraeg a ddeallais erioed cynhaliai gwrdd pobl ifenc bob nos lun ac yn hwnnw bu'n ein tywys drwy ysgol farddol dafydd morganwg bu'n ein dysgu ychydig am seryddiaeth a daeareg a gwyddoniaeth a rhoddai o'i logell ei hun wobrau am draethodau a phenillion ac englynion garw na fuasai'r orgraff newydd wedi ei darganfod y pryd hynny oblegid sicr yw gennyf y byddwn wedi ei deall dan ei arweiniad ef pan yn ddeg ar hugain oed cymhellwyd ef i bregethu'n achlysurol yr oedd y ty cwrdd yn orlawn pan draddododd ei bregeth gyntaf a rhoddodd foddlonrwydd mawr i bawb ond siomwyd disgwyliadau ei garedigion ni ychwanegodd gyfudd at ei faintioli fel pregethwr byth wed'yn ganwyd dewi towy fel pregethwr ebe griffith y gôf a'i ddannedd i gyd yn ei ben pan eto'n ddyn ifanc gafaelodd y darfodedigaeth ynddo ymfudodd i awstralia bu farw cyn pen wythnos ar ol glanio ac y mae ei weddillion yn gorwedd mewn bedd anhynod rywle ym `melbourne erbyn hyn mae ei ddisgyblion wedi gwasgar i bedwar ban y byd ond ble bynnag y maent ni wna un o honynt byth anghofio y cyfaill didwyll y llenor a'r bardd celfydd a'r athro ffyddlon dewi'towy heddwch i'w lwch x pennod vii wil gelynen hen greadur rhwng hanner call a dwl oedd wil gelynen testyn gwawd i blantos yr ardal a difyrrwch i bobl mewn oed yr oedd yn wr siaradus ac yr oedd ei lais uchel gwichlyd main yn rhoddi rhyw ysmaldod i bob peth a ddywedai eto er ei symlrwydd meddai fel llawer o'i fath ar ryw graffter cyfrwysgall ac arabedd annisgwyliadwy a fyddai'n taro syndod hyd yn oed yn y rhai oedd yn ei adnabod yn dda mae gerallt gymro wedi cofnodi rhai o ffraethebion john speng digrifwas yr arglwydd rhys y mae gan bobl shirgâr air ar lafar gwlad spengan sef o'i gyfieithu pull one's leg tybed ai dyna oedd tarddell teitl y cellweirwr tybiaf pe bai wil wedi ei eni chwech neu saith canrif yn gynt mai yn llys dinefwr y byddai'n trigo ac yn ennill ei damaid fel cellweirwr i'r hen dywysogion bu am flynyddoedd yn dipyn o oferddyn un dydd sul gwelodd yr offeiriad ef yn gwaddota h y yn gosod maglau i ddal tyrchod daear a cheryddodd ef am dorri'r sabboth o pob un wrth ei grefft syr ebe wil chi a'ch pader a finne â `nhrap yn ei hen ddyddiau derbyniai dâl gan y plwyf mae'n ddrwg genni glywed william meddai'r offeiriad x wrtho eich bod chi wedi gorfod derbyn tâl chi a fi syr yw'r unig ddou respectable yn llansadwrn ebe wil `r y n ni'n dou'n tewhau wrth bori'r plwydd yn ystod un o'r diwygiadau cafodd wil droedigaeth ac ar ol hynny hyd ddydd ei farwolaeth nid oedd neb yn fwy cyson ym mhob gwasanaeth crefyddol nag ef ym mhen amser gofynnodd wil am gael ei le gyda'r methodistiaid mynnai rhai nad oedd yn ddigon call i ddeall y gyffes ffydd tra'r oedd ereill yn taeru na ddylid ei ddedfrydu i golledigaeth oesol am nad oedd yn union fel rhywun arall nac wedi bod ym mhen pella'r ffwrn bu ar brawf am fisoedd a mynych yr holwyd ac y croesholwyd ef yn y seiet wyt ti'n credu gofynnodd hen ddiacon llym iddo unwaith i jona gael ei lyncu gan forfil ac iddo fyw yn ei fola am dridiau wel falle do fe oedd yr ateb dwy' i ddim yn gwbod fawr am y pysgod `na sy' yn y môr meddylid nad oedd yr ateb yn hollol foddhaol a daeth ei fater ymlaen eilwaith ym mhen mis neu ddau wyt ti'n credu i daniel fyw yn ffau'r llewod heb ei `nafu gofynnodd yr un blaenor iddo o odw i ebe wil `rwy'n fo'lon credu hynna wa'th fe weles i ddyn yn y circus yn dodi ei ben yn safan hen lew bernid nad oedd yr ateb hwn ychwaith yn foddhaol a bu wil ar brawf am dymor yn ychwaneg wyt ti'n credu i'r tri llanc fyw yn y ffwrn wedi ei phoethi seithwaith yn boethach nag arferol gofynnwyd iddo'r tro nesaf na na ebe wil yr hwn oedd bob amser yn x helpu gruffydd y gôf i gylcho wheels `rwy'n gw'bod rhwbeth am dân a ffwrn a `dalla i ddim credu hynna a chan fod ni'n siarad am y pethe `ma mae genni ddowt am yr hen forfil hefyd yr oedd yn gyson iawn yn yr ysgol sul er na phasiodd erioed o ddosbarth y plant a gwnaeth ei oreu glâs i ddysgu darllen ni allaf ddywedyd p'un a oedd y storhâus a adroddid am dano'n gywir ai peidio ond yr oeddynt yn ben trovato os nad yn wir a fedri di regi oedd ei ddarlleniad o ofyniad y capten i paul a fedri di roeg hen fuwch wellt oedd henffych well lle ar ben cloc oedd lle'r benglog ond os oedd ei ddarllen yn rhyfedd ac ofnadwy yr oedd ei esboniad yn fwy hynod fyth yr oedd yr athro yn treio bob amser gael rhyw gwestiwn hawdd i wil ac fel yr oedd efe yn llefaru meddai'r athro pan oedd y dosbarth yn darllen hanes y gweddnewidiad pwy yw'r `efe' yn y man yna moses anturiai wil nage nage ebe'r athro elias meddai wil nage wil bach iesu grist ebe'r athro ie wrth gwrs meddai wil ym mhen tipyn daeth y geiriau ac efe a ddywed odd dan sylw pwy yw'r `efe' yma gofynnai'r athro o fe stica i at moses ebe wil dro arall gofynnwyd i'r dosbarth pwy oedd y judas yn heol uniawn yn damascus yn nhy yr hwn y llettyodd paul o `stim dowt meddai wil mai judas iscariot o'dd e' wa'th hen dramp oedd y creadur x ystyriwch y brain meddai'r athro dro arall nawr william oes gyda chi air i ddweyd ar y geiriau hyn well i chi ofyn i rai o'r plant `ma ebe wil fe ateba i ryw gwest'iwn caletach na na meddai'r athro eich tro chi yw hi i ateb `nawr wel ebe wil meddyliwch chi `nawr i bod hi'n amser pan fydd yr egin yn dechre tyfu a'r ffarmwr yu myn'd ma's i'r clôs a gwel'd y brain yn byta'r egin yn y cae dan ty mae e'n galw ar grwt y gwas `hei deio wel di'r brain yco `gwela ' mynte'r crwt `wel cer styria nhw ` er gwaethaf popeth gwasgu at y disgyblion a wnai wil drwy'r blynyddoedd daeth ei achos eto o flaen y seiet a oes ofon uffern arnat ti gofynnwyd iddo o's o's ofon ofnadwy ebe wil licet ti fyn'd i'r nefoedd o licwn wir ebe wil wyt ti'n caru iesu grist gofynnai'r gweinidog iddo o odw'n wir mr thomas bach atebai wil a'r dagrau'n hidlo dros ei ruddiau `rwy'n i garu e' o waelod `y nghalon a pham `rwyt ti'n ei garu e' gofynnai mr thomas o mr thomas bach atebai wil am i fod e'n fy ngharu i yr hen wil gelynen ag mae pawb yn `wherthin ar i ben e' ond beth ta iesu grist yn myn'd i lawr i uffern gydag e' licwn i fod ta ble mae e' ebe wil ac ar hyn penderfynwyd derbyn wil yn aelod rheolaidd x bu fyw'n ddiargyhoedd drwy ei oes ni fu neb ffyddlonach gyda'r moddion ac ni chadwodd neb honno ei hun yn fwy difrycheulyd oddiwrth y byd dim ond unwaith y bu'n euog o unrhyw amryfusedd ond daeth allan yn fwy na choncwerwr pan gawsem gyfle yr oeddem ni'r plant yn hoff o glywed wil yn adrodd y stori pa fodd y cipiwyd ef un noswaith gan y diafol honno a stori'r cel pren oblegid dyna'r gair y pryd hwnnw am bicycle oedd dwy stori wil ond o'r ddwy stori'r gwr drwg oedd yn cael y lle blaenaf gyda'r plant nos ffair fedi llangadog oedd hi yr oedd wil wedi bod yn y ffair ac wedi bod yn ennill ychydig docyns h y tokens neu gein iogau drwy helpu'r porthmyn i fyn'd â'u da ymaith gyda'r trên i landeilo oblegid dyna oedd y stesion nesaf yn y dyddiau hynny gan fod ganddo saith milltir i gerdded adref yr oedd yn hwyr ar wil yn dychwelyd i'r gelynen lle'r oedd yn byw gyda'r hen wraig ei fam pan ddaeth i ben duad croesffordd mewn lle unig yn ddisymwth gwelodd wil ryw ledrith enfawr yn y llwydnos arhosodd yn frawychus a'i galon yn curo yn erbyn ei eis nes iddi bron hollti dere gyda fi ebe llais fel trydan wrth wil ble'r y ch chi'n myn'd syr oedd gofyniad naturiol wil paid a balban atebai'r llais fe ddangosa i'r ffordd i ti gyda'r gair dyma wil yn teimlo llaw ar ei ysgwydd yn gafael ynddo mor dynn fel y teimlai fel pe tae haearn poeth ar ei gnawd o peidiwch a'n sero i os gwelwch chi'n dda syr ebe wil x hisht ebe'r llais yn sarrug neu fe sera i di gorff ac enaid erbyn hyn yr oedd wil druan yn crynu fel y ddeilen llusgwyd ef oddiar yr heol drwy'r berth i gwm llwyntywyll gerllaw roedd hi mor ddued â'r fagddu erbyn hyn arferai wil ddywedyd a `doedd dim posib i fi wel'd yn llaw o fla'n y'n llyged `roedd y llaw dân yn gafaelyd yn fy ysgwydd o hyd ond `dallwn i wel'd dim ond rhyw hwdwch fileinig gymaint dairgwaith o faint na fi `cydia yn hwn ' mynte'r gwr drwg wa'th `rwy'n siwr mai'r hen fachgen o'dd `no wa'th `ro'dd e'n gwynto o dân a brwmstan a dyma finne'n cydio yn rhwbeth a theimles mai pen pâl o'dd hi `torra dwll man hyn ' mynte'r gwr drwg a gorfu i fi `neud ar ol torri a thorri am awr a rhagor nes o'wn i'n `why s poten dyma'r bâl yn bwrw yn erbyn twlpyn o ha'rn `cydia yn hwnna ' mynte'r gwr drwg `a thyna fe i fynydd ' fe gydies yn yr ha'rn ac fe dynnes i'r ian grochon mowr a fel rhw gawl o frwmstan yn berwi yndo fe ac yn gneud swn ofnadwy cyn i fi ga'l amser i feddwl dyma fe'n cydio yndo i wrth `y ngwegil ac yn hedfan a fi i'r awyr a'i adenydd mowr ar led fel adenydd slymyn a'r hen grochon yn fy llaw o hyd wa'th do'dd dim posib ca'l y'n llaw yn rhydd oddiwrtho fe fel pe buse fe'n un o'r hen fachines yna sy' yn y ffeire i'r lan i'r lan yr euthom ni nes mod i'n credu y buse `mhen i'n bwrw yn erbyn rhyw seren ac `roedd clochdy llansadwrn ddim yn fwy na marblen fach yn `y ngolwg i a dynna ni'n hedfan yn gynt na gwenolen drwy'r awyr a thua'r mynydd du a feddyles i byth y gwelswn i neb o'm ffrindie wed'yn `ffarwel x gelynen fach ' myntwn i wrth fyn'd `mae mam druan yn `y nisgw'l i ga'tre yn darllen y beibl wrth y tân ond welith hi wil y mab byth yto ` erbyn hyn `roedd wil yn tywallt dagrau a ninnau'r plant ie a phobl mewn oed hefyd yn gwrando gyda dychryn a galar `ffarwel hen gapel seion ' myntwn i wed'yn `llawer i odfa flasus ges i rhwng dy welydd ond welith neb ohono i yna yto ffarwel bryn towy annwl lle mae mr tomos y gweindog yn byw mae e' wedi bod yn garedig iawn i'r hen wil ac wedi ei helpi i ga'l gras ychydig feddyliodd e' na neb arall y buswn i byth yn hedfan bant dan adenydd y gwr drwg ' ac yna bant â ni dros y towy a heibo llangadog fel y fellten a lan a ni dros gwm sawdde a heibo llanddeusant nes y dethon ni uwchben llyn y fan fach a dyma'r gwr drwg yn gweiddi rhwbeth fel ta fe'n rhegi mewn iaith ddierth ond nag own i ddim yn diall un gair ond `abracadabra ' a fe'n shiglodd i mor greulon nes y colles i'n ngafel ar yr hen grochon a dyma hwnnw'n cwmpo i'r llyn a'r cawl berwedig yndo fe ym mhen eiliad wed'yn dyma'r llyn i gyd yn berwi nes oedd y tonne'n wyn ar i wyneb a'r pysgod yn neido i'r tir ac ar ol hynny dyma ladi wen yn codi o ganol y llyn ac yn rhoi sgrech ofnadwy ac yna fe gwmpodd `nol i'r dwr a suddodd o'n ngolwg `ha ha l' ag fe `wherthinodd y gwr drwg nes o'dd yr holl le'n crynu a finne'n crynu'n fwy na dim `wel `rwyt ti wedi gneud dy waith ' mynte fe wrtha i `a fe af a ti'n ol i lansadwrn `y ngwas i uchel wynt neu isel wynt fynni di ' rown i wedi ca'l digon ar fod yn y cymyle ac x `rown i wedi dotio'n arswydus `isel wynt un isel iawn syr os gwelwch chi fod yn dda ' myntwn i a gyda'r gair dyma ni'n cwmpo fel carreg blwm o'r awyr nes own i'n meddwl y cesen ni'n towlu'n rhacsjibbedêrs yn erbyn y creige coch sy' rownd i'r llyn ond fe stopodd yn syden pan o'en ni rhyw ugen tro'dfedd o wrth y ddaear a bant a ni fel tân gwyllt yn ol tua llansadwrn fe ddeuthon yn ddianhap hyd bontarlleche `dipyn bach yn uwch os gwelwch chi'n dda syr ' mynte fi wa'th `rown i'n gwel'd fod brige'r co'd ar ein ffordd `bydd yn llonydd ' mynte'r gwr drwg `isel wynt ofynsot ti am dano ag isel wynt gei di ' a bant a ni drwy frige'r co'd a thrwy'r perthi a'r drysni a'r drain nes o'dd `y ngwyneb i'n gwaedu a `nghnawd yn ddolur i gyd `nol a ni dros langadog lle bues i jist a bwrw yn erbyn clochdy'r eglws a thros y towy ac i'r lan tua'r gelynen `arglwydd grasol cadw fi ' myntwn i wa'th `rown i'n meddwl fod fy niwedd i wedi dwad a `down i ddim wedi `styried am weddio o'r bla'n yn y man dyma'r gwr drwg yn rhoi sgrech arswydus a dyma fe'n `ngellwng i'n rhydd fe gwmpes ar `y mhen ar ben y mwdwl gwair ar bwys y ty a dyna lwc mai ar hwnnw y cwmpes i neu fu'swn i ddim byw i `weud yr hanes mae'n rhaid i fi fod wedi ffeintio wa'th `wy' ddim yn cofio dim wed'yn hyd nes i fi ddwad ato'n hunan bore dranno'th a'r houl wedi codi er's orie a hen wraig `y mam bron colli arni'i hunan am nad o'dd wil i mab wedi cyrraedd gatre o'r ffair odi chi'n gweud y gwir wil gofynnem ninnau'r plant bob tro y clywen y stori ac ni fynnem i wil newid un gair nac ymadrodd o'r dechreu i'r diwedd x yn wir o hir arfer ei chlywed yr oeddem yn gwybod y stori gystal â wil ei hun odi chi'n gweud y gwir wil mae'n eitha `gwir `tawn i'n aped barn atebai wil gyda dwyster difrifol `roedd `y ngwyneb i'n greithe i gyd am wythnose ag `roedd hynny'n dangos mai nid wedi breuddwydio neu wedi cael hunllef own i ond beth o'dd yn y crochon gofynnem o rhyw frwmstan at gwnsheri `stim dowt ebe wil ond wrth gwrs alla i ddim a gweud wa'th ro'dd gormod o ofon arna i i dasto fe ond pam o'dd e'n gneud i chi i dowlu e' i'r llyn fe fues gyda harris cwrt y cadno y dyn hysbys chi'n gwbod i dreio ca'l diall meddai wil wa'th o'dd gan harris lyfre cwnsheri a fe wedws wrtha i mai abracadabra oedd un o'r rhegfeydd glwes i `ro'dd harris yn tyngu mai eisie lladd y ladi wen mam meddygon myddfai wa'th `ro'dd hi'n arfer byw yng ngwaelod y llyn o'dd ar y gwr drwg rhag iddi hi ddwad i helpi pobol dlawd yn erbyn afiechyd ag mae'n eitha' gwir neu gofynnwch chi i jac sucan wa'th mae e'n gwbod o achos fe `na'th e' ffortiwn ar y pryd wrth werthi sucan ym merthyr i'r colêra dorri ma's yn y gweithe yn union ar ol `ny a fe dda'th y ddyrton h y y cryd i'r ardal hyn y gaea' ar ôl a `do's neb wedi gwel'd y ladi wen ar ddydd llun cynta awst byth wed'yn ond diolch i fi ddwad yn rhydd o'i grafange fe er fod gwynegon yn fy ysgwydd i jist lle cydiodd y gwr drwg yndo i hyd heddi ond pam ddaeth e' atoch chi wil oedd y gofyniad diweddaf o' `rown i newydd ga'l fy nerbyn yng nghapel seion ebe wil a `stim dowt mai dyna fel yr o'dd e'n talu'r pwyth yn ol i fi x pennod viii chware plant wrth edrych yn ôl y mae'n syn gennyf gymaint o hen arferion oedd eto ar gael a chadw pan oeddwn i'n fachgen amser nadolig deuai mari lwyd heibio dau neu dri o wy r â phen ceffyl pren yn gorchuddio eu pennau ni wyddem ifi na'r chwareuwyr eu hunain mai mystery play y canol oesoedd oedd mari lwyd mai dynwared yr asyn a farchogwyd gan joseph pan aeth ef a'r mab bychan a mair fendigaid mari lwyd yr oedd y chwareuwyr a'r pen ceffyl ac mai pabyddiaeth rhonc oedd wrth wraidd yr hen ddefod nid wyf yn cofio'r rhigymau a genid ond fel hyn y dechreuent mari lwyd lawen ddaeth lawr o bendarren i ofyn am gennad i ganu a thebyg gan mai o bendarren y deuthant mai gwy r o'r gweithiau oedd y chwareuwyr clywais lawer o sôn am y gwahoddwr hynny yw gwr fyddai'n myn'd oddiamgylch i wahodd pobl i briodas ond nid wyf yn cofio gwel'd un o'r tylwyth erioed `rwy'n cofio serch hynny am y briodasferch yn cuddio pan ddeuai'r priodfab i'w hymofyn ac am y ddeuddyn yn carlamu ymaith ar ol y seremoni a'r gwy r ceffylau yn eu dilyn clywais ddywedyd gan rhys edwards ei fod ef yn cofio'r amser pan oedd x prydydd yn myn'd gyda'r priodfab i geisio'r ferch ifanc byddai drws y ty ynghlô a byddai prydydd y priodfab o'r tuallan yn ymryson â phrydydd y ferch ifanc o'r tu mewn cyn yr agorid y drws yr oedd y daith neithior yn beth cyffredin er mai ychydig o blant ffermwyr oedd erbyn hyn yn cadw'r hen arferiad i fyny ond cofiaf mai'r un ddiweddaf a fum i ynddi oedd taith gan berthynas imi weithiau yn lle taith cynhelid cwrw bach i helpu'r pâr ifanc i ddechreu eu byd neu i gynorthwyo rhywun tlawd nid oedd neb yn cael ei geryddu gan y seiet am fyn'd ar y criws mewn taith neu gwrw bach oblegid golygid er fod y dyn yn gwneud drwg iddo ei hun yr oedd yn gwneud hynny er mwyn helpu arall ond `roedd disgyblaeth lem yn disgwyl neb pwy bynnag äi ar y cnap mewn ffair neu acshwn ac wrth son am fyn'd ar y criws ai go on a cruise a feddylier gair hynod arall ar lafar gwlad oedd dweyd fod dyn wedi troi allan yn eitha rodne pan wedi colli ei gymeriad ai cyfeiriad at admiral rodney yw hyn hen forwr dewr ond dibarch oedd yn blodeuo flwyddyn y tair caib mae'n agos i dri chan mlynedd er pan geisiodd harri'r wythfed drwy rym cyfraith osod i lawr y cymhorthau ond er gwaethaf cyfraith yr oedd yr arferiad yn ei rwysg ddeugain mlynedd yn ôl gwelais gynifer a chant o wy r gwragedd a phlant yn y fedel wenith yn fy hen gartref a mawr oedd y spri a'r rhialtwch wrth swpera wedi dyfod a'r ysgub olaf dan dô bid siwr nid oedd y fedel wenith yn sefydliad arbennig i gymru oblegid yn yr amser gynt yr oedd melsupper neu harvest home yn beth cyffredin drwy loegr a gorchymynnwyd i'r x israeliaid gadw gw yl i'r arglwydd ar ol casglu ffrwythau'r ddaear a pheth cyffredin oedd i weithwyr a'u gwragedd dalu am gyrnwynas drwy roddi diwrnod o waith gyda'r cynhaeaf bum mewn llawer gwylnos cwrdd gweddi a gynhelid mewn tyddyn y noson cyn claddu'r marw a byddid yn cynneu canwyllau o gylch yr arch heb feddwl mai defod babyddol ydoedd ar sul y blodau byddai pawb yn gosod blodau ar fedd eu hanwyliaid arferiad sydd erbyn hyn wedi ail daenu dros yr holl wlad ond oedd y pryd hwnnw'n gyfyngedig braidd yn hollol i gymru brotestanaidd clywais ddywedyd gan yr hen bobl eu bod `s lawer dydd yn plygu glin cyn cymeryd eu sedd yn yr eglwys fel y moesgryma aelodau ty 'r cyffredin o flaen cadair y llefarydd meddyliai'r hen bobl mai er dangos parch i'r offeiriad y gwnaent hyn fel y cred llawer aelod mai er dangos parch i'r llefarydd y mae ef yn plygu ei ben ond tarddell yr arferiad yn ddiau yn y ddau le oedd y moesgrymu o flaen llun y groes pan groesai pioden aderyn aflan er na wn pam y meddylid hynny am un o'r creaduriaid harddaf mewn natur ein llwybr rhaid oedd tynnu llun y groes ar y ffordd gan ddywedyd gris gro's pan fyddai'r plant yn bargeinio a'u gilydd ar ol cytuno daliai un ei law allan gan weiddi llaw dân a tharawai'r llall hi'n ffyrnig gan ateb tâl po'th persondy y gelwid y vicarage er mai `ffeirad oedd y person ar y cyntaf o ionawr äi'r plant oddi amgylch y plwyf i hel calennig p'un ai arian neu bicenni ond dethlid calan gaeaf ym mis tachwedd yn ol yr hen arfer a syrthiai calan mai ym mis mai yr oeddem ni felly wedi gwella ar y x rhufeinaid oblegid yr oedd gennym ni dri yn lle dau galan nid oedd fawr o hen chware gampau'r cymry yn aros chwareuem ryw fath o fando a chaffem hwyl fawr wrth neidio caerbedw ond gan mwyaf chwareuon dwad oedd chwareuon y plant marbles sixstones hop scotch a'r bêl ddu yr oedd pawb yn gyrru ffolantau valentines ym mis bach ac yr oedd merched yr ardal yn cystadlu p'un a fyddai wedi derbyn mwyaf ond arfer seisnigaidd a newydd ydoedd ac y mae erbyn hyn wedi darfod o'r tir oherwydd nid oedd iddi ddyfnder daear ond yr oedd yr hen arferiad cymreig o ddanfon capan helyg i fab oedd wedi ei wrthod gan ei gariad yn aros mewn bri mae llawer o sôn yn y dyddiau hyn am eisteddfod y plant a chlywais lawer yn honni mai hwn a hwn neu hwn a hwn oedd wedi dechreu'r sefydliad defnyddiol am y tro cyntaf ond pan oeddwn yn ddeng mlwydd oed bum yn ysgrifennydd eisteddfod o'r fath plant oedd y pwyllgor plant oedd y cystadleu wyr a tom fy mrawd ac yntau heb fod ond mlwydd oed oedd y cadeirydd yn yr awyr agored yn yr allt gerllaw'r ty y cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf o'r gyfres a chofiaf fel pe na bai wedi digwydd ond ddoe wel'd yr hen nansi lloegrfach yr hon oedd dros bedwar ugain oed ar y pryd yn eistedd yn ei shôl fach a'i phais fach a'i chap lasis mewn cadair freichiau ar y llwyfan yn mwynhau'r eisteddfod gyntaf a'r olaf y bu hi ynddi erioed cafodd y bobl mewn oed y fraint o dalu am fyn'd i mewn i'r eisteddfod a phobl mewn oed oedd y beirniaid i gyd yr oedd mynyddog wedi newydd fod ar ymweliad â'r plwyf cyfagos i arwain a beirniadu mewn eisteddfod x yn y prydnawn ac i ganu yn y cyngerdd yn yr hwyr dyma'r unig waith y gwelais y gwr amryddawn ac y mae'n fyw yn fy nghof hyd y dydd heddyw ef oedd y cyntaf a welais erioed yn chware'r berdoneg ac yn canu yr un pryd a chredwn i a phawb arall na welwyd y fath gampwaith o'r blaen bu cystadlu ar adrodd ei benillion curwch yr haearn tra fyddo yn boeth ac i tom fy mrawd y dyfarnodd mynyddog y wobr ni chreodd dim gymaint o gynnwrf yn yr ardal ag ymweliad y gwr enwog ac am fisoedd buwyd yn adrodd ac ail adrodd ei ffraethebion be `di'r sw n wyt ti'n gadw yn y gallery gofynnai'r arweinydd yn wawdlym `rwy' wedi colli'n hat atebai rhywun wel beth os wyt `rwyf fi wedi colli'n ngwallt a `dwyf fi ddim yn gneud hanner y row wyt ti ymweliad mynyddog a wnaeth i ni'r plant benderfynnu cychwyn eisteddfod yn union fel y cynhaliem breimin ploughing match ar ochr y clawdd a dernyn o bren yn aradr a chymanfa yn y llwyn arel laurel yn yr ardd i ddynwared y bobl mewn oed beth amser yn ol danfonodd fy hen gyfaill a chydoeswr james rees y teiliwr gopi ataf o raglen eisteddfod y `sgubor a gynhaliwyd yn nid yn yr un lle y cynhelid yr eisteddfodau yn yr allt y bu'r gyntaf cymerodd gruffydd y gôf y gadair yn eisteddfod y cartws cart house tomos pencae y gwas mawr yn eisteddfod y storws storehouse a fy nhadcu yn eisteddfod y `sgubor eisteddfod werinol oedd eisteddfod y plant ac ni ddisgwylid i'r cadeirydd wneud dim ond rhoddi ei bresenoldeb ynoi o si sic omnes dyma'r rhaglen wedi ei thalfyrru ychydig x brownhill llansadwrn cynhelir eisteddfod gadeiriol yn y lle uchod ar ddydd mercher y fed o hydref o dan nawdd rhai o brif foneddigesau a boneddigion yr ardal pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ol y drefn ganlynol cerddoriaeth s d solidus swllt denarius ceiniog i'r un a gano yn oreu unawd soprano tyn am y lan a'r cydgan i'w ganu gan bedwarawd gwobr d i'r un a gano yn oreu y milwr bach d i'r un a gano yn oreu carmel stephens jones d barddoniaeth am y bryddest oreu ar yr olygfa geir o ben y fan llansadwrn dim dros o linellau gwobr cadair capan comicyll ac ffyrling am yr englyn goreu i lansadwrn a llanwrda gwobr d rhyddiaith am y traethawd goreu ar y gwenyn ar addysg a roddant i ddyn gwobr llyfr gan gyfaill a d am y traethawd goreu i rai dan ddeg oed ar samson gwobr llyfr gan gyfaill am y llythyr goreu at frawd neu chwaer gwobr d amrywiaeth am y ddadl pa un sydd fwyaf defnyddiol i ffarmwr buwch neu ddafad gwobr d araith ar y pryd gwobr ½ d am yr araith oreu ar yr eisteddfod a'i daioni gwobr d am yr adroddiad goreu o'r salm gyntaf gwobr ½ d sillebu gwobr ½ d darllen gwobr ½ d x celfyddydwaith am y ffon oreu gwobr d am yr hosanau goreu gwobr ½ d gwobr gwd goreu i wobrwyo'r bardd buddugol ar y bryddest gwobr d am y gwniad goreu rhyw ddernyn o ddewisiad yr awdwr gwobr d ymysg y beimiaid ceir enwau prif wy r a gwragedd y plwyf y cadeirydd oedd thomas davies ysw banc y lan ac yntau druan wr yn tynnu at ei ddeg a thrigain oed ac heb gymeryd y gadair mewn cyfarfod cyhoeddus byth ond hynny a'r arweinydd oedd dewi towy ymysg yr amodau ceir hwn rhaid i'r holl gystadleuwyr fod dan oed diwedd y gân oedd y geiniog mynediad i mewn esgynlawr d blaen seddau d ol seddau id nid wyf yn cofio ond pedair llinell o'r bryddest fuddugol llandilo fawr ar ael y bryn llandilo fân gerllaw llandyfri dref a'i grydd yn wlyb yn cwato rhag y glaw a dwy linell o'r unig englyn a ddanfonwyd i mewn i'r gystadleuaeth llansadwrn didwrn a da llawn order yw llanwrda dyfarnodd dewi towy ar ol gwneud llawer o spri ar ben y didwrn a'r order hanner y wobr i'r cystadleuydd am ei anturiaeth ni fu pwyllgor eisteddfod genedlaethol erioed yn fwy eu ffwdan nag oeddem ni'r plant am ddyddiau x cyn yr eisteddfod yn poeni'r merched i wneud gwobrgydau oblegyd meddylid mil mwy am y bag hyd yn oed nag am y wobr yn paratoi'r tocynnau a'r rhaglenni oblegyd ni ellid fforddio eu hargraffu ac i godi'r llwyfan a gwneuthur y meinciau pa ryfedd meddaf wrth gofio am eisteddfodau'r plant fod yr hen iaith wedi goroesi cymaint o'i chaseion a'i gelynion y fath ynni a brwdfrydedd mewn plantos yn ffurfio pwyllgor yn ethol swyddogion yn trefnu'r rhaglen yn bwrw'r draul yn paratoi'r cyhoeddiadau yn codi'r llwyfan yn dysgu'r tonau yn ysgrifermu traethodau a phenillion ac areithiau a'u dysgu ar gof a'r cyfan heb gyfarwyddyd gan bobl mewn oed ni chlywid gair o gymraeg yn yr ysgol ddyddiol ac ni ddysgwyd un ohonom y ffordd i ysgrifennu'r hen iaith nid oedd gan neb ohonom chwaith lawer o lyfrau cymraeg a'r ychydig oedd yn ein meddiant tra anghymwys oeddynt i blant o'n hoedran ni ystoriau'r beibl taith y pererin a'r rhyfel ysbrydol caban f'ewyrth twm john halifax wedi ei gyfieithu a'i gyhoeddi yn nhrysorfa'r plant gweithiau ceiriog mynyddog a watcyn wyn oedd ein prif lyfrau `roedd un neu ddau yn hyddysg yng nghampwaith yr hen theophilus drych y prif oesoedd a chymru fu a darllenais yn gynnar llewelyn parri llew llwyfo a jeffrey jarman gruffydd rhisiart ond o'u cymharu â'r llyfrau a ddarperid ar gyfer plant saeson mor llwm oedd ein llenyddiaeth er hynny yr oedd rhyw allu gwyrthiol yn yr hen iaith yn ein symbylu i wrteithio'n talentau syml a'n cynheddfau cynhenid a dyna mi gredaf yw hynodrwydd a rhamant y gyrnraeg er lleied ei buddiannau x mae rhyw fywyd a chynnydd gwyrthiol ynddi hi a dâl ar ei chanfed i'r rhai a'i carant ac y mae mor wir am dani hi ag am ddoethineb dyrchafa di hi a hi a'th ddyrchafa di ond mae'r byd wedi newid ac yn parhau i newid o dô i dô a ydyw bywyd gwledig yng nghymru heddyw mor gyfoethog mor llawn diddordeb ag ydoedd cynt caiff ereill ateb oblegid ni allaf fi dorri'r ddadl a yw prif areithwyr a phregethwyr ein gwlad yn y dyddiau hyn yn arfer talu ymweliad â'r pentrefi dinod neu a ydynt yn boddlon ar areithio a phregethu yn ein trefydd mawrion ys dywedai tomos y crydd `rwy'n cofio llew llwyfo yn canu ac adrodd am oriau eos morlais yn canu a charadog yn chware'r crwth hiraethog a matthews ewenny cranogwen a'r ferch o ganaan yn darlithio tanymarian yn arwain cymanfa ganu a chewri'r pulpud yn pregethu ar y maes mewn ysguboriau a thai annedd a chapelau bach diaddurn nid oedd gan gymru na phrifddinas na phrifysgol ac ni ddaeth i'w meddwl roddi prif weinidog i brydain fawr ond ai tybed nad ydoedd y genedl yn ei chyfanrwydd yn fwy ei breintiau yn gryfach a gwreiddiolach ei doniau ac yn fwy cymreig ei hathrylith aberthodd y tadau lawer dros gael addysg i'r werin gwell dysg na golud oedd eu harwyddair a ydyw'r cymry dysgedig bob amser yn foddlon eilio'r hen ddihareb malldod ac nid bendith fydd ein haddysg os defnyddir ef i godi'r ychydig ar draul esgeuluso'r llawer boed i ni ymestyn at ragori ar gymru fu rnewn dysg a diwylliant mewn gwybodaeth mewn x cariad at y prydferth a'r cain ond na foed i ni anghofio mai prif ogoniant cymru `s lawer dydd oedd ei diwylliant gwerinol ei hegni meddyliol ei greddf lengarol nid yw cymru heb gymraeg ond fel dafydd ap gwilym heb ei wen un ydwyf pan bwyf heb wen afrywiog heb fawr awen ac ernych tost i'm gornwyf o flaen neb aflawen wyf heb gof heb ynof enaid na rhith o'r synnwyr fo rhaid ond tra erys y gymraeg yn fyw ac yn flodeuog yn destyn ymchwil ac yn offeryn llên gall cymru ganu gyda'r bardd gyda gwen wy'n ddibenyd gwna hon fi'n galon i gyd a'm can yn rhedeg i'm cof yn winaidd awen ynof ond ni ddaw im awr lawen i'm bywyd mewn byd heb wen ymffrostiwn yn ein cariad at ddysg a chlywais wladweinydd o sais ac efe'n weinidog addysg yn ein canmol ar g'oedd gwlad a senedd am ein sêl a'n brwdfrydedd ond na foed i ni anghofio mai gwell dawn na dysg na cholli yr hen ddawn gymreig yn ein sêl ysol am wybodaeth a llwyddiant hydref x hen dramp ar brynhawngwaith tesog ym mis awst fel yr oeddwn yn dychwelyd yn llwythog o lannau'r tywi a'r wialen bysgota ar fy ysgwydd gwelwn hen w r yn rhodio'n wisgi o'm blaen ar y ffordd fawr yn fuan deuthum i fyny ato a chanfum mai dyn dieithr neu yn ol y gair lleol dyn dwad ydoedd prynhawn da i chi syr eb ef wrthyf a gwên hapus ar ei wyneb llwyd yr oedd tua hanner cant oed a'i wallt a'i farf yn frith ond gan gymaint hoywder ei gerddediad a llonder ei lygad glâs braidd y gellid credu fod henaint wedi gosod llaw i gyffwrdd ag ef prynhawn da meddwn innau yn saesneg oherwydd yn saesneg y cyfarchodd fi `rwyf wedi cerdded o lambedr heddyw meddai ac ` rwyf wedi blino'n ofnadwy `does gennyf un geiniog mr lloyd bach nid lloyd yw f'enw atebais yn swrth nage eb ef yn syn `roeddwn i'n meddwl mai mr lloyd glansefin oeddech chi gan enwi ysgweier yn yr ardal ond pwy bynnag ydech chi gw r bonheddig ydech chi a fyddwch chi ddim yn gâs wrthyf os dof i byth o'ch blaen chi ond `dwyf fi ddim yn ustus heddwch meddwn innau ddim yn j p gofynnai wel wel fe glywes cyn heddyw fod pobl shirgâr ymhell yn ol yn hyn o beth ac fod y bobl oreu yn cael eu cau allan o'r fainc x ond chredes i ddim o hynny o'r blaen meddyliwch nawr y chi syr yn w r bonheddig ac heb fod yn j p nid gw r bonheddig wyf fi atebais yn gymraeg gan gofio hen chwedl tal ond cymro cymro ebe'r hen dramp weles i `rioed ffasiwn beth ac yn siarad cymraeg glân gloyw o fel mae'r hen genedl yn mynd yn i blaen dyna beth nad oedd i'w gael yng nghymru pan oeddwn i'n hogyn yn nhowyn ystalwm gw r bonheddig fel chi syr yn siarad cymraeg cystal a minne cymru am byth ynte mae'r hen genedl a'r hen iaith yn mynd yn i blaen piti na faswn inne syr yn mynd yn fy mlaen efo nhw ychwanegai gydag ochenaid do do mi ges i'r chance ore yn y byd ac aberthodd yr hen wraig fy mam lawer i'm codi'n berson a fuoch chi'n `ffeirad gofyrmais yn syn dier mi do syr atebodd gan chwerthin ac roedd pawb a'm clywodd yn deud y gallwn i bregethu gystal a'r un sentar ond fe feddwes yn yfflon jibarders fel y byddan nhw'n deud yn nghwm rhondda a fe ddaeth fy ngyrfa offeiriadol i sudden stop `roeddwn i yn y coleg efo person y plwy yma ond `daiff john evans ddim ato yn i garpie na na mae gormod o honour yn yr hen john i wneud hynny hefyd ond ffordd trowyd chi ma's o'r eglwys gofynnais eilwaith syr eb ef a'i lygad glasddu'n dawnsio gan ddigrifwch ac ysmaldod `does dim ond un ffordd i stopio pregethwr drwy dorri'i dafod o ond mae tair ffordd i stopio person yn y lle cyntaf fel yr oeddwn i'n arfer deud drwy dynnu'r llyfr gweddi cyffredin oddiwrtho ac yna feder o ddim traethu yn ail x drwy dynnu'r wenwisg oddiamdano ac yna chaiff o ddim traethu ac yn drydydd ac yn olaf drwy dynnu'r degwm oddiwrtho ac yna fyn o ddim traethu ac fe wnawd y tri pheth bendigaid â mi ar yr un pryd wel meddwn fuoch chi ddim yn treio cael mynd `nol wedi'r cyfan efallai y cewch faddeuant maddeuant ebe'r hen dramp life sentence syr oedd hi ac yn wir yr oeddwn i wedi danto fel y dywed gwy r shirgâr ar grefydda ystalwm danto achos peth gofynnais irmau wel `r ydw i'n fab i `nhad ag `r ydw i'n cofio'r gweinidog yn dwad i weld fy nhad yn y bala ond `rown i'n meddwl mai yn nhowyn oedd ych cartre chi ddwedes i hynny syr eb ef yn hollol ddigyffro y bala oeddwn i'n feddwl lipsus languae fel y dyweden ni yn y coleg gynt yn y bala syr a fe ddaeth y gweinidog fel `roeddwn i'n deud i weld fy nhad i'w gymell o i ddwad i'r moddion `dowch rwan robert ifans ' medde fo `dowch i'r capel fe naiff les i chi ddwad fe fydd rhywbeth yn y bregeth ne yn narlleniad y gair ne yn y weddi ne'r emyn yn siwr o neud lles i chi ne dowch petae ddim ond i weld y'ch cymydogion yn lle pendrymu wrth y tân fel hyn ' `na ' medde `nhad rwy' wedi danto ' achos hwntw oedd y `nhad ac iaith yr hwntws oedd o'n siarad `danto sut ' medde'r gweinidog `wel medde `nhad ``rwy' wedi bod yn meddwl nawr am dana i a chi a `nhad a mam a `nhadcu a'm mamgu a'r hen dduwiolion erill oddiar amser iesu grist hyd y'n hamser ni beth maen nhw wedi bod yn `neud ond cwrso'r diawl a mae'n nhw mor bell o'i ddala fe heddi ag erio'd ' ac yr oeddwn inne wedi hen ddanto x ar grefydda syr cyn i mi gael fy nhroi allan o'r eglwys a dyma fi heno heb geiniog yn fy mhoced na gwely i fynd iddo mae gan y llwynogod ffeuau ond pam na throwch chi ddalen john ifans ebe finnau fe ellwch gael digon o waith yn yr ardal `nawr ynghanol y cynhauaf gwaith syr meddai'r hen dramp yn ddireidus roedd mam mae hi'n angel gwyn yn y nefoedd ers blynyddoedd druan yn arfer deud nad oedd dim ofn gwaith ar john i mab y gwnae o gysgu wrth i ochor o a gwir ddeudodd yr hen santes ogoneddus `roedd hi'n deall john i mhab i'r blewyn ac os ydi chi'n edrych dros ganllawie'r nef ar hynt y ddaear fel y crede hi pan oedd hi yma ar y llawr a fydd y nefoedd ddim yn nefoedd iddi hi os na chaiff hi drafod busnes pobol erill mi wêl fod i phroffwydoliaeth wedi dwad yn wir ac na chaiff john i mhab ddiwrnod o waith yn i fywyd a dydi o ddim yn mynd i ddechre ar y fath job yn i hen ddyddie `rydw i'n gwybod yn dda fel yr oedden ni'n arfer siarad am the dignity of labour ond mae dull y byd hwn yn mynd heibio dyna i chi adnod i brofi'r pwnc syr a `does neb yn gweithio `rwan os gall o fyw heb neud mae'r wraig yn gwisgo sidan a'r gwr a'i aur yn ffri a'r ferch ar gefn ei bicycle a'r beili yn y ty ond mr rice bach nid rice yw f'enw meddwn innau nage ebe'r hen walch gan grychu ei dalcen a sefyll yn syn ar y ffordd `roeddwn i'n siwr mai mab lord dynevor oeddech chi oblegid mi glywes i x fod oln gallu siarad cymraeg a'i fod o'n wr bynheddig glân llednais ond pwy bynnag ydech chi syr mi wn mai gwr bynheddig fine caredig elusengar ydech chi cofiwch yr adnod `gwyn fyd y trugarogion ' ond dyna dyna `does dim ond eisie edrych ar ych gwyneb chi i weld ych bod chi'n dilin ôl y meistr gan fyned oddiamgylch gan wneuthur daioni `rydw i'n cydfynd â luther syr nad ydi epistol iago ddim yn rhan o'r gair ysbrydoledig mae o wedi gwneud drwg mawr yn y byd ac wedi peri i lawer gyfeiliorni shwd hynny meddwn `crefydd bur a difrycheulyd ' ebe lago `yw ymweled â'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd ' a phwy grefydd sydd eisie i fynd i weld gweddw ifanc hawddgar a dal i llaw a chydymdeimlo â hi yn i hadfyd pan oeddwn i'n weinidog yn rhymni ' ond ginne fach `roech chi'n gweud mai `ffeirad oech chi'n arfer bod a ddeudes i hynny wel wel peidiwch bod yn rhy gritic syr `roeddwn i'n meddwl pryd hynny mai eglwyswr oeddech chi mi fum i'n bolitician blaenllaw unwaith a mae rhai o'r hen drics yn glynu wrtha i o hyd ond dyna oeddwn i'n mynd i ddeud syr mae'n hawdd cydymdelmlo â gwidw yn enwedig os ydi hi'n ifanc a chlên ond mae eisie crefydd ar ddyn cyn y rhoiff o gardod i hen dramp na wnaeth ddiwrnod o waith yn i fywyd ac a deud y gwir i chi `rydw i'n cael fod cryn lawer o grefydd yn aros yng nghymru o hyd neithiwr yn llambed mi ges chwe cheiniog gan berson a `dalla i ddim credu fod llai o grefydd ymhhth ymneilltuwyr dyffryn tywi ac yn llambed buoch chi neithiwr x ie yn y workhouse yn y ty mawr diolch fod tô i gael i gadw'r storm rhag curo ar fy nhalcen slip `does dim lle rhy gysurus yn workhouse llambed ond `roeddwn i'n penderfynu cael gwerth chwech o gwrw jem yr hen number one bendigedig ar ben y mynydd heddyw'r bore ond ow ow `does dim workhouse yn llangadog a `does gen i geiniog bren i dalu am wely na châr na pherthynas i fynd ato `rydw i'n cofio'r hen sergeant williams yma flynyddoedd yn ol pan oeddwn i'n dwad yma i glera ond mae plisman newydd yma meddan nhw erbyn hyn yr hwn nid adwaen mo'r hen john ifans ach y fi fel dywedwch chi'r shirgârs fel mae cyfnewidiadau yn cymryd lle mewn lle bach fel hyn mae llawer iawn o droeon yn digwydd yn y byd ond os marw wnaiff y sergeant mae'r lock up yr un o hyd ond mae'n rhaid i mi'ch gadel chi syr i chwilio am wely er y nefoedd fawr a w yr ffordd galla'i dalu am dano a mae credit john ifans wedi mynd dipen yn isel ers blynyddoedd o diolch yn fawr iawn i chi syr swllt y nefoedd a'ch bendithio `r ydech chi ddwywaith yn fwy o gristion na pherson llambed gaf wely cynnes heno a pheint cyn mynd iddo syr `roeddwn i'n gwybod mai gw r bynheddig oeddech chi mae llygad ym mhen yr hen john ifans o hyd ac a allwch chi ddeud pwy amser mae'r trên cynta yn mynd i landeilo bore fory chwech o'r gloch rhy gynnar i wy r byddigions fel chi a fi syr `pryd mae'r trên diwetha'n mynd i'r bermo ' medde mam druan wrth station master towyn `dyn dy x helpo di `rhen wreigan ' medde hwnnw ddim yn dy oes di na minne ' ddowch chi ddim i mewn i gâl glasiad efo'n gilydd wel nos dawch ynte a diolch ganwaith am helpu hen dramp ac aeth i mewn i'r tafarn cyntaf wrth law argraffwyd a chyhoeddwyd gan james davies a'i gwmni cyf gwasg deheudir cymru llanelli ····· hg hc w amp l y amp hb wq l me ot amp cd amp n slawer slawer dydd cym ····· ble'r wÿf i yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r gwefan cymru catalonia on sóc esteu visitant una pàgina of the web cymru catalonia galles catalunya where am i you are visiting a page from the cymru catalonia wales catalonia website weørr am ai yuu aarr vízïting ø peij from dhø cymru catalonia weilz katølóuniø wéb sait cymru catalonia sion prys slawer dydd slawer dydd cym