hanes tonyrefail atgofion am y lle a'r hen bobl gan y diweddar thomas morgan ystus heddwch y fron pontypridd yn nghyda rhagarweiniad ystoriau ac enwau lleol gan morien caerdydd argraffwyd gan y western mail limited gwefan cymru cataloniia portada ffeiliau gweithio minneso ta aa baner cymru gif gwefan cymru cataloniia portada ffeiliau gweithio minneso ta baner catalonia gif gwefan cymru catalonia la web de catalunya i gal·les the wales catalonia website http www estelnet com catalunyacymru catala sion prys hanes tony refail htm hanes tonyrefail thomas morgan caer dÿdd gyda rhagymadrodd ag atodiad ar enwau lleol o amgylch tonyrefail gan owen morgan morien adolygiad diweddaraf mân wallau wedi eu cywirio mân wallau wedi eu cywirio ····· dolennau ar gyfer tudalennau eraill yn y gwefan hwn ····· mynegai i'r llÿfr hwn ····· trosiad saesneg english translation of this text ····· llên cymraeg ar y we tudalen siôn prÿs aberhonddu mynegai ar gyfer y testunau yn y gwefan hwn ····· testunau cymraeg â throsiad saesneg yn y gwefan hwn ····· yr iaith gymráeg ····· chwiliwch amdano yn y gwefan hwn neu ar y rhyngwe o'n tudalen archwilwÿr ····· cynllun y gwefan ····· mynegai yn nhrefn y wÿddor i'r hÿn a geir yn y gwefan ····· y cyntedd croeso ····· tudalen blaen y gwefan 'cymru catalonia' ····· cynnwys rhif ac enw'r adran rhif y tudalen yn y llyfr gwreiddiol rhagymadrodd gan morien tudalen y teitl rhagarweiniad hanes tonyrefail thomas morgan a thomas morgan b hynafiaid thomas morgan c llanganna d o'r palasdy i'r siop e neuadd y collena f y parch william evans g dylanwadau boreuol ei oes h dyddiau olaf thomas morgan i llythyr oddiwrth thomas morgan j y parch william evans a hawliau merched i bregethu adgofion am donyrefail a adgofion am donyrefail llith b adgofion am donyrefail llith c adgofion am donyrefail llith d adgofion am donyrefail llith e adgofion am donyrefail llith f adgofion am donyrefail llith g adgofion am donyrefail llith h adgofion am donyrefail llith i adgofion am donyrefail llith enwau lleol o amgylch tonyrefail gan morien palasdy y collena pant y brad cwm castella ty cwrdd y quakers tylcha gelli seren twyn traethawg y rhiw llanilid caecwrlas caerlan gelli gron cileli elwy trebanawg rhiw y garn treboeth heol rhiw winder y waun rydd cae'r ysgol y tran shon y breeches coch shams o gefn tylcha angladd o dloty tonyrefail job y teiliwr tailor mari shams lluest owain llan dyfodwg hendre forgan y gilfach a'r gilfach goch crug glas cwm pant dyfi dimbath glynogwr ton ithel ddu shoni meirionydd pererin gwlad beddargraff hynod twm hywel llywelin ystrad dyfodwg y gwyr rhyddion hil gwroniaid y black army llantrisant llywelin o'r cwrt twynypandy rhondda dydd y farn dr evan davies a bili jac y gwehydd pant y ceiliogod ymladdgar diwygiad crefyddol digwyddiad digri golwg ar y cannar mawr o ben cefnhirgoed wrth afon angeu can i blwyf llanwynno morganwg anianyddiaeth rheidrwydd achos ac effaith hen ddigrifwch yr ioob boob hen ddigrifwch als o'r siop a job y tafarn hen ddigrifwch can hanes ffair aberdar chwain chwain yr ydym wedi cadw'r orgraff wreiddiol yr ydym wedi ychwanegu ambell sylw rhwng cromfachau mewn teip oren gan gynnwys wrth gwt rhai o sylwadau di sail yr awdur dodwyd rhif y tudalen yn y llÿfr gwreiddiol yn y testun fel y canlyn ·x · ·x · ·x · gall fod ambell wall teipio nad ydym wedi ei weld hyd y hyn ·x · ññ llun mawl iddo yn ddiddiwedd y parch william evans ym mhwlpud penuel ñññ ·x · rhagymadrodd ysgrifenwyd yr adgofion canlynol am donyrefail a'i hen bobl gan y diweddar thomas morgan yn ei ddyddiau olaf ar y ddaear yr oedd y duedd lenyddol yn lled gryf ynddo ef er yn fachgen ond yr oedd wedi ei rhwystro i ymddadblygu aeth ei fryd ar fasnach bron yn hollol yr oedd un o'i berthynasau agosaf yn cael mwy o fwynhad er pan oedd yn blentyn mewn llyfrau ysgrifenu a llenyddiaeth o bob math nag mewn unrhyw beth arall yr oedd hyny yn achosi i ambell ymrafael godi rhwng y ddau ac ar droion o'r fath gofynai thomas morgan i'w berthynas pa beth a ddaw llyfrau i mewn i ti yr oedd y perthynas hwnw yn gweled bod synwyr yn y gofyniad a phenderfynai y gwnelai o hyny allan edrych ar y wedd fasnachol ar bob peth ond ni fedrai ef gadw at ei benderfyniad yn hir tua'r terfyn yr oedd thomas morgan yn cryfhau yn ei dueddiadau llenyddol a dywedai wrth y perthynas rhagddywediedig yr wyt ti yn debyg iawn yn dy ddull o feddwl i mi fe welir wrth y dull doniol a medrus yr ysgrifenodd thomas morgan ei adgofion fod ei serch at lenyddiaeth wedi cael lle helaeth yn ei ddyn oddimewn er bod yn nghanol ffwdan masnach drwy y blynyddoedd yr oedd fel y gwelir wedi bwriadu ysgrifenu ychwaneg o'i adgofion ond daeth y wys oddiuchod i'w gyrchu i fyd yr ysbrydoedd tudraw i'r llen yn lled sydyn meddyliais y buasai hiliogaeth hen drigolion tonyrefail a'r amgylchoedd yn gwerthfawrogi fy ymdrech i osod i gadw yr adgofion yn nghyd a fy ychwanegiadau inau llwyn on glantaf alban eilir morien ·x · tudalen y teitl hanes tonyrefail atgofion am y lle a'r hen bobl gan y diweddar thomas morgan y h y fron pontypridd yn nghyda rhagarweiniad ystoriau ac enwau lleol gan morien caerdydd argraffwyd gan y western mail limited ·x · rhagarweiniad a thomas morgan mr thomas morgan y h morganwg ni ddychwel mwy i'w dy byr hanes gan owen morgan morien ystyriais y dyddiau gynt blynyddoedd yr hen oesoedd salm lxxvii ganwyd thomas morgan ar donyrefail neu yn fwy cywir twynyrefail yn gorphenodd ei yrfa ddaearol chwefror yn y fron pontypridd ail fab ydoedd i llywelin morgan a cesil morgan nee francis yr oedd iddo y brodyr a'r chwiorydd canlynol dafydd william a morgan y cyntaf yn unig sydd ar dir y byw yn awr ac y mae yn oed margaret fy mam ann a mari yr olaf yn unig sydd yn fyw pan yr ysgrifenir hyn b hynafiaid thomas morgan yr oedd ei dad yn fab i dafydd morgan o glyn nedd ac yn hanu o dirfeddianwr bychan yno yr oedd margaret ei wraig yn ferch i'r gwr nodedig hwnw shon llywelin o gefn coed y cymmer awdwr llawer o ganiadau ac emynau poblogaidd ond cysylltir ei enw yn benaf a chan ysmala a elwir y ddafad las a'i ho'n sy'n blino shon llywelin yr oedd cesil ei fam yn hanu o hiliogaeth urddasol morganwg a brycheiniog y canlyn a roddir o'u hanes sydd o lyfr achau mr geo t clark talygarn yr oedd ann morgan yn etifeddes y garth fawr llanilltyd faerdre hi a ymbriododd a richard pumed mab edward thomas perchenog llan ·x · mihangel a'i etifeddiaeth yn agos i bontyfon a elwir yn awr y bontfaen yr oedd y teulu hwn yn hen iawn o hono yr hanodd y thomosiaid o gastell raglan cymerodd y gangen hono yr enw herbert ac o hono hanodd ieirll penfro yr oedd edward thomas llan mihangel yn flaenllaw o blaid charles i yn mrwydr st ffagan a ymladdwyd mai cafodd ef ei ddirwyo i'r swm o dair mil o bunnoedd gan y cadfridog oliver cromwell a'r senedd am hyny gorfu addo werthu llan mihangel i mr edwin gynt arglwydd faer llundain i'w alluogi i dalu y ddirwy y mae llan mihangel yn nodedig oherwydd ei phlanigfa o goed yw tuol sic i'r magwyrydd bu i'r richard thomas uchod ac ann ei wraig fab o'r enw richard ymbriododd ef a nest merch morgan cadwgan o abererchwy abergorci cawsant fab a'i enw oedd james ymbriododd ef a mari merch thomas matthew maes mawr cawsant fab ac enwyd yntau james ymbriododd ef a jane prichard collena tonyrefail o linach iestyn ap gwrgan brenhin morganwg cawsant fab james ac ymbriododd ef ag elizabeth gam dre newydd aberhonddu o linach syr dafydd gam a laddwyd yn mrwydr agincourt pan a'i fwyall ryfel yn cadw'r ffrancod yn ol oddiwrth henri v ei enw priodol oedd dafydd ap llywelin ac efe yw fluellen shakespeare yr oedd i james thomas ac elizabeth nee gam dri mab james william a john priododd john ei berthynas ann deere trelleng trallwng yn agos i lan ilid ann ei merch a briododd a edward francis mwyndy bach a'u merch hwynt oedd cesil mam thomas morgan troednodyn sept th baptism cecily daughter of edward francis farmer and anne his wife llantrisant register yr oedd y deere uchod yn hanu o'r deereiaid o wenvo penllyn a llwyn onn yn agos i ystrad dawen yn awr a elwir ystradowen manylir ar achyddiaeth ceffylau races chwareu teg i achyddiaeth dynoliaeth canys mwy ei gwerth nag eiddo mulod yn gystal ag adar y to ·x · am llywelin a cesil tad a mam thomas morgan yr oeddynt yn wr a gwraig heb ddim yn neillduol yn eu hanes yr oeddynt yn ddiwyd cynil ac yn ymdrechgar i fyw a thalu eu ffordd ac hefyd yn ymegnio morio i gyfeiriad yr hafan ddymunol ar ddiwedd mordaith bywyd y cof cyntaf sydd genyf am eu cartref yw y dyledswydd foreuol o amgylch eu haelwyd llywelin yn darllen pennod o'r hen feibl cymraeg ac yna pawb ar eu deulin yna esgynai y weddi foreuol o enau crynedig fy nhadcu canys dyna oedd y gweddiwr i mi tuag at dad y trugareddau llawer gwaith y gwelais fy mamgu ar ol i'r gweddiwr fyned allan at ei orchwyl yn sychu y dagrau oddiar eisteddle y gadair fawr ger yr hon yr oedd yr hynaws gristion wedi ceisio siarad â'i dduw saer coed oedd wrth ei alwedigaeth a phan y cafwyd ganddo eistedd i'w photographio mynodd ddal ei rule yn ei ddeheulaw fel y byddai hithau hefyd yn y llun gadawodd ar ei ol fwy na'r cyffredin o dda y byd hwn cof genyf y fynyd hon yw iddo ddywedyd wrthyf yn hwyrddydd ei ddyddiau gofala di am danaf dy hunan mae rhyw fwstwr mawr yn dy ben di codwyd thomas morgan yn grydd ac fel hyny yn un o wyr sant crispyn pan tuag ugain oed cychwynodd yn y grefft fel meistr a daeth ei enw yn adnabyddus trwy yr holl ardaloedd amgylchynol am lawer o filldiroedd yr oedd yn ei wasanaeth nifer go helaeth o gryddion ac yr oedd eu gweithfa yn nodedig am ei hysbryd ymofyngar yr oedd y rhan luosocaf o'r cryddion o dref hynafol llantrisant yn shop y cryddion y ceid yr hanesion diweddaf am bob peth mewn byd ac eglwys yno y ceid y glec diweddaf a'r ystoriau mwyaf digri am garwriaethau pentrefi ac ysmaldod personau o bob gradd ac yr oedd gweithredoedd y rhaith neu y senedd yn llundain yn cael eu beirniadu yn swn pwnio lledr a hoelion oddiyno lledaenai hanes cwrs y byd i'r ffermdai a'r bythynod o lantrisant i glynogwy ac o llan bedr sic dim treiglad ar fynydd i drebanawg clywais thomas morgan yn adrodd gan chwerthin am hywel williams hywel y crydd yn ·x · edrych arno yn ddifrifol un boreu pan aeth i'r gweithdy gan ofyn iddo meistr sut y mae hi yn awr gyda lord john fel hyn yr oedd gweithdy y lledr yn fath o ffynnon o'r hon y llifai gwybodaeth trwy yr ardaloedd gwledig hyn yr oedd tonyrefail wedi bod am oesau yn nodedig am bedwar peth ei felin lafur ei efail gof ei gryddion a'i wehyddion yr oedd tai y pentref wedi eu toi a gwellt a'r muriau wedi eu gwyngalchu gwnaeth mr evan prichard perchenog hen etifeddiaeth y collena yr hwn a fu farw mawrth ymdrech i sefydlu yn y lle weithdy gwlan a nyddu ar raddfa helaeth suddodd lynoedd i ddal digon o ddwfr o'r elwy i gario yn y blaen yn gyson haf a gauaf y felin a'r gweithdy gwlan cychwynodd hefyd waith rhaffau rhawn a gelwir y fan hyd heddyw y rope yard ond daeth ei ddyddiau i ben pan tua oed ac amddifadwyd y trigolion o'u noddwr penaf yr hwn oedd yn llafurio a'i holl allu i ddwyn masnach enillol i'w plith ei wraig oedd susanna merch hynaf mr robert thomas o hil llan mihangel hithau a hunodd ionawr yn oed clywais gan yr hen bobl ei gelwid hi wrth yr enw madam prichard wedi marwolaeth mr evan prichard yn etifeddwyd y collena gan eu mab y parchedig richard prichard b d ar ol hyny ficer llandaf bu farw yno yn oed ei wraig oedd eleanor merch mr hopkin llywelin y pryd hwnw yn byw yn y pentre ystradyfodwg ar ol hyny symudodd ei rhieni i brombil margam ei mab oedd mr gruffydd llywelin baglan yr hwn a fu farw tachwedd yn oed dwy flynedd cyn ei farwolaeth yr oedd wedi myned yn berchenog trwy gyfrwysdra o'r parc isa a bwlchyclawdd oddiar hywel thomas dafydd hopkin tad mam tad yr ysgrifenydd bu gweddw gruffydd llywelin farw tachwedd a bu farw ei mab mr gruffydd llywelin rhagfyr yn oed nid oedd plant ar ei ol y mae ei weddw yn awr yn fyw ac yn hynod am ei charedigrwydd yr oedd mr evan prichard wedi ·x · benthyca arian gan mr hopcin llywelin pentre i gario allan y gwelliantau yn nglyn a'i weithfaoedd ar donyrefail a bu y ddyled fel hunllef ar deulu y collena hyd ychydig cyn marwolaeth y gruffydd llywelin olaf efe a'u rhoddodd yn rhydd ac a ddychwelodd y crwyn ysgrifenedig neu y title deeds yn ol i'r teulu c llanganna bu farw yr enwog jones llangan awst yn oed a phenodwyd y parchedig richard prichard b d yn ei le mae yn debyg ei fod yn un o'r offieiriaid hynod hyny yn nghymru a wyddent fwy am yr ieithoedd saesonaeg y groeg a'r lladin nag am iaith frodorol cymru a'r canlyniad oedd ei fod bron yn hollol ddifudd i'r cymry am ei anallu yn mhwlpud enwog llangan y canodd thomas williams bro morganwg yn ei ddyfroedd bethesda `nawr mae eglwys fach llanganna wedi newid oll yn lan porfa las yn awr sy'n tyfu ar y ffyrdd oedd goch o'r bla'n muriau'r llan oedd oll yn eco yn ateb bloedd y werin fawr `does na llef sic heb dreiglad na llais nac adsain i'dd ei glywed yno'n awr mae'r gynulleidfa fawr yn rhanu rhai'n myn'd yma rhai'n myn'd draw 'does yma meddant ddwr na bara gwell ymadael maes o law beth dal aros yn llanganna bellach byth o hyn i maes nid oes yma ddim ond tlodi yn lle'r holl ddanteithion bras dewch i rywle medd y werin dewch heb `rofyn dewch yn un lle bo 'ffeiriad neu gynghorwr nid oes fater nemawr p'un peidiwch aros gyda'r meirw y mae'r ddaear bron ar dan awn i 'mofyn gair y bywyd fel y cawsom ef o'r bla'n ·x · gynt dyddiau hyfryd oedd y rheiny pan oedd rowland uchel ddysg peter ffyddlon william williams llwyd a morys yn ei sic eu mysg jones fel angel o llanganna sic dim treiglad yn adganu'r udgorn mawr nes bai'r dorf mewn twym serchiadau yn dyrchafu uwch y llawr minau yno'n un o'r werin er mai'r annheilynga `i gyd dan y bwrdd yn bwyta'r briwsion o mor hyfryd oedd fy myd torf yn bwyta'r bwydydd brasa' gwin a manna nefoel faeth wrth y fron `r'own ina'n chwerthin tra'n ymborthi ar y llaeth yr olwg gyntaf arno un o'r manau byth mi gofia gwelais i ef gynta' i gyd yn cyhoeddi gair y cymmod i golledig anwir fyd iesu'n marw iesu'n eiriol diwedd byd a boreu'r farn oedd ei bregeth o flaen canoedd wrth hen gapel talygarn ei gladdu yn mhenfro siomedigaeth salem pencoed jones llangan a adeiladodd yr hen gapel yn mhencoed dyma lle y meithrinwyd yr hwyadl deon david howel ty ddewi gosododd jones golofnen bres ar ganwyllbren y pulpud yn salem salem salem lle mae'r glomen arwydd cariad arwydd hedd p'am na chawsai ti'r anrhydeddd o roi ynot iddo fedd p'am ca'dd penfro'i chyfri'n deilwng p'am ysbeiliodd hi dy glod dygodd arnat etifeddiaeth oedd yn gyfiawn i ti'n d'od ·x · taw na chwyna beth sydd fater b'le gorwedda'i gorph i lawr p'un ai'n mhenfro ai'n morganwg hyd yr adgyfodiad mawr corph heb fywyd corph heb ana'l dyna'i gyd sydd ganddynt hwy ninau `i cawsom yn ei fywyd on'd oedd hyn yn llawer mwy gorwedd mrs selina jones priod jones llangan yn nghanol y fynwent ger y capel hwn dywedir i'r llinellau uchod achosi loes mawr i bawb o berthynasau y gwr a fu mor anffortunus ag esgyn i areithfa yr angylaidd jones llangan yr oedd i'r parch richard prichard b d frawd o'r enw evan a'r chwiorydd canlynol mari catherine susanna ann elizabeth martha a deborah ann martha a deborah oedd hen ladies tonyrefail buont fyw yn hen iawn ac hyd heddiw eu coffadwriaeth sydd fendigedig ar dwyn yr efail ac yn nghalonau yr holl bobl sydd yn eu cofio trwy yr ardaloedd amgylchynol canodd williams pantycelyn farwnad i susanna d o'r palasdy i'r siop pan yn y flwyddyn y bu farw mr evan prichard yr oedd rhai o'r merched yn ieuainc iawn yr oedd madam prichard y weddw yn wrol ei hysbryd a chododd ei phlant yn anrhydeddus a chofiai pob un ohonynt mai prichard oedd ei henw ac mai eu heiddo hwynt oedd y collena o heol llantrisant hyd afon elwy saif yr hen balasdy ar fron yn gwynebu tref llantrisant pump o filldiroedd i'r deheu ac yn amlwg o'r palasdy ar nosweithiau tawel deuai peraidd odlau clych y llan gyda'r awel fwyn i'r collena yn y llan yr oedd claddfa y teulu oddiar ddyddiau eu hynafiaid yr arglwydd einon ap collwyn mab arglwydd caredigion sic ceredigion a'r arglwyddes nest unig ferch iestyn ap gwrgan brenhin morganwg dywed mr clark talygarn mai teulu y collena yn unig sydd yn bresenol yn dal rhan o'r hen etifeddiaeth a ·x · ddaeth i'w rhan yn pan ranwyd morganwg rhwng yr estroniaid normanaidd ac y bu yr arglwydd einion yn anfwriadol yn foddion i'w dwyn i mewn i amddiffynfeydd gwlad morgan yn mhell cyn marwolaeth mr evan pritchard collena enw mae'n debyg yn tarddu o'r enw collwyn yr oedd efo a madam prichard ei wraig wedi hoffi yn fawr y dull o gario yn y blaen achos crefyddol gan yr offeiriaid gwir gymreig hyny a fuont yn gychwyniad i'r trefnyddion calfinaidd a elwid yn watwarus methodistiaid y waith gyntaf meddai madam prichard yn ei henaint iddi hi a'i gwr gael eu denu i'r ffordd newydd ond gwir hen mewn gwirionedd oedd ger gwal llan bedr ar fynydd yr oedd hi a mr evan prichard ar geffylau ar eu taith ar nawn sul o'r collena tua thy ei thad ger pontyfon clywent jones llangan yn pregethu i dorf fawr yn y fynwent ac ataliasant eu ceffylau yr oedd udgorn llangan yn peraidd leisio am y ffordd newydd a bywiol a agorwyd i dy dafydd ac i breswylwyr jerusalem cawsant fod rhyw hudoliaeth yn y floedd beraidd o langan e neuadd y collena cyn pen nemawr o wythnosau yr oedd ystafell nyddu neuadd y collena yn gyrchfa pobloedd i wrando yr efengyl yn cael ei thraddodi yn hen ddull cenedl y cymry cyn i'r hen lanau gael eu halogi gan locustiaid estronol o bryd i bryd bu yno yn pregethu heblaw jones llangan williams pantycelyn pedr williams caerfyrddin a llawer o enwogion eraill safai yr hen gynghorwyr ar hen eisteddle a chefn iddi gwnawd pwlpud o'r eisteddfa a chodai oddiar ben ei chefn le cyfleus i ddal y beibl a dwy fraich o bres i ddal y canwyllau un bob ochr iddo ffurfiwyd cyfrinfa society yno a bu sain rhodau gwlad y gwawl am flynyddoedd yn aml yr ys ystafell nyddu bendefigaidd hon yr oedd un dafydd evans a bess ei wraig yn bobl ieuainc yn aelodau yno ·x · mae'n ddigon tebyg mai pan ar hyd y ffordd tuag at ac o'r collena y syrthiasant yn ddiarwybod iddynt ei hunain i hoffi cyfeillach eu gilydd yn mhen ychydig o amser methasant a byw yn hwy ar wahan a hwy a briodasant doed gwell neu waeth y ddau hyn oedd rhieni f y parch william evans yr hwn a wnaeth tonyrefail yn adnabyddus trwy holl gylchoedd y trefnyddion trwy gymru ehedodd ei enaid tros yr afon rhwng y ddau fyd chwefror ganwyd ef yn ebrill yr oedd yn arfer canu yn ei henaint megys llestr hen a drylliog fe welir ei fod o fewn tua mis i gyrhaedd ei naw deg a chwech oed pan hunodd yn y fuchedd hon yr oedd wedi bod yn pregethu oddiar yr oedd o ddigon y gwr mwyaf amlwg yn yr ardal trwy ei oes yr oedd llygaid pawb arno ac felly fel gorsedd y teyrn yn nghanol y fath oleuni buasai'n hawdd canfod y brycheuyn lleiaf ynddo ond bu fyw ei oes hirfaith a'i gymmeriad yn wyn ac nid oes ond byd gwyn wedi ei ddarpar i'w fath tudraw i'r llen tua dwy flynedd cyn ei farwolaeth cyfarfyddais ag ef ar heol y collena yn agos i'w dy ebe fe yn ei lais soniarus yr oedd dyn i lawr yna yn gwed wrtho i `i chi'n myn'd yn hen mr evans ' dywedais yn ol `nag wyf fi y chi sy'n myn'd yn hen yr wyf fi wedi myn'd yn hen ' mae hyna yn gystal enghraifft a dim o'i ddull byrbwyll ac ysmala yr oedd ei lais i ni mal sain addoliad dyn byr tua phump a saith o ddaldra yr oedd ei ben yn orchuddedig a thoraeth o wallt mal eira ni chafwyd ganddo ei droi ond torai ef o amgylch ogylch ei ben a chruchai uwchben ei dalcen yr wyf yn cofio yn dda y syndod trwy y lle pan gafwyd ei fod wedi boddloni gwisgo trousers yn lle breeches penglin ag oedd yn y ffasiwn yn ei ddyddiau boreuol gwelir ei fod hyd y diwedd yn buritaniadd iawn yn ei syniadau ·x · ond i ddychwelyd o herwydd gwahanol achosion natur pa rai a wel y darllenydd oddiwrth yr hyn a ddywedir am ymdrechion clodwiw mr evan prichard nid oedd pethau yn llewyrchus ar sefyllfa dymorol y weddw wedi iddi golli ei gwr gwnawn gyfyngu ein sylwadau at y weddw a'i merched ann martha a deborah ymbriododd martha ag un mr jones bragwr pontypridd a deborah a mr thomas pentwyn pentyrch aeth mr jones ar goll ac ni wyr neb beth a ddigwyddodd iddo symudodd madam prichard ac ann ei merch i bentref tonyrefail i dy wedi ei adeiladu gan y parch richard prichard b d iddynt symudasant yr hen bwlpud o'r collena fel y symudwyd yr arch i dy obed edom mae'n bosibl y ceir rhyw phonograph heb fod yn hir i wneyd i'r hen bwlpud hwnw i adrodd yr hyn a lefarwyd arno gan y tadau hen y mae'n bresenol yn nhy william bevan treharne yr ochr arall i'r heol o'r fynwent o flaen y capel bu am o leiaf drugain mlynedd yn eisteddle pregethwyr teithiol y corph a hoffent fygu y tobacco yn nhy yr hen ladies codwyd capel bychan yn ymyl ty madam prichard a miss ann ei merch a chlywais i fy anwyl fam adrodd ar foreu agoriad yr ail gapel o flaen y gynulleidfa yr ail bennod o lyfr zachariah dyrchefais fy llygaid drachefn ac edrychais ac wele wr ac yn ei law linyn mesur a dywedias i ba le yr ai sic ei di c ymadawodd a'r fuchedd hon pan oedd yr ysgrifenydd yn blentyn bach ond dywedai ei chydnabod ei bod yn un o'r serchusaf a'r brydferthaf o'r merched elai madam prichard bob boreu wrth ei ffon i weled cesil a dywedai yn aml yr wyt ti o'n gwaed ni yr oedd cesil yn lled falch o hyn hyd diwedd ei hoes chwareu teg iddi pwy na fuasai yn falch o fod yn berthynas i'r foneddiges hon yr hon gododd allor addoli ar dwyn y ton yn yr amser pan yr oedd philistiaeth yn llywodraethu yn nghymru cychwynodd miss ann prichard faelfa neu shop yn y ty newydd a chadwodd yn y blaen hyd y flwyddyn yr ·x · oedd yn un o flaenoriaid penuel capel y trefnyddion pontypridd yr oedd yn deall cerddoriaeth emynol yn dda ac yr oedd pan yn ieuanc ac hyd ganol oed yn arweinydd y canu yn nghapel y corph ar donyrefail yr oedd rhaid cael yr high dry goreu a'r queen's a mynai mrs deborah thomas eu cymysgu a rappee yr wyf yn gwybod yn dda canys mi a'u cymysgais yn aml iddi hi wedi marwolaeth mr thomas pentwyn dychwelodd mrs deborah yn ol i'r ton ac yr oedd ei thy bychan prydferth yn sefyll lle y saif yn awr ystafell isaf y boar's head arwyddlun pais arfau einion ap collwyn priododd miss ann prichard a mr evan thomas o'r rhiw cyn bo hir wedi marwolaeth madam prichard yn cariai fasnach mewn hadau hau megys gwenith ceirch haidd c yr oedd yn wr a geisiai wneyd y goreu o'r ddau fyd ac yr oedd yn mhell o ganu gadawn y byd ar ol c ymddygai fel dyn call gan gredu fod amcan gan dduw wrth ei anfon i'r byd hyfryd hwn yn gyntaf tra fu'r shop gan y teulu ni elai un gwrryw i mewn heb dynu ei het ar y trothwy clywais cesil morgan yn dywedyd i mrs ann ofyn iddi unwaith ar foreu llun yn y shop pa le y prynaist di y `shawl' oedd genyt ti yn y cwrdd y ddoe chwarddodd cesil a gofynodd ai dyna yw eich gwaith chwi yn y capel ie fe edrych ar wisgoedd pobl ond teimlai cesil byth ar ol hyny ei bod wedi bod yn feiddgar ofnadwy wrth siarad fel y gwnaeth hi y tro hwn yn y flwyddyn wedi marwolaeth mr evan thomas trosglwyddodd shop y ton i thomas morgan ac ni chai neb arall y dyddiau hyny agor siop arall ar stad y collena yr oedd hyny wedi bod yn ddeddf mai y shop hono yn unig a gai fod ar yr etifeddiaeth adeiladodd thomas morgan dy mawr newydd cyfleus i'r shop ac y mae y shop yno hyd heddyw cof genyf pan oedd y ty newydd yn cael ei ·x · adeiladu i'r hen wr hynod mr evan morgan perchenog ty'n y cymmer talchan tylcha c grio allan am i thomas morgan ofalu am i'r simneiau fod yn ddigon uchel i wyr bryste gwerthwyr lledr eu gweled yn mlodau ei ddyddiau yr oedd thomas morgan yn un o'r dynion mwyaf hoew a diwyd yr oedd yn bendefigaidd yn ddirodres yn yr heolydd ac yn llawn o arabedd yn ei dy yr oedd ar ei gof lawer iawn o ystoriau am a fu yn yr ardaloedd amgylchynol yn hanes personau a theuluoedd ar gais yr ysgrifenydd ysgrifenodd yn hwyr ei ddydd ychydig o'i adgofion cof genyf am dano yn dechrau'r canu yn y capel yr unig un y pryd hwnw ar donyrefail y mae y capel presenol y trydydd a adeiladwyd yr oedd gwedd urddasol ar ail deml tonyrefail yr oedd y tair hen ladies ag anian gref eu dygiad i fyny pendefigaidd yn eu nodweddu yn cyfleu i wedd fewnol dodrefn y capel eu chwaeth goethedig y mae yr hanesyn canlynol a glywais gan thomas morgan yn enghraifft o'u chwaeth goethedig un noson seiat yr oedd y parch william evans yn llefaru am ddarpariaethau duw i ddynoliaeth lluniaeth o bob amrywiaeth gwlan y defaid i'w cynhesu c yr oedd mrs deborah a'i chorn wrth ei chlust yn gwrando ar y llefarwr ond traethu am ddiwalliad corph yn unig a wnelai mr evans y waith hon ie ebe mrs deborah a blodau a phethau felly i'w mwynhau hawyr hawyr ebe fe yn ol dyma hi wedi myned heibio i mi i rywle yna yn ei ddull ffraeth a pharod esgynodd i ganol y darpariaethau a welir i ddiwallu yr archwaeth sydd yn gofyn am y tlws yr hardd a'r prydferth a deimlir yn yr enaid heblaw blodau a lliwiau llefarodd am ogoniant yr wybren nos a dydd peroriaeth yr awel si cornentydd rhuad y mor miwsic y corau asgellog toriad mawreddog y dydd ac agor dorau y wawr a chodiad yr haul heb ddihuno yr un baban a'u trwst heneiddiodd thomas morgan yn fawr ar ol iddo gyrhaedd ei saith deg oed ond yr oedd ei yni yn parhau wedi i beiriant ei gorph lacau yn ei rym aeth yn hen heb feddwl ·x · ei bod yn hwyrhau arno yr oedd ei hen gydnabod mr evans wedi dechreu pregethu flwyddyn cyn ei eni ef a ph'am na allai yntau hefyd fyw mor hen a mr evans arwyddion cyntaf fod ei oes ar y ddaear yn tynu at ei therfyn oedd gwendid ei galon yr oedd ei liw yn myned yn llwyd a phan gynhyrfai ei ysbryd crynai ei wefusau ychydig ond yr oedd o ran gallu meddyliol mor ieuanc a buan ag erioed tebygol yw y dylasai ymdrin a'r byd yn fwy hamddenol ond yr oedd beunydd am gyrhaedd rhyw nod ond yr oedd ei ddyn oddimewn megys yn ei rybuddio yn ddistaw fod y terfyn yma yn agos a mynych y clywais ef yn ei fisoedd olaf yn coffa sylwadau'r apostol iago un gosodwr cyfaith sydd yr hwn a ddichon gadw a cholli pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall iddo yn awr y rhai ydych yn dywedyd heddyw neu yfory ni a awn i gyfryw ddinas ac a aroswn yno flwyddyn ac a farchnattawn ac a enillwn y rhai ni wyddoch beth a fydd y fory canys beth ydyw eich einioes chwi canys beth ydyw yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos ac wedi hyny yn diflanu lle y dylech ddywedyd os yr arglwydd a'i myn ac os byddwn byw ni a wnawn hyn neu hyny iv bu yn briod yn dair gwaith ei wraig gyntaf oedd rebecca merch hywel hopcin a mrs hopcin caerlan tonyrefail hi oedd mam ei dair merch catherine margaret ac ann priododd y gyntaf mr hugh begg genedigol o ardal ayr yr ail a briododd mr john evans ab dewi haran dewi haran david evans aelod o `glic y bont' carfan o feirdd o ardal pont tÿ pridd a'r drydedd mr john crooke south knoll norwood ei ail wraig oedd caroline thomas gweddw un isaac thomas pontypridd ei henw achyddol oedd anthony ei drydedd wraig oedd weddw un o'r enw mr smart g dylanwadau boreuol ei oes yr oedd yn un o flaenoriaid penuel capel y trefnyddion pontypridd yr oedd yn deall cerddoriaeth emynol yn dda ac yr oedd pan yn ieuanc ac hyd ganol oed yn arweinydd y canu yn nghapel y corph ar donyrefail yr oedd ·x · yn mlodeu ei ddyddiau yn hynod am fywiogrwydd ei symudiadau a boneddigeiddrwydd clywais ei dad yn adrodd i mr harris y cyntaf o drefeurig ddywedyd am twmi fel hyn llywelin wn i yn y byd o b'le mae twmi eich mab wedi d'od mae gwaed brenhinol ynddo yn ol fy meddwl i fy marn i am dano yw hyn pe buasai wedi cael addysg golegawl ac wedi mynd allan o'r unigrwydd pentrefol yn ieuanc y buasai wedi dwyn toraeth o ffrwythau meddyliol medrai adrodd chwedlau am bersonau yn gampus yr oedd ei gof yn orlawn o adgofion am hynodion hen bregethwyr teithiol y methodistiaid a chofiai lawer o'u sylwadau mwyaf arabol pan yr oedd yn ieuanc yr oedd methodistiaeth ar donyrefail yn ei gwedd fwyaf pengrynol hyny yw puritanaidd yr oedd ochain a gruddfan yn ol barn yr hen dadau a'r mamau yno bob amser yn cyd deithio a gwir dduwioldeb ac yr oedd ar y llaw arall chwerthin ysmaldod a bywiogrwydd yn arwyddion nad oedd yr hwn a'u harferai wedi ei ail eni yr oedd dull y canu cynulleidfaol yn bwyllog ac araf fel symudiadau neu sigliadau cawell i fagu babanod yr ail enedigaeth yr wyf yn cofio yn dda y syndod yn mhlith yr hen dadau ar donyrefail pan ddaeth hanes bywyd `siencyn penhydd' allan o'r wasg wedi ei gyfansoddi gan yr anwyl a'r gwir hybarch edward matthews y pryd hwnw o'r ewynwy ger penybont yr achos o'r syndod oedd fod mr matthews yn gallu bod mor ysgafn ag i ysgrifenu digrifwch o'r fath gwnaeth y llyfr gymaint o argraff braidd ac ymddangosiad cyntaf y parch william evans mewn trousers yn lle y breeches penyglin cof genyf fod caledfryn i draddodi darlith ar donyrefail bu yn destyn seiat pa un a oedd yn unol a'r efengyl iddo ddarlithio o fewn y capel yr oedd mr evans yn amheus am hyn ond yr oedd caledfryn yn boblogaidd fel gweinidog a bardd trwy holl gymru ac yn y diwedd penderfynwyd y c'ai ddarlithio yn y capel ond nid oedd i fyned i'r pwlpud daeth y noswaith i caledfryn i ddarlithio yr oedd y capel yn orlawn daeth caledfryn i ·x · mewn ac aeth ar ei union i fyny'r grisiau i'r pwlpud er i'r blaenor morgan evan morgan y gof gwr hynod am ei wedd buritanaidd a difrifol wneyd awgrym i'r bardd bregethwr fod y pwlpud yn waharddedig y noson hono mae'n debyg fod morgan yno ar y pryd fel amddiffynydd neu warcheidwad santeiddrwydd dihalogedig cyssegr tonyrefail edrychai morgan i fyny ar ol caledfryn fel un yn dysgwyl gweled taranfyllt y ddeddf yn fflachio o bob cyfeiriad tuag at hen caledfryn ond nid oedd yno ond tangnefedd canfyddwyd morgan yn codi ei ddwylaw a chan edrych yn surllyd ar lawr y sedd fawr a chlybuwyd ef yn sibrwd wrtho ei hun wel wel ochenaid wn i yn y byd ffordd mae gwynebu william evan nid oedd mr evans ei hun wedi dyfod i'r cyfarfod yr oedd gwisgo blodau o un math yn y byd gan lodesi am y gwragedd nid oedd neb o honynt hwy mor ysgafn a gwneyd y fath beth yn arwydd o uchelder ysbryd a balchder yn y galon a chynghorid hwy i feddwl am eu diwedd yr oedd ein hynafiaid yn y cyfnod hwn yn hanes cymru megis wedi datgysylltu duwioldeb a'r tlysau anianol oddiwrth ei gilydd rhoddent wedd alarus ar addoliad gan ymddwyn fel rhai yn golygu y buasai duw yn fwy doeth pe buasai wedi creu llai o flodau a mwy o datws yr ydym yn canfod ol llaw duw ei hun yn addurniadau gogoneddus y ddaear a'r wybrenau mae y prydferthion nefolaidd o lygaid y dydd i fyny at yr haul a'r lloer a'r ser wedi eu creu i ddiwallu y sychod eneidiol sydd wedi ei osod yn yr enaid am brydferthwch harddwch tlysni a hyfrydwch mae'r enaid yn anfarwol ond derfydd y corph o ran ffurf a chydag ef y chwaeth am fwydydd cenadon o fyd yr eneidiau yw blodau a'r prydferthion eraill i lawenhau yr enaid pan ar ei bererindod yn y corph gollyngir ef yn rhydd yn y man anngheuir ef a gwna drigo mwy yn myd genedigol y blodau fe welir oddiwrth y sylwadau uchod pa beth a olygai yr hynafiaid wrth addurno gwely marw a lleni gwyn blodau byth wyrddion gan osod ar eu heirch coffins dorchau o flodau yn bwyllog iawn y daeth thomas morgan ·x · allan o'r cylch pengrynol i weled fod tlysni anianol yn rhan o ddarparieth y crewr gyferbyn a gwir ddedwyddwch benywod a gwyr yn y fuchedd bresenol cyfaill eglwysig penaf thomas morgan yn ei amser olaf ar y ton oedd bili lewis rhiw gwyon dro fawr yr oedd y parch william evans ugain mlynedd yn henach ag ef ac ni fu erioed gyfeillgarwch agos iawn rhwng y ddau yr oedd yr holl ardalwyr yn falch o mr evans gan edrych arno fel un o brif addurniadau nid yn unig morganwg ond holl gymru edrychai yn ddiau ar y rhai hyny a welodd yn blant pan oedd yn anterth ei nerth corphorol meddyliol a phregethwrol gydag ysbryd tadol yn cynwys awdurdod a nawddyddiaeth yr oedd thomas morgan bob amser yn hynod o deimladol yn nghylch barn a'r hyn a ddywedai y parch william evans am dano bu siampl mr evans a mr evan thomas gwr o'r rhiw a ymbriododd a miss ann prichard shop y ton yn bortreadau models o flaen ei feddwl yr hoffai eu hefelychu ond er i mr evans fyw i fod yn ymyl bod yn fab can' mlwydd yr oedd yn ffraeth ac yn ieuanc ei ysbryd hyd yn agos i ddydd er farwolaeth h dyddiau olaf thomas morgan fel yr awgrymwyd yn barod yr oedd ei ymddatodiad yn dra sydyn ychydig fisoedd cyn hyn dywedodd dr hunter wrthyf yn gyfrinachol fod gwendid yn nghuriadau calon fy ewythr a bod yn ofynol iddo fod yn ofalus o hono ei hun awgrymais yn union i'r claf y dylai gymweryd pethau yn hamddenol dydd gwener yr oedd er yn teimlo yn llesg wedi myned gyda'i ddwy wyres mary a rebecca merched margaret ei ferch ymadawedig tua chaerdydd i wrandaw ardalydd bute yn traddodi darlith yn neuadd y parc wedi dyfod allan o'r cyfarfod dywedodd wrth mr james richards trefforest ei fod yn rhynu gan oerni ac yr oedd yn welw iawn ei wedd cymerodd ychydig o frandi dychwelodd gartref a gwelais ef y noson hono ar ei ledorwedd ar y soffa a ·x · dywedodd ei fod yn lled anhwylus a mynegodd am ei deimlad oer yng nghaerdydd nos sul nid oedd yn ei le arferol yn nghapel penuel yr oedd rebecca ei wyres yn fy ymyl a dywedodd wrthyf ei fod heb godi o'r gwely y dydd hwnw yr oedd hyny yn brawf i mi ei fod yn wael iawn es i fyny i'r fron ar ol y cyfarfod yr oedd ei anwyl chwaer mari yr hon a'i haner addolai yno yn bryderus iawn yn ei gylch es i fyny i'w ystafell wely a gofynais beth sydd yn bod atebodd o'r gwely yr w' 'i wedi cael anwyd seriws ond y mae yn addfedu pan es ebe fe i ymweled ag evan roberts merthyr hen gyfaill a fu yn ysgolfeistr ar donyrefail cefais ef yn eiddil yn ei wely yr w' 'i bron credu fy mod i'n debyg i'r sefyllfa ag y ces e' ynddi ond bu e' farw gofynais a gawn i fyned i gyrchu y meddyg ato cododd ei lais yn lled anfoddog gan ddywedyd na chai siwr `does arno i ddim ond anwyd ond o yr oedd yn rhosydd moab yr oedd yr iorddonen yn agos ond bod trugaredd wedi taenu niwl mal llen wen drosti nos fawrth yr oedd yn fwy sal a'r meddyg yn awr yn gweini arno dydd mercher yr oedd yn fwy gwanaidd fyth ac yn analluog i symud yn ei wely heb gymorth pellebrwyd am ann o lundain yr oedd catherine yno yn barod bu mynediad ann i'r ystafell yn foddion i'w loni yn fawr iawn erbyn hyn yr oedd son ei fod yn wael iawn wedi lledaenu yn mhell ac agos yr oedd yn nghanol ei anwyliaid gyda'r wawr boreu dydd gwener cymerodd bronfraith ei lle ar bren gwyrdd tal ar gyfer ffenestr ei ystafell a chanai ei alaw wanwynol yn hynod o beraidd a soniarus edrychai yr ysgrifenydd trwy y dellt ar yr aderyn yn pyncian ei orfloedd orfoleddus a gwnelai gofio llinellau prydferth dafydd ap gwilym y ceiliog serchog ei son bronfraith dilediaeth loywdon ba ryw ddim a fu berach blethiad na'i chwibaniad bach pell y clywir uwch tiroedd ei lef o'i lwyn a'i loyw floedd ·x · clywai y cystuddiedig odlau yr aderyn yr oedd fy ewythr yn hoff iawn o beroriaeth a phan oedd efe yn swn yr afon rhwng y ddau fyd wele un o adar pereiddiaf cymru fynyddig yn chwiban fel cloch aberth eurgan bwnc organ y berth megis i'r enaid oedd ar groesi i'r orphwysfa i ardal lonydd yr aur delynau yn foreu sadwrn yr oedd amlygrwydd fod y terfyn daearol gerllaw aeth ei ddwy ferch ei ddwy wyres a'i chwaer i ymyl ei wely clywyd ef yn sisial trowch fi tua'r south beth oedd hynny onid tua chyfeiriad haul canol dydd gofynodd yn awr yn ei hen ddull paham yr ydych chwi'n tywyllu y room yr hyn oedd ddaearol o hono ef oedd yn ymaros ar ol y tuyma sic i'r afon yr oedd ef yn niwl tew yr afon ac ni threfnwyd i lygaid anianol i weld drwyddo ond cafodd gipdrem eilwaith ar ei anwyliaid o'i amgylch yna gofynodd b'le mae'r llall tebygol mai am ei wyres margaret crooke yr hon oedd gartref yn llundain y gofynai agosodd mari ei chwaer at ei ymyl a llefodd allan dyma mari dy chwaer mewn llais difrifol dywedodd yn awr hush hush hush dyna ei eiriau olaf yr eiliad nesaf ehedodd ei ysbryd i'r tragwyddol fyd i fyw hush o distewch derfysglyd donau y mae ei hush pan ar drothwy y byd sydd yn anweledig i ni yn awr yn awgrymiadol ai clustfeinio yr oedd o herwydd sain caniadau llu mawr yn ei gyrhaedd a phob un yno yn gwisgo coron ac yn cario'r palmwydd gwyrdd pwy a wyr dichon mai gweled y brenhin yn ei degwch a wnaeth yr eiliad hono llawer gwaith y canodd yn ei fisoedd diweddaf y delyn aur yr oedd brwdfrydedd yn ei lenwi wrth ganu y geiriau yno caf fi ddweyd yr hanes p'odd pa fodd y dringodd eiddil gwan trwy afonydd a thros greigydd ·x · dyrys anial aeth i'r lan iesu ei hunan gaiff y clod trwy eitha'r nef nid oes yno ddiwedd canu nid oes yno ddiwedd clod nid oes yno ddiwedd cofio pob cystuddiau fu yn bod byth ni dderfydd canmawl duw yn nhy fy nhad i llythyr oddiwrth thomas morgan derbyniais y llythr canlynol oddiwrth thomas morgan dyddiedig mehefin mi glywais fod y parch d w williams fairfield wedi ymweled ag evan evans a mrs evans garthgribin amryw o weithiau yn ystod y misoedd olaf cyn marw evan a'i fod yn dweyd wrth ddyfod oddi yno ei fod wedi bod yn gwrando dwy bregeth o'r mwyaf effeithiol eu bod yn cael eu traddodi megis ar drothwy y nef hen wr a hen wraig y ddau yn ddall er's blynyddoedd oedd yn eu traddodi bod mr williams yn wylo yn hidl pan yn ailgoffa eu cynghorion iddo ef j y parch william evans a hawliau merched i bregethu rai blynyddoedd cyn ei farwolaeth yr oedd cynhwrf yn mhlith y methodistiad yn morganwg yn nghylch y priodoldeb o adael merched bregethu yr oedd cyfarfod misol yn nghapel sion talygarn llantrisant ac yr oedd yr hen batriarch anwyl o donyrefail yno ac yn cael sylw a pharch mawr fel a roddid gynt i'r apostol ioan yn ei henaint gan eglwys ephesus yr oedd achos y merched a phregethu gerbron yr oedd mr evans o fewn y sedd fawr ac yn gwrando yn astud ar y ddadl o'r diwedd gofynwyd iddo ef draethu ar y mater cododd ac meddai mewn llais a'i nodau rywle rhwng chwerthin ac wylo wel wel 'does genyf fi ddim llawer i'w ddywedyd ar y pwnc ai priodol yw i ferched bregethu o'r pwlpud ond hyn a wn i y ceiliog ac nid yr iar a wnaed i ganu creadur lled afrosgo yw iar i ddynwared y ceiliog yn canu aeth yn chwerthin mawr trwy y lle ac yn nghanol y rhuadrau eisteddodd yr henafgwr i lawr ·x · ññ ffoto y diweddar thomas morgan yn ei henaint ñññ ·x · adgofion am donyrefail gan thomas morgan ei hun os bydd gwr marw a fydd efe byw drachefn disgwyliaf holl ddyddiau fy milwriaeth hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad job xiv canys pan ddel ychydig flynyddoedd yna mi a rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelaf job xvi a llith tonyrefail yn yr amser gynt cipdrem ar jones o langan mabsant llanbedr ar fynydd torf yn cadw gwyl hen dafarn y ton ysbryd annibynol yr hen drigolion fe ddichon nad annyddorol gan luaws ychydig benodau yn nghylch tonyrefail a manau ereill yn mhlwyf llantrisant a ddygwyddasant yn ystod y deng mlynedd a thri ugain diweddaf ar donyrefail y'm ganwyd ac yr wyf yn cofio yn dda am lawer o bersonau a dygwyddiadau hynod ddyddorol yno yn ystod y cyfnod hirfaith o ddeng mlynedd a thri ugain pan wyf yn cofio sylwi gyntaf nid oedd tonyrefail ond pentref bychan gwledig ar ochr yr heol rhwng llantrisant a glynogwy yr oedd yr ychydig dai yn isel ac wedi eu toi o wellt yr hwn a ymddangosai pan yn newydd yn euraidd o dan belydrau yr haul yr oedd y parwydydd wedi eu gwyngalchu o fewn ac allan yr oedd i'r bwthynod erddi prydferth ac yr oedd yr holl drigolion yn codi blodau ac hefyd wenyn can pa rai er fy mod yn mawr ofni y cantorion pigog a'm llonai pan oeddwn ·x · ond plentyn a phinafore gwyn o'm blaen yr oedd yr heol drwy ganol y pentref yn hynod o lan ac yr oedd hyny cyn i'r gwahanol fyrddau cyhoeddus ddyfod i fodolaeth nid oedd nifer y trigolion yn cartrefu o fewn y pentref ond o dri ugain i bedwar ugain yn awr y mae yno tua yr oeddynt oll yn gyfarwydd a'u gilydd ac hefyd ag hanes y naill a'r llall ac ambell waith byddai ystori ddigri ac ambell i glec yn gwefreiddio yr holl ardalwyr syml a dirodres megis yn y dechreu yr oedd yr awr hono ond yr oedd gwaith y dinas wedi dechreu tua thair milldir i'r gogledd oddiyno ac yr oedd ei ddylanwad yn dechreu cael ei deimlo yn ein hardal y pryd hwnw y gwir am dani yw yr oedd yr hen drigolion yn lled ragfarnllyd tuag at y glowyr a phan ddeuai ambell un o weithwyr ieuainc mr walter coffin i lawr o'r dinas i edrych am enethod prydferth yr ardal gwnai yr hen famau edrych yn gilwgaidd arnynt ond daethant yn fwy cyfarwydd a'u gilydd wedi hyny ac yn mhen tipyn gwelid bechgyn llenyddol ac ymchwilgar y dinas wrth fyrddau te y trigolion yn mwynhau daionus bethau yr hen deuluoedd ie yn siwr i chwi wedi hyny aeth rhai o ferched y ton i breswylio er gwell ac er gwaeth er tloted ac er cyfoethoced o dan yr un groglwyd i ardal y dinas yr oedd y ton dri ugain mlynedd yn ol yn un o'r pentrefi mwyaf cyfleus yr oedd y lle yn fath o golony bychan a phob peth ynddo at wasanaeth dyn yr oedd yno felin yd yr oedd yno weithdy gwlan a gwneid yno frethynau a gwlaneni o bob math a maelfa gof mae yn debyg mai am hyny ei enwyd yn dwyn yr efail yr oedd yno hefyd deilwriaid seiri a chryddion a siopau un ar y ton a'r llall yn mhlas abernodwydd a thua haner milldir oddiwrth ei gilydd yr oedd yno hen dafarn hir wedi ei doi a gwellt yr oedd yr hen dafarn mor henafol fel yr oedd ei furiau fel coesau hen wr yn dyoddef oddiwrth glefyd y giau a elwir yn saesneg yn rheumatism yn ymddangos yn lled adfeiledig yn hwn y cynelid clwb ·x · benefit ac yr oedd yn cynwys of sic o i o aelodau wedi dyfod yn nghyd o wahanol fanau filldiroedd o gwmpas yr oedd yr holl ffarmwyr drwy yr holl ardaloedd amgylchynol yn aelodau o hono a thrwy eu hesiampl dda yn dylanwadu yn llesol iawn ar bobl llai ffodus na hwy eu hunain yr oedd rope yard wedi bod yno ger glan yr afon rhyw amser ond y mae yn debyg o herwydd nad oedd angen rhyw lawer o raffau ar wyr y wlad hono rhoddwyd heibio gwneud y pethau hyny ar y ton yr wyf yn cofio sylwi yn foreu fod pawb ar y ton yn byw fel y dywedir arnynt eu hunain edrychid gan y trigolion ar fyned at y plwyf am elusen yn warth mawr iawn ymddangosai pawb fel yn byw yn ddedwydd yno megis heb dlawd na chyfoethog ond pobl pendefigaidd y collena yn eu plith saif tonyrefail ar lethr uwch gwastadedd afon elwy rhwng craig y dinas a mynydd y rhiw ac yn mhen uchaf plwyf llantrisant a rhyw bymtheg milldir o gaerdydd a phump o bontypridd ychydig i'r gogledd ddwyrain o'r pentref y mae tarddle afon elwy neu y lai fel y gwelir hi ar lafar gwlad arllwysa yr afon hon i'r mor ger penarth pan oeddwn yn ieuanc deuai eogiaid gleision i fyny hyd y lle hwn yn amser llifogydd ond erbyn hyn maent wedi cael cymaint o ofn y llwch a'r surni a red o'r gweithfeydd glo ag oedd ar yr hen bobl ddiniwed gynt ofn glowyr y dinas gobeithio y gwna yr eogiaid a'r gleisiaid newid eu barn am bethau fel y gwnaeth yr hen bobl ac y deuant eto yn llu arianaidd i ffrydiau ac aberoedd yr hen elwy anwyl perchenogion yr etifeddiaeth ar ba un y saif tonyrefail ydoedd teulu henafol a phendefigaidd prichard collena nid oes neb yn gwybod oddiar pa gyfnod y mae y teulu hwn yn berchenog ar yr etifeddiaeth hon mae achos crefyddol y methodistiad wedi ei sefydlu yma er's tua cant a deg ar hugain o flynyddoedd dechreuodd y methodistiaid yma mewn canlyniad i ddylanwad yr enwog ·x · jones o langan wrth bregethu ar mr a mrs prichard tad a mam y diweddar beriglor prichard ficer llandaf yr hwn a gymerwyd o'r fuchedd hon ychydig o flynyddoedd yn ol saif hen balasdy y prichardiaid sef y collena yn nghanol meusydd eang gwyrddion ar war tonyrefail yr oedd y palasdy ar y cyfnod dywedig yn lle gwych ac y mae olion ei wychder gynt yn weledig yno hyd heddyw mae wedi ei adeiladu ar le mor ysgafn fel y gellir gweled o'r ffenestri dref y llan a'r holl wlad rhwng y ddwÿ dref mae hefyd yn gwynebu mynyddoedd y rhiw a gellir cael cipolwg oddiyno ar fro morganwg drwy fwlch y dyffryn rhwng craig y llan a mynydd garthmaelwg mae yn ysmotyn hynod o ddyddorol yn hanes adnewyddiad crefydd yn nghymru yr oedd y mr prichard y soniaf amdano yn ynad heddwch fel ei deidiau enw mrs prichard cyn priodi oedd miss thomas ac yr oedd yn enedigol o bontyfon yr oedd wedi ei dwyn i fyny yn yr adeg oreu ac yr oedd megis tywysoges gymreig yn ei chartref a phob lle y byddai yn mhen ychydig amser wedi priodas mr a mrs prichard dechreuodd yr hybarch jones o langan bregethu gydag arddeliad mawr ar anfoes y mabsant yn agos i eglwys llanbedr ar fynydd lle ar ben mynydd rhwng tonyrefail a'r bryniau gwyion sic a phencoed llanilid yr oedd son drwy yr holl wlad am bregethu hynod periglor llangan ac ar un nawn sabbath penderfynodd mr a mrs prichard fyned ar eu ceffylau tua'r cyfarfod amcan jones o langan oed denu y werin a gyrchai i'r gwyl mabsant sic dim treiglad annuwiol ar y mynydd tuag at newyddion gwell yr efengyl pan yn myned i'r mynyddoedd gwelai y pendefig a'r bendefiges y llethrau pell ac agos yn ddu fel y dywedir o bobl yn dylifo tua chyfeiriad llanbedr ar fynydd yr oedd yr olygfa yn un gyffrous iawn ac yn un newydd iawn y dyddiau hyny yn morganwg yr oedd tan sic tân y diwygiad wedi ei gyneu yn y deheudir ac adsain hen ddyffrynoedd morganwg yn dechreu cael eu dihuno gan ganiadau dirfawr orfoledd y pererinion yr oedd dringo llethrau mynyddoedd y ·x · nawn hwnw yn arwyddlunio dyrchafiad ein cenedl ag oedd yn dechreu cymeryd lle drwy ddylanwad y diwygiad methodistiaidd wrth fod mr a mrs prichard yn dynesu at yr eglwys gwelent ganoedd o bobl yn yr awyr agored gyferbyn a thalcen yr eglwys yn erbyn y talcen yr oedd esgynlawr i'r offeiriad a'r llefarwyr ag oedd i gyneryd rhan yn ngwaith y dydd maes o law wedi iddynt gyrhaedd ymyl y dorf fawr gwelent wr o edrychiad difrifol yn codi ar yr esgynlawr ac yn rhoddi emyn allan i ganu ei enw oedd william thomas o'r pil gwr hynod fu ef yn ei ddydd wedi y canu cododd jones llangan yr offeiriad a rhoddodd yntau emyn allan wed'yn ac wedi canu eilwaith y penill tragwyddoldeb maith a minau sydd yn mron a chwrdd yn nghyd dyna'r pryd cawn wel'd yn eglur fath rai oeddym yn y byd yna darllenodd ei destyn sef canys daeth dydd mawr ei ddigter ef a phwy a ddichon sefyll pregethodd gyda hyawdledd digyffelyb am y farn ddiweddaf nes yr oedd dychrynfeydd wedi gwefreiddio yr holl luaws cyn hir wedi hyny cawn iddynt ymuno a'r methodistiaid cynelid cyfarfodydd crefyddol wedi hyny yn gyson yn neuadd fawr collena deuai y diwygwyr yno yno yn aml y gwelwyd ac y clywyd y parch w williams pantycelyn y parch peter williams y parch dafydd jones llangan llwyd o gaio a llawer ereill ac yno gwelwyd lawer tro torf yn bwyta'r bwyddydd brasa' gwin a manna nefol faeth bu y ddau yn aelodau ffyddlon gyda'r methodistiaid ar donyrefail hyd eu bedd cyfansoddodd williams pantycelyn farwnad am susanah ei merch bu tair o'r merched sef ann deborah a martha fyw ar donyrefail hyd o fewn ychydig o flynyddoedd yn ol fel eu rhieni yr oedd eu ty bob ·x · amser yn gartref fforddolion os byddai y fforddolion yn bregethwyr methodistaidd nid yn unig rhoddent lety i bregethwyr yn rhydd ac am ddim ond cyfranent hefyd yn helaeth at yr achos mae llawer o bregethwyr cymru yn cofio yn dyner am letygarwch ac addfwynder yr hen ladies cadwasant hyd y diwedd yr hen bwlpud o'r hwn yr arferai enwogion bregethu yn y collena ty eu tad a'u mam tua deng mlynedd ar hugain yn ol yr oedd y duwiol lewis powell caerdydd ar ymweliad a thonyrefail ac yn lletya yn nhy yr hen foneddigesau dywededig merched y prichards uchod dywedais wrtho hanes yr areithfa lle yr eisteddai cododd yn sydyn a gwedd ddifrifol iawn arno a chan godi ei ddwylaw megis i fendithio yr hen bwlpud dywedodd os dylai rhywbeth gael ei anfon i'r british museum dylid gwneyd hyny a hwn ·x · b llith ii cychwyn achos gan y trefnyddion calfinaidd cofres y gwragedd a gadwasant y tan ar allor tonyrefail codi'r capel ei ail a'i drydydd adeiladu nodion diddorol am bersonau bu adeg ar yr achos methodistaidd yn y lle uchod pan nad oedd ond wyth o fenywaid yn perthyn iddo yr oedd hyny yn mhen rhyw ysbaid wedi claddu mr prichard collena dwy elizabeth morgan jane morris mrs prichard mary james mrs jenkins jane powell a margaret morris y gwr cyntaf a ymunodd a hwy oedd evan rhydderch yr wyf yn ei gofio yn dda y mae mab iddo sef windsor rhydderch yn byw yn awr yn tylcha isaf yn agos i donyrefail y mae mewn oedran mawr yn agos i bedwar ugain a phymtheg mlwydd oed y nesaf a ymunodd oedd dafydd evan gwr ieuanc dan ugain oed sef tad yr hybarch william evans dilledÿdd oedd wrth ei alwedigaeth dyn teneu oedd ac o daldra cyffredin yn fy nhyb i nid oedd yn mhell o fod yn debyg i'r diweddar barch morgan howell mynwy yr oedd yn hynod am ei synwyr cyffredin byddai bob amser yn gwneud argraff ar yr holl ardalwyr ei fod yn wr call ac yn ddyn da yr oedd yn debyg iawn i'r darluniad a rydd y parch t binney o'r dyn hoff o'r ddau fyd yr oedd i dafydd evan a bess ei wraig amryw feibion a merched thomas oedd y mab hynaf sef twmi o gornel y parc dyn medrus i drafod dynion bydd genyf rywbeth i'w ddweyd am y gwr hwn eto dafydd oedd yr ail fab yr oedd efe yn dadcu i syr d evans arglwydd faer llundain arferai y parch w evans ddweyd mai dafydd oedd y goreu o honynt oll fel masnachwr richard oedd y trydydd mab dyn dymunuol iawn oedd yr oedd ei air fel bond am bob peth ac yr oedd llawer o gyrchu i'w dy sef maesyfelin ger pontyglyn am gynghorion ·x · evan oedd y pedwerydd cymydog caredig gonest i'r carn cododd deulu mawr ac y maent oll wedi troi allan i fod yn anrhydedd i'w rhieni duwiol ac o wasanaeth i gymdeithas ei feibion a ddaw i anrhydedd ond nis gwybydd efe william sef y parch w evans tonyrefail yw y pumed mab nid oes eisiau dweyd gair am dano ef oblegyd y mae ei glod trwy holl gymru un o'r gwragedd a enwyd uchod sef mrs jenkins o'r rhiw oedd mam y parch mr jenkins cafodd ef addysg dda bu yn rhydychain am flynyddodd ac yn mhen rhyw enyd dechreuodd bregethu a bu yn llwyddianus iawn cafodd alwad i un o gapelau arglwyddes huntingdon i lewes yn lloegr bu yn weinidog llafarus a llwyddianus yno hyd ei fedd cymerodd diwygiad mawr le yn yr ardal ac ymunodd llawer a'r eglwys fethodistaidd yno ymunodd amryw o wragedd parchus yn aelodau megis sara o'r rhiw a margaret llywellyn sef hen famgu morien merch oedd hi i'r bardd enwog o dy'r ffynon cwmtaf fawr sef shon llewellyn awdwr yn mhlith caniadau poblogaidd ereill gynt y gan a elwir y ddafad las a'i hoen ar eu hol ymunodd bechgyn y rhiw a'r ddeadell fechan o grefyddwyr yno eu henwau oeddynt evan dafydd a william buont o wasanaeth mawr i'r achos yn y lle yr oedd sara eu mam wedi colli ei gwr drwy farwolaeth ac yr oedd y plant yn ieuainc iawn pryd y dygwyddodd hyny ac yr oedd hi yn naturiol yn un ddigalon ddigon ofni yn ddirfawr fethu talu ei ffordd a phenderfynodd fyned tua brombil margam i siarad a pherchen y tyddyn sef mr gruffydd llewellyn i roddi y tir allan o'i llaw pan yn myned tuag yno marchogai evan ei mab deg oed ar y gaseg tu ol iddi daeth evan wedi hyny yn foneddwr priododd miss anne pritchard collena ond ni fu iddynt hiliogaeth adroddodd sara ei chwyn wrth ei landlord a dywedodd wrtho fod yn rhaid iddi roddi y tir o'i llaw am nas gallasai hi dalu am dano na na ebe mr g llewellyn aroswch yn y rhiw y mae genych chwech o ·x · fechgyn a deuant yn fwy cryf bob dydd rhyngoch chwi a minau sara ni dalwn am dano ni derbyniodd mr g llewellyn ffyrling o rent ganddi am hir amser tyfodd y meibion yn weithwyr caled ac yn bobl gynil a sobr ac mewn amser daethant yr amaethwyr cyfoethocaf yn yr ardaloedd hyny bydd genyf ragor eto i'w ddywedyd am y meibion hyn yr oedd y margaret llewellyn y sonir amdani uchod yr hon oedd yn famgu i'r ysgrifenydd a'r sara uchod yn hoff iawn o'i gilydd capel presennol y methodistiaid yma ydyw y trydydd a adeiladodd y methodistiaid yn y lle codwyd y capel cyntaf o dan gyfarwyddyd yr enwog jones o langan a rhoddwyd y tir ato gan mr pritchard collena am ardreth o un swllt y flwyddyn rhoddodd y boneddwr o'r collena feibl hardd i'w osod ar y pwlpud yr wyf yn cofio y dda weled y beibl ac yr oedd arno mewn gemau eurog rhodd gan evan pritchard collena i eglwys y methodistiaid ar donyrefail adeiladwyd y capel cyntaf tu'r sic sic flwyddyn a'r ail yn a'r trydydd sef y presenol yn ac yn werth li y mae wedi ei dalu am dano ers tipyn o amser y mae yno gynulleidfa fawr ac mae'r achos yn llewyrchus yr oedd yma ar le a elwid y waun rydd ysgol ddyddiol fechan i ddysgu saesonaeg c yr ysgolfeistr oedd mr edmund jones tad y parch edmund jones gweinidog parchus gyda y bedyddwyr yn mhenycoed llanilltid yr oedd mr jones a gair da iddo gan bawb a phobl yr ardal yn siarad yn garedig am dano wedi iddo ymadael a'r lle y nesaf ddaeth yma oedd mr thomas jones brodor o sir gaerfyrddin a'r nesaf oedd mr d lewis wedi hyny o'r red lion pontypridd byddai mr lewis yn cerdded nos a boreu i ac o donyrefail tua deuddeg milldir y dydd ac nid oedd ei enill ddim mwy nag s yr wythnos y mae hyn yn dwyn ar gof i mi hanesyn a adroddodd y prif farnwr coleridge yn ddiweddar wedi ei ddychweliad o'r america rhyw foreu ·x · ymwelodd mr blaine aelod o'r cynghor yn washington ag ymylon yr ohio dywedodd mr blaine wrtho fod ei dad ef yn dweyd wrtho fod ei dadcu yn arfer gallu taflu dolar yn groes i'r afon i'r ochr arall iddo ef chwerthin wrth glywed y stori ac i'w dad ofyn a oedd yn amheu ei gwirionedd na na meddai yntau wrth ei dad ond yr oedd dolar yn myned lawer iawn pellach y pryd hyny nag yr a yn awr fe chwarddai wyrion cyfoethog mr lewis pe y clywent am enill eu tadcu ar y ton ond trwy'r cwbl daeth mr lewis yn werth canoedd o bunau cyn iddo farw yr oedd mr d lewis yn ddyn talentog yn ysgolhaig rhagorol ac yn ddyn gonest a serchog ar ei ol ef daeth mr e roberts o ferthyr dyn ieuanc yn nghylch oed oedd ef nid oedd wedi cael nemawr o ysgol ond ysgol nes yn merthyr yr oeddem yn ofni fod y cyfaill yn rhyfygu wrth fyned i gadw ysgol gyda can lleied o ddysgu ei hun ond siomodd ni o'r ochr oreu ymdrechodd dysgu ei hun wrth geisio dysgu ereill a llwyddodd yn fawr iawn yr oedd yn dysgu gramadeg trwy ohebu a'r diweddar a'r hynaws mr rhys lewis argraffydd merthyr ac ereill a daeth yn un o'r grammadegwyr goreu yn y wlad fel y dywedai mr peter williams merthyr am evan roberts yn yr hanes am ei farwolaeth yn y western mail yr oedd yn un o'r ysgolheigion cymreig goreu yn nghymru bu yn nhonyrefail am flynyddoedd daeth ar ei feddwl i ymweled a'r misses hill cwrt yr ala un diwrnod yr oeddynt yn chwiorydd i mr hill perchenog gweithiau haiarn pentrebach merthyr cymerasant ddyddordeb mawr yn mr roberts am ei fod ef ei dad a'i frodyr yn hen weithwyr i'w brawd anfonasant at mr hill i ofyn iddo am wneud rhywbeth drosto yn mhen ychydig amser wedi hyny danfonodd mr hill am dano bu am rai misoedd yn pwyso haiarn yn y gwaith wedi hyny cafodd ei wneud yn furnace manager a phan fu mr hill farw cafodd rai canoedd o bunau ar ei ol bu wedi hyny ·x · yn yr un swydd am flynyddoedd o dan mr fothergill gorphenodd mr roberts ei yrfa tua flynedd yn ol yr oedd wedi cyrhaedd parch mawr gan ei gyd drefnwyr ni throediodd cymru un dyn mwy cywir heddwch i lwch fy hen gyfaill anwyl bu yma amryw yn cadw ysgol ar ei ol ef cyn yr ysgol frytanaidd byddai yn rhy faith i'w holrhain wedi hyny sefydlwyd bwrdd ysgol yma yr oedd tonyrefail yn un o'r ardaloedd cyntaf i gynyg am y bwrdd cawsom wrthwynebiad mawr daeth y parch r pritchard perchen y lle ar y pryd yn un swydd o stratford ar afon i geisio darbwyllo yr ysgrifenydd i bleidio y national school ac addawodd roddi swm go dda yn flynddyol tuag ati ond nid oedd bosibl ein troi daeth y gwr o faenor misgyn allan yn ei holl nerth ac nid oedd dim a safai o'i flaen ef y mae yma ysgol ddyddiol enwog o dan fwrdd ysgol llantrisant ac y mae hi yn gredit i'r ardal ·x · c llith iii yr hynaws mr william morgan tylchafawr porthmon enwog ei hoffder o ddynion od shon dafydd fel prydydd a phregethwr clywch deyrnasoedd a gwrandewch y cymydd pregethu yn nghoed y tylcha i darfu'r ysbryd drwg ffordd gwerthwyd coed cae twm evan prys un o'r pethau cyntaf wyf yn ei gofio yw gweled mr william morgan tylchafawr yn galw wrth dy fy rhieni ac yn galw ar fy mam cesil meddai beth yw y bachgen llefog yna sydd genych yr wyf yn clywed ei swn o tylcha wel yn wir syr meddai hithau un drwg iawn yw e' mae wedi cael gormod o'i ffordd o lawer mi gofiais byth am y tro er nad oeddwn ddim mwy na chwe' mlynedd oedd ar y pryd yr hyn oed fy mam yn gyfeirio ato wrth ddweud fy mod wedi cael gormod o fy ffordd oedd hyn yr oeddwn newydd wella o effaith llosgiad pan oeddwn yn nghylch pum' mlwydd oed nid oedd neb yn credu y gallesid fy adferyd nid oedd un meddyg y pryd hwnw yn nes na phontyfon rhyw ddeuddeg milldir o donyrefail byddai y parch e prichard o'r collena a rhys evans o'r factory yn talu sylw mawr i gleifion yr ardal ac yr wyf yn cofio yn dda i'r ddau ddyfod i'm gweled yr oedd mr evans yn gwaedu ugeiniau o'r ardalwyr bob gwanwyn byddai yr arferiad y pryd hwnw i wneud hyny gwelais lawer merch ieuanc yn cael ei gwaeddu ganddo yn ei braich nes y byddai yn llewygu clywais mr prichard a mr evans yn ymgynghori beth oedd y peth goreu i wneud i mi a deallais eu bod yn bwriadu fy ngwaedu minau yn gwybod ei bod hi yn amser lladd moch mi waeddais allan chewch chwi ddim gollwng fy ngwaed i na chewch wir wedi i mi dyfu i fyny pan y cyfarfyddwn a mr prichard neu a mr evans byddent yn dweud wrthyf chewch chwi ddim gollwng fy ngwaed i ·x · ond am mr william morgan o dylcha yr oeddwn yn son dyn mawr o gorpholaeth a gwr mawr o feddwl oedd efe yr oedd ganddo feddwl gwreiddiol bron am bobpeth yr oedd yn wir wr boneddig ac yn un o'r dynion harddaf a welais erioed byddai yn cadw rhyw ddeuddeg neu bymtheg o weision a morwynion yr oedd ganddo fil o ddefaid a llawer iawn o ychain byddem ni ar donyrefail yn edrych arno fel y byddai pobl yn edrych ar job yn ngwlad us yr oedd ganddo lawer o deirw a da scotch ar fynyddoedd y gilfach goch a fforch nest heblaw hyny yr oedd yn ffermu gelligron tontraethwg tylchawen llanilid a thylchafawr yr oedd dyddiau cneifio y defaid yn dylcha yn fath o wyl yn yr ardal yn enwedig yn nghyfrif y plant byddai mr morgan yn myned i ffair y llan bob tri mis i werthu ychain gwartheg defaid a cheffylau yr oedd yn hyfryd ei weled yn myned ar y gareg sic gaseg las a phawb ar y ffordd ac yn y ffair yn talu gwrogaeth iddo nid oedd mr morgan yn myned oddicartref yn fynych ei ddifyrwch oedd cael cwmni dynion cyffredin yn ei dy byddai rhai cymeriadau hynod ganddo o'i amgylch bron bob amser yr oedd ganddo fath o ffwl neu ddau yn nghylcha yn wastad yr wyf yn cofio yn dda am shon dafydd shon british coch y byddai yn cael ei alw am ei fod yn gwisgo felly ganwyd shon yn gaerwica sic treiglad meddal pendeulwyn symudodd ei dad i hendreforgan ond nid oedd shon yn ddedwydd iawn gartref aeth i wasanaethu mr harries trefyrhug a grey o rhiwinder drwy ddanfon ychain i northampton dysgodd shon dipyn o saesneg wrth deithio yn lloegr byddai yn gwneud llawer o ganiadau i forwyn y gilfach y crochan cawl a grey o rhiwinder c mawr oedd y difyrwch a gaem wrth ei glywed yn eu canu byddai shon yn pregethu weithiau byddai llywelyn o'r lawn ac yntau yn myned ar deithiau yn aml i bregethu ni chymerent arnynt eu bod yn perthyn i un enwad neillduol pregethu ar yr ·x · heolydd y byddent a chasglu ar y diwedd pob un a'i het testyn shon un sabbath pan yn pregethu ar graig y dyllais ar fynydd y bedw cymer oedd clywch deyrnasoedd a gwrandewch y cymydd nid oedd tai yn y cymer y pryd hwnnw ond ychydig o dyddynod bob ochr i'r cwm yr oedd y pregethwr yn dweyd yn ddigon uchel i'r holl ardalwyr glywed o dy'n y cymer hyd nyth bran yr oedd shon yn gyfaill mawr i bawb yn enwedig mr william morgan tylcha gwnaeth mr morgan le i shon i gysgu ar lofft yr ystabl fel y byddai yn gallu mynd a dod pryd y mynai yr oedd yno wely bwrdd ystol a bara bob amser nid oedd canwyllbren yno o herwydd fe ddichon nad oedd shon yn gallu darllen yr oedd yno bron bobpeth fel yr oedd y foneddiges hono wedi ei baratoi i'r hen broffwyd eliseus ond yn sicr yr oedd cryn wahaniaeth rhwng y ddau ddyn byddai pentre y ton yn gwybod pryd y dychwelai shon adref byddai yn pregethu bob amser pan yn dychwelyd trwy goed tylcha o herwydd ofn ysbryd drwg a byddai yn arfer dweyd pethau digrif am wyr y ton yn ei bregeth bu yn ei flynyddoedd olaf yn cario negeseuon o donyrefail i bontypridd byddai cod gan shon i fyned a'r llythyrau a phethau ereill cariodd filoedd o lawer o bunau i'r ariandy yn mhontypridd ac ni wnaeth gamsyniad erioed nid oedd shon yn gallu rhifo pan y byddai haner cant o dda o'i flaen byddai yn gwybod yn union os byddai un wedi myned yn eisieu ceiniog y neges fyddai sion yn ei gael a digon o fwyd pan y dychwelai ni fyddai yn arfer cymeryd dim lluniaeth yn mhontypridd ond byddai yn talu iddo ar ol cyraedd y pentre byddai yn cael ei de yn eu tro gan bobl y pentref sef y rhai hyny ag y byddai yn gwneud negeseuau drostynt gwelais ef yn yfed naw dysglaid o de lawer gwaith byddai shon yn ymffrostio ei fod yn fwytawr mawr clywais ef yn datgan faint o gawl a fyddai yn ei yfed ar y tro gwnaeth fatch cawl un tro a gwas y gilfach yfodd hwnw bedair dysglaid o gawl ond yfodd shon chwech byddai yn cael llon'd mail ·x · o uwd sygaethan yn nghylcha o'i flaen a byddai mr morgan yn ymbleseru wrth ei weled yn myned yn mlaen gyda'r bwyd byddai yn debyg iawn o osod y cwbl o'r golwg mae shon wedi ei gladdu er's blynyddoedd cyrhaeddodd ddwy flwydd ar bymtheg a thri ugain claddwyd ef wrth gapel y methodistiaid tonyrefail byddai y bechgyn yn cael llawer o ddifrifwch wrth ddweyd wrtho y cai ei gladdu yn glynogwy gyda'i dad ond byddai shon yn protestio y byddai yn struggle ofnadwy os cynygient fyned ag ef yn mhellach na'r ton dylaswn ddweyd fod mr morgan o dylchafawr yn wr cyfoethog nid yn unig yr oedd ganddo anifeiliad lawer ond yr oedd yn dirfeddianydd efe oedd perchen tylchafawr coedca twm evan prys c gwerthodd mr morgan y coedca i'r diweddar mr j hopkins cilely yr oedd mr hopkins a mr morgan wedi cwrdd un noswaith yn y boar's head tonyrefail ac wedi yfed i ormodedd eu dau a gwerthodd mr morgan y tir am li llawer llai na haner ei werth danfonodd dranoeth at mr hopkins i ddweud ei fod wedi yfed y noson cyn hyny a'i fod yn gobeithio na wnai mr hopkins gymeryd mantais arno trodd yr achos yn ofid dirfawr i mr morgan ac effeithiodd yn fawr ar ei iechyd a bu farw yn mhen rhyw ddeuddeg mis ar ol hyny gwerthodd mr hopkins y coedca am li i mr vaughan edwards rheolau ond cadwodd cryn ddarn ohono ei hunan perchenog y rhai hyny yn awr yw mr william hopkins o'r island farm penybont y mae y tir a werthwyd y pryd hyny am li heddyw yn werth li cant o filoedd mae gwaith glo mawr arno ac ynddo gan syr w t lewis a'i gyfeillion ac y mae yno rhyw sic dim treiglad fil o lowyr yn gweithio yr oedd mr morgan o dylcha yn hynod o dyner a gofalus am ei deulu yr oedd bob amser yn ymddwyn tuag atynt fel plant byddai yn hynod i geisio eu cefnogi i sefyll rhyw ran o'u henillion yr wyf yn cofio i william morgan adeiladydd tonyrefail fyned ato pan nad ydoedd rhyw ·x · ddeudeg oed rhoddodd ddafad iddo y flwyddyn gyntaf gyda chyflog yn mhen tair neu bedair blynedd pan ymadawodd i ddysgu ei gelfyddyd yr oedd y ddafad wedi myned yn chwech gofynodd i'w feistr pan yn ymadael beth am yr ychydig ddefaid syr beth gaf fi dalu am eu lle paid a blino dy hunan am y defaid ebai mr morgan byddant yn ddyogel i ti pan y bu farw mr morgan yr oedd y ddiadell wedi cynyddu i un ar ddeg a thalodd ei frawd sef y diweddar mr evan morgan ty'n y cymer am danynt iddo claddwyd mr morgan gyda'i dadau yn y cymer cafodd angladd dywysogaidd yr oedd yr holl ardalwyr wedi dyfod i'r cynhebrwng hwnw gellir dywedyd fod yno alar mawr iawn mewn gwirionedd ·x · llith iv yr hynod noah morgan tylchafawr tai gwenyn noah noah yn y capel siarad ei feddyliau heb yn wybod iddo ei hun fe fydd noah yno hefyd thomas caegarw addewais yn fy llith ddiweddaf roddi ychydig o hanes mr noah morgan tylchafawr ac ereill yr oedd gan mr william morgan o dylchafawr bedwar o frodyr ereill heblaw noah sef twmi evan hywel a morgan dyn cyffredin o daldra oedd twmi ac yn grwca ei osgo nid oedd fawr o ddawn ganddo ond yr oedd yn llawn o ddigrifwch a'i holl fryd oedd ar wneud rhyw driciau diniwed a'i gymdogion dywedir ei fod yn ddoniol yn hyny y mae cannoedd yn cofio evan sef mr e morgan ty'n y cymer bydd genyf lawer i'w ddywedyd am dano yn y dyfodol hywel oedd y nesaf yr oedd hynodrwydd ynddo ef morgan oedd yr olaf sef tad mr morgan floodgate llanilltyd fawr mr john morgan assistant overseer llantrisant e morgan y gadairwen groesfaen a meibion ereill ac yr oedd iddo rai merched maent oll yn feibion ac yn ferched talentog parchus a chrefyddol ond am noah yr oeddwn yn addaw yr hanes yn awr yr oedd noah yn ddyn llawn chwe' throedfedd o daldra ac ysgwyddau llydain iddo ac yr oedd o gorph llunaidd yr oedd bob amser yn gwisgo yn daclus siaced gron wen breeches penlin velvet o'r fath orau ruban wrth ei benliniau yn ateb lliw y breeches hosanau gleision o waith shan persondy gwerth haner gini am ei goesau ysnoden sidan las am ei wddf ond nid am ei fod yn dori het wellt ei grys mor wyned a'r eira `roedd yn edrych fel hen dywysog morganwg byddai bob amser yn gwisgo channels fel y byddai esgidiau o'r fath yn cael eu henwi nid pob gweithiwr a allasai wneud esgidiau o'r fath byddent wedi eu gwnio a byniawyd pedwar onglog i mewn ac allan byddai y pwythau yn treulio mor galed a'r dur ni welais neb yn eu gwneuthur erioed ond ·x · twmi morgan pharaoh yr oedd yn grydd heb ei fath ond y mae yntau wedi marw yn america er's rhai misoedd yn oed yr oedd yn briod a shoned merch isaac ty'nybryn ac y mae ar ei ol fab yn ustus heddwch gerllaw philadelphia yn america fe ddring y cymro ond iddo gael chwareu teg yr oedd noah yn talu gini bob amser am y channels a byddent yn parhau blwyddyn iddo yr oedd noah yn bysgotwr rhagorol byddai yn cario ei enwar gydag ef yn aml yr oedd pob math o blyf ganddo yn ei bocket book ac yr oedd yn eu dressio i'r dim at liw y dwfr os byddai rhywun yn glaf ac yn dymuno am frithyllod nid oedd eisieu ond dweyd wrth noah byddent yn sicr o ddod yn fuan yr oedd richard lewis dic o'r cottish hefyd yn bysgotwr ond eu dal mewn rhwydau y byddai dic byddai noah yn arfer galw yn nhy dic yn aml ac un boreu dyna fe yn dweud mr morgan fe welais `salmon' iawn neithiwr ym mha le dic mewn pwll yn afon lai rhwng cwrtygwter a melin garthgraban beth oedd ei bwysau fe dic gofynai noah pedwar pwys ar ddeg yn gywir atebodd dic ni `wedwn saith pwys dic ebai noah fel yna y byddai mr noah morgan yn mesur dic a llawer ereill ac yn wir nid oedd noah yn mhell iawn o'i le byddai noah yn gywrain ryfeddol i drin a deall gwenyn y mae llawer sydd yn fyw yn cofio tai gwenyn noah ar y dyffryn o dan gelligron ac mewn llawer o fanau ereill yr oedd pob peth o amgylch y tai hyny yn ddestlus a chryno a gosodai y tai mewn manau gyferbyn a'r haul ac yn y cysgod oddiwrth wynt y gogledd a'r lle mwyaf tebyg am bob math o lysiau a blodau byddai yn aros oriau i edrych a myfyrio uwchben y gwenyn gyda'u gwaith edrychai arnynt trwy wydr pan yn gweithio byddai yn aml yn eu darlunio fel adeiladwyr yn adeiladu palasdai rhai yn rhoddi i lawr y sylfaen eraill y tuallan yn cario defnyddiau i'r adeilad y modd y byddent yn addasu y cwyr a'u danedd ac yn ffurfio eu celloedd ag ef c yr oedd yn dweyd fod ganddynt gelloedd ·x · i'r cwyr ac ereill i'r mel y mae meddai dri math o wenyn yn mhob haid sef y gwenyn llafurus y gwenyn diog segurllyd drone bees a'r fam wenynen dywedai ef nad oedd dim mwy na thair mam wenynen yn mhob cwch a'r rhai hyny sydd yn dodwy yr holl wyau o ba rai y deorir yr haid byddai yn bleser clywed noah yn darlunio llafur y gwenyn a'r trefnusrwydd a'r hunan ymwadiad sydd yn eu plith byddent yn newid a'i gilydd yn eu gwaith yn aml ac yr oedd pob un ohonynt yn fedrus yn eu gwaith ac yn ufydd i'r frenhines pan fyddai y gwenyn yn codi fel y dywedir byddai noah yn ei lawn hwyl gwisgai pryd hyny het ag ymyl fawr i'w cadw oddiwrth ei wyneb byddai yn eu llesteirio yn gelfyddydgar ac ar ddiwedd yr haf yr oedd gan noah ddigon o fel i'r holl ardalwyr yr oedd noah yn ddarllenwr mawr llyfr job diarhebion solomon a'r salmau oedd ei brif lyfrau yr oedd llawer o'r rhai hyny ganddo ar ei gof bob amser mynych y gwelsom ef yn dyfod i mewn i gapel tonyrefail a chan dynu ei het dywedai yn soniarus dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau a llawn o helbul gan drydanu pawb oedd yn bresenol bryd arall byddai noah yn dweyd yn hollol ddiarwybod iddo ei hun o nad ysgrifenid fy ngeiriau yn awr o na ysgrifenid hwynt mewn llyfr yn wir ymddangosai fel proffwyd mawr hebreaidd a phan ddygwyddai y llefarwr fod yn wr dyeithr o'r gogledd ymddangosai wrth weled a chlywed noah fod yn haner dychrynu yn y pwlpud yr oedd un gweinidog enwog yn pregethu yno un noswaith yn ddifrifol ryfeddol ar y farn ddiweddaf ac yn darlunio holl ddynolryw yno yn derbyn eu tynged dyma noah yn llefain allan fe fydd noah hefyd yno cafodd hyn effaith ryfeddol ar y gwrandawyr un noswaith yr oedd gwr dyeithr o'r gogledd yn pregethu ar y gwr ieuanc yn gofyn i'r arglwydd iesu pa beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol a'r iesu gan ateb a ddywedodd cadw'r gorchmynion y gwr ieuanc a ddywedodd mi a gedwais y rhai hyn oll o'm hieuenctyd ar hyn wele noah ·x · yn dywedyd yn uchel yr oedd efe yn fodel o wr bonheddig ieuanc fe'i cadwyd ef yn siwr yn amser y cynhauaf gwair byddai mr noah morgan yn tynu ei siaced wen ymaith ac yn blaenori y gweision a byddent wedi gwneud llawer o waith cyn cyniaw nid oedd neb yn siarad gair a'u gilydd pan y byddai noah yno ond pawb yn gweithio am eu bywyd os digwyddai rhyw siarad dyna noah yn gwaeddi amser cynhaeuaf ydyw bu yntau farw pan yn agos i ddeng mlynedd a thri ugain casglwyd ef at ei dadau i fynwent cymmer y rhondda dywedodd ychydig ddyddiau cyn marw rhoddwch bunt o'm harian i bob gwas a morwyn sydd yma maent oll wedi bod yn garedig iawn i mi a thalodd mr evan morgan ty'n y cymer yr arian i bob un er nad oedd un ysgrifen yn bod am hyny mae un o'i hen forwynion yn fyw yn awr yn morgan street pontypridd bu yn ei wasanaeth am ugain mlynedd a bu wedi hyny am ain o flynyddau gyda'r diweddar mr jones glyncoch a gadawodd yntau ddigon o fodd i fyw i shwan mae hithau wedi cyrraedd ei phedwar ugain oed mae hi yn gorwedd ar ei gwely er's tro ond da genyf ddywedyd ei bod yn ddedwydd ryfeddol yr oedd tomas caegarw yn gymeriad rhyfedd bu tomas yn was yn y cefncoed am flynyddoedd gyda mam mr robert thomas o'r glyn ac fe briododd a'i feistres un diwrnod yr oedd hywel hopkin o gaerlan yr hwn oedd wastad yn llawn ffraethineb yn cerdded gyda mr robert thomas a dyna tomas o'r cefncoed y pryd hwnw yn dyfod i'w cyfarfod gan farchogaeth ar ei geffyl dywedodd hywel mi glywais am hyn o'r blaen yn yr hen amseroedd gweision ar feirch ac arglwyddi ar draed gan gyfeirio mai gwas oedd ef o'r blaen i mr r thomas a'i fam taw son hwlyn meddai tomas mewn llais cras 'does dim diwedd ar dy ddrygioni di daeth tomas wedi marw ei wraig i fyw i'r caegarw ac a briododd a'i forwyn bu ann yn ymgeledd gymwys iddo hyd ei ·x · farwolaeth ni byddai tomas ond yn aml yn chwerthin mae y caegarw ar fferm caecwrlais lle yr oedd y parch william evans yn preswylio am lawer o flynyddoedd yr oedd tomas yn ddyn mwy na dwy lath o hyd a'i freichiau hirion yn cyraedd yn agos at ei benliniau byddai yn cerdded yn ei flynyddoedd olaf o'i oes wrth ddwy ffon yr oedd mr evans yn hoff iawn o'r hen wr ac yn garedig a thyner tuag ato pan y byddai mr evans yn aros mis yn bryste a dau fis yn llundain a liverpool byddai bob amser yn ymholi am fy ewyrth tomas yn meudy y caegarw y byddai mr evans yn cadw ei ychain a byddai yr hen wr yn gofalu am danynt fel am ei eiddo ei hunan yr oedd mr evans pan gartref yn myned bob boreu i'r caegarw i weled tomas a'r ychain pan y byddai y parch david howell abertawe yn ymweled a thonyrefail byddai yn myned i aros i gartref mr evans ac yn y bore byddai mr evans ac yntau yn myned tua caegarw i weled tomas a'r ychain un boreu pan aethant ymaith yr oedd tomas ar ei liniau ar y glaswellt wrth y ty yn naddu coed f'ewyrth tomas meddai howell yr ydych yn gweithio ar eich gliniau otw meddai yr hen gymro mae arnaf ofn nad ydych chwi eich dau yn treulio rhyw lawer o'ch amser fel hyn a hyny yw yr achos nad ydych yn gwneud fawr o waith yr oedd mr howell erbyn hyn yn gwneud wep rhyfedd o herwydd cerydd yr hen domas ond yr oedd yn ei fwynhau hefyd byddai y parch edward matthews yn awyddus iawn am fyned i weled f'ewyrth thomas bob tro y deuai i caercwrlais yn union ar ol boreufwyd byddai mr evans ac yntau yn cychwyn ar ol myned yno cawsent tomas yn frysiog iawn yn bwydo yr ychain ac yn ddifrifol iawn ei wedd yr ydych wedi gofalu am y cwbl ydych chwi f'ewyrth gofynai mr evans ydw meddai yntau hi fyddai yn llawer ffitiach dy fod di a ned matho yma yn gwneud rhywbeth yn lle segura fel hyn byddai y ddau athraw anwyl yn cael gwledd hyfryd gyda'r hen domas ddirodes ·x · e llith v dim ond un ty ar donyrefail man y safai dygwyddiad tost os collir amser peint o gwrw yn costio swllt y duwiol isaac o'r felin cafn melin y ton a'r pechadur defnyddiol nid oes neb yn awr yn fyw ag sydd yn cofio dim ond un ty ar donyrefail bu'm yn ymddyddan a llawer oedd yn cofio yr unig dy oedd yno yr oedd yn sefyll yn nghanol y pentre lle y mae pedair o groes heolÿdd un yn arwain i'r cymmer un arall i lantrisant un arall i glynogwy a'r llall i gwm yr elwy ac yn arwain i bontyfon enw y ty oedd twyn y ton fe godwyd efail wrth y ty hwnw ganwyd daniel y gof yn y ty hwnw ac elias ei frawd gof y mae yn debyg oedd eu tad yr oeddynt yn weithwyr rhagorol yr oedd braich elias fel darn o haiarn o ran nerth yr oedd crefft gof yn gelfyddyd dda iawn yr amser hwnnw yr oedd holl ffarmwyr yr ardal yn codi ychain ac yn eu cadw nes y byddent yn dair a phedair oed byddai mr harris trefyrhug robert thomas o'r glyn a hywel gray o'r tran yn prynu ychain bob gwanwyn ac yn eu hanfon tua northampton a'r arian a ga'i yr amaethwyr am yr ychain hyny y talent eu hardreth i ffair llantrisant y byddai y ffarmwyr yn anfon yr ychain i gyfarfod a'r porthmyn ystyr yr enw hwn yw arlwyddi creaduriaid corniog byddai owen morgan daniel price a shon y british coch wrth eu bodd y pryd hwnw byddai yn aml o gant i gant a haner o ychain o'u blaen yn myned tua lloegr a byddai yr holl ychain wedi eu pedoli cyn cychwyn gan daniel ac elias `lias ei frawd cof genyf eu gweled lawer gwaith yn myned a raffau blewog mawrion ar eu hysgwyddau tua'r lawn garthgribin hendreforgan c at y gwaith o glymu yr ychain i'w pedoli yr oeddent wrth eu bodd gyda'r gwaith o gwympo yr ychain mawrion ac yna yn gosod pedol mewn pum mynyd ar un ochr i'r ·x · traed dychwelai y ddau adref gan ymffrostio yn y gwrhydri a fyddent wedi ei gyflawni yn myd yr ychain corniog dywedai yr hen breswylwyr ei fod yn ddifyr gweled elias yn llorio ychain mawrion y richards yn hendreforgan ar ol i daniel y gof gael llymaid yn helaeth o ddiod gadarn gofynai pobl mewn digrifwch am ei dad y nhad dywedai daniel oedd y dyn calla' yn y wlad yr oedd yn hendreforgan wasanaethwr o'r enw etwart dynwaredai yr hen richards o flaen ei wyneb a dywedir ei fod megis crwth a thelyn yr oeddwn yn adnabod mab yr etwart hwnw ac yr oedd fel ei dad yn llawn o arabedd a doniau ac yr oedd hefyd yn un o'r bechgyn mwyaf caredig a geid drwy yr holl wlad cyfarfyddodd a'i angeu drwy fogi mewn lefel glo gwlad ar fynydd gilfach goch pan oedd yr ardal boblogaidd hono yn rhodfeydd defaid y unig bu farw ar yr un pryd a lewis hopcyn caerlan mab hywel hopcyn a fu wedi hyny yn ysgolfeistr ar donyrefail nid oedd lewis ond un ar bymtheg oed ac wedi myned i'r lefel gyda william edward wrth eu gweled mor hir cyn dychwelyd gartref awd i chwilio am danynt a chafwyd hwynt yn gorwedd yn gelain yn mreichiau eu gilydd yr oeddynt wedi teimlo yr awyr yn y lefel yn ddyffygiol ac wedi ymdrechu dianc am eu heinioes ac wedi cyrhaedd o fewn herc i oleu dydd pan y syrthiasant mae'n debyg wrth ymdrechu cynorthwyo y naill y llall y mae yn lled debyg mai william edward caredig oedd yn ymdrechu dwyn lewis ieuanc allan i'r awyr agored pan y syrthiodd yntau i fethu codi mwyach yr oedd y fath ddygwyddiad yn newydd yn y wlad y pryd hwnw a bu cynhwrf mawr o herwydd yr amgylchiad torcalonnus drwy yr holl gymdogaeth erbyn hyn ysywaeth y mae anffodion i bobl ddiwyd ein gweithleoedd wedi dyfod yn beth cyffredin fel nad yw lladdiad un neu ddau ar yr un pryd yn tynu nemawr o sylw dyrysodd mam lewis yn ei synwyrau drwy hiraeth ar ol ei mab ·x · bu daniel y gof a mari baia yn cadw y boar's head tonyrefail arwydd tarian prichards fel epil eynon ap collwyn arglwyddiaeth meisgyn ond nid oedd daniel yn hoffi llawer ar y gwestdy o herwydd ei fod yn methu ymatal oddiwrth y gyfeddach gyda chyfeillion llawen yn y nos a'r effaith o hyny y fath fel yr oedd yn methu yn lan a bod yn hwylus gyda'i waith dranoeth yr wyf yn cofio yn dda fy mod unwaith pan yn laslanc yn myned un boreu gwener gyda daniel heibio tylchaganol daniel davies oedd yn preswylio yno ar y pryd yr oedd wedi myned tua marchnad pontypridd boreu mercher ond nid oedd wedi dychwelyd fyth yr oedd daniel davies wedi bod yn ddyn sobr iawn nes ei fod tua deg a deugain oed pan glywodd daniel y gof nad oedd wedi dychwelyd o'r bont dywedodd wrthyf er mai tafarnwr oedd wel dyma drueni am y dyn hwn ffarmwr rhagorol cymydog hawddgar yn esgeuluso ei fasnach newynu ei anifeiliaid gwario ei enill gwel di y mae y cwrw yn myned yn swllt y peint arno ac efe yn siwr yw y peth drudaf yn y byd am dair ceiniog mi ddechreuais y llith hwn wrth son am ty'nyton ond cefais fy nghario ar adenydd adgofion i gyfeiriad nad oeddwn yn ei fwriadu dechreuoedd tonyrefail gynyddu i fod yn bentref o dan ddylanwad mr evan prichard collena sef tadcu y meddygon hopcyn prichard taibach a william prichard trelalas y tadcu oedd perchen y collena a dywed haneswyr morien ac ereill fod y teulu wedi meddianu y lle yn ddifwlch yn y llinach wrywaidd oddiar tua y flwyddyn wel penderfynodd y gwr dan sylw wneud pentref yno cyn hyny nid oedd dim i'w gael mewn ffurf fasnachol ond pethau fferm heb fyned yn mhell am danynt penderfynodd mr evan prichard godi gweithfa wlan i wau gwlanen melin i falu yd tynodd allan gynllun o weithiau newydd a threfnodd fod peiriant y gwaith gwlan i droi olwynion y felin dechreuodd gyda gwneud camlas i ddyfod a dwfr afon elwy yr hon a ·x · dardd yn nghaer y gelyn i lifo ddigon uchel i ddisgyn i droi olwynon y weithfa wlan wrth waelod twynyton yr oedd y gamlas yn bedwar cant o latheni o hyd tua saith llathen o led a phump o ddyfnder y mae llawer tro ar fyd wedi dygwydd er pan y byddem yn grots gwledig yn nofio ar ei ddwfr grisialaidd llawer un o'n hen gyfoedion wedi myned i'r wlad bellenig o'r hon nis gall na chloch nac udgorn eu cyrchu yn ol y maent yn cysgu hun drom o'r hon nis dihunir hwynt gan floedd medelwyr caniad ceiliog na thwit gwenol ar foreu haf yr oedd hefyd yn perthyn i'r drefn dri llyn a gelwir hwynt pond y factory pond y felin a'r pond newydd yr hwn a dderbyniai y dwfr a rhedai sic o nant caerysgol cariwyd allan yr holl orchwyl i berffeithrwydd mewn ychdig amser a bu y draul o'i gwneud yn filoedd o bunau nid wyf yn coelio i mr evan pritchard dderbyn am ei anturiaeth hyd yn nod llog ar yr arian a wariodd ar y gwaith ond bu o werth mawr i'r ardalwyr yn gyffredinol ac fel y dywedyd mewn llith flaenorol daeth pentref y ton yn un o'r lleoedd mwyaf cyfleus yn morganwg isaac james oedd y melinydd cyntaf yr wyf yn ei gofio yno yr wyf yn credu mai efe oedd y cyntaf oll yno beth bynag bu yno hyd ei fedd yr oedd pawb yn adnabod isaac o'r felin yn mhell ac agos nid cymaint am ei ddawn a'i dalant sic ond nid oedd ychwaith yn amddifad o hyny ond o herwydd ei grefydd yr oedd pawb yn adnabod isaac nid oedd na dyn na dynes yn yr holl wlad o amgylch nad oedd yn talu gwrogaeth iddo mi glywais lawer yn fy amser yn rhoddi gair da a rhai ereill yn rhoddi gair drwg i'r un personau ond ni chlywais neb erioed yn rhoddi gair drwg i isaac yr oedd wedi cyrhaedd y fath sefyllfa o barch yn mhlith y methodistiaid ac ereill er nad oedd ond dyn cyffredin mewn gwybodaeth fel yr oedd yn rhaid i isaac siarad yn mhob cwrdd misol a chymanfa yr oedd isaac yn un o'r cyntaf gyda phob mudiad a fyddai o dueddiad i wella moesau dynion pan gychwynodd ·x · yr achos dirwestol dyna isaac yn ei bleidio a'i holl nerth byddai yn myned i'r gwyliau dirwestol ac yn eu cefnogi yn mhob modd yr oedd un tro mewn gwyl ddirwestol yn mhontyfon ac yn cerdded gyda'r orymdaith fe glywodd mr elias bassett o lanilltyd am hyny yr oedd mr bassett yn gyfreithwr enwog ac yn foneddwr enwog selog gyda'r methodistiaid yn morganwg ac yn sefyll megis un o'r colofnau mwyaf cedyrn o dan yr achos mewn cwrdd misol ar ol hyny wele mr bassett yn codi ar ei draed ac yn gofyn i isaac james onid oeddech chwi yn yr wyl y dydd o'r blaen yn mhontyfon oeddwn atebai yntau a oedd arno chwi ddim ofn isaac i gerdded trwy y dref yn canu ac yn dilyn banerau yr ateb oedd mr bassett nid wyf yn gwneud dim gydag achos yr arglwydd nad wyf yn ei wneud mewn ofn a dychryn gan ofni nad wyf yn ei wneud yn iawn nis gallodd mr bassett ofyn un gair yn mhellach iddo y mae yn gof genyf pan oeddwn yn hogyn glywed isaac yn cynghori yn y society ac yn dweud ei fod y boreu hwnw wedi ofni wrth basio heibio i gafn y felin rhag bod yn debyg iddo yr oedd yr hen gafn yn ddefnyddiol i gario y dwfr i droi y felin ond ei fod yn pydru wrth wneud hyny o meddai y mae perygl rhag fy mod inau yr un fath ar ol ceisio gwella ereill i mi gael fy hun yn anghymeradwy yn y diwedd cafodd isaac ei gymeryd ymaith mewn tangnefedd heddwch i lwch yr hen gristion cynhes a thyner rees evans oedd yn cadw y factory brodor o sir gaerfyrddin oedd efe yr oedd yn frawd i'r parch thomas evans gweinidog yr undodwÿr yn aberdar ·x · f llith vi rhys evans y gwehydd ei deulu a'i weithwyr dirgelwch athrawiaeth y drindod yr hen bobl yn methu ei deall terfynais y llith flaenorol gyda hanes yr hybarch a'r anwyl isaac james o'r felin am rhys evans o'r factory a'i deulu a'i werthwyr y cawn son am danynt yn y llith hwn genedigol o swydd gaerfyrddin oedd rhys evans ac yr oedd yn frawd i'r diweddar barchedig t evans gweinidog i'r undodwÿr yn aberdar yr oeddynt yn ewyrthod i mrs williams o'r gethin yn yr un lle dyn lled fychan o gorpholaeth oed yn un hynod o luniaidd ac ysgafn ar ei draed yr oedd yn ddarllenwr mawr a manwl ac yr oedd o ran cof yn dra nodedig yr oedd o ran cymeriad moesol tuhwnt i amheuaeth ac fe'i perchid yn fawr gan bawb yn wreng a bonedd edrychai fel y dywedir pawb i fyny arno cyrchodd mari ei wraig wlaneni a brethynau i farchnad llantrisant ac i un pontypridd wed'yn am flynyddoedd ac yr oedd pob peth a werthai o'r ansawdd oreu y mae fy nghof yr eiliad hon yn dwyn yn ol i'r meddwl ddarlun o mari yn marchogaeth y gaseg goch fawr tua'r farchnad tynai y gaseg goch fy sylw yn aml pan oeddwn yn grotyn sylwn arni yn aml yn pori ar dwyn y factory byddai hi weithiau yn dianc o'r crofft i heol y pentre a byddai ei phresenoldeb ar yr heol yn creu ofn a dychryn yn mhlith mamau plant rhedai y mamau ar ol eu plant ac ysgrechent a'r hen gaseg goch hithau fel yn mwynhau y dychryn a gynyrchai ei phresenolddeb ar yr heol a neidiai fel oenig a gwnelai ffroeni a gweryru nes yr oedd pob benyw yn ei galw y garan gas y mae cnacau difyr yn aml mewn hen gesyg yn gystal ag mewn hen geffylau nis gwn yn iawn pa un ai yr hen gaseg neu mari ei meistres a fethodd gyntaf a myned tua'r farchnadfa ond buont eu dwy fyw yn hen fel yr awgrymwyd yn barod ·x · undodwr oedd rhys evans o ran ei grefydd ac undodwyr hefyd oedd ei blant yr oedd y teulu oll yn hynod dalentog ond y mwyaf athrylithgar o'r plant oedd thomas joseph ac edmund aeth thomas ymaith i'r america pan oedd yn nghylch pump ar hugain oed a bu yno yn beirianydd ar ryw gledrffordd yn mhen tri deg a phump o flynyddoedd daeth i'w feddwl yr hoffai unwaith eto weled yr hen wlad ac ardal boreuddydd bywyd tonyrefail bu ar y ton heb ddweud wrth neb pwy ydoedd ac yr oedd o flynyddoedd wedi cyfnewid ei wedd yntau fel nad oedd neb yno yn adnabod ei ymddangosiad buasai yn hoff iawn gan ei gyfoedion ag oedd yn aros ar donyrefail ei weled a'i roesawu ond aeth at hen fangre ei rhieni sic wylodd yn ddiau yno wrth gofio y dyddiau gynt ac yna ymadawodd yn ddystaw heb ddywedyd wrth neb pwy ydoedd ond tua milldir allan o'r pentref ar ochr heol esgynedig galwodd yn y tydu gyda mari smith a dywedodd wrthi pwy ydoedd yna aeth ymaith a'r peth nesaf a glywsom am dano oedd fod ein hen gyfaill twm wedi huno yn yr angau yn yr unol dalaethau pan wasgarodd y teulu aeth joseph ac edmund i aberdar lle y buont yn preswylio am rai blynyddoedd aeth joseph hefyd tua'r america a bu farw yno yn gydmarol ieuanc yr oedd rhys evans yn cadw llawer o weithwyr tuag ugain o rifedi byddai dafydd shams y panwr o'r bettws un o hil john bradford ieuan tir iarll yn galw gyda rhys evans bob wythnos pan ar ei ffordd tua marchnad llantrisant dyna lle y cynelid marchnad y parthau hyny o forganwg y dyddiau hyny yr oedd marchnad pontypridd heb gychwyn y pryd dan sylw yr oedd dafydd siams sic shams yn rhannau eraill o'r testun y panwr yn hynod hoff o chwedl a chymdeithas arosai nos wener pen pob pythefnos gyda rhys evans nes oedd hi tua naw o'r gloch y nos yna ymadawai ar ei geffyl yr hwn a gariai hefyd fwndel mawr o frethynau yn araf y teithiai y ceffyl ar hyd y ffordd fynyddig heibio hen gartref fy nhadcu a'm mamgu tynywaun hendreforgan yna drwy afon crug las ·x · drwy glynogwy glynogwr a thrwy bentref henafol melin evan ddu a'r don ithel ddu yn agos i hen gartref ithel brenhin morganwg yna elai y panwr ffraeth dros bontrithwen a dringai fynydd llangeinor a chyrhaedda sic a chyrhaeddai pandy y bettws tua chanol nos yr oedd dafydd shams y pabwr yntau hefyd yn sosin fel y gelwid undodwr y pryd hwnw yn awr a phryd arall gwahoddai dafydd shams fechgyn tonyrefail i ymweled a'r bettws i glywed mr jones penybont yn pregethu undodiaeth yr oedd mr jones yn wr dysgedig efe oedd gweinidog y sosiniaid yn nghapel yr enwad wrth odreu heol y castell newydd penybont i'r capel hwnw y cyrchai mr walter coffin perchenog gwaith y ddinas cwm rhondda a'i deulu ac yr oedd gan yr enwad gapel bychan yn y bettws wedi ei waddoli gan rhywun sic dim treiglad byddai yn ddyddorol cael gwybod a oedd cysylltiad rhwng hen deulu y bradfords a'r capel hwnw ar un boreu sul hafaidd tua diwedd mis mai gwelwyd saith o ieuenctyd y ton yn cychwyn tua chwech o'r gloch tua'r bettws eu henwau oeddynt dafydd evans yn awr o'r docks caerdydd mab yr hybarch w evans dewi harran dewi haran david evans aelod o `glic y bont' carfan o feirdd o ardal pont tÿ pridd w james bili o'r felin william treharne thomas edwards caercurlais isaf sic wedyn o gaerlam sic tomos y gwehydd a twm mab llywelyn cyrhaeddasom dy'n y bettws magwyrydd dafydd shams erbyn naw o'r gloch nid oedd dafydd yn gwybod dim ein bod yn ei canfod agorodd ei lygaid led y pen yna bloeddiodd gan ddywedyd mari y mae yma dorf o gyfeillion wedi dyfod o donyrefail i'n gweled ac y mae yn ofynol iddynt gael boreufwyd yna aeth o'n blaen i'r ty a ninau ar ei ol mari ebe ef nid oes dadl yn y byd nad rhagluniaieth a barodd i mi brynu y leg cig llo yna yn benybont neithiwr yna aeth yn y blaen i adrodd wrthym hanes y leg cig llo yr oeddwn neithiwr ebe ef yn y ship penybont a daeth wil shon o dy'n y clwtyn llanharran i mewn dafydd shams ebe fe y mae genyf ·x · leg o gig heb ei gwerthu ac y mae yn farchnad ddrwg iawn prynwch da ch'i y leg gen'i pa faint yw ei phwysau hi wil shon tri phwys ar ddeg a haner oedd ei ateb gwrando wil ebwn inau byddai mari yn siwr o fy nghyru allan o'r ty am fy mod yn prynu aelod o gig mor fawr ag yna ebe wil chwi a'i cewch hi am dair a dimeu y pwys gwelais ebe dafydd shams wrthym yr oeddym yn awr yn ddiwyd gyda'r boreufwyd na fuasai hi ddim yn dyfod i lawer o arian a phrynais hi yna dywedodd y mae yn yr ardd datws ag y gelwir cochion cynar arnyn nhw ond y mae yn ofynol eu cloddio allan a dydd sul yw hi ond nid ydwyf yn credu y byddai yn bechod eu cloddio allan er taw dydd sul ydyw hi canys y mae yn amlwg fod yr un mawr am i ni gael ei ffrythau yn eu blas goreu aethom erbyn unarddeg o'r gloch tua'r capel a chawsom y gweinidog yno dywedodd ef fod yn teimlo yn ddedwydd gweled cymaint o wrandawyr wedi dyfod yn ngyd oni fuasai i ni fod yno ni fuasai y gynulleidfa ond dafydd shams a'r wraig oedd yn glanhau y capel esgynodd mr jones i'r pwlpud a rhoddodd allan air i ganu yr oedd bechgyn tonyrefail yn gantorion go lew wedi'r canu aeth mr jones i weddi yna cyn cymeryd ei destyn anerchodd y dyeithriaid gan ddywedyd ei fod yn debyg ein bod wedi dyfod i'r bettws y sabboth hwnw er mwyn gwrando athrawiaeth yr undodoiaid darllenaf destyn ebai ef a gwnaf sylwadau arno mor eglur ag y medraf yna darllenodd y ddwyfed adnod ar bymtheg o'r benod gyntaf of sic epistol cyntaf st pedr os ydych yn galw ar y tad yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ol gweithred pob un ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad cawsom yn ei bregeth lawer iawn o sylwadau da gwerth eu cofio ond rhywfodd nid oedd yr athrawiaeth yn cael mymryn o ddylanwad arnom ·x · g llith vii mr robert thomas o'r glyn chwaraeon digrif cymeriadau hynod helynt pantrythyn fach twm shams rhys yn cymeryd meddiant o hono y mwstwr yn nglyn a'i droi allan addewais yn fy llith diweddaf roddi ychydig o hanes mr robert thomas o'r glyn yn yr ardal saif y glyn fel y gelwir yr amaethdy lle y preswylai mr robert thomas i'r dwyrain o donyrefail a thua milldir o'r pentref y mae yn sefyll ar lechwedd ysgafn a'i wyneb tua chwm castella ac yn y pellder saif megis ar glogwyn rhwng bryniau dref henafol llantrisant hen dref bwysig yn yr hen amseroedd yn hanes amgylchiadau morganwg yr oedd mr robert thomas a'i dadau o'i flaen yn berchenog ar dir y glyn ac yn yr hen amaethdy ar y tyddyn y preswylai efe a'i wraig eu mab a'u merch cadwai efe wyth neu ddeg o weision a morwynion enw ei wraig oedd jenet enwau ei plant oedd william a ffryswydd priododd william a miss rebecca smith chwaer mri w a t smith o twynycae yn agos i lanharan yr oedd miss rebecca smith yn ddynes brydweddol serchog a llawn o fwyneidd dra yr oedd yn bleser mawr bob amser ymweled a'r glyn yn eu dyddiau hwy eu mab hwy yw mr william thomas rhiwgarn fawr a'u merched oedd y diweddar mrs henry naunton davies cymmer a mrs lewis davies gellywion priododd miss ffryswydd thomas yr hon oedd ddiarebol am ei phwyll a'i synwyr cyffredin a mr gruffydd evans benbwch fel y gelwir y lle ar lafar gwlad codasant deulu mawr ac y mae amryw o honynt yn fyw heddyw yr oedd mr robert thomas a'i wraig yn aelodau crefyddol gyda'r annibynwyr yn y cymmer a byddai llawer o weinidogion yr enwad parchus hwnnw yn cael llety yn awr ac yn y man yn y glyn yn mhlith ereill lletyai yno yn achlysurol y parch ·x · dl gryffydd castellnedd y parch philip gryffydd yr alltwen rhys y glun bren ac ereill yr oedd y bobl dda hyny yn hoff iawn o deulu y glyn a byddent yn aml yn adrodd yn y glyn eu helyntion pan ar eu teithiau byddai y parch dl gryffydd yn adrodd hanesion digri weithiau yr oedd ef wedi ei urddo yn weinidog pan yn ieuanc ac heb briodi daeth i'w feddwl mai dymunol fyddai cael cydmar bywyd pan oedd y meddwl hwn yn ymhel ag ef dygwyddodd un nawn ei fod yn rhodio glan y mor ger abertawe cyfarfyddodd a lodesi ieuainc a chyfarchodd un o honynt ef wrth ei enw a dywedodd wrtho ei fod ef wedi bod yn nhy ei mam a'i thad sef yr aber llanfabon pan oeddent fel hyn yn siarad aeth y merched ereill yn eu blaen ac yn mhen tipyn rhoddodd y gwr parchedig ei fraich i'r ferch ieuanc ac aethant ar ol y lleill cerddasant yn ol a blaen ar hyd y traeth pan yn anffodus pwy a'u cyfarfyddodd ond rhai aelodau y capel lle yr oedd ef yn weinidog yr oedd y pryd hwnw yn cael edrych arno yn drosedd i weinidog yr efengyl ymhoffi yn y rhyw deg a chyn fod y gweinidog yn ol yn nghastellnedd yr oedd y newydd allan ei fod wedi ei weled yn rhodiana gyda merch ar lan y mor yn agos i abertawe edrychai yr henaduriaid arno yn gilwgus a chodai yr hen wragedd wyn eu llygaid i'r golwg mae yn lled debyg mai un o'r hen draddodiadau pabyddol oedd y rhagfarn hwn yn erbyn i weinidog gyfeillachu a merch gwyr pawb na cha un o offeiriaid eglwys rhufain briodi o gwbl ar y sabbath canlynol pregethodd dl griffiths yn ei gapel ei hun ar y testyn am yr iesu yn ymddyddan a'r wraig o samaria iddo ofyn i'r wraig am ddwfr i'w yfed y wraig yn gwrthod o herwydd mai iuddew ydoedd efe a hithau'n samariad yr oedd y dysgyblion wedi myned i'r pentref i brynu bwyd ond pan ddychwelasant bu ryfedd ganddynt ei fod yn ymddyddan a gwraig yr ydych yn camsynied yn sicr ymddyddan a gwraig meddai mr griffiths oedd yn wir dyna ddywed yr ysgrythyr o 'r nefoedd anwyl ni feiddia neb siarad hyd yn oed a `merch ieuanc' yma yr oedd y cellwair yn disgyn ·x · ar yr aelodau fel tan a'r gwrandawyr hyny oeddynt yn gwybod yr hanes yn chwerthin allan ond priododd dl gryffydd a miss thomas a bu eu cyfarfodydd yn fendithiol i'r ddau nid oedd llawer yn gallu darllen yr yr amser hwnw mlynedd yn ol ac yn wir nid oedd ond ychydig o lyfrau yn cael eu cyhoeddi yn gymraeg yr oedd seren gomer yn dyfod allan yn fisol ond nid oedd un papyr newydd cymraeg yn cael ei gyhoeddi yn holl gymru y pryd hwnw yn wir nid oedd ond ychydig o bapyrau seisnig yn dod allan yr wyf yn cofio fod mr harris trefarug mr howells rhiwfelen a mr williams garthgraban yn derbyn y cambrian rhyngddynt ar nosweithiau hirion yn y gauaf byddai pobl yn chwareu rhyw gampau digrif yn y glyn fel mewn ardaloedd ereill yn y wlad byddent weithiau yn chwareu bwbach darllen ereill a chwareuent ar y stol gandno sic ambell waith chwareuent yn y glyn yr hyn a elwid trick yr oedd bob amser yn y glyn fel oedd yn tylcha gymeriadau hynod yno yr oedd beni tiler daniel price dafydd y cigydd c un noson a'r lleuad yn arianu y wlad penderfynwyd chwareu trick math o ddaroganu pwy a fyddai gwyr neu wragedd y cyfeillion oedd y trick yma y noson hono yn yr ardd y chwareuid y trick ac yr oedd mrs thomas y feistres heb yn wybod i ben tiler wedi gwisgo yn debyg fel y gwnelai hen shan persondy ac yn ymguddio tucefn i lwyn tew yn yr ardd hen ferch oedd shan persondy ar ymweliad a'r lle lawer gwaith yn y flwyddyn i wneud bara ceirch gwisgai wn gwlanen byr a het wellt gyffredin ar ei phen dyma'r dull yr ymddangosai mrs thomas y tucefn i'r llwyn a gwyddai y lleill ond beni druan ei bod hi yno yr oedd y parti i fod yn saith o nifer i redeg saith gwaith o amgylch yr ardd byddent yn adrodd y geiriau canlynol dyma'r gyllell dyma'r wain p'le mae'r ferch sy'n ceisio `rhain ar y seithfed tro wele shan persondy mrs r thomas yn ·x · rhuthro allan o'r tucefn i'r llwyn ac yn cymeryd y gyllell a'r wain o law beni ddiniwed bu beni bron llewygu yn y fan gan redeg llefai o phriodai dd' h sic mae'n debÿg dd' hi ddylai fod hynny yw ddi byth hen shan yw hi na `bur' byth yr oedd ben yn drwm iawn ei glyw codai ei ddwylaw yn awr a dywedai am shan na wna i mae duw yn gwybod phrioda i hi `bur' byth yr oedd beni yn un o'r hen gorph ar y ton ond fel y dywedodd y parch joseph thomas carno am pedr wedi iddo regu mai heb anghofio iaith pysgodwyr glan mor galilea yr oedd efe felly beni hefyd pan gynhyrfai yn ddirfawr deuai iaith yr aipht yn ol iddo yn eithaf naturiol bu beni yn isel iawn ei ysbryd o herwydd ofn y deuai shan i'w ran a gorfu ar mrs thomas ddywedyd y cwbl wrtho ysgafnhodd hyny ysbryd beni yn union flynyddoedd lawer yn ol yr oedd yn byw yn gwrt golomen ger tondu hen gyfreithiwr o'r enw mr rhys yr oedd yn gyfoethog iawn a bu farw heb na gwraig na phlant ac heb wneud ei ewyllys aeth yn frwd yn nghylch ei feddianau hawliai mr robert thomas a hyny yn gywir mai efe oedd ei etifedd ond hawliai un dafydd terry mai efe oedd y gwir etifedd aeth yn gyfraith ac wedi hir gyfreithio a thraul fawr rhoddwyd y farn o blaid mr robert thomas a rhoddwyd rhai o dystion dafydd terry yn ngharchar am dyngu celwydd aeth rhai o'r tystion wed'yn yn wallgof o herwydd cnofeydd cydwybod yn nghylch eu gwaith anfad ond ychydig fu elw mr robert thomas yr oedd gwyr y quills wedi llyncu bron y cwbl ond yr enwyn cafodd yr etifedd hwnw cof genyf pan oeddwn yn laslanc i genad ddyfod un prydnawn i'r pentref a chais oddiwrth mr robert thomas am gymorth yr oedd un twm shams rhys wedi cymeryd meddiant trwy drais o bantrythyn fach un o'r ffermydd ger pencoed llanylid sic tua dau o'r gloch boreu dranoeth yr oedd tua haner cant o honom wedi ymgynull ar groesheolycapel islaw y glyn yr oedd pastwn yn llaw bob un o honom ac yr oedd pob calon yn llawn brwdfrydedd dros ropart o'r ·x · glyn ac yn penderfynu troi twm shams rhys a'i fyddin o ddynion a chwn allan ffwrdd a ni wrth oleuni y ser tua llantrisant cyrhaeddasom gyda thoriad dydd yno ymunodd a ni gatrwad gref o'r black army a chyrhaeddasom bontyfon erbyn amser boreufwyd cawsom foreufwyd yn y tennis court yno ar y pryd yr oedd ymladdwr hynod iawn o'r enw wil charles yn byw yn casnewydd a llawer o son am dano yr oedd yn ein plith shon o dafarn y cymmer yr oedd yn ddyn lluniaidd a'i ysgwyddau yn llydain iawn dodwyd i sic si allan mai wil charles oedd shon aeth y son fod wil charles gyda ni fel tan gwyllt drwy y dref a phan y cychwynasom drwy y dref tua chyfeiriad y filldir aur ar ein ffordd tua maes ein gorchwyl yr oedd holl bobl y dref ar eu drysau yn ceisio canfod wil charles dyco fe meddai pawb gan gyfeirio at shon yr hwn oedd yn fachgen eithaf heddychol ei anian er ei fod yn un cadarn o gorph troisom i lawr ar ein de ac ar gae pantrhythin tyngodd mr redwood cyfreithiwr ni yn chwech ugain o nifer yn geisbwliaid a gosodwyd ruban gwyn am fraich pob un yna dynesodd mr redwood at ddrws pantrhythyn fach a gofynodd i'r rhai o'r tu fewn i agor y drws ond nid oedd un atebiad o'r diwedd bloeddiodd bring the iron bar here a chyda hyny wele dafydd prhys bach sic o'r wig yn rhuthro tuag at y drws a'r golofn haiarn yn ei ddwylaw ond cyn iddo daro a dechreu y frwydr agorwyd y drws a daeth allan twm shams rhys ac ereill a'u cwn bloeddiodd shon o hyd yn nghymeriad wil charles gadewch i mi gael gafael yn war fawr twm shams rhys dychrynodd yr oll o'r lleill a ddaethant allan cymerwyd hwynt yn garchorion a chawsant eu cymeryd i gaerdydd i'r carchar cawsant wed'yn eu dedfrydu i fisoedd o garchariad bu mr robert thomas farw yn ddisymwth yn nhy mrs alice powell yn hen gastell penybont ar ogwy a chladdwyd ef yn llantrisant ar y diwrnod y coronwyd ein grasusaf frenhines victoria yn ·x · h llith viii dic o'r cottish canwyllau cyrph y sosiniaid rasmus a'r helbul fairfield mr daniel owen yn fy llith flaenorol addewias roddi hanes rhai o weithwyr y diweddar rees evans yr oedd ganddo lawer o nyddwyr a gwehyddion fel y dywedais o'r blaen un o'r rhai cyntaf wyf yn ei gofio oedd mr thomas anthony tad mr h anthony y h caerffili dyn bob modfedd o hono oedd mr anthony yr oedd wedi ei greu yn wr bonheddig yr oedd pawb bach a mawr yn ei barchu yr oedd yn un o'r dynion harddaf a welais erioed ac yn cadw ei hunan yn hynod o lanwedd bob amser fel rheol nid oedd y gwehyddion yn enillwyr mawr ond safiodd y gwr da hwn trwy ei ddiwydrwydd a'i gynildeb lawer o arian yr oedd yn frawd i mr anthony y panwr ac yn berthynas agos i mr anthony flower de leus ar ol i mr harry anthony farw cafodd yn agos y cwbl o'i eiddo ar ei ol a daeth yn bur gyfoethog priododd a merch john williams ffarmwr yn ymyl caerffili merch ieuanc hynod o brydweddol a throdd allan yn uniad rhagorol yr wyf yn ei chofio yn dda yn cadw y farchnad am lawer o flynyddoedd yn mhontypridd i werthu gwlanenni yr oedd ei hymddangosiad boneddigaidd yn nghyd a'r gwlanenni oedd yn werthu sic eu gwerthu yn tynu sylw pawb gellir dweyd am dani fel y dywedodd lemuel frenin yn y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo hi a gais wlan a llin ac a'i gweithia a'i dwylaw yn ewyllysgar tebyg yw hi i long marsiandwr hi a ddwg ei hymborth o bell hi a gyfyd liw nos ac a rydd fwyd i'w thylwyth a dogn i'w llancesau hi a feddwl am faes ac a'i pryn ef hi a weithia iddi ei hun garpedau ei gwisg oedd sidan a phorphor hynod oedd ei gwr hi yn y pyrth mi wn nad oes neb yn fyw a ddywed fod hyn yn ormodiaith am mrs anthony dylaswn ddewyd mai brodor o'r bettws ger penybontarogwr ·x · oedd ei thad a brawd i'r diweddar isaac williams tynybryn tonyrefail maent oll wedi myned i fro distawrwydd er's llawer o flynyddoedd dyna un arall o weithwyr rees evans oedd mr hopkin morgan o langriwynau sir fynwy llangrwyne ger crucywel yr oedd mr morgan yn lenor gwych bu yn myned i eisteddfod y fenni am lawer blwyddyn priododd a miss mary thomas o donyrefail ac yr oeddynt y par mwyaf golygus a ellid weled daeth mr morgan i sylw mawr gydag arglwydd ac arglwyddes llanover cymerodd factory llangriwynau llanover a bu fyw yno hyd ei fedd daeth i sylw mawr gyda'r gwyr mawrion oedd yn ymweled a llanover ac yr oedd y gwlaneni a wneud ganddo yn cael eu hanfon i foneddigion pell ac agos yr oedd mr morgan yn aelod gyda'r annibynwyr yn y cymmer ond nid oeddym yn edrych arno fel yn orthodox yr oeddem yn tueddu i feddwl fod credo ei feistr wedi dylanwadu arno yr oedd yn lled wan yn ei gredo ar ddwyfoldeb person crist cawsom lawer iawn o ddifyrwch lawer tro wrth ei glywed yn holi dic o'r cottish am ganwyllau cyrff ac ysbrydion byddai dic yn cwrdd a thrafferthion pwysig wrth ddod adre' yn y nos byddai mewn angladdau yn fynych yn cael ei wasgu'n drwm yr oedd ganddo lawer i'w ddweyd am groesol rhiwfelau sic rhiwfelan rhiwfelen a gwaunypant yr oedd yn dweyd mai lleoedd ofnadwy oedd y rhai hyn am ysbrydion yr wyf yn cofio yn dda fy mod yn sefyll ar dwyn y ton ar noswaith dywyll ac amryw o'r gwehyddion gyda ni dyna dic yn tynu ein sylw at ganwyll gorff yn dod oddiwrth groesol tynybryn tua'r waunrhydd yr oedd dic yn sicrhau mai arwydd fod angladd i ddyfod y ffordd hono yn sydyn ydoedd ond dygwyddodd i hopkin morgan chwerthin cyn i dic ddybenu digiodd drwyddo a dywedodd nad oeddynt hwy y sosiniaid a thylwyth rees evans ddim yn credu mewn duw na diawl ond eu hunain ac yn y cythrwfl fe ddiffoddodd y ganwyll a wyddoch chi pwy oedd y ganwyll dim ond abram lloyd ·x · o gelli'rhaidd yn dyfod at bili dafydd y bwtsiwr a defaid mewn panierau a chanwyll a lantern i'w oleuo byddai dic yn dywed llawer wrthym am ysbrydion garthgraban fawr yr humphreys oedd perchenogion y lle ac yr oeddynt yn byw yno am lawer o flynyddoedd dygwyddodd fod ganddynt was o'r enw rasmws yr oedd yn ofergoelwr mawr yr oedd yn credu yn gryf mewn ysbrydion byddai yn gorfod myned tua llantrisant i'r post yn hwyr weithiau ac ar negeseuon ereill ond yr oedd yn arfer cwrdd ag ysbrydion bron yn wastad byddai ci mawr yn ei ddilyn a'r ci yn troi yn darw yn y diwedd byddai y perthi ar dan bob ochr iddo a deuai adref yn chwys mawr ac ar fin marw pan y byddai y meistr o dre byddai rasmws yn ofni yn ddirfawr byddai ganddo ddryll yn ei ystafell wrth ochr ei wely un noswaith yr oedd yn clywed swn dychrynllyd y tuallan mae garthgraban fawr yn ymyl y coedmawr ac yr oedd rasmws yn fwy ofnus yn herwydd hyny byddai yn credu bod yr ysbrydion yn myned i'r goedig sic i'r goedwig y dydd ac yn dychwelyd y nos ond noswaith ofnadwy oedd y noswaith y saethodd drwy y ffenestr pan gododd boreu dranoeth cafodd chwech o'r turkeys wedi eu lladd a deallodd mai hwy oedd yr ysbrydion y noswaith hono oblegyd wedi iddo saethu bu yno dawelwch mawr aeth y perchnogion i fyw i loegr yr oeddynt wedi blino ar ddywediadau rasmws a'r cymydogion am yr ysbrydion yr oedd dychryn ar bobl i fyn'd heibio wrth oleu dydd cymerodd mr williams o'r gadlys aberdar at y le a daeth ef a mrs williams i fyw yno fe darfodd mr williams yr ysprydion drwg chlywyd dim am danynt mwyach tad y parch d watkin williams fairfield oedd mr williams o'r gadlys yn aberdar y gwnaeth ei gyfoeth fe ddywedir ei fod yn deall marchnad yr arian yn dda byddai ganddo rai yn gwylied yr exchange bron bob amser drosto fe ddywedir iddo wneud haner can' mil o bunau yn y ffordd hon yr oedd ei fab mr williams fairfield yn cambridge am flynyddau wedi i'w dad ddyfod i garthgraban a byddai y gwr boneddig ·x · ieuanc yn dyfod adref yn awr ac yn y man i weled ei dad a'i fam yr oeddem bob amser yn ei roesawu pan y deuai byddai y pryd hyny yn galw i weled y cymydogion ac yr oedd yn ein sirioli yn fawr byddai mr williams yn cadw gwas iddo ei hunan yr wyf yn cofio dic butler o glynogwr gydag ef byddai dic yn gwneud ei hun yn ffwl yn fynych os nad oedd felly mewn gwirionedd ond `doedd arno ef ddim ofn ysbrydion beth bynag os byddwn byw bydd genym lawer i'w ddweyd am mr williams eto dyn ieuanc arall wyf yn ei gofio yn gweithio i rees evans oedd mr daniel owen ash hall fe ddywedir nad ydoedd yn rhyw lawer o grefftwr pan ddaeth o lanharran sic i donyrefail gallai weithio a'r wenol fach ond cyn ymadael a'r ton fe ddysgodd ar y fly wheel a daeth i wae stripes traws a shawls yr oedd mr owen y pryd hwnw yn dangos ei fod yn feddianol ar dalent byddai weithiau yn cynyg at farddoni pan ymadawodd a thonyrefail fe ddywedir iddo wneud englyn a dyma fo ni ddof i'r ton ond hyny i geisio gwae na chlymu waith dyna rhai sy'n mynd a'r crop yw gwyr y siop a'r dwldu yr oedd mr owen y pryd hyny yn dechreu cael blas ar arian fe ddaeth wedi hyny i bontypridd bu yn gweithio am flynyddoedd yn ffactri heolyfelin yn mhontypridd mae yma enwogion ereill wedi bod ar ol mr owen dyna lle bu mr james byw a dyma'r lle y bu farw efe ydoedd awdwr enwog hen wlad fy nhadau fe fydd ei enw mewn cof am ganoedd o flynyddau fe briododd mr owen a miss jones merch y parch ll jones gweinidog yr annibynwyr yn sardis pontypridd y mae y briodas wedi bod yn un hapus dros ben fe ddywedir fod y foneddiges wedi cael synwyr a phwyll ei hybarch dad aeth mr owen yn gydmarol ieuanc i awstralia gwnaeth ·x · gyfoeth mawr yno Ôl nodyn bu farw mehefin ganwyd ef mai mae erbyn hyn yn un o ustusiaid heddwch sir forganwg beth wyf yn siarad y mae ei enw yn adnabyddus trwy yr holl wlad byddai hanes ei fywyd wedi ei gyfansoddi ganddo ei hun yn dderbyniol ac yn llesiol ·x · i llith ix proffwyd y bettws dafydd shams cyfarfodydd dirwest gynt undodwyr y ton bu dafydd shams y panwr ger y bettws fyw hyd yn ddiweddar ac yr oedd pan derfynodd ei daith ddaearol yn un o warcheidwaid y tlodion yn mhenybont cyfarfyddem yn awr ac yn y man yn mhenybont a choffai yn aml gyda llawneydd am y boreu hwnw dros haner cant o flynyddoedd yn ol pan ymwelwyd a'i fagwyrydd clyd ger y betws gan dorf o fechgyn tonyrefail terfynodd ei yrfa hirfaith yn cael ei barchu gan wreng a boneddig dywedir wrthyf fod rhyw ddirgelwch yn nglyn ag hanes dyfodiad y bradfords o ba rai yr hanodd dafydd shams i'r bettws lawer o flynyddoedd yn ol dywedir eu bod o linach saesneg bendefigaidd a'u bod wedi gorfod ffoi o loegr yn amser mari waedlyd o herwydd eu protestaniaeth a dywedir fod eu cofnodiad llinachol ar un o'r muriau tufewn i eglwys y bettws ond dyna yn ol arfer hen bobl yr wyf yn dueddol i grwydro yn fy ymadroddion i ddychwelyd yr oedd dafydd shams yn ddirwestwr selog iawn yn y dyddiau hyny cynaliai y dirwestwyr gyfarfodydd mawrion ar nawn suliau ar y gwastadedd rhwng ystafell arawn a'r dinas isaf ar graig y ddinas heb fod yn mhell o'r heol fawr o'r cymmer i lantrisant dafydd shams fyddai yn aml yn llywydd y cyfarfodydd hyny rhyw gyfnod rhyfeddol oedd hwnw yn hanes morganwg yr oedd yn hynod am yr yni meddyliol a ddynodai agwedd y cymry yn gyffredinol ac yn yr ardaloedd amgylchynol byddai areithio tanllyd ac hyawdl o dan ystafell arawn am tua dwy awr yno yr areithiai lewis machine shon llwynsaer john isaac evans dafydd mab y parch william evans c yn wir yr wyf yn haner coelio i myfi fy hunan ddywedyd tipyn yno fwy nag unwaith yn yr wythnos ganlynol byddai dr evan davies tad y dr h naunton davies ·x · cymmer yn beirniadu ein sylwadau yn areithiau y sabbath blaenorol byddai ysgrifenu ar hyny ac nid oedd fawr o son am ddim arall yr oedd adran ddirwestol gref yn y ddinas ac un arall ar donyrefail yr oedd gan bob adran ei baner sidan fawr iawn a byddai yn cael ei chario gan rywun cadarn o flaen yr adran pan fyddai ar y march fel y dywedir yn awr yr oedd y banerydd a dolen ledr lydan am ei ysgwyddau a gorweddai i lawr dros ei fynwes wrth odreu y ddolen ledr yr oedd crai i dderbyn blaen y polyn hir ar ben pa un y byddai y pren croes wrth yr hwn y crogai faner fawr lydan yr wyf yn cofio fod mesen felen fawr ar ben y polyn ac un ar flaen pob pen i'r pren croes baner y ton cedwid y polyn yn ofalus ar ben rhes o binau haiarn tuag at ddal hetiau o fewn capel y methodistiaid yn y lle am rhys evans o'r factory er ei fod yn undodwr ni wnelai byth wthio ei syniadau sosinaidd ar ereill ond byddai bob amser yn barod i roddi benthyg ei lyfrau mi gefais i fel ereill fenthyg ganddo waith dr priestly esboniad ar y testament newydd gan besham a thraethodau jones gelli onen ond nid wyf wedi cael lle i ddeall i neb o feibion ysgol sul y ton gael ei henill at y ffydd undodaidd ond jenkin evans wed'yn ysgrifenydd gwaith glo y ddinas am lawer o flynyddoedd bu ef farw ychydig o flynyddoedd yn ol yn mlaenllechau lle yr oedd yn llenwi swydd gyfrifol dyn talentog ac ymresymwr fel y dywedai morgan rowland o'r ddinas oedd siencyn evan bydd genyf ragor eto i'w ddywedyd am y cyfaill anwyl hwn ymwelai dr evan davies a thy rhys evans yn aml yr oedd amryw o undodwyr tuag ardal fforest y garth sef ardal a elwid hefyd ffrwd amos ond sydd wedi ei chyfnewid wedi canrifoedd i penygraig enw ffol iawn ar wastadedd onide yn mhlith yr undodwyr yno cawn bili mab beti llewelyn o'r cwrt daniel thomas wedi hyny arolygydd gwaith mr walter coffin a'i gyf c ond yr oedd yno fechgyn lawer yn ddarllenwyr mawr ac yn aros yn y ffydd drindodaidd gellir enwi yn mhlith ereill ·x · t thomas morgan tad morien ac hefyd tad y parch t t morgan ficer chertsey windsor morgan rowland rowland rowland rowland mab thomas rowland ishmael williams sam y crydd william froster c yr oedd llywelyn o'r cwrt yn llawn o dalent a'i arabedd yn ffraethbert bob amser ond ambell dro cyfarfyddai a'i debyg yr wyf yn cofio un noson fod un siencyn william a llewelyn o'r cwrt yn dadleu yr oedd llewelyn yn siarad am yr un mwyaf fel pe gwyddai bob peth yn ei gylch yn mhlith pethau ereill dywedodd llewelyn gwn am un peth siencyn ac y gellwch chwi ei wneuthur lawn cystal a'r un mawr beth yw hyny gofynai siencyn gellwch ebe llewelyn rifo pedwar gystal ag yntau charwn i ddim cystadlu ag ef ebe siencyn mewn llais cras rhag ofyn sic ofn iddo'm atal ar y tri byddai dawn ac arabedd llewelyn o'r cwrt yn ddifyrwch mawr yn aml i'r diweddar feddyg dr evan davies byddai yn cadw llewelyn gydag ef am fisoedd ar y tro dywedodd dr h naunton davies wrthyf yn ddiweddar mai un o'r pethau mwyaf effeithiol a glybu yn ei oes oedd clywed llewelyn ychydig o amser cyn ei farwolaeth yn coffa y geiriau rhyfeddol o dad os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddiwrthyf er hyny nid fy ewyllys i ond yr eiddot ti a wneler o na allwn yn awr ebe llewelyn ddywedyd fel llefarodd yr un mawr hwnw o bentref gwledig nazareth peth ofnadwy yw bod yn gorfod marw yn nghanol dymuniad am gael byw bu farw thomas morgan ysgrifenydd yr adgofion uchod chwefror claddwyd ef ger capel tonyrefail yn yr un bedd a'i wraig gyntaf ei anwyl rebecca caerlan ar y eg o'r un mis y mae yn huno yn nghanol ei hen gyfeillion a'i gydnabod yno ·x · ññ ffoto owen morgan morien ñññ ·x · enwau lleol o amgylch tonyrefail gan owen morgan morien palasdy y collena dywed mr geo t clark fod teulu prichard neu ap richard yn hanu o einion ap collwyn neu cellwyn mab arglwydd ceredigion a'r dywysoges nest unig ferch iestyn ap gwrgan brenhin morganwg a d a'u bod yn meddiannu rhan o'r etifeddiaeth a ddisgynodd i ran einion a nest pan ranodd fitzhamon morganwg rhwng ei bleidwyr yr oedd einion a nest yn byw yn nghastell llantrisant y mae yn dra thebygol iddynt wneyd cartref llai milwrol eu natur iddynt eu hunain yn y lle hwn a'i alw yn cellwynfa ac mai llygriad o'r enw hwnw yw yr enw collena ystyr yr enw cellwynfa yw dirgelfa baradwysaidd y mae eglwys fechan ac ioan fedyddiwr yn noddydd sant iddi ar etifeddiaeth y collena dichon mai yn y capel hwn a elwir capel bach yr addolai einion a nest yn eu henaint mae y prif sic brif heol i'r collena o'r heol fawr ychydig i fyny o'r capel bach y mae y fywoliaeth eglwysig hon yn mraint y teulu hyd heddyw pant y brad mae y lle hwn bychan o ran rif y preswylwyr tua milldir o bentref poblogaidd tonyrefail ar y brif heol yn nghyfeiriad llantrisant enw mwyaf henafol y lle yw y pistyll du enw wedi ei roddi iddo oherwydd lliw y dwfr sy'n llifo oddiar fawn cyfagos ond y mae y lle yn adnabyddus hefyd wrth yr enw pant y brad oddiar tachwedd sic dim treiglad pan ddaliwyd yn ·x · y fan hono edward ii a elwir edward o gaernarfon o herwydd ei eni yno ebrill priododd ef y dywysoges isabella merch phillip iv brenhin ffrainc ionawr esgynodd orsedd lloegr gorphenaf rhwng ei briodas a'r flwyddyn yr oedd ei frenhines wedi gorhoffi un syr roger mortimer yr oedd yr holl farwniaid ond arglwydd arundel wedi digio yn enfawr wrtho o herwydd ei fod yn dangos llawer o ffaffriaeth yn gyntaf i piers gavaston yr hwn yn y diwedd a laddasant yn ail syr hugh de le spenser mab syr hugh de le spenser iarll wynchester a llyw castell britstown yn awr bristol yr oedd arglwydd gilbert de clare arglwydd morganwg a chaerloyw wedi ei ladd yn mrwydr banawg burn scotland mehefin yr oedd ar ei ol dair chwaer sic â llythyren fawr yr arglwyddes eleanor yr arglwyddes margaret a'r arglwyddes elizabeth yr oedd syr hugh de le spenser yn uchel ystafellydd i'r brenhin rhoddodd edward ii yr arglwyddes eleanor yn wraig i syr hugh de le spenser iddi hi y rhoddasid etifeddiaeth ei brawd yn morganwg a gwent ac fel hyny daeth syr hugh yn arglwydd morganwg a gwent yr oedd isabella y frenhines a syr roger mortimer o hyd yn rhy gyfeillgar a'u gilydd ac yn hyderu cael y brenhin rywfodd o'r ffordd un o'r dichellion oedd chwerwi y barwniaid yn ei erbyn yn torodd gwrthryfel allan yn ei erbyn yr oedd y frenhines ar ymweliad a ffrainc yn nghyd a'i mab ar ol hyny edward iii yr hwn oedd ar y pryd o dan bedair ar ddeg oed ac yn hollol o dan ddylanwad ei fam a syr roger mortimer ymadawasant a paris a medi glaniasant mewn man unig ar draethau prydain rhwng orford a harwich ar etifeddiaeth thomas iarll norfolk un o frodyr edward ii thomas oedd y cyntaf i roesawu isabella ar ol ei glaniad yr oedd iarll kent brawd arall i'r brenhin ei gwr wedi cyd deithio a hi o baris yr oedd gyda hi hefyd ei mab edward iii syr roger mortimer a thua thair mil o filwyr estronol a'u cadbeniaid lledaenodd y newydd ·x · am ei glaniad ac aeth iarll leicester a'i lu i'w chyfarfod ac unasant a'i byddin hefyd aeth esgobion ely lincoln a hereford ati hi apeliodd edward ii at lundain i ddyfod i'w gynorthwyo ond yr oedd y surdoes wedi gwrthweithio ei ddylanwad a ffodd ef a spenser ac arundel i bristol at yr hen spenser yr hwn oedd yn naw deg oed aeth y fyddin ar ffrwst ar eu hol rhoddodd y gwarchodlu yno yr hen spenser i'r frenhines crogwyd a darnwyd ef a rhoddwyd ei gnawd i gwn diangodd y brenhin spenser ac arundel a baldcoc yr arglwydd gangellydd i gaer loyw a chyrhaeddasant fonachlog castell nedd aeth syr hugh de le spenser i ddarpar castell san nghenydd caer philip basset i dderbyn edward ii yna cawn y brenhin yno ond yr oedd y frenhines a'i lluoedd ar ei ol gan ddyfod trwy gaerloyw yr oedd edward ii yn nghaer phili' o hydref i tachwedd ymosododd byddin y frenhines ar y lle trwy dan a rhuthr ond diangodd y brenhin a'i dri cyfaill sic dri chyfaill collasant ei gilydd yn y ffoedigaeth ond cyrhaeddodd edward ii gelli'r llenor dywed hanes ei fod er mwyn diogelwch wedi gwisgo fel cymro gwledig ymddengys y medrai siarad y gymraeg oedd mari o gaernarfon wedi ei dysgu iddo yn nhre iorwerth ar draethau môn yr ochr arall i'r menai o gastell caernarfon yr hwn oedd yn cael ei adeiladu ar y pryd cyrhaeddodd fonachlog margam tachwedd yn y nos fel yr ymddengys wedi iddo ffoi o gaerphili ar yr un diwrnod digon tebyg iddo ffoi o margam i gelli lenor llangynwyd o herwydd bod y mynyddoedd yn fwy diogel iddo na'r mynachdai ar tachwedd sic ar dachwedd yr oedd yn ol yn moncahlog nedd mae yn debyg mai y canlyn sydd gywir gwnaeth y goreu o'i draed o gaerphili a chyrhaeddodd margam bu yn ol a blaen o tachwedd hyd y rhwng y monachlogydd a enwyd gan orphwys bob nos yn gelli'r llenor cawn ef yn rhoddi i fyny sel yr orsedd i law syr william blount yn nhre mynwy tachwedd felly cawn iddo gael ei ddal yn mhant ·x · y brad rhwng tachwedd a'r rhwng tachwedd a'r cafodd y brenhin a syr hugh de le spenser y cangellydd baldcoc a iarll arundel eu gilydd yr oedd y frenhines a'i byddin wedi teithio o gaerphili i henffordd daeth hyny yn hysbys i'r brenhin a anfonodd abbot nedd at hi sic i ofyn am amodau ar ei ran yn y cyfamser yr oedd iarll leicester syr samuel riding sir william de la zouch a chymro o'r enw rhys ap hywel offeiriad yn tramwy yn ddirgelaidd yn morganwg i'w ddal trwy ryw foddion daeth y rhai hyny i wybod fod y brenhin i groesi y mynyddoedd i ystradyfodwg a myned oddiyno i gastell llantrisant dywedir mai un o fonachod pen rhys oedd yr arweinydd o gwm nedd dywedir mae'r sic mai mynach oedd wedi mynegu y drefn i'r ysbiwyr yn agos i bant y brad y mae yr heol yn troi yn sydyn i'r de yn ei rhediad o'r rhondda ymddengys fod y gelynion tudraw i'r tro ac felly o olwg y brenhin a'i osgordd pan yn teithio tuag atynt yn ddisymwyth cafodd edward ii ei hun yn y fagl pan oedd y gelynion a'u mintai o filwyr yn ymdrechu sicrhau y brenhin llwyddodd spenser yr arglwydd gangelydd baldcoc a iarll arundel garlamu fel ymddengys a ffoi ar hyd yr heol nes cyrhaedd gwaun y pant ac yna i'r ddau olaf fyned i lawr i ddyffryn yr elwy ond daliwyd y ddau ar heol wrgan yn agos i dwyn ysguborau o dan lantrisant am syr hugh aeth ef a'r sic ar garlam i lawr ar ei aswy i heol melin trefeirig a chyrhaeddodd waen maesgwyn a elwir gwaun miskin yma gorddiweddwyd sic ef gan syr samuel riding trwy garlamu yn heinif medd yr hanes amcan amlwg syr hugh oedd cyrhaedd ei gastell ar dwyn llantrisant a diogelu ei hun ynddo seiliaf yr hyn a ddywedir am y ddalfa yn mhant y brad ar waun maesgwyn ac heol wrgan ar hyn y dywedir gan rice meyrick yn ei lyfr a elwir a book of glamorgan antiquities a ysgrifenodd yn y flwyddyn a thraddodiad lleol gosodwyd syr hugh de le spenser i farwolaeth yn henffordd a'r brenhin yn nghastell berkeley yn y dull mwyaf alaethus ·x · rhai blynyddoedd ar ol hyny crogwyd syr roger mortimer a syr samuel riding yn llundain ac alltudiodd edward iii ei fam gythreulig i gastell yn swydd efrog lle y bu hi byw wyth ar hugain o flynyddoedd mewn heddwch a mwynhad pan agorwyd ei hewyllys cafwyd ynddi y cais am osod ei chalon i mewn yn arch `coffin' syr roger mortimer adferwyd etifeddiaeth syr hugh de le spenser a'r arglwyddes eleanor i'w mab yr oedd yr un enw a'i dad a'i daid efe oedd pencadben byddin deheudir cymru o dan y black prince yn mrwydr cressy gorphenaf chwech mis ar ol hyny rhoddodd charter i wroniaid llantrisant cwm castella dyna fel yr enwir y cwm yn awr ond ei enw hen oedd cwm cas dyle sef yr heol serth a chynt diarebol am ei thyle a'i gerwinder hyd bencoedcae bu dyddiau pan yr oedd llawer yn ymddibynu ar gadw yr heolydd yn nghymru fel byddai yn anhawdd i'r goresgynwyr lladronaidd i ddyfod o hyd i'r cymry a'u meddiannau yn mhlith y mynyddoedd ty cwrdd y quakers yn yr oedd john bevan yn berchenog ar etifeddiaeth trefeirig aeth yn quaker ac ymfudodd i pennsylvania yn nghwmni william penn fel yr ymddengys tua'r flwyddyn dychwelodd gartref gan lanio yn hull lloegr gadawodd ferch o'r enw barabara yn pennsylvania ac y mae ei disgynyddion yno yn awr yn parhau yn quakers ac yn bobl gyfoethog yr oedd ef yn desgyn o thomas ab evan prichard collena ymddengys mai y john bevan uchod a gododd dy cwrdd y quakers cawn iddo gymeryd ei garcharu yn nghaerdydd am ballu talu degwm i rheithior sic didreiglad llantrisant mae coffadwriaeth am y teulu ar ochr allanol eglwys llantrisant ·x · tylcha hwn sydd enw ar bedair fferm yn agos i donyrefail ei ffurf wreiddiol oedd talchan enw syro phoenisaidd ydyw ac felly y mae ar y ffermydd oddiar yn mhell cyn cred y mae dau air yn yr enw tal arglwydd chan yr haul dominus sol gelli seren nid oes amheuaeth nad ffurf cywir sic heb dreiglad yr enw yw gelli'r sarn twyn traethawg twyn yn agos i ba un y mae nant gelli'r haidd yn lledu megis traeth bychan y rhiw gelwir y tyddyn ar yr enw hwn o herwydd y rhiw y rhaid mynd ar hyd ddo i groesi y mynydd i lan arawn llanharan llanilid tyddyn wedi ei roddi mewn rhyw gyfnod pell yn ol i eglwys llan ilid un o'r cenhadon cristionogol a ddaeth o rhufain sic dim treiglad gyda bran fendigaid i forganwg yn y flwyddyn o c caecwrlas ffurf gywir yr enw hwn yw cae'r corlais corlais yw enw y nant a lifa heibio troed y tyddyn i'r elwy ger tonyrefail hen enw cymraeg am ddafad yw cor ceir ef yn aros yn yr enw cor nant a cor gi ac yn cor lan ystyr yr enw cae'r corlais yw cae llais defaid caerlan hynny yw cae ar le uchel ·x · gelli gron lle wedi ei enwi felly o herwydd ei safle fronnog rhwng yr elwy a'r corlais cileli ei ffurf gywir yw cil yr elwy hyny yw cilfach ar afon elwy elwy hen enw yn arwyddo dwfr yn llifo yn araf trebanawg cartrefle yn nghanol nifer o fanau mynyddig rhiw y garn ar ben y mynydd i'r dwyrain y mae carnedd fawr o gerrig tebygol ei bod wedi ei chodi i fod yn bwynt codiad yr haul boreu mawrth a medi i'r gwylwyr ar fynydd y din aes disgwylient am dano ar ben ael y mynydd ger ystafell arawn arawn oedd yn gyssegredig yn yr hen amseroedd hen aeb hir yw'r nos aros arawn treboeth treboeth gwynion y mae yr enw yn perthyn i chwedl grefyddol y derwyddon am gwyion bach yn ffoi o bontypridd trwy fwlch gwynion yn awr bwlch gwyn o flaen y dduwies cariadwen rhan oedd hyny o redfa grefyddol ddramataidd heol rhiw winder y dull cywir o'r enw yw heol rhiw gwynion dro tebygol yw fod y rhacad ar yr heol yn golygu rhegedfa ar y troi tua treboeth ·x · y waun rydd enw yw hwn ar y waun fawr sy'n llenwi y gwastadedd o dan donyrefail ceir ef yn ysgrifenedig gwaun y rhythedd ond tebygol mai lle rhydd mal cymle oedd gynt ac mai hyny a olygai yr enw cae'r ysgol yma yn ddiau yr oedd ysgol gynt cydmerir lle cyfranu addysg i ffyn ysgol o'r enw cymraeg hwn y tardd yr enw seisnig `sgool yn awr school felly ceir dic shon dafydd yn siarad cymraeg yn ddiarwybod iddo ei hun y tran enw yw hwn ar dyddyn ychydig i'r gorllewin o donyrefail ysytyr yr enw yma yw lled neu estyniad o dir fel am estyniad dydd ceir ef yn y gair trannoeth neu estyniad dydd gwaith yr haul yn y tyddyn hwn y preswyliai yn y chwarter cyntaf o'r ganrif hon un a elwid charles o'r tran charles davies yr oedd yn fasnachwr mawr mewn anifeiliaid a'i enw yn hysbys trwy gymru ei gyrchfa benaf yn lloegr oedd northampton un o'i yriedyddion drovers oedd shon dafydd a adnabyddid yn gyffedinol wrth yr enw shon y breeches coch dywedir na fedrai shon gyfrif ugain ond pan yn gyru cant o ddefaid neu o eidionau cymru o'i flaen os elai un o honynt o'r fintai canfyddai hyny ar unwaith ac yna ymwylltiai a llefai nes dyfod o hyd i'r colledig yr oedd yr ysgrifenydd yn gyfarwydd a shon dafydd yn ei henaint cariodd ar ei ysgwyddau lawer o hetiau a boneti newyddion i ferched a gwragedd y ton o bontypridd efe oedd y carydd llythyrau o'r bont cyn bod llythyrdy gan y llywodraeth ar donyrefail a thelid ceiniog iddo am bob llythyr efe hefyd a ddelai a ·x · phapurau newyddion i'r lle yr oedd yn arferiad gwahodd shon dafydd i giniaw a the ar y sabbath ac yr oedd yn visitor bob sul yn rhyw dy neu gilydd er mai gwan ei gyrhaeddiadau meddyliol oedd shon dafydd yr oedd yn ddyn cywir a gellir dywedyd uwchben ei fedd yma y gorwedd llwch un na wnaeth gam a neb erioed dywedir ei fod pan yn anterth ei nerth ar ol yfed ychydig yn credu ei fod yn gystal pregethwr a william evans ei hun ac iddo lawer tro pan ar daith yn ngwasanaeth charles o'r tran dreio gwneud dynion o'r saeson drwy eu hanerch ar ochrau yr heolydd am dduw tonyrefail dywedir iddo unwaith ddywedyd wrth y parch william evans ei fod yn pregethu mewn tref yn y gogledd ar yr un diwrnod ag yr oedd ef mr evans yn pregethu yn y dref honno testyn shon oedd deffro di ogleddwynt a thyred ddeheuwynt chwyth ar fy ngardd fel y gwasgerir ei pheraroglau can iv shams o gefn tylcha yr oedd y gwr doniol hwn yn trigianu mewn bwthyn ar gefn tylcha yn agos i gae'r ysgol saer maen a thowr oedd wrth ei alwedigaeth yr oedd yn enghraifft nodedig o'r dosparth tra hynod hwnw yn nghymru gynt yn mha rai yr oedd yr awen yn berwi allan o'u heneidiau heb fod addysg foreuol wedi darpar llwybrau celfyddydol i lifiadau ei rhin yr oedd yn beunydd yn nghanol mwynhad meddyliol ni fedrai edrych ar y byd mewn ysbryd difrifol yr oedd hi bron bob amser y haf ar ysbryd shams ond pan y gofidiai o herwydd cur yn ei ben ar ol crews ond medrai ganu am hyny canodd fel y canlyn unwaith yn mhorth yr hen gapel bach mae shams o gefn tylcha a'i fwriad ar ofera fe ddaeth t'a thre o lawer man a'i 'sana am ei syrna ·x · pan ddaeth y ddull suddol o fedyddio gyntaf i sylw yn ardaloedd tonyrefail wedi mae'n debyg adeiladu soar ffwrn amos penygraig bu shams yn astudio y pwnc bedyddiol a chanodd fel y canlyn pe bawn i ddim ond gwybod fod dw'r yn golchi pechod mi awn i ogwy 'n wir i dduw i f'olchi sic folchi rhyw sic rhyw ddiwrnod pan oedd son am bonaparte boni trwÿ'r holl wledydd bu shams yn un o'r glamorgan militia yn nghaerdydd nid oedd ond ychydig o'r cymry gwledig y dyddiau hyny yn deall saesonaeg yr oedd shams yn un o'r cyfryw yr oedd y cadbeniaid yn galw'r word of command yn y saesonaeg a rhedai y gofyniad o un i'r llall o'r milwyr beth ma' e' `n wed `nawr parodd sefyllfa pethau ieithyddol gryn ddryswch ac elai yr adjutant saesnig unieithog i nwydau a rhegai gan eu galw yn jackasses ac enwau nice cyffelyb yr oedd hynafiaid y glamorgan militia wedi sefyll o dan wres a phwys y dydd yn mrwydr cressy a brwydr agincourt yn gyntaf o dan faner y black prince mab edward iii a wnawd yn dywysog cymru ionawr a gelwir trigolion plwyf llantrisant o herwydd ei enw y black army hyd heddyw a'r ail o dan harry of monmouth henri v llidiai hen waed y dewrion wrth yr adjutant yn nghaerdydd rhyw foreu lledodd y newydd yn mhlith y militia fod yr adjutant wedi marw yn ddisymwth lledaenodd llawenydd awr neu ddwy ar ol hyny clywai milwyr llantrisant grio ac wylofain i lawr heol mari rhedai y cotiau cochion i lawr yr heol fel rhai yn cadgyrchu i gyfarfod a boni ei hun cawsant mai shams oedd yr wylofydd ac yn sefyll ar ganol yr heol a'i lawes ar draws ei lygaid beth sy'n bod shams pam wyt ti'n llefain shams ebai dwsin ar unwaith o o o criai shams yn ei ing a oes rhyw ddiawl wedi dy daro di shams gofynai ned o'r plocyn nag oes wel ebe'r lleill pa satan sydd arnat ti ·x · odi chi ddim wedi clywed ebe shams fod yr `adjutant' wedi marw otyn ebe yr holl fintai a gwared da ar ei ol wyt ti ddim yn llefain ar ei ol e' wyt ti y iolyn nag wyf fi oedd yr ateb wylofus wel am beth wyt ti'n llefain ynte gofynai dic glanmuchydd a gwed y gir wrthych chi ebe shams llefain yr wyf rhag ofn nad yw'r `stori ddim yn wir canlynwyd hyn gan floeddiadau o chwerthin nes tarfu'r cawcïod yn nghastell caerdydd angladd o dloty tonyrefail yn agos i'r capel bach ar fron y cae rhwng yr heol o'r cymmer a'r heol i donyrefail saif hen balasdy a elwir y capel mawr ynddo y preswyliai gynt pyweliaid llaharan yn ystod y chwarter cyntaf o'r ganrif bresenol bu y palasdy yn dlodty plwyf llantrisant nid oedd y nifer ynddo yn lluosog hen bobl oedd yno yn byw nid oedd y cymry y pryd hwnw wedi addysgu y wers saesnig gythreulig o ranu hen wr a'i hen wraig oddiwrth eu gilydd o herwydd eu tlodi yn ei henaint a'i lesgedd yr oedd shams morgan cefn tylcha yn nodded y capel mawr elai o amgylch yr ardal wrth ei ffon yr oedd ei wedd yn siriol a'i ddawn mor barod ag erioed siriolai pawb yn mhresenoldeb shams edrychai yn dawel dros y dolydd tua hen dref llantrisant lle y gwyddai y gosodid yntau cyn bo hir i huno yn nghanol gweddillion hen dadau a mamau plwyf ei enedigaeth ar nos gauaf delai ar awelon hyd yn nod i'r tlodty sain peraidd odlau clych nodedig y llan fel y canodd wil hopcyn awdwr anfarwol y gwenith gwyn i glych llangynwyd caru wyf ar hirnos gaua' sain peroriaeth swn y clycha' rhai sydd addas rhwng mynyddau wych chwiorydd chwech yn chwarau felly siams y prydydd a glustfeiniai a gwen ar ei wyneb gan wrando yn ddiddan o dy y dyn tlawd ar gylch llantrisant yn canu ·x · yr oedd rhyw hen wr a hen wraig neu gilydd sic yn syrthio yn barhaus mal rhosynau gwyedig gorphenaf ar y ddaear ac yr oedd cart yn cludo y trancedig tua'r gladdfa ger y llan rhyw dro yr oedd angladd hen wr tra adnabyddus o'r capel mawr a bagad o'r ardalwyr wedi ymgynull ond dim yn ddigon o rif i gario yr elawr yr oedd shams allan a'i ffon yn ei law yn pwyso ar arphed un o'r ffenestri daeth y cart gyferbyn a'r agoriad i dderbyn arch y marw clybuwyd shams yn sisial rhywbeth a chlybu thomas morgan y pryd hwnw yn ddyn ieuanc yr hen brydydd yn dweyd myn'd tua'r ddaearen fel lleidr at y grocbren ni fydd fawr o ganu salms yn angladd `hen shams morgan ' meddwl am yr angladd ei hun yr oedd ni fu shams fyw ond ychydig o amser ar ol hyn claddwyd ef y tuallan ger wal ddeheuol clochdy llantrisant lle gosodwyd llech goffadwriaethol wrth ben man fechan ei fedd job y teiliwr tailor deuai gwr doniol o ardal eglwyswyno a elwid job y teiliwr i weithio i'r ardaloedd hyn yr oedd yn debygol o ran dawn i shams yr oedd ynta yn rhy hoff o gwrw a chwmpeini digri rhyw dro yr oedd ef a bili mab george bassett o'r hafod ar y spree yn nhafarn y gyfeillion aeth bili allan am dro pan ddaeth yn ol dywedodd job fel hyn wrtho yn sobr iawn mae dychryn dirfawr arnaf wrth feddwl am y farn yr ystrad a llanwyno fydd yno i gyd yn garn a bili mab george bassett fydd yno'n mhlith y llu a'r barnwr a wna ofyn `dyn o ba le wyt ti ' ·x · drato dy ben di ebe bili p'am wyt ti yn hela ofan arno i mari shams yr oedd mari yn byw yn un o ddau fwthyn rhwng y red cow a rhiw gwynion dro rhiwinder un prydnawn aeth yr awyrgylch yn dywyll a chlywid yn y pellder ruadau taranau fflachiai y mellt fel cenadon annwn yn mhen ychydig yr oedd yr holl wybrennau fel ar dan a'r ffurfafen megis yn orlawn o gerbydau rhyfel gog a magog gyda thoriad cras pob taran clywid sgrech maro shams troedig fellt y trydan yn rhuo drwy'r awyr yw'r daran brwydr floedd elfenoedd anian llef duw mewn llif o dan yr oedd yn awr wlaw mawr yn disgyn rhedodd gwr o gymydog gan ofni fod rhyw anffawd wedi digwydd i mari pan yn agor drws ei thy torodd taran ofnadwy yn union uwchben ty mari ac ysgrechiodd yn fwy nag erioed o'r blaen canfu y gwr mari ar ei gliniau a'i harffedog ar draws ei phen yr oedd ei hosan a'r gweill ynddi ar y llawr o dafydd morgan ebe hi dyma d'wydd o dafydd anwyl os c'ai fyw i wel'd y boreu mi a af at rhys y ffeiriad i gael crefydd a' yn wir bu gystal a'i haddewid hi a aeth tua'r capel mawr lle yr oedd y ffeiriad yn byw ond hi a aeth a'r marchog y priddyn coch yn ei llaw i ddyfod ag ychydig o laeth ynddo ef ond wrth gwrs y grefydd yn ei chalon ond chwerthinai rhai gan ddywedyd mai yn y marchog y bwriadai hi dd'od a'r grefydd yn ei chol ond credir er hyny i mari farw a thrysor mwy ei werth yn ei llestr pridd ·x · ññ ffoto dafydd morgan oed snapshot gan mr e llwyd jones parker street liverpool ñññ ·x · lluest owain lluest sydd dalfyriad o'r enw cyfansawdd llu eisteddfa neu eisteddfa llu y mae yr enw teulu yn arwyddo dau lu neu lwyth yn cydgyfarfod yn y gwr a'r wraig briod llan dyfodwg y mae y llan hon o dan nawdd duw a sant dyfodwg yr un sant oedd ef a'r un y gelwir ystrad dyfodwg ar ei ol hendre forgan ystyr yr enw hwn yw hen gartref un o'r enw morgan y gilfach a'r gilfach goch rhoddir yr enw cilfach i leoedd ag sydd mal cell neu gorge yn rhedeg allan o gwm mawr i gyfeiriad arall y mae y gilfach goch yn enw o hynafiaeth mawr perthyn i gyfnod y grefydd dderwyddol yr oedd y derwyddon yn gystal a phob un o'r hen genhedloedd yn coleddu y syniad bod yr haul yn cael ei drywanu neu ei frathu gan yr ysbryd drwg a alwai y derwyddon afagddu ar y dydd byraf o'r flwyddyn a bod corph yr haul brathedig yn gwaedu yn ei daith tua mor y de orllewin nawn y dydd hwnw ei fod yn y diwedd yn syrthio yn gelain i'r mor at hyn y cyfeirir yn isaiah xiv pa fodd y syrthiaist o'r nefoedd ffurfafen luciffer mab y waw ddydd pa fodd y'th dorwyd ti i lawr yr hwn a wanheaist y cenhedloedd yn mhlith y syro phoenisiaid yr oedd marwolaeth flynyddol adonis yr haul yn cael ei gofnodi gyda galar cenhedlaethol ar mawrth yn lle rhagfyr y derwyddon y mae yn amlwg fod y mynydd crwn a elwir y ddin aes yr hwn sydd i'r dwyrain o'r gilfach goch yn gysegredig i arawn urddenw ar yr haul a llawer o wylo wedi bod arno wrth weled yr haul yn teithiio tua'r de orllewin ·x · ar bob mawrth ar ol eu gilydd ceir son am y cyffelyb wylo am yr haul o dan yr enw tammuz yn ezeciel viii lle y dywedir ac efe a'm dwg i ddrws porth ty yr arglwydd yr hwn sydd tua'r gogledd ac wele yno wragedd yn eistedd yn wylo am tammuz mae yr haul yn ystlysau y gogledd ar mehefin sic dim treiglad yr hen amseriad felly cawn fod y rhai a welodd y prophwyd yn cofnodi y farwolaeth heulog ar y dydd hwyaf tammuz hyd heddiw yw yr enw hebraeg am fis mehefin ar ael mynydd y din aes yn gwynebu tua'r gilfach goch y mae dau fan nodedig sef ystafell arawn a taran wylo'r marw y mae yr enw coch yn yr enw dan sylw yn union o'r un ystyr a'r coch yn yr enw mor coch crug glas enw fferm ar y gwastadedd ei ystyr yw twyn glas ystyr yr enw twmpath yw twyn bedd yn rhodau y gwnelai yr hen gymry eu beddau fel y gwelir yn yr enw bedd rod cwm pant dyfi llygriad yw yr enw hwn o cwm pant dyfn wy gwy gwraidd yr enw wy a arwydda ddwfr ceir ef yn yr enwau gwynydd goose gwyaden duck felly ystyr yr enw hwn yw dwfr yn rhedeg trwy gwm dwfn dimbath dyma lygriad arall ei ffurf gywir yw din twyn bedd gelwir y lle oddiwrth fedd yn dwyn crwn uchel nid ymhell o'r ty a elwir gadlys glynogwr dyma lygriad arall ei ffurf gywir yw glynogwy hyny yw glyn afon ogwy ·x · ton ithel ddu yr enw hwn yn gywir yw twyn ithel ddu ystyr yr enw ton yw treiglad llanw y mor rhoddwyd yr enw gwaun ton i'r borfa hir am ei fod yn ysgwyd mal tonau o flaen yr awel nid oes sicrwydd pwy oedd yr ithel hwn ond y mae yn lled debyg mai y tywysog ithel mab morgan mawr brenhin morganwg ydoedd mab ithel oedd gwrgan a roddodd hir waun wrgan i'r werin bobl efe oedd tad iestyn a gollodd ei goron trwy einion ap collwyn a'r normaniaid yn y flwyddyn mae yn debygol fod y tywysog ithel yn byw yn achlysurol yma er mwyn helwriaeth shoni meirionydd pererin gwlad yr oedd hyd ychydig o flynyddoedd yn ol ddyn hynod a adnabyddid wrth yr enw uchod yn byw yn nghylchoedd tyddynod llanharan a dyffryn yr elwy yr oedd yn byw yn lanwedd ond cysgai ar dowlodau c credai mewn bodoloaeth ysbrydion canwyllau cyrph y tylwyth teg c yr oedd yn rhigymwr heb ei ail yn yr ardalodd hyny ac ofnai y benywod ei ddawn prydyddol yr oedd wedi digio wrth wraig argoed edwin o herwydd cael yno gaws di rinwedd gwnaeth gan i'r wraig druan ac enwodd y gan yr ironclad cheese ebe fe y feudan fynyddig gythreulig a thraws rhaid ei bod yn ddiawledig gwneud cerrig o'r caws yr oedd yn gweithio yn aml i mr smith bryn y cae yr oedd yno housekeeper a elwid ann fain canodd sion iddi hi fel y canlyn mae mr smith o frynycae yn maeddu'r dyn mewn moddion da mr r h jenkins llanharan pastau sic gig a phwdin reis ac ynddo amryw fath o spice ·x · ond eto'i gyd mae yno ddiawl yr hen ann fain sy'n nafu'r cawl ma' 'i barf yn hir a'i gwedd yn llwyd gwna' dreflan snuff ar draws y bwyd lladdwyd cath rhyw gymydog gan mari high corner house a sara y forwyn yn llanharan canodd shon am yr amgylchiad fel y canlyn ro'dd castell yr hen wr yn bod ar lan y dwr a'r llygod ffrenig melldigedig ystyfnig yn gwneyd stwr yn tori ac yn twrio gan larpio'r cig a'r lla'th i gadw'i goffra pwy all amgyffred ei gollad am ei gath i'r dafarn rhywfodd 'r a'th a'i hanian hynod a'i natur fawrglod am lygod nid am la'th 'roedd yno wraig a morwyn farus rhai diymwad hyll ar dwyn peth cyntaf a wnaeth sal yn union 'r ol ei dal oedd yn ei choesau ei chydio a'i wado 'nghyd a'r wal bu shon farw ar dowlod y lan uwchben pontypridd tua'r flwyddyn dywedir ei fod yn etifedd fferm yn swydd feirionydd yr oedd i'w hetifeddu ar ol ei dad blynyddoedd ar ol marwolaeth yr hen wr clywodd shon yn morganwg am hyny ac aeth tua gwlad ei enedigaeth cyrhaeddodd ei hen gartref yn y nos edrychodd trwy un o'r ffenestri a gwelodd ei frawd ei wraig a'u plant yn ddedwydd i mewn curodd y drws agorodd ei fam ffenestr y lofft a gofynodd pwy sydd yna shon eich mab chi nage ebe hi ma' shon wedi marw er's blynyddoedd ffwrdd a chi nid atebodd shon ac aeth ymaith yn ol i forganwg ac yno y treuliodd y gweddill o'i ddyddiau yn y byd hwn beddargraff hynod yr oedd dewi haran dewi haran david evans aelod o `glic y bont' carfan o feirdd o ardal pont tÿ pridd dic hendrewen a shon yn cyd eistedd yn ty ar heol yr oedd dafydd o'r rhiw newydd farw a dywedodd dewi gadewch i ni wneyd `beddargraff' i dafydd dywedodd dewi dyma lle gorwedd dafydd o'r rhiw mawr fu ei drachwant am fwyniant i fyw ond angeu ddaeth heibio a thorodd ei ben dyna ebe dewi gorphen ef shon ac ar darawiad dywedodd shon gwnaed yr un peth etto i dic hendrewen neidiodd dic fel un wedi ei saethu a bwa ceredigion twm hywel llywelin ystrad dyfodwg yr oedd thomas hywel llywelin yn fab i hywel llywelin pregethwr gyda'r bedyddwyr yn libanus lle yn awr a elwir treherbert ond a elwid blaen y cwm tua'r flwyddyn yr oedd capel arall yn nghwm y rhondda fawr gan y bedyddwyr ei enw oedd yr ynis fach yn agos i'r heol fach y mae yno yn awr le addoli a elwir nebo gwelir wrth yr enw libanus a nebo fod y bedyddwyr yn hoff o ddychmygu eu bod yn addoli ar ben mynyddoedd ond credent ei fod yn ofynol myned trwy yr iorddonen yn gyntaf dywedir fod hywel llywelin yn nodedig am felusder ei ddawn wrth bregethu dywedodd morgan ei fab wrthyf pan oedd yn oed gwelais fy nhad yn dychwelyd gartref lawer gwaith ar foreu llun tros y mynyddoedd ar ol bod yn pregethu y sul yn droednoeth a'i sgydiau a'i 'sana' ar draws ei ysgwyddau yr oedd pobl ystradyfodwg am eu bod yn aml yn dringo y llethrau mynyddig yn hoff iawn o fyned oddeutu yn droednoeth y mae yn debygol fod hywel llywelin yn disgyn o'r parch thomas llywelin glyn eithinog rheg oes y rugos pan y bu ef farw ymranodd cynulleidfa cwm y glo yr oedd ef yn fardd enwog yn ei ddydd a chafodd ei ordeinio gan yr archesgob grindal yn amser y frenhines ·x · elisabeth cyfieithiodd y testament newydd i'r gymraeg o un saesonaeg tindal a dywedir iddo roddi benthyg ei gyfrol ysgrifenedig i'r esgob parry llanelwy i'w gynorthwyo i ddwyn allan ei argraffiad diwygedig o'r beibl yn pregethai yn nghapel cwm y glo abercanaid a dywedir yr arferai gario ei femrwm o dan ei fraich o glyn eithinog i'w ddarllen i'r bobl yn nghapel cwm y glo ymsefydlodd cangen yn hengoed gan ddal y gred drochyddol cangen arall a fabwysiadodd athrawiaeth y crynwyr quakers a chododd le addoli yn y lle a elwir yn awr quakers' yard tebygol mai cangen o hengoed oedd bedyddwyr cyntaf ystrad dyfodwg yr oedd rhyw ddawn barddoni yn gryf yn thomas hywel llywelin fe ddichon ei fod wedi ei etifeddu o glyn eithinog arbenigrwydd ei arabedd oedd cellweiriaeth ddigri yr oedd yn rhy hoff o gymdeithion digri cof genyf ei weled ynghanol ei gyfeillion llawen yn hen dafarn a'i do yn wellt i gyd ger ffwrn amos a nant caer y gelyn yn hogyn tua deg oed eisteddwn ar y pentan mawr i wrando ar ei ddigrifwch ef a'i gwmniaeth pan fedyddiwyd morgan ei frawd yn afon rhondda yn nghyd a deuddeg ereill gan y parch dafydd naunton ynisfach canodd twm fel y canlyn fe ddywedodd tri ar ddeg o ddynion teg yr olwg rhai yn fawr a rhai yn fach yn ystrad lan tyfodwg fe fedyddiwyd `mog' fy mrawd `doedd iddo ef ond crefydd dlawd ond fe drodd liw'r dwr ar oleu dydd o'r ynis fach i bontypridd adroddodd y diweddar mrs evans bute hotel treherbert y stori ganlynol un o ferched cwmserbren ydoedd hi saer coed oedd thomas llywelin yn y cyfnod dan sylw cawl oedd y boreufwyd yn mhob man ond yr oedd te yn dechreu dyfod i'r neuaddau neu `parlours' yr oedd thomas wedi blino ar gawl er ei fod yn llawer gwell er ei les na'r te ·x · ññ llun syr robert fitzhamon a'r arglwyddes fitzhamon allan o lyfr henafol monachlog tewkesbury ñññ ñññ llun bu gadarn yn gosod ei rin yn yr haul ñññ ·x · pan ddaeth un boreu at ei waith dywedodd miss davies wrtho twm ch'ai di ddim y boreu yma nes y b'o ti wedi gwneyd englyn o'r goreu ebe twm gan wenu dyma fe pe byddai flwyddyn gyfan heb fwrw glaw yn unman fe fyddai dwr gan ferch y diawl yn nghrochan cawl cwmserbren y gwyr rhyddion hil gwroniaid y black army llantrisant mae tonyrefail yn mhlwyf llantrisant arferir yr enw black army yn lled gyffredinol yn gellweirus am bobl yn byw yn nhref llantrisant o herwydd yr enw black du daeth yr enw black army i gael ei gyfrif yn enw sarhaol ar y trigolion ond credwn i'r enw gael ei roddi ar y dechreu yn awgrym o anrhydedd arnynt yn nechreu y flwyddyn yr oedd tref llantrisant yn gyrchfan pob cymro a deimlai ar ei galon i ymrestru o dan faner y ddraig goch i fyned tua ffrainc yr oedd ffrae enfawr wedi tori allan rhwng edward iii a philip de valois brenhin ffrainc ymrestrodd deuddeg mil o gymry yn llantrisant canys i'r lle hwnw yr oedd yr ymgynulliad syr hugh de le spenser y trydydd oedd prif arglwydd morganwg ar y pryd yr oedd pobl morganwg a gwent yn enwog iawn fel saethyddion a'r bwa a dywed mr geo t clark fod eu henwogrwydd y fath fel cedyrn rhyfel nes yr edrychai yr holl o brydain ar arglwydd morganwg y mwyaf nerthol o holl arglwyddi prydain yr oedd y black prince mab hynaf ac etifedd edward iii wedi ei eneinio yn dywysog cymru yn ngorsedd gylchol y beirdd round table ger castell windsor ionawr ac wedi gosod er ei dalcen yr hen nod cyfrin nodyn yma dodir sumbol tebyg i'r llythyren w nod y brenhin arthur a phrydain sef yr haul a'r holl ynysoedd yr oedd eich dien hyny yw eich nerth yn argraffedig o dan y nod fel ei enw ·x · cyswyn mae yn ddigon tebyg o herwydd mawredd yr ymgynulliad i'r black prince ei hun ymweled a llantrisant os do nid yw yn rhy annhebyg iddo ymweled a phant y brad lle yr oedd ei dad wedi ei fradychu i ddywlaw ei elynion pan yn oed ugain mlynedd cyn hyny a bod syr hugh de le spenser ac yntau wedi marchogaeth i lawr ar hyd rhyw y felin yn awr yr heol ddu heibio melin cas dyle ar hyd y ffordd yr oed ei dad yntau wedi carlamu i geisio dianc oddiar syr samuel riding a'r llu o wyr meirch oedd yn ei erlid rhyw olygfa gynhyrfiol oedd canfod y deuddeg mil cymry yn cychwyn o lantrisant yn ngwanwyn diau fod yr udgyrn yn rhuo a'r awyr yn cael ei rhwygo gan floeddiadau llawer hefyd yn colli dagrau o herwydd meibion dewr yn ymadael a'u gwlad am byth dywedodd hen dwmi matho y crydd un o hen drigolion llantrisant wrthyf lawer o flynyddoedd yn ol iddo ef glywed gan hen bobl mai naw oedd rhif gwyr rhyddion llantrisant ar y dechreu a'u bod wedi cael eu breintio am eu gwroldeb yn cadw pont yn ffrainc mawr mor ddyddorol yn ngwyneb y traddodiad uchod yw cael yn hanes brwydr cressy gorphenaf fod pont ar afon somme a lifai rhwng byddin y black prince a byddin y brenhin philip de valois enw y bont yw blanche tache neu y man gwyn yr oedd brenhin ffrainc wedi gosod o'r tu arall i'r bont ddeuddeg mil o filwyr i rwystro byddin y black prince yr hon oedd yn encilio o flaen byddin ffrainc tua'r blanche tache yr oedd y ffordd mor gul tua'r bont fel nad allai ond deuddeg yn rheng agoshau ochr yn ochr tuag ati o'r deuddeg mil mae yn amlwg mai deuddeg o fechgyn tref llantrisant oedd yn y gadres flaenaf o'r fyddin brydeinig yn gwynebu y ffrancod nid oedd saethau morganwg byth yn melltenu yn ofer cymry yn ddiau oedd y llu ag oedd yn canlyn y deuddeg a'r canlyniad o'u hymosodiad ofnadwy oedd i'r ffrancod ffoi a gadael y bont yna bu byddin prydain yn croesi afon somme drwy ·x · gydol y nos rhif byddin prydain oedd tri deg a dau o filoedd o'r rhai hyn yr oedd o'r cymry o wyr meirch o saethyddion a yn cario gwaewffyn byr yr oedd hefyd o wyddelod a'r lleill yn loegrwyr a normaniaid croesodd byddin prydain yn ddiogel a phan oedd ei chadres olaf yn yr afon daeth byddin ffrainc oedd yn ei ymlid ar eu gwarthaf tebygol yw fod y fyddin gymreig ag oedd y cyntaf i groesi yn awr yn saethu yn ol i groes i'r afon gyda'r amcan i ddal yn ol y ffrancod tra y byddai y gweddill o'r prydeinwyr yn croesi yr oedd rhif y fyddin o dan frenhin ffrainc yn gant o filoedd ffurfiodd byddin prydain ar ucheldir a'i gwyneb tua'e de a'r dwyrain ac arosodd yno i fyddin ffrainc yr oedd y cymry yn ffurfio canolbarth blaenllaw byddin prydain o'i blaen yr oedd y black prince a syr hugh de le spenser a baner y ddraig goch yn ddyrchafedig ger eu bron yn ystod yr ymladdfa ofnadwy a gymerodd le yn union syrthiodd y black prince oddiar ei farch ac o herwydd pwys ei wisg o haiarn plethedig methai godi taflodd y banerwr cymreig faner y ddraig goch drosto gan ei guddio ond y cymry a ymladdasant a'u traed ar fringes y faner a gyrasant y gelynion yn ol a safiwyd tywysog cymru yr enw a rydd yr hanesyddion ffrengig i'r faner yw y faner danllyd valain represents the welsh as armed with short lances wherewith they slaughtered a great many of the horses of the french men at arms and it seems certain that by their welsh activity and daring they contributed not little to the success of the day trodd y fuddugoliaeth o dy sic tu prydain dyddiad siarter cyntaf llantrisant braint rodd syr hugh de le spenser pen cadben y cymry o dan edward iii a'i fab y black prince yn mrwydr cressy yn yw mai felly cawn i'r siarter gael ei rhoddi cyn gynted ag y dychwelodd y llu cymreig yn ol i lantrisant o ffrainc gwobr i gedyrn llantrisant ydoedd yn ddiddadl ·x · llywelin o'r cwrt twynypandy rhondda wrth yr enw uchod yr adnabyddid llywelin jones yr oedd yn ddyn hynod o herwydd ei ymadroddion gwreiddiol mynai feddwl yn ei ffordd ei hun a throsto ei hun yr oedd ef a dr evan davies dinas yn hoff iawn o'u gilydd a'r ddau yn undodwyr yr oedd pynciau dyrus mewn anian yn gystal a duwinyddiaeth yn denu eu sylw yr oedd ardal y cwrt yn llawn o hen draddodiadau am fendith y mamau h y y tylwyth teg canwyllau cyrph ac ysbrydion drwg ac yr oedd y pethau hyny wedi denu sylw llywelin clywais iddo ef a'r meddyg fod un noson oleu lleuad yn y goedwig yn nghwm y nyddrig yn agos i'r nantwyn ac wedi gwneyd cylch santaidd iddynt wneyd rhywbeth a gynhyrfodd annwn ac i dewynau yr ysbrydion drwg ddyfod i ymyl allanol y cylch gellir barnu am allu meddyliol llywelin oddiwrth y linellau canlynol a gyfansoddodd wrth fyfyrio ar y drindod er cof am adeil cyfamodau cyn dechreu nos na dydd gan y drindod mewn un hanfod mawr syndod i mi sydd ychydig i'r dwyrain yn groes i'r rhondda o dy llywelin yr oedd twyn crwn ar wastadedd yr ynys yn agos i'r afon mae yn debygol mai y twyn hwn oedd y cwrt ar ol pa un y cafodd ty llywelin ei enw yn ynys monwy isle of man ar dwyn yr un fath yn union a hwn y cynhelir ar bob gorphenaf lys neu gwrt cenedlaethol yr ynys hyd heddyw twym derwyddol yw y ddau ac y mae llawer o honynt yn morganwg a gwent mae yn amlwg mai hwn yn yr hen amseroedd oedd cwrt arglwyddiaeth glyn rhondda dydd y farn blinid llywelin yn ei dyddiau diweddaf gan y mogiant bronchitis a chredai yn aml ei fod bron marw yr oedd ef a'r dr evan davies wedi cyduno i orwedd eu hun hir ·x · ochr yn ochr ar yr ochr ddeheuol yn mynwent capel soar penygraig ar foreu haf tua phump o'r gloch yr oedd curo mawr ar ddrws ysgubor y coed a elwir yn awr preswylfa penygraig lle yr oedd y meddyg yn byw cododd y meddyg ac wedi iddo ddod i'r ffenestr gwelai mai llywelin oedd yno yn chwythu a phesychu dewch i lawr doctor ebe ef yn gwynfanus er mwyn pob daioni brysiodd y doctor at y claf a gofynodd yn dyner beth yw y mater wel ebe llywelin yr w' i wedi bod yn meddwl drwy gydol y nos am yr adgyfodiad a dydd y farn yr wyf yn cael lle i ddeall y bydd daeargryn mawr boreu'r farn ac y mae yn sicr y cwymp gwal ein ochr ni i'r capel gan fel y bydd y ddaear yn crynu ac y mae arna' i ofn y syrth hi arno ni pan y byddwn ni yn codi boreu'r farn a'n lladd ni peth ofnadwy fydd marw wedyn onide fe w' i'n mofyn i chi ddod i fesur y tir i gael gweled pa un a yw y man lle y cleddir ni yn ddigon pell o gyrhaedd y mur pan gwymp e' o herwydd daeargryn aeth ef a'r meddyg tua'r gladdfa a llinyn mesur ac yno y bu'r ddau yn mesur y tir a hyd yr ystlyswal mae y ddau yno o ran eu cyrph er's llawer o flynyddoedd heddwch i'w llwch ac adgyfodiad urddasol iddynt bu unwaith yn meddwl cael ei gladdu mewn lle arall a dywedir ei fod wedi datgan hyn rywdro fel hyn w' i'n fond o'r methodistiaid tua'r storehouse yna ac w' i'n cael fy nhueddu i fynu fy nghladdu ger eu hebenezer yn y lle hwnw ond y mae tramroad yn rhedeg heibio i'r fynwent a byddai bedd yno yn lled anhawdd cysgu ynddo o herwydd mwstwr y trams dr evan davies a bili jac y gwehydd tua'r flwyddyn yr oedd yr ardaloedd yn llawn brwdfrydedd gyda dirwest yr oedd bili wedyn yn ei henaint ysgolfeistr yn y ddinas sic yn hoffi'r peint cwrw a chwmni llawen ond yn y brwdfrydedd ymunodd bili william evans y factory ·x · a'r gymdeithas ddirwestol yn y lle yr oedd troedigaeth bili yn werthfawr yn ngolwg y brodyr a dydd y gymanfa rhoddwyd y faner fawr sidan iddo i'w chario o flaen gorymdaith y teetotaliaid yr oedd y dorf yn fawr ac yn canu yn llafar wrth gerdded yn araf drwy yr ardal yr oedd bili fel y lleill yn cario medal yn crogi ar riban glas o amgylch ei wddf nid oedd un yn y dorf yn ymddangos yn fwy ffyddlon na'r banerydd ond siom yw dywedyd tua'r prydnawn pan oedd y meddyg yn agos i tylecelyn gwelai rywun yn dyfod i fyny'r heol lle unig y pryd hwnw a'r heol yn rhy gul iddo yr oedd y fedal yn ysgwyd o un ochr i'r llall fel pendelum syndod bili oedd y gwr yr oedd y lludded wrth gario'r faner wedi ei wneud yn sychedig ac yr oedd wedi yfed a meddwi bili bili ebe'r meddyg beth yw hyn y chi yn deetotal ac yn y cyflwr hyn safodd bili a chan edrych yn hurt iawn llefodd allan doctor yr wyf fi yn gystal teetotal a phob yn ohonyn' nhw o ran `theory ' ond yr wyf fi i chi'n gwel'd yn colli yn y `practical' part y mae'r atebiad dirodres yn arddangosiad o gymeriad syml yr hen wehydd yn gystal a'r elfen o ddigrifwch pant y ceiliogod ymladdgar yr oedd cock pit yn nghrofft y pandy inn gynt ac yr oedd llawer o games yno a matches yn aml un o brif wisgwyr spardynau ystrad dyfodwg oedd morgan rhys ty to gwellt oedd ei drigfan ty ar y twyn yn agos i'r pandy yr oedd y ty nesaf iddo yn fwy ac yno y preswyliai evan thomas un o wyr caerygelyn yr oedd y ddau henafgwyr yn ddyddiol a nosol gyda'u gilydd weithiau yn eistedd ar wal isel o flaen eu tai brydau eraill yn mhob i gornel a'u seiat oedd siarad am yr hen gampau gynt a'u hystranciau nid oedd un wedi darllen ond y nesaf i ddim ac yr oedd cwrs y byd tuallan i'r cwm yn ddyeithr i'r ddau ond bu morgan rhys farw a chynhyrfwyd ysbryd evan thomas gan ·x · hiraeth ar ei ol un ystafell oedd i dy morgan ac yr oedd ei wely ynddi a lleni cwarelog gwyn a glas o'i amgylch y noson ar ol marwolaeth morgan eisteddai evan yn smocio ac yn synfyfyriol wrth y tan trodd ei wyneb tua chyfeiriad y gwely a dywedai morgan wyt ti ddim yn `challenge' neb heno yna pesychai a phoerai yn fan a brysiog a blaen ei dafod i'r tan trodd eilwaith a dywedai morgan wyt ti'n cofio y `fatch' rhyngom ni gwyr yr ystrad a gwyr aberdar wyt ti'n cofio i ti grio arnom ni `fechgyn pob un i feindio ei binch heddy' ' o morgan bach yr wyt ti yn distaw heno poerai yn bybur yn awr ar ol ychydig dywedai drachefn wel dyma y gwisgar spardynau goreu yn mhlwyf yr ystrad wedi ein gadael ni ie'n wir duw mawr beth a na i heb mocyn rhys adroddwyd y stori wrthyf gan y bili uchod yr oedd yn ddisylw o hono yn hogyn yn eistedd yn y cornel gyferbyn yn sylwi a gwrando diwygiad crefyddol digwyddiad digri yn y flwyddyn torodd allan mewn rhanau o gymru ddiwygiad o dan weiniogaeth y parch dafydd morgan yspytty yr oedd y diwygiad yn frwd anghyffredin mewn capel yn swydd aberteifi yr oedd molianu gorfoleddu a neidio yno yn aml hyd haner nos elai llawer i weled yr olygfa hynod nid yn mhell o'r capel yr oedd gwraig wrol ac iach yn siarad yn gellweirus am stranciau pobl y diwygiad ond un hwyr aeth i'r capel i weled a chlywed yr oedd plas cadben yn y fyddin yn yr ardal yr oedd y cadben newydd ddyfod o india ac wedi dyfod a gwas du gydaeg ef aeth hwn gyda'r gweision a'r morwynion eraill y cadben tua'r capel unnos sul i weled yr olygfa yr oedd y lle yn orlawn cyn hir ar ol dechreu'r bregeth torodd allan yn orfoledd ebai un wraig o y mae e oll yn hawddgar ebai merch arall mae e'n rhagori ar ddeng mil mae e'n wyn a gwridog ebai un arall torodd un arall i ganu ·x · pwy welaf o edom yn odo mil harddwch na thoriad y wawr ebai y wraig gellweirius dyma ffoliaid dyma nonsense torodd gwraig dew allan i ganu a welsoch chi ef a welsoch chi ef edrychai y bechadures watwaraidd yn awr i bob cyfeiriad gan feddwl yn siwr bod y gorfoleddwyr yn canu a chlodfori rhywun oedd yn bresenol yn y cyfarfod ar darawiad syrthiodd ei llygad ar y gwas du a chyda'r ysgrechain mwyaf ofnadwy bloeddiai o jawch finai a'i gwelaf yn awr gwnaeth ystwr enbyd a chafodd ei dychryn y fath effaith arni nes y bu raid ei dwyn gartref mewn cart er nad yw yr hanesyn yn perthyn i destyn y llyfr y mae yn neydd ac yn rhy dda i'w anghofio golwg ar y cannar mawr o ben cefnhirgoed cyfansoddwyd y llinellau tyner a ganlyn yn haf y flwyddyn gan ieuan myfyr a alwyd ar ol hyny myfyr morganwg archdderwydd pontypridd evan davies yr oedd yn byw ar y pryd yn ngwern tarw pencoed ganwyd ef dydd hen nadolig bu farw chwefror yn heol y felin pontypridd mae ei fedd ar y llaw dde wrth y fynedfa i gladdfa eglwys glyntaf morganwg wrth grosi y mynydd ryw ddydd yn mehefin disymwth y daethum i olwg y ty a'i faesydd awyrawl yn ymyl ffrwd loyw lle gynt yn ddiangen bu fyw fy nhadcu wrth weled y twyni a'r llethrau gwyrddleision fe doddai fy nghalon ai'm llygad yn llyn a gweld clais y fagwyr islaw yr ardd onglog lle chwareu f'anwylfam yn blentyn cyn hyn gwel'd yno'r llawr llathraidd lle llamai'n ysgafndroed yn oed diniweidrwydd heb ofal i'w bron a'i dull yn arwisgo prydferthwch angylaidd gan swyno'r edrychydd a'i phryd ieuanc llon ·x · ññ ffoto myfyr morgannwg yr archdderwydd yn oed yn ñññ ·x · ond rhedeg wnaeth amser gan newid yr oesau er's hirion flynyddoedd i'r llwch rhoddwyd hi o flwyddyn i flwyddyn gan ddirwyn fy nyddiau yr un modd a hitha' gwna amser a mi ar ol hyn daw boreu bydd haul yn tywynu a natur yn gwenu yn hardd fel mae'n awr a'r adar yn canu ryw ddydd pan b'o fina' er's hirion flynyddoedd i'r llwch dystaw'r llawr wrth feddwl mor sicred y gwawria'r fath foreu fy nghalon ddwys dodda fy meddwl a'm syn `does ond perarogli fy oes a phob rhinwedd fel byddo fy nghoffa'n fendigaid pryd hyn wrth afon angeu odlau olaf ieuan glan ewyn john cooke ewynwy penybont ar ogwy y byd y byd y byd rhyfeddod wyt i mi fel cronfa fawr o lid a rhwysdrau aml ri pob dydd rhyw hanes ddaw a newydd dybryd i'm trallodion ar bob llaw a blin bicellau llym dirgrynu mae fy nghalon brudd wrth edrych ar dy wgus rudd y byd y byd y byd nid oes dim hedd i mi na gobaith cael rhyw bryd fwyn nofio ar dy li ond suddo dan y don o'r golwg wnaf cyn hir pan baid curiadau'm bron yn llwyr mewn tael dir a swn ystoemydd garw'th fryd ni chlywaf yn fy ngwely clyd hen afon ewyn fwyn sy'n llifo heibio'm ty gan ganu cathlau swyn fel odlau gwyryf gu ·x · heb wybod fawr fy modd tra'n sefyll ar ei glan i gystudd blwng yn nod yn llwyd a gwan fy rhan nas gallaf fel y dyddiau gynt fwynhau dy gathlau ar dy hynt myn'd mae yr afon fach mor hwyl lon ag erioed fel oe b'ai pawb yn iach heb loes na llesgedd oed pe marw wnai'r hol blwyf ar lanau didaw hon hi ganai'n gref heb glwyf ei pher ganiadau llon ac ar ei thaith yn gyson a heb edrych ar na chur na phla hen afon ewyn fwyn ai hyn yw'th arfer di sef gwrthod cydymddwyn a'r bardd fu'n canu'th fri o dyro leddfol gan am unwaith ar dy hynt tros wely'r marian man na lifa'n wyllt fel cynt a dyro un wylofus gri ar ran fy ingol gyflwr i ond hyn yw'r ateb gaf nis gwn am ganiad lleddf myn'd myn'd o hyd a wnaf yn ol gweithrediad deddf a myned wnaf o hyd trwy ddyffryn hardd a dol gan olchi troed y bryn heb edrych yn fy ol ar unig iaith fy odlau i yw `mor y mor y mor i mi ' mewn afon minau wyf yn myn'd trwy ddyffryn du cystuddiau poen a chlwyf a'm gyrant gyda'r lli cyrhaeddaf yn y man y mor tragwyddol draw o dal fy mhen i'r lan fy nuw rho i'm dy law i''m nofio i dy dawel hedd o gyrhaedd poen tudraw i'r bedd ·x · can i blwyf llanwynno morganwg daethum yn hollol ddamweiniol ar draws y gan brydferth a ganlyn mewn llawysgrifen wedi ei ddyddio mawrth ac enw llywelin o'r cwrt llywelin jones wedi ei ysgrifenu o dani perchenog yr ysgrif oedd y diweddar evan llywelin yr hwn a fu gynt yn cadw fferm y mardy cwm rhondda fach lle yr oedd yn byw yn y flwyddyn cododd dy hardd yn hendre gwilym penygraig lle y bu ef a'i wraig a'u hunig fab fyw ac yn y ty hwnw y treuliodd y tad a'r fam hwyrddydd einioes yr oedd y tad yn ddall yn mlynyddoedd olaf ei fywyd yr oedd yn cael ei gyfrif yn ddyn o gyrhaeddiadau meddyliol gwych ac yn hyddysg yn y gymraeg a'r saesonaeg nos calan plwyf llanwynno gar fy nghalon dyma le mae gwyr bon'ddigion dyma le mae gwaith ac arian bara a chaws a chig a chusan dyma le mae merched mwynion yn poblogi gerddi gwyrddion dyma le mae'r rhos a'r lili pan b'o awel oer yn rhewi dyma le mae iaith y cymro a phrydyddion i'w chofleidio dyma le mae gwin a gwirod lle mae daear dda a diod dyma le mae pawb llawenydd serch a golud gyda'u gilydd dyma le mae perllan gwyno ddydd nadolig wedi deilio dyma le mae'r gog a'r eos am gael bod a byw ac aros sain ei tanau sy'n y twyni o'r doldiroedd i'r dail deri dyma le mae hen arferiad dalen werdd a cherdd a chariad dyma le sy'n parchu pob un lle mae dwylo llawn a'r delyn ·x · dyma'r lle a'r fan 'rwyf fina' am gael bod y rhan fynycha' dyma'r lle mae pob difyrwch y dawn goreu a dyngarwch gelwid y bardd yn yr amser y cyfansoddodd y gan llywelin bili shon saer ocoed ydoedd wrth ei alwedigaeth anianyddiaeth rheidrwydd allan o'r un llawysgrif gwych ddeddfau anian sydd heb goll a'n gweithrediadau oll yn oll yn ddianwadal yn ei rhyw `nol trefn ddoeth yr uchel dduw gwir yw nis gellir gweled gwall yn unrhyw ddeddf yn fwy na'r llall ac mae cadwyn yn eu cloi mewn modd nas gellir eu gwrthdroi yn ol darpariaeth uniawn duw y gwnaethpwyd pob creadur byw dim coll na saeth yn nim o'i waith fel gwna creadur llesg a llaith ac yn y modd amcanodd e' fe ddaeth y cwbwl yn eu lle `nol ei fwriadau hardd ei hun na ddaeth damweiniau naddo un e thomas caerygelyn penygraig nid duw ei hun yw'r achos ddim o'r holl ddaioni mawr a'i rym er hyny gwir deilynga clod y bydd y mae ac oedd erio'd y mae rhyw ddyben da gan dduw yn nghenedigaeth pob dyn byw cyn colla un iot mewn le na phryd fe lwyr ddifoda hyn o fyd pwy glywodd son ar dir na mor am siomi yr holl wybodol ior gofynwn i'r damweinwyr mad pa ddrwg orchfygodd dduw a'i rad mae `wyllys duw i wella dyn mae'n well na neb a'i allu'n un mae iechydwriaeth felly'n dod yn rhad y bydd mae'n rhai ei bod l jones ·x · pa beth sydd mor rhesymol a chredu'n gydwybodol fod achos arddun yn mhob man a chrewr annechreuol ni all fod un amheuaeth os cywir yw gwrthreidiaeth ein bod yn amgen cryf a gwan na deiliaid hanfodolaeth fe fyddai'n lled ryfeddol pe gwelid bodau bydol cyfoed cyf fesur yn mhob rhan pob un yn annibynol os na wnaeth awdwr hanfod achosi erioed anghyfod na'r drwg y sy' na'r un a fydd pa achos sydd i bechod yr ydym yn ddyledus i'r bod anfeidrol fedrus ac bob amser yn mhob modd ac am bob rhodd ddaionus mae swydda'r cyfansoddiad wrth angenrheidiol rediad a phob amgyclhiad yn gytun yn eiliaw'r un aneliad tra bychan yw'n gwybodaeth i chwilio i'w oruchwyliaeth da eitha' `i gyd a doeth digoll a glan ei holl rhagluniaeth llywelin o'r cwrt achos ac effaith `does dim heb achos yn y byd mae pawb yn addeu hyn o hyd a'r hyn a wna pob creadur byw sydd dda neu ddrwg yn ol ei rhyw bu amser pan nad oedd undyn na dim on dofydd mawr ei hun ni allsai pechod fod pryd hyn pa fodd y daeth sydd imi'n syn ·x · da i gyd yw duw a pherffaith oll ni ddaeth oddi yno unrhyw goll rhaid mai rheidedd pethau yw ac anlluddiadwy yw i'r doethaf dduw ond er fod drwg yn rhwym o fod cyngynllun goreu duw eriod gwna ef o'i ras annhraethol yw y drwg er da i ddynolryw jenkin evans tonyrefail ysgrifenydd gwaith y dinas y mae y darnau uchod yn engreifftiau pa fodd yn nghanol y ganrif hon yn yr ardaloedd gwledig hyn ac yn mhlith y mynyddoedd yr ymbalfai meddylwyr difrifol a'r ystyriaethau dyfnaf mewn athroniaeth credwn mai hen ysbrydion y mabynogion coed y mabynogion coed y meibion oedd yn sibrwd wrth eu meddyliau mae y genus loci yn ninas y rhondda o hyd hen ddigrifwch yr ioob boob yn yr un ysgrifen yn yr hen lyfr caf y pethau digri a ganlyn y mae eu cyfansoddwyr wedi huno er's llawer blwyddyn yr ioob boob cant o deirw corn dwp pob dau yn ymladd dwpdwp a mina'n sefyll rhwng y rai'n mi allswn lefain wbwb twm hywel llywelin mi welais grythor droedglwb a chanddo esgyd flaenglwb ac hefyd ddyn yn mychudd fain mewn llif yn llefain wbwb shams cefn tylcha mi welais lo mewn gwaelgwb a cheffyl ffol a ffrwyngrwb a dyn disynwyr gyda'r rhai'n mi allswn lefain wbwb evan moses ymddengys fod y prydyddion uchod ar gyfaddech yn nhy'r ffynon ar y pryd ac i wb wb gael ei roddi yn destyn iddynt ·x · hen ddigrifwch als o'r siop a job y tafarn ar hyd y nos mae'r tafarnwr hwn yn trigo ar hyd y nos fry yn ngwesty eglwys wyno ar hyd y nos pan f'o yno lu o ddynion am ei gwrw ffyliaid gwirion y mae gofid ar ei galon ar hyd y nos ni a als ddim dros y cefnfor ar hyd y nos dig i redeg drwy gaerodor ar hyd y nos daw o'r bont a'i chol yn daclus a diwalla pawb o'r ynis drwy drafferthu a bod yn daclus ar hyd y nos job sydd yn breweddu'i hunan ar hyd y nos gwrw iachus yn ei grochan ar hyd y nos os bydd dygwydd i chwi alw mwy na haner pint o hwnw chwi gewch gerydd llym a garw ar hyd y nos diolch byth i'r hollalluog ar hyd y nos am y dynion diwyd enwog ar hyd y nos sydd yn darpar y danteithion gan eu rhanu'n gynil ddigon megis iar yn bwydo'i chywion ar hyd y nos hen ddigrifwch can hanes ffair aberdar gwrandewch fy holl gyfeillion yn fawrion ac yn fan a phawb sy'n dilyn ffeiriau clywch `chydig eiriau ar gan fi aetho heb far sic ystyr i ffair `berdar yn gynar yn y gwanwyn a chodais gyda'r `hedydd bach yn ddigon iach i gychwyn ·x · `nol imi dd'od i'r pentre dros ben y bryniau draw `roedd yno ie'nctyd glandeg rhai llondeg law yn llaw a merched mair yn ddwy a thair ar hyd y ffair bron fferu fi actais ina'n ail i ddyn trwy gymryd un o'r rheiny pan o'wn i'n mynd tua'r tafarn yn gadarn gyda gwen fi gwrddais a chyfeillion dwys union a di sen sef ned o'r wain a chatti fain a wil mab cain a neli a guto bach `run lais a chawr ac ester fawr cydweli ni drawson gyda'n gilydd tua'r dedwydd dafarn dy gan alw cwart o ddiod yn ffraeth cael bod yn ffri `nol eiste' i lawr mewn cegin fawr am haner awr yn gyfan pwy glywn yn canu gyda'r tant ond leishon nant yr odyn ni aethon mewn i'r `stafell lle'r oedd ye ie'nctyd glan ar hyn fe gododd leishon gan ddywedyd dewch ymla'n llawenydd llawn gawd trwy'r prydnawn yn foddlon iawn i'r ddiod a'r brandy poeth a gwres y tan yn lloni'r glan rianod pan oe'n ni'n eitha llawen a'r haul bron cuddio'i ben pwy ddela i'r ty ond dai cwmdar a shon o'r `scubor wen `rol eista i lawr yn feddw mawr a shon yn feddw creulon `roedd am y ferch oedd gyda fi serch colli gwaed ei galon pryd hyn atebodd leishon y cyfaill ffraethlon ffri paid a bod mor sceler waith tayler ddaeth a hi i'r ty ni waeth gen i pwy ddaeth a hi'r ty fy myna hi lliw'r manod a thyma sofrin fod y ferch yn bur o serch yn barod pryd hyn daeth ned blaenaman a dau o wyr i'r lle gan ddweyd `dodd yn y parlwr ddim gystal gwr ag e' aeth un o'r tri tuag atto a rhoddodd ergyd hoew ond cododd cyfaill ar ei draed fe dynodd waed i hwnw pryd hyn ai'r merched allan rhai mwynlan dyma'r modd i edrych am gyfeillion gael dwedyd fel yr oedd a'r rheiny'n dod fe droes y rhod fu dim erioed mor enbyd ond dan y ford yn ngwal y ci y cedwais i fy mywyd fi welais olwg greulon pan allais godi `mhen gwel'd dai cwmdar yn farw a shon o'r `scubor wen roedd shon ynysblwm bron tagu twm a ianto gwn yn mintan a guto fawr hen was top mill yn herio wil blaenaman ·x · fi welwn rhyw hen gymro yn taro dafydd tod a sais yn gwaeddi allan you've killed the man by god `roedd sam o griw a daf o'r rhiw yn cyraedd huw blaencorwg o achos battlo fu un tro am gini `mro morganwg `roedd teilwr mawr tre gibwn fel tarw'n dod i'r ty gan fwgwth rhoddi awel i daniel o'r cwm du a chynyg cic mor fawr ei lic lic anodd i'w darllen at widw dic o'r felin ond llanc o'r rhegoes nid un mawr a'i wadodd lawn yn gwdyn ar hyn daeth gwyr yr heddwch ystyriwch faint y stwr i geisio eu tawelu a'u gyru i bant bob gwr ond rhywun rash o mountain ash ddechreuodd lasho lewsyn fe drawyd hwn i lawr a'r clwb a chlywd wb wb gan bobun fi neidiais i'r pryd hynny fel corgi i maes o'r cwb `roedd bwli mawr llanwyno yn clingo er gwaetha'r clwb fi glywn y cri o flaen y ty fod dawns ar hewl y felin a hwytha'n myn'd yr ie'nctyd tuag yno fel y gwenyn mi aethum a `nghyfeillion yn union gyda nhw ac yno ces ryfeddod ddull hynod ar fy llw gwel'd wil chwech bys yn frwd o chwys a nith i rys y rhedyn a mali miles a wil glo man mor dal o flaen y delyn `rol galw am beint o ddiod fi welwn wil tai mawr a'm hanwyl gariad ine yn dod a dawnsio i lawr fi gwnws tuag ati gan ofyn wnelai yfed ond t'rawodd wil gan faint ei lid y peint ynghyd a'r pared pryd hyny digiodd leishon y cyfaill fyddlon cu a dau o fechgyn dowlais oedd newydd ddod i'r ty ca'dd wil tai mawr ei wado lawr a chwympwd wil tregibwn tra bu wil y teilwr crac yn mesur jack y meiswn hi aeth yn ymladd scymun rhwng rhysyn nant y rhew a hwlcyn cariad sara sef blodau rhyd y blew ond shon gwas hill fe waeddodd wil ac emwnt sil y dramwr aeth oedd gweled shon law drwm yn lachio twm costymwr fe orfu dafydd pryddro smaco gwas y mownt waith gofyn iddo'n dirion am goron o hen gownt `roedd dai pwllglas a robyn fras yn gollwng at was y gelli waith iddo ddweyd yn mhastai'r twyn my love wrth mari bili tudalennau ar goll ·x · chwain chwain chwain chwain sy'n fwy eu rhif na haid o frain yn tyllu'r croen fel pigau o ddrain yn mhell b'o'r rhain wyf yma'n troi ar hyd y nos mewn dirfawr boen gan grafu'r croen a'm cwsg yn ffoi blacks blacks sÿn'n brathu'n waeth na'r income tax nes gwneyd y croen i gyd yn rhacs bwytewch y jacs chwi giwed cas rhowch lonydd i bregethwr tlawd a phoenwch gnawd rhyw ddyn diras o o na chawn bob chwanen yn y fro rhwng morthwyl dur ac eingion go' mi wnawn y tro cawn fwrw'm llid ai'r chwain i gyd yn chwilfriw man yn fwyd i'r tan y byddo'r brid hanes tonyrefail llyfr wedi ei achub o ebargofiant a'i roi ar y rhywd i bawb o bobol y byd gan iain Ó hannaidh hydref ····· hg hc w amp l y amp hb wq l me ot amp cd amp n ht hanes tonyrefail ····· ble'r wÿf i yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r gwefan cymru catalonia on sóc esteu visitant una pàgina of the web cymru catalonia galles catalunya where am i you are visiting a page from the cymru catalonia wales catalonia website weørr àm ai yùù ààrr vízïting ø peij fròm dhø cymru catalonia weilz katølóuniø wéb sait cymru catalonia sion prys hanes tonyrefail