ynol hafan cynnwys nesaf beth am fynd i'r blueline gweithgaredd ble dyn ni iaith gofyn am bethau mynegi barn ynghyd â llu o nodau eraill a allai godi trefniadaeth gweithgaredd naill ai i dimau'n cystadlu yn erbyn ei gilydd neu i grwpiau lle mae unigolion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd paratoi o flaen llaw llungopïo'r a thorri'r cardiau sy ar y tudalennau nesaf un set os byddwch chi'n chwarae fel un grwp mawr os byddwch chi'n chwarae fel grwpiau bach bydd angen set i bob grwp llungopïo'r daflen help tudalen nôd chwarae rôl sy'n awgrymu lleoliad fel bod tîm grwp yn gallu dyfalu'r lleoliad hwnnw cyfarwyddiadau rhaid i ddau berson godi cerdyn a'i ddarllen rhaid iddynt beidio â dweud wrth neb arall beth ydy'r lle ar y cerdyn rhoi rhai munudau iddynt baratoi ar gyfer chwarae rôl sy'n gysylltiedig â'r lle rhaid iddynt chwarae rôl sy'n awgrymu'r lle heb ei enwi e e a ga i sosej a sglodion os gwelwch yn dda b cewch dych chi eisiau ffa neu bys a dim diolch b dych chi eisiau bara menyn a dim diolch b dych chi eisiau rhywbeth i yfed a ydw os gwelwch yn dda paned o de dim siwgr yna gofyn i'r grwp tîm b ble dyn ni ateb mewn caffi os na fydd neb yn ateb yn gywir gofyn cwestiynau i ddarganfod y lle bydd y timau'n ennill marciau pan fyddan nhw'n dyfalu'n gywir y tîm sy'n ennill y nifer fwyaf o farciau sy'n ennill y gêm os byddwch chi'n penderfynu chwarae fel grwpiau bydd pawb sy'n ateb yn gywir yn cael cadw'r cerdyn a'r person sy'n ennill y nifer fwyaf o gardiau yn ennill y gêm ynol top y dudalen nesaf