erthygl gan gwenllian haf jones blwyddyn gweithgareddau gan stella gruffydd wpe jpg bytes wpe jpg bytes wpe jpg bytes yn eisteddfod pen y bont ar ogwr y clywais i nhw'n canu gyntaf fe glywais i nhw ym mhabell `pen tost' yn ystod y dydd ac ym mhabell bbc radio cymru gyda'r nos ar y maes carafanau fy hoff ganeuon y noson honno oedd `poen a chur' a `dawnio ar ochr y dibyn' doeddwn i ddim mor hoff a hynny ohonynt ar y pryd ond mi lwyddais i gael eu llofnodion a chael sgwrs erbyn hyn mae gen i lawer o bethau mega mae gennyf y c d `mwy na mawr' crys t het a phethau eraill rydw i erbyn hyn yn mega ffan mae llawer iawn o ferched cymru yn teimlo yr un fath a fi wedi gwirioni efo'r grwp ac yn meddwl eu bod yn wych grwp o bedwar o hogia yw mega marc rhydian arwel a trystan mae nhw yn dod o wahanol rannau o gymru ac mae nhw wedi cael eu dewis o blith llawer o ymgeiswyr o gymru i fod yn aelodau o'r grwp nhw ydi boy band cyntaf cymru fel boyzone neu five yn lloegr mae mega cystal a nhw bob mymryn mae gan bob un o'r hogia ffugenw icl ard rib a taz dyma i chi rywfaint o wybodaeth am bob un ohonynt ard arwel wyn roberts yw ei enw llawn mae o yn oed ac yn wreiddiol o dalysarn hwn ddechreuodd y grwp ac mae'n brif unawdydd fo yw'r unig un sy'n dod o'r gogledd ei ddiddordebau yw gwrando ar gerddoriaeth beicio a chadw'n heini icl marc llewelyn yw enw llawn y person yma marc yw fy ffefryn mae hwn yn dda iawn am symud mae o'n unawdydd hefyd ei ddiddordebau yw chwarae'r gitar chwarae'r cyfrifiadur a chael amser da fy nghaneuon gorau o'r rhain mae o'n ganu yw cariad cariad cam wrth gam rib rhydian bowen philips yw enw'r person yma mae o'n oed ac yn dod o gaerfyrddin rwyf yn hoff iawn ohono oherwydd ei fod yn taro'r nodau uchel yn dda iawn ei ddiddordebau yw cymdeithasu a gwylio tim lerpwl yn chwarae taz trystan jones yw enw'r person yma mae o'n oed mae o'n wreiddiol o gaerfyrddin dydi o ddim yn unawdydd dim ond ryw ddwy benill o `dawnsio ar ochr y dibyn ' mae wedi ei ganui ei hun canu gyda'r lleill mae o fel arfer ei ddiddordebau yw syrffio chwarae'r gitar a chael amser da llwyddais i gael tocyn yn ddiweddar i fynd i glywed y grwp yn canu yn y paradox yng nghaernarfon fel yr oeddwn yn disgwyl roedd yn noson wych fe ddechreuodd y cyngerdd gyda marc yn canu cam wrth gam a'r grwp i gyd yn canu'r gytgan erbyn diwedd y gân roedd pawb wedi ymuno ynddi i bob cân roedd gwahanol symudiadau gyda'r grwp i gyd yn cyd symud yn ystod meganomeg yn lle defnyddio'r meic roedd arwel yn canu i mewn i gorn siarad roedd y swn yn atseinio drwy'r ystafell mae'n siwr eu bod wedi blino'n lân ar ôl yr holl ganu a dawnsio ond roeddwn i mor hapus â'r gôg roedd nwyddau o bob math ar werth yno megis offer ysgrifennu cas pensiliau pensilau pren mesur rhwbiwr a miniwr cwpanau a sticeri hetiau crysau t a phosteri buaswn i wedi hoffi cael un o bob un ond yn anffodus roedd mam wedi anghofio ei phwrs meddai hi y peth gorau oedd ar werth yno oedd y cd rom newydd sef mwy na mawr mega yw'r grwp cymraeg cyntaf i gynhyrchu un o'r rhain arno mae deuddeg cân ac ar y cd ei hun mae llun o'r pedwar ar y cd rom mae gwybodaeth am bob aelod o'r grwp eu hoed eu hoff bethau a'u diddordebau y darn gorau yw pan mae'n dangos mega yn canu dawnsio ar ochr y dibyn ac rydych yn gallu eu gweld nhw'n symud ac yn dawnsio i'r gân erbyn i mi eu gweld yn canu yn eisteddfod genedlaethol môn ym mis awst rwy'n gobeithio y bydda i wedi dysgu y symudiadau i gyd gweithgareddau ymlaen