delwedd y faner logo y faner datganiad i'r wasg swyddog cyswllt yr eglwysi yn y cynulliad yn drodd yn galonogol ar waith y flwyddyn gyntaf mae'r parch aled edwards swyddog cyswllt yr eglwysi yn y cynulliad cenedlaethol dros cytun wedi cyhoeddi adroddiad ffydd yn y cynulliad adolygiad gan swyddog cyswllt yr eglwysi yn y cynulliad cenedlaethol sy'n rhoi ymateb cadarnhaol i flwyddyn gyntaf y cynulliad cenedlaethol ond mae hefyd yn rhybuddio fod raid i'r cynulliad cenedlaethol ddod o hyd i ffordd well o gyflwyno ei newyddion da ei hun yn ei adroddiad mae'r parch aled edwards yn dweud fe all y cynulliad cenedlaethol wneud darpariaeth arbennig ar gyfer grwpiau fel y pensiynwyr yr anabl lleiafrifoedd ethnig a ffoaduriaid y drafferth yw a fyddant yn cael gwybod am hynny tra bod bbc cymru htv ac s c wedi buddsoddi yn sylweddol yn y dasg o drafod gwleidyddiaeth cymru a chynnig ystod eang o raglenni mae nifer o gartrefi ar y gororau yn derbyn rhaglenni o loegr yn yr un modd tra bod gan gymru bapurau newydd fel wales on sunday y daily post a'r western mail o ran darllenwyr dyddiol y wasg yn llundain sydd â'r llaw uchaf yng nghymru mae'r adroddiad hefyd yn rhoi dwy enghraifft benodol lle nad oedd dau fater pwysig yn y cynulliad wedi cael eu harchwilio'n drylwyr gallai'r cyntaf a amlinellwyd yn ystod un o sesiynau llawn y cynulliad fod wedi cael effaith sylweddol ar y diwydiant trydan dw r yng ngogledd orllewin cymru fe wnaed argymhelliad a allai fod wedi arwain at gynnydd o £ m mewn trethi ar weithiau trydan dw r ffestiniog a dinorwig fe ymyrrodd y cynulliad ac fe gyfyngwyd y cynnydd i ddim ond gweler nodyn isod tra bod y mater hwn wedi cael ei drafod mewn sesiwn lawn agored ni roddwyd digon o sylw iddo yn y wasg pan fydd arwyddocâd gweithgaredd y cynulliad wrth wrthod cynnydd mewn trethi o £ miliwn a thrwy hynny warchod diwydiant hanfodol yn ffestiniog a dinorwig yn cael ei ddatgan yn gyhoeddus mewn cyfarfod agored a'r mater ddim yn cael ei drafod yn fanwl yn arbennig yn y wasg yng ngogledd cymru mae'n rhaid i gymdeithas feddwl o ddifri am y modd y mae'r cynulliad yn cael ei ddarlunio os nad yw gweithgareddau'r holl bleidiau gwleidyddol ar ran cymunedau cymru yn cael sylw digonol oherwydd ei fod yn rhy gymhleth neu nad yw'n ddadleuol mae'n anochel mai dirnadaeth wan fydd o'r cynulliad gan gyfeirio at ail enghraifft mae adroddiad y parch aled edwards yn sôn sut y bu i'r pwyllgor datblygu economaidd dynnu sylw at y ffaith nad yw swm gwariant y gronfa ddatblygu ranbarthol ewropeaidd y mae ewrop yn ei ddweud y mae cymru yn gymwys amdano yr un a'r hyn sy'n cael ei drosglwyddo i gymru gan y trysorlys trwy fformiwla barnett unwaith eto ni roddwyd sylw teilwng i hyn yn y wasg aiff yr adolygiad ymlaen i ddweud os yw'r cynulliad cenedlaethol am gyfathrebu'n fwy effeithiol gyda'r gymdeithas gymreig fe all orfod mabwysiadu strategaeth ehangach o ran rhannu gwybodaeth gallai agwedd fwy rhagweithiol at y rhai sy'n gweithio dros gymdeithas hefyd fod yn fanteisiol i adran allweddol o gymdeithas wrth gloi mae'r adroddiad hefyd yn gosod y cwestiwn sut y gall cymdeithas yng nghymru gydweithio gyda'r cynulliad i ddatblygu proses ddeddfwriaethol fwy creadigol mae'n awgrymu y gellid trafod y materion hyn mewn ymgynghoriad deddfwriaethol eang rhannwyd yr adroddiad i arweinwyr eglwysig ac fe fydd ar gael i aelodau'r cynulliad cenedlaethol diwedd dydd mawrth mai nodyn i olygyddion gweler cofnod y cynulliad cenedlaethol phil williams ac sesiwn lawn mawrth am fwy o fanylion am hyn mae copïau o'r adroddiad ar gael gan y parch aled edwards ar y rhif ffôn isod a hefyd ar http www nationalassembly freeserve co uk am fwy o wybodaeth cysylltwch â y parch aled edwards galwr cytun churches together in wales cyflwyniad i'r adroddiad 'ffydd yn y cynulliad' mae canolfan yr eglwysi ar gyfer y cynulliad a sefydlwyd gan cytun eglwysi ynghyd yng nghymru wedi ysgrifennu adolygiad sylweddol ar berfformiad y cynulliad yn ystod ei flwyddyn gyntaf gwneir hyn o bersbectif cristnogol gan obeithio'n fawr y bydd y ddogfen yn rhoi gwybodaeth i'r eglwysi ac yn eu galluogi i ymwneud yn fwy effeithiol a'r broses wleidyddol yng nghymru gwelwyd yn yr adolygiad bod cynulliad cenedlaethol cymru yn sefyll mewn dilyniant gwleidyddol arbennig mynegwyd yr argyhoeddiad ar un wedd mai swyddfa gymreig gyda ffenestri a drysau mwy agored yw'r cynulliad dylid ei asesu felly mewn modd sy'n deall ac yn dirnad natur yr hyn a sefydlwyd gan ddeddf llywodraeth cymru trafodwyd y modd y darparwyd y gyllideb gymreig yr agorwyd prosesau gwleidyddol cymru a sut y darparwyd ychwanegiadau sylweddol i wariant cyhoeddus yn arbennig ar iechyd ac addysg gwelwyd hefyd sut y bu elfennau pwysig yn y byd cristnogol cymreig yn cyfoethogi bywyd gwleidyddol cymru ar ei newydd wedd yn wyneb yr hyn a welwyd hyd yma yn y cynulliad cenedlaethol profwyd cyfleon da i'r eglwysi ymateb i'r sefyllfa wleidyddol newydd wedi dweud hyn gosodir her i ni sefydlu dulliau a sefydliadau creadigol er mwyn ymateb mewn pryd i'r sialens i gyflwyno tystiolaeth gadarn i'r cynulliad gwahoddir y cynulliad hefyd ystyried sut y gellir ymestyn y drafodaeth parthed deddfu a chyfathrebu mynegwyd pryder difrifol ynghylch yr angen dybryd a geir i alluogi'r cynulliad i drosglwyddo gwybodaeth i'r cyhoedd darparwyd polisïau arbennig ar gyfer pensiynwyr yr anabl bobl ifainc a'r rhai sy'n ceisio lloches y drafferth yw a fyddant hwy'n clywed am yr hyn a wnaed ar eu cyfer datganiad i'r wasg tel facs ebost sionbrynach churchinwales org uk siôn brynach m litt amipr arweinydd y tîm cyfathrebu a swyddog y wasg i'r archesgob heol y gadeirlan caerdydd cf xf pen y dudalen hawlfraint © corff cynrychiolwyr yr eglwys yng nghymru gwadiad gwefeistr david neale