menter aman tawe y cyd destun sosioieithyddol y ffocws ar bobl ifainc staffio gweithgareddau menter aman tawe chwaraeon gwaith ieuenctid cyrsiau iaith diwylliant a hamdden gweithgareddau menter aman tawe awst rhagfyr digwyddiadau teithiau hanner tymor menter aman tawe sefydlwyd menter aman tawe ym mis ionawr yn un o'r tair menter iaith a etifeddodd bwrdd yr iaith yng nghyd destun grantiau a drosglwyddwyd o'r swyddfa gymreig disgrifir y fenter fel cynllun i hybu'r gymraeg ym mhentrefi cwm tawe a dyffryn aman cynllun i sicrhau lle priodol i'r gymraeg yn y ddau gwm cynllun i greu brwdfrydedd a balchder yn ein hetifeddiaeth lleolir y fenter yn un o ardaloedd cymreicaf cymru ar y cychwyn penderfynwyd bod y fenter i wasanaethu poblogaeth wasgaredig mewn tair gwahanol sir yr oedd hwn yn benderfyniad anffodus a wnaed am resymau gwleidyddol yn hanesyddol ac yn weinyddol y mae ffin amlwg rhwng cwm aman a chwm tawe yn nhermau patrymau gwasanaethau dalgylchoedd addysg teithio i'r gwaith a chyfathrebu y mae cwm aman yn debycach i gwm gwendraeth a gweddill sir gâr o ran ei thafodiaith a'i phatrymau sosioieithyddol hefyd o'r herwydd credir bod y fenter yn llai llwyddiannus nag y gallai fod nid oes ffocws naturiol i'w gweithgareddau ac mae'n anodd i bawb yn y ddau gwm deimlo eu bod yn berchen arni y mae'n amhosib rhoi ffigwr targed i ddalgylch menter aman tawe ond amcangyfrifir bod y boblogaeth o ryw wedi eu dosbarthu fel a ganlyn poblogaeth siaradwyr cymraeg canran y siaradwyr cymraeg bwrdeistref dyffryn lliw dinefwr ystradgynlais tabl cryfder y gymraeg yn ardal menter aman tawe yn rhannau gorllewinol a de orllewinol brycheiniog gan gynnwys ystradgynlais dyffryn tawe uchaf a'r ardaloedd cyfagos ceir defnydd helaeth beunyddiol o'r iaith gymraeg dangosir hyn yn nhabl ystadegau allweddol y gymraeg ym mrycheiniog tabl cryfder y gymraeg ym mrycheiniog mesul grwp oedran rhwng poblogaeth poblogaeth siaradwyr cymraeg siaradwyr cymraeg newid oed proffil rhyw brycheiniog dynion merched cyfanswm tabl proffil poblogaeth brycheiniog y ddau ryw oed tabl proffeil poblogaeth brycheiniog oedran brycheiniog siaradwyr cymraeg ganwyd yng nghymru ardal hectarau personau yr hectar ystradgynlais yw'r ardal gymreicaf ym mhowys o ran niferoedd siaradwyr y gymraeg y mae'n rhannu'r un nodweddion ieithyddol â gweddill brycheiniog sef twf yng nghanrannau siaradwyr cymraeg ymhlith yr ifanc a gostyngiad rhwng a yn yr oedrannau dros y cyd destun sosioieithyddol yr oedd staff a swyddogion y fenter o'r cychwyn yn ymwybodol iawn o faint y dasg a'r cyfrifoldeb a roddwyd ar eu hysgwyddau deallent fod gwrthdroi dyfudiad ieithyddol yn ardal aman tawe yn hynod o anodd oherwydd natur sosioieithyddol yr ardal y mae'r amrywiadau a welir o ran cefndir ieithyddol y cymunedau cefndir ieithyddol y cartref a'r mathau o addysg a dderbyniodd y trigolion yn adlewyrchu cymlhethdod plethwaith ieithyddol yr ardal y farn gyffredin yn yr ardal yw bod defnydd o'r saesneg mewn rhwydweithiau ieithyddol ffurfiol yn arwain at newid iaith gan nad yw'r strwythur ieithyddol bellach yn cynnig fawr budd materol i'r rai sydd yn ddefnyddio'r gymraeg williams t wrth drafod achosion tebyg dywed heini gruffudd t y byddai angen synnwyr cryf o gymhelliad i ddal i ddefnyddio'r iaith yn yr ardaloedd hyn wrth ddod i ddeall hyn yr oedd cefnogwyr y fenter yn benderfynol o'r cychwyn cyntaf y dylent roi blaenoriaeth i weithgareddau ymysg pobl ifanc yr ardal a hynny am resymau digon cyfarwydd adlewyrchwyd y teimlad hwn yn astudiaeth ardderchog heini gruffudd t meddai ef yr ystyriaeth waelodol yw bod pobl ifanc cymru ac ardal yr astudiaeth yn benodol yn wynebu un o'r brwydrau ieithyddol mwyaf tyngedfennol yn hanes y genedl mae'r symud ieithyddol yn yr hyn a ystyriwn yn gymru seisnigedig ac yn y bröydd cymraeg ac mae i'w weld yn enwedig yn arferion ieithyddol pobl ifanc hwy yn anad neb sydd yn wynebu'r llif adloniant cyson o gyfeiriad lloegr ac america a hwy mewn sawl rhan o gymru yw'r genhedlaeth gyntaf i ddefnyddio'r gymraeg mewn cymdeithas nad yw'n cynnig un maes lle y gellir dweud bod y gymraeg yn tra llywodraethu ynddo er bod canran y siaradwyr cymraeg yn weddol uchel nid ystyrid y gymraeg yn iaith naturiol bywyd cyhoeddus y gymuned yn y gorffennol cydnabyddid bod y broses hanesyddol o golli iaith yng nghymru wedi bod ynghlwm wrth y system addysg ac mae'r ymdrechion i adfer yr iaith le o arwyddocâd yn y bau hon wedi bod yn un o themâu cyson yr ymdrech i ddiogelu'r gymraeg yn yr ugeinfed ganrif gruffudd tud mae nifer yn yr ardal yn honni mai diffyg cyfle i dderbyn addysg trwy gyfrwng y gymraeg sydd fwyaf cyfrifol dros ddiffyg hyder y cyhoedd i ddefnyddio'r gymraeg mewn peuoedd ffurfiol yn y gorffennol yr oedd yr ysgolion uwchradd wedi eu seisnigeiddio newidiwyd y patrwm rhywfaint pan agorwyd ysgolion cynradd cymraeg o'r chwedegau ymlaen e e ysgol gymraeg rhydaman ac wrth i ysgolion eraill gynnig y gymraeg fel ail iaith e e ysgol parc yr hun gwellawyd ar y sefyllfa pan agorwyd ysgol maes yr yrfa ac ysgol ystalyfera ac mae nifer o drigolion yr ardal wedi mynychu'r ysgolion hyn y mae sefyllfa ysgol dyffryn aman yn arbennig penderfyna nifer o rieni cymraeg dyffryn aman anfon eu plant i ysgol maes yr yrfa i gael addysg gymraeg ond gan bod nifer o athrawon ysgol dyffryn aman yn gymry cymraeg cynigir nifer o bynciau yn y gymraeg yma hefyd er nad yw'n ysgol gymraeg neu ddwyieithog gyflawn mae naws fwy cymreigaidd yn yr ysgol iau nag yn yr ysgol hyn ac yn wir ar ôl blwyddyn y mae nifer o'r disgyblion yn troi at y saesneg fel eu prif gyfrwng cyfathrebu un o nodweddion y sefyllfa a gododd yn aml wrth wneud gwaith maes ac a nodwyd yn ymchwil heini gruffudd hefyd oedd bod nifer o'r disgyblion yn gwbl rugl eu cymraeg ac yn arddel yr iaith yn yr ysgol ond yn troi at y saesneg wrth drafod pethau gyda ffrindiau yn y gymuned nodwedd arall a gododd oedd yr honiad fod datblygiad addysg ddwyieithog yn ysgol ystalyfera wedi lladd y gymraeg yn ysgol dyffryn aman a bod polareiddio ieithyddol heddiw yn fwy o fygythiad i ddyfodol y gymraeg fel iaith gymunedol nag yr oedd o dan yr hen drefn addysg pan oedd yr hen drefn honno mewn grym yr oedd bron pawb yn deall y gymraeg ond ychydig yn unig oedd yn derbyn addysg ffurfiol drwyddi cafwyd yr un hanes yn nyffryn teifi ac mae'n gwbl eironig felly i adrodd fod rhai rhieni yn tristáu dros effaith ysgolion dwyieithog yn yr ardal afraid dweud nad ydym yn cydfynd â'r gosodiad hwn ni welwn yr ysgolion dwyieithog yn achos dirywiad ieithyddol ond yn hytrach yn rhai o brif asianteithiau trosglwyddo'r iaith o un genhedlaeth i'r llall dyma sut y mae taflen gyhoeddus yn disgrifio meddylfryd traddodiadol y cymoedd gorllewinol haint sydd yn sgubo ar draws cymru o fôn i fynwy yw'r galw am ysgolion cymraeg ac ysgolion dwyieithog mae'r ysgolion yma'n cynnig addysg gynhwysfawr a'r canlyniadau yn yr arholiadau allanol yn rhyfeddol cafwyd nifer o erthyglau treiddgar yn y western mail yn ddiweddar o dan yn y pennawd let's prepare for a bilingual wales pam felly fod y galw yng nghwm gwendraeth a dyffryn aman yn gymharol siomedig gan gofio fod ysgolion cyfun dyffryn aman y gwendraeth maes yr yrfa tregib ac ystalyfera yn cynnig darpariaeth ar stepyn y drws a yw'r dos yna o synnwyr cyffredin oedd mor gyffredin yn y gorffennol wedi diflannu fel gwlith y bore pam mae cymaint o fewnfudwyr yn mynnu addysg trwy gyfrwng y gymraeg a'r trigolion lleol yn gwrthod y cynnig ryn ni'n siarad cymraeg yn y ty mae'n rhaid i'n plant dderbyn eu haddysg trwy gyfrwng y saesneg ie dyna'r meddylfryd sydd yn aml yn bodoli yn y cymoedd gorllewinol y ffocws ar bobl ifanc creu amodau ffafriol i ffyniant yr iaith oedd sylwedd strategaeth menter aman tawe ond o'u cymharu â menter cwm gwendraeth nid oedd cefnogwyr menter aman tawe yn teimlo eu bod mewn sefyllfa i greu strwythur cynhwysfawr ar gyfer holl anghenion ieithyddol diwylliannol yr ardal cydnabyddwyd fod angen i'r gymraeg fodoli fel iaith a ddefnyddir gan bobl yn eu bywyd beunyddiol mewn gwaith a hamdden wrth ddelio ag awdurdodau ac â'i gilydd ond y ffordd fwyaf ymarferol o wneud hyn yn yr ardal oedd i annog pobl i wneud y gorau o'r cyfleoedd hynny oedd eisoes ar gael mater o newid agwedd a disgwyliadau trwy godi ymwybyddiaeth o'r gymraeg ymysg y mwyafrif o oedolion ydoedd penderfynodd y fenter felly taw'r grwp oedran oedd y grwp allweddol bwysig er mwyn troi nifer o'r sefyllfaoedd seisnig yn rhai dwyieithog neu gymraeg ar y cychwyn trefnwyd o bwyllgorau pentref i greu strwythur cynhaliol i'r gweithgareddau hyn ond yn fuan iawn sylweddolwyd nad oedd hwn yn ffordd gwbl effeithiol a hynny am ddau reswm un oedd y prinder arweinwyr cymdeithasol a oedd yn fodlon cefnogi gwaith y fenter yn y tymor hir yr ail reswm oedd nad oedd y mwyafrif o'r pwyllgorau pentrefol yn cyflawni unrhyw ddibe n ymarferol cododd y cwestiwn o ddiffyg gwybodaeth yngl' n â'r cyfarfodydd pentrefi ac aethpwyd ati i greu rhwydwaith hysbysebu a chynhyrchu cylchlythyr yn rheolaidd cyfunwyd nifer o bwyllgorau pentref gan uno pentrefi cyfagos a'r bwriad o hynny ymlaen oedd dod â phobl at ei gilydd yn achlysurol i drafod anghenion lleol ac i godi statws yr iaith honna rhai fod y cyfarfodydd pentref yn fwy llwyddiannus am nad ydynt yn trosglwyddo'r tasgau trefnu a chydlynu gweithgareddau cymraeg oddi wrth swyddogion a chefnogwyr y fenter y mae'r agwedd hwn o ddibyniaeth a diffyg cyfrifoldeb cymdeithasol yn llesteirio gwaith y fenter ac y mae'r swyddogion yn ymwybodol iawn o ba mor anodd y mae hi i ennyn diddordeb ac ymrwymiad y cyhoedd ond yn y pen draw dyma ddylai fod yn brif amcan y fenter sef trosglwyddo'r awenau i'r gymuned ni ddylai asiant fel y fenter fod yn gwbl gyfrifol am yr iaith y mae angen iddi gael sail gymunedol gadarn ni fydd yr iaith yn ffynnu os na ddaw arweinwyr lleol i'r amlwg i wrthdroi'r dirywio yn y cartref a'r gymuned ni waeth faint o siaradwyr a chyfleoedd newydd a gynhyrchir gan ein hysgolion a newidiadau yn y gyfundrefn felly y mae meithrin arweinwyr cymdeithasol yn holl bwysig ac yn un o brif argymhellion yr adroddiad hwn wrth nodi rhai gwendidau cymdeithasol rhaid hefyd adrodd fod rhinweddau pobl dalgylch y fenter wedi dod i'r amlwg ymroddiad gwytnwch a brwdfrydedd ond brwdfrydedd dros weithio'n ymarferol a mwynhau gweithgareddau cymdeithasol a gafwyd nid brwdfrydedd dros drefnu strwythur cynllunio ieithyddol a chynnal cyfarfodydd di rif dull llawer mwy uniongyrchol o weithredu sy'n nodweddu'r fenter felly prif elfennau strategaeth y pwyllgor llywio oedd canolbwyntio ar gydlynu gweithgareddau cymraeg yr ardal yn enwedig yng nghwm tawe paratoi cyfleoedd newydd i'r ifanc ac ar ôl eisteddfod genedlaethol dinefwr awst ehangu ei gweithgareddau i rydaman a'r cylch staffio cadeirydd cyntaf menter aman tawe yw glynog davies ac fe'i cynorthwyir gan nifer o wirfoddolwyr selog ond i raddau helaeth mae cymeriad menter aman tawe yn deillio o natur personoliaeth y cyfarwyddwr alun wyn bevan sydd yn arweinydd egnïol a phrofiadol yn arbennig ym maes addysg a chwaraeon digon naturiol felly yw adrodd taw ym myd chwaraeon a phobl ifanc y mae prif gryfder a diddordeb y fenter penodwyd andrea jones yn ddirprwy gyfarwyddwraig am flwyddyn hyd nes iddi ymddiswyddo a derbyn swydd newydd gyda chwmni agenda yng ngwanwyn wrth i waith y fenter gynyddu a chan fod cyfraniad y pedwar swyddog rhan amser wedi bod yn llwyddiant apwyntiwyd betsan dafydd fel swyddog ieuenctid a chydlynydd prosiectau llawn amser a phenodwyd swyddog cynradd rhan amser ym gweithgareddau menter aman tawe athroniaeth seml ond effeithiol y fenter yw ceisio cyflwyno cyfleoedd lle y gall yr rhai ifainc a'r plant fwynhau eu hunain wrth geisio dangos amryfalwch gweithgareddau menter aman tawe isod dylid cofio bod y fenter yn gwasanaethu ardal ddirwasgedig braidd o'r herwydd ni ellir disgwyl cymaint o'r sefyllfa ag y gellid ei ddisgwyl mewn ardal fwy llewyrchus ei heconomi y mae'r athroniaeth hon ac ymyrraeth y fenter yn ceisio creu amodau cymdeithasol a fyddai'n meithrin agweddau cadarnhaol tuag at y gymraeg a defnydd helaethach ohoni sef un o brif amcanion cyffredinol pob menter iaith ac a ymgorfforir hefyd yn strategaeth iaith bwrdd yr iaith gymraeg dyma flâs o weithgareddau'r fenter chwaraeon pêl droed clybiau pêl droed cymraeg i ddynion ffitrwydd merched aerobics yn bennaf yn nhreforys a phontardawe ond hefyd fe geir hoci pêl fasged a phêl rwyd rygbi merched pob nos fawrth o i ym mrynaman trefnwyd taith i'r alban i chwarae yn erbyn prifysgol glasgow ar fawrth y ydd cyn ymweld â murrayfield am y gêm ryngwladol cymru yn erbyn yr alban hoci bechgyn ymarfer cyson gemau unwaith y mis a thwrnament cwpan ar ddiwedd y tymor canolfan hwylio a chanwio yn noc penfro wysu'n stecs clwb chwaraeon ôl ysgol yn ysgol gyfun ystalyfera dyffryn aman cwmtawe a maes y dderwen ceir tenis hoci rygbi pêl fasged criced badminton tenis bwrdd a phêl droed dysgu nofio gwersi nofio drwy gyfrwng y gymraeg ym mhwll nofio ysgol gyfun ystalyfera bob nos fawrth o i pêl fasged a phêl droed cyrsiau i bobl sydd am fod yn hyfforddwyr pêl fasged neu bêl droed ac ar ddiwedd y cwrs cânt dystysgrif hyfforddwr yn y gamp berthnasol a gydnabyddir gan gyngor chwaraeon cymru gwaith ieuenctid arweinwyr ieuenctid cyfle i ennill hyfforddiant fel arweinydd ieuenctid clybiau ieuenctid cynhelir clybiau ieuenctid cyfrwng cymraeg i bobl ifanc rhwng a mlwydd oed yn nifer o bentrefi e e aelwyd brynaman a felindre lle cafwyd arian i gyflogi dau weithiwr oddi wrth adran addysg gymunedol gorllewin morgannwg ym gan fod y clybiau hyn yn mynd o nerth i nerth sefydlwyd un arall yn ystalyfera a gobeithir cychwyn rhagor yn y dyfodol clwb drama yn dilyn llwyddiant anna pugh yn cynnal gweithdai drama yn ysgolion cynradd yr ardal trefnwyd clwb drama i blant dan oed sydd yn cwrdd bob prynhawn mawrth rhwng a yn neuadd les y glowyr cwmllynfell y mae tua o blant ifanc yn ei fynychu'n gyson ymweliadau ysgol cwmtwrch cysylltiadau cynradd ymweld â phlas tan y bwlch gwibdeithiau i dwrnament tenis wimbledon i gwpan her rygbi'r cynghrair leeds v wigan ebrill ain ac i rownd derfynol cwpan rygbi xiii yn wembley hydref ras hwyl ar hyd camlas cwm tawe o barc coed gwilym i'r ganolfan hamdden cynlluniau chwarae haf y mae'r cynlluniau yn para am dair wythnos yn ystod gwyliau haf yr ysgolion o ddiwedd gorffennaf i ganol awst ac y mae'n rhedeg o ddydd llun i ddydd gwener ym mrynaman lôn las blaen y maes capel hendre a rhydaman mae'r fenter hefyd yn trefnu cynlluniau ar y cyd ag asianteithiau eraill e e un yn rhydaman a barhaodd am chwe wythnos yn haf wedi ei drefnu ar y cyd ag anturiaeth dyffryn aman dyffryn aman enterprise cynorthwywyd prosiect cymunedol bancyddraenen capel hendre i redeg cynllun am naw prynhawn a phob blwyddyn y mae'r fenter yn cydweithio â chymdeithas y plant ym mlaen y maes er mwyn sicrhau fod cynllun cymraeg yno i'r rheiny sydd yn mynychu ysgolion cymraeg gwobr dug caeredin rhaglen o weithgareddau amser hamdden lle yr anogir pobl ifainc i ddewis gweithgareddau sydd yn addas ar gyfer eu diddordebau a'u talentau ac sydd yn briodol ar gyfer eu hamgylchfyd yn awst aeth o bobl ifanc i norwy i gwblhau eu medal arian y mae'r cynllun yn gweddu i ddiddordebau y fenter am ei bod yn rhannu nifer o amcanion sylfaenol nod y cynllun yw bod pobl ifanc yn cael cyfle i ennill profiad ac i gryfhau cydweithrediad o fewn y gymuned mae gofyn i'r rhai sydd yn derbyn sialens y wobr wasanaethu eraill dysgu sgiliau profi antur a gwneud ffrindiau newydd mae dyfalbarhad menter ac ymdrech yn angenrheidiol i ennill gwobr y mae gan y gweithgaredd hwn botensial mawr oherwydd un o brif nodweddion y fenter yw ei gallu i weithio mewn partneriaeth â nifer o gyrff eraill a chreu naws cymreig i'r gweithgareddau hyn ac y mae gwobr dug caeredin yn esiampl arbennig o dda o sut i `normaleiddio'r gymraeg' yn lleol `concro'r copaon' trefnodd menter aman tawe i o ddisgyblion o ysgol gyfun ystalyfera ynghyd â mynyddwyr profiadol i ddringo'r wyddfa scafell a ben nevis yn hydref er mwyn codi arian i `childline' yr oedd y fenter yn teimlo bod ieuenctid yr ardal yn byw o fewn tafliad carreg i barc cenedlaethol bannau brycheiniog ond i raddau helaeth yn gwbl anymwybodol o'r harddwch lleol y nod oedd tanio dychymyg yr ieuenctid gyda'r gobaith y byddai'r diddordeb yn parhau ar ôl dychwelyd cydnabyddwyd llwyddiant y fenter trwy iddi ennill gwobr cyngor ieuenctid cymru yn hydref yn sgîl hyn rhoddwyd llawer mwy o hysbysrwydd i weithgareddau eraill mat gan y cyfryngau cyrsiau iaith wrth ymgymryd â'r gwaith maes a chyfweld unigolion yn nalgylch menter aman tawe cafwyd yr un ymateb yn aml i'r cwestiwn agoriadol `ydy'ch chi'n siarad cymraeg `ydw tipyn bach' yr oedd yn amlwg wrth ddechrau nifer o gyfweliadau fod y mwyafrif yn gwbl rugl ac yn siarad cymraeg naturiol ateb oedd yn awgrymu diffyg hyder a gafwyd gan amlaf yn hytrach nag yr ymateb `wrth gwrs fy mod yn siarad cymraeg ' mater o agwedd a chefndir diwylliannol a adlewyrchir mewn rhannau helaeth o ddyfed ac nid y maes glo gorllewinol yn unig yw hwn yn aml clywir trigolion yr ardal yn ynganu'r frawddeg `smo'n gwmrâg i'n ddigon da ' ymateb mat yw `a sawl gwaith ych chi y cymry cymraeg hyderus eich iaith wedi rhoi achos i rywun llai hyderus eu llafar ddweud hynny ' diffyg hyder yw'r broblem fwyaf ac wrth i'r cymry cymraeg hyderus hynny beidio ag addasu'u hiaith a mynnu defnyddio geiriau cymraeg `cywir' maent yn gwaethygu'r broblem ac o ganlyniad clywir brawddegau tebyg i ` `sdim cwmrâg twfwn `da fi nage fel chi ' beth felly am i bawb sydd am weld y gymraeg yn para i ffynnu gydweithio er mwyn sicrhau mai brawddeg sydd yn diflannu o iaith yr ardal yw'r frawddeg afiach honno o nonsens pur `smo'n gwmrâg i ddigon da ' south wales evening post o ganlyniad un o benderfyniadau cyntaf y fenter oedd trefnu ystod eang o gyrsiau iaith i ateb anghenion unigolion boent yn ddysgwyr neu am loywi eu hiaith e e cwrs wlpan cwrs estyn cymraeg graenus yn ogystal trefnwyd cyrsiau haf sydd yn gyfuniad o ddysgu'r iaith ac amryw o weithgareddau hamdden y mae'r fenter hefyd yn trefnu hyfforddiant ar gyfer deall cyfieithu ar y pryd cyrsiau cymraeg ail iaith a dysgwyr cynhelir cyrsiau yn yr haf i ddisgyblion lefel a ail iaith achredir y `cwrs llafar i'r ifanc' gan brifysgol cymru cwrs tair wythnos gyda thair awr o waith yn y bore ac ambell i wibdaith neu weithgaredd yn y prynhawn ydyw y mae'r cyrsiau llafar yn berthnasol i'r rheiny sydd yn astudio gymraeg lefel a ail iaith ond nad ydynt yn cael y cyfle i ddefnyddio'r iaith lafar y tu allan i'r dosbarth nac i weld fod y gymraeg yn fyw yn y gymuned gweithgareddau cyd y mae aelodau cyd yn cwrdd bob nos fercher yn nhafarn y raven garnant ac yng nghlwb rygbi'r alltwen trefnir amrywiaeth o weithgareddau eraill e e taith gerdded yng nghraig y nos taith gerdded ym mharc gwledig gelli aur a rydd gyfle i ddysgwyr ddysgu enwau cymraeg anifeiliaid a phlanhigion trip trên cymraeg i lundain taith siopa cyd i gaerfaddon gwyl haf cyd yng nghwm tawe cyfieithu ar y pryd offer cyfieithu ar y pryd i'w llogi neu fenthyg o swyddfa'r fenter cyrsiau cyfrifiadurol mewn cysylltiad ag ysgol gyfun maes y dderwen a chyngor sir powys diwylliant a hamdden wyl fai bu perfformiad cwmni dawns a drama mat o'r sioe gerdd ffatri breuddwydion mai yn llwyddiannus iawn a chafwyd cyfle arall i'w pherfformio yn eisteddfod genedlaethol bro colwyn ar awst perfformiodd theatr ieuenctid y fenter priodas waed yn theatr fach y maes yr eisteddfod genedlaethol awst cynhyrchiadau eraill cwm glo gan james kitchener davies ebrill y cinio gan geraint lewis ebrill mas o drefn cyfieithiad garry nicholas o'r gomedi out of order gan ray cooney ebrill glo caled grwp drama brynaman yn perfformio yn neuadd y celfyddydau pontardawe sgyrsiau llenyddol e e y prifardd dafydd rowlands yn siarad yn rhydaman ystalyfera gwaun cae gurwen clwb cinio i ferched gwyl gelf pontardawe awst cwis i'r dysgwyr cwis yr wyl teithiau cerdded i lyn y fan ystradfellte a phont nedd fechan i'r alban ac i norwy arddangosfeydd lluniau bu'r arlunwyr canlynol yn dangos eu gwaith yn swyddfeydd y fenter adrienne howes a nic holly o abertawe catrin williams o gaernarfon megan jones o ystradgynlais mawrth valerie ganz mehefin gwenllian beynon o rydaman gorffennaf awst mike jones arlunydd o bontardawe hydref tachwedd aneurin jones rhagfyr noson joio yn achlysurol cynhelir nosweithiau llawen llwyddiannus iawn yng nghwmni perfformwyr megis dafydd howell ray gravel sue roderick a'i band clwb cymdeithasol cwmllynfell myrddin ap dafydd iwan llwyd ifor ap glyn a geraint lovegreen neuadd y gweithwyr cwmllynfell 'mynediad am ddim' pontardawe cyngherddau mawreddog cynhelir nifer o gyngherddau y mwyaf llwyddiannus yn gymysgedd o grwpiau gwerin e e `cwnnu hwyl' unigolion enwog e e dafydd iwan ac eitemau amrywiol gan blant ysgol yr ardal ers i'r fenter ddechrau y mae llawer wedi gofyn am help ynglyn â chywiro a chyfieithu arwyddion a helpu busnesau lleol gyda'i defnydd o'r gymraeg ar ragfyr ed lansiwyd ymgyrch cymreigeiddio busnesau menter aman tawe gan peter hain a s cydnabyddwyd gwaith y fenter trwy iddi ennill gwobr cyngor ieuenctid cymru hydref am drefnu'r daith i goncro'r copaon yn hydref aeth o bobl ifanc i gynrychioli'r fenter mewn cynhadledd i fyfyrwyr o genhedloedd a ieithoedd lleiafrifol yng ngwlad y basg yn ystod yr haf gweler isod ddyddiadur gweithgareddau mat dros gyfnod y prosiect ymchwil gweithgareddau menter aman tawe awst rhagfyr awst ydd fed pabell gan mat yn yr eisteddfod genedlaethol awst ed fed theatr ieuenctid y fenter yn perfformio priodas waed yn theatr fach y maes awst ed fed taith gwobr dug caeredin o bobl ifanc yn cwblhau eu medal arian yn norwy medi fed ailddechrau cynlluniau yn digwydd bob wythnos hoci bechgyn gloywi maesydderwen cwrs sglein adfer ystalyfera cyrsiau wlpan x gwobr dug caeredin gwobr dug caeredin allan o'r ysgol clwb blaenymaes clwb pêl fasged iau a hyn adran brynaman clybiau cynradd x cyrsiau cymraeg graenus clwb `blades medi eg trip i harry ramsdens i glywed y cwmni opera cenedlaethol medi ain cyfarfod â bwrdd yr iaith adran grantiau caerdydd medi ain tim hoci u menter aman tawe v penarth hydred il cyfarfod ' staff adran gymraeg ysgol cwmtawe hydref ed taith wersylla i'r plant hydref fed pwyllgor rhanbarth pontardawe is bwyllgor y fenter hydref fed cyfarfod gydag ymddiriedolaeth ystalyfera hydref cwrs ar chwaraeon a phlant morfa hydref pwyllgor pentref llandybie hydref fed tîm hoci u mat v penybont ar ogwr hydref ain seminar iaith gymraeg cyngor sir abertawe guildhall abertawe digwyddiadau teithiau hanner tymor menter aman tawe hydref ain sglefrio iâ' yng nghaerdydd aeth llond bws mini o bobl ifanc brynaman am daith diwrnod i gaerdydd hydref ain canolfan raff llangors dyma gyfle i o gefnogwyr ifanc menter aman tawe brofi'r wefr o ddringo dan do hydref ain taith arall i gaerdydd i gefnogi'r tîm hoci i' diawlied caerdydd hydref ain offer cyfieithu allan mewn tri man gwahanol am dridiau hydref ain gêm hoci gymysg tîm oedolion menter aman tawe v prifysgol aberystwyth hydref ain cyfarfod â chyngor sir caerfyrddin hydref ain cyfarfod â chyngor sir caerfyrddin hydref ain cyfarfod â llio silyn i drafod theatr ieuenctid y fenter ym tachwedd taith fynydda pobl ifanc rhyd ddu eryri tachwedd dau ddiwrnod o wersi cymraeg yn y gweithle i'r nationwide tachwedd fed tîm hoci v mat v ystumllwynarth tachwedd eg cyfarfod â chyngor chwaraeon cymru am grant tachwedd eg glo caled grwp drama brynaman yn neuadd y celfyddydau pontardawe tachwedd fed cyfarfod pentref llandybie tachwedd ain noson mat i godi arian i blant mewn angen tachwedd seminar gweithwyr ieuenctid tanybwlch maentwrog tachwedd ain ar log llandybie rhagfyr af taith gerdded mat rhagfyr ed cyfarfod cyngor sir gaerfyrddin rhagfyr ed peter hain yn lansio ymgyrch cymreigeiddio busnesau mat rhagfyr fed a'r fed penwythnos dringo i'r ieuenctid yn ardal aberhonddu ymlaen at ganlyniadau'r ymchwil a wnaed yn fwy o fanylion am fentrau iaith dychwelyd i dudalen gartref yr adran ymholiadau am y cynllun ymchwil cymunedol trwy e bost at evas cf ac uk ymholiadau cyffredinol am adran y gymraeg trwy e bost at scyfo cf ac uk cynhelir a chedwir y safle hwn gan jeremy evas evas cf ac uk tudalen gartref prifysgolcaerdydd tudalen gartref prifysgol caerdydd