bbci categories tv radio communicate where i live index search go mercher fed hydref geiriau yn unig radio cymru ar y we a y chwilota y diweddaraf newyddion chwaraeon y tywydd radio cymru yn fyw safleoedd ewch bbc homepage cymru'r byd » radio digwyddiadur beks cwrt cosbi y sîn roc eileen holi holi holi daf du amserlen sgwenwch atom gwnewch amserlen teledu amserlen radio e gardiau arolwg gwybodaeth ymateb arwydd y talwrn rhaglen gerallt lloyd owen y meuryn a trystan iorwerth cynhyrchydd caernarfon yn erbyn glannau llyfni amseroedd darlledu nos sul pnawn mawrth tîm caernarfon tîm glannau llyfni o rhyfelgri caernarfon llu ofnus glannau llyfni a'u swn gwag sy'n gwegian can's ffwlbri oedd meiddio ein herio ni 'mond cweir a geir gan gewri ifor ap glyn o rhyfelgri glannau llyfni pwy yw y rhain sy'n mentro i deyrnas ifan glyn yn fflachio'u gwag linellau o flaen ein gwych feu ryn rhyw gofis powld a'u geiriau bâs yn meiddio llygru bro'r lechen las pwy ydym ni sy'n aros i ymladd gyda sêl r'ym ni o'r un gwehelyth a hen dîm nantlle fêl fe safwn gyda'n gilydd fel un o'r nant i'r fron mae hyd 'noed el bandito'n rhy llwfr i'r garfan hon a phan ddaw awr y frwydr cawn weld pwy ddeil y straen y trefwyr meddal codog ynteu hogia bro'r llechfaen 'rôl awr o brysur bwyso 'rhen gofis fydd yn ffoi a'u cynffon rhwng eu coesau ar hyd ein ffordd osgoi nant yw'r enw lleol am bentref talysarn ifan glyn jones o englyn englyn ar gerdyn penblwydd heno un blewyn yn wynach heno un gannwyll yn drymach ond met rwyt yn aeddfetach na ddoe felly penblwydd iach nia owain ½ pwynt o englyn englyn ar gerdyn penblwydd yn oed dadfacha'r wedd a meddwi mae wyrion mae aur i'th fodloni ond hallt er dy ddathliad di heddiw yw cyfri'r blwyddi dafydd williams pwynt o pennill ymson mewn tafarn yma dwi'n boddi ngofidiau ar yr unfed awr ar ddeg fe ddaeth hi'n amser last orders a phawb yn uchel eu rheg er bod eu clegar yn hwyliog a'u hen lol fyfiol yn faith dwi yma yn boddi ngofidiau am mai estron ydy eu hiaith llinos angharad ½ pwynt o pennill ymson mewn tafarn mae 'mhen i'n hollti a mae'n llgada i'n groes a rhywrai'n bloeddio now's ddy fflipin owr mae'n siwr bod nhw 'meddwi ond nid oes neb wedi sylwi fy mod i ar lawr dim ond troi i mewn wel am ryw beint neu ddau a wnes er mwyn cael seibiant oddi wrth may a thorri sychad fymryn er bod rhai yn synnu 'ngweld i'n tw'llu y fath le does gen i'm syniad sut na chwaith ers pryd dois i orwedd dan y bwrdd na pham 'dwi'n dewis aros yma ar fy hyd ond felly mae hi a 'dw i'n malio dam mae'n brafiach o beth coblyn na'r cwt glo synhwyraf rywsut fod drws may ynghlo enid wyn baines pwynt o cywydd sgwrs rhwng dau glaf o 'rwy'n wael er na weli olwg dyn claf arnaf i er fy mod yn fy mlodau ac yn iach fel mil o gnau mae anaf mai yn fy mer un wyf fu'n caru'n ofer rwy'n syn o weld rhywun sal a dwyfoch fel dau afal nid y clinic yng nghriciath ydi'r fan i wrid o'r fath sbia gwelw ydw i yr ydwyf wedi priodi twm morus ½ pwynt o cywydd sgwrs rhwng dau glaf cymru dywed gyfneither erin a'r gwaed cyn rhated â'r gwin a drodd y corcyn o'r dryll dy safiad yn gyd sefyll na rodded iti'r heddwch sy'n lladd emosiwn y llwch iwerddon chwaer genedl paid ag edliw y lladd sy'n dangos ein lliw a byr iawn fydd dy barhad yn niwylliant cynulliad onid ef ddewin dwyfor a droes ein map dros ein môr john hywyn pwynt o cân yr aduniad mae'r wyneb yn weddol gyfarwydd duw dewi be gym'di peint ie neu'n syth am yr hen bethau bychain croeso i aduniad y seintie hei dwynwen sut wyt ti erstalwm a be 'di dy hanes rhen chwaer wel dwi'n brysur yn helpu cariadon dwi 'di agor siop ryw draw yng nghaer hi there d'you know me that's right illtud lost my welsh well i'd no need for it changed my name for the sake of my new friends now everyone just calls me twit mae padi'n foi mawr draw yn werddon aeth mihangel i chwarae 'fo sven a bu beuno'n help mawr i gwenffrewi ar ol iddi golli ei phen ie da ydi gweld yr hen ffrindiau heb gyfarfod ers dwn i ddim faint mi aethom drwy lot efo'n gilydd ond sgwn i pwy na'th ein galw'n i'n saint geraint lovegreen pwynt o cân yr aduniad lis wel helo bertie dear dyma fi wedi cyraedd o'r diwedd mae'n braf cael dod atat ar ôl hanner can mlynedd bertie wel elizabeth darling dydw i ddim yn deall ro'wn wedi cymryd ers talwm dy fod wedi mynd i'r lle arall lis wyt ti ddim yn falch o ngweld i wedi'r holl flynyddoedd beth fuost ti'n wneud'ma dy hun yn y nefoedd bertie o'r bore'r cyrhaeddais bum yn brysur iawn mae'r dyddiadur sydd gen i bob amser yn llawn lis paid a meddwl 'mod inna' wedi bod yn segura 'roedd hi'n straen cadw trefn a thithau byth adra bertie fe dreuliais flynyddoedd fel adyn ar ffo nes ces gwmni angyles rhyw marilyn monroe lis alla'i ddim credu hyn mi rois f'oes i alaru a chadw 'high profile' fel matriarch y teulu bertie ond 'nôl straeon ddaeth yma roeddet ti'n llowcio 'bubblies' ac yn betio treftadaeth i gyd ar y ji jis lis dihangfa o'r palas oedd hynny dyna'i ti gehena 'dwi 'di cyraedd trwy uffern ar fy nhaith fyny yma bertie mi fydd heddwch yma lis 'does dim 'royals 'yn fan'ma dim ond un dywysoges fach o'r enw diana ifan glyn jones pwynt o englyn cywaith yfory neithiwr mi welais liw'r anoethau a rhin rhiannon ein dyddiau heddiw mae'n dal heb faddau i'w mab a'i lliw'n ymbellhau neu bu adda'n chwilio amdano bar o aur mor brin nad oes eto o rhyd i golorado un dyn wedi'i dwtsiad o ifor ap glyn ½ pwynt o englyn cywaith yfory daw huwcyn defyn pob dydd i hybu fy ngobaith o'r newydd a'i freuddwyd hyd foreddydd am wawr weu rhyw gymru rydd john hywyn pwynt o limrig yn ymwneud â theithio pan es i ar daith i hong kong o'n i'n gwbod fod rwbath yn rong pan glywais ein bod ni ddeng mil o droedfeddi yn yr awyr a ninnau ar long geraint lovegreen pwynt o limrig yn ymwneud â theithio tra'n gyrru fy nhgerbyd i'r groeslon gan weithio ar dasgau'r ymryson es yn erbyn y wal ac yno dw i'n dal yr un math o beth 'di concyshion dafydd williams ½ pwynt ateb llinell ar y pryd gwr gwyllt yn gyrru o'i go' yw hwnnw na ddaeth heno ½ pwynt ateb llinell ar y pryd gwr gwyllt yn gyrru o'i go a'i geffyl i langaffo ½ pwynt telyneg wedyn yn ôl y chwedl roedd noa a'i hiliogaeth i gyd yn gadwedig mewn arch etholedig pan foddwyd y byd blinodd ar y bywyd mewnblyg a'i gecru bas anfonodd golomen ar y donfedd ddirgel tua'r erwau glas cyrchodd un ddeilen olewydden yn ôl yn ei gylfin cyn ffarwelio i eni a chwtsio'i rhai bach ar y brigyn a heno ger glannau'r fenai ac ymchwydd ton hedyn ar adain hyder yw'r bererindod hon gwyn erfyl ½ pwynt englyn ar y pryd troed mae ôl troed ar ymyl traeth fel ewin diflannu a hiraeth fyddai imi yn gwmniaeth ond gwn i pa dwed a'i gwnaed ½ pwynt cyfanswm marciau ½ pwynt ymgeision eraill limrig yn ymwneud â theithio trafaelio y byd a wnai barbra a hynny o'i chartre' yn besda iddi hi nid peth ffol oedd ishio dod nôl a g'neud hyn cyn mynd yn 'lle cynta telyneg wedyn pum mlynedd llwm o warchod wylio llwyn yn tyfu pum gwanwyn o ddyheu am flodyn ar fagnolia yna un tachwedd blin blaguryn ac wedyn ganol ebrill rhwygodd o'i blisgyn melfed y cwpan gwyn o borslen a'i waelod gwaddodd gwin dro ar ol tro blodeuodd y pren mor driw â'r wawr aeth ugain yn ugeiniau collais gyfrif gan amled y llestri llon eleni fel bob blwyddyn dan gysgod gwyrdd y dail daeth hiraeth am y wledd ond cyn pen dim daw blagur ac wedyn daw y blodau daw cannoedd o gwpanau yn feddw ar addewid minnau a genais gân enid wyn baines pwynt englyn ar y pryd troed i david droed ddu rhedai a rhedai yn rhydd o'i ollwng a'r ellyn ar drywydd ai deifio a wnaeth dafydd neu grymu crafu cic rydd pwynt cyfanswm marciau pwynt adffs ewch yn fyw amserlan sgwenwch aton ni digwyddiadur radio cymru be sy'n digwydd ar hyd a lled cymru beks yn troi ymhlith y selebs desg gymysgu john hardy bywyd yn y cwrt cosbi gang bangor cadw golwg ar y sîn daf du croeso desg gymysgu eileen cipolwg o'r hyn sy'n digwydd ym mywyd eileen holi holi holi beks yn ateb ein cwestiynau terms conditions privacy