bbci categories tv radio communicate where i live index search go mercher fed hydref geiriau yn unig chwaraeon bbc cymru'r byd a y chwilota y diweddaraf newyddion chwaraeon y tywydd radio cymru yn fyw safleoedd ewch bbc homepage cymru'r byd chwaraeon » pêl droed y gynghrair genedlaethol abertawe caerdydd wrecsam pêl droed eraill rygbi clybiau rhyngwladol chwaraeon eraill canlyniadau'r penwythnos gwnewch amserlen teledu amserlen radio e gardiau arolwg gwybodaeth ymateb dau dîm o fangor yn ewrop merched bangor yn dathlu eu buddugoliaeth yng nghwpan cymru bydd dau dîm pêl droed o fangor yn herio goreuon ewrop yng nghwpanau uefa tymor nesaf tra bydd tîm dinas bangor yn teithio i yugoslafia i wynebu fc sartid bydd tîm merched bangor hefyd yn pacio'r pasport a'r esgidiau pêl droed bydd cpd merched dinas bangor yn darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr ar yr achlysur hanesyddol yma pan ddaw'r enwau allan o'r het yn nyon swisdir ddydd llun gorffenaf wedi buddugoliaeth o yn erbyn casnewydd yn rownd derfynol cwpan cymru tymor diwethaf bydd bangor yn cynrychioli cymru yng nghwpan uefa y merched dyma fydd ail dymor cwpan uefa y merched llynedd roedd ffc frankfurt o'r almaen yn fuddugol yn erbyn umea ik o sweden yn y rownd derfynol o flaen torf o yn waldstadion frankfurt eleni bydd o glybiau yn yr het ar gyfer y gwpan gyda chlybiau o azerbaijan cyprus estonia gogledd iwerddon gweriniaeth iwerddon romania a chymru yn cystadlu am y tro cyntaf mae'r rownd gyntaf yn cynnwys grwp â tîm ym mhob grwp bydd chwe chlwb yn gorfod chwarae gêm ragbrofol i gyrraedd y rownd gyntaf keith fearns rheolwr tîm merched bangor mae rheolwr bangor keith fearns yn gobeithio bydd bangor yn methu'r rownd rhagbrofol er mwyn sicrhau o leiaf tair gêm a hefyd yn gobeithio bydd y clwb yn wynebu timau o du allan i brydain buasai'n ofnadwy wedi cael chwarae yng nghwpan uefa i orfod teithio i lundain i wynebu arsenal meddai fearns roedd arsenal yn fuddugol yn erbyn bangor yng nghwpan fa lloegr yn nhymor rydym yn gobeithio am drip tramor buasai gweld bangor yn erbyn lazio er enghraifft yn anhygoel meddai nid yw siwan elenid chwaraewr canol cae â'r clwb yn poeni yn ormodol pwy fydd bangor yn wynebu mae rhai o'r gwledydd o safon uwch o lawer na ni gwledydd scandinafia yr almaen a'r eidal meddai buasai'n anodd iawn curo tîm o'r gwledydd hynny ond wedi teithio i ynysoedd y faeroe awstria groeg iwerddon a'r alban fel aelod o dîm cymru rwy'n teimlo'n hyderus buasai bangor yn gallu cystadlu â'r gwledydd yma mae manon lloyd williams ymosodwr y clwb a chwaer ymosodwr tîm y dynion marc lloyd williams yn cytuno rwy'n timlo buasai'r merched yn hyderus yn wynebu tîm o awstria iwerddon neu wlad pwyl meddai wedi chwarae yn erbyn y gwledydd yma tra'n cynrychioli cymru buaswn yn ffyddiog iawn o allu cipio buddugoliaeth yn erbyn eu clybiau mae manon dorrodd ei choes tra'n chwarae yn erbyn lerpwl llynedd yn gobeithio bod yn holliach ar gyfer y gemau bydd yn brofiad gwych i chwarae yn ewrop yn enwedig gan mai bangor fydd y clwb cyntaf o gymru i wneud hyn clybiau fydd yn cystadlu yng nghwpan uefa y merched fcl kilmarnock o alb ffc frankfurt o alm iac fc tiroler loden o awt gomrukçu baku o aze ksc eendracht aalst o bel fc bobruichanka o bls znk osijek o cro lefkothea o cyp cpd merched dinas bangor o cym fortuna hjørring o den s s lazio femminile o eid levante ud o esp tksk visa tallinn o est kÍ klaksvík o far hjk helsinki o fin toulouse fc o fra lisburn distillery predators wfc o giw fc paok thessaloniki o gro fc femina o hun breidablik o ia saestum o ise fc maccabi haifa o isr shamrock rovers ladies fc o iwe arsenal ladies fc o llo fc codru anenii noi o mol trondheims Ørn sk o nor su dezembro o por ks azs wroclaw o pwl club to be confirmed o rom csk vvs samara o rws ac sparta praha o sie znk skale mila o slo fc sursee o swi umeå ik o swe zfk masinac classic ni o yug chwaraeon chwaraeon chwaraeon arrow pêl droed y gynghrair genedlaethol arrow rygbi arrow chwaraeon eraill mwy o chwaraeon o bbc cymru saesneg gwnewch arrow e bostiwch eich sylwadau colofn dylan ebenezer colofn dylan ebenezer chwaraewr y mis chwaraewr y mis hwyl yn helsinki dilyn cymru yn croatia ewro grwp cynghrair bêl droed cymru ch pt port talbot bangor tns cwmbran lido afan cei conna y barri aberystwyth y rhyl llanelli y drenewydd y trallwng hwlffordd caernarfon croesoswallt cefn caersws caerfyrddin terms conditions privacy