beth yw gwarchod data diben deddfwriaeth gwarchod data yw sicrhau nad yw data personol yn cael eu prosesu heb wybodaeth a chaniatâd gwrthrych y data ac eithrio mewn rhai achosion arbennig sicrhau bod data personol a brosesir yn gywir a gweithredu nifer o safonau ar gyfer prosesu gwybodaeth o'r fath yn wahanol i'r ddeddf flaenorol mae deddf yn ymwneud â data sydd mewn ffeiliau papur yn ogystal â ffeiliau cyfrifiadurol er nad yw'r holl ddarpariaethau'n berthnasol yn syth yn achos ffeiliau papur sy'n bodoli eisoes fodd bynnag polisi'r brifysgol yw sicrhau y bydd pob cofnod cyn belled ag y bo modd yn cydymffurfio â darpariaethau'r ddeddf mae gan wrthrychau data yr hawl i wirio dilysrwydd y data a gedwir amdanynt gan brifysgol cymru bangor drwy gyflwyno cais ysgrifenedig i'r swyddog gwarchod data a thalu'r tâl gofynnol gall gwrthrych y data gael copi o'r holl ddata a gedwir amdano amdani ceir copi o'r ffurflen briodol i wneud cais am weld data drwy glicio yma am y fersiwn pdf ac yma am y fersiwn word a ceir y trefniadau ar gyfer gwneud cais or fath yma ar gyfer y fersiwn pdf ac yma ar gyfer y fersiwn word mae pcb yn hapus i dderbyn cysywllt cychwynnol yn ymwneud â chais gwrthrych data am weld y data mewn modd electronig i wneud hyn cliciwch yma unwaith bydd eich cais wedi ei dderbyn bydd rhaid i ni gysylltu â chi i wirio eich cais ac i gasglu'r tal felly byddem yn ddiolchgar pe baech yn cynnwys cyfeiriad post o fewn eich llyth el ar hyn o bryd nid yw pcb yn darparu'r wybodaeth mewn modd electronig mae rhai mathau o ddata personol wedi eu heithrio o ddarpariaethau'r ddeddf ac mae rhai eithriadau i hawl mynediad gwrthrych y data mae llawlyfr gwarchod data pcb fersiwn pdf yma a fersiwn word yma yn nodi'n fyr oblygiadau ymarferol y ddeddf i staff myfyrwyr ac ymwelwyr ym mhrifysgol cymru bangor gweinyddir gofynion y ddeddf gan swyddog gwarchod data pcb a gweinyddwr gwarchod data pcb cliciwch yma i gysylltu a thîm gwarchod data pcb sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd y cyfarwyddwr gwasanaethau gwybodaeth dylid cysylltu'n gyntaf â'r swyddog gwarchod data tudalen hafan gwarchod data diweddarwyd y dudalen gan gwenan owen eg ionawr