yn ôl i'r dudalen flaen rhai agweddau ar annibyniaeth pam ydym ni yn annibynwyr wrth ystyried y cynllun i uno'r enwadau a sefydlu eglwys unedig cymru rhaid inni ofyn i'n hunain a ydym am beidio â bod yn annibynwyr ond ni ellir ateb y cwestiwn hwnnw heb yn gyntaf ofyn pam yr ydym yn annibynwyr ac yn hyn o beth mae'n werth inni atgoffa ein hunain o'n hanes a'n hegwyddorion ymhob oes fe gostiodd yn ddrud i arloeswyr enwadol sefyll yn erbyn y llif a datgan eu hymlyniad wrth egwyddorion a gyfrifid yn heriol a bygythiol gan sefydliad crefyddol eu dydd dro ar ôl tro o ganrif i ganrif o wlad i wlad gwireddwyd geiriau proffwydol awdur y llythyr at yr hebreaid sy'n sôn am rai a brofodd watwar a fflangell ie cadwynau hefyd a charchar fe'u llabyddiwyd fe'u torrwyd â llif fe'u rhoddwyd i farwolaeth â min y cledd crwydrasant yma ac acw yn anghenus yn adfydus dan gamdriniaeth dynion nad oedd y byd yn deilwng ohonynt heb nid oes angen inni edrych ymhellach na hanes cynnar ein henwad ein hunain i weld enghreifftiau lu o rai a ddioddefodd yn enbyd o ganlyniad i'w hamharodrwydd i gyfaddawdu mewn perthynas â'u hargyhoeddiadau bu chwarter canrif yr erlid mawr o hyd yn gyfnod poenus i ymneilltuwyr cymru bedyddwyr a chrynwyr yn ogystal ag annibynwyr cawsant ei dirwyo'n gyson ac yn drwm atafaelwyd eu heiddo ac fe'u carcharwyd mae'r frawddeg gynnil a ailadroddir yn fynych yn llyfr eglwys trefgarn owen yn dweud y cyfan hugh harries cruglas gaoled at haverfordwest a fyddai'r bobl hyn wedi ymfodloni i ymostwng dan iau y fath orthrwm creulon oni bai eu bod yn gwbl argyhoeddedig fod yr egwyddorion a oedd yn sail i'w safiad yn rhai oedd yn unol ag ewyllys duw etifeddiaeth o ystyried y pris a dalwyd gan y tadau ymneilltuol er mwyn sicrhau'r rhyddid yr ydym ni yn ei fwynhau a yw hi'n iawn i'n cenhedlaeth ni ddibrisio eu haberth a chyfrif yn ddibwys yr egwyddorion y bu iddynt hwy ymdrechu i'r fath raddau i'w hamddiffyn o gofio geiriau iesu eraill sydd wedi llafurio a chwithau wedi cerdded i mewn i'w llafur ioan onid oes arnom gyfrifoldeb i warchod yr etifeddiaeth a dderbyniasom ond beth yw'r etifeddiaeth honno beth yw'r egwyddorion y dylem fod mor ofalus ohonynt dyma'r cwestiwn allweddol oherwydd cyn y gallwn ni benderfynu a ydym am warchod yr ystâd ai peidio rhaid inni fod yn gwbl sicr ein bod yn gwybod beth yw hyd a lled yr ystâd honno a ydym yn annibynwyr o argyhoeddiad ar un ystyr peth chwithig iawn yw awgrymu wrth annibynwyr eu bod yn anwybodus yng nghyswllt hanfodion eu henwadaeth ond rhaid wynebu realiti'r sefyllfa er hyfryted byddai ymffrostio ein bod i gyd yn annibynwyr o argyhoeddiad ysywaeth nid dyna'r gwir ac felly mae'n ofynnol inni olrhain ein tras enwadol ac egluro beth yn union yw'r egwyddorion y dylem eu coleddu os ydym am fod yn ffyddlon i'n gorffennol ac os ydym am barhau i fyw yn unol â'n traddodiadau rhag i neb gamddeall nid dweud yr wyf y dylem sefyll dros rai pethau dim ond am fod y tadau wedi sefyll drostynt nid fy mwriad yw argymell y dylem ni gredu fel y credai'r tadau heb ein bod yn cydnabod yr un cynseiliau i'r hyn a gredwyd ac a gredir rhaid prysuro i ychwanegu un peth arall cyn symud ymlaen wrth ddatgan ynghynt nad yw y mwyafrif ohonom yn annibynwyr o argyhoeddiad nid yn ddilornus nac yn wir yn feirniadol y dywedwyd hynny yn fy mhrofiad i er nad yw trwch aelodaeth ein heglwysi yn alluog i egluro ar air pam eu bod yn annibynwyr eto i gyd mae traddodiad cenedlaethau wedi gadael ei ôl arnynt hefyd mae llawer o'r hyn a ddywedwyd yn eu clyw pan oeddent yn ifanc pethau nad oeddent yn eu deall ar y pryd a draethwyd gan weinidogion a diaconiaid a hoelion wyth yr achos mae hynny wedi ymdreiddio i'r isymwybod y canlyniad yw er nad allant esbonio mewn geiriau pam eu bod yn annibynwyr eto mae rhywbeth o'u mewn yn dweud wrthynt nad allant fyth fod yn ddim arall ond annibynwyr egwyddorion beth felly sy'n nodweddu'r annibynwyr a beth yw'r egwyddorion sy'n sail i'r nodweddion sy'n ein gosod ni ar wahan i'n cyd gristnogion mewn enwadau eraill mewn gair rhyddid a'r gwerth a roddwn ar y cysyniad hwnnw rhyddid i addoli yn ôl ein cydwybod rhyddid i drefnu ein heglwysi yn ôl ein dealltwriaeth ni o'r beibl rhyddid rhag ymyrraeth o'r tu allan gan awdurdodau eglwysig a gwladwriaethol fel ei gilydd adlewyrchir hyn i gyd yn yr enw a arddelir gennym sef annibynwyr ceir dwy ffurf ar yr enw fe'n gelwir ni yn annibynwyr a'r cynulleidfaoedd y perthynwn iddynt yn eglwysi annibynnol annibyniaeth hawdd deall y cysyniad o eglwys annibynnol yn gymaint â bod pob eglwys unigol yn uned sy'n llywodraethu ei hun yn annibynnol ar bob sefydliad arall ond mae'r term annibynnwr annibynwyr sy'n dynodi aelodau'r cyfryw eglwysi yn golygu mwy nag aelod au o gorff annibynnol yn unig cynulleidfa o annibynwyr yw eglwys annibynnol yn yr ystyr fod pob aelod unigol yn atebol i dduw yn bersonol ac nid oes nag offeiriad na chyfundrefn eglwysig a saif rhyngddo ef a'i arglwydd yn y cyswllt hwn gwerth nodi bod enw arall wedi bod yn boblogaidd mewn oes a fu sef anymddibynwyr dyma'r term a ddefnyddid gan yr hanesydd enwadol david morgan machynlleth llanfyllin yn hanes ymneillduaeth ac fe welir yr enw hyd heddiw ar fur allanol festri saron rhyd y fro y ty cwrdd gwreiddiol mynegiant yw'r term anymddibynwyr o ddyfnder yr argyhoeddiad nad yw'r credinwyr yn gorfod dibynnu ar neb na dim yn eu perthynas â'u duw cydnabyddir annibyniaeth yr unigolyn oddi mewn i'r eglwys annibynnol drwy beidio â mynnu gan yr aelod unigol ymlyniad wrth unrhyw gredo na chyffes ffydd o wneuthuriad dynol perchir argyhoeddiad personol yr aelod ac ni ofynnir mwy ganddo yn y cyswllt arbennig hwn na chyffes yr eglwys fore sef iesu yw'r arglwydd eglwys gynnull o annibynwyr yw'r eglwys annibynnol cwmni o gredinwyr wedi eu galw allan o'r byd gan dduw i fod yn gynulleidfa o bobl sydd â'u bryd ar wasanaethu'r arglwydd nid oes iddi sail ddaearyddol megis ag sydd gan yr eglwysi plwyf yn hytrach fe'i ffurfir gan bobl o gyffelyb ffydd ac argyhoeddiad yn dod at ei gilydd o'u gwirfodd eu cymhelliad yw ymddiriedaeth yn nilysrwydd addewid iesu lle mae y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i yr wyf yno yn eu canol mat i'r annibynnwr presenoldeb crist yw nod amgen eglwys a phan ei fod ef yn bresennol gyda'i bobl mae'r eglwys yn gyflawn ac nid oes angen dim arall arni i'w gwneud yn gorff crist ar y ddaear o'r herwydd dan arweiniad gair duw mae ganddi warant i ddod i ba benderfyniadau bynnag y gwêl yn dda i'w cymryd heb orfod ymgynghori â neb o'r tu allan iddi cynulleidfaoliaeth mae gwedd arall ar dystiolaeth yr annibynwyr sef cynulleidfa­ oliaeth ni chafodd yr enw hwn yr un safle yn ein plith ni'r cymry cymraeg ag a gafodd ymysg y saeson annibynwyr ydym ni tra bod ein brodyr a chwiorydd saesneg eu hiaith yn congregationalists wedi dweud hynny mae rhai o'n heglwysi yn arddel yr enw eglwys gynulleidfaol yn hytrach nag eglwys annibynnol diddorol nodi fodd bynnag fod aelodau'r eglwysi hynny yn cyfeirio atynt eu hunain fel annibynwyr yn hytrach na chynulleidfaolwyr er nad yw mwyafrif ein heglwysi yn galw eu hunain yn eglwysi cynulleidfaol mae egwyddorion cynulleidfaoliaeth yn hollbwysig yn eu golwg yn yr un modd ag yr ydym yn ymwrthod ag unrhyw ymgais i orfodi awdurdod unbenaethol o'r tu allan 'rydym yn ymgadw hefyd rhag y posibilrwydd i hynny ddigwydd oddi mewn i'r eglwys er bod swyddogion etholedig yn yr eglwysi nid oes ganddynt yr hawl i wneud dim ond a ganiateir iddynt gan y gynulleidfa drwy'r cwrdd eglwys cwrdd eglwys y cwrdd eglwys yw'r corff sy'n gweinyddu awdurdod y gynulleidfa mae gan bob aelod hawl gydradd i fynegi barn a bwrw pleidlais ond os yw aelod unigol yn anghytuno ag unrhyw un o benderfyniadau'r cwrdd eglwys cydnabyddir y dylid parchu ei farn y rheswm am hynny yw ein bod yn addef y gall y gynulleidfa mewn cwrdd eglwys wneud camgymeriadau gall cant namyn un fod o blaid rhywbeth neu ei gilydd ac un llais unig yn datgan barn i'r gwrthwyneb ond efallai mai'r person hwnnw fydd yn iawn rhaid pwysleisio un peth sef nad democratiaeth yw'r drefn gynulleidfaol enw mwy priodol fyddai theocratiaeth gan mai ceisio dirnad barn duw ar y mater dan sylw a wna'r cwrdd eglwys a hynny yn llawn hyder ffydd y bydd i'r ysbryd glân roi arweiniad i'r aelodau a'u helpu i ddod i'r penderfyniad iawn cyfamod eglwysig dyma'r meddylfryd sydd wrth wraidd y cyfamod eglwysig yr ydym ni fel annibynwyr yn ei arfer yr ydym yn rhoi ein hunain i'r arglwydd ac yn ymgyfamodi yn ei bresenoldeb ef i gydgerdded yn ôl ei air ef fel y rhydd yr ysbryd glân inni oleuni y cyfamod eglwysig yw sail hynny o gyfundrefn sy'n eiddo i eglwysi annibynnol rhaid i bob corff gael rhyw fath o gyfansoddiad cydnabyddedig er mwyn i bawb wybod yn union pa fath o gorff ydyw o'r cychwyn cyntaf oll seiliodd yr annibynwyr eu heglwysi ar gyfamodau o'r fath er nad oes gorfodaeth wrth reswm ar unrhyw eglwys i ddefnyddio ffurf neilltuol ar gyfamod eglwysig mae pob eglwys yn rhydd i ddewis ei geiriad arbennig ei hun mae'n drawiadol fod mwyafrif helaeth yr eglwysi wedi mabwysiadu'r ffurf a nodwyd awdurdod y gair mae'r cymal yn y cyfamod eglwysig sy'n sôn am gydgerdded yn ôl ei air ef yn allweddol holl bwrpas bodolaeth eglwys annibynnol yw gwasanaethu crist a chyflawni ei ewyllys dan gyfarwyddyd yr ysbryd glân drwy bregethiad y gair ffynhonnell pob awdurdod yn yr eglwys annibynnol yw'r ysgrythurau gair duw yn y beibl yw unig reol ffydd a buchedd yr annibynnwr gan hynny nid oes dim na neb arall a all osod arnom delerau ein tystiolaeth a'n hymarweddiad awdurdod y gweinidog bwysiced yn nhyb yr annibynwyr yr awdurdod sy'n deillio o'r beibl bwysiced clywed a deall a dehongli yn gywir lais yr arglwydd yn yr ysgrythurau nes ein bod o'r cychwyn cyntaf wedi rhoi pwys mawr ar weinidogaeth ddysgedig o'r pwyslais hwn ar ddysg y gweinidog y tarddodd ei awdurdod ar yr olwg gyntaf mae'r syniad o weinidog yn meddu ar awdurdod yn ymddangos yn rhyfedd iawn yn y cyd destun annibynnol ond rhyfedd neu beidio bu'r cysyniad hwn yn rhan o ddamcaniaeth eglwysig yr annibynwyr o'r dechrau un peidied neb â chamddeall nid sôn yr ydym am awdurdod sy'n deillio o berson na swydd na safle y gweinidog ei hun na awdurdod yw hwn a ddirprwyir i'r gweinidog gan gorff yr aelodaeth wrth ei alw i wasanaethu yn eu plith beth yw natur yr awdurdod hwn awdurdod y beibl ydyw a phan fo'r gweinidog yn annog pobl ei ofal i fyw yn ôl yr hyn a ddywed wrthynt tra bod sylwedd ei genadwri yn unol â dysgeidiaeth y beibl mae'n ddyletswydd ar yr aelodau i ufuddhau i'w orchymyn ac ymostwng i'w awdurdod ni fu yn broblem i annibynwyr blygu i awdurdod y gweinidog am y rheswm nad un a orfodwyd arnynt o'r tu allan ydoedd y gynulleidfa drwy gyfrwng y cwrdd eglwys sy'n dewis ac yn galw'r gweinidog yr eglwys hefyd sy'n ordeinio ac yn sefydlu'r gweinidog ac nid rhyw gorff allanol gweinidogaeth yr holl saint er bod gan y gweinidog awdurdod nid yw ei safle o fewn yr eglwys yn wahanol i unrhyw aelod arall yn wahanol i lawer enwad arall nid oes gennym ni urdd o weinidogion sydd â'r gallu a'r hawl i wneud rhai pethau sydd y tu hwnt i'r aelodau cyffredin er bod rhai swyddogaethau yn cael eu neilltuo'n arferol i ofal gweinidogion gorchwylion megis gweinyddu'r sacramentau claddu a gweinyddu mewn priodasau eto mae'n bwysig cofio nad oes yr un o'r pethau hyn nas gellir eu cyflawni gan unrhyw aelod a ddewisir gan y cwrdd eglwys credwn yn ddi ildio yn egwyddor gweinidogaeth yr holl saint i rywun na sy'n gyfarwydd â'n harferion ni fel annibynwyr gellid yn hawdd dybio o ddarllen sylwadau fel y rhain mai pobl ynysig a phlwyfol ydym ond nid oes dim sy'n bellach o'r gwir o'r cyfnod cynharaf mae'r annibynwyr wedi bod yn awyddus i gynnal perthynas ag eglwysi eraill mewn gofalaethau lleol cyfundebau sirol o fewn undeb yr annibynwyr a thu hwnt i ffiniau enwad yn ogystal y dewis sydd yn ein hwynebu bellach daw galwadau arnom i roi sêl ein bendith ar gynllun y pwyllgor cydenwadol a fu yn ystyried y posibilrwydd o uno'r enwadau ond beth bynnag a ddywed y ddogfen eglwys unedig cymru y ffordd ymlaen enwad yn meddu ar awdurdod canolog fydd eglwys unedig cymru ac os ymunwn â'r enwad hwnnw byddwn yn gwadu ein hannibyniaeth ac yn cefnu ar ein cynulleidfaoliaeth a ydym am wneud hynny aled ap gwynedd cynnwys clicier ar y botymau aur datganiad cyflwyniad pwysigrwydd annibyniaeth eglwysig a rhagymadrodd b dadleuon ysgrythurol c y dystiolaeth annibynnol ch ymateb penodol i'r ddogfen eglwys unedig cymru y ffordd ymlaen rhai agweddau ar annibyniaeth y ffordd ymlaen dogfen drafod arall cysylltiadau ar y we yn ôl i'r dudalen flaen yn ôl i ben y dudalen