y cyngor ar ynys môn cliciwch ar y logo i ddychwelyd i fynegai yr adran submit adroddiad terfynol gan dîm cynnal perfformiad yr idea improvement development agency chwefror amcanion corfforaethol a s aelod o'r cynulliad ac a s e cadeirydd y cyngor cyllid a thecholeg gwybodaeth cynghorau chymuned a thref cyngor sir ynys môn cynghorwyr cynllun corfforaethol cynllun cymunedol cynllun datblygu unedol cynllun gwella etholiadau gwasanaethau ac adrannau gwerth gorau llythyr archwilio blynyddol y cyngor papur cymunedol newyddion môn prif bolisïau'r cyngor pwyllgor safonau pwyllgorau dyddiadur rhaglenni a chofnodion safleoedd gwê eraill swyddi a pholisïau personél tîm rheoli y drefn gwyno cynllun iaith gymraeg a baratowyd dan ddeddf yr iaith gymraeg cyngor sir ynys môn gweithredu'r cynllun staffio er mwyn sicrhau gwasanaeth cyfartal yn y gymraeg a'r saesneg i'r cyhoedd sy'n ymweld â swyddfeydd y cyngor neu adeiladau cyhoeddus eraill sydd yn eiddo iddo e e canolfannau hamdden bydd angen sicrhau bod y swyddogion hynny y mae'n rhesymol i ddisgwyl iddynt siarad gyda'r cyhoedd fod yn medru delio â'r cyhoedd yn eu dewis iaith bydd y cyngor yn sicrhau y bydd gweithleoedd o fewn yr awdurdod sydd â chysylltiad â'r cyhoedd yn cynnwys swyddog ion dwyieithog digonol gan gynnwys dysgwyr sy'n gallu cyfathrebu yn gymraeg a saesneg hyd at lefel sydd yn dderbyniol i ofynion y swydd fel bod gwasanaeth yn gymraeg neu yn saesneg ar gael i'r cyhoedd bydd y gymraeg un ai yn gymhwyster 'hanfodol' neu'n 'fanteisiol' ar gyfer pob swydd o fewn y cyngor bydd swyddogion a gyflogir ar y switsfwrdd yn swyddogion dwyieithog bydd y cyngor yn sicrhau bod pob galwad allanol yn cael ei hateb gyda chyfarchiad dwyieithog ar y switsfwrdd a hefyd ar estyniadau unigol bydd rhai swyddi lle na fydd eu deiliaid yn dod i gysylltiad â'r cyhoedd serch hynny oherwydd natur rhai o'r swyddi hyn bydd gofyn i'r deiliaid fod yn ddwyieithog er mwyn cyflawni eu dyletswyddau yn achos rhai swyddi eraill lle na fydd y swyddogion yn dod i gysylltiad â'r cyhoedd a lle na fydd y gallu i siarad cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd bydd y swyddogion hynny yn cael eu hannog i ddysgu cymraeg er mwyn hwyluso'r cydweithio gyda staff o fewn eu hunedau adrannau a rhwng adrannau yn gyffredinol yn hynny o beth wrth lunio pob disgrifiad swydd rhoddir ystyriaeth i'r angen am fedrusrwydd ysgrifenedig a llafar yn y gymraeg gofynnir i bob cyfarwyddwr gwasanaeth ystyried yn ofalus natur a dyletswyddau y swyddi unigol sydd o fewn eu cyfrifoldebau gyda golwg ar bennu lle mae hi'n reidrwydd i ddeiliaid y swyddi hynny fod yn swyddogion dwyieithog dylid cyflwyno'r wybodaeth hynny i'w gymeradwyo gan yr is bwyllgor staff dylai'r wybodaeth hon lywio anghenion recriwtio i'r dyfodol a sefydlu blaenoriaethau o agwedd darparu cefnogaeth a hyfforddiant i ddeiliaid presennol y swyddi hynny sydd ddim ar hyn o bryd yn rhugl yn y gymraeg dysgu cymraeg nod y cyngor yw darparu cyrsiau addas ar bob lefel i gryfhau sgiliau ieithyddol y staff er mwyn gwireddu'r cynllun rhoddir anogaeth gref i bob swyddog o fewn y cyngor ddysgu cymraeg bydd y math o gwrs a gynigir yn fater i'r cyngor ei drafod gyda'r swyddog dan sylw gall amrywio o gyrsiau ar gyfer dechreuwyr pur i gyrsiau gloywi ysgrifenedig i'r rheiny sy'n rhugl yn y gymraeg ar lafar rhoddir blaenoriaeth i'r swyddogion hynny y mae'n ofynnol iddynt siarad cymraeg er mwyn cydymffurfio â'u disgrifiad swydd neu amod cyflogi a hefyd i ddechreuwyr sydd yn dod i gysylltiad â'r cyhoedd darperir cyrsiau addas ar gyfer dysgwyr ynghyd â chefnogaeth yn y gweithle darperir hyfforddiant addas ar gyfer swyddogion dwyieithog sydd eisiau gwella safon eu cymraeg ysgrifenedig cyfarwyddwr y gwasanaethau canolog fydd yn gyfrifol am arolygu'r darpariaethau dysgu cymraeg darperir hyfforddiant arbenigol hefyd mewn meysydd penodol sydd yn berthnasol i waith y cyngor bydd pecyn o ddeunydd addas ar gael ar gyfer pob adran gan gynnwys meddalwedd cysill coleg prifysgol bangor cyn belled ag y bydd adnoddau ariannol yn caniatau recriwtio mewn achos lle bydd y gymraeg yn sgil hanfodol ar gyfer swydd bydd y swydd yn cael ei hysbysebu felly gan nodi y bydd disgwyl i berson di gymraeg o'i b phenodi i'r swydd ddysgu'r iaith gyda phob cymorth gan y cyngor o fewn cyfnod o ddwy flynedd a hynny i safon lle gall siarad yr iaith yn ddigon da i gyflawni dyletswyddau ei swydd yn effeithiol bydd cyfarwyddwr y gwasanaethau canolog yn gyfrifol am arolygu datblygiad ieithyddol swyddogion o'r fath gan adrodd yn rheolaidd i'r is bwyllgor polisi dwyieithrwydd ar y mater yn achos ymgeiswyr am swyddi gyda'r gymraeg yn gymhwyster hanfodol os cyfyd sefyllfa lle fo dau dwy ymgeisydd yn gyfartal o safbwynt cymwysterau ffurfiol profiad etc bydd lefel medrusrwydd mewn sgiliau dwyieithog yn arwain y penderfyniad yn achos ymgeiswyr am swyddi gyda'r gymraeg yn gymhwyster manteisiol os cyfyd sefyllfa lle fo dau dwy ymgeisydd yn gyfartal o safbwynt cymwysterau ffurfiol profiad etc bydd lefel medrusrwydd mewn sgiliau dwyieithog yn cael ei ystyried yn sgil ychwanegol hyfforddiant galwedigaethol wrth drefnu hyfforddiant galwedigaethol bydd gofyn hysbysu swyddogion am gyrsiau priodol sydd ar gael trwy gyfrwng y gymraeg bydd y cyngor yn darparu hyfforddiant galwedigaethol lle bynnag y bo hynny'n briodol i hwyluso gweithredu'r cynllun bydd anogaeth i swyddogion ddilyn cyrsiau trwy gyfrwng y gymraeg lle bo hynny'n berthnasol yn achos cyrsiau a ddarperir yng nghymru trwy gyfrwng saesneg bydd cyfarwyddwr y gwasanaethau canolog yn gyfrifol am bwyso ar y cyrff arholi asesu perthnasol i gynnig cyfle ieithyddol cyfartal i fyfyrwyr fel y gallant sefyll arholiadau gyflwyno gwaith i'w asesu yn gymraeg os bydd cyrff arholi colegau angen cyfieithu papurau arholi bydd gwasanaeth cyfieithu'r cyngor ar gael i ymgymryd â'r gwaith trefniadau gweinyddol bydd y cyngor yn defnyddio ac yn cyfeirio at y cynllun hwn wrth lunio a diwygio polisïau cynlluniau a mesurau eraill ymhob adran fel bod agweddau cymraeg gwasanaeth y cyngor yn cael eu hintegreiddio i bob maes o fewn ei brosesau gweinyddol arferol bydd aelodau'r cyngor y prif weithredwr a chyfarwyddwyr y gwasanaethau yn gefnogol i holl fesurau'r cynllun hwn cyfarwyddwr y gwasanaethau canolog fydd yn gyfrifol am gylchredeg gwybodaeth cyfarwyddiadau ac arweiniad am y cynllun i bob adran a bydd pob cyfarwyddwr wedyn yn gyfrifol am ei gylchredeg o fewn ei h adran mae hi'n bwysig fod pob aelod o'r staff yn ymwybodol o ofynion y cynllun er mwyn iddo weithio'n effeithiol bydd y cyngor yn hyrwyddo'r defnydd o becynnau meddalwedd cymraeg a dwyieithog yn gorfforaethol y gwasanaeth cyfieithu bydd y cyngor yn cyflogi tîm o gyfieithwyr cymwys er mwyn cyfieithu unrhyw ddeunydd a fydd yn cael ei gyhoeddi bydd unrhyw ddogfennau adroddiadau neu lythyrau a dderbynnir oddi wrth sefydliad corff neu unigolyn nad ydynt yn cynrychioli cyrff cyhoeddus yn saesneg ac sydd angen eu cyflwyno i bwyllgor neu banel yn cael eu cyflwyno yn saesneg yn unig bydd unrhyw ddogfennau adroddiadau neu lythyrau o'r fath a dderbynnir yn gymraeg yn cael eu cyfieithu i'r saesneg ac yn cael eu cyflwyno i bwyllgor neu banel yn ddwyieithog gofynnir i gyrff cyhoeddus eraill gyflwyno unrhyw ohebiaeth neu adroddiadau yn ddwyieithog ac anogir cyrff yn y sectorau gwirfoddol a phreifat i gyflwyno gohebiaeth yn ddwyieithog hefyd bydd gan bawb yr hawl i siarad cymraeg neu saesneg yn ôl eu dymuniad yng nghyfarfodydd y cyngor a darperir offer cyfieithu ar y pryd i gyfieithu o gymraeg i saesneg yn holl gyfarfodydd y cyngor pan fo'i angen o safbwynt cyfieithu ar y pryd gwneir y darpariaethau canlynol offer cyfieithu mewnol bydd offer cyfieithu parhaol yn cael ei osod ymhob un o ystafelloedd y cyngor a ddefnyddir ar gyfer cynnal cyfarfodydd ynddynt yn rheolaidd dan amgylchiadau lle bydd yr offer yn torri yn ystod cyfarfod bydd y cyfieithydd cyfieithwyr yn cyfieithu'n bersonol i'r sawl sydd angen cyfieithiad onid yw hyn yn ymarferol gofynnir i'r rheiny sydd yn bresennol yn y cyfarfod sydd angen cyfieithiad i symud at berson addas a fydd yn crynhoi'r drafodaeth ar adegau cyfleus a hynny dan reolaeth y cadeirydd yn ogystal ar ddiwedd pob trafodaeth bydd y cadeirydd yn crynhoi'r drafodaeth a'r penderfyniad offer cyfieithu symudol defnyddir yr offer yma yn unrhyw un o gyfarfodydd y cyngor a phwyllgorau is bwyllgorau neu banelau'r cyngor a gynhelir yn un o adeiladau'r cyngor lle nad oes offer cyfieithu sefydlog pa bryd bynnag y bydd ei angen defnyddir yr offer yma hefyd mewn cyfarfodydd na chynhelir yn un o adeiladau'r cyngor lle fo'r cyngor yn gysylltiedig â threfnu'r cyfarfod pa bryd bynnag y bydd ei angen mae'r cyngor hefyd yn cynnig yr offer ar lôg i'r gymuned gan hybu'r cyfle a gaiff pobl ddwyieithog i siarad cymraeg neu saesneg mewn cyfarfodydd cyhoeddus oherwydd costau'r offer a natur sensitif y gwaith electronig cymhleth ynddo bydd raid i bwy bynnag sy'n gyfrifol am logi'r offer fod yn brofiadol a chymwys gyda golwg ar sicrhau rheolaeth dros ddefnyddwyr bydd yn rhaid sianelu pob ymholiad trwy uned gyfieithu'r cyngor a bydd yr uned hon yn rhoi ffurflen archebu i bob corff sy'n llogi'r offer pan fydd corff yn archebu rhoddir iddo restr o gyfieithwyr a leolir o fewn cyrraedd rhesymol i fôn a bydd y rheiny un ai wedi eu cynnwys yng nghyfeirlyfr cyfieithwyr bwrdd yr iaith gymraeg neu'n aelodau o gymdeithas cyfieithwyr cymru cyn rhoddi'r offer i gorff allanol rhaid i'r corff hwnnw nodi ar y ffurflen gais bod y cyfieithydd cyfieithwyr a ddefnyddia un ai wedi ei u r h estru yn y cyfeirlyfr cyfieithwyr uchod neu'n aelodau o gymdeithas cyfieithwyr cymru bydd yr offer yn cael ei gadw yn swyddfa cyfieithwyr y cyngor yr uned gyfieithu hefyd fydd yn gyfrifol am ddanfon yr offer i leoliad y cyfarfod ei osod wrth ei gilydd ac yn nôl yr offer ar ôl y cyfarfod os cyfyd anhawster technegol bydd y cyfieithydd bob amser mewn sefyllfa i ymgynghori gyda'r peiriannydd arbenigol yn yr uned technoleg gwybodaeth bydd yr offer ar gael yn rhad ac am ddim i gynghorau cymdeithas a chodir ffi o £ ar gyrff eraill am y dydd cyntaf a £ am bob dydd ychwanegol bydd y ffi hon yn cael ei hadolygu'n flynyddol mater i'r cynghorau cymdeithas fodd bynnag fydd trefnu i logi cyfieithydd ac i dalu ei d threuliau hysbysir cynghorau cymuned yn rheolaidd am y drefn hon os oes cyd daro rhwng dyddiad pan fydd y cyngor angen yr offer a phan fydd corff allanol ei angen y cyngor fydd yn cael blaenoriaeth gwasanaethau ar ran y cyngor gan bartïon eraill bydd unrhyw gytundeb neu drefniant a wneir gyda thrydydd parti ac sydd yn ymwneud â darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng nghymru yn gyson â thelerau'r cynllun hwn bydd hyn yn cynnwys heb gyfyngiad gwasanaethau a gaiff eu contractio allan yn wyneb ymestyniad arfaethedig tendro cystadleuol gorfodol yn y degawd nesaf a'r ddibyniaeth gan y cyngor ar asiantaethau cwmnïau ymgynghorwyr proffesiynol cyrff gwirfoddol ac unigolion allanol i gyflawni rhai o'i ddyletswyddau mae hi'n bwysig bod y cyngor trwy gyfrwng y trefniadau i osod cytundeb i asiantaethau cwmnïau ymgynghorwyr proffesiynol cyrff gwirfoddol ac unigolion allanol yn sicrhau bod yr asiantaeth cwmni ymgynghorwyr proffesiynol cyrff gwirfoddol neu'r unigolion hynny yn gweithredu unrhyw elfennau perthnasol o'r cynllun wrth ymdrin â'r cyhoedd ym môn mae'r cynllun hwn yr un mor berthnasol i unrhyw asiantaeth neu gwmni allanol sy'n darparu gwasanaeth ar ran y cyngor ag ydyw i'r cyngor ei hun wrth ymdrin â'r cyhoedd wrth osod unrhyw gytundeb bydd y cyfarwyddwr perthnasol yn gyfrifol am sicrhau bod yr asiantaeth neu'r cwmni sy'n ymgymryd â gwaith sy'n ymwneud â darparu gwasanaeth i'r cyhoedd ar ran y cyngor yn cydymffurfio ag anghenion ieithyddol y cynllun hwn gwneir hynny trwy gynnwys manylion perthnasol am ofynion y cynllun yn y dogfennau tendro a yrrir at yr asiantaeth neu'r cwmni perthnasol bydd cyfarwyddwr y gwasanaethau canolog yn gyfrifol am arolygu gweithredu'r drefn hon pan fo'r cyngor yn comisiynu gwasanaethau a roddir i'r cyhoedd ym môn bydd yn sicrhau fod y ddarpariaeth yn gyson â thelerau perthnasol y cynllun hwn mewn achos lle mae'r cyngor yn cyd ddarparu gwasanaeth a roddir i'r cyhoedd ym môn anogir cyflenwyr y gwasanaeth i ddefnyddio'r gymraeg a bydd darparu gwasanaeth dwyieithog yn rhan o'r trefniant rhoddir pob cymorth a chyngor posibl er mwyn iddynt wneud hynny mewn achosion o'r fath lle ceir cydweithio neu bartneriaeth rhwng y cyngor a sefydliad corff neu unigolyn bydd prif swyddog y gwasanaeth perthnasol yn gyfrifol am annog y sefydliad corff neu unigolyn i ddefnyddio'r gymraeg a'r saesneg yn gyfartal wrth gyflwyno eu gwasanaethau yn achos sefydliadau preifat sydd yn cyflawni swyddogaethau statudol i'r cyhoedd ym môn bydd cyfarwyddwr y gwasanaethau canolog yn eu hannog galluogi hwyluso a'u cefnogi i ddefnyddio'r gymraeg a'r saesneg yn gyfartal wrth gyflwyno eu gwasanaethau noddi bydd y cyngor yn annog sefydliadau cyrff neu unigolion nad ydynt yn cynrychioli cyrff cyhoeddus sydd yn derbyn nawdd ariannol gan y cyngor hwn i ddarparu ei wasanaethau i'r cyhoedd yn ddwyieithog yn yr un modd yn achos sefydliadau cyrff neu unigolion nad ydynt yn cynrychioli cyrff cyhoeddus y bydd y cyngor yn cydweithio gyda nhw neu yn achos unrhyw bartneriaeth rhwng y cyngor a sefydliadau cyrff neu unigolion eraill anogir prosiectau neu bartneriaethau o'r fath i ddarparu eu gwasanaethau i'r cyhoedd yn ddwyieithog gwasanaeth a reoleiddir gan y cyngor bydd y cyngor wrth weithredu swyddogaeth o reoleiddio yn annog unrhyw sefydliad corff neu unigolyn nad ydynt yn cynrychioli cyrff cyhoeddus i ddefnyddio'r gymraeg yn eu gweithgareddau bydd y cyngor wrth brynu gwasanaethau gan drydydd parti ar ran y cyhoedd mewn amgylchiadau na chyfeiriwyd atynt yn barod yn annog y trydydd parti i ddefnyddio'r gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng nghymru cyngor sir ynys môn swyddfeydd y cyngor llangefni ynys môn ll tw rheolwr y wê webmaster ynysmon gov uk hawlfraint cyngor sir ynys môn gwadiad danfonwch eich sylwadau neu cwynion cyswllt a gwybodaeth technegol lleoliad swyddfeydd y cyngor sir tywydd ynys môn 'response write