rhifyn haf croeso dyma rhifyn cyntaf o tafod tafwys gobeithio byddwch chi'n ei hoffi prif bwrpas y cylchlythyr hwn yw rhoi cyfle i bobol sy'n dysgu cymraeg yn llundain i ddefnyddio'r iaith hoffen ni dderbyn eich storiau llythyrau moli neu gwyno erthyglau jôcs hysbysebion cerddi beth bynnag dyma'r lle i'w dodi gobeithio bydd y cylchllythyr yn dod allan pedairgwaith y flwyddyn ysgrifennwch aton ni eich tafod chi yw tafod tafwys defnyddiwch e calennig rwy newydd glywed calennig yn abertawe yng ngw yl y caneuon morwrol mae'r grwp yn cynnwys pat a mick ac maen nhw'n canu caneuon a cherddoriaeth gwerin yn gynnwys caneuon morwrol yn arbennig y rhai sy'n dod o dde cymru mae mick yn canu'r accordion ac mae pat yn canu'r concertina a'r llwyau hefyd weithiau maen nhw'n perfformio gyda peter sy'n canu nifer o offerynnau chwy th hefyd mae'n anodd credu fod rhywun yn gallu symud ei fysedd mor gyflym ag e bydd cyfle i chi glywed calennig yn llundain y eg gorffennaf pryd maen nhw'n rhoi cyngerdd yn y george islington gweler beth sy'n digwydd rwy'n meddwl bod nhw'n werth eu clywed gyda llaw ystyr y gair calennig yw anrheg dydd calan lynne diawl o dreigliadau ansicr am ba dreigliad i ddefnyddio ar ôl arddodiad dyma siart bach i'ch helpu gyda'r rhan fwyaf ohonyn roedd dai a harri yn gweithio mewn carthffosfa pan gwympodd siaced dai i fewn i'r stwff ceisiodd dai dynnu ei siaced mâs gyda gwialen fyddi di ddim yn gallu gwisgo honna eto meddai harri rwy'n gwybod hynny atebodd dai ond mae fy mrechdanau yn y boced ifan bifan bardd gwlad gwyllt tribanwr o gwm nedd oedd ifan bifan roedd e'n cyfansoddi barddoniaeth ar y mesur triban cyfansoddodd a chanodd benillion yn arbennig tribannau am y bobl ac am y digwyddiadau o'i gwmpas daw traddodiad y tribanwyr ddim o odlau bonheddig a gwledig ond o ddychan dynwared ffraethineb a maswedd darganfuon ni ifan bifan tra'n chwilio am hanes teuluol mae nifer o weithiau gan ifan bifan am hen hen hen dad cu fy mam yng nghyfraith sef y melinwr o benderyn robin o'r felin dyma rhan o un ohonyn nhw 'does synwyr yn wir arno mae'n tolli gymaint allo a dyna pam y clywir son hyd lanau môn am dano theo mae pennod am ifan bifan gan tegwyn jones yn ei lyfr nedd a dulais gomer ydych chi'n barod am yr eisteddfod ydych chi'n mynd i'r eisteddfod eleni hwn ydy eich ymweliad cyntaf wel dyma'r hysbysrwydd rydych chi ei eisiau i'ch helpu chi drwy 'r wythnos a arian fe fydd rhaid i chi fynd â digon o arian i bara drwy'r wythnos i brynu crysau t tapiau llyfrau ac yn y blaen b beirdd a beirniadaethau mae llawer o amser yn cael ei dreulio dros feirniadaethau c coroni cadeirio cystadlu cwrw a choffi does dim cwrw ar y maes ond llawer o goffi ch chewch chi ddim dod adref heb eisiau mynd yn ôl y flwyddyn nesaf d dafydd iwan ewch i'w weld e mae e ran o'r brofiad eisteddfodol dd ddarllenwch chi ddim llawer am yr eisteddfod yn y papurau seisnig dyna beth od achos yr eisteddfod ydy un o'r gwyliau mwyaf ym mhrydain e enwogion fe fyddan nhw ym mhobman ar y maes f fo a fe mae'r de yn cwrdd â'r gogledd ff fferyllydd ar ôl noson o yfed cwrw rhaid i chi wybod ble mae'r fferyllydd agosaf g glawio fe fydd hi'n bwrw glaw rhywbryd yn ystod yr wythnos ewch â'ch ymbarel a'ch anorac ng ng yl orau'r flwyddyn i mi heblaw'r daith i farbados wrth gwrs h hwyl os rydych chi ddim yn cael hwyl dylech chi ddysgu iaith arall efallai i iaith dydy pawb sy'n mynd ddim yn siarad cymraeg felly os dydych chi ddim yn siarad yn iawn eto peidiwch â phoeni l loncian does neb yn rhuthro o amgylch y maes ymlaciwch dipyn ll llwyfan dyna ble mae'r busnes pwysig yn digwydd edrychwch ymlaen at y dynion sy ar y llwyfan yn gwisgo dillad od iawn m maes pebyll dim cawodydd tai bach budr swnllyd iawn fe fydd rhaid i chi aros yno unwaith i brofi'r awyrgylch n nos dyma'r amser i chi fynd i weld band fel arfer mae tri chyngerdd yn digwydd bob nos o oriau mân y bore mae mwyafrif o bobl yn cysgu heblaw'r bobl sy'n aros ar faes pebyll mae'n nhw'n yfed canu chwarae pel droed ac yn ysmygu gwair p pafiliwn canolfan yr eisteddfod ph phaffiwch chi ddim yn y stryd mae pob un yn gyfeillgar iawn r rwan 'ta byddwch chi yn y gogledd felly os rydych chi'n hwntw ar fy ôl i mae gen i mae gen ti mae ganddo fe rh rhugl gobeithio byddwch chi'n rhugl ar ôl wythnos s siaradwyr cymraeg fel arfer maen nhw'n siarad yn gyflym iawn a chyda acen sy'n amhosibl i'w ddeall mwynhewch t teledu mae camerau ym mhobman edrychwch ymlaen at weld eich hunain ar y teledu th thalwch chi ddim llawer o arian os ydych chi'n aros ar faes pebyll u urdd nage eisteddfod anghywir w wythnos cyntaf mis awst peidiwch ag anghofio y y gorlan os rydych chi wedi bod i gyngerdd ac mae hi'n hwyr ewch i'r gorlan i gael coffi bwyd a sgwrs mae hi ar agor drwy'r nos a thrwy'r dydd andy mawr mab mwg mawr beth sy'n digwydd mehefin cwrs adolygu gwent di breswyl casnewydd £ ffoniwch geraint wilson price ar mehefin cyngerdd côr meibion ynysowen aberfan gydag unawdydd ac eitemau gan ysgol gymraeg llundain canolfan cymry llundain gray's inn road ffôn £ elw at ysgol gymraeg llundain mehefin ysgol haf dwys y fenni pob lefel £ £ ffoniwch geraint wilson price ar gorffennaf cwrs penwythnos cymraeg yn llambed pob lefel £ ffoniwch geraint wilson price ar gorffennaf cyngerdd calennig yng nghlwb gwerin y george liverpool road ger sainsbury's tiwb angel bydd rhaid i chi fod yn westai aelod felly ffoniwch bernard puchett os ydych chi am fynd caneuon traddodiol cymru gyda siwsann george yn ysgol st albans abbey gateway st albans ffôn gorffennaf cyngerdd coràl cymry llundain am ysgol gymraeg llundain canolfan cymru llundain gray's inn road ffôn £ cwrs undydd yn nh brynglas £ ffoniwch geraint wilson price ar picnic ar ben primrose hill dewch â bwyd a diod cwrdd yn gyferbin i brif fyneddfa'r s ger y jiraffs o gorffennaf cwrs hâf y fenni £ pob lefel ffoniwch geraint wilson price ar medi cwrdd yn greenwich yn nhafarn trafalgar rhwng a cyn mynd am dro yn yr ardal cystadleuaeth tafod tafwys er bod y gymraeg yn iaith y ne' bydd rhaid i ni ofyn o ble pa môr hyfryd yw'r heniaith n ni'n clywed gwahaniaith rhwng tafodiaith y gogs ac y de rwy'n siwr bod pawb yn gallu ysgrifennu limrigs yn well na finnau felly hoffwn i weld eich ymdrechion danfonwch limrig yn dechrau gyda mae'r gymraeg yn iaith hyfryd medd dai bydd y limrig gorau yn cael ei cyhoeddu yn nhafod tafwys bydd y cystadleuaeth ar agor i bob dysgwyr os ydych chi'n byw yn llundain neu beidio croesair cliwiau tywyll mae cliwiau hawdd ar gael hefyd ar draws dinas sydd ddim yn saff yn y nos bryn bach llawn o arian edrych ynddo peidiwch â dechrau defnyddio'ch clustiau pobol sy ddim yn rhamantus yn y dyddiau hyn miwsig neu hen ddwndwr rhywbeth neu rhywun sy'n disgleirio yn ar draws gair bach sy'n cael ei ddefnyddio'n fawr mae'n gallu dilyn unrhyw hanner ôl troed cynnwys eich cwpwrdd bydd rhaid i chi ei guddio dim llawer ond well na ddim faint oedd yn gwastraffu bron hanner o'r ffrwyth fel arfer mae na un bach yn yr un mawr amser i gysgu neu i ddysgu a oes yn anffoddus dim ym mhob man i lawr cymdeithas i bobol siarad gyda'i gilydd ty aderyn y mynyddoedd gyda llaw rwy'n gwneud rhywbeth i chi ddarllen a i lawr dyn cariadus rydych chi ddim yn ei nabod dewch i mewn pleidleisiwch fel hyn ond bydd dim byd wedyn a bydd y wobr yn y nen i'r ferch 'ma ymddidan neu ddadl gweld mae hi'n fflaenllym ond mae na dwll ynddi dwy ddim yn ei ddweud ond mae'n perthyn i mi yn fyr fydda i ddim eisiau merch yr ydych chi'n ei gweld rhan fwya'r flwyddyn hon mae'n gallu cael ei ddefnyddio tuag yn ôl wrth gwrs chwarae teg cerwch i nôl paned cyn gorffen radio cymru mae radio cymru yn sôn am ymgynghori â phawb am ei raglenni newydd ond mae'n debyg bod nhw wedi anghofio bod llawer o siaradwyr cymraeg yn byw tu allan i gymru os ydych chi eisiau iddyn nhw ddarlledu tu allan i gymru hefyd ysgrifennwch nawr at gwynn pritchard bbc cymru broadcasting house llandaff caerdydd bachgen dw i ddim eisiau byw gyda mam a dad bachgen pam bachgen mae mam yn fy nghuro i ac mae dad yn fy nghuro i bachgen wel gyda phwy wyt ti eisiau byw bachgen gyda thîm rygbi cymru dydyn nhw ddim yn curo neb diolch i bawb a gyfrannodd i'r cylchlythyr yn arbennig i theo ac andy a diolch i geraint am y jôcs diolch hefyd i glenys tiwtor arbennig dim yn unig am ei gwaith fel is golygydd h y cywiro popeth ond hefyd am ei chymorth a chalondid parhaol bydd rhifyn nesaf tafod tafwys yn dod allan gobeithio ym mis hydref os fyddwych chi eisiau danfon cyfraniadau neu syniadau ysgrifennwch at daviesjl aol com ymlaen at dafod tafwys eraill