adran sgiliau cyflwyno iaith uned dulliau dysgu cymalau 'bod' a 'mai' sgiliau cyflwyno iaith uned atalnodi uned ti a chi uned cysylltu brawddegau uned y cymal sy uned 'dulliau dysgu cymalau 'bod' a 'mai uned yr amser gorffennol uned is gymal pan cyn ar ol wedi os pe rhai ymarferion sylfaenol i ddisgyblion nodyn i'r athrawon rhaid pwysleisio nad cyfres o brofion i'w cynnwys mewn arholiad mo'r ymarferion yn yr uned hon cyn eu cyflwyno i'r disgyblion bydd angen paratoi'r disgyblion yn ofalus drwy esbonio rhai pwyntiau gramadegol creu ymarferion llafar a sicrhau bod hiwmor yn y paratoi fel bo'r ymarferion ysgrifenedig yn cael eu cyflawni'n hyderus nid oes rhaid i ymarferion ieithyddol fod yn ddiflas a rhaid ceisio datblygu hyder disgyblion yn eu gallu i ymdrin â'r iaith dylech chi wau cynnwys yr uned i mewn i'r cynllun gwaith rhaid i'r gwaith ymddangos fel petai'n codi'n naturiol o'r thema dan sylw neu o'r gyfres o wersi sydd ar y gweill ar y pryd nid mewn gwers gyfan y dylid cyflwyno'r gwaith ond yn hytrach mewn cyfres o ymarferion byrion wedi eu gwasgaru dros nifer helaeth o wersi bydd yn bwysig i chi gyflwyno'r eirfa sy'n ganolbwynt i'r gwaith a gwau'r ymarferion i mewn i'r gwersi bydd angen ail ymweld â'r ymaferion hyn yn gyson dewiswch yr ymarferion cymwys i'ch disgyblion mae saith uned uned atalnodi uned ti a chi uned cysylltu brawddegau' uned y cymal 'sy uned dysgu'r cymalau 'bod' a 'mai uned yr amser gorffennol uned is gymalau pan cyn ar ôl wedi os pe y cymal bod erbyn hyn mae rhai disgyblion ca yn barod i gael eu hymestyn a gallwch gyflwyno bod iddyn nhw yn gyntaf bydd angen esbonio mai rhai berfenwau'n unig sy'n cael eu dilyn gan 'bod' a bydd rhaid cyflwyno rhai o'r berfenwau hyn iddyn nhw e e meddwl bod credu bod gobeithio bod gwybod bod byddwn yn eu defnyddio er enghraifft er mwyn gallu mynegi barn mae'n bwysig yn ca yn y setiau uchaf ddisgwyl i ddisgyblion ddefnyddio'r is gymal hwn yn eu tasgau defnyddiwch yr un dechneg unwaith eto sef uno dwy frawddeg gall yr athro athrawes wneud gosodiad dw i'n credu mae sbaeneg almaeneg cymraeg saesneg yn hawdd gall y disgyblion ymateb drwy ddefnyddio un o'r brawddegau hyn cofiwch ddangos y blwch dril i'r disgyblion ar daflen waith neu ar yr uwch daflunydd dw i'n credu bod sbaeneg yn hawdd ddim yn meddwl almaeneg yn anodd gobeithio cymraeg yn ddiddorol siwr saesneg cytuno nid yw mor hawdd cyflwyno'r ffurfiau personol canlynol fy mod i dy fod di ei fod ef ei bod hi bod ryan giggs ein bod ni eich bod chi eu bod nhw bod y chwaraewyr cyngor peidiwch â'u cyflwyno fel un rhestr faith dysgwch nhw drwy gyflwyno un neu ddau a dysgwch nhw drwy eu defnyddio mae'r is gymal hwn yn gam pwysig yn natblygiad iaith lafar a iaith ysgrifenedig y disgybl yn sicr bydd y disgyblion sy'n defnyddio'r is gymalau hyn yn gweithio ar lefel ac uwch yn y tasau ac yn anelu at radd b a ac a yn tgau trowch at dasgau ysgrifenedig eve lefel yn llyfryn acac 'enghreifftio safonau ca ' i weld y cymalau hyn ar waith un o dasgau eve yw mynegi barn ar ardal arbennig a'r datblygiadau fydd yn digwydd yno unwaith eto y dull cyflwyno a'r dull ymarfer yw uno dwy frawddeg cofiwch hefyd bod angen dewis sefyllfa er mwyn gosod y brawddegau mewn cyd destun sefyllfa mynegi barn ar ardal neu dref cam cyflwyno drwy ail adrodd a chysylltu brawddegau mae pobl yn meddwl mae eisiau pwll nofio yn y dref mae pobl yn meddwl bod eisiau pwll nofio yn y dref rhaid i fi ddweud dw i'n hapus iawn yn byw yma rhaid i fi ddweud fy mod i'n hapus iawn yn byw yma dw i ddim yn credu mae eisiau stâd fawr o dai yma dw i ddim yn credu bod eisiau stâd fawr o dai yma cam ymarfer drwy gysylltu brawddegau a mynegi barn yn syml cysylltwch y brawddegau hyn drwy ddefnyddio achos bod am fod dw i'n hapus yma mae'r dref yn lân ateb dw i'n hapus yma am fod y dref yn lân dw i'n hapus yma mae'r dref ar lan y môr dw i'n hapus yma mae pwll nofio da yn y dref dw i'n hapus yma mae sinema dda yn y dref cam ymarfer drwy gysylltu brawddegau mwy heriol tasg lafar yn mynegi barn bersonol sydd yma sef gwaith mwy ymestynnol gellwch ddewis peidio â dangos yr atebion a rwy'n hapus mae parti yn y ganolfan hamdden disgybl rwy'n hapus achos bod parti yn y ganolfan hamdden dw i'n hapus am fod parti yn y ganolfan hamdden a dw i'n anhapus dydy'r parti ddim yn y ganolfan hamdden disgybl dw i'n anhapus achos dydy'r ddim parti yn y ganolfan cam defnyddio dw i'n hoffi byw yn y dref achos dw i'n hoffi byw allan yn y wlad achos dw i ddim yn hoffi achos dyma ddull addysgu drwy ddefnyddio gallwch esbonio wedyn ar ôl defnyddio os oes angen er mwyn cael ymateb didrafferth a magu hyder y disgyblion rhoddwyd yr atebion cywir i'r rhan fwyaf o'r cwestiynau a'r gosodiadau yn cam a isod arf dysgu yw hyn un ateb sef yr ateb i'r gosodiad cyntaf ddylai fod ar y copi sydd o flaen y disgyblion felly yr awgrym yw cyflwyno'r camau a chynnwys yr atebion ar ud dylai fod llawer o ail adrodd er mwyn creu hyder ymarfer yr ymatebion yn unigol o gwmpas y dosbarth yn gyflym gallwch newid rhai sbardunau drwy eu symleiddio gweithio mewn parau dosbarthu copiau ag ond yr ymateb i'r cyntaf arno i un disgybl ond gan gynnwys yr atebion ar yr ochr arall i'r llall yn y par un yn athro'n rhoi'r brawddegau a'r llall yn ateb yna newid drosodd ac ailgychwyn creu brawddegau ymarfer sgwrsio a rydyn ni'n mynd i ennill yfory on'd ydyn ni b wrth gwrs ein bod ni a rwyt ti'n swnio'n ffyddiog hyderus iawn b wrth gwrs mod i dw i'n ffyddiog hyderus bob amser a wel dw i ddim dydw i ddim dw i ddim yn credu bod gobaith gyda ni a dweud y gwir b paid â siarad fel yna er mwyn dyn wrth gwrs bod gobaith a maen nhw'n dîm da cofia b mae'n bosib eu bod nhw ond un ar ddeg o ferched pymtheg oed ydyn nhw wedi'r cyfan ymarfer ateb yn ôl yr enghraifft gosodiad ymateb dw i wedi prynu car newydd rhaid dy fod ti'n gyfoethog mae dewi wedi priodi rhaid ei fod e o'n gyfoethog mae'r tomasiaid wedi mynd i'r bahamas rhaid eu bod nhw'n gyfoethog iawn mae sioned wedi dechrau smocio rhaid ei bod hi'n dwp dydy hi ddim yn amser mynd eto wrth gwrs ei bod hi dw i ddim eisiau dod heno dy fod ti dydyn nhw ddim yn gallu deall eu bod nhw dydy e o ddim eisiau gwneud y gwaith ei fod e o wyt ti eisiau dod rwyt ti'n gwybod mod i ydy e o'n gobethio ennill ei fod e o wyt ti'n meddwl gadael yr ysgol ydyn nhw'n poeni am y peth eu bod nhw ymarfer enghreifftiau ychydig yn fwy heriol ydy gareth wedi mynd dw i ddim yn credu ei fod e o ydyn nhw wedi cyrraedd eu bod nhw ydw i wedi cael marciau da dy fod ti oes te ar ôl dw i ddim yn credu bod hwyrach efallai fyddwch chi yna efallai bydda i fyddwn ni mewn pryd efallai na fyddwn ni fydd lle ar y bws hwyrach bydd 'na fydd hi'n braf yfory ymarfer adolygu drwy ddarllen a deall sylwch ar y defnydd o'r cymal yn bally david yng ngogledd iwerddon roedd hanner y bobl yn brotestaniaid a hanner y bobl yn babyddion er bod hyn cyn bod ymladd ar y strydoedd roedden nhw'n casáu ei gilydd ac yn byw ar wahân un diwrnod aeth yr hen willie duggan arweinydd clwb yr orangeman ac yn brotestant cryf yn wael sâl iawn yna daeth y newyddion sydyn bod wille wedi derbyn y ffydd gatholig aeth dau o'i ffrindiau i'r ty ar unwaith i ofyn pam ei fod e wedi newid ydy mae'r stori yn wir dywedodd willie wrth ei ffrindiau dw i'n credu ei bod hi'n well bod yn un ohonyn nhw'n marw na bod yn un ohonon ni geiriau newydd enghreifftiau o'r cymal bod a gofyn i'r disgyblion eu nodi ar wahân arweinydd ohonyn nhw ohonon ni defnyddio cysyllteiriau eraill yn ca er mwyn trafod nofel mae cysyllteiriau eraill y byddech yn gallu eu defnyddio megis er tra am gan o achos mae angen y cysyllteiriau hyn arnon ni er mwyn mynegi barn ar stori neu ddarn darllen neu nofel dril sylwch sut mae'n bosibl creu un frawddeg yn lle dwy drwy ddefnyddio 'r cysyllteiriau uchod bydd angen weithiau ychwanegu 'bod' e e 'er bod' e e dw i wedi mwynhau'r nofel er ei bod hi'n hir am ei bod hi'n gyffrous gan ei bod hi'n ddiddorol achos ei bod hi'n anturus er does dim llawer o ferched ynddi er dydy hi ddim yn anturus gwaith llafar yr athro athrawes i ofyn i ferch yn y dosbarth gwestiwn fel a beth wyt ti'n feddwl o'r stori rydyn ni newydd ei darllen merch mae hi'n stori dda am fod digon o gyffro ynddi wedyn holi disgybl arall a beth ydy ei barn hi am y stori disgybl mae hi'n credu ei bod hi'n stori dda neu gan gyfeirio at fachgen disgybl dywedodd ei fod e wedi mwynhau'r stori a pam d am fod digon o gyffro ynddi llafar ysgrifenedig wedi darllen 'united' eirug wyn atebwch gwestiynau fel sut fachgen ydych chi'n credu ydy wayne sut ferched ydych chi'n meddwl ydy gloria a jennifer sut groeso ydych chi'n credu gaiff wayne a dingo wedi dychwelyd o milan sut nofel ydy 'united ydych chi wedi mwynhau darllen y nofel pam cymal enwol pwysleisiol mai sylwch sut rydyn ni'n defnyddio 'mai' wrth gysylltu'r brawddegau hyn a dw i gwybod cymru fydd yn ennill dw i gwybod mai cymru fydd yn ennill b dw i'n sicr fi sy'n canu mas o diwn dw i'n sicr mai fi sy'n canu mas o diwn sylwch ein bod ni'n pwysleisio 'cymru' yn yr ail frawddeg yn a a 'fi' yn b dyna pam ryn ni'n defnyddio 'mai' a dim 'bod' cam ymarfer sgwrsio gan ddefnyddio 'mai' tad a bachgen b ga i fenthyg pum punt dad t benthyg wyt ti'n credu mai ffwl ydw i b wel ga i bum punt te os gwelwch yn dda t hywel wyt ti'n credu mai peiriant gwneud arian pres ydw i b wel dw i'n mynd allan mas heno t heno eto wyt ti'n credu mai hotel ydy'r ty yma b dad ydych chi wedi anghofio mai nos sadwrn ydy hi dw i bob amser yn mynd allan ar nos sadwrn t ac rwyt ti wedi anghofio mai dy dad ydw i nid dyn y banc dyma ti pum punt cam ateb yn ôl yr enghraifft pa ddiwrnod ydy hi heddiw dw i'n credu mai dydd ydy hi pa ddiwrnod fydd hi yfory gwybod fydd hi pa ddiwrnod oedd hi ddoe siwr oedd hi pa ddiwrnod aethon ni i gaerdydd mae blas ffowlin cyw arno fe fo wel efallai mai ffowlyn ydy e maen nhw'n edrych fel dau frawd mai dau frawd ydyn nhw maen nhw'n gwisgo fel dwy chwaer mae ddwy chwaer ydyn nhw rydych chi'n cerdded fel plismon mai plismon ydw i mae e o'n edrych fel doctor roeddwn i'n meddwl mai doctor oedd e o mae e o'n swnio fel sais mai sais oedd e o mae hi'n gwisgo fel ledi mai ledi oedd hi cam enghreifftiau ychydig yn fwy heriol cymro ydy e o roeddwn i'n meddwl mai dim ffrancwr oedd e o cymro ydw i oeddet ti cymraes ydy hi oedd hi cymry ydyn nhw oedden nhw sut un oedd dafydd maen nhw'n dweud mai un bach oedd e o sut un oedd goliath mai un mawr sut un oedd midas mai un cyfoethog sut un oedd solomon mai un doeth cam adolygu drwy ddarllen a deall roedd dau ddyn mewn trên yn siarad yn dawel â'i gilydd yn gymraeg yn y cornel arall roedd dyn yn gwisgo siwt ddu gostus iawn roedd yn darllen copi o'r telegraph ar ôl gorffen darllen cododd ei ben ac edrych ar y lleill ydych chi eisiau gweld y papur meddai y nefoedd fawr dywedodd un ohonyn nhw cymro ydych chi roeddwn i'n meddwl yn siwr mai sais oeddech chi ymarfer ychwanegol er mwyn ymestyn y gwreiddiol ymarfer ysgrifenedig i'w asesu defnyddiwch y ffeithiau canlynol gan greu darn diddorol i'w ddarllen bydd yn rhaid dewis ffurf briodol rhoi sylw manwl i'r atalnodi amrywio digon ar y brawddegau gwneud defnydd da o gysyllteiriau diwrnod ar lan y môr diwrnod braf yr haul yn disgleirio diflas yn y ty dim i'w wneud cael ffôn gan ffrind fe fo'n mynd i lan y môr ei fam yn mynd ag e yn y car am ddeuddeg car mawr digon o le i mi gofyn i mam hi'n cytuno mam yn pwysleisio paid â casglu siwt nofio tryncs tywel a gwely haul mynd â bat criced a phêl rhaid cael rhywbeth i'w wneud yn ystod y prynhawn digwyddodd rhywbeth cyffrous gellwch chi ddefnyddio eich dychymyg i gwblhau'r hanesyn