nôl i flaenddalen y brifysgol english caption cynllun y flwyddyn mewn gwaith gwybodaeth i gyflogwyr mae cynllun y flwyddyn mewn gwaith a sefydlwyd ym gan y gwasanaeth cynghori ar yrfaoedd prifysgol cymru aberystwyth yn agored i fyfyrwyr o bob pwnc y mae'n caniatáu i fyfyrwyr brwd ac abl gymryd blwyddyn allan rhwng ail a thrydedd blwyddyn eu cynllun gradd i weithio mewn diwydiant masnach neu'r sector cyhoeddus ym mhrydain neu dramor cyn y gall myfyriwr gymryd rhan yn y cynllun rhaid cael caniatâd pennaeth yr adran ac rydym yn sicrhau bod y myfyrwyr a ddewisir yn awyddus i wella'u rhagolygon o gael swydd ac wedi ymroi i geisio profiad gwaith caption manteision i gyflogwyr cyfle i gyflogi pobl ifainc bywiog cymwys a brwdfrydig ar gyfer tasgau neu brosiectau penodol mae gennym blynedd o brofiad wrth drefnu lleoliadau i fyfyrwyr o bob disgyblaeth felly mae'r gwasanaeth a gynigiwn yn un effeithiol caiff cyflogwyr ar y cynllun gyfle i weld rhai o'r myfyrwyr gorau cyn i'w cystadleuwyr eu gweld yn y cylch recriwtio blynyddol gall y cyflogwyr roi prawf trwyadl ar alluoedd a photensial myfyrwyr ar gyfer swyddi yn y dyfodol cyn rhoi ymrwymiad tymor hir rydym yn cynnig gwasanaeth rhestr tâl payroll service er mwyn symleiddio'r gwaith gweinyddu a dod dros problemau niferoedd y staff ateb cost effeithiol i ofynion staffio yn y tymor byr cynllun hyblyg o ran cyfnod cyflogaeth mis pwnc a math o waith barn cyflogwyr mae isobel yr union fath o fyfyriwr yr ydym yn chwilio amdani dibynadwy ymroddgar a threfnus fe fu'n ased i'r tîm cyngor astudiaethau maes am isobel bartlett ba daearyddiaeth myfyrwraig ar y cynllun mae myfyrwyr yn helpu ar waith prosiect a gyda dyddiadau cau mae jon hefyd wedi arwain y ffordd o ran sgiliau technoleg gwybodaeth eleni a rhoddwyd cyfrifoldeb iddo i hyfforddi rhai o'r staff parhaol bu'n chwa o awyr iach yma banc barclays ymchwil risg credyd am jon adams bsc cyfrifeg a chyllid myfyriwr ar y cynllun caption gall eich cwmni chi helpu'n myfyrwyr ni i gynyddu eu hunan ymwybyddiaeth a'u hunan hyder i gynyddu eu hymwybyddiaeth masnachol i gynyddu eu sgiliau wrth drafod arwain a gweithio mewn tîm rhoi deunydd profiad gwaith iddynt ar gyfer eu cv wrth geisio am swydd i fod yn fwy addas i'w cyflogi gennych chi yn y dyfodol caption trefniadaeth y drefn arferol yw hysbysebu lleoliad addas ar y wefan ac yn yr adrannau priodol gan roi wythnos o leiaf tan y dyddiad cau wedyn caiff y ceisiadau trwy cv eu hanfon ymlaen ichi or swyddfa hon ynghyd â geirda academaidd cyfrinachol am bob myfyriwr gellir hysbysebur lleoliad ar unrhyw adeg o ddechraur tymor ym mis medi ymlaen ond maer rhan fwyaf or busnesau ar cwmnïau mawrion yn dechrau ar y drefn recriwtio yn y cyfnod rhwng mis hydref a mis mawrth gall y cwmni enwi dyddiad cau i dderbyn ceisiadau a gellir cynnal cyfweliadau naill ai yn swyddfeydd y cyflogwr neu yma yn aberystwyth maer myfyrwyr hefyd ar gael i ddechrau gwaith ar ôl yr arholiadau ym mis mehefin er mai ym mis awst neu fis medi y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn dechrau cyn i fyfyriwr fynd ymlaen â chais rhaid cael caniatâd pennaeth yr adran rhaid iddo ef neu hi gredu y byddai blwyddyn allan o fudd i'r myfyriwr a bod y myfyriwr yn abl i wneud cyfraniad cadarnhaol i gyflogwr ar y cynllun a dod i ben â thoriad yn yr astudiaethau academaidd anogir ymgeiswyr i asesu'r hyn sy'n eu hysgogi ac asesu eu sgiliau personol i drafod eu dewisiadau gydag ymgynghorydd gyrfaoedd ac i ymchwilio am eu lleoliadau eu hunain yn ogystal â gwneud cais am y rhai a drefnir gan y gwasanaeth cynghori ar yrfaoedd telerau ac amodaur lleoliad dylair lleoliad roi cyfle ir myfyriwr ddysgu sgiliau newydd a datblygu sgiliau sydd ganddynt eisioes bydd gan rhai cwmnïau brosiectau penodol dan sylw ir myfyriwr bydd eraill yn gwneud y myfyriwr yn gyfarwydd ag amgylchedd y cwmni trwy roi hyfforddiant mewnol iddynt fel y byddent yn trin unrhyw weithiwr newydd yn ddelfrydol dylair lleoliad fod yn un amser llawn am gyfnod o mis yn y gorffennol cafwyd ambell fyfyriwr sydd wedi bod yn barod i weithio llai na hynny yn enwedig rhai a oedd yn gweithio dramor ac a oedd yn awyddus i gynnwys teithio yn y flwyddyn allan ond gofynnwn am leoliad syn para o leiaf chwe mis gan y teimlwn nad yw cyfnod llai yn gwneud cyfiawnder âr myfyriwr nar cwmni hefyd yn anffodus yn ystod y flwyddyn allan nid yw myfyrwyr yn cael manteisio ar gynllun benthyciad ariannol i fyfyrwyr ac y mae arnynt angen cyflog y llynedd y cyflog a dalwyd oedd £ ar gyfartaledd talwyd ychydig yn rhagor na hynny yn llundain ond amrywiai rhwng ychydig dros £ a £ i fyfyrwyr technoleg gwybodaeth busnes materion iechyd a diogelwch yn ystod cyfnod y lleoliad y mae gan y brifysgol ddyletswydd gofal am y myfyriwr yn unol â chyflawnir cyfrifoldeb hwn anfonir rhestr iechyd a diogelwch ir cwmni ac ir myfyriwr cyn dechraur lleoliad rhaid ir holiadur gael ei lenwi cyn ir lleoliad ddechrau ymweliadau arolygol yn ystod y flwyddyn hefyd rydym yn ceisio trefnu bod naill ai tiwtor y myfyriwr neu unrhyw aelod o staff y gwasanaeth cynghori ar yrfaoedd yn ymweld âr myfyriwr ar arolygwr yn y cwmni er nad yw hyn bob amser yn bosibl bwriad yr ymweliad yw gwneud yn sicr fod pob un yn hapus â chynnydd y myfyriwr a rhoi cyfle i drafod unrhyw faterion perthnasol os na fydd ymweliad yn bosibl bydd y tiwtor yn gwneud ymdrech i gadw cyswllt rheolaidd âr myfyriwr ar y ffôn neu e bost isafswm cyflog cenedlaethol gan nad yw cynllun y flwyddyn mewn gwaith yn rhyng gwrs bydd yn rhaid i gyflog y myfyriwr fod ar lefel yr isafswm cyflog statudol neun uwch y mae peth gweithgaredd gwirfoddol yn cael ei eithrio or ddeddfwriaeth hon ond y maer maes yn aneglur iawn gan mai cyfrifoldeb y cyflogwr yw hyn rydym yn argymell bod cwmnïau yn cysylltu â llinell gymorth nmw national minimum wage er mwyn trafod eu sefyllfa unigol caption mae gennym fyfyrwyr rhagorol a brwd ymhob pwnc sy'n awyddus i roi eu sgiliau ar waith a dysgu rhai newydd gofynnwch am ragor o wybodaeth am y cyfle gwych hwn trwy gysylltu â joanne bullock neu debs coyne swyddfa cynllun y flwyddyn mewn gwaith gwasanaeth cynghori ar yrfaoedd prifysgol cymru aberystwyth campws penglais aberystwyth sy da ffôn neu ffacs ebost list yes scheme aber ac uk nôl i flaenddalen cynllun y flwyddyn mewn gwaith