llinell datganiad byd eang hawliau ieithyddol rhagarweiniad yr ydym ni y sefydliadau ar cyrff anllywodraethus y llofnodwyr ir datganiad byd eang o hawliau ieithyddol hwn a gyfarfu ym marcelona or ed ir fed o fehefin gan ystyried datganiad cyffredinol hawliau dynol sydd yn ei ragair yn mynegi ei ffydd mewn hawliau dynol sylfaenol yn urddas a gwerth y bod dynol ac mewn hawliau cyfartal i ddynion a merched ac sydd yn ei ail erthygl yn datgan fod gan bawb yr hawl i bob rhyddid a hawliau waeth pa hil lliw rhyw iaith crefydd barn wleidyddol neu gred arall gwreiddiad cenedlaethol neu gymdeithasol eiddo genedigaeth neu unrhyw statws arall gan ystyried cyfamod rhyngwladol hawliau sifil a gwleidyddol eg o ragfyr erthygl a chyfamod rhyngwladol hawliau economaidd cymdeithasol a diwylliannol or un dyddiad sydd yn eu rhageiriau yn datgan na all bodau dynol fod yn rhydd onibai fod amodau yn cael eu creu syn caniatáu iddynt fanteisio ar eu hawliau sifil a gwleidyddol fel ei gilydd ynghyd âu hawliau economaidd cymdeithasol a diwylliannol gan ystyried cytundeb rhagfyr fed cynulliad cyffredinol mudiadaur cenhedloedd unedig a fabwysiadodd datganiad hawliau pobl o leiafrifoedd cenedlaethol ethnig crefyddol a ieithyddol gan ystyried datganiadau a chytundebaur senedd ewropeaidd megis datganiad ewropeaidd gwarchod hawliau dynol a rhyddid sylfaenol tachwedd y ydd erthygl cytundeb cyngor gweinidogion senedd ewrop ain o fehefin a gymeradwyodd y siarter ewropeaidd dros ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol datganiad ar leiafrifoedd cenedlaethol gan uwchgyfarfod senedd ewrop ar y fed o hydref ar gynhadledd fframwaith er gwarchod lleiafrifoedd cenedlaethol ym mis tachwedd gan ystyried datganiad santiago de compostela clwb pen rhyngwladol a datganiad rhagfyr y fed pwyllgor hawliau cyfieithu a ieithyddol clwb pen rhyngwladol ynglyn âr syniad o gynnal cynhadledd byd ar hawliau ieithyddol gan ystyried datganiad hydref y fed yn recife brasil yn ystod fed seminar y gymdeithas ryngwladol dros ddatblygiad cyfathrebu rhyngddiwylliannol a argymhellodd ir cenhedloedd unedig gymeryd y camau angenrheidiol i gymeradwyo a gweithredu datganiad byd eang hawliau ieithyddol gan ystyried cytundeb y mudiad llafur rhyngwladol ar ain o fehefin ynglyn â phobl frodorol a llwythol mewn gwledydd annibynnol gan ystyried datganiad cyffredinol hawliau torfol pobl oedd ym marcelona ym mis mai a ddatganodd fod gan yr holl bobloedd yr hawl i fynegi a datblygu eu diwylliant eu hiaith au cyfundrefnau ac ir diben hwnnw i fabwysiadu eu strwythurau gwleidyddol addysgol cyfathrebol a gweinyddol eu hunain o fewn gwahanol fframweithiau gwleidyddol gan ystyried datganiad terfynol cynulliad cyffredinol ffederasiwn rhyngwladol athrawon ieithoedd modern yn pécs hwngari ar yr eg o awst a argymhellodd fod hawliau ieithyddol yn cael eu hystyried ymysg hawliau sylfaenol yr unigolyn gan ystyried adroddiad comisiwn hawliau dynol cyngor economaidd a chymdeithasol y cenhedloedd unedig ym mis ebrill a ymdriniodd â drafft datganiad hawliau pobl frodorol syn asesu hawliau unigolion yng nghyd destun hawliau torfol gan ystyried drafft datganiad comisiwn hawliau dynol rhyng americanaidd ar hawliau pobl frodorol a gymeradwywyd yn sesiwn ar y fed o fedi gan ystyried fod y mwyafrif o ieithoedd y byd sydd mewn perygl yn perthyn i gymunedau heb sofraniaeth ac mair prif ffactorau syn atal datblygiad yr ieithoedd hyn ar hyn syn cyflymur broses o ddisodli iaith yw diffyg hunan lywodraeth a pholisïaur gwladwriaethau syn gosod eu fframweithiau gwleidyddol a gweinyddol ynghyd âu hiaith ar y cymunedau hyn gan ystyried fod goresgyn gwladychu meddiannu ac achosion eraill o ddarostwng gwleidyddol economaidd neu gymdeithasol yn aml yn cynnwys gorfodi iaith estron yn uniongyrchol neu o leiaf yn newid syniadau o werth ieithoedd ac yn achosi agweddau ieithyddol hierarchaidd syn tanseilio ffyddlondeb ieithyddol siaradwyr a chan ystyried bod ieithoedd rhai pobloedd sydd wedi llwyddo i ennill sofraniaeth yn wynebu proses o ddisodli iaith oherwydd polisi syn ffafrio iaith cyn awdurdod gwladychol neu ymerodrol gan ystyried fod rhaid seilio cyffredinoliaeth ar ddealltwriaeth o amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol syn drech na thueddiadau at unffurfiaeth ac ymneilltuo cyfyng gan ystyried fod rhaid er mwyn sicrhau cyd fyw heddychlon ymysg cymunedau ieithyddol gwahanol darganfod egwyddorion cynhwysfawr i sicrhau hybu a pharchu pob iaith ai defnydd yn gyhoeddus ac yn breifat gan ystyried fod ffactorau amrywiol heblaw am rai ieithyddol ffactorau hanesyddol gwleidyddol tiriogaethol demograffaidd economaidd cymdeithasol ddiwylliannol a chymdeithasol ieithyddol ar rhai syn perthyn i agweddau torfol yn achosi problemau syn arwain at ymylu ieithoedd eu dirywiad au tranc ac oherwydd hynny y dylid astudio hawliau ieithyddol o berspectif cyflawn er mwyn gallu datrys y problemau ym mhob achos yn y gred fod angen datganiad byd eang o hawliau ieithyddol er mwyn sicrhau datblygiad llawn a pharch i bob iaith a sefydlu egwyddorion ar gyfer heddwch ieithyddol teg a chyfartal ar draws y byd a thrwy hyn sicrhau perthynas gymdeithasol gydgordiol yn datgan fod rhagymadrodd sefyllfa pob iaith o gofio yr ystyriaethau blaenorol yn ganlyniad i gydblethu ac ymadwaith nifer helaeth o ffactorau gwahanol rhai o natur wleidyddol a chyfreithiol ideolegol a hanesyddol demograffaidd a thiriogaethol economaidd a chymdeithasol ieithyddol a chymdeithasol ieithyddol rhyng ieithyddol a goddrychol yn benodol ar hyn o bryd maer ffactorau hyn iw gweld yn yr hen arfer sydd gan y mwyafrif o wladwriaethau i leihau gwahaniaethau ac i fagu agweddau yn erbyn cymdeithas aml ddiwylliannol ac aml ieithyddol y tueddiad tuag at economi fyd eang ac o ganlyniad y tueddiad tuag at farchnad wybodaeth diwylliant a chyfathrebu fyd eang syn amharu ar gyd berthnasau a dulliau pobl o ymwneud âi gilydd syn gwarantu cydlyniad mewnol cymunedau ieithyddol y model o dwf economaidd a anogwyd gan grwpiau economaidd rhyngwladol syn ceisio cysylltu dadreoli gyda chynnydd datblygiad unigolydiaeth gystadleuol gyda rhyddid ac syn achosir anghyfartaledd cynyddol a difrifol yn economaidd cymdeithasol diwylliannol a ieithyddol mae cymunedau ieithyddol o dan bwysau ar hyn o bryd gan beryglon syn codi o ddiffyg hunan lywodraeth o boblogaeth fechan neu un syn rhannol neun gyfangwbl ar wasgar o economi wan o iaith heb ei safoni neu o batrwm diwylliannol syn wrthwynebus ir un cryfaf a hyn i gyd yn ei gwneud hin amhosibl i lawer o ieithoedd oroesi a datblygu onibai fod yr amcanion canlynol yn cael eu hystyried o berspectif gwleidyddol y nôd yw darganfod modd o drefnu amrywiaethau ieithyddol fydd yn caniatáu i bob cymuned ieithyddol gyfranogin effeithiol yn y model newydd o ddatblygiad o berspectif diwylliannol y nôd yw datblygu cyfathrebu byd eang fel ei fod mewn cytgord âr broses o ddatblygiad teg i bob cenedl cymuned ieithyddol ac unigolyn o berspectif economaidd yr amcan yw hybu datblygiad cynaladwy wedi ei sylfaenu ar gyd weithio rhwng pawb ac ar barch at y cydbwysedd ecolegol cymdeithasol ac ar berthynas gyfartal rhwng pob iaith a diwylliant oherwydd yr holl resymau hyn maer datganiad hwn yn ymdrin â chymunedau ieithyddol yn hytrach nag â gwladwriaethau fel man cychwyn ac fe ddylid ei ystyried yng nghyd destun atgyfnerthiad sefydliadau rhyngwladol sydd âr gallu i sicrhau datblygiad cynaladwy a chyfartal ir holl ddynoliaeth am y rhesymau hyn mae hefyd yn bwriadu annog creu fframwaith gwleidyddol ar gyfer amrywiaeth ieithyddol wedi ei seilio ar barch a chyd fyw cytgordiol a fydd yn fuddiol i bawb teitl rhagarweiniol cysyniadau erthygl maer datganiad hwn yn ystyried mai cymuned ieithyddol yw unrhyw gymdeithas ddynol sydd wedi ei sefydlu yn hanesyddol mewn tiriogaeth ddaearyddol arbennig heb ystyried a ywr diriogaeth honno yn cael ei chydnabod neu beidio syn cydnabod ei hun fel pobl ac sydd wedi datblygu iaith gyffredin fel modd naturiol o gyfathrebu a chydlyniad diwylliannol rhwng ei haelodau maer term priod iaith yn cyfeirio tuag at iaith y gymdeithas sydd wedi ei sefydlun hanesyddol yn y diriogaeth honno man cychwyn y datganiad hwn ywr egwyddor fod hawliau ieithyddol yn unigol a thorfol ar yr un pryd wrth ddiffinior holl hawliau ieithyddol y cyfeirbwynt yw achos cymuned hanesyddol ieithyddol o fewn ei hardal diriogaethol ei hun ar diriogaeth hon yn cael ei hystyried nid yn unig fel y man ble maer gymuned yn byw ond hefyd fel y diriogaeth gymdeithasol a gweithredol syn angenrheidiol ar gyfer llawn ddatblygiad yr iaith dim ond o dan yr amodau hyn y gellir diffinio hawliaur grwpiau ieithyddol syn cael eu henwi ym mhwynt or erthygl hon a hefyd hawliau unigolion syn byw y tu allan ir ardal diriogaethol o safbwynt graddoliad neu gontinwwm at ddibenion y datganiad hwn ystyrir grwpiau i fod ar eu tiriogaeth eu hunain ac i fod yn perthyn i gymuned ieithyddol o dan yr amgylchiadau canlynol i pan fônt wedi eu gwahanu oddiwrth weddill y gymuned gan ffiniau gwleidyddol neu weinyddol ii pan fônt wedi eu sefydlun hanesyddol mewn tiriogaeth fechan gydag aelodau o gymunedau ieithyddol eraill ou hamgylch iii pan fônt wedi eu sefydlu mewn tiriogaeth syn cael ei rhannu gydag aelodau o gymunedau ieithyddol eraill â hanes cyffelyb maer datganiad hwn hefyd yn ystyried cymunedau crwydrol fel cymunedau ieithyddol yn eu tiriogaeth eu hunain os ydynt wedi eu sefydlun hanesyddol mewn ardaloedd gwasgaredig maer datganiad hwn yn ystyried mai cymuned ieithyddol yw unrhyw grwp o bobl syn rhannur un iaith ac sydd wedi eu sefydlu eu hunain o fewn tiriogaeth cymuned ieithyddol arall ond nad ydynt yn berchen ar draddodiad hanesyddol o fod yn y diriogaeth honno enghreifftiau o grwpiau or fath yw mewnfudwyr ffoaduriaid ac alltudion erthygl maer datganiad hwn yn ystyried fod rhaid ir hawliau a osodwyd yn y datganiad hwn gael eu harfer ar sail parch ac yn y modd mwyaf cyflawn y gall democratiaeth ei sicrhau pan fo cymunedau a grwpiau ieithyddol yn rhannu tiriogaeth er mwyn sefydlu amodau cytbwys rhwng hawliau ieithyddol cymunedau ar bobl syn berthyn iddyn nhw maen rhaid ir ymdrech i ddod o hyd i gydbwysedd gymdeithasol ieithyddol ystyried ffactorau eraill yn ychwanegol at hanes tiriogaethol a dymuniadau democrataidd y bobl ymysg ffactorau or fath a all alw am ymdriniaeth iawndaliadol i ail osod cydbwysedd maer rhai canlynol natur orfodol yr ymfudiadau sydd wedi golygu fod y cymunedau ar grwpiau gwahanol hyn yn cyd fyw a natur fregus eu sefyllfa wleidyddol gymdeithasol economaidd a diwylliannol erthygl maer datganiad hwn yn ystyried y ffactorau canlynol fel hawliau dynol diymwad y gellir eu defnyddio mewn unrhyw sefyllfa yr hawl i gydnabyddiaeth fel aelod o gymuned ieithyddol yr hawl i ddefnyddio unrhyw iaith och dewis yn gyhoeddus ac yn breifat yr hawl i ddefnyddio eich enw eich hun yr hawl i gymdeithasu a chydberthyn gydag aelodau eraill och cymuned ieithyddol wreiddiol yr hawl i gynnal a datblygu eich diwylliant eich hun a phob hawl arall yn perthyn i iaith syn gydnabyddedig gan gyfamod rhyngwladol hawliau sifil a gwleidyddol rhagfyr yr eg a chyfamod rhyngwladol hawliau economaidd cymdeithasol a diwylliannol or un dyddiad maer datganiad hwn yn ystyried y gallai hawliau torfol grwpiau ieithyddol gynnwys y ffactorau canlynol yn ogystal âr hawliau sydd wedi cael eu cyflwyno iddynt yn y paragraff blaenorol ac mewn cytgord âr amgylchiadau a enwyd yn erthygl yr hawl iw hiaith au diwylliant eu hunain gael eu dysgu yr hawl i wasanaethau diwylliannol yr hawl i bresenoldeb cyfartal ou hiaith au diwylliant yn y cyfryngau cyfathrebol yr hawl i gael eu trafod yn eu hiaith eu hunain gan gyrff llywodraethol ac mewn perthnasau cymdeithasol economaidd ni ddylair hawliau i bobl a grwpiau ieithyddol a enwyd uchod fod yn unrhyw rwystr i gydberthynas y bobl neur grwpiau hyn âr brif gymuned ieithyddol nac ychwaith eu hatal rhag integreiddio yn y gymuned honno ni ddylair hawliau hyn amharu ar hawliaur brif gymuned nai haelodau i ddefnydd cyhoeddus llawn o iaith y gymuned ei hun ledled thiriogaeth erthygl maer datganiad hwn yn ystyried fod gan bobl syn mudo i neun sefydlu eu hunain ar diriogaeth cymuned ieithyddol arall y ddyletswydd ar hawl i fagu agwedd o integreiddio âr gymuned arall deallir y term yma i olygu cymdeithasolir bobl hyn fel y gallant ddiogelu eu nodweddion diwylliannol gwreiddiol ac eton rhannu digon o gyfeiriadau gwerthoedd a ffurfiau o ymddygiad âr gymdeithas y maent wedi eu sefydlu yn eu mysg gan sicrhau y gallant weithredu yn gymdeithasol mor ddi drafferth ag aelodaur brif gymuned eto maer datganiad hwn yn ystyried na ddylai cymathu term syn cael ei ddeall i olygu mabwysiadu diwylliant y brif gymuned fel bod nodweddion diwylliannol gwreiddiol yn cael eu disodli gan gyfeiriadau gwerthoedd a ffurfiau ymddygiad y brif gymuned ar unrhyw gyfrif gael ei orfodi nai gymell ac y gall ddod yn unig o ganlyniad i benderfyniad hollol rydd erthygl maer datganiad hwn yn seiliedig ar yr egwyddor fod hawliau pob cymuned ieithyddol yn gyfartal ac yn annibynnol ou statws cyfreithiol fel ieithoedd swyddogol rhanbarthol neu leiafrifol nid yw termau fel rhanbarthol neu leiafrifol yn cael eu defnyddio yn y datganiad hwn oherwydd fod y termau hyn a rhai cyffelyb yn cael eu defnyddion aml i gyfyngu ar hawliaur cymunedau ieithyddol er mewn ambell i achos mae cydnabod bod iaith yn rhanbarthol neun leiafrifol yn gwneud y defnydd o rai hawliau yn haws erthygl maer datganiad hwn yn ystyried na all iaith gael ei hystyried yn arbennig i un diriogaeth am yr unig reswm mai honno yw iaith swyddogol y wladwriaeth neu yn draddodiadol wedi cael ei defnyddio i weinyddu o fewn y diriogaeth ar gyfer rhai gweithgareddau diwylliannol pennawd un egwyddorion cyffredinol erthygl mae pob iaith yn fynegiant o hunaniaeth dorfol ac yn fodd arbennig o weld a disgrifio realaeth ac maen rhaid felly i bob iaith allu manteisio ar yr amodau syn angenrheidiol ar gyfer pob agwedd ar ei datblygiad mae pob iaith yn greadigaeth dorfol ac ar gael iw defnyddio fel cyfrwng cydlyniad adnabyddiaeth cyfathrebu a mynegiant creadigol o fewn y gymuned erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i drefnu a rheoli ei hadnoddau ei hun er mwyn sicrhaur defnydd oi hiaith ym mhob agwedd ar weithgaredd o fewn y gymdeithas mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i gael pob adnodd angenrheidiol i sicrhau defnydd a pharhâd ei hiaith erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i gyfundrefnu safoni diogelu datblygu a meithrin eu system ieithyddol heb ymyrraeth orfodol na phwysau or tu allan erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol hawliau cyfartal maer datganiad hwn yn ystyried anffafriaeth yn erbyn cymunedau ieithyddol yn annerbyniol boed yn seiliedig ar eu lefel o annibyniaeth wleidyddol eu sefyllfa yn gymdeithasol economaidd neu fel arall yn ogystal ag i ba raddau y mae eu hieithoedd wedi cael eu safoni eu diweddaru neu foderneiddio neu ar unrhyw sail arall rhaid i bopeth angenrheidiol gael ei wneud er mwyn cyflawnir egwyddor o gydraddoldeb ei wireddu ai effeithioli erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i ddarpariaeth gyfieithu o ba fath bynnag i ieithoedd eraill ac o ieithoedd eraill sydd yn angenrheidiol i sicrhau gweithredur hawliau sydd yn gynwysiedig yn y datganiad hwn erthygl mae gan bawb yr hawl i gyflawni gweithredoedd swyddogol yn ei iaith ei hun os mair iaith honno yw priod iaith y diriogaeth ble maent yn byw mae gan bawb yr hawl i ddefnyddio eu hiaith o fewn eu teulu ac ymysg eu ffrindiau erthygl mae gan bawb yr hawl i wybod priod iaith y diriogaeth ble maent yn byw mae gan bawb yr hawl i fod yn amlieithog ac i wybod a defnyddior iaith sydd fwyaf addas iw datblygiad unigol neu eu datblygiad o fewn y gymdeithas heb ragfarnu yn erbyn y gwarantau a sefydlwyd yn y datganiad hwn ir defnydd cyhoeddus o briod iaith y diriogaeth erthygl ni all gofynion y datganiad hwn gael eu dehongli nau defnyddio yn erbyn unrhyw arfer sydd eisioes yn bodoli o fewn statws mewnol neu ryngwladol iaith os ywr rheiny yn fwy ffafriol ir iaith ai defnydd yn ei thiriogaeth ei hun ail bennawd trefn ieithyddol gyffredinol adran gweinyddiaeth gyhoeddus a chyrff swyddogol erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i ddefnyddio ei hiaith yn swyddogol o fewn ei thiriogaeth mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i ddilysrwydd ac effeithiolrwydd gweithredoedd cyfreithiol a gweinyddol dogfennau swyddogol a phreifat a chofnodion mewn cofrestrau swyddogol sydd wedi eu hysgrifennu yn iaith yr diriogaeth ac ni all neb ddefnyddio eu hanwybodaeth or iaith honno i ddadlau fel arall erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i gyfathrebu yn ei hiaith ei hun â gwasanaethau canolog tiriogaethol lleol ac uwchdiriogaethol yr awdurdodau cyhoeddus a rhair adrannau gweinyddol syn cynnwys y diriogaeth ieithyddol arbennig honno erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i ddefnyddio a chael pob dogfen swyddogol yn ei hiaith ei hun syn ymwneud â ac yn effeithio ar yr ardal ieithyddol arbennig honno boed y dogfennau yn brintiedig ar ffurf electronig neu ar unrhyw ffurf arall rhaid i ffurflenni a dogfennau safonol gweinyddol boed yn brintiedig ar ffurf electronig neu ar unrhyw ffurf arall fod ar gael ir cyhoedd ym mhob iaith diriogaethol gan yr awdurdodau swyddogol syn ymwneud âr ardaloedd ieithyddol arbennig hynny erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i gyfreithiau a darpariaethau cyfreithiol eraill syn berthnasol iddynt gael eu darparu ym mhriod iaith y diriogaeth maen rhaid ir awdurdodau swyddogol sydd â mwy nag un iaith diriogaethol o fewn eu cyfundrefn gyhoeddi pob cyfraith a darpariaethau cyfreithiol eraill o natur gyffredinol ym mhob un ou hieithoedd pun a ywr siaradwyr yn deall ieithoedd eraill neu beidio erthygl rhaid i gynulliadau cynrychioladol ddefnyddio fel iaith neu ieithoedd swyddogol yr un neur rhai sydd yn cael eu siarad yn hanesyddol yn y diriogaeth y maent yn ei chynrychioli maer hawl yma hefyd yn cyfeirio at ieithoedd y cymunedau mewn ardaloedd daearyddol gwasgaredig a grybwyllwyd yn erthygl paragraff erthygl mae gan bawb yr hawl i ddefnyddior iaith a siaredir yn hanesyddol mewn tiriogaeth yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y llysoedd barn o fewn y diriogaeth honno maen rhaid ir llysoedd barn ddefnyddio priod iaith y diriogaeth yn eu gweithredoedd mewnol ac os ywr gweithredoedd yn parhau mewn tiriogaeth arall oherwydd system gyfreithiol y wladwriaeth yna maen rhaid parhau i ddefnyddior iaith wreiddiol serch yr hyn a grybwyllwyd uchod mae gan bawb yr hawl i gael eu profi mewn iaith y maent yn ei deall ac y gallant ei siarad ac i dderbyn gwasanaeth cyfieithydd yn rhad ac am ddim erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i gofnodion ym mhriod iaith y diriogaeth mewn cofrestri cyhoeddus erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i gael dogfennau sydd wedi eu dilysu gan notarïaid cyhoeddus neu was sifil arall ym mhriod iaith y diriogaeth ble maer notari neur gwas sifil cyhoeddus yn cyflawni ei swyddogaethau adran addysg erthygl maen rhaid i addysg fod o gymorth i feithrin gallur gymuned ieithyddol yn y diriogaeth lle yi darperir i fynegi eu hunain yn ieithyddol a diwylliannol maen rhaid i addysg fod o gymorth i gynnal a datblygur iaith syn cael ei siarad yn y gymuned ieithyddol maen rhaid i addysg bob amser wasanaethu amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol a meithrin perthynas gytgordiol rhwng y cymunedau ieithyddol gwahanol ledled y byd o fewn cyd destun yr egwyddorion blaenorol mae gan bawb yr hawl i ddysgu siarad unrhyw iaith erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i benderfynu i ba raddau mae ei hiaith yn bresennol fel modd o gyfathrebu neu fel pwnc astudiaeth ar bob lefel addysgol o fewn eu tiriogaeth cyn ysgol cynradd uwchradd technegol galwedigaethol prifysgol ac addysg oedolion erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl ir holl adnoddau dynol a materol syn angenrheidiol i sicrhau fod ei hiaith yn bresennol ir graddau y maent yn dymuno ar bob lefel addysgol o fewn eu tiriogaeth athrawon wedi eu hyfforddin iawn dulliau dysgu priodol llyfrau addysgol cyllid adeiladau ac offer technoleg draddodiadol a newyddiannol erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i addysg a fydd yn caniatáu meistrolaeth lwyr ar ei hiaith ei hun yn cynnwys galluoedd gwahanol syn berthnasol iw defnydd yn yr holl feysydd arferol yn ogystal âr feistrolaeth ehangaf posib ar unrhyw iaith arall y dymunent ei gwybod erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i addysg a fydd yn galluogi ei haelodau i ddysgu unrhyw iaith syn berthnasol iw traddodiad diwylliannol megis ieithoedd llenyddol neu gysegredig a ddefnyddiwyd fel iaith bob dydd yn y gymuned yn y gorffennol erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i addysg syn galluogi ei haelodau i gael adnabyddiaeth drylwyr ou hetifeddiaeth ddiwylliannol hanes daearyddiaeth llenyddiaeth ac agweddau eraill ar eu diwylliant ynghyd âr wybodaeth helaethaf posib o unrhyw ddiwylliant arall yr hoffent ei adnabod erthygl mae gan bawb yr hawl i dderbyn addysg ym mhriod iaith y diriogaeth ble maent yn byw nid ywr hawl yma yn allgaur hawl i wybodaeth lafar neu ysgrifenedig o unrhyw iaith arall a fydd o ddefnydd iddynt wrth gyfathrebu efo cymunedau ieithyddol eraill erthygl maen rhaid i iaith a diwylliant pob cymuned ieithyddol fod yn bwnc astudiaeth ac ymchwil ar lefel prifysgol adran enwau priod erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i ddiogelu a defnyddio eu system eu hunain o enwau priod ym mhob cylch ac ar bob achlysur erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i ddefnyddio enwau lleoedd ym mhriod iaith y diriogaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn meysydd preifat cyhoeddus a swyddogol mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i sefydlu diogelu ac adolygu enwau brodorol lleoedd ni all enwau or fath gael eu dileu eu llygru eu haddasun fympwyol nau disodli os oes newidiadau gwleidyddol neu newidiadau o fath arall yn digwydd yn y diriogaeth erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i gyfeirio atii hun yn ôl yr enw sydd arni yn ei hiaith eu hunan rhaid i unrhyw gyfieithiad osgoi enwau difrïol neu amwys erthygl mae gan bawb yr hawl i ddefnyddio eu henwau eu hunain yn eu hiaith eu hunain ym mhob maes ar hawl dim ond pan fon angenrheidiol ir trawsysgrifiad ffonetig cywiraf posibl ou henw mewn system wahanol o ysgrifennu adran cyfryngau cyfathrebol a thechnoleg newydd erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i benderfynu i ba raddau y mae ei hiaith yn bresennol ym mhob cyfrwng cyfathrebu yn ei thiriogaeth boed y rheinyn gyfryngau lleol a thraddodiadol rhai efo gorwelion lletach neun rhai syn defnyddio technoleg fodern fwy datblygiedig heb ystyried ffurf y trosglwyddo neu ddarlledu syn cael ei defnyddio erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl ir holl adnoddau dynol a materol syn angenrheidiol i sicrhau fod ei hiaith ai hunan fynegiant diwylliannol yn bresennol ir graddau y maent yn dymuno yng nghyfryngau cyfathrebu ei thiriogaeth personél wedi eu hyfforddin drylwyr cyllid adeiladau ac offer technoleg draddodiadol a newydd erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i wybodaeth drylwyr oi hetifeddiaeth ddiwylliannol hanes daearyddiaeth llenyddiaeth a phethau eraill syn ymwneud âu diwylliant drwyr cyfryngau cyfathrebu ynghyd âr wybodaeth fwyaf trylwyr posibl am unrhyw ddiwylliant arall yr hoffent ddod iw adnabod erthygl dylai ieithoedd a diwylliannau pob cymuned ieithyddol gael eu trin yn gydradd ac yn ddiragfarn yn y cyfryngau cyfathrebu ar draws y byd erthygl mae gan y cymunedau a ddisgrifwyd yn erthygl paragraffau a or datganiad hwn ar grwpiau a grybwyllwyd ym mharagraff or un erthygl yr hawl i gynrychiolaeth gyfartal ou hiaith yng nghyfryngau cyfathrebou y diriogaeth y maent wedi eu sefydlu ynddi neu wedi mudo iddi dylair hawl yma gael ei gweithredu mewn cytgord efo hawliaur grwpiau neu gymunedau ieithyddol eraill yn y diriogaeth erthygl ym maes technoleg gwybodaeth mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i offer wedi ei addasu ar gyfer eu system ieithyddol ac offer a chynnyrch yn eu hiaith eu hunain fel eu bod yn gallu defnyddio er y fantais fwyaf posibl yr holl agoriadau a gynigir drwy dechnoleg or fath ar gyfer cyhoeddi cyfieithu a phrosesu gwybodaeth i drosglwyddo diwylliant yn gyffredinol adran diwylliant erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i ddefnyddio cynnal a meithrin ei hiaith ym mhob ffurf o fynegiant diwylliannol maen rhaid i bob cymuned ieithyddol gael defnyddior hawl hon ir eithaf heb i ofod unrhyw gymuned ddioddef meddiant goruchafiaethol cymuned arall erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i ddatblygiad llawn o fewn ei phau diwylliannol ei hun erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i gael gweld a defnyddio pob gwaith a gynhyrchwyd yn ei hiaith ei hun erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i weld rhaglenni rhyng ddiwylliannol trwy ledaeniad digonol gwybodaeth a thrwy gefnogaeth weithgareddau megis dysgur iaith i estronwyr cyfieithu dybio ôl gydamseru ac is deitlo erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl iw phriod iaith gael lle amlwg mewn gweithgareddau diwylliannol ar gwasanaethau llyfrgelloedd llyfrgelloedd fideo sinemâu theatrau amgueddfeydd archifdai llên gwerin diwydiannau diwylliannol a phopeth arall syn ymwneud âr byd diwylliannol erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i ddiogelu ei hetifeddiaeth ieithyddol a diwylliannol yn cynnwys ei amlygiadau materol megis casgliadau o ddogfennau casgliadau celfyddydol cofadeilion hanesyddol ac arysgrifau yn ei hiaith ei hun adran y maes cymdeithasol economaidd erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i sefydlur defnydd oi hiaith ei hun ym mhob gweithgaredd cymdeithasol economaidd o fewn ei thiriogaeth mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i ddarpariaeth yn ei hiaith eu hun o bopeth syn angenrheidiol i gyflawni ei gweithgareddau proffesiynol er enghraifft dogfennau a gweithiau cyfeiriadol cyfarwyddiadau ffurflenni offer cyfrifiadurol ac offer a chynhyrchion eraill gellir cyfiawnhau defnyddio ieithoedd eraill yn y maes yma dim ond os ywn cael ei gyfiawnhau gan angenrheidiol i natur y gweithgaredd proffesiynol ni chaiff unrhyw iaith a gyrhaeddodd yn ddiweddarach danseilio na threchur defnydd o briod iaith y diriogaeth o dan unrhyw amgylchiadau erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i ddefnyddio ei hiaith â phob dilysrwydd cyfreithiol mewn gweithredoedd masnachol economaidd o unrhyw fath er enghraifft gwerthu a phrynu cynnyrch a gwasanaethau bancio yswiriant cytundebau gwaith ac eraill ni all unrhyw gymal mewn gweithredoedd preifat or fath allgau neu gyfyngu ar ddefnydd iaith yn ei thiriogaeth ei hun mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i gael y dogfennau syn angenrheidiol ar gyfer cyflawnir gweithredoedd uchod at ei defnydd yn ei hiaith ei hun mae dogfennau or fath yn cynnwys ffurflenni sieciau cytundebau anfonebau derbynebau danfonebau ffurflenni archebu ac eraill erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i ddefnyddio ei hiaith ym mhob math o gyfundrefnau cymdeithasol economaidd megis sefydliadau llafur ac undebol a chymdeithasau cyflogwyr proffesiynol masnach a chrefft erthygl mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i bresenoldeb amlwg iw hiaith mewn hysbysebu arwyddion mynegbyst allanol a phob elfen arall syn creu delwedd y wlad mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i dderbyn gwybodaeth lawn ar lafar ac yn ysgrifenedig yn ei hiaith ei hun am gynnyrch a gwasanaethau syn cael eu cynnig gan sefydliadau masnachol yn y diriogaeth megis cyfarwyddiadau defnyddio labeli rhestrau cynhwysion hysbysebion gwarantau ac eraill dylai pob arwydd a datganiad cyhoeddus syn effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd gael eu hysgrifennu o leiaf ym mhriod iaith y diriogaeth o dan amodau cystal âr rhai a roddir i ieithoedd eraill erthygl mae gan bawb yr hawl i ddefnyddio priod iaith y diriogaeth wrth gyfathrebu â chwmnïau sefydliadau masnachol a phreifat ac i dderbyn ateb neu wasanaeth yn yr un iaith mae gan bawb yr hawl fel client neu ddefnyddiwr i dderbyn gwybodaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig ym mhriod iaith y diriogaeth gan sefydliadau syn agored ir cyhoedd erthygl mae gan bawb yr hawl i gyflawni eu gweithgareddau proffesiynol yn yr iaith syn arbennig ir ardal onibai fod gweithgareddau angenrheidiol ir swydd yn gofyn am ddefnyddio ieithoedd eraill er enghraifft athrawon iaith cyfieithwyr neu arweinwyr twristiaid gosodiadau atodol yn gyntaf maen rhaid ir awdurdodau cyhoeddus gymryd pob cam priodol i sicrhau yr hawliau sydd wedi eu cyhoeddi yn y datganiad hwn yn yr ardaloedd a weinyddir ganddynt yn fwy penodol dylai cronfeydd rhyngwladol gael eu sefydlu er mwyn meithrin y defnydd o hawliau ieithyddol mewn cymunedau sydd yn amlwg yn ddiffygiol o ran adnoddau felly maen rhaid ir awdurdodau cyhoeddus roir gefnogaeth angenrheidiol i sicrhau fod ieithoedd y cymunedau ieithyddol i gyd yn cael eu safoni eu trawsysgrifio eu dysgu au defnyddio mewn gweinyddiaeth yn ail maen rhaid ir awdurdodau swyddogol sicrhau fod yr awdurdodau y sefydliadau ar bobl dan sylw yn cael eu hysbysu or hawliau ar dyletswyddau cyfatebol syn codi or datganiad hwn yn drydydd maen rhaid ir awdurdodau swyddogol sefydlu yng ngoleunir ddeddfwriaeth bresennol cosbau a fydd yn dod o ganlyniad i anwybyddur hawliau ieithyddol a sefydlwyd yn y datganiad hwn gosodiadau terfynol yn gyntaf maer datganiad hwn yn cynnig creu cyngor ieithoedd o fewn sefydliad y cenhedloedd unedig cynulliad cyffredinol y cenhedloedd unedig sydd i fod yn gyfrifol am drefnur cyngor hwn am ddiffinio ei swyddogaethau ac apwyntior aelodau ac am greu corff mewn cyfraith ryngwladol i ddiogelu cymunedau ieithyddol yn eu hawl i ddefnyddior hawliau a gydnabyddir yn y datganiad hwn yn ail maer datganiad hwn yn argymell ac yn hyrwyddo creu comisiwn byd ar hawliau ieithyddol corff answyddogol ymgynghorol yn cynnwys cynrychiolwyr o gyrff anllywodraethol a sefydliadau syn gweithio ym maes cyfraith ieithyddol barcelona mehefin datganiad byd eang hawliau ieithyddol gyda chefnogaeth y canlynol wislawa szymbroska nelson rolihlahia mandela buthelezi mangosuthu gatsha ronald harwood homero aridjis noam chomsky josé ramos horta y dalai lama dr m aram desmond tutu lázslo tókés ricard maria carles i gordó adolfo pérez esquivel josep carreras seamus heaney ngugi wa thiong'o shimon peres yasser arafat octavio paz judit mascó peter gabriel joan oró cynhadledd byd eang hawliau ieithyddol ciemen centre internacional escarré per a les minories ètniques i les nacions rocafort bis barcelona catalunya ffôn ffacs pwyllgor dilyniant datganiad byd eang hawliau ieithyddol c de la canuda è barcelona catalunya ffôn ffacs ebost dudl linguistic declaration org rhyngrwyd http www linguistic declaration org