morfablog beth yw'r ots « geiriau caredig oddi wrth tom hafan a beautiful life an early » mehefin wedi dechrau ychwanegu peth o wedi dechrau ychwanegu peth o gyfieithiadau gyda'r cyhoeddiad 'ma ar ran y llu o ddysgwyr sy'n darllen morfablog 'sai rhaid i mi chwilio am air yn y geiriadur bydda i'n ei roi y saesneg mewn label title a gallwch symud eich llygoden bach dros y gair i weld y cyfieithiad dyw'r tric 'ma ddim yn gweithio gyda hen boryddion os dych chi ddim yn gweld y cyfieithiadau mae'n hen amser i chi ddiweddaru eich porydd bydd philippa yn ôl o ddyfnaint fory dyna fydd diwedd yr adeg hiraf i fi fod ar mhen fy hunan ym maesymorfa edrychaf ymlaen o boi rwy'n anobeithiol byw ar mhen fy hunan rwy wedi bod yn bwyta'n wael iawn brechdanau wyau wedi frïo bisgedi yfed gormod daeth jude ac al â photel o laphroig i mi a wastraffu oriau ac oriau chwarae gemau cyfrifiadur fel gofynodd bill hicks what am i thirteen emotionally peth arall yw dw i ddim yn gallu ymdopi â'r anifeiliaid heb gymorth philippa mae cochen y fuwch wallgo wedi dechrau gwasod y bore 'ma ceisio dringo ar gefn siriol y jersey dof ac yn anwybyddu ei llo ei hunan yn llwyr ches i ddim ond dau beint o laeth oddi wrth siriol cyn iddi hithau fynd yn wallgo hefyd a'r ddwy ohonyn yn crwydro o gwmpas y clós fel y bechgyn yn west side story brysia nôl philippa brysia nôl rhywbeth rwy wedi anghofio sôn amdanyn fan hyn fe welon ni gyngerdd arbennig o dda gan fernhill a llio rhydderch nos sadwrn yn y mwldan fe ganodd julie murphy song to the siren gan tim buckley roedd cymaint o drydan yn yr awyrgylch fe ffrwydrodd toddyn ac aeth y pwer bant meddai hi fe ddigwyddodd yr un peth yn pakistan roedd llio rhydderch yn ddatgyddiad ro'n i wedi clywed ei chryno disc mihangell sy'n ddigon dymunol ond yn fyw oedd y stori yn hollol wahanol pan daeth hi i'r llwyfan oedd hi'n edrych fel athrawes ysgol sul mewn ffrog flodeuog a bag bach lledr du ond pan dechreuodd hi ganu'r delyn oedd pawb yn gwybod taw mewn cwmni angelion o'n ni postwyd gan nic dafis mehefin yb sylwadau ychwanegu sylw enw cyfeiriad e bost url sylwadau cofio manylion rhagolwg post