trefn y weddi brydnhawnol bob dydd trwy'r flwyddyn ¶ ar ddechreu'r weddi brydnhawnol darllened y gweinidog â llef uchel ryw un neu ychwaneg o'r adnodau hyn o'r ysgrythyr lân y rhai sydd yn canlyn ac yna dyweded yr hyn y sydd ysgrifenedig ar ol yr unrhyw adnodau pan ddychwelo 'r annuwiol oddi wrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth a gwneuthur barn a chyfiawnder hwnnw geidw yn fyw ei enaid ezec xviii yr wyf yn cydnabod fy nghainweddau a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron psal li cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau a dilea fy holl anwireddau psal li aberthau duw ydynt yspryd drylliedig calon ddrylliog gystuddiedig o dduw ni ddirmygi psal li rhwygwch eich calon ac nid eich dillad ac ymchwelwch at yr arglwydd eich duw o herwydd graslawn a thrugarog yw efe hwyrfrydig i ddigofaint a mawr ei drugaredd ac edifeiriol am ddrwg jöel ii gan yr arglwydd ein duw y mae trugareddau a maddeuant er gwrthryfelu o honom i'w erbyn ni wrandawsom chwaith ar lais yr arglwydd ein duw i rodio yn ei gyfreithiau ef y rhai a roddodd efe o'n blaen ni dan ix cospa fi arglwydd etto mewn barn nid yn dy lid rhag it' fy ngweuthur yn ddiddym jer x psal vi edifarhęwch canys nesaodd terynas nefoedd st matt iii mi a godaf ac a âf at fy nhad ac a ddywedaf wrtho fy nhad pechais yn erbyn y nef ac o'th flaen dithau ac mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fab i ti st luc xv arglwydd na ddos i farn â'th was o herwydd ni chyfiawnhęir neb byw yn dy olwg di psal cxliii os dywedwn nad oes ynom bechod yr ydym yn ein twyllo ein hunain a'r gwirionedd nid yw ynom os cyfaddefwn ein pechodau ffyddlon yw efe a chyfiawn fel y maddeuo i ni ein pechodau ac y'n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder i ioan i fy anwyl gariadus frodyr y mae'r ysgrythyr lân yn ein cynhyrfu mewn amrywiol fannau i gydnabod ac i gyffesu ein haml bechodau a'n hanwiredd ac na wnelem na'u cuddio na'u celu yngwydd yr holl alluog dduw ein tad nefol eithr eu cyffesu â gostyngedig isel edifarus ac ufudd galon er mwyn caffael o honom faddeuant am danynt trwy ei anfeidrol ddaioni a'i drugaredd ef ac er y dylem ni bob amser addef yn ostyngedig ein pechodau ger bron duw etto ni a ddylem yn bennaf wneuthur hynny pan ymgynhullom i gyd gyfarfod i dalu dďolch am yr aml ddaioni a dderbyniasom ar ei law ef i ddatgan ei haeddediccaf foliant i wrando ei sancteiddiaf air ef ac i erchi y cyfryw bethau ag a fyddo cymmwys ac angenrheidiol yn gystal ar les y corph a'r enaid o herwydd paham myfi a erfyniaf ac a attolygaf i chwi cynnifer ag y sydd yma yn bresennol gyd dynnu myfi â chalon bur ac â lleferydd ostyngedig hyd yngorseddfa'r nefol râd gan ddywedyd ar fy ol i invitation ¶ cyffes gyffredin i'w dywedyd gan yr holl gynnulleidfa ar ol y gweinidog gan ostwng ar eu gliniau oll holl alluog dduw a thrugaroccaf dad nyni a aethom ar gyfeiliorn allan o'th ffyrdd di fel defaid ar gyfrgoll nyni a ddilynasom ormod ar amcanion a chwantau ein calonnau ein hunain nyni a wnaethom yn erbyn dy sancteiddiol gyfreithiau nyni a adawsom heb wneuthur y pethau a ddylesym eu gwneuthur ac a wnaethom y pethau ni ddylesym eu gwneuthur ac nid oes iechyd ynom eithr tydi o arglwydd cyminer drugaredd arnom ddrwg weithred wyr truain arbed di hwynt hwy o dduw y rhai sy'n cyffesu eu beiau cyweiria di'r sawl sydd yn edifarus yn ol dy addewidion a hyspyswyd i ddyn yng nghrist iesu ein harglwydd a chaniattâ drugaroccaf dad er ei fwyn ef fyw o honom rhag llaw mewn duwiol union a sobr fuchedd i ogoniant dy sancteiddiol enw amen confession ¶ y gollyngdod neu faddeuant pechodau i'w ddatgan gan yr offeriaid yn unig yn ei sefyll a'r bobl etto ar eu gliniau yr holl alluog dduw tad ein harglwydd iesu grist yr hwn ni ddelsyf farwolaeth pechadur eithr yn hytrach ymchwelyd o hono oddi wrth ei anwiredd a byw ac a roddes allu a gorchymyn i'w weinidogion i ddatgan ac i fynegi i'w bobl sydd yn edifarus ollyngdod a maddeuant am eu pechodau efe a bardyna ac a ollwng y rhai oll sydd wir edifeirol ac yn ddiffuant yn credu i'w sancteiddiol efengyl ef o herwydd paham attolygwn ni iddo ganiattâu i ni wir edifeirwch a'i yspryd glân fel y byddo boddlon ganddo'r pethau yr ydym y pryd hwn yn eu gwneuthur a bod y rhan arall o'n bywyd rhag llaw yn bur ac yn sancteiddiol modd y delom o'r diwedd i'w lawenydd tragywyddol trwy iesu grist ein harglwydd absolution ¶ yna y gostwng y gweinidog ar ei liniau ac a ddywed weddi'r arglwydd â llef uchel a'r bobl hefyd ar eu gliniau yn ei dywedyd gyd âg ef ein tad yr hwn wyt yn y nefoedd sancteiddier dy enw deued dy deyrnas bydded dy ewyllys ar y ddaear megis y mae yn y nefoedd dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol a maddeu i ni ein dyledion fel y maddeuwn ni i 'n dyledwyr ac nac arwain ni i brofedigaeth eithr gwared ni rhag drwg canys eiddot ti yw'r deyrnas a'r gallu a'r gogoniant yn oes oesoedd amen ¶ yna y dywed efe yn yr un modd arglwydd agor ein gwefusau atteb a'n genau a fynega dy foliant offeiriad duw brysia i'n cynnorthwyo atteb arglwydd prysura i'n cymmorth ¶ yna a phawb yn eu sefyll yr offeiriad a ddywed gogoniant i'r tad ac i'r mab ac i'r yspryd glân atteb megis yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd amen offeiriad molwch yr arglwydd atteb moliannus fyddo enw'r arglwydd lord's prayer ¶ yna y dywedir neu y cenir y psalmau mewn trefn megis y gosodwyd hwy yna llith o'r hen destament megis ag yr gosodwyd ar ol hynny y magnificat neu gân y fendigedig fair forwyn yn gymraeg megis y canlyn magnificat st luc i fy enaid a fawrhâ yr arglwydd a'm hyspryd a lawenychodd yn nuw fy iachawdwr canys efe a edrychodd ar ostyngeiddrwydd ei wasanaethyddes oblegid wele o hyn allan yr holl genhedlaethau a 'm geilw yn wynfydedig canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd a sanctaidd yw ei enw ef a'i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a'i hofnant ef efe a ddangosodd nerth â'i fraich efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriadau eu calonnau efe a dynnodd i lawr y cedyrn o'u heisteddfaau ac a ddyrchafodd y rhai isel radd efe a lanwodd y rhai newynog â phethau da ac a anfonodd ymaith y rhai goludog mewn eisiau efe a gynnorthwyodd ei was israel gan goflo ei drugaredd fel y dywedodd wrth ein tadau abraham a'i had yn dragywydd gogoniant i'r tad ac i'r mab ac i'r yspryd glân megis yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd amen psalm and first lesson ¶ neu ynte y psalm hon oddi eithr ar y namyn un ugeinfed dydd o'r mis pan ddarllenir hi yn nhrefn gyffredin y psalmau cantate domino psal xcviií cenwch i'r arglwydd ganiad newydd canys efe a wnaeth bethau rhyfedd â'i ddeheulaw ac â'i fraich sanctaidd y parodd iddo ei hun iachawdwriaeth hyspysodd yr arglwydd ei iachawdwriaeth a datguddiodd ei gyfiawnder yngolwg y cenhedloedd cofiodd ei drugaredd a'i wirionedd i dy israel a holl derfynau'r ddaear a welsant iachawdwriaeth ein duw ni cenwch yn llafar i'r arglwydd yr holl ddaear llefwch ac ymawenhęwch a chenwch cenwch i'r arglwydd gyd â'r delyn sef gyd â'r delyn â llef canmoliaeth cenwch yn llafar o fiaen yr arglwydd y brenhin ar yr udgyrn a sain cornet rhued y môr ac y sydd ynddo y byd a'r rhai a drigant o'i fewn cured y llifeiriaint eu dwylaw a chyd ganed y mynyddoedd o flaen yr arglwydd canys efe a ddaeth i farnu'r ddaear efe a farna'r byd mewn cyfiawnder a'r bobloedd mewn uniondeb gogoniant i'r tad ac i'r mab ac i'r yspryd glân megis yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd amen ¶ yna llith o'r testament newydd megis y gosodwyd ac ar ol hynny nunc dimittis neu gân simeon yn gymraeg megis y canlyn nunc dimittis st luc ii yr awr hon arglwydd y gollyngi dy was mewn tangnefedd yn ol dy air canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth yr hon a barottoaist ger bron wyneb yr holl bobl i fod yn oleuni i oleuo'r cenhedloedd ac yn ogoniant i'th bobl israel gogoniant i'r tad ac i'r mab ac i'r yspryd glân megis yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd amen ¶ neu y psalm hon oddi eithr ar y deuddegfed dydd o'r mis deus misereatur psal lxvii duw a drugarhao wrthym ac a'n bendithio a thywynned llewyrch ei wyneb arnom a thrugarhâed wrthym fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear a'th iachawdwriaeth ym mhlith yr holl genhedloedd molianned y bobl di o dduw molianned yr holl bobl dydi llawenhaed y cenhedloedd a byddant hyfryd canys tydi a ferni'r bobl yn uniawn ac a lywodraethi'r cenhedloedd ar y ddaear molianned y bobl di o dduw molianned yr holl bobl dydi yna'r ddaear a rydd ei ffrwyth a duw sef ein duw ni a'n bendithia duw a'n bendithia a holl derfynau'r ddaear a'i hofnant ef gogoniant i'r tad ac i'r mab ac i'r yspryd glân megis yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd amen new testament lesson ¶ yna y cenir neu y dywedir credo'r apostolion gan y gweinidog a'r bobl yn eu sefyll credaf yn nuw dad holl gyfoethog creawtdwr nef a daear ac yn iesu grist ei un mab ef ein harglwydd ni yr hwn a gaed trwy yr yspryd glân a aned o fair forwyn a ddďoddefodd dan pontius pilatus a groeshoeliwyd a fu farw ac a gladdwyd a ddisgynodd i uffern y trydydd dydd y cyfododd o feirw a esgynodd i'r nefoedd ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw dduw dad holl gyfoethog oddi yno y daw i farnu byw a meirw credaf yn yr yspryd glân yr eglwys lân gatholig cymmun y saint maddeuant pechodau adgyfodiad y cnawd a'r bywyd tragywyddol amen ¶ ac ar ol hynny y gweddďau hyn sy'n canlyn a phawb yn gostwng yn ddefosiynol ar eu gliniau y gweinidog yn gyntaf a lefara â llef uchel yr arglwydd a fo gyd â chwi atteb a chyd â 'th yspryd dithau gweinidog gweddďwn arglwydd trugarhâ wrthym crist trugarhâ wrthym arglwydd trugarhâ wrthym apostles' creed ¶ yna'r gweinidog yr ysgolheigion a'i bobl a ddywedant weddi yr arglwydd â lleferydd uchel ein tad yr hwn wyt yn y nefoedd sancteiddier dy enw deued dy deyrnas bydded dy ewyllys ar y ddaear megis y mae yn y nefoedd dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol a maddeu i ni ein dyledion fel y ddeuwn ni i'n dyledwyr ac nac arwain ni i brofedigaeth eithr gwared ni rhag drwg amen lord's prayer ¶ yna y gweinidog yn ei sefyll a ddywed arglwydd dangos dy drugaredd arnom atteb a chaniattâ i ni dy iachawdwriaeth offeiriad arglwydd cadw y brenhin atteb a gwrando ni yn drugarog pan alwom arnat offeiriad gwisg dy weinidogion âg iawnder atteb a gwna dy ddewisol bobl yn llawen offeiriad arglwydd cadw dy bobl atteb a bendithia dy etifeddieth offeiriad arglwydd dyro dangnefedd yn ein dyddiau atteb gan nad oes neb arall a ymladd drosom ond tydi dduw yn unig offeiriad duw glanhâ ein calonnau ynom atteb ac na chymmer dy yspryd glân oddi wrthym suffrages ¶ yna y canlyn tri cholect y cyntaf o'r dydd yr ail am dangnefedd y trydydd am gynhorthwy yn erbyn pob perygl fel y canlyn yma rhagllaw a'r ddau golect diweddaf a ddywedir bob dydd ar brydnhawnol weddi heb gyfnewid yr ail golect ar y brydnhawnol weddi duw oddi wrth ba un y daw pob adduned sanctaidd pob cyngor da a phob gweithred gyfiawn dyro i'th wasanaeth ddynion y rhyw dangnefedd a'r na ddichon y byd ei roddi modd y gallo ein calonnau ymrôi i ufuddhâu i'th orchymynion ac hefyd trwy'n hamddiffyn ni rhag ofn ein gelynion allu o honom dreulio ein hamser mewn heddwch a thangnefedd trwy haeddedigaethau iesu grist ein hiachawdwr amen second collect ¶ y trydydd colect am gynhorthwy yn erbyn pob peryglon goleua ein tywyllwch ni a attolygwn i ti o arglwydd a thrwy dy fawr drugaredd amddiffyn nyni rhag pob perygl ac enbydrwydd y nos hon er serch ar dy un mab einhiachawdwr iesu grist amen third collect for aid against all perils ¶ mewn corau a mannau lle'r arferont ganu yma y canlyn yr anthem gweddi dros fawrhydi'r brenhin o arglwydd ein tad nefol goruchel a galluog brenhin y brenhinoedd arglwydd yr argwyddi unig lywiawdwr y tywysogion yr hwn wyt o'th eisteddle yn edrych ar holl drigolion y ddaear ni a attolygwn ac a erfyniwn i ti edrych o honot yn ddarbodus ar ein grasusaf oruchel arglwydd y brenhin george ac felly ei gyflawni ef o ras dy sanctaidd yspryd fel y bo iddo yn wastadol bwyso at dy feddwl a rhodio yn dy ffordd cynnysgaedda ef yn helaeth â doniau nefol caniattâ iddo mewn llwyddiant ac iechyd hir hoedl nertha ef modd y gallo oresgyn a gorchfygu ei holl elynion ac o'r diwedd ar ol y fuchedd hon bod iddo fwynhâu llawenydd a dedwyddyd tragywyddol trwy iesu grist ein harglwydd amen prayer for the king's majesty gweddi dros y brenhinol deulu holl alluog dduw ffynnon pob daioni yr ydym ni yn ostyngedig yn attolwg i ti fendithio ein grasusol frenhines elizabeth mary y fam frenhines y dywysoges elizabeth a'r holl frenhinol deulu cynnysgaedda hwy â'th yspryd glân cyfoethoga hwy â'th nefol ras llwydda hwy â phob dedwyddwch a dwg hwy i'th dragywyddol deyrnas trwy iesu grist ein harglwydd amen prayer for the royal family gweddi dros yr offeiriaid a'r bobl holl gyfoethog a thragywyddol dduw yr hwn wyt yn unig yn gwneuthur rhyfeddodau danfon i lawr ar ein hesgobion a'n curacliaid a'r holl gynnulleidfaon a orchymynwyd dan eu gofal hwynt iachol yspryd dy ras ac fel y gallont wir ryngu bodd i ti tywallt arnynt ddyfal wlith dy fendith caniattâ hyn arglwydd er anrhydedd ein dadleuwr a'n cyfryngwr iesu grist amen prayer for clergy people gweddi o waith st chrysostom holl alluog dduw yr hwn a roddaist i ni ras y pryd hwn trwy gyfundeb a chydgyfarch i weddďo arnat ac wyt yn addaw pan ymgynhullo dau neu dri yn dy enw bod i ti ganiattâu eu gofynion cyflawna yr awr hon o arglwydd ddymuniad a deisyfiad dy weision fel y bo mwyaf buddiol iddynt gan ganiattâu i ni yn y byd hwn wybodaeth am dy wirionedd ac yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol amen cor xiii gras ein harglwydd iesu grist a chariad duw a chymdeithas yr yspryd glân a fyddo gyd â ni oll byth bythoedd amen yma y diwedd trefn y bryanhawnol weddi trwy'r flwyddyn credo sant athanasius ¶ ar y gwyliau hyn sef dydd nadolig crist dydd gwyl ystwyll dydd gwyl sant matthias dydd pasg y dyrchafael y sulgwyn dydd gwyl sant ioan fedyddiwr sant iago sant bartholomeus sant matthew sant simon a sant judas sant andreas a sul y drindod y cenir neu y dywedir ar y foreol weddi yn lle credo yr apostolion y gyffes hon o'n ffydd gristionogol a elwir yn gyffredin credo sant athanasius gan y gweinidog a'r bobl yn sefyll quicunque vult pwy bynnag a fynno fod yn gadwedig o flaen dim rhaid iddo gynnal y ffydd gatholig yr hon ffydd oni's ceidw pob dyn yn gyfan ac yn ddihalog diammeu y collir ef yn dragywydd a'r ffydd gatholig yw hon bod i ni addoli un duw yn drindod a'r drindod yn undod nid cymmysgu o honom y personnau na gwahanu 'r sylwedd canys un person sydd i'r tad arall i'r mab ac arall i'r yspryd glân eithr duwdod y tad y mab yspryd glân sydd unrhyw gogoniant gogyfuwch mawrhydi gogyd tragywyddol unrhyw yw 'r tad unrhyw yw 'r mab unrhyw yw 'r yspryd glân digrëedig dad digrëedig fab digrëedig yspryd glân anfesuredig dad anfesuredig fab anfesuredig yspryd glân tragywyddol dad tragywyddol fab tragywyddol yspryd glân ac etto nid ydynt dri thragywydolion ond un tragywyddol ac fel nad ynt dri anfesuredigion na thri digrëedigion ond un digrëedig ac un anfesuredig felly yn gyffelyb holl alluog yw 'r tad holl alluog yw 'r mab holl alluog yw 'r yspryd glân ac etto nid ynt dri holl alluogion ond un holl alluog felly y tad sy dduw y mab sy dduw a'r yspryd glân sy dduw ac etto nid ynt dri duwiau ond un duw felly y tad sydd arglwytdd y mab sydd arglwydd a'r yspryd glân sydd arglwydd ac etto nid ynt dri arglwyddi namyn un arglwydd canys fel y'n cymhellir trwy y cristionogaidd wirionedd i gyfaddef bod pob person o hono ei hun yn dduw ac yn arglwydd felly y'n gwaherddir trwy'r gatholig grefydd i ddywedyd hod tri duwiau neu dri arglwyddi y tad ni wnaethpwyd gan neb ni's crëwyd ac ni's cenhedlwyd y mab sydd o'r tad yn unig heb ei wneuthur na'i grëu eithr wedi ei genhedlu yr yspryd glân sydd o'r tad a'r mab heb ei wneuthur na'i grëu na'i genhedlu eithr yn deilliaw wrth hynny un tad y sydd nid tri thad un mab nid tri mab un yspryd glân nid tri o ysprydion glân ac yn y drindod hon nid oes un cynt neu gwedi eu gilydd nid oes un mwy na llai nâ'u gilydd eithr yr holl dri phersonau ydynt ogyd tragywyddol a gogyfuwch ac felly ym mhob peth fel y dywedwyd uchod yr undod yn y drindod a'r drindod yn yr undod sydd i'w haddoli pwy bynnag gan hynny a fynno fod yn gadwedig synied felly o'r drindod y mae hefyd yn anghenraid er mwyn tragywyddol iachawdwriaeth gredu o ddyn yn ffyddlon am gnawdodiaeth ein harglwydd iesu grist canys yr iawn ffydd yw credu a chyffesu o honom fod ein harglwydd ni iesu grist fab duw yn dduw ac yn ddyn duw o sylwedd y tad wedi ei genhedlu cyn yr oesoedd a dyn o sylwedd ei fam wedi ei eni yn y byd perffaith dduw a pherffaith ddyn o enaid rhesymmol a dynol gnawd yn hanfod gogyfuwch a'r tad oblegid ei dduwdod a llai nâ'r tad oblegid ei ddyndod yr hwn er ei fod yn dduw ac yn ddyn er hynny nid yw efe ddau ond un crist un nid trwy ymchwelyd y duwdod yn gnawd ond gan gymmeryd y dyndod at dduw un i gyd oll nid gan gymmysgu 'r sylwedd ond drwy undod person canys fel y mae yr enaid rhesymmol a'r cnawd yn un dyn felly duw a dyn sydd un crist yr hwn a ddďoddefodd er ein hiachawdwriaeth a ddisgynodd i uffern a gyfododd y trydydd dydd o feirw esgynodd i'r nefoedd ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw 'r tad duw holl alluog oddi yno y daw i farnu byw a meirw ac ar ei ddyfodiad y cyfyd pob dyn yn eu cyrph eu hunain ac a roddant gyfrif arn eu gweithredoedd prďod a'r rhai a wnaethant dda a ant i'r bywyd tragywyddol a'r rhai a wnaethant ddrwg i'r tân tragywyddol hon yw y ffydd gatholig yr hon pwy bynnag a'r ni's cretto yn ffyddlon ni all efe fod yn gadwedig gogoniant i'r tad ac i'r mab ac i'r yspryd glân megis yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd amen creed of saint athanasius return to welsh book of common prayer