y byd yn eich dwylo as we see it welsh translation ffederasiwn anarchaidd anarchist federation britain rhagarweiniad nid yw'r byd yr ydym yn byw ynddo yn gwneud unrhyw synnwyr mae miliynau yn newynu yn y trydydd byd tra bod y gymuned economaidd yn pentyrru bwyd na ellir ei werthu mae arweinwyr y byd chwithau hefyd yn defnyddio trais er mwyn sicrhau heddwch mae cenhedloedd bychan yn ymladd â'u cymdogion dros ddarnau o dir mae llywodraethau yn rhoi blaenoriaeth i enillion tymor byr ar draul parhad adnoddau'r blaned mae'r rhelyw o'r byd yn llafurio am fodolaeth foel iawn tra bod lleiafrif bychan yn byw mewn ysblander aruthrol gorthrymir y tlawd ym mhob cornel o'r byd ac mae menywod a phobl dduon yn wynebu gormes a chaledi ychwanegol yn wyneb y gwallgofrwydd o'r math yma mae'r ffederasiwn anarchaidd yn cymeradwyo byd o fath cwbl wahanol yn hytrach nag ysbail rhaid dadlau dros gydweithrediad rhaid disodli angen artiffisial gan osod digonedd cyffredinol yn ei le mae angen byw mewn cytgord â'r blaned nid yn ei herbyn mae'n rhaid ysgubo ymaith y gyfundrefn lywodraethol ac ymelwol a gymerir yn ganiataol i raddau helaeth mae byd gwell yn bosib mae'r pamffledyn yma yn amlinellu sut y buasai dewis comiwnistaidd anarchaidd yn hytrach na bod yn freuddwyd iwtopaidd yn wir yn cynnig yr ateb gorau posib ateb call a rhesymegol i broblemau'r byd cyfundrefn bwdr yr ydym yn byw mewn byd cyfoethog a llewyrchus wrth feddwl am dlodi'r byd mae'n anodd credu fod yna ddigon a mwy ar gael i bawb mae'n fater o ffaith y cynhyrchir tair gwaith cymaint o fyd ag sy eisiau eto tra bo rhai pobl yn mynd heb mae eraill yn gallu fforddio gwario miliynau ar bartïon a gwleddoedd i'w ffrindiau sy llawn cyn gyfoethoced mae'n gwbl amlwg i bawb ein bod yn byw mewn byd lle bo dosbarth cymdeithasol yn treiddio trwy bob agwedd o gymdeithas ond beth ydy'n ni'n ei feddwl wrth ddosbarth ar y lefel sylfaenol mae dau ddosbarth y rhai sy naill berchen neu yn chwarae rhan allweddol wrth reoli cyfoeth y byd a'i adnoddau dosbarth y penaethiaid cyfalafol a'r rhai sy naill yn gorfod gweithio neu hawlio budd daliadau er mwyn goroesi y dosbarth llafur rhan sylfaenol ac annatod o'r gyfundrefn ddosbarth sy'n effeithio bywydau pob unigolyn yn y byd yw'r gyfundrefn economaidd cyfalafiaeth y gelwir y gyfundrefn ac er iddi newid ei ffurf o bryd i'w gilydd hon sydd wedi datblygu fel y grym trechaf dros y ddwy ganrif ddiwethaf gan ei bod mor hyblyg yn addasu'n hawdd ac mor hollgynhwysfawr a llygredig ystyrir cyfalafiaeth gan bron pawb fel ffenomenon hollol naturiol ac anochel nid felly y mae er mai cyfundrefn o ymelwad byd eang a banditiaeth gyda chwmnïau aml genedlaethol yn gweithredu ymhobman yw cyfalafiaeth eithaf syml yw ei sylfaen yn ei hanfod creir cyfoeth gan bobl sy'n defnyddio offer i addasu'r deunydd crai y mae natur yn ei ddarparu er mwyn goroesi gorfodir gweithwyr i werthu eu llafur caethweisiaeth y cyflog am bris y farchnad yn eu gwaith mae gweithwyr yn gwneud nwyddau sy'n rhan o fywyd beunyddiol a darparu gwasanaethau serch hynny mae'r hyn a gaiff gweithwyr mewn tâl yn llai na gwerth y cynnyrch a'r gwasanaethau y maent yn eu creu a'u darparu y gwahaniaeth yn y gwerth rhwng yr hyn y mae gweithwyr yn cynhyrchu a'r hyn y maent yn eu hennill yw sail yr elw aiff at y cyfalafwr yn y modd yma lladratir eu cyfran o adnoddau'r ddaear a gwerth eu gwaith wrth weithwyr ymhobman yn yr ystyr yma delir mantais arnynt trwy ymgrynhoi gwerth llafur miliynau o weithwyr mae cyfalafwyr yn cynyddu eu cyfoeth a'u grym cyfundrefn o gystadlu didrugaredd sy'n ansefydlog iawn yw cyfalafiaeth mae hyn yn arwain at argyfyngau economaidd lle y gall cyfalafwyr ond goroesi ar draul y gweithwyr pan fo elw yn disgyn mae gweithwyr yn colli eu gwaith gan greu'r diweithdra torfol sy'n un o nodweddion safonol bywyd heddiw mae cyfalafiaeth yn cynhyrchu nwyddau er mwyn gwneud elw yn hytrach na chwrdd ag angen felly yn hytrach na chynhyrchu ystod bychan o nwyddau defnyddiol mae cwmnïau o hyd yn ceisio ehangu ar amrediad y nwyddau sydd ganddynt i'w cynnig felly mewn archfarchnadoedd mi ddown i o hyd i ddysenni o wahanol fathau o ddiaroglyddion bastau dannedd a phowdrau golchi mae archfarchnadoedd fel tesco sainsbury ac asda yn gwerthu mwy neu lai yr un nwyddau ond yr un yw eu cymhelliad annog y cwsmer i brynu eu nwyddau nhw yn lle anelu eu consýrn at ddarparu'r hyn sy'n sicrhau ein goroesiad eu hunig ddiddordeb yw gwneud elw nid yw'r ffaith fod pobl yn newynu yn cyfrif mae'n rhaid i bobl gael arian ac mi fuasai'n well gan wneuthurwyr elw adael i'r bwyd bydru na'i roi i'r newynog a'r tlawd mae hyn yn gynyddol ddigywilydd pan fo'r mynyddoedd enfawr o gig eidion menyn a grawn sy wedi eu cronni gan wledydd y ge yn bodoli ochr yn ochr â newyn arswydus mewn rhannau helaeth o'r affrig yn y cyd destun yma mae holl ymdrechion y digwyddiadau cerddorol elusennol bron yn gwbl ddibwrpas canlyniad prinderau dan orfodaeth yw creu'r mynyddoedd bwyd sydd yn y farchnad yn golygu prisiau uchel ac elw mae'n well gan fiwrocratiaid y ge gael gwared ar y bwyd trwy ei ddympio yn y môr na bygwth proffidioldeb mae hyn yn digwydd ar draws y byd wrth chwilio am elw mae cyfalafiaeth wedi symud i mewn i oes prynwraeth fe'n hanogir gan rwydwaith cyfryngol cymhleth i brynu brynu brynu nid yw hyd yn oed plant yn ddiogel rhag yr hysbysebwyr sy'n gwthio'u hunain i mewn i'n tai yn gyson trwy gyfrwng y teledu ac yn gorchuddio pob lle gwag gyda byrddau poster sloganau ac arwyddion siopau gyda chymorth adnoddau technolegol anferth mae cyfalafiaeth yn datblygu cynhyrchion bythol newydd sy'n disodli'r rhai blaenorol ystyriwch sut y mae technoleg camerâu wedi newid dros y blynyddoedd mae rhyfeddod technolegol y llynedd bellach wedi darfod â bod mae'n rhaid i chi brynu'r diweddara a'r gorau nid yw'r fath brynwriaeth yn gyfyngedig i'r gwledydd gorllewinol hynny sydd ar y brig mae hyd yn oed y dinasoedd tlotaf yn yr affrig yn frith o hysbysebion sy'n annog pobl i brynu cynhyrchion sy'n ddiwerth neu'n beryglus serch hynny dosbarth llafur y trydydd byd sy'n dioddef mwyaf o gyfalafiaeth ryngwladol tra bod y dosbarth llywodraethol lleol yn bachu eu cyfran o'r cyfoeth ysbeilir eu hadnoddau edrychwch ar anrhaith y fforestydd glaw a gorfodir y gweithwyr i dderbyn safon byw sy braidd yn ddigon i gadw dau ben llinyn ynghyd mae rhannau helaeth o'r affrig yn methu darparu digon o fwyd i'w poblogaeth ond eto maent yn tyfu cynnyrch i'w allforio mae de ddwyrain asia wedi'i droi'n gyfuniad o buteindy a slafdy i bob diben mae cyfalafiaeth yn treiddio trwy bob agwedd o fywyd coca cola a hambyrgers macdonalds yw gwir symbolau 'trefn newydd y byd' cyfundrefn bwdr o ganlyniad i fyw dan y fath gyfundrefn mae llawer o weithwyr yn ddigon naturiol yn anfodlon ar eu byd rhai yn fwy na'i gilydd er mwyn cynnal trefn a heddwch mewn cymdeithas mae amrediad cyfan o ddulliau wedi eu datblygu er mwyn cadw pobl mewn trefn yr un mwyaf nerthol o'r rhain yw'r wladwriaeth trwy gyfrwng y technegau cadw trefn gymdeithasol sy'n bodoli ar bob lefel o gymdeithas mae'r wladwriaeth yn gweithredu law yn llaw â chyfalafiaeth wrth iddi rannu nifer o ddiddordebau cyffredin mae cyfalafiaeth yn rhoi cyfundrefn economaidd i'r wladwriaeth ac mae yn ei hariannu trwy ddatblygu adnoddau mae'r wladwriaeth yn ei thro yn darparu cyfundrefn cadw trefn sy'n caniatáu cyfalafiaeth i weithredu ei busnes yn effeithiol mewn gwledydd fel tsheina ciwba gogledd korea ag ati fe'u cyfunir dan ambarél un gyfundrefn efallai'r disgrifiad gorau ohoni fuasai 'cyfalafiaeth y wladwriaeth' cyfundrefn o ryferthwy yn bennaf yw'r wladwriaeth er lles cynnal tra arglwyddiaeth y dosbarth llywodraethol ond y ffordd orau o gynnal trefn yw trwy gytundeb y bobl yn hytrach na grym noeth o ganlyniad mae yna agweddau o wladwriaeth fodern sydd â'u bryd ar ein cymell i feddwl ar hyd ffyrdd arbennig ac ymddwyn fel dinasyddion ufudd mae'n ymddangos hefyd fod yna wyneb teyrngar tirion i'r wladwriaeth gan ei bod hi'n darparu buddion nawdd sydd i fod i helpu'r tlawd y claf a'r henoed trwy gyfrwng llywodraethau yn gweithredu o fewn y gyfundrefn seneddol a'r gwasanaeth sifil mae'r wladwriaeth yn rheoli ei gweithrediadau mae'r lluoedd arfog mi mi yr heddlu y llysoedd a'r carchardai yn gweithredu i'n rheoli yn gorfforol maent yn asiantau milain sy'n cosbi'n llym os wnawn ni amau eu 'hawl' i arglwyddiaethu drosom beth bynnag nid yw'r wladwriaeth na'i lluoedd gormesol yn ddi ochr ac maent yn weithredol dros wrthwynebu ymgyrch y bobl dros ryddhad er ei bod hi'n ymddangos fod y wladwriaeth les y gyfundrefn ysgolion gweithwyr cymdeithasol ag ati yn edrych ar ôl ein buddiannau mewn gwirionedd dim ond dulliau gwahanol mwy cyfrwys o'n rheoli ydynt ond maent wedi dod yn elfennau hanfodol am resymau economaidd mae'r gwasanaeth iechyd yn bodoli yn bennaf er mwyn cynnal gweithlu iach ond dim ond cyn belled â bod angen gweithwyr iach ar y gyfundrefn er mwyn hyrwyddo ei gweithrediad mae camddefnyddio alcohol a sigarèts ill dau wrth wraidd llawer iawn o salwch difrifol ond maent yn darparu symiau mawr o arian i'r wladwriaeth mewn trethi ac nid oes neb wedi cynnal unrhyw ymgais o ddifri i danseilio proffidioldeb y ddau ddiwydiant yma daw elw o flaen iechyd yn yr un modd mae'r gyfundrefn addysg ac yn fwy amlwg agored o dipyn wedi ei threfnu o gwmpas yr angen am weithlu sy'n gallu ysgrifennu darllen a gwneud mathemateg sylfaenol tra ar yr un pryd sy wedi ei drwytho i dderbyn gorchmynion yn ufudd a derbyn rheolaeth oddi uchod mae athrawon yn llenwi meddyliau'r ifanc â syniadau sy'n dderbyniol i'r dosbarth llywodraethol atgyfnerthir y syniadau yma gan y cyfryngau torfol radio y diwydiant ffilmiau papurau newydd a chylchgronau rhyngddynt maent yn creu corff o syniadau a adwaenir fel 'synnwyr cyffredin' synnwyr cyffredin yw cyfundrefn gwerth poblogeiddiedig y dosbarth llywodraethol hynny sy'n wrthwynebus i bobl dosbarth llafur felly hefyd y mae cenedlaetholdeb crefydd gwladgarwch hiliaeth a rhywiaeth sy mewn gwirionedd yn gwanhau cydgefnogaeth y dosbarth llafur yn gyffredin o fewn y dosbarth llafur mae pob un o'r ffactorau yma yn cyfrannu at y gamargraff fod yna ryddid cyfiawnder cydraddoldeb a democratiaeth ond mewn gwirionedd cael eu cryfhau mae gafael cyfalafiaeth a'r wladwriaeth cymerwch ddemocratiaeth fel esiampl pa bynnag blaid sy'n ennill etholiad cyffredinol fawr ddim mae'n effeithio ar gyfalafiaeth a'r wladwriaeth mae dal mantais ar y dosbarth llafur yn parhau ac mae'r cyfoethog a'r pwerus yn dal i ddal eu gafael ar eu breintiau gan mai'r blaid dorïaidd sy fwyaf ei hymrwymiad yn y gyfundrefn tra arglwyddiaethol honno sy yn y safle orau i ennill etholiadau mae'r blaid lafur hyd yn oed pan gaiff y cyfle i lywodraethu yn ymddwyn fel yr asiant bach di asgwrn cefn i gyfalafiaeth ag yw hi y tu allan i gyfundrefn y wladwriaeth mae yna sefydliadau sy'n honni eu bod yn cynrychioli buddiannau'r dosbarth llafur tra eu bod mewn gwirionedd yn helpu cynnal cyfundrefn sy'n seiliedig ar ormes ac ymelwad mae'r undebau llafur yn esiamplau o'r fath sefydliadau yn gyntaf maent yn tanseilio unrhyw ymdeimlad o bwrpas o fewn diwydiant ac mewn gweithleoedd unigol trwy rannu gweithwyr yn ôl lefel eu sgiliau mae hyn yn bytholi'r gwahaniaethu o ran incwm a statws o fewn y dosbarth llafur ac yn creu 'pendefigaeth llafur' yn ail mae'r undebau yn aml wedi eu trefnu bob yn ddiwydiant ac wrth wneud hyn yn rhannu ymrafael yn adrannau pa mor aml y mae streiciau wedi torri allan mewn diwydiannau gwahanol ond iddynt gael eu trechu fesul un mae undebau llafur chwithau hefyd yn sefydliadau biwrocrataidd sydd â buddiannau breintiedig ar wahân i'r gweithwyr maent yn honni i'w harwain mae aelodau undebau eisiau ennill streiciau mae penaethiaid undebau eisiau cadw eu dulliau byw cysurus pan fo gwrthdaro rhyngddynt y gweithwyr sy'n cael eu bradychu mae ymrwymiad dwfn gan fiwrocratiaethau yr undebau mewn cyfalafiaeth oherwydd eu buddsoddiadau eiddo y maent eu perchen ag yn y blaen mae'r holl broses o drafodaethau rhwng undebau a rheolaeth a adwaenir fel cydfargeinio ar y gorau ond yn llwyddo i sicrhau rhai buddion ychwanegol i'r gweithwyr tra'n cadw'r holl gyfundrefn o gam ddefnyddio yn ddigyfnewid ar lefel wahanol mae'r teulu yn arf pwysig iawn yn nwylo y rheolwyr mae plant yn aml yn dysgu syniadau am oruchafiaeth yr hil ddynol hiliaeth gwladgarwch a'r angen am dra arglwyddiaethu ac ufudd dod wrth eu rhieni fel y gwnaethant hwy o'u rhieni eu hunain mae'r ffyrdd y mae pobl yn cydberthnasu i'w gilydd yn aml yn atgyfnerthu gormesau personol ac mae angen eu herio newid hyn oll wedi darllen cyhyd mi allech fod yn tybio beth o bosib y gellid ei wneud i ddymchwel y sustemau rheoli ac ymelwol sy'n tra arglwyddiaethau dros bob agwedd o'n bywydau all newid fod yn bosib mewn gwirionedd yr ateb yw gall mae'r wladwriaeth ynghyd â sefydliadau gormesol eraill yn bodoli yn bennaf am fod newid yn bosib mae'r gyfundrefn gyfalafol yn bodoli mewn cyflwr o argyfwng parhaol i raddau mae'r broses barhaol o ffyniant a dirwasgiad yn rhan o'r modd y mae cyfalafiaeth yn gweithio yn ei helpu trwy sicrhau mai ond y cryf fydd yn goroesi ar y llaw arall mae'n golygu ansefydlogrwydd parhaus a'r posibilrwydd cynyddol posib o wrthrefyloedd gan weithwyr wrth i gyfalafiaeth fethu cyflawni un o nodweddion prydain yn yr au a'r au oedd gwrthgodiadau lleol o bryd i'w gilydd yn erbyn yr heddlu diweithdra syrffed a'r dreth y pen bychan yw'r rhain serch hynny o'u cymharu â'r hyn sy wedi digwydd yn y gorffennol a beth allai ddigwydd yn y dyfodol y tu mewn i'r broses yma o newid cymdeithasol radicalaidd y lleolir comiwnyddiaeth anarchaidd ond beth yw comiwnyddiaeth anarchaidd yn fyr mi wnawn ni egluro ymhellach yn y bennod nesaf mae comiwnyddion anarchaidd eisiau gweld distryw ar gyfundrefn bresennol sydd er budd y cyfoethog a'r pwerus yr ydym ni eisiau gweld creu byd sydd wedi ei drefnu ar gyfer cwrdd ag anghenion sylfaenol dynolryw lle mae pawb biau cynnyrch pob gwaith comiwnyddiaeth yr ydym hefyd eisiau gweld diddymu ar bwer y dosbarth teyrnasol rheolir cymdeithas gan yr holl bobl trwy eu cyfundrefnau eu hunain anarchiaeth ond onid breuddwyd brydferth mo hyn i gyd nid cynnyrch meddyliau ychydig o ddeallusion sy heb ddod i gysylltiad â thrwch y boblogaeth mo anarchiaeth mae'n codi yn uniongyrchol o ymrafael y gweithwyr a'r gormesedig yn erbyn cyfalafiaeth o'u hanghenion a'u hawydd heb nas cyflawnwyd am ryddid cydraddoldeb hapusrwydd a hunangyflawniad yn y gorffennol pryd bynnag wnaeth chwildroadau herio'r meistri mae syniadau a chyfundrefnau anarchaidd wedi dod i'r amlwg efallai ond am ychydig ac yn aml heb alw eu hunain yn anarchaidd yn ystod y chwyldro seisnig yn ystod yr eg ganrif datblygodd grwpiau fel y gwastatwyr y brygothwyr a'r cloddwyr syniadau am ryddid cydraddoldeb a chyfiawnder yn ystod y chwyldro ffrengig dechreuodd gweithwyr a chrefftwyr a oedd yn datblygu eu syniadau eu hunain am ymwybyddiaeth o ddosbarth ddatblygu syniadau anarchaidd yr enragés yng nghomiwn paris ym y dechreuwyd ar greu sefydliadau ar gyfer rheolaeth torfol a heriodd yr hen gyfundrefnau am ychydig amser cyn cael eu boddi mewn môr o waed yn y chwyldro rwsaidd a datblygodd gweithwyr a'r werin bobl strwythurau tebyg ar gyfer rheolaeth uniongyrchol gan weithwyr megis cynghorau'r gweithwyr a'r pwyllgorau ffatri nid oes gan hyn ddim i'w wneud â chipiad pwer gan y bolsiefiaid ym mis hydref yn yr un modd adeg y chwyldro hwngaraidd ym sefydlodd y gweithwyr gynghorau'r gweithwyr pan wnaethant herio eu gormeswyr 'comiwnistaidd' yn ystod mis mai yn ffrainc ym cipiwyd gweithleoedd a phrifysgolion ac mewn nifer o achlysuron fe'u gweithredwyd mewn dulliau a oedd i bob pwrpas yn anarchaidd ers y symudiadau yma ar ran y gweithwyr mae anarchiaeth wedi datblygu'n rym o blith y gweithwyr mwyaf dosbarth ymwybodol o'i ddechreuad yn y eg ganrif yn y rhyngwladol cyntaf mae tueddiad anarchaidd digamsyniol wedi dod i'r amlwg dan ddylanwad y chwyldroadwr rwsaidd mikhail bakunin a'i gyfeillion a'i gymdeithion ers hynny mae anarchiaeth wedi cael dylanwad pwysig ar sefydliadau dosbarth llafur ar draws y byd o'r america ladin i'r almaen a sweden i tsheina a siapan mi sefydlodd wreiddiau dwfn a ac mi ddaeth yn ddylanwadol ym mudiadau ymrafael dosbarth y gweithwyr yn yr eidal sbaen a phortiwgal mae wedi chwarae rhan ym mhob chwyldro modern mae anarchwyr wedi dadlau yn gyson ac wedi ymladd dros yr angen i weithwyr gymryd yr awenau a rhedeg cymdeithas a chymryd rheolaeth y gweithle i'w dwylo eu hunain maent wedi rhybuddio yn gyson rhag y posibilrwydd o unrhyw blaid neu eraill ddringo i rym ar gefnau'r dosbarth llafur yn ystod adegau chwyldroadol yn ystod y chwyldro rwsaidd ym profodd rhybuddion anarchaidd rhag i'r ymrafael gael ei herwgipio gan yrfawyr a gwleidyddion proffesiynol yn iawn roedd milwriaethwyr anarchaidd wedi cymryd rhan weithredol a phwysig o blith y milwyr gorfod a oedd wedi gwrthod parhau ymladd y rhyfel byd ac a oedd wedi cymryd rhan mewn aflonyddwch yn y trefi a chefn gwlad yr oeddent wedi helpu dymchwel yr oruchwyliaeth tsaraidd a llywodraeth y gwleidyddion dosbarth canol a ddaeth yn ei hôl wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen trodd y gweithwyr yn gynyddol filwriaethus a radicalaidd gyda brwdfrydedd mi wnaethant feddiannu rheolaeth ffatrïoedd gan fynnu diwedd ar yr hen drefn ormesol ac arglwyddiaethol meddiannodd y werin y tir ac mi wnaeth gwerin filwyr dyrru yn ôl i'w cartrefi mabwysiadwyd y sloganau anarchaidd y tir i'r sawl sy'n ei aredig y ffatrïoedd i'r gweithwyr ynddynt a pob grym i'r sofietau cynghorau'r gweithwyr gan y blaid folsiefaidd gomiwnyddol mewn dull celfydd a thros dro twyllodd lenin y torfeydd chwyldroadol er mwyn cael cymryd yr awenau daeth y gweithwyr yn atebol i unbennaeth bleidiol ar unwaith unbennaeth a ddaeth yn fwy milain gyda threigl y blynyddoedd daeth y mudiad anarchaidd ei hun hefyd dan lach gormes y bolsiefiaid yr oedd y bolsiefiaid yn ofni dylanwad cynyddol yr anarchwyr o blith y torfeydd yr anarchwyr oedd wedi bod ar flaen y gad wrth sefydlu pwyllgorau ffatri er mwyn redeg y gweithleoedd yn yr iwcrain dan ddylanwad y milwriaethwr anarchaidd nestor makhno chwaraeodd y mudiad makhofistaidd ran flaenllaw wrth drechu'r byddinoedd tsaraidd gwyn a oedd yn ymdeithio trwodd ar eu ffordd i ddymchwel y llywodraeth folsiefaidd yn petrograd yn llythrennol mi wnaethant achub cam yr oruchwyliaeth folsiefaidd wnaeth hyn mo'u hachub rhag ymosodiadau gan lenin a trotsky gorfodwyd y makhnofistiaid i ymladd ymlaen ar sawl ffrynt ac yn nannedd anfanteision ond ar ddiwedd y dydd fe'u trechwyd serch hynny a than amodau rhyfel anodd iawn gwnaethant ymdrechu er mwyn cael perchnogaeth gyffredin i'r tir a oedd dan eu rheolaeth felly hefyd yng ngorsaf y llynges yn kronstadt erbyn gwarthnodwyd llongwyr a gweithwyr a ddisgrifiwyd ym fel blodau'r chwyldro gan yr oruchwyliaeth folsiefaidd fel 'gwrthchwyldroadwyr' a 'milwyr gwyn' eu trosedd yr oeddent wedi cwestiynu yr unbennaeth folsiefaidd dros y sofietau a oedd erbyn hyn yn ddim ond cregyn gweigion yn hytrach na chyfundrefnau pwer gweithwyr roedd llongwyr kronstadt trwy ymateb i fileindra ffiaidd y polisïau bolsiefaidd llygredd y wladwriaeth a'r dognau newynu mewn gwirionedd yn atgyfodi'r achos anarchaidd yn erbyn y wladwriaeth am eu hyfdra fe'u llofruddiwyd i gyd mewn cyflafan yn sbaen ym y gwynebodd y mudiad anarchaidd sialens enfawr ac agorwyd y posibilrwydd o chwyldro wedi ei ysbrydoli gan anarchiaeth roedd yr undeb torfol anarchaidd y confederacion nacional del trabajo conffederasiwn cenedlaethol llafur a'r sefydliad anarchaidd y federacion anarquisya iberica ffederasiwn anarchaidd sbaenaidd ar flaen y gad pan wnaeth franco gyda chefnogaeth y lluoedd militaraidd y ffasgiaid y breniniaethwyr a'r eglwys babyddol ymgais i ddymchwel y llywodraeth weriniaethol mewn nifer o ardaloedd trechwyd lluoedd franco i ddechrau gan weithwyr arfog a gwerin bobl mewn ardaloedd fel catalonia ac aragon cymerodd y gweithwyr a'r werin reolaeth dros eu bywydau eu hunain wrth i dir a ffatrïoedd gael eu cymryd i mewn i berchnogaeth gymunedol ond o gwmpas yr undebau yn bennaf oedd anarchiaeth sbaenaidd wedi ei sefydlu a hefyd roedd yr undebau yn ddiffygiol o ran dealltwriaeth boliticaidd felly fe'i trechwyd yn fuan gan 'gomiwnyddion' a gwleidyddion y werinlywodraeth yn anffodus arweiniodd hyn at gyfaddawdu ar wleidyddiaeth anarchaidd ac ar nifer o'r safbwyntiau anarchaidd trechwyd anarchiaeth sbaenaidd nid yn unig gan y ffasgiaid a byd busnesau mawr ond hefyd gan stalinistiaid a gwendidau ei gwleidyddiaeth fewnol mae'r amlinelliad o ddatblygiad anarchaidd a roddir yma yn dangos y gellir gwireddu newidiadau real gan weithwyr pan font wedi eu symbylu gan anarchiaeth nid breuddwyd iwtopaidd mohono y mae'n un o'r llinynnau bythol bresennol yn arfer y dosbarth llafur a'r dasg yw ei wneud yn brif linyn tra bo gweithwyr yn chwilio am ateb rhyddewyllysiol i'w problemau adeg cyfnodau chwyldroadol mae yna eraill fel y trotskiaid a'r gwleidyddion dosbarth canol sy eisiau eu defnyddio i'w diben eu hunain yn eu cyrch am bwer yn y gorffennol mae anarchiaid wedi bod yn rhy ddiniwed gwelsant yn ddigon cywir mai cyfalafiaeth a'r wladwriaeth oedd y prif elynion ond nid oeddent yn ddigon ymwybodol o'r peryglon a ddeuai o'r rhai hynny oedd yn esgus bod yn rhan o fudiad y gweithwyr dyma'r rheswm dros yr angen am gyfundrefn anarchaidd fawr boliticaidd ymwybodol sydd wedi ei threfnu'n dda mi fuasai'r fath gyfundrefn yn cynnig gweledigaethau arall o'r dyfodol yn datblygu syniadau anarchaidd ac yn cynnig gwrth ddadleuon i'r sosialwyr gwladwriaethol rhyddfrydwyr a chyfeillion twyllodrus eraill y dosbarth llafur mae gan elynion anarchiaeth drefniadaeth dda ac mae angen i anarchiaeth fabwysiadu trefn sy'n well hybu gwireddiad y fath gyfundrefn yw tasg y ffederasiwn anarchaidd anarchaeth dyfodol posib mi fydd cymdeithas anarchaidd comiwnistaidd yn ei hanfod yn wahanol iawn i'r ffordd yr ydym yn byw heddiw mae cyfalafiaeth wedi newid y byd y tu hwnt i bob adnabyddiaeth dros y ddau gan mlynedd diwethaf mae cyfalafwyr a 'homiwnistiaid' y wladwriaeth cyfalafwyr y wladwriaeth wedi ceisio arglwyddiaethu dros gyfundrefn natur ac wedi dod â ni o fewn dim i drychineb ecolegol nid yw sefyllfaoedd hunllefus ond nepell i ffwrdd wrth i natur ildio i ddiwydiannaeth ynni niwclear lledaeniadau carbon diocsid datgoedwigo ffermio ffatri ac yn y blaen mi fydd comiwnyddiaeth anarchaidd yn golygu ailfeddwl yn hanfodol y ffordd yr ydym yn rhedeg ein bywydau mi fydd yn rhaid i ni fyw mewn cytgord â natur nid yn ei herbyn oes gwir angen cymaint o geir modur oes angen ugain math o frws dannedd nad oes dulliau di lygredd o gynhyrchu trydan bydd rhaid mynd i'r afael â'r rhain a llu o faterion ecolegol eraill os oes llawer o ddyfodol i fod i'r hil ddynol ynghyd â newid ein perthynas â natur bydd yn rhaid newid ein perthynas â'n gilydd ar hyn o bryd mae pob agwedd o'n bywydau yn atebol i reolaeth oddi uchod mae miloedd o bobl mewn swyddi lle nad ydynt yn gwneud fawr ddim ar wahân i roi pawb yn eu lle a chwtogi ar ryddid mae ieuenctid pobl dduon yr hoyw ac anghydffurfwyr yn darged parod i aflonyddwch gan yr heddlu unwaith rhown ein troed dros garreg drws y gweithle mae unrhyw olwg o reolaeth bersonol yn gorfod plygu i reolaeth bitw ac erledigaeth i lawer o fenywod a phlant mae hyd yn oed y cartref yn anniogel yn wyneb trais teuluol mae anarchiaeth yn golygu rhyddid ni ddylai unigolion fod yn atebol i ymyrraeth o'r tu allan cyhyd â'u bod yn parchu ac yn peidio atal rhyddid eraill ond nid y rhyddid i wneud fel y mynnoch yw'r unig agwedd arno cyn y gall rhyddid fodoli go iawn mae angen sicrwydd amgylchedd diogel a gofalus a'r modd i gyflawni potensial dynol yn llawn golyga rhyddid felly yr addysg a'r gofal iechyd gorau posib i'n galluogi i gael y gorau allan o fywyd y ffordd orau o gryfhau rhyddid yw trwy ddatblygu cymunedau lle y gall pobl redeg eu bywydau eu hunain gyda gyfalafiaeth mae cymunedau bron â diflannu o'r tir wrth i unigolion a theuluoedd gloi eu hunain i mewn i'w tai a'u hynysu eu hunain wrth bawb arall mewn cymdeithas anarchaidd mae'n sicr y buasai gwahanol fathau o gymunedau yn bodoli wedi'u seilio efallai ar y gweithle neu'r lleoliad daearyddol mi fydd cymunedau yn ymuno yn wirfoddol ag eraill i greu rhwydwaith o sefydliadau annibynnol ond eto yn gydweithredol a'r rhain fuasai'n gweinyddu cymdeithas mi fydd y gyfundrefn yma a adwaenir fel ffederasiwn yn cyfuno cymunedau ar lefelau gwahanol o'r lleol i'r rhyngwladol trwy seilio trefn cymdeithas ar ymdeimlad o gydgefnogaeth a chydweithrediad gall unigolion gymryd rhan yn y broses o redeg eu bywydau gan gyfrannu at ymestyn eu rhyddid felly mi fuasai pobl am y tro cyntaf yn cymryd rheolaeth uniongyrchol o'u bywydau eu hunain ni fuasai lle i arweinyddiaethau penaethiaid gwleidyddion proffesiynol na gweision sifil lle buasai rhai tasgau yn gofyn am berson mewn sefyllfa o gyfrifoldeb llenwid y fath swydd ar sail wirfoddol neu o bosib rhan amser mi fuasai pobl a fuasai'n ymgymryd â'r fath dasgau yna yn eu gwneud ar sail cael eu galw yn ôl ar fyrder gan y bobl y byddent yn eu gwasanaethu mi fuasai anarchiaeth yn golygu diwedd ar 'gyfraith a threfn' fel yr ydym ni yn eu hadnabod modd yw'r gyfundrefn gyfreithiol sy'n cynnwys yr heddlu ynadon barnwyr a charchardai o amddiffyn y cyfoethog a'r pwerus rhag trwch y boblogaeth diddymir y fath sefydliadau ar ôl distrywio anghydraddoldeb a llywodraeth mi fuasai'r carchardai yn cael eu dymchwel y barnwyr yn cael eu hymddeol a'r heddlu yn cael eu hail gyflogi i wneud gwaith a fuasai'n fuddiol i gymdeithas yn erbyn eiddo y mae'r rhelyw o drosedd ac fe'i hachosir gan anghydraddoldeb o ran cyfoeth wrth i eiddo gael ei gymunedu ac wrth i anghydraddoldeb ddiflannu felly hefyd y daw diwedd ar bron pob troseddu wrth gwrs mi fuasai yna elfennau gwrthgymdeithasol yn dal mewn bodolaeth ond mi fuasai'r cymunedau eu hunain yn delio â nhw mewn modd cyfiawn a dynol mae cyfalafiaeth wedi aflunio a gwyrdroi pob perthynas ddynol canlyniad rhoi arian o flaen pobl yw trachwant hel arian dyrchafiadau yn y gweithle diraddio bodau dynol i fod yn unedau economaidd a llawer mwy mi fuasai comiwnyddiaeth anarchaidd yn diddymu cyfalafiaeth ac eiddo preifat ac yn eu dodi yn nwylo'r bobl mi fuasai adeiladau cyhoeddus siopau swyddfeydd ffatrïoedd warysau a thir yn nwylo'r cymunedau i'w datblygu er lles pawb nid yw hyn wrth gwrs yn golygu diwedd ar eiddo personol mae comiwnyddiaeth yn gofyn am ddiddymu arian a pan fo'r amodau'n caniatáu hynny dosbarthu nwyddau a gwasanaethau yn rhad ac am ddim ar sail angen personol mewn geiriau eraill gall pobl gymryd yr hyn y maent ei angen fel bo'r angen os na fuasai cynhyrchu yn ddigonol i gwrdd â'r angen yna mi fuasai nwyddau a gwasanaethau yn cael eu rhannu allan yn gyfartal er mwyn sicrhau dosbarthiad teg o ystyried technoleg cyfrifiadur modern ni ddylai fod yna fawr ddim anhawster wrth gynllunio cynhyrchu a dosbarthiad i gwrdd ag anghenion pawb yn enwedig os nad oes yna'r dyblygu gwastraffus sy'n nodweddu'r gyfundrefn bresennol ar hyn o bryd i'r rhelyw o bobl rhywbeth i'w osgoi ar bob cyfrif yw gwaith ond bod dal ei angen er mwyn sicrhau safon goddefadwy o fyw mewn economi anarchaidd comiwnistaidd diddymir gwaith dianghenraid a lleiheir gwaith angenrheidiol yn unol â dymuniadau pobl yna dognir gwaith annymunol wedi iddo gael ei leihau i'r isafswm isaf posib gan dechnoleg addas neu fe'i gwneir gan bobl nad ydynt yn ffeindio gwaith o'r fath yn annymunol diddymir y gwahaniaeth rhwng gwaith a pheidio gweithio wrth i bobl unwaith eto fabwysiadu dull cydgordiol o fyw ond nid mater yn unig o fath newydd o economi neu ddull trefn cymdeithas mo comiwnyddiaeth anarchaidd fel proses parhaus yn cychwyn cyn y chwyldro ac yn datblygu wedi hynny mae angen ymosod ar bob cred agwedd sefydliad ac arfer sy'n lleihau rhyddid a chyfiawnder mae angen diddymu crefydd rhagfarn rhyw oedraniaeth hiliaeth trachwant a hunan ddyrchafiaeth neu mi fydd y chwyldro wedi bod yn ddibwrpas ond ni allwn wneud mwy nag amlinellu rhai o'r datblygiadau a allai gymryd lle mae nifer o bethau yn codi na allwn eu rhagweld ac felly nid yw'r amlinelliad yma o gymdeithas anarchaidd mewn unrhyw ystyr yn lasddarlun sanctaidd a digyfnewid y byd yn eich dwylo o s edrychwch chi ar y byd fel ag y mae e heddiw o'i gymharu â'r gyfundrefn garai comiwnistiaid anarchaidd ei gweld yna a dweud y lleiaf mae gennym llond cae o waith o'n blaen mae sicrhau'r fath newid yn ymddangos yn dasg enfawr ond cyn wnaiff hyn oll beri i chi chi ddanto cofiwch ein bod yn byw mewn byd sy'n newid yn gyflym ni fuasai fawr neb yn adnabod y byd yr ydym yn byw ynddo heddiw hyd yn oed o ryw ugain mlynedd yn ôl mewn gwirionedd mae'r byd wedi newid mwy yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf nac yn ystod y pum cant blaenorol mae ffactorau fel economeg a thechnoleg wedi chwarae eu rhan wrth lunio'r byd ond ar ddiwedd y dydd y bobl sydd yn newid pethau mewn gwirionedd yn gynharach cyfeiriwyd at y wladwriaeth les fel dull o reoli ond ar y llaw arall dim ond oherwydd i'r dosbarth llafur ymladd amdanynt er bod gwleidyddion yn aml wedi hawlio'r clod y daeth gofal iechyd sylfaenol i fodolaeth o gwbl heb fygwth gweithredu ni fuasem fyth wedi ennill yr hawl i'r fath bethau mae streiciau neu eu bygwth yn helpu gwella cyflogau ac amodau gweithio heb weithredu o du ein dosbarth ni dim ond gwaethygu mae pethau yn yr un modd diddymwyd treth y pen wrth i bobl ymladd yn ei herbyn a gwrthod talu hyd y dydd heddiw mae gennym y gallu i newid pethau os wnawn weithredu ar y cyd mae'r grym i drawsnewid cymdeithas yn nwylo y rhai sy'n creu popeth y dosbarth llafur dyma ffynhonnell ein nerth yn y pen draw petaem yn ei ddefnyddio y grym nid i gyflawni ychydig o ddiwygiadau ond i drawsnewid y gyfundrefn yn llwyr i gyflawni chwyldro gymdeithasol y chwith nid comiwnistiaid anarchaidd yw'r unig bobl i siarad am chwyldro er i aml 'chwyldro' ddigwydd yn y gorffennol mae cyfalafiaeth yn dal i fodoli nid yw comiwnyddiaeth iawn wedi bodoli yn unman nid oedd y diweddar undeb sofietaidd yn ei anterth 'sosialaidd' yn unrhywbeth o'r fath ffurf ar gyfalafiaeth cyfalafiaeth y wladwriaeth oedd 'comiwnyddiaeth' y wladwriaeth gyda'r blaid gomiwnyddol yn 'bennaeth' a biwrocratiaid y blaid y breintiedig rai a derbyn dymchwel comiwnyddiaeth yn nwyrain ewrop bellach syndod yw darganfod fod yna grwpiau yn dal i fodoli ym mhrydain sy eisiau dilyn esiampl yr undeb sofietaidd eto yn rhyfeddol mae mudiadau fel y tueddiad milwriaethus a phlaid y gweithwyr sosialaidd yn dal i ganu'r un hen gân mae'r gweithwyr ar ei hôl hi meddent mae angen arweiniad mudiadau tebyg i ni meddent eto mae yna argyfwng arweiniad dim ond ni sy'n gwybod y ffordd ymlaen mae angen disgyblaeth plaid plaid o arweinwyr a'r sawl sy'n cael eu harwain ac yn y blaen roedd model yr hen undeb sofietaidd o sosialaeth honedig yn drychineb i'r dosbarth llafur ar draws y byd p'un ai oedd y bobl yma yn dilyn dysgeidiaeth lenin trotsky stalin neu mao y gwir amdani yw bod eu gau broffwydi wedi profi'n elynion milain i'r dosbarth llafur go iawn yn groes i'w ffantasïau am y dosbarth llafur mae neges yn eglur mae angen i'r dosbarth llafur a'r rhai sy dan ormes os ydyn ni fyth i ennill ein rhyddid i fwrw ati ein hunain heb arweinwyr hunan apwyntiedig os yw'r bobl yma byth i lwyddo yma yna mi fyddant yn dod i mewn â dulliau newydd o gamddefnyddio a gormes mi wnânt weiddi am sosialaeth a'r byd newydd braf ond y nhw nid y sathredig fydd yn llywodraethu mi fyddant wedi newid enw'r gyfundrefn ond mi fydd y gormes a'r ymelwad yn parhau mae'r blaid lafur weithiau yn defnyddio'r gair 'sosialaeth' wrth ddisgrifio eu polisïau ond nid yn aml iawn unwaith eto nid yw'r blaid lafur yn nac wedi bod yn sosialaidd mae'r blaid lafur yn darparu swyddi ar gyfer rhai cannoedd o yrfawyr dosbarth canol ond nid yw wedi gwneud fawr o les i neb er gwaethaf sawl llywodraeth lafur sawl blwyddyn yn ôl wnaeth dim byd newid mi wnaeth gyfalafiaeth barhau fel ag o'r blaen y dewis anarchaidd y ffa ond rhoddodd y blaid lafur y gorau i bob esgus o newid radicalaidd achau yn ôl dim ond grp bach byth lleihaol o'r hunan dwylledig a threiddwyr sy'n canfod unrhyw obaith o'r cyfeiriad yma sefydlwyd y ffederasiwn anarchaidd er mwyn hyrwyddo'r ymrafael am fyd sy'n well byd heb wleidyddion cadfridogion offeiriadon a phenaethiaid tra nad ydym yn gweld ein hunain fel casgliad o broffwydi sy'n gwybod yr holl atebion credwn fod gennym safbwyntiau a syniadau defnyddiol a allai fod o ddefnydd i'r dosbarth llafur mae gennym hefyd weledigaeth bendant am y nodd o gyrraedd byd heb gamddefnyddiaeth ar hyn o bryd yr ydym yn ceisio lledaenu ein syniadaeth o blith y dosbarth llafur golyga hyn gynhyrchu cylchgronau pamffledi llyfrynnau posteri casetiau et cetera er mwyn lledaenu'r neges anarchistaidd i'r gynulleidfa fwyaf eang posib ond nid mater o gael syniadau da yn unig mo comiwnistiaeth anarchaidd ar eu pen eu hunain mae syniadau yn ddiwerth mae angen hefyd eu gweithredu felly mae'r ffa wrthi yn cefnogi streicwyr sgwatwyr tenantiaid carcharorion gwrthdystiadau terfysgoedd et cetera ond nid ydym yn ymgyfrannu dim ond er mwyn lledaenu ein syniadau ond gan ein bod yn credu mai trwy y fath ymrafael a'u cysylltu i fewn i fudiadau cymdeithasol y gallwn ddatblygu'r hyder dosbarth yn ein galluoedd i newid y sefyllfa sydd ohoni mae hybu'r fath hyder yn bwysig gan y gall buddugoliaeth fach heddiw olygu buddugoliaeth yn fwy yfory yr ydym yn ymgyfrannu mewn ymgyrchoedd fel comiwnistiaid anarchaidd mewn geiriau eraill yr ydym yn gwthio'r syniad y dylai pob ymrafael gael ei rheoli gan y bobl sy'n ran ohoni nid y penaethiaid pleidiau allanol y cynhyrfwyr biwrocratiaid yr undebau llafur nac arweinwyr cymunedol hunan apwyntiedig ym mhob rhan o'r gymuned yr ydym yn cefnogi creu sefydliadau gwerin gwlad megis grwpiau merched ymreolus a dosbarth llafur i ymladd gormes rhywiol yn yr un modd yr ydym yn cefnogi grwpiau pobl ddu dosbarth llafur ymreolus yn eu brwydr yn erbyn hiliaeth a ffasgiaeth yn y gweithleoedd yr ydym yn hyrwyddo creu mudiad ymreolus nerthol y tu allan i reolaeth yr undebau a rheolaeth ar yr un pryd yr ydym yn ceisio creu grwpiau anarchaidd chwyldroadol mewn diwydiannau er mwyn lledaenu'r neges anarchaidd ym mhob achos brwydr yn erbyn cyfalafiaeth yw'r frwydr dros ryddid nid yw'r ffa yn ceisio gwneud unrhyw fater neu ymrafael yn flaenoriaeth dros eraill am yn rhy hir cael ei rannu a'i reoli yw tynged y dosbarth llafur y mae'n bwysig y tu hwnt i gysylltu pob ymrafael dosbarth llafur er mwyn creu mudiad cymdeithasol torfol yn erbyn y gyfundrefn bresennol diwylliant gwrthsefyll dosbarth llafur a dyma ein nod yn y tymor canolig creu mudiad cydgefnogol enfawr o ymladdwyr i fynd i'r gad yn erbyn gormes y dosbarth llywodraethol mae hi'n bwysig creu'r modd i'n dosbarth ymateb i ymosodiadau yn y byd sydd ohoni oherwydd y tueddiad i wahaniaethu pob ymrafael mae'n hawdd delio â nhw fesul un hanfod creu undod y gwir ddosbarth llafur yw canfod ymosodiad ar unrhyw ran o'n dosbarth fel ymosodiad ar bob un ohonom nid ydym yn dweud mai mudiad amddiffynnol yn unig y dylai'r fath fudiad fod trwy hybu hyder yn ein hunain fel dosbarth yr ydym yn creu'r modd i fynd i'r gad yn erbyn y gyfundrefn a thrwy fynd i'r gad yr ydym yn golygu creu cyfundrefn hunan drefnedig dorfol a chreu cynghorau gweithwyr fel dull o hyrwyddo grym a hunan drefniadaeth y dosbarth llafur yn ogystal â hyn mi fydd sefydliadau tenantiaid a chymunedau yr oll wedi eu rheoli gan y rhai sy'n ran ohonynt yn galw am streiciau rhent torfol gwrthdystiadau terfysgoedd ac aflonyddwch cymdeithasol mi fuasai gan y fath fudiad y grym i ddinerthu cyfalafiaeth yn llwyr mae dosbarth y penaethiaid yn ddigon hapus â phethau fel ag y maent ar wahân i ambell i lithriad economaidd mae syniadau comiwnyddiaeth anarchaidd yn codi arswyd arnynt a phan soniwn am greu mudiad cymdeithasol torfol a fydd yn ymosod ar union seiliau y gyfundrefn gyfalafol yna mae gwersi hanes yn dweud wrthom y gwna'r cyfalafwyr ddefnyddio holl rym y wladwriaeth i'n rhwystro mai hyn am ein bod yn sôn am chwyldro cymdeithasol mi wnânt ddefnyddio nid un unig yr heddlu ond hefyd y fyddin petai'n para yn ffyddlon i'r gyfundrefn mi wnânt ddefnyddio minteioedd o ffasgiaid ysbïwyr agents provocateurs hurfilwyr unrhyw beth er mwyn ein rhwystro oherwydd hyn mae'n dra thebyg y dilynir unrhyw ymgais am chwyldro cymdeithasol gan wrth chwyldro o ddosbarth y penaethiaid a'u dilynwyr felly fe fydd angen gwrthgodiad arfog adeg unrhyw newid cymdeithasol sylweddol yn erbyn dosbarth y penaethiaid gall ymrafael dosbarth dan reolaeth y gweithwyr roi nifer o hanfodion comiwnistiaeth anarchaidd i mewn i weithrediad ond eto mi fydd angen creu byddinoedd y gweithwyr er mwyn iddynt amddiffyn eu hunain ac yn y pen draw trechu a diddymu cyfalafiaeth efallai fod hyn yn swnio braidd yn drwm ond eto gyda chyfalafiaeth yn mynd ar ei ben tuag at ansefydlogrwydd economaidd cynyddol rhyfeloedd 'confensiynol' a niwclear a distryw amgylchfydol yna mewn gwirionedd mae'r amserau drwg yma'n barod ac yn gwaethygu wrth y funud moddau a dibenion yr ydym eisiau dyfodol i'n hunain a'n plant a dyfodol sy'n cynnig y rhyddid pennaf heb gamddefnyddiaeth economaidd credwn ein bod wedi gosod y seiliau er gwireddu hyn heddiw mae'r ffa yn ymladd am y fath ddyfodol yr ydym yn trefnu heddiw mewn modd sy'n adlewyrchu ein nod yn y pen draw nid ydym yn fiwrocratiaeth anhyblyg fel y sefydliadau asgell chwith sy'n cael eu rhedeg a'u trafod gan benaethiaid y pleidiau mewn gwirionedd nid oes gennym unrhyw swyddogion amser llawn na pharhaol na phwyllgorau canolog dim arweinwyr a dilynwyr penderfynir ein safle ar wahanol faterion ac ar weithrediadau trwy ymgyfraniad cyfartal cyn belled ag y mae pobl yn dewis cymryd rhan mewn nifer o wahanol ffyrdd mae'r rhain yn cynnwys trafodaethau printiedig mewn bwletin mewnol cynadleddau blynyddol sy'n agored i'r holl aelodau cyfarfodydd anfonogion sy'n cynnwys yr holl anfonogion grp lleol dros dro ac aelodau unigol ac ysgolion undydd rheolaidd etholir pob 'swyddog' e e ysgrifennydd cenedlaethol trysorydd am gyfnodau penodedig ac mi allant gael eu diswyddo gan y gynhadledd neu gyfarfod anfonogion os ydynt yn ymddwyn mewn dulliau amhwrpasol ys dywed ei deitl ffederasiwn yw'r ffa prif nod y ffa yw gweithredu mewn dull unedig er sicrhau y dylanwad mwyaf ar y dosbarth llafur felly mae aelodau yn ymuno wedi iddynt dderbyn nifer o nodau ac egwyddorion sylfaenol sydd wedi eu printio ar ddiwedd y pamffled hefyd mae gan aelodau sy wedi cyfrannu'n llawn at dynnu'r polisïau i fyny gyfrifoldeb i sicrhau eu gweithrediad serch hynny golyga hyn y bydd grwpiau lleol ac aelodau unigol yn gosod eu nodau a'u gweithrediadau eu hunain o fewn y cyd destun yma mae gweithrediad y ffederasiwn anarchaidd yn nwylo ei holl aelodau yr ydym eisiau creu byd lle mae grym yn nwylo'r holl bobl os teimlwch eich bod yn cytuno yn gyffredinol â'r syniadau fynegwyd yn y pamffled yma ac yn cytuno â'n nodau ac egwyddorion yna yr ydym yn eich annog i wneud cais am aelodaeth er mwyn helpu adeiladu ein mudiad mi allwch wneud hyn trwy ysgrifennu at af c o b whitechapel high street london e qx ffederasiwn anarchaidd af c o b stryd fawr whitechapel llundain e qx or po box cwmbran gwent np yn cymru wales e mail anarchistfederation bigfoot com web http www afed org uk back to af welsh