datganiad i'r wasg hydref croeso cymreig mae gwerthwyr tai mewn tair o siroedd y gogledd yn cefnogi cynllun newydd sy'n cynnig croeso cymraeg i fewnfudwyr i'r bröydd hynny lle mae'r gymraeg yn iaith y gymuned leol mae'r pecyn croeso'n sicrhau bod mewnfudwyr yn derbyn gwybodaeth ynglyn ag un o ieithoedd hynaf ewrop ynghyd â'r diwylliant sydd ynghlwm â hi mae hefyd yn nodi'r manteision sydd yna o ddysgu'r iaith a sut i fynd ati mae'r pecyn croeso'n gam positif tuag at geisio datrys effeithiau'r mewnlifiad o'r di gymraeg i ardaloedd lle mae'r iaith yn cael ei siarad gan y rhan fwyaf o'r trigolion meddai iddon edwards o fenter iaith gwynedd dylai mewnfudwyr fod yn ymwybodol bod y gymraeg yn iaith gymunedol fyw ychwanegodd cynhyrchir y pecyn croeso gan fentrau iaith gwynedd conwy a sir ddinbych mae'r pecyn yn cynnwys enghreifftiau o fewnfudwyr sydd wedi dysgu'r gymraeg ac sydd bellach â rhan blaenllaw as ystyrlon fel aelodau llawn o'u cymunedau newydd rydym yn eithriadol ddiolchgar i'r gwerthwyr tai lleol am eu cefnogaeth i'r pecyn croeso meddai meirion davies o fenter iaith conwy dinbych y gwerthwyr tai lleol yw cysylltiad cyntaf mewnfudwyr gydag ardal ac mae nhw felly mewn safle delfrydol i hyrwyddo'r pecyn ychwanegodd y pecyn croeso yw un o nifer o gynlluniau sydd wedi'u paratoi i warchod yr iaith gymraeg yn ei chadarnleoedd mae'r pecyn yn llawn gwybodaeth defnyddiol am ardaloedd lle mae'r gymraeg yn amlwg iawn yn y gymdeithas ychwanegodd iddon edwards gyda pholisdau dysgu cymraeg mewn ysgolion yr awdurdodau addysg lleol yn cael eu hegluro a'r manteision yn cael eu hamlinellu meddai mae'r pecyn croeso wedi cael cefnogaeth ddiamwys prif weinidog y cynulliad cenedlaethol rhodri morgan ac yn ogystal ag oddi wrth lywydd plaid cymru ieuan wyn jones ac ac un o aelodau blaenllaw'r blaid geidwadol yn y cynulliad glyn davies mae'n hwb sylweddol derbyn sel bendith aelodau amlwg ar draws y pleidiau gwleidyddol ychwanegodd meirion davies wedi'r cwbl mae'r iaith gymraeg ar gyfer pawb o bobl cymru beth bynnag eu teyrngarwch gwleidyddol neu o le bynnag y dônt meddai menter iaith gwynedd canolfan adnoddau gwledig parc busnes penamser porthmadog gwynedd ll gb menteriaith cymad org rhif ffôn rhif ffacs