prifysgol cymru bangor newyddion hafan newyddion cysylltiadau chwilio english prifysgol cymru bangor newyddion prifysgol newyddion ymchwil llwyddiannau myfyrwyr newyddlen digwyddiadau llyfrau chwiliad cyflym ysgoloriaethau newydd i wobrwyo rhagoriaeth mewn chwaraeon mae myfyrwyr syn hoff o chwaraeon wedi cael eu denu bob amser gan y cyfleoedd a geir ym mhrifysgol cymru bangor nid yn unig maer brifysgol o fewn cyrraedd hwylus i fynyddoedd eryri ac arfordir gogledd cymru ond maen ymfalchïo hefyd bod ganddi rai or cyfleusterau chwaraeon gorau mewn unrhyw brifysgol ym mhrydain yn ychwanegol at hyn maer brifysgol yn awr yn cynnig ysgoloriaethau chwaraeon newydd gwerth £ i israddedigion newydd bydd o ysgoloriaethau gwerth o leiaf £ yr un yn cael eu cynnig am y tro cyntaf yn mewn cynllun a fwriadwyd i gydnabod potensial a datblygu rhagoriaeth mewn chwaraeon ni chaiff yr ysgoloriaethau eu cyfyngu i unrhyw gamp neilltuol a byddant yn cael eu dyfarnu ir rhai sydd ym marn y brifysgol eisoes wedi dangos rhagoriaeth yn y chwarae ou dewis neu syn dangos addewid o ragoriaeth yn y dyfodol meddair athro peter williams cadeirydd pwyllgor hamdden corfforol y brifysgol rydym yn gobeithio y bydd yr ysgoloriaethaun annog sbortsmyn addawol i gyflawni eu potensial ac y byddant yn ymuno ag unigolion a thimau arbennig eraill sydd wedi cynrychiolir brifysgol mewn gwahanol gystadlaethau chwaraeon a dod â bri iddi drwy hynny i wneud cais am yr ysgoloriaethau chwaraeon bydd angen i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais sydd ar gael gan amanda smith yn y swyddfa marchnata a chysylltiadau cyhoeddus neu e bost a smith bangor ac uk diwedd nodiadau i olygyddion mae cyfleusterau chwaraeon a hamdden helaeth yn y brifysgol yn cynnwys trac athletau wal ddringo campfa ystafelloedd ffitrwydd yn cynnwys yr offer diweddaraf dwy neuadd chwaraeon aml bwrpas llain astro turf gyda llifoleuadau cyrtiau tenis a dros acer o gaeau chwarae mae undeb y myfyrwyr yn cynnig clybiau chwaraeon yn cynnwys athletau badminton pêl fasged canwïo criced beicio dawns cleddyfa pêl droed pêl droed gwyddelig golff gymnasteg hoci jwdo ju jitsu ki aikido lacrosse achub bywyd cerdded mynyddoedd pêl rwyd octopush pistol marchogaeth reiffl a rhwyfo rygbi rygbi cynghrair hwylio sgïo sboncen syrffio nofio tenis bwrdd tenis trampolinio pêl foli polo dwr a codi pwysau tîm rygbi merched oedd y tîm mwyaf llwyddianus yn y brifysgol y llynedd gan ennill rownd derfynnol cynghrair rygbi undeb merched cymdeithas chwaraeon prifysgolion prydeinig mae gannddynt aelodau o dimau cenedlaethol a rhyngwladol yn eu mysg aeth y tîm ymlaen i lwyddiannau pellach yn y swisdir dros yr haf yn ôl diweddaru diwethaf hawlfraint © prifysgol cymru bangor datblygwyd gan ets cynhelir gan elinor elis williams