y geiriau cudd rhan o'r arabeg ef yw gogoniant y gogoniant dyma'r hyn a ddisgynnodd o deyrnas gogoniant a lefarwyd gan dafod grym a nerth ac a ddatguddiwyd i'r hen broffwydi cymerasom ei hanfod mewnol a'i wisgo mewn dillad cryno yn arwydd o ras i'r cyfiawn fel y medrant aros yn ffyddlon i gyfamod duw cyflawni ei ymddiriedaeth yn eu bywydau a chaffael gem y rhinwedd dwyfol yn nheyrnas yr ysbryd o fab yr ysbryd dyna fy nghyngor cyntaf mynnwch galon bur caredig a disglair fel y bydded i chi sofraniaeth hynafol anfarwol a thragwyddol o fab yr ysbryd yr anwylaf o'r holl wrthrychau yn fy ngolwg i yw cyfiawnder na chefna arno os wyt yn fy nymuno i ac na esgeulusa ef fel y gallaf ymddiried ynddot ti drwy ei gymorth cei weld drwy dy lygaid dy hun ac nid drwy lygaid eraill a chei wybod drwy dy wybodaeth dy hun yn hytrach na thrwy wybodaeth dy gymydog myfyria ar hyn yn dy galon fel y mae'n gymwys i ti yn wir cyfiawnder yw fy rhodd i ti ac arwydd o'm gofal cariadus gosod ef felly o flaen dy lygaid o fab y dyn a minnau wedi fy ngwisgo â'm bod tragwyddol ac yn nhragwyddoldeb hynafol fy hanfod gwybyddais fy nghariad atat felly fe'th greais di gan gerfio fy nelwedd arnat a datgelu i ti fy mhrydferthwch o fab y dyn cerais dy greu felly fe'th greaist dyna paham yr wyt yn fy ngharu fel y gallaf enwi dy enw a llenwi dy enaid gydag ysbryd bywyd o fab bodolaeth cara fi fel y boed i mi dy garu di os nad wyt yn fy ngharu nid oes modd i'm cariad dy gyffwrdd di gwybydda hyn o was o fab bodolaeth fy nghariad yw dy baradwys dy gartref nefolaidd dy aduniad â mi dos yno ac na oeda dyma a dynghedwyd i ti yn ein teyrnas oddi fry ac yn ein harglwyddiaeth ddyrchafedig o fab y dyn os wyt yn fy ngharu i cefna ar dy hun ac os wyt yn ceisio fy mhleser nac ystyria dy bleser dy hun fel y boed i ti farw ynof i a boed i mi fyw yn dragwyddol ynddot ti o fab yr ysbryd nid oes heddwch i ti ond trwy iti ymwrthod â dy hun a throi ataf i canys dy ran yw i ymhyfrydu yn fy enw nid yn dy enw dy hun i ymddiried ynof fi ac nid ynot ti dy hunan canys dymunaf gael fy ngharu yn unig ac uwchlaw popeth arall sy'n bod o fab bodolaeth fy nghariad yw fy nghadarnle mae'r sawl a êl iddo yn ddiogel a sicr a bydd y sawl a dry ymaith oddi wrtho yn sicr o grwydro a threngi o fab lleferydd ti yw fy nghadarnle dos i mewn iddo fel boed i ti drigo mewn diogelwch mae fy nghariad ynddot ti gwybydda hyn fel y boed i ti fy nghael yn agos atat ti o fab bodolaeth ti yw fy llusern a fy ngolau sydd ynddot ti mynna dy ddisgleirdeb oddi wrtho ac na cheisia arall ar wahân i mi canys fe'th greaist yn gyfoethog a thywalltais fy mendithion arnat yn hael o fab bodolaeth fe'th wneuthum â dwylo grym ac fe'th greais â bysedd nerth a gosodais hanfod fy ngoleuni o'th fewn bydded i ti fodloni arno ac na cheisia ddim arall canys fy ngwaith sydd berffaith a'm gorchymyn yn rhwymo na chwestiyna ef na'i amau o fab yr enaid fe'th greais yn gyfoethog paham wyt yn dwyn dy hun i dlodi fe'th greais yn urddasol i ba beth yr wyt yn darostwng dy hun o hanfod gwybodaeth y rhoddais fod i ti paham wyt yn ceisio dy oleuo gan rhywun oddi eithr myfi o glai cariad y lluniais ti paham wyt yn ymdrafferthu ag eraill tro dy lygaid atat dy hun fel y boed i ti fy narganfod i yn sefyll o'th fewn yn rymus yn nerthol ac yn hunangynhaliol o fab y dyn ti yw fy arglwyddiaeth ac ni dderfydd fy arglwyddiaeth paham felly wyt ti'n ofni dy ddarfod ti yw fy ngoleuni ac ni fydd diffodd byth ar fy ngoleuni pam wyt felly yn ofni marwolaeth ti yw fy ngogoniant ac ni phyla fy ngogoniant ti yw fy ngwisg ac ni threulir fy ngwisg fyth trig felly yn dy gariad i mi fel y boed i ti fy nghanfod yn nheyrnas gogoniant o fab lleferydd tro dy wyneb at fy wyneb i ac ymwrthoda â phopeth oddi eithr myfi canys fy sofraniaeth a bery a'm harglwyddiaeth nid yw'n darfod os ceisia arall oddi eithr myfi yn wir os chwilio'r greadigaeth hyd dragwyddoldeb a wnei ofer bydd dy gais o fab y goleuni anghofia popeth oddi eithr myfi a chymuna gyda'm hysbryd dyma hanfod fy ngorchymyn felly tro tuag ato o fab y dyn bydd fodlon arnaf fi ac na cheisia gynorthwy ydd arall canys ni fedr neb dy fodloni oddi eithr myfi o fab yr ysbryd paid gofyn i mi am yr hyn na ddymunwn ni ar dy gyfer yna bydd fodlon ar yr hyn a ordeiniwyd gennym er dy fwyn canys hyn fydd o fudd i ti os bodlona di dy hun ar hynny o fab y weledigaeth ryfeddol anadlais ynot ti anadl o'm hysbryd fy hun fel y boed i ti fod yn garwr i mi paham dy fod wedi fy ngwrthod i a cheisio anwylyd arall oddi eithr myfi o fab yr ysbryd mawr yw fy hawl arnat ni ellir ei anghofio mae fy ngras i ti yn doreithiog ni ellir ei guddio ymgartrefodd fy nghariad ynot ti ni ellir ei gelu amlygir fy ngoleuni ynot ti ni ellir ei dywyllu o fab y dyn ar goeden ddisglair gogoniant crogais y ffrwythau gorau ar dy gyfer paham y troist ymaith a bodloni dy hun ar yr hyn sy'n llai daionus dychwela felly i'r hyn sydd yn well i ti yn y deyrnas fry o fab yr ysbryd fe'th greais yn urddasol ac eto darostyngaist dy hun cyfoda felly at yr hyn a grëwyd ar dy gyfer o fab y goruchaf at y tragwyddol y galwaf di eto rwyt yn ceisio'r hyn sy'n darfod pa beth a berodd i ti droi dy gefn ar ein dymuniad a cheisio dy ddymuniad dy hun o fab y dyn paid â thorri dy derfynau na hawlio'r hyn nad yw'n dy weddu ymostynga dy hun o flaen wyneb dy dduw arglwydd gallu a grym o fab yr ysbryd paid ymffrostio dy hun ar draul y tlawd canys arweiniaf ef ar ei ffordd a'th ganfod di yn dy gyflwr drygionus a'th felltithio am byth o fab bodolaeth sut fedraist anghofio dy feiau dy hun ac ymdrafferthu dy hun â beiau eraill y sawl a wna hyn a felltithir gennyf o fab y dyn na anadler pechodau eraill cyhyd a'th fod yn bechadur dy hun os torrir y gorchymyn hwn gennyt yn felltigedig y byddet ac i hyn y tystiaf o fab yr ysbryd gwybydder gwirionedd nid yw'r sawl sy'n annog dynion i fod yn gyfiawn ac sydd ei hun yn cyflawni anghyfiawnder ohonof fi er iddo ddwyn fy enw o fab yr enaid na phriodola i unrhyw enaid yr hyn na fyddet yn priodoli i ti dy hun ac na honna yr hyn nad wyt yn ei wneuthur dyma fy ngorchymyn i ti ufuddhau iddo o fab y dyn na wrthoda fy ngwas os y gofyn rhywbeth oddi wrthyt canys ei wyneb ef yw fy wyneb i cywilyddia felly o'm blaen i o fab bodolaeth dwyn dy hun i gyfrif bob dydd rhag i ti gael dy alw i farnedigaeth canys daw marwolaeth arnat yn ddirybudd ac fe elwir arnat i ateb dros dy weithredoedd o fab y goruchaf gwneuthum farwolaeth yn negesydd llawenydd i ti paham felly wyt ti'n galaru gwneuthum y goleuni i dywynnu ei ddisgleirdeb arnat paham felly wyt ti'n cuddio dy hun oddi wrtho o fab yr ysbryd cyfarchaf di gyda newyddion da y goleuni llawenha galwaf di i lys sancteiddrwydd trig o'i fewn fel y boed i ti fyw mewn hedd byth bythoedd o fab yr ysbryd mae'r ysbryd sanctaidd yn dwyn newyddion da o aduniad i ti paham felly wyt ti'n galaru mae`'r ysbryd grymus yn dy gadarnhau yn ei achos paham felly wyt ti'n cuddio dy hun goleuni ei wyneb sy'n dy arwain sut fedru di fynd ar goll o fab y dyn na thristâ oddi eithr dy fod ymhell oddi wrthym ni na orfoledda oddi eithr dy fod yn nesau ac yn dychwelyd atom ni o fab y dyn gorfoledda yn llawenydd dy galon fel y boed i ti fod yn deilwng i gyfarfod â mi ac i adlewyrchu fy mhrydferthwch o fab y dyn na ddadwisger dy hun o'm gwisg brydferth ac na fforffeda dy gyfran o'm ffynnon ryfeddol rhag i ti sychedu byth bythoedd o fab bodolaeth cerdda yn fy neddfau am dy fod yn fy ngharu i ac ymwrthoda â'r hyn wyt yn ei ddymuno os wyt yn ceisio fy mhleser o fab y dyn na esgeulusa fy ngorchmynion os wyt yn caru fy mhrydferthwch ac na anghofia fy nghynghorion os wyt am ymgyrraedd at fy mhleser daionus o fab y dyn pe byddet i wibio drwy anferthedd y gofod a chroesi ehangder y nefoedd ni fyddai i ti heddwch ond trwy ufudd dod i'n gorchymyn ni a thrwy ostyngeiddrwydd yn ein hwyneb o fab y dyn mawrha fy achos fe y bydded i mi ddatgelu dirgelwch fy mawredd i ti a disgleirio arnat drwy oleuni tragwyddoldeb o fab y dyn darostwng dy hun o'm blaen fel y boed i mi ymweld â thi yn raslon cyfoda yn enw buddugoliaeth fy achos fel y boed i ti tra eto ar y ddaear ennill y fuddugoliaeth o fab yr enaid crybwyll fi ar fy naear fel y boed i mi dy gofio yn fy nefoedd felly y bydd i'm llygaid i a'th lygaid di dderbyn cysur o fab yr orsedd dy glyw di yw fy nghlyw i felly clyw di hyn dy lygaid di yw fy llygaid i gwêl di felly fel y boed i ti yn nyfnderoedd dy enaid dystiolaethu i'm sancteiddrwydd dyrchafedig ac y gallaf i o'm mewn fy hun dystiolaethu dros safle dyrchafedig i ti o fab bodolaeth ceisia farwolaeth merthyr yn fy llwybr yn fodlon ar fy mhleser ac yn ddiolchgar am yr hyn a ordeiniaf fel y boed i ti orffwys gyda mi dan orchudd urddasol tu ôl i dabernacl y gogoniant o fab y dyn meddwl a myfyria ai marw ar dy wely yw dy ddymuniad neu i dywallt dy waed yn y llwch yn ferthyr i fy llwybr a thrwy hynny dod yn ddatguddiad o'm gorchymyn ac yn ddatgelydd fy ngoleuni yn y baradwys uchaf barna'n gywir o was o fab y dyn drwy fy mhrydferthwch mae gwlychu dy wallt â'th waed yn fwy yn fy ngolwg i na chreu'r bydysawd a goleuni'r ddau fyd ymdrecha felly i ymgyrraedd at hyn o was o fab y dyn ceir arwydd ar gyfer pob peth nerth yw arwydd cariad dan fy ngorchymyn ac amynedd ydyw dan fy nhreialon o fab y dyn hiraetha'r gwir garwr am drallod megis y gwna'r gwrthryfelwr am faddeuant a'r pechadurus am drugaredd o fab y dyn os na ddaw adfyd i'th ran ar fy llwybr sut fedri di gerdded gyda'r rhai sy'n fodlon gyda'm pleser os na ddaw treialon i'th ran yn dy awydd i gyfarfod â mi sut bydd i ti ymgyrraedd at oleuni drwy dy gariad o'm prydferthwch o fab y dyn fy anffawd yw fy rhagluniaeth yn allanol tân a dialedd ydyw ond yn fewnol goleuni a thrugaredd yw brysia tuag ato fel y boed i ti fod yn oleuni tragwyddol ac yn ysbryd anfarwol dyma fy ngorchymyn i ti ufuddha iddo o fab y dyn os daw cyfoeth i'th ran na lawenha ac os y daw darostyngiad i'th ran na alara canys diflanna'r ddau ac ni fyddant fwyach o fab yr enaid os daw tlodi i'th ran na fo'n drist canys mewn amser daw arglwydd cyfoeth i ymweld â thi paid ofni darostyngiad canys daw gogoniant i'th ran rhyw ddydd o fab yr enaid os yw dy fryd ar yr arglwyddiaeth dragwyddol annarfodedig hyn a'r bywyd hynafol a thragwyddol yma cefna ar y sofraniaeth feidrol a byrhoedlog hwn o fab bodolaeth nac ymdraffertha dy hun â'r byd hwn canys drwy dân y profwn aur a thrwy aur y profwn ein gweision o fab y dyn rwyt yn dymuno aur a minnau yn dymuno dy ryddhau oddi wrtho rwyt yn ystyried dy hun yn gyfoethog o'i berchen a minnau adnabyddaf dy gyfoeth drwy dy sancteiddrwydd hebddo o fy mywyd dyma fy ngwybodaeth a dyna dy fryd sut y gall fy ffordd i gydredeg â'th ffordd di o fab y dyn dyro fy nghyfoeth i'm tlodion fel y boed i ti dynnu ar helaethrwydd o ysblander anniflanedig a thrysorau o ogoniant annarfodedig yn y nefoedd ond o fy mywyd pe byddet ond yn medru gweld â'm llygaid i mae offrymu dy enaid yn weithred mwy gogoneddus o fab y dyn teml bodolaeth yw fy ngorsedd pura ef o bob peth fel y sefydlir fi yno ac fel y trigaf yno o fab bodolaeth dy galon di yw fy nghartref sancteiddia ef ar gyfer fy nyfodiad dy ysbryd di yw mangre fy natguddiad pura ef ar gyfer fy ymddangosiad o fab y dyn rho dy law ar fy mynwes fel y bydded i mi godi uwch dy ben yn ddisglair ac yn ysblennydd o fab y dyn esgyn i'm nefoedd fel y boed i ti ennill llawenydd aduniad ac yfed o gwpan gogoniant annarfodedig y gwin digyffelyb o fab y dyn treiglodd llawer dydd tra dy fod yn ymbrysuro dy hun â'th chwantau a'th ddychmygion ofer am ba hyd wyt ti am gysgu ar dy wely cwyd dy ben o'th gwsg canys cododd yr haul i'w anterth efallai y gwneith ddisgleirio arnat â goleuni prydferthwch o fab y dyn disgleiriodd y goleuni arnat o orwel y mynydd cysegredig ac anadlodd ysbryd y goleuni yn sinai dy galon felly rhyddha dy hun o gysgodion chwantau ofer a dos i'm llys fel y boed i ti fod yn gymwys ar gyfer bywyd tragwyddol ac yn deilwng i gyfarfod â mi trwy hynny ni ddaw marwolaeth i'th ran na blinder na phryderon o fab y dyn fy nhragwyddoldeb yw fy nghreadigaeth fe'th greais ar dy gyfer gwna ef yn wisg i dy deml fy undeb yw fy nghrefftwaith fe'i lluniwyd ar dy gyfer gwisg dy hun ag ef fel y boed i ti fod yn ddatguddiad o'm bodolaeth fythol i hyd dragwyddoldeb o fab y dyn fy ardderchowgrwydd yw fy rhodd i ti a'm mawredd sydd arwydd o'm trugaredd tuag atat ni all neb ddeall nac adrodd yr hyn sy'n fy ngweddu i yn wir fe'i cedwais yn ddiogel yn fy ystordai cudd ac yn nhrysorfeydd fy ngorchymyn fel arwydd o'm gofal cariadus tuag at fy ngweision a'm trugaredd tuag at fy mhobl o blant yr hanfod dwyfol ac anweledig fe'th rwystrir di rhag fy ngharu i ac aflonyddir eneidiau wrth iddynt fy nghrybwyll canys ni all meddyliau fy nirnad i na chalonnau fy nghynnwys i o fab prydferthwch fy ysbryd a'm ffafr fy nhrugaredd a'm prydferthwch bu'r cyfan a ddatgelais i ti drwy dafod grym ac a ysgrifennais i ti gydag ysgrifbin gallu yn unol â'th ddawn a'th ddeall nid â'm cyflwr i nac alaw fy llais o blant dynion oni wybyddwch paham y crëwyd chi oll gennym o'r un llwch fel na boed un yn dyrchafu ei hun dros y llall myfyriwch yn eich calonnau yn barhaus ar y modd y crëwyd chi gan ein bod wedi eich creu chi i gyd o'r un llwch mae'n ddyletswydd arnoch i fod cyffelyb ag un enaid i gerdded â'r un traed i fwyta â'r un geg ac i drigo yn yr un tir fel y bydded o'ch bodolaeth dyfnaf ac o ganlyniad i'ch gorchestion a'ch gweithredoedd i arwyddion undod a hanfod gwrthrychedd gael eu datgelu dyma fy nghyngor i chi o gynulliad goleuni boed i chi wrando ar y cyngor hwn fel y bydded i chi gaffael ffrwyth sancteiddrwydd o goeden y gogoniant rhyfeddol o feibion yr ysbryd chi yw fy nhrysorfa canys ynddoch chi y trysorais berlau fy nirgelion a gemau fy ngwybodaeth gwarchodwch hwy rhag y dieithriaid ymysg fy ngweision a rhag yr annuwiol ymysg fy mhobl o fab yr hwn a safodd yn ei hanfod ei hun yn nheyrnas ei hunaniaeth gwybydda fy mod wedi chwythu holl arogleuon sancteiddrwydd tuag atat datgelais fy ngair i ti`n llawn perffeithiais fy ngolud trwyddo ti a dymunais ar dy gyfer yr hyn a ddymunais i mi fy hun bydd felly'n fodlon ar fy mhleser ac yn ddiolchgar i mi o fab y dyn ysgrifenna'r cyfan a ddatgelsom i ti gydag inc goleuni ar lechen dy ysbryd os nad yw hynny'n dy allu yna gwna dy inc o hanfod dy galon os na alli wneud hynny yna ysgrifenna yn yr inc coch hwnnw a dywalltwyd ar fy llwybr melysach yw hyn i mi na'r cyfan oll fel y boed i'w oleuni barhau yn dragywydd yn enw arglwydd lleferydd y nerthol translation from the english authorised by the bahá'í council for wales and the national spiritual assembly of the bahá'ís of the united kingdom return to the main page