english rhith ymweliad tudalen hafan ysgol addysg croeso ymweliad cyrsiau ac ymchwil cefnogaeth ariannol staff a myfyrwyr tudalen hafan y brifysgol tudalen hafan ysgol addysg mwy am yr ysgol addysg cyfeiriad yr ysgol addysg prifysgol cymru bangor safle'r normal bangor gwynedd ll px telephone croeso i'r ysgol addysg braint yr ysgol addysg yw cael darparu addysg uwch o'r radd flaenaf yn un o ardaloedd godidocaf prydain dyma fro rhwng môr a mynydd ar y naill law traethau euraidd môn dros afon menai a chyfleusterau delfrydol ar gyfer hwylio a chanwio a phob math o chwaraeon dwr ar y llall mae parc cenedlaethol eryri yn cynnwys milltir sgwar o fynyddoedd dyffrynnoedd a llynnoedd sy'n cynnig cyfleoedd i gerdded a dringo neu i fwynhau'r golygfeydd dramatig daeth yr ysgol addysg i fodolaeth ar ei newydd wedd yn dilyn integreiddio'r coleg normal gyda'r brifysgol mae'r ysgol yn cynnig awyrgylch braf deuluol a bydd myfyrwyr o bob cwr ac o wahanol gefndiroedd yn ymgartrefu yma yn ein plith byddwch yn sicr o wneud ffrindiau newydd ac o ehangu eich gorwelion yn eu cwmni dan arweiniad staff brwdfrydig mae'r ysgol yn darparu dewis eang o gyrsiau blaengar yn arwain at dystysgrifau a graddau anrhydedd prifysgol cymru ac amrediad o gymwysterau ôl radd cewch ddilyn cyrsiau trwy'r gymraeg neu'r saesneg neu'n ddwyieithog yng nghyd destun ewrop mae'r arbenigrwydd ieithyddol sydd yma yn rhoi dimensiwn cyffrous i'n holl gyrsiau a cheir cyfleoedd niferus i fyfyrwyr ddatblygu cysylltiadau ewropeaidd sefydlwyd enw da'r coleg normal yn wreiddiol ym maes hyfforddi athrawon ac mae'r ysgol addysg newydd yn parhau i addysgu myfyrwyr mewn cyrsiau gradd ac ôl radd ar gyfer anghenion ysgolion drwy brydain mae'r ysgol fel rhan o brifysgol bangor yn cynnig i bobl ifanc a rhai hyn gymdeithas fywiog a chyfoethog gydag adnoddau dihafal ar gyfer eu cyrsiau diolch i chwi am ymweld â safle'r ysgol addysg ar y we rydym yn gwybod o brofiad bod y rhai sydd hefyd yn ymweld â'r ysgol yn y cnawd yn cael eu cyfareddu gan ei lleoliad a'i hadnoddau dr h gareth ff roberts pennaeth yr ysgol addysg rhith ymweliad