medd merch glyndwr fair country line melody line medd merch glyndwr mewn balch sarhad 'mae iarll de grey yn dod fy nhad os daw yn wir i'n hardal ni glanhaed ei wn a doed â'i gi ysgyfarnogod gannoedd geir ac ar y berwyn fil o ieir caiff fwyd i'w farch ei gi ac e o doed fy arglwydd iarll de grey ' 'fe godir pontydd dros y ffyrdd o flodau teg a changau gwyrdd i blasau'r wlad mewn rhwysg yr awn a'r ffasiwn ddiweddaraf gawn y dydd cawn ddangos golygfeydd y nos cawn fiwsig a dawnsfeydd a'r boneddesau gydag e o doed fy arglwydd iarll de grey ' 'os blys am dafell fach o'r wlad sydd arno ef aed at fy nhad os cynnig am fy llaw paham na f'ai yn gofyn i fy mam os ceisia un o'r pethau hyn yfory nesaf doed os myn i gael fy nghleddyf yn eu lle o dowch fy arglwydd iarll de grey ' line song index home page line