A wyddoch chi? Yn ogystal â darllen y gwyddoniadur, gallwch ein
cynorthwyo i'w ddatblygu a'i wella! Gall unrhyw un olygu unrhyw
erthygl drwy glicio ar y gair "Golygu" ar ei brig. Ac os chwiliwch am
erthygl nad ydyw'n bodoli eto, cewch y cyfle i greu un newydd. Am
ragor o wybodaeth, darllenwch y dudalen gymorth. 
Croeso i Wicipedia,
y gwyddoniadur rhydd, am ddim,
y gall unrhyw un ei olygu.
33,949 erthygl yn y Gymraeg
Parc Cenedlaethol yn ne Cymru yw Parc Cenedlaethol Bannau
Brycheiniog. Mae'r parc yn gorwedd rhwng trefi Llandeilo,
Llanymddyfri, Aberhonddu, Y Gelli, Pont-y-pŵl a Merthyr
Tudful. Ffurfiwyd y Parc Cenedlaethol ym 1957.
Canolbwynt y parc yw mynyddoedd uchel Bannau Brycheiniog. Yng
ngorllewin y parc mae'r Fforest Fawr a'r Mynydd Du, rhostir eang, ac
yn y dwyrain y tu draw i Fannau Brycheiniog mae mynyddoedd o'r un enw,
Mynydd Du, ar y ffin â Lloegr.
Yn y parc mae nifer o lwybrau cerdded a lonydd beicio. Mae arwynebedd
o 1344 km² ganddo. Gwelir sawl rhaeadr yn y parc, gan gynnwys Sgŵd
Henrhyd sydd 27 medr o uchder. Yn ardal Ystradfellte, ceir sawl ogof
nodedig, megis Ogof Ffynnon Ddu. Gwelir merlod mynydd Cymreig yn pori
yn y parc.
Mae Wicipedia i'w gael mewn mwy na 250 iaith. Y mwyaf ohonynt, yn
nhrefn yr wyddor, yw:
Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded Creative
Commons Attribution/Share-Alike; gall fod telerau ychwanegol yn
perthyn i'r testun. Gweler Telerau Defnyddio'r Drwydded am fanylion
pellach.
